* A Distributed Proofreaders Canada eBook *
This eBook is made available at no cost and with very few restrictions. These restrictions apply only if (1) you make a change in the eBook (other than alteration for different display devices), or (2) you are making commercial use of the eBook. If either of these conditions applies, please contact a https://www.fadedpage.com administrator before proceeding. Thousands more FREE eBooks are available at https://www.fadedpage.com.
This work is in the Canadian public domain, but may be under copyright in some countries. If you live outside Canada, check your country's copyright laws. IF THE BOOK IS UNDER COPYRIGHT IN YOUR COUNTRY, DO NOT DOWNLOAD OR REDISTRIBUTE THIS FILE.
Title: Ceiriog, Detholiad o’i Weithiau
Date of first publication: 1932
Author: John Ceiriog Hughes (1832-1887)
Contributor: Thomas Gwynne Jones (1871-1949)
Date first posted: November 28, 2025
Date last updated: November 28, 2025
Faded Page eBook #20251143
This eBook was produced by: Mardi Desjardins & the online Distributed Proofreaders Canada team at https://www.pgdpcanada.net
CEIRIOG
Detholiad o’i Weithiau
DAN OLYGIAD
T. GWYNN JONES
WRECSAM
HUGHES A’I FAB, CYHOEDDWYR
1932
ARGRAFFWYD YNG NGHYMRU
Ganed Ceiriog yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, yn 1833. Yn ei unfed flwydd ar bymtheg, aeth i Groesoswallt, yn brentis o argraffydd. Ym mhen y flwyddyn, cafodd le ym Manchester, fel clerc gyda chwmni Ffordd Haearn. Yn 1865, sef pan oedd yn dair ar ddeg ar hugain oed, penodwyd ef yn feistr gorsaf y ffordd haearn yn Llanidloes. Ymhen chwe blynedd, symudwyd ef i Gaersws, fel meistr gorsaf yno. Yng Nghaersws y bu farw, yn 1887, yn bedair blwydd ar ddeg a deugain oed. Claddwyd ef ym Mynwent Llanwnog, gerllaw Caersws. Y mae maen prydferth ar ei fedd yno, ac ychydig flynyddoedd yn ôl gosododd Cymdeithas Hynafiaethol Sir Drefaldwyn garreg ar fur y tŷ lle’r oedd yn byw yng Nghaersws er cof amdano.
Yr oedd traddodiad llenyddol cryf yn yr ardal lle ganed ef. Nid oedd ei gartref, Pen y Bryn, ymhell oddiwrth Bont y Meibion, cartref Huw Morys. Dylanwadodd y traddodiad hwnnw arno yn gynnar. Er iddo fynd i Loegr yn ieuanc, a threulio yno ddwy flynedd ar bymtheg; er bod ôl dylanwad llwyfan canu Lloegr yn y cyfnod hwnnw arno, ac er iddo sgrifennu cryn dipyn o brydyddiaeth yn Saesneg, yn Gymraeg y gwnaeth ei waith goreu o ddigon. Enillodd amryw wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yr oedd yn ŵr amlwg ym mywyd llenyddol Cymru ganol y ganrif ddiweddaf. Cyfansoddodd lawer,—gormod, y mae’n ddiau, canys y mae ôl diofalwch hyd yn oed ar ei bethau goreu. Buasai’n wyrth o beth pe buasai ei waith yn gwbl rydd oddiwrth ddiffygion ei gyfnod; ac wrth sôn am hynny, nid meddwl yr ydys fod ein cyfnod ni yn berffaith, canys fe ddaw eto gyfnod a fydd yn sôn am wendidau’n cyfnod ninnau yr un ffunud. Ond, a barnu wrth y safonau a dderbynnir yn gyffredin mewn beirniadaeth, a hynny nid mewn un oes neu gyfnod yn unig, gwendidau mwyaf cyfnod Ceiriog yng Nghymru oedd iaith aflerw a gwallus, ymfflamychu ofer, diffyg cynildeb rhesymol, a phrinder deunydd a rhyw afael ynddo. Ond yn y pethau hyn, saif Ceiriog gryn lawer ar y blaen i’w gyd lenorion Cymreig. Y mae ei iaith yn llawer symlach a mwy naturiol, eto, diofal yw hithau. Pan ganlynai ei reddf, ac iaith ei fam, yn lle “arddull” y beirdd, byddai’n iawn. Ond nid bob amser y canlynai ei reddf. Er mwyn acen, odl, neu gynghanedd, dilynai fympwyon ieithyddol y llenorion yn y pethau a wnâi iaith lenyddol ei gyfnod yn annaturiol a rhodreslyd. Felly, yn aml, ceir y dull naturiol a chywir a’r dull annaturiol ac anghywir ganddo yn y llinellau nesaf i’w gilydd. Wele enghraifft o’r diofalwch hwn, yn andwyo pennill bach prydferth:
Y blodau gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gwywo ’r oedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a’i gwylient.
Hyd yn oed pe bai’n iawn dodi’r ferf yn y rhif lluosog ar ôl y rhagenw perthynol yn y llinell gyntaf, gwelir mai unigol a ddylai fod yn y bedwaredd, wrth bob rheol. Y mae Ceiriog, yn ei bethau goreu, yn llawer cynilach na’i gyfoeswyr. Y mae ganddo ddeunydd newydd, ac ni thybiai fod difyrrwch iach yn beth pechadurus (gweler ei amddiffyniad i’r delyn, yn y llyfr hwn). Ymfflamychai yntau ar dro, er hynny; ysgubid ef oddiar ei draed weithiau gan rai o grïau gwleidyddol ei oes; gallai fod mor anghynnil ac ymfflamychus a neb pan ymrôi ati i fod un ai yn ddigrif neu ddifrif. Gwelir hyn ym “Mhastai Fawr Llangollen” a rhai o bethau “Meurig Grynswth.” Eto, rhaid cyfaddef bod llawer o ryw fath ar feirniadaeth yn y pethau hynny hefyd. Ar y llaw arall, pan amcanai fod yn ddifrif, tueddai at bentyrru gormod ar bethau. Am ei ganeuon, patrymau’r concert stage Seisnig oedd ganddo, ac er ei fod, ar ei oreu, yn well na’i batrymau, nid yw llithrigrwydd llawer o’i benillion yn ddigon o iawn am eu teneurwydd. Y mae’n wir fod llawer o’i syniadau yn “Y Bardd a’r Cerddor,” ynghylch cyfansoddi caneuon canadwy, yn rhai da a chraff ddigon, ac yn dangos ei fod yn deall y grefft. Sonia (mewn brawddeg na luniwyd erioed ei hagrach) am “beidio cramio gormod o ddrychfeddyliau i’r llinellau.” Y mae’r egwyddor, efallai, yn iawn, ond gellir bod yn rhy deneu hefyd, ac y mae rhai o’i ganeuon ef nad ydynt nemor mwy na’r llinell gyntaf. Cynghorai osgoi seiniau dybryd, a chyngor da yw arno’i hun, ond anghofiai yntau weithiau. Er enghraifft:
Na’th wlad, na’th iaith, na’th Dduw.
Ond nid teg ei feirniadu fel hyn ychwaith, canys diau mai ei syniadau aeddfed, wedi cryn brofiad, sydd yn “Y Bardd a’r Cerddor.” Pe cawsai adolygu ei holl ganeuon ei hun, tua diwedd ei oes, diau y trwsiasai lawer, canys nid dyn heb ysbryd crefft oedd Ceiriog.
At y gyfrol hon ceisiwyd dewis y pethau y mae mwyaf o werth llenyddol arnynt. Fe ŵyr y golygydd yn burion na chytunai pawb a’i ddewisiad ef, ond nid oes i ddyn ond dilyn ei chwaeth ei hun. Cysonwyd yr orgraff a’r gramadeg, gan y gobeithir y bydd y llyfr o wasanaeth i athrawon mewn ysgolion a dosbarthiadau, ond nid ymyrrwyd â geiriau’r bardd. Er enghraifft, gan fod ffurfiau cywir fel “y blodau a dyfai,” yn gystal â rhai anghywir fel “y blodau a dyfent,” i’w cael ganddo ef ei hun, anturiwyd eu cysoni yn ôl gramadeg y Gymraeg fel y mae hi hyd heddyw ar leferydd. Nid yw hynny ond peth y bydd raid i bob golygydd ei wneuthur wrth baratoi llyfrau ysgolion. Ambell waith, lle byddai odl yn dibynnu ar ffurf wallus, gadawyd hi fel yr oedd; ond ni ddigwydd hynny yn fynych, fel na bydd raid i’r athro ofalu yn ddiderfyn na bo darllen llenyddiaeth Gymraeg yn difetha gramadeg Cymraeg.
| TUD. | |||
| Rhagymadrodd | v | ||
| I. | Atgof. | ||
| Ar gefn fy Merlen ddu | 21 | ||
| Breuddwyd y Bardd | 20 | ||
| Bugail yr Hafod | 14 | ||
| Cyfoedion Cofadwy | 25 | ||
| Cywydd Llanidloes | 23 | ||
| Mae John yn mynd i Loeger | 15 | ||
| Mae’r hen deimladau cynnes | 19 | ||
| Mi welaf mewn atgof | 11 | ||
| Ti wyddost beth ddywed fy nghalon | 28 | ||
| Tros y Garreg | 17 | ||
| Y Fynwent yn y Coed | 18 | ||
| Y Garreg Wen | 12 |
| II. | Traddodiad a Gwladgarwch. | ||
| A ddwedaist ti fod Cymru’n dlawd | 71 | ||
| Bedd Llywelyn | 55 | ||
| Cân y Graig Aur | 69 | ||
| Carnfradwyr ein gwlad | 58 | ||
| Dafydd y Garreg Wen | 75 | ||
| Dyffryn Clwyd | 45 | ||
| Erddigan Hun Gwenllian | 53 | ||
| Eryri Wen | 66 | ||
| Gair tros y Delyn | 78 | ||
| Gwlad Wynedd | 68 | ||
| Hen Amseroedd | 32 | ||
| Hen Gwrwg fy Ngwlad | 67 | ||
| Hun Gwenllian | 54 | ||
| I Blas Gogerddan | 51 | ||
| Llanciau Eryri | 70 | ||
| Llongau Madog | 49 | ||
| Llys Enfys Afon | 36 | ||
| Mae’n Gymro Byth | 33 | ||
| Maes Crogen | 47 | ||
| Merch y Llyn | 38 | ||
| Môr o Gân yw Cymru i gyd | 65 | ||
| Ni bu marw un | 34 | ||
| Owain Glyn Dŵr a Syr Lawrence | 56 | ||
| Pa le mae’r hen Gymry? | 50 | ||
| Peidiwch byth â dwedyd hynny | 72 | ||
| Priodferch Nedd | 37 | ||
| Rhwym wrth dy wregys | 46 | ||
| Syr Harri Ddu | 57 | ||
| Telyn Cymru | 76 | ||
| Tros y Garreg | 52 | ||
| Wyres Fach Ned Puw | 48 | ||
| Y Brython | 35 | ||
| Yn Ynys Fôn fe safai Gŵr | 73 |
| III. | Serch. | ||
| Bugeilio’r Gwenith Gwyn | 83 | ||
| Gofidiau Serch | 82 | ||
| Lili lon | 84 | ||
| Myfanwy | 85 | ||
| Syr Owen Tudur a Chatrin o Ffrainc | 86 | ||
| IV. | Natur. | ||
| Codiad yr Ehedydd | 120 | ||
| Codiad yr Haul | 118 | ||
| Goed yr Hydref | 119 | ||
| Nant y Mynydd | 116 | ||
| Rhosyn yr Haf | 117 | ||
| V. | Rhyddid. | ||
| Bardd yn ei Awen | 124 | ||
| Garibaldi a Charcharor Naples | 123 | ||
| Yr Aderyn Caeth | 122 | ||
| VI. | Hynt Bywyd. | ||
| Alun Mabon | 137 | ||
| Ar hyd y nos | 126 | ||
| Meddyliau am y nefoedd | 127 | ||
| O ddydd i ddydd | 128 | ||
| Owain Wyn | 129 | ||
| VII. | Y Tu Draw. | ||
| Blodau’r Bedd | 167 | ||
| Pa le mae fy Nhad | 169 | ||
| Ti nid wyt, fy Chwaer | 168 | ||
| Yr Eneth ddall | 166 | ||
| VIII. | Dihareb a Hwyl. | ||
| Cymanfa Masnach Rydd | 210 | ||
| Hela Sgyfarnog | 174 | ||
| Jac Robyn | 176 | ||
| Lawrence Lowe | 201 | ||
| Mae Robyn yn flin | 175 | ||
| Pan na bo Dŵr bydd Gwynt | 173 | ||
| Pobol Tŷ Nesaf | 181 | ||
| Swyddfa’r Glaw | 178 | ||
| Tom Bowdwr | 195 | ||
| Wrth rodio un prynhawn | 172 | ||
| Y Tŷ ar y Bont | 213 |
CEIRIOG
Tôn: Difyrrwch yr Arglwyddes Owen.
Mi welaf mewn atgof hen ysgol y Llan,
A’r afon dryloew yn ymyl y fan;
O’m blaen mae pob carreg yn rhedeg yn rhes,
A’r coedydd gysgodai fy mhen rhag y gwres.
Ynghanol eu cangau, mae telyn y gwynt,
Yn eilio’r hen alaw a ganwn i gynt;
’Rwy’n teimlo fy nhalcen dan heulwen yr haf,
A’m calon yng Ngwalia ple bynnag yr âf.
’Rwy’n gweled y defaid a’r ŵyn ar y bryn,
’Rwy’n gweled wynebau sy ’ngwaelod y glyn:
’Rwy’n clywed rhaeadrau yn atsain o draw,
A’r mawrwynt yn erlid y cenllysg a’r glaw.
O süed yr awel a rhued y don,
Beroriaeth atgofion yn lleddf ac yn llon,
Boed cwpan dedwyddyd yn wâg neu yn llawn,
Yng Ngwalia mae’r galon ple bynnag yr awn!
Os pell yw telyn aur fy Ngwlad
O’m dwylaw musgrell i;
Os unig wyf o dŷ fy nhad,
Lle gynt y cenid hi:
Mae’r iaith er hynny gyda swyn,
Fel ysbrydoliaeth yn fy nwyn,
I ganu cerdd, os nad yn fwyn
I’r byd—mae’n fwyn i mi.
Mae nant yn rhedeg ar ei hynt
I ardd fy nghartref i,
Lle cododd un o’m teidiau gynt
Ddisgynfa iddi hi.
Mae helyg melyn uwch y fan,
Lle syrthia tros y dibyn ban,
A choed afalau ar y lan,
Yn edrych ar y lli.
O dan ddisgynfa’r dŵr mae llyn,
A throsto bont o bren;
A charreg fawr, fel marmor gwyn,
Gynhalia’r bont uwch ben.
Fy mebyd dreuliais uwch y lli,
Yn eistedd yno arni hi;
A mwy na brenin oeddwn i,
Pan ar fy Ngharreg Wen!
Pan ddeuai’r Gwanwyn têg ei bryd
Ar ôl tymhestlog hin,
Ac adfywhau’r llysieuog fyd
Yn ei gawodydd gwin:
Yn afon fawr âi’r gomant fach;
Pysgotwn ar ei glennydd iach—
A phin blygedig oedd fy mâch
Yn grog wrth edef lîn.
Ni waeth pa ran o’r eang fyd
A grwydrwyf tra bwyf byw,
Wyf wrth y Garreg Wen o hyd,
A’r nant sydd yn fy nghlyw;
A phan hysbyswyf estron ddyn,
Mai ati ’r hedaf yn fy hûn,
Maddeua’r ffoledd am mai un
O gofion mebyd yw.
Os cyrraedd ail fabandod wnâf,
Cyn gollwng arna’r llen,
Os gaeaf einioes byth a gaf,
A’i eira i wynnu ’mhen—
Bydd angau imi’n “frenin braw,”
Nes caffael mynd i Walia draw,
At dŷ fy nhad, i ro’i fy llaw
Ar ben y Garreg Wen.
Colofnau wnaed i feibion bri,
Uchelfawr tua’r nen;
Ond noder fy ninodedd i
Gan garnedd uwch fy mhen:
’Rol gado gwlad y cystudd mawr,
Os byw fy enw hanner awr,
Na alwed neb fi ar y llawr
Ond Bardd y Garreg Wen.
Cainc: Hobed o Hilion.
Pan oeddwn i’n fugail yn Hafod y Rhyd,
A’r defaid yn dyfod i’r gwair a’r iraidd ŷd,
Tan goeden gysgodol mor ddedwydd own i,
Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi:
Gwelaf a welwyf, af fan y mynnwyf
Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion
Yn mwynhau y meysydd a’r dolydd a’r hafddydd ar ei hyd.
Pan oeddwn i gartref fy mhennaf fwynhad
Oedd naddu, a naddu, ar aelwyd glyd fy nhad:
A’m chwaer efo’i hosan, a’m mam efo’r carth,
Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lân y barth;
Dened a ddeno, anian dynn yno,
Hedaf yn fy afiaith ar adenydd hiraeth
I’r hen dŷ, glân gynnes, di rodres, adewais yn fy ngwlad.
Mae’r wennol yn crwydro o’i hannedd ddi-lyth,
Ond dychwel wnâ’r wennol yn ôl i’w hannwyl nyth:
A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt,
Gan gofio’r hen gartref y chwareuem ynddo gynt.
Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd,
Chwerwed ef a chwerwo, melys ydyw cofio
Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.
Mae John yn mynd i Loeger,
A bore fory’r â;
Mae gweddw fam y bachgen
Yn gwybod hynny’n dda:
Wrth bacio’i ddillad gwladaidd,
A’u plygu ar y bwrdd,
Y gist ymddengys iddi,
Fel arch ar fynd i ffwrdd.
Mae ef yn hel ei lyfrau,
I’r gist sydd ar y llawr;
Yn llon gan feddwl gweled
Gwychterau’r trefydd mawr.
Ni wêl e ’r deigryn distaw
Ar rudd y weddw drist:
Na’r Beibil bychan newydd
A roddwyd yn y gist.
Rhoed iddo lawer anrheg
A thegan bychan cain;
Ysgrifell gan ei ewyrth,
A chyllell gan ei nain:
Fe gymer ddarlun bychan,
I gofio ’i chwaer ddi-nam,
Fe gymer inc a phapur
I sgrifennu at ei fam.
Yn fore, fore drannoeth,
Pan gysgai ’r holl rai bach;
Wrth erchwyn y gwelyau
Mae John yn canu’n iach.
Carasai aros gartref,
Ond nid oedd dim i’w wneud—
Fe gawsai aros hefyd,
Pe buasai’n meiddio dweyd.
I gwrdd y trên boreol,
Cyn toriad dydd yr â:—
“Ffarwel, fy mhlentyn annwyl,
O bydd yn fachgen da!
Y Nef a’th amddiffynno,
Fy machgen gwyn a gwiw;
Paid byth anghofio cartref,
Na’th wlad, na’th iaith, na’th Dduw.”
Cainc: Tros y Garreg.
Fe ddaw wythnos yn yr haf,
Gweled hen gyfeillion gaf:
Tros y mynydd
I Feirionnydd
Tros y Garreg acw’r âf.
Ar y mynydd wele hi,
Draw yn pwyntio ataf fi;
Fyny’r bryn o gam i gam,
Gyda’m troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig annwyl fam.
Fe gaf chwarae ar y ddôl,
Fe gaf eistedd ar y stôl,
Wrth y pentan,
Diddan, diddan;
Tros y Garreg, af yn ôl.
Pan ddaw’r wythnos yn yr haf,
O fel y codaf ac yr âf,
Fyny’r bryn o gam i gam,
Gyda’m troed fy nghalon lam;
Af ag anrheg
Tros y Garreg
I fy unig annwyl fam.
Yn araf y cerddasom,
I’r fynwent yn y coed;
Ac yno y claddasom
Chwaer fechan bedair oed:
Gan bedair o’i chyfeillion iach,
Mewn dillad gwynion claer,
Yng ngŵydd ei thad a’i brodyr bach,
I huno rhoed ein chwaer.
Ar waelod bedd y fechan,
Cyn gollwng corff ein chwaer,
Canfyddem arch wen newydd
Fel y daeth o ddwylaw’r saer.
Ein hannwyl fam oedd yno’n fud,
Heb fawr o feddwl am
I’r plentyn olaf yn y crud
Ddod gyntaf at ei fam.
Pan gaffom ninnau’n gollwng,
Mae gennym weddi daer:
O boed ein llwch yn deilwng
O lwch ein mam a’n chwaer.
Fe awn yn fynych dros y cae
I’r fynwent yn y coed;
Y fan mae mam, a’r fan y mae
Chwaer fechan bedair oed.
Mae’r hen deimladau cynnes
Fu rhyngom ni ein dau,
Flynyddoedd maith yn ôl, fy ffrynd,
Yn gynnes yn parhau;
Mae gaeaf einioes wedi dod,
Ar ôl hir wanwyn braf;
Ond drwy y glaw, y rhew, a’r ôd,
Daw eto heulwen haf:
A’th enw di, fy nghyfaill,
Yn gynnes yma gaf.
Mae’r nerth a’r llais yn darfod,
Mae’n ofid na pharhaent;
Ond am ein hen deimladau gynt,
Yn glynu yma maent.
O’r plant a wenai arnom gynt,
Wynepryd un nid oes;
Mae sêr yr hwyr yn frith uwchben,
Ac ambell gwmwl croes:
Eto mae y seren fore
I’w gweld yn hwyrddydd oes.
Mae’r hen deimladau cynnes
Fu rhyngom ni ein dau,
Flynyddoedd maith yn ôl, fy ffrynd,
Yn gynnes yn parhau:
Er bod y war yn gŵyro’n gam,
A’r cam yn awr yn fyr,
Mae’r corff yn dweyd wrth dorri ’lawr,
Am Gariad byth na thyr.
Chwef. 17eg, 1877.
Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a’i wallt fel y gwlân;
A’i feddwl ehedodd i’r amser
Y gwelid ei blant wrth y tân.
Ei amrant a gaeodd, ac yna breuddwydiodd
Yn weddw ac unig heb neb i’w wahardd—
Yng ngwynfyd ei galon, breuddwydiodd y bardd.
Fe’i gwelodd ei hun yn priodi
Genethig anwylaf y wlad:
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu’n ei alw fe’n “dad!”
Ni welodd ef gladdu, ei briod a’i deulu,
Na deilen wywedig yn disgyn i’r ardd—
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd!
Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen, fe’i teimlodd ei hun:
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn;
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau’r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd!
Er na bu un llinell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed,
Fe wêl ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed;
A bechgyn yn darllen cynhyrchion ei awen,
Fe wêl anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd!
Cainc: Trot y Gaseg.
Rhaid imi basio heno,
Tŷ geneth lana’r fro:
Dymunwn alw yno
Ond ni wnâ hynny’r tro.
Tyrd ti fy merlen hoew,
I fyny’r dyffryn acw,
Da gwyddost am y tŷ
Y trig fy ngeneth gu—
Dynesu mae yr afon,
Cynesu mae fy nghalon,
Wrth basio’r Dolydd Gleision,
Ar gefn fy merlen ddu.
Mae miwsig hen alawon,
Yn sŵn dy bedwar troed;
’Rwy’n croesi tros yr afon
Mi welaf lwyn o goed;
A’r afon ar y graean,
Yn hwian iddi’i hunan,
Mae seren Gwener gu
Yn crynu uwch y tŷ,
A’m calon wirion innau
Yn crynu am y goreu,
Wrth fynd ar loergan oleu
Ar gefn fy merlen ddu.
Yn y coedwigoedd agos,
Fy merlen loewddu lefn,
Y clywais lais yr ëos
Wrth deithio ar dy gefn;
Pan oeddit ti yn trotian,
Yr oeddwn innau’n dotian,
Wrth wrando’r ëos gu
Ac edrych ar y tŷ;
Pan dderfydd y gostegion,
Bydd Merch y Dolydd Glesion,
Mewn cannaid ddillad gwynion,
Ar gefn fy merlen ddu.
Heno, fy ngheraint annwyl,
Dyma wynt i godi’m hwyl:
Hwyl yr Awen hen yw hi,
Rhowch haeddol fawr barch iddi.
Diolch! ’rwyf wedi dwad
I iawn le yn yr hen wlad:
Gweddus ar Geiriog weiddi,
O Walia fwyn wele fi!
O! fy mro hardd am ryw hyd,
Wele fi’n ôl, f’ anwylyd!
Yn dy wyneb—Rhad annwyl,
Ar fy mharch, ’rwyf fi o’m hwyl!
Ryw sŵn swrth, ryw eisin sil
Yw’th ganu mewn iaith gynnil.
Y mae byw gerdd ymhob gwig
O! goedydd bendigedig.
O’r sêr nos a’r asur nen,
Ac o’r rhaeadr ceir awen:
O’r gwyllt dew goed a’r geillt gant,
Ac o’r mynydd, ceir mwyniant:
O gwr y weun ac o’r wîg,
Ac o’r meysydd ceir miwsig:
Yn ein hoes, byw’n hoew, yn hir
Allan o’r Wlad ni ellir:
Hi bâr fyth ym mhob ryw fan,
I dwnnu duwdod anian.
Llanidloes, lle i anadlu,
Awyr a gwynt Cymru gu;
Dyma fan i Fyfanwy,
Fy mun fy hun, gael byw’n hwy:
Ac i iechyd wrid gochi
Garuaidd haul ei grudd hi.
Dyma le i godi ’mhlant,
I Arthur fach gael nerthiant,
I Tom Tudor ragori
Ar ei frawd, yn gawr o fri:
Mynnaf ystafell bellach,
A dinod fyd i Enid fach,
Eu chwaer wen gael chwarae’n gu,
Telyn fechan y teulu.
Gyda’u tad yn serchiadol,
Fy mhlant a ddeuant i’r ddôl:
A rhedeg wnaf a rhodiaw
A mab llon, un ym mhob llaw,
Yn gwichian ym mrig iechyd,
Yn bell o simneiau’r byd.
Hyfryd ydyw mîn Hafren,
I roi tro ’rol gyrru’r trên:
A dilyn hyd y dolydd,
Efo ’nhrwyn a’r afon rydd—
Rhoi llafn o bren ar y llif,
Ei gynllwyn i’r gwyn genllif;
A’i weled yn dod eilwaith,
Ar y dwfr i nofio’r daith—
Fel bardd yng ngafael y byd
A buan donnau bywyd.
Yna mi af fy hunan,
I gwr y coed i greu cân:
A deryn a’r dderyn ddaw,—
Awen i gynorthwyaw.
Fy hen dir, O! fwyned wyt.
Rhyw Eden fore ydwyt:
Annwyl dud, i’th ganol di
Ail anwyd fi eleni!
Breuddwydiodd y prydydd ei fod wrth y tân,
A chydag ef chwech o rai eraill;
Sef Iorwerth Glan Aled, a’i wyneb hardd glân,
A Rhydderch o Fôn, ei bur gyfaill.
A galwyd am delyn i lonni y cwrdd,
A ’baco a diod—na wader:
’Roedd Creu a Glasynys a Thal wrth y bwrdd,
Ac R. Ddu o Wynedd mewn cader.
Adroddodd Talhaiarn ei “Gywydd i’r Haul”
Ac englyn i’r “Lloer”—y gwyrdd gosyn:
Ac Iorwerth Glan Aled a gododd yn ail,
I adrodd penillion “Y Rhosyn.”
Adroddwyd ystraeon, siaradwyd mewn trefn,
A chanwyd penillion am y goreu;
A nofiwyd yn nhonau’r hen Gymry drachefn,
Rhwng hanner ac un yn y boreu.
Ar gyfer tŷ’r prydydd ’roedd brenin yn byw,
A chanddo ferch fechan brydweddol:
Prinses Clod oedd ei henw, a dwedid fod rhyw
Ysbryd drwrg yn y palas brenhinol.
Pan glywodd y brenin fod beirddion y fro
Mor agos, medd ef, “nid anaddas,
F’ai danfon am danynt bob un yn ei dro
I weld beth sy’n blino fy mhalas.”
Ac fel ’roedd y beirddion yn nen eu hwyl fawr,
Cnoc bach ar y drws a glybuant,
Medd y prydydd gan edrych o’i ffenestr i lawr,
“Mae ysbryd rhyw ferch ar y palmant,
Mae ei gwisg fel yr amdo a’i hwyneb yn gudd,
Ac ni all dyn marwol ei gweled:
O nage! nid ysbryd, ond Prinses Clod sydd
Yn holi am Iorwerth Glan Aled.”
Ac Iorwerth mewn syndod, petrusder a braw,
Ufuddhaodd i’r llances foneddig;
Aeth gyda hi ymaith a ffon yn ei law,
Trwy y glyn tua’r palas mawreddig.
Pigasom i fyny ben edau’r ymgom,
Y munud o’r blaen a gollasom;
Ac er bod y noswaith hwyr ac yn drom
Y bibell trachefn gyneuasom.
Ac eilwaith ni glywem gnoc bach ar y drws,
Gofynnais yn hy pwy oedd yno;
Ac eilwaith beth welem ond wyneb gwyn clws
Yn pelydru trwy’r gorchudd oedd arno;
“Y Brenin a’m gyrrodd,” medd llais peraidd mwyn,
“Am R. Ddu o Wynedd a Rhydderch:”
A Risiart a Rhydderch trwy’r glyn a thrwy’r llwyn,
Dilynasant odreon y wenferch.
’Roedd amryw boteli o win ar y bwrdd,
A chododd Talhaiarn gan ddywedyd,
“Agorwn un arall, awn wedyn i ffwrdd
Rhag ofn i ni ofer-gymeryd.”
Daeth cnoc am Greuddynfab, ac yntau, fel bardd,
Ufuddhaodd i’r alwad oedd arno:
Medd Tal—” Deuaf innau, ’does neb a’m gwahardd,
Dilynaf y llances lle’r elo.”
’Doedd neb ond Glasynys yn awr yn y cwrdd,
A theimlem yn brudd mewn unigedd;
Ond toc, daeth cnoc arall, ac oddiwrth y bwrdd,
E alwyd Glasynys o’r diwedd!
A gwelwn ferch arall, sef y Wawrddydd, yn dod,
Deffroais a gwelais yn union
Mai Merch Brenin Angau, ac nid Prinses Clod
Oedd wedi mynd gyda’m cyfeillion!
|
Er cof am ei gyfeillion. Cwtogiadau: “Creu”=Creuddynfab;
“Tal”=Talhaiarn; “R.”=Rhisiart. Cynnil iawn yw’r cyfeiriad
at fynediad Talhaiarn druan, a fu farw trwy ei law ei hun. |
Yn araf i safle’r gerbydres gerllaw
Y rhodiai fy mam gyda’i phlentyn;
I waelod ei chalon disgynnodd y braw
Pan welodd y fan ’r oedd raid cychwyn;
Ymwelwodd ei gwefus, ei llygaid drôi’n syn,
Rhy floesg oedd i roddi cynghorion;
Fe’i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Canfyddai llygad mewn dagrau’n pruddhau—
Gwir ddelw o’i llygad ei hunan—
Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau,
Er nad fy nhristâu oedd ei hamcan;
Ond er bod cyfyngder yr ennyd yn gwneud
Atalfa ar ffrwd o gysuron,
Mudanrwydd rodd gennad i’w hanadl ddyweyd—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf,
Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth;
Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf,
Y nesaf drôi oll yn ddieffaith;
Do, clywais hyawdledd—er teimlo ei rym,
Mewn effaith ni lŷn ei rybuddion,
Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr
Yn chwarae â chreigiau peryglon;
O’m hamgylch mae dynion a wawdia Dduw Iôr,
Wyf innau ddyferyn o’r eigion;
Fy nghamau prysurant i ddinistr y ffôl,
Ond tra ar y dibyn echryslon,
Atelir fi yno gan lais o fy ôl—
“Ti wyddost beth ddywed fy nghalon.”
Meddyliau am yr amser gynt
Byth, byth ni hedant heibio;
Dod atom wnânt o’r pedwar gwynt,
I gadw dyn yn effro;
Ni all mân blant oddeutu’r tân,
Pleserau na blinderoedd,
Droi calon Cymro ar wahân
Oddiwrth yr Hen Amseroedd.
Frodyr, geraint, a chefnderoedd.
Paham na chawn
Gyfarfod iawn,
Er mwyn yr Hen Amseroedd?
’Does neb all garu glandeg ferch
Fel Cymro, oni orfydd
I’w feddwl gwrdd ar faes ei serch
Myfanwy gynt neu Forfudd;
Wrth wrando’r delyn yn yr hwyr,
A chanu hyd yr oesoedd,
Mae calon Cymro—Duw a’i gŵyr,
Ynghanol Hen Amseroedd.
Frodyr, geraint, a chefnderoedd,
Paham na chawn
Gyfarfod iawn
Er mwyn yr Hen Amseroedd?
Tôn: O gylch y Ford Gron.
Mae’n Gymro byth pwy bynnag yw,
A gâr ei wlad ddi-nam:
Ac ni fu hwnnw’n Gymro ’rioed,
A wado fro ei fam.
Aed un i’r gad a’r llall i’r môr,
A’r llall i dorri mawn;
A chario Cymru ar ei gefn
A wnâ y Cymro iawn.
Cytgan— ’Does neb yn caru Cymru’n llai,
Er iddo grwydro’n ffôl;
Mae calon Cymro fel y trai
Yn siwr o ddod yn ôl.
Er mynd ymhell o Walia Wen,
A byw o honi’n hir,
Ac er i’r gwallt claerdduaf droi
Yn wyn mewn estron dir,
Mae’r cof am dad a mam yn mynd
I’r bwthyn yn y ddôl,
A chlychau mebyd yn y glust
Yn galw, galw’n ôl.
’Does neb yn caru, etc.
Dewch, Fugeiliaid, o’ch corlannau,
Dewch, ysbrydion, o’ch cwsgfannau,
Er y bedd a llwch y Llannau,
Ni bu marw un.
Wylwn, cofiwn am dalentau
Sydd yn glasu ein mynwentau,
Ond cyhoeddwn hyn o ben tai,
Ni bu marw un.
Dynion di-gadwyni
Leinw dderwydd-lwyni,
Mae gan y Delyn fil o blant
Ymunant er ei mwyn hi:
Er bod gennym faen-gofebau,
Er bod gennym alarebau,
Yn ein plith mae’r hen wynebau—
Ni bu marw un.
Nac oes, nid oes arnynt feini,
Ond mae angel ifanc heini
Arnynt yn tragwyddol weini—
Ni bu marw un.
Er bod ar y tiroedd eisiau
Gwyrdd goroni eu harleisiau,
Yn y môr mae sŵn eu lleisiau—
Ni bu marw un.
Mae anian fel yn mynnu
Tanodd ein hatynnu;
Marw un wrth droed y Groes
Nid oes fath beth a hynny.
Torrwch dannau’r telynorion,
Rhoddwch wyliau i’r cerddorion,
Fel tragwyddol egwyddorion,
Ni bydd marw un.
Tristau mae ’mrawd o Lydaw gu,
Pan gofio Ynys Brydain fâd,
Pan lwyddodd y Rhufeinig lu
I’w yrru ef o’i wlad;
Ei long oedd wan, a’r storm oedd fawr,
Ond daliodd wrth ei lyw yn dynn,
A llawer Brython aeth i lawr
I’r eigion berw wyn.
“Pa le yr af, nis gwn,” medd ef,
“Mae’r fro sydd draw yn hyfryd fan;
Mae uwch ei phen las ffordd y nef,
A gwinwydd ar y lan.”—
I arfor Llydaw gyda’r gwynt
Anelodd yno ’i long yn syth;
Yn Frython aeth o Brydain gynt,
A Brython ydyw byth.
Mi fum hyd lan yr afon,
Ar fore tawel teg;
I’r annedd gododd Gwydion,
Lle dawns y Tylwyth Teg,
Mi glywais lais y dylif,
Yn crynu bro a bryn:
A gwelais ganlliw genllif,
Yn llamu tros y Llyn.
Diflanned pob gobeithion,
Am Annibyniaeth mwy:
Diflanned holl ddychmygion,
Y beirdd a’u hanes hwy,—
Mae yma ddrych drwy’r oesau,
I weled awen wiw:
A’i myrddiwn meddylrithau
Yn lliwiau’r bwa’n byw.
Diflanned dail a blodau
O haf i haf o hyd:
Diflanned holl fwynderau
A mwynion bethau’r byd,—
Er bore’r greadigaeth,
Pan ganodd sêr y ne:
Fe saif yr Enfys afon
Yn llawen yn ei lle.
Lle clywir Aber Ogwen,
Yn süo cân o serch:
Lle neidia dwfr Llyn Idwal
I freichiau’i briod ferch:
Ym mysg y gleisiaid clysion,
A’r graean gwynlan gwiw,
A tharth Llys Enfys afon,
Myn awen beirdd gael byw.
|
Seiliwyd y gerdd hon ar draddodiad am Gwydion ap Dôn, a thybiai Ceiriog mai at “Lyn yr Enfys” yn Nant Ffrancon, y cyfeirir mewn darn o brydyddiaeth a briodolir i Daliesin. Efallai mai ê, ond “Llys Efnys” sydd yn y gerdd yn Llyfr Taliesin. Pa wedd bynnag, awgrymodd y peth ffansi brydferth i’r bardd. |
“Cytgan y Morwynion.”
Gwanwyn yn ei ddail a’i gwrlid
Ddaw o’r maes i fyny’r mur,
Hithau’r deg briodferch gyfyd
Fel blodeuyn perffaith pur;
Wêl hi ddim ond glas y cwmwl,
Lle mae’r gwynt yn caru’r glaw,
Wyr hi ddim ond am y nefoedd
Sydd yng ngharu gwasgu llaw.
Beth yw serch ond haul na ddiffydd,
Byth yn glaear nac yn oer;
Beth ym ni ond dy forwynion,
Fel y sêr o gylch y lloer?
Euraid felyn yw y blodau
Sy’n coroni’r wiwlon wedd,
Doed bendithion yn gawodau
Ar dy ben, Briodferch Nedd.
Bugeiliaid.—Cytgan.
Dim ond Bugeiliaid ydym ni,
Ond mae ein praidd ar gynnydd,
Bydded i eraill freiniol fri,
Ond bydded i ni y mynydd;
A min yr hwyr, mewn awyr iach,
Llyn y Fan Fawr a Llyn y Fan Fach.
Mab y Bryn.—Solo.
Dacw fan y decaf eneth,
Llys ei thad sydd dan y don;
Dere, dere, o’r dyfnderau,
Y ddua’i gwallt a’r wynna’i bron.
Bugeiliaid.—Cytgan neu Bedwar.
Caned dy galon faint a fyn,
Byth ni weli Ferch y Llyn.
Mab y Bryn.—Solo.
Gwelaf hi, gwelaf hi! gwelaf hi draw;
Gwelaf ei llun, gwelaf ei llaw
O’r dwfr yn dod—hi ddaw, hi ddaw!
Bugeiliaid.—Cytgan.
Hi nawf ar flodau’r lili wen,
Ac aur a pherlau ar ei phen.
Merch y Llyn.—Solo.
Pam y gelwi fi i’r lan?
Dos ar ôl dy ddefaid;
Nid yn nyfnder Llyn y Fan
Y mae dy anifeiliaid.
[Gan symud yn ôl.]
Ha, ha! Ha, ha! ceisiaist yn dda
Ti, ŵr glân, ni chara;
Ti a fethaist, Ha, ha! Ha, ha!
Crâs, crâs dy fara.
[Â dan y dwfr.]
Bugeiliaid.—Cytgan neu Bedwar.
Hi ddaeth i fyny fel y wawr,
Aeth fel machludiad haul i lawr;
Ond ti, na thor dy galon:
Ar ôl y ferch, i’r dyfnder erch,
Bwrw dy holl ofalon.
Mab y Bryn.
Mae’r holl gydfugeiliaid yn awr wedi ffoi,
A minnau mewn cariad yn ôl wedi troi;
A rhodio wnâf o gylch y Llyn,
Gan geisio Merch y Dyfroedd hyn:
Dere, dere, o’r dyfnderau,
Lanaf, luniol, fywiol fûn, dere, etc.,
Cymer law a chalon dyn.
Merch y Llyn.—Solo.
Mae’n rhaid imi fyw yn y dyfroedd hyn,
A bod yn Ferch y Llyn tra bydda’i;
Oni ddywedaist, yn dy olaf gân,
Fod “Merched glân ym Myddfai?”
[Gan symud yn ôl.]
Ceisiaist yn dda, Ha, ha! Ha, ha!
Ti, ŵr glân, ni chara;
Methaist eto, Ha, ha! Ha, ha!
Llaith, llaith dy fara.
[Â dan y dwfr.]
Mam Mab y Bryn.—Solo.
Fy mab, fy mab, os wyt fel hyn
Yn ceisio calon dynes;
Os wyt am ddeall Merch y Llyn,
Y crâs yw serch rhy gynnes:
Nid da yw “rhy” o’r hyn sy ffaith,
Na gormod o eiriau mwynion;
A serch rhy oer yw bara llaith—
Dyna yw iaith morwynion:
Tipyn yn oer, a thipyn yn boeth
Yw’r cariad dwfn a’r cariad doeth.
Bugeiliaid.—Cytgan.
Tipyn yn oer, a thipyn yn boeth, etc.
Tad Merch y Llyn (a’i ddwy ferch).—Solo.
Ai ti yw’r llencyn glân ei bryd
O hyd sy’n blino min fy Llyn—
Sy’n rhodio beunydd yn y brwyn,
Gan geisio dwyn fy mhlentyn gwyn?
Mae gennyf ddwy mor bur a’r don
(Y gŵr da ’i fryd, maent ger dy fron);
A dyma nhw, dwed imi ’n awr,
Ohonynt hwy pa un o’r ddwy
A geraist ti mor fawr?
Mab y Bryn.—Solo neu Adrodd-gân.
Myfi, myfi yw Mab y Bryn—
Ac nid oes arnaf gwilydd;
Sut y dewisaf rhwng y ddwy,
A hwythau fel ei gilydd?
Ond pe bai dim ond un
Ar ben ei hun a minnau,
A chwithau dan hen Lyn y Fan,
Cai pwysau ’r byd a phwysau ’r nef.
Orffwyso ar fy ngliniau.
Tad Merch y Llyn.—Solo.
Os na ddywedi prun yw prun,
Caiff cleddyf drwot dreiddio;
Ond os dywedi prun yw hi,
Ti gei fy ngeneth annwyl i,
A hanner fy holl eiddo.
Mab y Bryn.—Solo.
Gwrid dy rudd! y ferch a garaf,
Beth yw cleddyf i’w debygu
Gyda serch yn llosgi ’n araf,
Gyda chariad yn fy mygu!
[Wedi symudiad y blaen troed.]
Hon, hon yw hi! Hon, hon yw hi!—
Fy nghariad hyd farwolaeth;
A chwi—a chwi fy newydd chwaer;
A chwithau—’nhad ynghyfraith.
Y BRIODAS.
(Cytgan.—Pawb ar y llwyfan yn wynebu ar ei gilydd, a’u dwylaw ar draws eu bronnau.)
Tynghedwn di, Fab y Bryn—
Dwylaw’n groes, dwylaw’n groes;
Tynghedwn di, Ferch y Llyn,
Mewn Rhin a Moes,
Ar hyd eich hoes
I gadw’r cwlwm hwn yn dynn,—
Dwylaw’n groes.
Derwydd.—Solo.
A wnewch chwi, dad a mam y ddau,
Mewn rhwymyn cariad ganiatau,
I’r undeb hwn mewn hedd barhau?
Bugeiliaid (Dwylaw’n groes, etc.).
Mae mil o ddefaid ar y Llyn,
A meirch a gwartheg, geifr a myn,
Pob un yn cychwyn tua’r Bryn,
Yn swyn y toes.
Ond gochel angharedig iaith,
Os ti a’i trewi ond tair gwaith,
Gwnâ hi â’i heiddo fel y myn—
Hwy ant i’r hwn a’u rhoes—
Ar eu pennau’n ôl i’r Llyn;
Dwylaw’n groes.
Plant y Bryn.—Pedwar.
Yn Chwedel Merch y Llyn
Yn awr rhown naid o ugain mlynedd:
Nyni ydyw Plant y Bryn,
Mewn trallod ac anhunedd.
Ein mam a drawwyd gan ein tad,
Dair gwaith, dair gwaith, dair gwaith!
Mae pob creadur ar ein ’stad
Yn dianc tua ’i gartref llaith:
Y wenfrech, y donfrech, a’r hen darw gwyn,
A naw can anifail oll ar eu trafael;
A ni sydd yn canu, gan geisio’ch diddanu,
Rhaid i ni droi adref i waelod y Llyn!
Ffarwel, ffarwel: yn iach, yn iach—
Cawn heno swpera yn Llyn y Fan Fach.
Merch y Llyn (yn annerch ei gŵr).—Solo.
Fy ngŵr! ffarwel, ffarwel!
Dim mwy o’r awyr las, dim mwy o’r wybren glir,
O rûg y Bryn mewn blodau, o wyrddlas donlas dir;
Ffarwel i bopeth annwyl a gerais yma ’n hir.
Deddf fawr Tynghedfen ydyw
Dim mwy ond palas oer,
Lle mae’r haul, trwy frwyn a hesg,
A dyfnder mawr, yn twnnu ’n llesg,
Yn farw fel y lloer.
Rhaid imi adael daear; fy ngŵr, yn iach, yn iach!
O Dduw! ni allaf droi mewn hedd
O’r wlad mae bedd fy mhlentyn bach.
Plant y Bryn.—Solo a Chytgan.
Solo.— Mae’r nef yn llawn o ddagrau mân,
Cyn colli ’nhad, paham
Na ellid ei fendithio
 chusan maddeuant, mam?
Cytgan.— Maddeuwn oll i’n gilydd oll,
Gwna hynny’r chwerw ’n felys,
Gwna hynny’r du yn wyn;
Maddeuwn oll i’n gilydd oll,
Daw eto haul ar fryn.
Solo.— Mi welaf yn eich llygad, mam,
Ddyferyn byw o wlith—
Fendithiol wlith y nefoedd,
Disgynned yn awr i’n plith.
Cytgan.— Maddeuwn oll, etc.
Bugeiliaid a’r cwbl.—Cytgan yr Ail Briodas.
Dwylaw 'n groes, dwylaw 'n groes!
Yn eu holau hyd y dolau, ’r anifeiliaid eto trônt,
A’r cymylau i’r mynyddau, ffônt! ffônt! ffônt!
Hwy gymodwyd, hwy gymodwyd,
Yn niwedd oes;
Ail briodwyd, ail briodwyd—
Dwylaw’n groes!
|
Seiliwyd y gerdd hon ar hen draddodiad am Lyn y Fan Fach. Ceir traddodiad cyffelyb mewn rhannau eraill o Gymru, a thybir fod y cyfeiriad at daro â haearn yn mynd a'r chwedl yn ôl i gyfnod yr ymdrech rhwng yr arfau cerrig a'r arfau metel. |
Yn Nyffryn Clwyd nid oes,
Dim ond darn bach o’r Groes,
Oedd gynt yn golofn ar ei fedd;
Y bugail gân i’w braidd,
Ag Einion Ririd Vlaidd,
Yn gorffwys dan ei droed, gan afael yn ei gledd
Ond cedwir ei goffhad,
Er mewn pridd, mewn parhad;
Glân yw ei gleddyf fel erioed.
Os caru cofio’r wyd
Am ddolydd Dyffryn Clwyd,
O! cofia gofio’r dewr sydd yno dan dy droed.
Mewn Angof ni chânt fod,
Wŷr y cledd, hir eu clod,
Tra’r awel tros eu beddau chwŷth:
Y mae yng Nghymru fyrdd
O feddau ar y ffyrdd,
Yn balmant hyd yr hwn y rhodia Rhyddid byth!
|
Achoswyd y gân hon gan hanes fod rhyw ffermwr wedi gwneuthur post llidiart o faen coffa rhyw hen ryfelwr enwog gynt. |
Rhwym wrth dy wregys gleddyf gwyn dy dad;
Atynt, fy machgen! tros dy wlad!
Mŵg y pentrefydd gyfyd gyda’r gwynt,
Draw dy gymrodyr ânt yn gynt.
Sych dy ddagrau, ar dy gyfrwy naid,
Gwrando’r saethau’n suo fel seirff di-baid;
Wrth dy fwa hyn wnâ’r fraich yn gref,
Cofia am dy dad, fel bu farw ef!
Marchog i’w canol! dangos dy arf-bais,
Cyfod gochfaner, dychryn Sais!
Chwŷth yr hen utgorn a ferwina’i glust,
Byw o’i enciliad bydd yn dyst.
Sŵn gorfoledd, clyw yr ennyd hon,
Bloeddir “Buddugoliaeth” tros Foel-y-don;
Bendith arnat, dos yn enw’r Nef!
Cofia am dy dad, fel bu farw ef!
Cainc: Y Fwyalchen.
Y frwydyr aeth trosodd o’r diwedd,
A baeddwyd y gelyn yn llwyr:
A’r sêr, edrychasant ar Wynedd,
A’r bore, dilynodd yr hwyr.
’Roedd yno ieuenctid yn gorwedd,
Am sefyll tros Wynedd yn bur—
Yn fore daeth mamau a gwragedd,
I chwilio am feibion a gwŷr.
Fe ganai mwyalchen er hynny,
Mewn derwen ar lannerch y gâd:
A’r coedydd a’r gwrychoedd yn lledu,
Eu breichiau tros filwyr ein gwlad,
Gorweddai gŵr ieuanc yn welw,
Fe drengodd bachgennyn gerllaw:
A’i dad wrth ei ochor yn farw,
A’i gleddyf yn fyw yn ei law!
Gan frodyr, chwiorydd, a mamau,
Fe gasglwyd y meirwon ynghŷd:
Agorwyd y ffos ac fe’i caewyd,
Ond canai ’r Fwyalchen o hyd.
Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw,
Gwyn fyd yr aderyn nas gŵyr
Am alar y byw am y meirw,
Y bore ddilynodd yr hwyr!
|
Dywedir fod hen Gastell Crogen lle y mae Castell y Waun heddiw. Yn rhywle tuag yno, yn 1164, bu brwydr chwerw rhwng y Cymry, tan Owain Gwynedd, a’r Saeson, tan Harri ’r Ail. Am unwaith, unodd y Tywysogion Cymreig â’i gilydd. Gorfu i’r Saeson ffoi yn eu holau i Loegr, rhag yr “hin afrywiog,” medd eu haneswyr. Ar ôl y frwydr hon y canodd Owain Cyfeiliog awdl yr “Hirlas.” |
Llances ydoedd lân a gwen,
Pan aeth i gwrdd a’r gelyn,
Hir a hardd oedd gwallt ei phen
Cyhyd a thannau’i thelyn:
Gyda byddin fach ei bro
Yr aeth yn ddewr, ond, O!
Welwyd byth drachefn yn fyw
Mo Wyres fach Ned Puw.
Gwelsom gorff y llances hon
Ar nawn y dydd anfadus,
Gyda’i thelyn ar ei bron,
Yn fud ger Crogen Wladys:
Carcharorion gennym gaed,
A’i gwelodd yn ei gwaed,
Rhoisant ddofn alarus floedd
Wrth basio’r fan lle’r oedd.
Owain Gwynedd yn ei lys
Byth mwy ni chlyw yr hogen;
Gwladgar dân ni ddaw o’i bys,
Er bore Brwydyr Crogen;
Gyda’i byddin aeth i lawr,
Pan wnaed y rhuthur mawr:
Distaw ar y delyn yw
Bys Wyres fach Ned Puw.
Cainc: Difyrrwch y Brenin.
Wele’n cychwyn dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Wele Madog ddewr ei fron,
Yn gapten ar y llynges hon.
Mynd y mae i roi ei droed,
Ar le na welodd dyn erioed:
Antur enbyd ydyw hon,
Ond Duw a’i deil o don i don.
Sêr y nos a haul y dydd,
O gwmpas oll yn gwmpawd sydd:
Codai corwynt yn y De,
A chodai’r tonnau hyd y ne:
Aeth y llongau ar eu hynt,
I grwydro’r môr ym mraich y gwynt;
Dodwyd hwy ar dramor draeth,
I fyw a bod er gwell er gwaeth.
Wele’n glanio dair ar ddeg,
O longau bach ar fore teg:
Llais y morwyr glywn yn glir,
’Rôl blwydd o daith yn bloeddio “Tir!”
Canant newydd gân ynghŷd,
Ar newydd draeth y newydd fyd—
Wele heddwch i bob dyn,
A phawb yn frenin arno ’i hun.
|
Dywed traddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd yn hoff o’r môr, ac o hynny, rywfodd, cychwynnwyd yr ystori iddo ddyfod o hyd i’r America, yn y ddeuddegfed ganrif, er mai ei ladd yng Nghymru a gafodd. Credwyd yr ystori, a bu cylchgronau Cymreig yn sôn llawer am y “Madogwys.” Hyd heddyw, daw ystori o’r America yn awr ac eilwaith am Indiaid yn medru Cymraeg. |
Cainc: Llwyn Onn.
Mae’r haul wedi machlud, a’r lleuad yn codi,
A bachgen o Gymro yn flin gan ei daith,
Yn crwydro mewn breuddwyd, ar lannau Missouri,
I chwilio am lwyth a lefarai ein hiaith,
Ymdrochai y sêr yn y tonnau tryloewon,
Ac yntau fel meudwy yn rhodio trwy’i hun:
“Pa le mae fy mrodyr!” gofynnai i’r afon,
“Pa le mae’r hen Gymry, fy mhobol fy hun!”
Fe ruai bwystfilod, a’r nos yn tywyllu,
A’r dwfr yn ei wyneb a’r coed yn ei gefn:
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn!
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg a lefarent,
Adroddent eu hanes, deallai bob un,
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
“Pa le mae ’r hen Gymry, fy mhobol fy hun!”
|
Pan gredid yr ystori fod Indiaid Cymreig yn America, aeth John Evans, gŵr ieuanc o’r Weun Fawr, ger Caernarfon, drosodd gyda’r amcan o gael hyd iddynt a phregethu Cristnogaeth iddynt. Teithiodd un cant ar bymtheg o filltiroedd gyda glan afon Missouri, cafodd dwymyn, a bu farw. At yr hanes trist ond prydferth hwn y cyfeiria’r gân. |
“I Blas Gogerddan heb dy dad!
Fy mab, erglyw fy llef:
Dos yn dy ôl i faes y gâd,
Ac ymladd gydag ef!
Dy fam wyf fi, a gwell gan fam
It golli gwaed fel dwfr,
Neu agor drws i gorff y dewr,
Na derbyn bachgen llwfr.
“I’r neuadd dos, ac yno gwêl
Arluniau’r Prysiaid pur;
Mae tân yn llygad llym pob un,
Yn goleu ar y mur.”
“Nid fi yw’r mab amharcha’i fam,
Ac enw tŷ ei dad:
Cusenwch fi, fy mam,” medd ef,
Ac aeth yn ôl i’r gâd.
Daeth ef yn ôl i dŷ ei fam,
Ond nid, ond nid yn fyw:
Medd hithau, “O, fy mab! fy mab!
O maddeu im, O Dduw!”
Ar hyn, atebai llais o’r mur:
“Trwy Gymru tra rhed dwfr,
Mil gwell yw marw’n fachgen dewr,
Na byw yn fachgen llwfr.”
Tros y garreg gamfa gu,
Eto’n hoew ac yn hy,
Fy anwylaf Loerwen lanaf,
Dof i’th weled yn dy dŷ:
Heb un anaf clais na chlwyf,
Ar fy ffordd o’r rhyfel ’rwyf;
Cyfod babell ar y lôn,
Gwahodd yno wreng a bôn,
Gorfoleddus
Wlad sydd weddus,
Pan ddaw Rhys i Ynys Fôn
Cafodd Gormes farwol glwy,
Tudur yw ein brenin mwy;
Ffôl yw ceisio,
Neu ddyfeisio,
Brenin arall, meddynt hwy.
Loerwen lân fy aelwyd gu
Ar fy nhaith ’rwyf i fy nhŷ:
Cwyd y “Ddraig” ar Graig-y-don,
Deffro delyn Cymru lon:
Gwŷr y Cenin,
Medd y brenin,
Gariodd iddo’r goron hon!
Gwenllian fach, fy nghalon dlos,
’Rwyt ti yn huno yn ddi-fraw,
Gan ddal dy afal bach melyngoch yn dy law;
A’th ruddiau annwyl fel y gwridog rôs,
A’th fron yn ddedwydd ddydd a nos,
Ym myd y gofid, O! gwyn fyd
Twysoges ifanc yn ei chrud,
Yn dal ei hafal bach—ei holl o ofal byd.
Mae gennyt frodyr yn y gâd,
A’th dad a’i gleddyf wrth ei glun,
A thithau’n cysgu’n drwm,
Gan wenu trwy dy hun.
Mae lleng y Norman yn y wlad,
Beth ddwed yr engyl am dy dad?
O! am orffwyso’n ddedwydd iach!
Mae brenhinesau uchel âch,
A rôi eu gorsedd fainc am gwsg twysoges fach.
Cainc: Hun Gwenllian.
Hun, Wenllian ferch y brenin,
Gwyn dy fyd ti dan y gŵys:
Cwsg Wenllian, dyner blentyn,
Yn y ddaear ddistaw ddwys.
Clêdd y Norman wnaeth gyflafan,
Nid oes gennyt fam yn awr:
Hun, Wenllian, Hun, Wenllian,
Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.
Hun, Wenllian, i’th fendithio
Duw a’th gymrodd yn ei gôl:
Mae’th frawd hynaf wedi cwympo,
Ni ddaw’r iengaf byth yn ôl;
Yn dy gartref trig y Norman,
Seren Cymru aeth i lawr:
Hun, Wenllian, Hun, Wenllian,
Cwsg ymhell o’r cystudd mawr.
Cainc: Goslef Llywelyn.
I feddrod Llywelyn mae’r tir wedi suddo,
Ac arno’r glawogydd, arhosant yn llyn:
Mae’r lloer wrth ymgodi, a’r haul wrth fachludo,
Yn edrych gan wrido ar ysgwydd y bryn.
Fy Nghymru, fy Ngwlad, a wyddost ti hyn!
Pa le mae Gwladgarwch yn dangos ei wedd?
Mae dagrau y cwmwl yn gwybod amdano,
A deryn y mynydd yn nabod y bedd.
Ar ddamwain mae’r Cymro yn dyfod i weled,
Lle cwympodd yr olaf fu ddewr ar ei ran:
Yr awel a gwyna a’r ddaear a ddywed,
Fod calon hen Walia yn curo’n lled wan;
Dieithriaid a ddaw i weled y fan
Y gorffwys Llywelyn wrth ochor ei gledd:
Wel, diolch am ddeigryn o’r nefoedd i waered,
Ac am y glaswelltyn yn ymyl y bedd!
|
Y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, a lofruddiwyd gan y Normaniaid yn 1284, yn ymyl Buallt. Codwyd cofgolofn iddo, ar ôl yr adeg yr ysgrifennodd Ceiriog y gân hon—gan ŵr bonheddig o Sais. Digon gan y Cymry sôn am “Y Llyw Olaf.” |
Aeth Owain Glyn Dŵr ar ei daith
I Gastell gŵr bonheddig:
“Oes cennad i ddeuddyn i mewn?”
Medd Owain Glyn Dŵr yn Ffrangeg.
“A gawn ni letya’r nos hon
Yn rhywle mewn congol ddiddos?”
“Bienvenu, Monsieur, os dowch i’r tŷ
Pob croesaw,” medd Lawrence Berclos:
Caed swper, a gwely, a brecwest cytûn.
A Lawrence a hoffodd y ddau estron ddyn.
Ar frecwest dechreuodd ymgom,
Rhwng Owain Glyn Dŵr a Berclos:
A’r barwn fu daer wrth y ddau,
Am aros am bythefnos,—
“ ’Rwy’n disgwyl cael Owain Glyn Dŵr
Ac amryw weilch i’r ddalfa:
Fe yrrais bum ugain o wŷr,
I’w ddal a’i ddwyn ef yma.”—
“Mae eisieu cael gafael yn ogof y gŵr,
A’i dynnu ef allan,” medd Owain Glyn Dŵr.
Brynhawn y pedwerydd dydd,
Medd Owain wrth y barwn:
“ ’Rwy’n mynd tra bo ’nhraed yn rhydd,
Ond ’rwan, cyn y ffarweliwn—
Mae Owain Glyn Dŵr yn rhoi’i law
Yn llaw Syr Lawrence Berclos.
Yn diolch am bopeth a gadd,
Am bedwar dydd a theirnos!”
Aeth Syr Lawrence yn fud mewn syndod a braw,
Ond syllodd ar Owain a gwasgodd ei law!
|
Seiliwyd ar ystori a adroddir am Owain Glyn Dŵr Lawrence Berkrolles, estron a feddai diroedd yn y De. |
Cainc: Syr Harri Ddu.
Y mae yn nhŷ
Syr Harri Ddu,
Delyn aur a thannau rhawn:
Telyn hen y teulu,
Clywir yno’r canu,
A phenillion bob prynhawn,
Hen benillion oesol,
Nwyfus, melys, mwyn:
Hen alawon annwyl
Yn eu symyl swyn,
Hen arferion gwledig,
Gŵr bonheddig hael,
Gan Syr Harri maent i’w cael.
Boneddwr cu,
Yw Harri Ddu,
Hoff o’i wlad a hoff o’i iaith:
Ar doriad dydd
Bob bore bydd
Gyda’r gweision yn eu gwaith;
Heinif yn ei henaint,
Heddyw fel erioed;
Ysgafn yw ei galon
Ysgafn yw ei droed:
Dyma’r dôn a ganai ’r
Delyn yn ei dŷ—
Hiroes i Syr Harri Ddu.
Yn glir rhwng y bariau lledwenu mae’r tân,
Ar efail a ffendar, a heiyrn glân, glân;
A goleu mae’r gannwyll, ar ganol bwrdd crwn;
Hen balas boneddwr Cymreig ydyw hwn.
Rhew-wyntoedd y gaeaf a gura yn drwm
Ar wydyr y ffenestr, sy’n edrych i’r cwm;
Yr awel lem finiog, a’r cenllysg mawr bras,
A gasglodd gyfeillion i aelwyd y plas.
Boneddwr twymgalon, llengarol ei fryd,
Yw dedwydd berchennog yr aelwyd fach glyd;
Hen Gymro gwladgarol, caredig, a hael,—
Ychydig o’i gyfryw sydd heddyw ar gael.
Mae ef yn ei gadair—hen gadair y tŷ,
Fu’n cynnal ei dadau yr oesoedd a fu,—
Dychmygion a chwedlau y cwmni a rydd
Oleuni i’w lygad, a gwên ar ei rudd.
Rhydd un “Ystori ’r Cardotyn Dall,”
Hen Fabinogi; ac edrydd y llall
Ystraeon “Arthur a’r Hanner Dyn,”
A “Dameg Cenfigen yn ei lladd ei hun.”
Hanes Caradog, a’r Bendigaid Frân,
Adrodd y Trioedd, a chanu cân,
Wnâi’r hen foneddwr yn galon lawn,
A’i hwyl a godwyd yn uchel iawn.
“Trioedd carnfradwyr!” medd ef yn syn,
“Bu mwy na thrioedd o’r dynion hyn,
Yn lladd ein dewrion, yn gwerthu’n gwlad”;
A’i wefus a grychodd ar “Drioedd Brad.”
“Cannoedd, gyfeillion, ac nid tri
O’r cyfryw Gymry, fu gennym ni:
Pa beth yw hanes ein hannwyl wlad,
Ond brad a dichell, a dichell a brad?
“I arbed rhinwedd merch Mygnach Gôr,
Cododd Caswallon, aeth tros y môr,
Mwrchan a laddodd, a Fflur, y fun
Ddiniwed, a gipiodd i’w gwlad ei hun.
“O flaen Caswallon, yr ’unben rhaith,’
Caisar orchfygwyd bedair gwaith;
Y pumed tro, i’w erbyn daeth
Afarwy a Chaisar, a cholli wnaeth.
“Huned Caswallon yn Efrog fro,
Huned Afarwy lle bynnag y bo;
Afarwy’r bradwr, mae’n un o’r carn,
Daw dydd a’i cyfyd, a Duw a’i barn!
“Caradog, eto, anfarwol yw,
Os anfarwoldeb yw enw byw;
Am naw o flynyddoedd bu Rhufain gref
Yn cywilyddio yn ei wyneb ef.
“Aeth i Frigantum ar ei dro,
I lys brenhines deg y fro—
Brenhines hygar, wyneb lon,
Cartismandua y gelwid hon.
“ ‘Caradog,’ ebe, ‘ers talm ’rwyf fi,
A’r holl Frigeintiaid yn dy garu di,
Gwna yma dy gartref yn ddi-fraw—
A hi gusanodd greithiau ’i law.
“A chyda ’i llaw frenhinol wen,
Tynnodd y llurig oddiam ei ben;
Ac yn ystafell deca’r tŷ,
Crogodd ei gleddyf a’i fwa cry.
“Dygwyd danteithion gyda brys,
A’r medd pereiddiaf yn y llys;
Llawenydd a basiai o wedd i wedd,
A’r tŷ a lanwyd gan ysbryd gwledd.
“Y deuluaidd delyn yn fwyn chwaréid,
A’r dewr Garadog mewn cân a gofféid;
Ostorius Rhufain, mewn gwawd a sarhaent,
A moli’r mawr Siluriad a wnaent.
“Ond daeth y nos,—a nos oedd hi
A dywyllodd lewych ein cenedl ni;
I wely cwsg, Caradog aeth,
Ond deffro mewn cadwyni a wnaeth!
“Hon oedd Aregwedd, wyneb lon,
A dorrodd gryfder yr ynys hon;
A roddodd ‘Samson’ ein hannwyl wlad
Yn llaw ‘Philistiaid’ y Rhufeinig gâd.
“O ran prydferthwch edrychai hon
Yn dlos, fel Creirwy, neu Arianrod Don;
O ran ymddygiad, yn wylaidd gall,
Ond yn ei chalon yn Felen Fall.
“Gochelwch lawer a gano’ch clod,
Mae brad, gyfeillion, eto’n bod;
A chofiwch hefyd fod marwol swyn
Yn gwenu’n fynych mewn wyneb mwyn.
“Ai angof gennych yr hen Wrtheyrn,
Ddetholodd Bictiaid i ladd ein teyrn;
A’i gwnaeth ei hun yn deyrn y wlad
Trwy gymorth estron, a dichell frad?
“Ar Gaer Caradog, onid gwir,
Galanas frad y Cyllill Hir?
Da yw anghofio’r echrys nawn,
Ond sut, gydwladwyr, sut y gwnawn?
“Ni ddeillia lles o’i grybwyll chwaith
Ond ple mae’r gwir, os gwedir ffaith?
Gwrtheyrn,—mae yntau’n un o’r carn
Sy’n disgwyl dydd, a Duw y farn!
“Oes gwareiddiedig wlad yn awr
Na chlybu am ein Harthur fawr?
Y teyrn dysgedig, yr areithydd coeth,
Y milwr eofn, a’r brenin doeth?
“Oesol atgofion o’i gledd di-wain
Yw Mynydd Baddon, ac afon Glain;
Yw Llyn Llumonwy, a maes Caer-wynt,
Caerlwytgoed, Totness, a Llongborth gynt.
“Am Arthur frenin, mae cofion da,
Yng Ngâl, yn Iwerddon, ac Ynys Ia:
Dinistrio delwau, ac yn eu lle
Codi Iachawdwr a ddarfu e.
“Pa dâl a gafodd?—onid un
O’i hen gydfilwyr ef ei hun,
Ar nawnddydd Camlan a wthiai’r cledd,
A yrrodd Arthur Fawr i’w fedd?
“Y bradwr Medrawd, huno y mae
Mewn bedd diogel tan feini gwae,
Tan warthrudd bythol gyda’r carn
Sy’n disgwyl bore gwyn y farn.
“Bu dau fradychydd isel wael
Yn gwrthryfela Rhydderch Hael;
Gelynion cryfaf Ystrad Clwyd,
Oedd Aeddan Fradawg, a’r Garw Lwyd.
“Goronwy Befr, di-ras, di-rin,
Peredur, Alan, a Madog Min;
Eiddilig Gor, a Madog Rhun,
Onid carnfradwr oedd pob un?
“Trioedd trithrioedd, a thrigain tri,
O fradwyr a fagodd ein bryniau ni—
A bradwyr lawer a geir yn awr
Yng nghysgod ein mynyddoedd mawr.
“Os y’ch o gariad neu o gas,
Yn dewis darllen doniau’r drâs,
Chwi gewch dalentau gwŷr eich gwlad,
Mewn Llyfrau Gleision hardd a rhad
“Cewch adroddiadau manwl maith,
A ffeithiau fil, yng nghorff y gwaith,
Yn profi nad oes mam na thad,
Na mab cyfreithlon yn ein gwlad!
“Yn profi nad oes nemor un
Eill ysgrifennu’i enw ei hun!
Na neb o’r Cymry uniaith a ŵyr
Y rhagor sydd rhwng caws a chŵyr!
“Fod Eisteddfodau yn cadw i lawr
Y fendigedig Saesneg fawr;
Ac nad oes llyfr Cymraeg i’w gael
Oddigerth almanaciau gwael.
“Oherwydd hyn, fod barn o’r nef,
Sef Ymneilltuaeth, yma ’n gref:
Ond os enillai’r Saesneg dir,
Y gwareiddid Cymru cyn bo hir.
“Canwn ein clychau a llawenhawn,
Am ffordd i’n gwneud ni’n bobol iawn:
Bendithion Sasnag a leinw ’r tir,—
Mynyddoedd bîff ac afonydd bîr.
“Mae brâd a thwyll tan fantell gras,
Yn epistolau’r Llyfrau Glas;
Ac o’m rhan i, fe rown goffâd
O’r ‘tri ysbiwyr’ mewn Triad brad.
“Mae mil fel Medrawd, y dyddiau hyn
Yn troi i ochri llu’r ‘March Gwyn,’
Os na ryfelant, hwy wawdiant wlad
Ac iaith fawreddus eu mam a’u tad.
“Nid pendro’r ’mennydd, na balchter chwaith
Sy’n blino ’r Cymro a wado’i iaith:
Egwyddor brad yn ei ffurfio’i hun
Mewn dull diweddar sydd yn y dyn.
“Os gwelwch rywun gyda gwên
Yn ystrydebol ar ei ên,
Gan sôn am ei weithredoedd hael—
Cofiwch fod cyfaill gwell i’w gael.
“Mae’r bradychedig yn cael briw,
A loes i’w fynwes tra fo byw:
Ond medd y bradwr ddyfnach clwy—
Mae ’i galon ef yn llosgi mwy.
“Yr hwn sy’n dod yn fwyaf rhwydd
I ganu’ch clod tra fo ’n eich gŵydd,
Yw’r dyn parotaf sydd drachefn
I blannu dagr yn eich cefn.
“Bradwyr fy nghenedl, da i chwi
Nad ydyw barn yn eiddo i mi!”—
Ac fel pe’n teimlo dagr fawr
Yng nghil ei ddwrn, eisteddai i lawr.
Gan chwedlau’r hen Gymro, gwynfydid y cwrdd
A’r gannwyll yn goleu ar ganol y bwrdd:
A’r cesair yn curo, fel câd yn gwarchâu,
Y rhewynt yn chwiban, a’r nos yn hwyrhau.
|
Achlysurwyd y gerdd lem hon gan “Frad y Llyfrau Gleision,” fel y gelwid athrod y dynion hanner llythrennog a ddanfonwyd i ymchwilio i hanes addysg yng Nghymru yn 1846. |
Ewch i gastell mwyaf Gwalia,
Nid yw’r delyn yno’n fud;
Ewch i’r bwthyn bach tylota,
Chwi gewch emyn wrth y crud;
Gyda’r aradr ar y ffriddoedd,
Deutu’r tân neu wrth y bwrdd,
Ac ym mhennau y mynyddoedd
Mae cerddoriaeth yn eich cwrdd.
Cytgan.
Llais yr adar, si afonydd,
Twrf rhaeadrau ar ei hyd,
Fel yr eigion mawr aflonydd,
Môr o gân yw Cymru i gyd.
Mwyn awelon min yr hwyrddydd,
Gwnânt gerddorfa ymhob llwyn,
Ffrydiau oerion glân ei glennydd
Gwnânt un arall yn y brwyn;
Llef y corwynt, llais y daran,
Rhuant trwy’r ffurfafen iach;
Pib y bugail ar yr Aran
Chwery gyda’r hedydd bach.
Llais yr adar, etc.
Eryri Wen, os na ddaw ’nhroed
Fyth eto ar dy ben,
Y mae fy nghalon fel erioed
Ar ael Eryri Wen;
Ni welaf mwy mo’r dolydd mawn,
Lle gyntaf gwelais Gwen:
Mewn atgo’r wyf yn fynych iawn
Ar ael Eryri Wen.
Gwyn fyd y deryn bach di-boen
Sydd yno yn y nen:
Gwyn fyd y ddafad fach a’r oen
Sydd ar Eryri Wen;
Boed imi hedd ar ddiwedd oes,
Ac wrth orffwyso ’mhen;
O, f’enaid, hêd i’r hwn a’th roes,
O droed Eryri Wen.
Hen gwrwg fy ngwlad, ar fy ysgwydd cymerwn,
Pan oeddwn yn hogyn rhwng Hafren a Gŵy,
Ac yno y gleisiad ysgwyddog dryferwn
Ar hyfryd haf ddyddiau nas gwelaf byth mwy
Pe rhwyfwn ganŵ ar y Ganges chwyddedig,
Neu “donnau Caveri,” rhôi hynny foddhad:
Ond glannau bro Gwalia sydd fwy cysegredig,
A gwell gan fy nghalon lien gwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, ’rwyf gyda thi’n nofio
Afonydd paradwys fy mebyd yn awr;
Hen glychau a thonau o newydd wy ’n gofio,
A glywn ar y dyfroedd pan rwyfwn i lawr.
Mi dreuliais flynyddoedd a’r llif yn fy erbyn,
I’m hatal rhag dyfod i gartref fy nhad:
Ond pan ddôf yn ôl fe fydd cant yn fy nerbyn,
I roi im rwyf eto yng nghwrwg fy ngwlad.
Hen gwrwg fy ngwlad, mi a’th rwyfais di ganwaith,
Hyd lynnoedd tryloewon tan goedydd a phynt:
Cymeraist fi hefyd i fynwes wen lanwaith,
Yr hon a ddisgleiriodd trwy f’enaid i gynt.
Trwy Fenis fawreddog mi fum mewn gondola,
Esgynnais i Dafwys a’r Rhein yn fy mâd:
Ond pasio hen gastell Llywelyn, llyw ola,
Sydd well gan fy nghalon yng nghwrwg fy ngwlad.
Mae’r estron yn dechreu ymrannu,
Mae Delta’n yr afon yn awr:
Mae’r America fawr yn gwahanu
A thalaith Awstralia’n rhy fawr.
Ond ni ddaw’r hen Alban o’i gorsedd,
Nac Iwerddon o ganol y lli:
Ac ni ddaw Gwlad Wynedd o’r Gogledd
Gwlad onest, gwlad annwyl, Gwlad Wynedd fydd hi.
Mae terfyn i ddyfroedd y moroedd,
Lle llam y llifeiriant yn lluwch:
Mae terfyn i fawredd cenhedloedd,
Ac uchter lle nad eir yn uwch.
Gall ieithoedd gyfnewid, a dichon
Y daw hynny ryw dro atom ni:
Er gloewed fydd gwlad ein cymdogion,
Gwlad iraidd, gwlad dirion, gwlad arall fydd hi.
Rhowch addysg i blant y mynyddoedd,
Na hidiwch am lawer o stad:
A chwi sydd yn sôn am hen oesoedd
Rhowch drem ar ddyfodol ein gwlad.
O’n blaenau mae mil o flynyddoedd,
Cyfodant genhedloedd i fri:
Nac ofned hen wlad y mynyddoedd
Gwlad onest, gwlad annwyl, Gwlad Wynedd fydd hi.
Tôn: Pour out the Rhine-wine.
Cydiwch yn y trosol, caib a rhaw,
Fel bo’r nerth, daw’r aur i fyny;
Ai mudo wnewch i wledydd draw,
A throi eich cefn ar greigiau Cymru?
’Does dim wnâ galon dyn yn hael,
Fel y graig, craig fawr, lle mae’r aur i’w gael.
Gweithiwn ein mynyddoedd, Gymry glân,
Dyma’r tir a dâl i’n llanciau:
O dowch a’r graig i’r ffwrnes dân,
Gwnawn Gymru fach yn llawn ei banciau;
’Does dim wnâ galon dyn yh hael,
Fel y graig, craig fawr, lle mae’r aur i’w gael.
Canwn am ein cyfoeth gân Gymreig,
Yn yr aur at bennau’n gliniau:
Os estron ddaw i geibio’r graig,
Caiff ddysgu’r gân a ganwn ninnau.
’Does dim wnâ galon dyn yn hael,
Fel y graig, craig fawr, lle mae’r aur i’w gael.
Fel y graig, craig fawr, lle mae’r aur i’w gael.
Dewr Lanciau’r Eryri, hyd heddyw, parhânt,
I ddringo trwy’r rhewynt a’r ôd:
I bennau’r mynyddoedd oer amlwg yr ânt,
Lle bydd yr Eryrod yn dod.
Mae Llanciau’r Eryri
Yn rhydd fel y gwynt;
Yn llawn o wrhydri
Yr hen oesau gynt.
Er nad oes un angen am onnen nac ŷw,
Na gwyn-gyll i ennill yn awr;
Mae coedydd Eryri a’r cedyrn yn fyw,
I gadw pob gormes i lawr.
Mae Llanciau’r Eryri, etc.
Os ysgafn ei feddwl, os ysgafn ei faich,
A’i droed er mor ysgafn y teifl,
Mae’r gewyn cyhyrog yn gwlwm a’r fraich
Preswylydd yr Aran a’r Eifl.
Mae Llanciau’r Eryri, etc.
A ddwedaist ti fod Cymru’n dlawd,
Am fod ei Llannau’n llonydd?
A thi dy hun yn cloddio, frawd,
Ym mryniau aur Meirionydd!
Mae mwy o gyfoeth tan dy droed,
Nag a ddaeth i galon dyn erioed,
Anwiredd mwy erioed ni wnawd—
Na ddywed byth fod Cymru ’n dlawd.
I ble y trown o fewn y tir,
Na welir mŵn ei meini?
Nad yw’r meteloedd o’u gwelâu
Yn edrych am oleuni?
Nad yw y prês a’r arian faen,
Yn galw ar bob Cymro ’mlaen,
I roi ei ffydd a threio’i ffawd
Yn holl oludoedd “Cymru dlawd.”
Estyn dy fys pan glywech hyn
Yn cael ei ddweyd am Gymru:
At unrhyw graig at unrhyw fryn,
Fo’n edrych ar i fyny.
Mae’r nentydd oll wrth fynd i’r aig,
A cherrig ateb ymhob craig,
Yn dwedyd “Nac yw” gyda gwawd—
Na ddywed byth fod Cymru’n dlawd.
Dwedwch fod fy ffroen yn uchel,
Fod fy malchter yn drahaus,
Fod gwamalrwydd ar fy wyneb
A mursendod yn fy llais,
Ond mae terfyn i anwiredd,
I greulondeb a sarhad—
Peidiwch byth â dwedyd hynny,
Imi golli serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad!
O mor barod ydyw dynion
I drywanu at y byw:
O mor gyndyn ydynt wedyn
I roi eli ar y briw!
Dodwch garreg ar fy meddrod,
Fel y mynnoch bo’r coffâd:
Dyna’r pryd i ddwedyd hynny,
Imi golli serch at Gymru,
Imi golli iaith fy ngwlad!
|
Cyfansoddwyd i Miss Edith Wynne, cantores, pan ddywcdasai rhywun ei bod wedi colli ei Chymraeg. Canodd hithau’r gân yn Eisteddfod Caernarfon, 1862. |
Hen Gainc Gymreig: Ymdaith y Mwnc.
Yn Ynys Fôn fe safai gŵr
Ym min y nos ar fin y traeth:
Fe welai long draw ar y dŵr,
A’i hannerch ar yr eigion wnaeth:—
Dos a gwêl fy machgen gwiw,
Dos a sibrwd yn ei glyw
Yn iaith ddi-nam
Ei annwyl fam,
A dywed fod ei dad yn fyw.
Ymwêl â’m plentyn, a dwed fod ei dad,
Yn edrych yn fynych dros wyneb y lli.
O! chwydder dy hwyliau gan chwaon o’th wlad,
A thyner fo’r awel lle bynnag ’r ei di.
Dos tros y don,
Cei henffych well,
Dwed yno’n llon
Wrth fachgen sydd bell,
Fod Gwalia flodeuog yn moli’r un Duw,
Ac iaith ei gyndadau yn iach ac yn fyw.
Bod ywen ddu yn hardd uwchben
Y garreg lâs lle cwsg ei fam,
A bod ei dad a’i farf yn wen,
Yn grwm ei war, a byr ei gam;
Fod y pistyll eto ’n gry,
Fod yr afon fel y bu,
Ar wely glân
O raean mân,
Yn sisial tôn wrth ddrws y tŷ.
Ymwêl â’m plentyn, etc.
Bod iddo chwaer ar ddelw’i fam,
Sydd yn parhau i’w garu ef,
Sy’n llawenhau wrth feddwl am
Gael eto gwrdd yn nef y nef.
Fod ei wlad heb weld ei hail
Am glysni teg a glesni dail;
A dal wrth ben
Ei Gymru wen
Mae awel nef a melyn haul.
Ymwel â’m plentyn, etc.
’Roedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd;
“Ffarwel i ti ’mhriod, fy Ngwen,” meddai ef,
“Fe ddaeth y gwahanu, cawn gwrdd yn y nef.”
Fe gododd ei ddwylaw, ac anadl a ddaeth
I chwyddo’r tro olaf trwy’i fynwes oer, gaeth;
“Hyd yma ’r adduned, anwylyd, ond moes
Im gyffwrdd fy nhelyn yn niwedd fy oes.”
Estynnwyd y delyn, a hon, yn ddi-oed,
Gollyngodd alawon na chlywsid erioed;
’Roedd pob tant yn canu’i ffarweliad ei hun,
A Dafydd yn marw wrth gyffwrdd pob un.
“O! cleddwch fi gartref yn hen Ynys Fôn!
Yn llwch y Derwyddon, a hon fyddo’r dôn,
Y dydd y’m gosodir yn isel fy mhen,”—
A’i fysedd chwaraeai yr “Hen Garreg Wen.”
’Roedd Dafydd yn marw, pan safem yn fud
I wylio datodiad rhwng bywyd a byd:
Yn sŵn yr hen delyn gogwyddodd ei ben,
Ac angau rodd fywyd i’r “Hen Garreg Wen.”
|
Bu farw telynor a’i enw Dafydd yn y Garreg Wen, ger Porthmadog, yn 1720, ac ef ychydig cyn marw, meddir, a wnaeth y gainc a elwir “Dafydd y Garreg Wen,” a’i chanu ar ei delyn. |
Mesur: Pant corlan yr wyn.
Os parod ych yn ddiwahân
I esgusodi Cymro glân,
Fe ganaf i chwi bwt o gân
A wnes i Delyn Cymru:
Y delyn hon, diaddurn iawn
Ei charfan main a’i thannau rhawn,
Ond mae y deircainc eto’n llawn,
Ac ysbryd dewr ein tadau ni
Yn llercian ar ei thannau hi:
Hynafol Delyn Cymru.
Myfi, fe allai, sydd ar fai—
Mae pawb yn feius fwy neu lai—
Ond gwared fi rhag rhagfarn rhai
Yn erbyn Telyn Cymru:
Mae ambell un yn hoffi sŵn
Y clarionet neu’r bas basŵn,
Ac ambell Gadi, fel babŵn,
Gwrandawai byth ar hen drambŵn;
Ond waeth genni glywed band o gŵn,
Os na chaf Delyn Cymru.
Yn sŵn y bibgod gras ei nad
Fe gofia’r Scotsmon am ei wlad,
A naid ei galon gan goffâd
O’i fam, o’i dad, a’i deulu;
Gadewch i’r niger fynd o’i go,
A dawnsio hefyd os myn o,—
Wrth rygnu ar ei hoff fanjô:
Oes neb mor ddwbwl ddwl na âd
I Gymro hefyd hoff o’i wlad
Gael tôn ar Delyn Cymru.
’Nawr cofiwch hyn bob mab a mun:—
Fel dŵr y nant a’i gloewa’i hun
Mewn murmur-gerdd, ’r un fath mae dyn
Mewn miwsig yn ymburo:
Mewn pur gerddoriaeth chwyddol gref
Dyrchefir ei ysbrydoedd ef
Nes teimlo bron wrth byrth y nef;
Ond dyn di-gerdd, di-fywyd, llwfr,
Mae fel y distaw farw ddwfr,
I’w ochel rhag mynd ato.
Mesur: Nos Galan.
Glywsoch chwi am grefydd Sionto,
Llithau ffydd, a gair ei gredo?
Do’n ddiameu, os wyt Gymro,
Clywaist sôn am grefydd Sionto.
Gwnaeth ei ddeddf mewn dau orchymyn,
Byr, cynhwysfawr, fel y canlyn:—
Edrych ar y gwin fel gwenwyn,
Ac na ddos i sŵn y delyn.
Os rhoist glust i’r grefydd yna
Ymysg Phariseaid Gwalia,—
Gostwng hefyd glust i wrando,
Hanes breuddwyd gafodd Sionto.
Tybiai’i fod yn “drwm ei galon,”
A bod dau o hen feddygon
Wedi’i ladd ef yn ei nychdod,
Wrth roi gwin ar flaen ei dafod.
Tybiai wedyn fod adenydd
Yn ei godi i’r wybrennydd,—
Ar ôl hofran yno’n hyfryd,
Gwelai’i hun ynghanol gwynfyd.
Tybiai weled golygfaoedd,
Tybiai glywed hymnau’r nefoedd;
Ond pan welodd Delyn yno,
Rhodd ei galon dro, nes deffro!
Byth er hynny, anfoesoldeb
Ydyw gwin mewn cymedroldeb;
Byth er hynny, hen offeryn
Halogedig ydyw’r Delyn.
Ond cymysged llwch fy nhadau
Gyda llwch fy nghalon innau,
Cyn anghofio o’m llaw i ganu
Ar dy dannau—Delyn Cymru!
|
Nid oedd nemor groeso i offer cerdd, yn enwedig y delyn, ymhlith rhai pobl yng Nghymru mor ddiweddar ag oes Ceiriog. |
Wyt ti’n cofio’r lloer yn codi
Dros hen dderw mawr y llwyn,
Pan ddywedaist yr aberthit
Nef a daear er fy mwyn?
Wyt ti’n cofio’r dagrau gollaist
Wrth y ffynnon fechan draw?
Wyt ti’n cofio’r hen wresowgrwydd,—
Wyt ti’n cofio’r gwasgu llaw?
“Hyd fy marw” oedd dy eiriau,
Y parheit yn ffyddlon im;
O fy ngeneth, O fy nghariad!
Nid yw poenau marw’n ddim.
Er wrth dorri d’addunedau,
I ti dorri ’nghalon i,—
Magi annwyl, mae dy gariad
Eto’n gariad pur i ti.
Mae’th lythyrau yn gwneud imi
Lwyr anghofio mi fy hun;
Mae dy gudyn gwallt yn hongian,
Fel helygen tros dy lun!
Llun dy wyneb, Magi annwyl,
O mae’n twnnu fel yr haul!
Nes wy’n teimlo gwae a gwynfyd
Nef ac uffem bob yn ail!
O f’ anwylyd! er mai cyfaill
Yw yn awr fy enw i,
Maddeu imi am ddefnyddio
Yr hen enw arnat ti;
Cariad wyt ti, Magi annwyl,
Bur, ddihalog, fel erioed;
Troist dy wyneb, cefnaist arnaf,
Minnau garaf ôl dy droed!
Eisteddai merch ar gamfa’r cae,
A’i phen gan flodau’n dryfrith,
I gadw’r adar bach i ffwrdd
Rhag disgyn ar y gwenith;
Rhôi ganiatad i’r deryn tô,
A’r asgell fraith gael disgyn;
Rhag ofn ei fod yn eos fach,
A dyna deimlad plentyn.
Pan welych dithau eneth wan,
Yn gofyn am dy gymorth:
Wrth gil y drws, a glywi di
Mo ymbil chwaer am ymborth?
Os wyt am fendith ar dy faes,
Gogwydda glust i’w gweddi:
Yr oedd yr haul, a’r gwlith, a’r glaw,
Yn meddwl am roi iddi.
Cainc: Lili Lon.
Lili’r dŵr a gâr y llynnoedd,
Lili’r tir a gâr ddyffrynnoedd,
Ond mae Lili yn y Bryniau
Yn fy annwyl garu finnau,
“Lili Lon, gelwir hon,
Lili Lon ydyw hon.
O! ni welais yn fy mywyd
Un cyn hardded a hon.”
Yn yr haf y lili wena,
Yna’r gaeaf oer a’i gwywa:
Ond mae Lili’r Bryniau’n ddedwydd,
Haf a gaeaf fel ei gilydd.
“Lili Lon, gelwir hon,
Lili lon, gelwir hon.
O! ni welais yn fy mywyd
Un cyn hardded a hon.”
’Rwyf yn hoffi lili’r dyffryn,
Lili’r dŵr a phob blodeuyn,
Ond ’rwy’n caru Lili’r Bryniau,
Lili lawen y lilïau.
“Lili lon, gelwir hon,
Lili lon, gelwir hon.
O! ni welais yn fy mywyd
Un cyn hardded a hon.”
(O Rieingerdd Myfanwy Fychan.)
Myfanwy! ’rwy’n gweled dy rudd
Mewn meillion, briallu, a rhôs!
Yng ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serennog y nos:
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe’i cerir gan ddaear a nen.
I’m enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti!
Mil glanach mil mwynach i mi!
Fe ddwedir fod beirddion y byd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe bai anfarwoldeb yn awr
Yn cynnyg ei lawryf i mi,
Mi daflwn y llawryf i lawr—
Ddymunwn i moni, fe’i mathrwn os na chawn i di,—
Myfanwy, os na chawn i di!
O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,
I suo i’th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahân:
Mae’r awel yn droeog a blin—
Un gynnes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy’n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nid troeog fy serch atat ti,
Tragwyddol fy serch atat ti!
Flodeuog wlad y traserch mawr,
Gwlad deg y llwyni gwyrddion;
Y fro lle chwery heulog wawr
Trwy ganol ei chysgodion:
A feiddiaf fi, ar ôl goroesi
Fy nghalon ifanc, eto’th groesi!
A feiddiaf fi fynd yn fy ôl
I boethder y cyhydedd,
Lle mae doethineb dyn yn ffôl,
A cholli cwsg yn rhinwedd?
I’r wlad lle mae’r angerddol galon
Yn torri ’i syched mewn ffrydiau poethion!
Y wlad y mae gormod gwres yn iach
I’w merched ac i’w meibion,
Y wlad mae awel glaear fach
Yn lladd ei holl drigolion:
Gwlad yr Efäon a’r coed afalau,
Y seirff afrifed a’r temtasiynau!
I barc hen Gastell Windsor
Dau ŵr ar lŷg y dydd,
Gan farchog heibio’r porthor,
A âi i hela hydd:
Dau dwysog oeddynt, yn ôl yr hanes,
A’r ddau mewn cariad â’r un frenhines.
Er edrych fel cyfeillion,
Bu’r ddau yn ddigon dall,
Trwy gelu eu hamcanion,
I dwyllo’r naill y llall:
Bob un â’i fwa ym mharc y brenin,
A’r ddau â dwy-saeth ar ei linin.
Mae hydd yn codi yma,
A hydd yn codi draw,
Carlama un i’r ddehau,
A’r llall i’r aswy law:
Aeth un tywysog oherwydd hynny
I lawr y llechwedd, a’r llall i fyny.
Diflannant mewn munudyn
O olwg y naill y llall;
Mae’n debyg na bu gwedyn
Fyth ddau mor gyfrwys gall,—
Yn ôl i’r Castell hyd ffyrdd gwahanol
Hwy ânt i hela’r “ewig freiniol.”
Anhegwch a chymhendod
A fyddai beio’r un,
Pa beth yw hela hyddod,
Yng ngolwg pwyllog ddyn,
Tra bo brenhines wen i’w hennill?
“Chware plantos yn y pistyll.”
Yr hyddes fach a’r ewig,
Gorweddwch gyda’r hydd;
Ac adar glân y goedwig,
Cewch heddyw’r parc yn rhydd:
Beth yw eich dala, betheuach dylion,
A naw mil o geirw—yn ymyl y Goron!
Yn awr neu fyth am redeg
I dŵr brenhinol barch;
Nid hon yw’r unig adeg
Y bu “teyrnas ar y march,”
Glân iach eirwir galon i’ch arwain,
Cerwch, priodwch Frenhines Prydain!
Mewn ’stafell yn wynebu’r ardd,
A’i mil rhodfeydd graeanog hardd,
Trwy flodau, glastir, coed a phrysg,
A llynnoedd gloewon ariannaid bysg,
Eistedda Catrin; ei phen a gŵyd
Oddiar arian fwrdd ei bore fwyd,
A gwêl y Twysog John yn troi
(Yn gynt na Ffrencyn yn ceisio ffoi)
Ei geffyl anferth dan gwmwl chwŷs
I fyny i ddirgel ffordd y llys;
A thraw yn y pellter, yn gyrru ’n ffôl,
Y Twysog Eric ar ei ôl.
Gan synnu gweled dirfawr frys
Y tywysogion i ddod i’r llys,
Aeth Catrin allan i’r parc islaw,
A’r Twysog Harri yn ei llaw:
Lle crawciai’r corfrain eu newynllyd nâd
O frigau ban y goedwig wlad.
Ymlaen, ymlaen, âi y mab a’r fam,
Hyd y graean-lwybrau, o gam i gam:
Y plentyn ifanc, fel pawb o’i oed,
Yn taflu cerrig i frigau’r coed,
Gan fawr fwynhau ei hyfryd hynt,
A’i wallt melynaur yn y gwynt;
A chyda’i fantell satin ferth,
Yn ymlid glöyn byw i berth.
A’i fam yn drist gan ofni bod
Lluoedd y Dauphin eto ’n dod,
Neu fod y deigres Joan o Arc
Wedi dewino ’i hun i’r parc.
Oddiar ei farch daeth John i lawr,
Ac er bod ei frys a’i ffrwst yn fawr,
Aeth i’w ystafell, fel ieuanc fun,
I newid ei ddillad a’i drwsio ’i hun:
Gwyddai o’i febyd pa faint o swyn
I lasty serch yr oedd gwisg yn ei ddwyn.
’Roedd y “tri anhepgor,” fel dwed y gân,
Sef “buchedd, calon, a dwylaw glân,”
I’w sicrhau yn gyntaf peth,
Rhag ofn i’r ymgais droi yn feth:
Ac er na fu ond munud neu ddau
Yn nhemel Hebe yn ymlanhau,
Ac yn gwisgo ’i rosyn, teimlodd ei ddraen
Yn rhwygo’i galon—’roedd gŵr o’i flaen!
Gyda’i Mawrhydi, y Frenhines hardd,
Ymgomiai Eric yng nghẁr yr ardd!
Y mae paradwys fach
Pan foch mewn parc neu ddôl,
Yn rhodio gyda’ch bun
A’ch gelyn ar eich ôl;
Ond hyn sy’n groes i’r graen,—
Sef gweld eich mun
A’ch gelyn-ddyn
Fraich-ym-mraich o’ch blaen!
* * * * *
At fin y dwfn bysgodlyn mawr
Daw dau o gychod heirdd yn awr;
I un, llancesau glân y llys,
A’r tywysogion, ânt ar frys;
Mae pedwar bachgen John de Grey,
A dwy ferch fach y Marchog Bray,
A phlant brenhinol ambell wlad,
Yn eistedd yn y pleser fad.
A dau fachgennyn yn eu nwyf
Yn canu’n bêr gan dynnu rhwyf
Ar draws y llyn lilïog llyfn,
A’r pysg yn chwarae yn y dyfn.
Yn dilyn llwybyr gwyn y bâd
Mae eleirch dôf mewn mawr fwynhad;
Ac ar eu holau bysgod gant
Yn derbyn bwyd o ddwylaw’r plant.
Yr ail o’r cychod edy’r lân
Gyda’r boneddwyr yn y man;
Gwŷr fu yn Agincourt a Beague,
Crevant, a Mynwy, ac Aberwîg.
Y mawrion ydynt; a chyda hwy
Swyddog o’r llys, glandecach, mwy,
Ac iengach yn ei wedd a’i bryd,
Na’i gydfoneddwyr oll ynghŷd.
Mae gwrid mynyddoedd ar ei foch,
A’i wisg yn swrcot o felfed coch,
Wedi ei leinio â damasg gwyn,
Yn clymu am ei wasg yn dynn.
Ar draws ei ysgwydd mae cengl den,
Ac arni’n fwcwl groesig wen:
Yn hongian tros ei aswy goes,
Mae cleddyf dyrnwyn ar ddelw croes;
Ac ar ei fron, yn loew a chlaer,
Rosyn arian gyda mesen aur:
Syr Owen Tudur yw efe,
Ar ei aswy mae Marian Grey,
A Chatrin brydferth ar ei dde—
Yr ieuanc weddw frenhines wen,
A choron galar ar ei phen;
Uwchben ei chlaerwyn dalcen cu,
A’i neflas lygad, mae pluen ddu,
Fel asgell mwyalch o dan y gwlith
Gan ddafnau adamwnt yn frith.
“Tecach ei dwylaw na blodau mân
Gwyn lysiau’r llinos mewn dyfroedd glân;”
Disglair ei llygaid fel golwg gwalch,
A threiddiol gan ostyngeiddrwydd balch—
Canolbwnc serch holl gwmni’r bâd,
Brenhines ei moroedd a phen ei gwlad!
O’i chylch hi welai lawer craith
O frwydr Verneuil, mewn distaw iaith,
Yn dwedyd wrthi lle llifodd ffrwd
O ffyddlon waed teyrngarol brwd,
I gadw’r orsedd ar ei thraed,
A’i nofio adref ar fôr o waed.
“Syr Owen,” ebe hi, “pa le
Mae fy machgen bach a Lilian Grey?”
Atebodd yntau, “Maent cyn hyn
Tu draw i’r ynys ar y llyn;
A barnu’r wyf y byddai’n well
Eu dal cyn iddynt rwyfo ’mhell,
Oherwydd mae y dyfrlin draw
I’w rwyfo â gofalus law”;
“Gwelaf,” medd Owen, “nad gyda ni
Ond gyda’ch mab y mae’ch calon chwi.”
Fel cwmwl du tros loew lyn,
Tros ei hwynepryd y pryd hyn
Daeth cysgod tywyll gofid mam,
A phryder mynwes dyner am
Ei hannwyl fab—a deigryn mawr
Ddisgynnai i waered, nid i’r llawr,
Ond ar ddeheulaw Owen—naturiol law—
A hi a’i gwasgodd oddiar ei law:
John ac Eric, gwelwant fwy, fwy,
Gwasgfeydd gwahanol a gawsant hwy.
Yr amser gwaethaf i fod yn llwfr
Yw’r adeg honno
Y bydd angel Cariad yn cynhyrfu’r dwfr,
A neb yn suddo;
Ond y mae’r claf o serch yn awr
Yn rhoddi llam i’r dyfnder mawr!
“Mae’n rhaid,” medd Owen, “mai o’r nef
Mae’ch bachgen, fel y glaw,
Ond sut y mae’ch calon gydag ef,
A’ch deigryn ar fy llaw!”
Dechreua’r dagrau ddod yn awr
Yn ddafnau trymion, breision, mawr;
Beth ydyw’r galon? gwaed a chnawd
Sydd gan frenhines fel geneth dlawd!
Cariad yw’r concrwr, ac ni all dyn
Ond gadael iddo’i ffordd ei hun!
Gwnaeth ef i Achilles enwog droi
Yn ôl o’r rhengau ym mrwydr Troy;
Gwnaeth darian Pluto yn deisen frau,
Ac yn gandryll daranfolltau Iau:
Bu’n denu Bacchus oddiwrth ei win,
Ac yn gŵyro Samson ar ei lin;
Bu’n plygu Alecsander Fawr
At draed Rocsana, i lwch y llawr;
Bu’n gwneud i Gaisar mewn ysgorn
Edrych ar Rufain fel botwm corn.
Yng ngoleu llygad geneth lân,
Bu’n gwneud i lwfryn fynd i’r tân,
A’r dewraf cawr o’r cewri erch
I ofni cysgod cysgod merch!
Tra ar y dwfr mae’r bâd
Yn nofio’i elfen rydd;
Yn canu tros y wlad,
Ai clychau Windsor sydd?—
Pa sawl cariad sydd i mi
Ar fy nhaith, ar fy nhaith,
Pa sawl cariad,—un, dau, tri,
Pedwar, pump, chwech, saith.
Mae imi elyn am
Fy moddi ar y llyn,
A dyna’r achos pam
’Rwyf eto’n gofyn hyn:—
Pa sawl cariad sydd i mi, etc.
Mae gelyn yn y Tŵr,
A chanddo glamor hir;
Mae gelyn ar y dŵr,
A gelyn ar y tir:—
Pa sawl cariad sydd i mi, etc.
Y mae amserau i bob peth,
Adeg a ffynna, adeg a feth;
Adeg i hau, adeg i ladd,
Ac adeg i garu bun o bob gradd.
Pan ddisgyn geiriau serch fel grawn,
I’r dyfnder a’u hegina’n iawn,
Nid yn yr hwyr na’r bore,
Ond pan fo pleser ar y rudd,
Ac yn y fynwes ofid cudd,
Dyna yw’r amser goreu.
Caiff heulwen nwyfiant a dagrau llaith,
Bryd hyn gyfarfod i wneud eu gwaith.
Ar ôl sychedu, y gronyn ŷf
Anianawd bywyd, ac yna tyf
O eigion craig yn egin cryf!
Tyb fympwyol ddibrofiad yw
Mai mewn llawenydd mae serch yn byw;
Mae hi yn gynneddf ddwys a dofn
O barch angerddol a distaw ofn:
Pan geir hi gryfaf, anadl gwan
Fydd ei lleferydd, ond gochel pan
Glywi lais a thafod hy,
’Does yna fawr o gariad cry.
A’i henaid a’i chalon yn llosgi ’nghyd,
Fel mynydd llosg yn nyfnderau’r byd,
Beth yw llais Catrin?—perffaith fud:—
Un wylaidd oedd, ac un wylaidd yw,
Y galon bur yn yr hylosg byw!
Mae’r ddeu-gwch ar y llyn
Yn ymneshau yn ufudd,
A llawer cadach gwyn
Yn ysgwyd at ei gilydd:
Ac mae yr hon fu’n dweyd,
“Mae ’nghalon gyda’m bachgen,”
Yn gwenu ac yn gwneud
Y cwbl o’i chylch yn llawen.
Pres-offer ar y lan,
A sŵn y clych, cydgordiant;
Gofidiau yn y fan
A â i ebargofiant.
“Unbennaeth Prydain Fawr,”
Yw’r gân sy’n swynol seinio,
Ond clywir bloedd yn awr—
“Mae cwch y plant yn suddo!”
Y cwch, y cwch! O Dduw!
Ni welir mono mwy!
Nag un o’r plant yn fyw,
O, rhwyfwch atynt hwy!
Atynt! O, atynt! clywch eu llef,
Rhwyfwch, achubwch yn enw’r Nef!
Dacw ’r cwch eto
A’i wyneb i lawr!
Ac eto yn suddo
I’r dyfnder mawr:
I gwch y boneddwyr a gwŷr ar y lan,
Gwisgoedd yn nofio a ddengys y fan;
Lili y dyfroedd a gymerth i’w bron
Fantell ysgarlad ar wyneb y dòn!
Gwelwedd marwoldeb,
Syrth ar bob gwedd,
Llydan ei wyneb
A dwfn yw y bedd:
Ond wele un o’r plant yn awr
A’i freichiau bach am alarch mawr,
Nes taflu gwên ddigrifol bron
Ar draws yr erch olygfa hon.
Ymhell o’r lan
Codwyd dwy ferch,
A chyrhaeddwyd man
Y trychineb erch.
Syr Owen Tudur yw y gŵr
Wna’r cyntaf hollt,
Fel taran-follt,
I ddyfnderau’r dŵr:
Ac ynghanol cri
Ysgrechlef fawr,
Aeth dau neu dri
Eraill i lawr—
A’r Eric a John a mawrion y wlad
Yn duwiol ymgroesi yng ngwaelod y bâd.
Cyfodwyd hwy oll o un i un,
A’r olaf achubwyd oedd “Eich Dyn,”
Y Twysog Harri, a’i ieuanc fynwes
Lle curai calon y Frenhines,
Yr hon, tra ’roedd ar ei gliniau’n crynu,
A wêl Syr Owain yn ei ddal i fyny!
A’i dwylaw’n estyn tros y bâd,
Hi ddyry floedd, “O, Nefol Dad!
Fy mhlentyn yw! fy mhlentyn yw!
Estynnwch ef yma, mae’n fyw, mae’n fyw,
Diolch, O diolch! fy Nuw, fy Nuw!”
Ym mhen rhyw ddeugain nydd ar ôl
Yr anffawd yma, mae eglwys Sant Paul
Yn llydan agor ei phedwar dôr,
I gynulleidfa fel y môr:
A holl eglwysydd tref a gwlad,
Mewn mawl a gweddi’n gwneud coffhad
O’r hir gofiedig ddydd y bu
Seren eu gobaith tan gwmwl du;
Diwrnod o Ddiolchgarwch yw
I’r Hollalluog, am gadw’n fyw
Dywysog Cymra hoff, ac am
Aml drugaredd Duw i’w fam.
Pobloedd a lifa hyd y ffyrdd,
Marchogion a cherbydwyr fyrdd;
Ond mae Catrin yn gwahardd
Eistedd yn ei cherbyd hardd,
Ac yn ufuddhau i’r Pab,
Trwy gerdded Llundain gyda’i mab.
Rheng o filwyr sydd o’i blaen
Yn gwneud y ffordd yn rhydd,
Ac yna offeiriadon fil
O’r hen Gatholig ffydd.
Mae’r ieuanc dywysog yn hoew ei gam,
Ag un llaw yn cydio yn ermin ei fam;
Ac yn ei law arall yn cydio yn dynn
Mae’r hwn a’i hachubodd o waelod y llyn;
Y tlotaf yn Llundain gweld Owen a gais,
A gwaedda, “Hawddamor!” hyd entrych ei lais;
Gwŷr o bob cenedl, dosbarth, ac urdd,
Unant ym manllef groesawus y myrdd.
A Phylip o Furgundi, Eric, a John,
Yn perffaith ddiflasu ar ddinas fel hon,
Yn gwneud y fath helynt a sŵn efo dyn
Nad oedd ganddo fodfedd o wlad iddo’i hun.
O fil o ffenestri ar aswy a de,
Mae uchel orohian, “Hwre a Hwre:”
A merched glân Llundain, rif mân sêr y nos,
Yn lluchio cawodau o feillion a rhos;
A’u geiriau o’u calon yn rhedeg yn syth,
“Henffych, Syr Owen, Syr Owen am byth!”
Y pynt a’r plasau, addurnid yn wych,
Chwifid llumanau a chenid y clych;
A byth, cynt na chwedyn, ni welwyd un dydd
O gymaint brwdfrydedd yn ninas Caerludd.
Heblaw yn Sant Paul ac eglwysydd y dref,
’Roedd Cymru benisel yn diolch i’r Nef;
Ac ni ddylid pasio heb gymaint a sôn
Am Eglwys fach dlawd,
Oedd i’r Saeson yn wawd,
Ym mhentref fy nghalon—Hen Ben Mynydd Môn
Oedd ddarlun mewn ystyr wedi ei dynnu
O Wyllt Walia y pryd hynny:
Isel, noeth a maluriedig
Oedd ei muriau cysegredig,
Rhuai’r gwyntoedd gân adfeiliad
Trwy agenau’r hen adeilad:
Hyd ei cherrig bedd a’i chroesau
Tyfu’r ydoedd mwswg oesau;
Bechan oedd ei chloch, efallai,
Ond hi ganodd fel y gallai!
O’r gwasanaeth yn Sant Paul
Awn i Windsor eto’n ôl,
Mae yno heno arlwy hael,
A gwledd i fod a dawns i’w chael;
Ni yrrodd Fflanders nac Ysbaen,
Holand na Ffrainc, erioed o’r blaen
Ddanteithion mwy mewn canrif gron
Nag sydd ar fwrdd yr arwest hon.
Ymlaen, ymlaen, daw bwydydd fil,
A gwinoedd cedyrn wrth eu sgîl!
Llifeiriant coch ar derfyn dydd,
Fel afon Rhein yn codi sydd;
Ond cyn i lanw Bacchus gau
Ar ddorau Rheswm, dacw ddau
O gardinaliaid ar eu traed,
Ac un mewn capan coch fel gwaed,
Yn uchel weiddi:—“Gosteg! Gosteg!
Heno mae Prydain yn nhymp yr adeg,
Heno mae gorsedd Brenhines weddw
Y deyrnach a’i golud arnoch yn galw;
A thros y Goron a’i thrâs hygaraf
A llu o fawrion heno llefaraf.
Fy swydd i yma heno yw,
Yn enw’r duwiol Dad yn Nuw,
A’r Drindod sanctaidd yn gytûn,
Yw dyweddïo dau yn un:
Yn enw’r Goron a’r orsedd-fainc,
Syr Owen Tudur a Chatrin o Ffrainc
Heno cyhoeddaf, mewn eglur iaith,
Eich glân briodas y gyntaf waith:
Tros fyd fy llais yr ennyd hon
A dreiglo’n orfoleddus don;
Llafar bid lafar, mud bid fud—
Od oes o unrhyw barth o’r byd
Air yn erbyn ieuo ’nghyd
Y ddeuddyn hyn, doed ger fy mron!
A hy lefared yr ennyd hon.”
Druan o Eric—aeth ef yn fud;
A bwyta’i ewinedd wnâi’r Cownt Odessa;
Fe yfodd Essex ei win i gyd
Wrth geisio meddwl pa beth ddoi nesa;
Pan godai Harold, o freiniol waed,
I annerch y cardinal ar ei draed,
Edrychai yn greulon-filain fal
Hen farcud newydd gael ei ddal:—
“ ’Rwyf fi,” medd ef, “yn un a fu
Yn falch o achau’r brenhinol dŷ
Ar un llaw, gwybyddwch; ac yn un a all
Fawrhau gwrhydri dyn, ar y llall.
Nid amarch i Dudur yn awr ydyw dweyd
Fod gennym ddyletswydd wleidyddol i’w gwneud;
Mewn tegwch a doethder mae ef yn rhy gry
I ddigio wrth gyfaill am siarad yn hy,
Chwilio i’w achau yw’r cyntaf peth wnawn—
Os deil yr ymchwiliad, wel—popeth yn iawn.
Chwiliwch achau bôn y gwynt,
Pan fo ar hynt yn rhuo:
Pwy sy’n malio o ba le,
Gogledd, llewin, dwyrain, de,
A’r dderwen wedi syrthio!
Chwiliwch achau bôn y gwaed
Gan gariad wnaed i guro!
Para wnâ’n un pur o hyd,
Ni all holl aberoedd byd
Na moroedd ei amhuro!
Chwiliwch achau’r Capten ddaeth
A’r llong i’r traeth o’r dyfnfedd;
Ple mae’r ferch feddyliai am
Enedigle ’i dad a’i fam,
A’i chariad wedi’i chyrraedd!
Yn gwrando ar drahaustra mawr
Harold ac eraill,
A redai waed Cymreig i lawr,
Mae distaw gyfaill—
Gwrendy fel teigr pan fo sŵn
O gylch ei ffau gyfarthiad cŵn—
Deon Llangarfan yw efe,
Mae’n codi, ac arall yn dod i’w le.
Syr Owen Tudur wrth weld ei ffrynd
O’r wledd yn myned ymaith,
Dywed, “Foneddwyr, ’rwyf finnau ’n mynd
Ar ôl fy hen gydymaith:
Tra fo gwŷr o fri yn chwilio fy nhrâs
Mewn pob rhesymoldeb,
I chwi a minnau cyfartal gas
Yw ’mhresenoldeb.”
Ac ymaith ag Owen,
Yn foesgar a llawen,
O blith y twysogion a’r mawrion mân, mân—
Ac aeth i ystafell
Yng ngogledd y Castell
Oedd heno’n agored i’r ddawns ac i’r gân.
Esgob Caerefrog a gyfyd yn awr,
Gan ddweyd, “Mae Syr Owen yn frenin o waed;
Mae gwraidd ei âch-dderwen mewn dyfnder rhy fawr
I gael ei niweidio gan Harold a’i draed.
Olrheiniwch ei famau i naw a deng radd,
Chwi gewch fod eu henwau’n anrhydedd i’w gwlad,
A chewch mai rhyfeloedd tros Ryddid fu ’n lladd
Llinell ei deidiau o dad ac i dad.”
“Gall hynny fod, gall hynny fod,”
Medd Bedford mewn hwyl ymrafael,
“Ond beth ydyw Cymru ond gwlad ddi-nôd,
Gyda bonedd tlawd diafael;
Heb ynddi ddafn o frenhinol fôn,
O bentir Tinbych i Ynys Fôn?”
Ac Esgob Westminster, fel llawer hen dad,
Ysgydwodd ei foel-ben gan ddwedyd, “Mae’r wlad
Yn drech na’r frenhines mewn mater fel hyn;
Hi gyll ei gorseddfainc os Owen a fyn,
Pe bai hi’n bresennol, ni hidiwn i ddraen
A dweyd yn ei hwyneb yn syth ac yn blaen,
Y Pab yw ein Brenin, yn enw’r Wen Fair,
Ni chaiff hi mo Owen—cymerwch fy ngair.”
Fel yna ystafell y loddest adawn
Ynghanol y ddadl chwilboethaf,
Ac at y Frenhines a Thudur yr awn,
Lle dawns ac y cân y rhai doethaf.
* * * * *
Yn ôl trefniadau’n flaenorol a wnaed,
Mae’r deugain talaf o’r milwyr traed
Ym myddin ardderchog Brydain Fawr
I’r ’stafell ddawns yn cyrchu’n awr.
A deugain gŵr, ag offer pres,
Gan chwarae tôn yn dod yn nes;
Nes gwneud cynteddau Tŵr Sant Sior
I ruo megis sŵn y môr,
Gan yrru twrdd o gell i gell,
A chryndod trwy’r selerydd pell.
Daw pedwar marchog yr ennyd hon
Gan ddal i fyny bedair ffon—
Ar flaen pob ffon mae modrwy glaer
Yn dal i fyny’r “brethyn aur,”
Yr hwn fel canopi uwch ben
Sydd frith o emau fel sêr y nen;
Ac ar y brethyn aur gwnaed lle
I Fab y Frenhines—dacw fe!
Mae’n cario baner, a’i harwyddair yw;
“Myfi fûm farw wyf yn fyw.”
Annisgrifiadwy am ennyd oedd
Y curo dwylaw a’r daran floedd:—
“Hir oes i’r Twysog, ac oes o hedd
I’r hwn a’i cododd o’i ddistaw fedd.”
Ymgrymodd Owen, ac yna caed
Gyda’r gerddoriaeth gynghanedd draed;
A’r ddawns agorwyd gydag ysgafn gainc
Gan Owen Tudur a Chatrin o Ffrainc.
Yn un o chwimdroeon y ddawnsfa hon,
Collodd Syr Owen oddiar ei fron
Genhinen arian;
Ond cafodd hi’n glynu yn y rhwydwe mân
A guddiai ysgwydd ei gymhares lân,
A’i brig a’i gwraidd yn gyfan.
Ac yna gyda swyngar wên,
Medd ef wrth Gatrin, “Hir y bu’r hen
Genhinen hon yn ddigon gwyw,
Ond chwi a’i gwnaethoch eto’n fyw.
Rhoes cenedlaethau, gyda’r cledd,
Ddaear Anobaith ar ei bedd;
Er hynny oll mae ynddi swyn—
Anedlwch arni er fy mwyn;
Mae atgyfodiad yn eich bron
I’r hen Genhinen annwyl hon.”—
Ond gwrida Catrin fel y wawr,
Gan ddweyd, “Syr Owen, gadewch yn awr
I’ch hoff Genhinen swynol, dlos,
Wylio fel angel fy ngobennydd nos.”
Ar hyn daeth Marian Grey ymlaen,
A chyda hi, Elisabeth o Gaen,
Gan ofyn i’w Mawrhydi’n awr
Gyda Syr Owen ddod i lawr,
I neuadd dderw y Brenin John,
Neu stafell Arthur y Ford Gron—
Wedi peth amser i’r olaf aed,
O daran drwst yr hoewon draed.
Medd Catrin wrth Syr Owen yn stafell y Ford Gron,
“Cyn dechreu chwarae marteaux yn y dawelfan hon,
Mae gennyf freuddwyd rhyfedd, na weddai im ei ddweyd
Wrth neb ond chwi, Syr Owen—fel pe bai wedi’i wneud
Gan un o’m deiliaid dylaf sydd mewn gwallgofdy’n byw.”
“Adroddwch ef,” medd Owen, “os breuddwyd—breuddwyd yw—
Yn effro fel siaradwr po doethaf fyddo dyn,
Yng nghwsg efo yw’r ffolaf a’r hurt-ddigrifaf un—
A’r ffolaf trwy ei fywyd yw’r callaf trwy ei hun.”
“Breuddwyd gefais neithiwr oedd gweled wrth fy sedd,
Ddau dwysog sydd yn awr yn eistedd yn y wledd,
Mynnai un ohonynt i chwi gael torri’ch pen,
Eich ’sbedu fynnai’r llall ar felltigedig bren;
Mynnai un y deyrnas oll, a mynnai’r llall y môr,
Mynnech chwithau fy nghael i, i gapel hen Sant Sior;
Yno daethant hwythau a’u hawl i’w chadarnhau,
A mynnwn innau chwi i dorri pen y ddau.
“Torsoch chwithau’u pennau yn ufudd a di nâg—
Gwybuwyd wrth eu sŵn fod pen y ddau yn wâg;
Chwiliwyd eu llogellau, ond yno ’chaed dim byd
Ond biliau mawr a mân Iddewon oll i gyd.
Yna, meddyg, agor wnaeth fynwesau oer y ddau,
I gael gyrru tros y môr eu hen galonnau gau;
Chwiliodd gyda channwyll, boddlonodd toc ei hun,
Fod calon cyw gan John, a’r Eric heb yr un.”
Cydymaith y Frenhines, y brydferth Marian Grey,
Pelydrai wên ar Owen gan ofyn, “O ba le
Y tarddai’r holl freuddwydion oedd trwy y nos yn troi,
Ac i ba le yr aent ar ôl i ddyn ddeffroi?”
“Fe ddwedir,” meddai yntau, “fod holl helyntion oes
Yn lle dod fel y breuddwyd yn dod yn hollol groes:
Ond mae athronwyr eraill, fel y gwelsoch weithiau ffyn,
Yn hollol groes i’w gilydd ynghylch y pethau hyn,
Yn dwedyd fod Breuddwydion yn fath o fodau mân,
O oleu-leuad caled, heb arnynt flew na gwlân,
Na phluf, nac unrhyw orchudd, oddigerth math o wê—
A wnânt o waith pryf copyn; a chanddynt hwy yn lle
Y synnwyr i atgofio am bethau wedi bod,
Fod ganddynt hwy wybodaeth am bethau sydd i ddod!
Dechreusant hwy eu gyrfa yn niwedd Amser mawr,
A ninnau o’r pen arall a’u cwrddwn hwynt yn awr;
Gan newid ein newyddion sydd gennym mewn ystôr,
Tra croeswn eigion Amser fel llongau ar y môr;
A dwedir fod eu clociau yn ardal Hud a Rhith,
Fel y mae’n rhesymol iddynt, bob un yn troi o chwith.”
“Beth ydynt?” ebe Catrin.
Medd yntau, “O ran barn
Bersonol, ’rwyf fi’n credu fel Robyn Ddu, Pen Sarn,
Hen ddewin fyddai stalwm yn arfer blino’r Fall,
Trwy ddangos tan pa blaned y genid hwn a’r llall.”
“Beth ydynt?” ebe Catrin, “dowch yma, Marian Grey, (Yn ddistaw)
Mae dewin y dewiniaid o fewn ei lygad e—
’Rwy’n ofni edrych arno hyd yn oed am ennyd fach,
Un drem a’m gyr i lesmair, a’r ail a’m gwnâ yn iach:
Un eiliad ’rwy’n druenus wrth eistedd gydag ef,
A’r nesaf ’rwyf yn ddedwydd fel yn y drydydd nef.
’Rwy’n ofni edrych arno, ac eto yn fy myw
Ni allaf beidio ag edrych, mor lân ei galon yw
Ag oen ar fore gwanwyn, neu wennol ar ei nyth—
Ond ŵyr ef ddim ei hunan, os gŵyr ef hynny byth;
Fe allai pe bai’n gwybod na byddai hardded dyn; (gan droi ato)
Yn awr, Syr Owen Tudur, beth yw eich barn eich hun?”
“Creduriaid yw Breuddwydion,”
medd yntau ’n union deg,
“Sy’n cael eu gyrru atom o gylch y Tylwyth Teg,
I chwilio ac ymofyn ein holl gyfrinion cudd,
I holi’r hyn a basiodd, a dweyd yr hyn a fydd.
Os digwydd Breuddwyd ddisgyn yn ysgafn ar eich clust,
I ryw ddamweiniau, drannoeth, chwi fyddwch lygad dyst;
Pan ddisgyn ar eich ysgwydd neu ar eich deheu fraich,
Mae’n argoel anffaeledig o ryw orthrymus faich:
Trwy ddisgyn ar y gwddw, fe yrrodd lawer un
I dorri pen un arall i gadw’i ben ei hun.
Oblegid fod y Wawrddydd yn dwedyd wrtho ‘dos,’
Ni all un Breuddwyd aros oddigerth tros y nos;
Ond os yng ngwres y fynwes am ennyd y gwnâ’i nyth,
Breuddwydio a breuddwydio y bydd calon dyn am byth!”
Yn ddistaw bach wrth Marian, medd Catrin, “Pam, nis gwn,
Ond mae rhyw oglais rhyfedd yng ngeiriau’r Cymro hwn;
Mae’n gwybod holl chwedleuon Arabia ac Ysbaen.”
“Eich pardwn,” ebe Owen,
Ac yna aeth ymlaen:—
“Mae gwylfa fel mewn lluest ynghylch y Tylwyth Teg,
I’w basio gan Freuddwydion, rhwng deg ac un-ar-ddeg:
Fel milwyr eich Mawrhydi, y gaeaf fel yr ha,
Y maent o dan orchymyn i gadw amser da.
Mae llawer math ohonynt yn crwydro ar eu hynt,
Rhai’n marchog cefn yr afon, ac eraill war y gwynt;
Disgynna un ar hamog y llongwr ar yr aig,
A dengys iddo’i gartref ag wyneb hoff ei wraig:
Disgynna’r llall ar filwr, a gwsg ar eigion hallt,
A dengys iddo’r eneth sy’n cadw’i gudyn gwallt.
Gwnâ’r llall ei ffordd i’r fynwent, a dwg eich plentyn gwyn,
A gladdsoch ers blynyddoedd ym mhriddell oer y glyn,
I gydio am eich gwddw â’i freichiau gwynion, bach,
Gan edrych trwy eich llygad fel pe bai fyw ac iach!
Gwnâ un ei ffordd i’r carchar, trwy dyllau ugain clo,
A dyry ddwylaw rhyddion i lofrudd, ambell dro.
 un at wely’r Esgob, sy’n tynnu at ei gant,
A dwg ef i Rydychen i chwarae gyda’r plant;
Â’r llall at James o Scotland sydd heddyw yn y Tŵr,
A dwg ef tros Loch Lomond i ganol grug Ben Muir.
Breuddwydion! O, Breuddwydion yw’r lladron penna ’rioed,
Ant tros y wal ddiadlam, fel brain tros lwyn o goed!
I’r gwan a’r cystuddiedig gorffwystra gwynfyd rônt,
A thros y wal ddiadlam yn ôl drachefn y dônt,
I gipio rhyw hen gybydd ar wibdaith trwy ei hûn
At gist o aur a guddiwyd gan un fel ef ei hun—
Chwi gredwch y gwirionedd os credu hyn a wnewch,
Yr hyn a gerwch fwyaf bob amser ganddynt gewch;
Os gwelodd fy Mrenhines fyfi yn ardal wen
Breuddwydion pur ei chalon, gwyn fyd na bai fy mhen
Yn nes i’r ardal honno, yn teimlo gwres y fron
Deyrnasa ar fy nghalon heblaw y deyrnas hon.”
“Beth ddwedech chwi,” medd Marian,
yr hon â llygad llon,
A deimlai swyn carwriaeth yn anghysurus bron,
“Am dreio’ch llaw ar gardiau?” yna’n chwaraegar, ac,
Fel ymherodres Tesni, hi gydiodd yn y pac:
“Croeswch fy llaw ag arian,”
medd Marian gyda gwên,
Gan ddal y pac i fyny a’i wasgu ar ei gên,
Elisabeth o Gaen, trwy ddamwain, gadd o’r pac
Yr “âs o’r deimwnd”—mwrdwr!—a Marian Grey y “Jac.”
Arwyddai’r cyntaf “Fodrwy,” ac nid oedd argoel well,
A’r “Jac”—“i fod mewn neithior heb achos mynd ymhell.”
E dorrodd Owen Tudur “Frenhines y Deng Rhaw,”
A Chatrin “Ddeg y galon,” fel gwyrth ar balf ei llaw;
Arwyddai cerdyn Owen “Hardd weddw ganol oed,”
A “Deg y galon” ydoedd “Priodas yn ddi-oed.”
“ ’Rwy’n credu’n awr mewn cardiau,”
medd Elsbeth deg o Gaen;
“A minnau,” ebe Marian, “fu ’rioed fath beth o’r blaen,
Ac mewn breuddwydion hefyd mae gennyf gadarn ffydd”;
Ond gair ni ddywed Catrin ond gyda gwrid ei grudd:
A mud yw Owen Tudur—ond dywed cyn bo hir,
“Os twyll ac anwir ydynt, mae modd i’w gwneud yn wir;
Nid ofergoelus hollol yw’r hwn mewn twyll a gred,
Mae llawer wyneb geirwir yn gwisgo masgarêd:
Ac ambell fwyalch loywddu yn digwydd troi yn wen,
A Breuddwyd hefyd weithiau yn digwydd dod i ben!”
Dechreusant chwarae wedyn, ond clywsant allan floedd,
A mawr lawenydd miloedd—y Nuncio yno oedd
Yng ngherbyd ei Mawrhydi, a’r Cardinal de Pole,
A lleng o bobol Windsor yn osgordd ar eu hôl.
Y Nuncio: O! y Nuncio! mae’n sefyll ac yn troi
Ei wyneb at y bobol, ac arnynt fel yn rhoi
Ei Fenedictum grasol—ei gorun gwyn sydd noeth,
A dengys lled ei dalcen ei ddwfn wybodaeth goeth,
Mae’n gwisgo tunig sgarlad, a’i wasgod or-ddu fal
Rhyw sidan gloyw caerog, ac yn ei law mae’n dal
Gwialen ddu o ebon, yr hon lewycha’n frith
Gan gylchau aur ac arian a pherlau yn eu plith.
Medd Catrin, “Cyn ymadael, ni allaf fi fel mam
Fy machgen bach, Syr Owen, fyth ddiolch i chwi am
Eich ffyddlon garedigrwydd i mi ers amser maith,
Na dweyd fy niolchgarwch, na’ch iawn wobrwyo chwaith,
Yn deilwng fel y dylai y wlad a’r goron wneud,
Ond hyn,” gan dremio drwyddo, “Syr Owen ’rwy’n ei ddweyd:—
Am naw y bore fory i Windsor eto dewch,
A chyda mi a’r Nuncio eich ffafret ginio a gewch.”
“Y fory!” ebe Owen, “Nid mor rhwydd,
Y fory yw diwrnod pen fy mlwydd;
’Rwyf wedi gwahodd fy oedrannus dad
A deg o ddeiliaid ein hen ystâd
I dŷ fy mrawd.”
“Eich brawd!” medd Catrin, “eich brawd, eich brawd!”
“Ie,” medd Owen, “ac y mae ef yn dlawd;
Ac fel mi fy hun, ysywaeth,
Wedi ei yrru gan seren ffawd
O’i etifeddiaeth.
’Does ganddo ef a minnau ond pedair mil yr un
I’n cynnal yn y flwyddyn, a byddwn lai na dyn
Pe rhuthrwn o Ben Mynydd i sefyll wrth eich sedd
(Mae Catrin unwaith eto yn dechreu gwlitho’i gwedd)—
Na phlannu drain yn Windsor, gwell gennyf blannu cledd
Trwy’r drain sydd yn fy nghalon, ac agor adwy rydd
I’m gwaed fynd o’i dylodi i’r tragwyddoldeb cudd—
Gwell gennyf farw o’ch eisiau ym mhalas bach fy mrawd,
Na marw o gywilydd fy mod yn gydradd tlawd!”
Mae Catrin mewn amrantiad yn codi ac yn troi
At ddrws yr hen ystafell ac oddimewn yn cloi,
Gan ddwedyd:—
“Ah! Syr Owen, y chwi yn esgusodi!
Anwylyd gwyn fy nghalon yn ceisio tynnu’n ôl
Y llaw sydd i’m priodi!
Mae angel yn fy mynwes a enfyn Duw i’ch nôl
Pe baech yn eigion tlodi.
Ai dyna yw eich esgus eich bod yn dlawd yn wir!
Yw’r deyrnas yn eich golwg ddim mwy na’r darn o dir
A gollsoch yn ei chongol! Yw Lloegr o ran maint
A gwerth yn anghyfartal i’ch genedigaeth fraint?
Esgusion! O, esgusion! ychydig wyddwn i
Fod lle i fleiddiaid felly o fewn eich enaid chwi!
Syr Owen, O, Syr Owen! a wnaech chwi fi yn wawd,
A wnaech chwi esgus imi pe bawn yn eneth dlawd!
O! ’r nef, ’rwy’n fwy na gweddw a gor-ymddifad un,
Yn wrthrych cydymdeimlad ac esgusodion dyn!”
“Ond Ah! beth ddwed y Senedd?”
Medd ef â chalon drom,
“Os try hen achau Gwynedd
Yn fethiant ac yn siom!”
Medd hithau, “Dyna’r diwedd,
Os cawn ni ddwylaw’n gilydd, cânt hwythau eu hymgom.”
“Ond O! eich hen esgusawd gleddyfog greulon, ffôl,
O’m calon fau lle glynodd, O, tynnwch honno’n ôl!
Dyma yr archoll dyfnaf fu yn fy mron erioed—
Syr Owen, eich anrhydedd! atebwch yn ddi-oed
(A’r glaw drachefn ddisgynnodd) Syr Owen, ufuddhewch:
Chwi a’ch teulu, fory, i Gastell Windsor, dewch!”
“Mae fory’n Ddygwyl Dewi, a’n harfer ni ym Mön,”
medd Syr Owen,
“Yw deffro telyn Cymru a chanu gyda’i thôn
Lawen, lawen;
Mae ’nhad ers llawer blwyddyn yn hel i blith ei blant,
I gynnal fy mhen blwyddyn ar Ddygwyl Dewi Sant;
Mae wedi teithio ataf o ganol Ynys Fôn,
Ac wrthyf fi yn unig y mae yn hoffi sôn
Am ei ofidiau trymion ynghylch y stâd, ac am
Y tir a draws-feddiannwyd oddiar fy annwyl fam—
Yn unig am yfory ’rwy’n gofyn troi fy nghefn.”
“Cewch eich pen blwyddyn yma,” medd Catrin deg drachefn,
“A hefyd Ddygwyl Dewi—ond cyntaf gwaith y dydd
Fydd cynnal ein Priodas—priodas ddirgel fydd;
Mae’r Nuncio mewn awdurdod oddiwrth y Pab ei hun
I roi ei fendith arnom, a’n gwneud ein dau yn un.
Y dydd yr achubasoch fy unig annwyl fab,
Mi yrrais Arglwydd Beauchamp yn gennad at y Pab.
Pe buasai ei Sancteiddrwydd yn gwrthod trwydded im,
Gwrthodswn innau’r Goron—beth ydyw’r Goron? dim
Ond arwydd o lywodraeth, a gwell gan innau gael
Llywodraeth ar fy nghalon na thegan ar fy ael!
Ni’m dawr pe drylliai’r senedd yn gandryll oll os yw
Eich calon chwi yn gyfan. Yfory, os byddwn byw,
I gadw eich pen blwyddyn, caf innau’r fraint o ddod,
Yn cadw Dygwyl Dewi caf innau hefyd fod:
A phen eich blwydd, fy nghariad, ar Ddygwyl Dewi Sant,
Coronir gyda bendith ar genedlaethau gant:
Pan rowch chwi Fodrwy Lloegr ar fys fy aswy hon,
Rhof innau hen Genhinen hen Gymru ar eich bron!”
“Ai Breuddwyd hyn!” medd Owen, “a dderfydd ac a ffy?”
Ond gyda’r Nuncio trannoeth cadd weld mai felly fu.
|
Gwobrwywyd y gerdd hon yn Eisteddfod Fangor, 1874. |
Nant y Mynydd, groew, loew,
Yn ymdroelli tua’r pant;
Rhwng y brwyn yn sisial ganu,
O na bawn i fel y nant!
Grug y Mynydd yn eu blodau,
Edrych arnynt hiraeth ddug,
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo’r grug.
Adar mân y mynydd uchel,
Codant yn yr awel iach;
O’r naill drum i’r llall yn hedeg—
O na bawn fel deryn bach!
Mab y Mynydd ydwyf innau,
Oddicartref yn gwneud cân,
Ond mae ’nghalon yn y mynydd
Efo’r grug a’r adar mân.
Cainc: Merch Megan.
Mae Rhosyn yr Haf yn dechreu blaendarddu,
A mantell y maes yn newydd yn awr:
Mae egin yr ŷd yn edrych i fyny,
A’r haul yn ei wres yn edrych i lawr;
Mae’r wennol yn dychwel i’w hannedd ei hunan,
Ac iechyd yn dychwel i fynwes y claf:
’Does neb yn rhy hen i wenu ar anian,
Pob wyneb a wên ar Rosyn yr Haf.
Mae Rhosyn yr Haf yn dechreu blaendarddu,
Y Gwanwyn a drôdd a gwynnodd y drain:
Mae’r helyg yn îr a’r gweunydd yn gwenu,
Y dolydd yn deg a’r goedwig yn gain;
Mae blodau afalau fel eira’n y berllan,
Ac adar yn canu ple bynnag yr âf:
’Does neb yn rhy hen i wenu ar anian,
Pob wyneb a wên ar Rosyn yr Haf.
Cainc: Codiad yr Haul.
Gwel, gwêl! wyneb y wawr,
Gwenu mae y bore gwyn mawr:
Ac wele’r Haul trwy gwmwl rhudd,
Yn hollti ei daith gan dywallt Dydd!
I’w ŵydd, adar a ddônt,
Dreigiau’r Nos o’i olwg y ffônt.
Pwy ddwed hardded ei rudd,
Wyched yw gwynfreichiau Dydd!
Try y môr yn gochfor gwaed,
A’r ddaear dry o dan ei draed,
A’r ddaear dry o dan ei draed!
Haul, Haul! hyfryd yw Haul,
Wyneb Hedd yw wyneb yr Haul:
I fyrdd y dysg fawredded yw
Y gwynwedd dân gyneuodd Duw!
I’w daith, fyny y daw,
Llygaid dydd, fe’i gwelant ef draw:
Egyr pob blaguryn byw,
Ar rôs a gwaun yn rhesi gwiw—
Gwêl pob peth wyn haul y nen,
E gŵyd y byd pan gŵyd ei ben,
E gŵyd y byd pan gŵyd ei ben!
Goed yr Hydref! Goed yr Hydref!
O! mor brydferth, O! mor brudd
Ydych heddyw ar ôl dioddef
Llwydrew’r nos a gwres y dydd;
Ddoe yn wyrddlas yn ymledu
Mewn llawenydd at yr haul,
Cyd-heneiddio—cyd-aeddfedu—
Cyd-ddiflannu mae eich dail;
Ond gweddi yw,
Gan ddynol ryw,
Goed yr Hydref, byddwch byw!
Goed yr Hydref, ple mae’r gwanwyn,
Gyda’i lesni îr a gwyrdd?
Ple mae llygaid dydd y dyffryn?
Ple mae meillion mîn y ffyrdd?
Ple mae gwlithog wên y nefoedd,
A’r awelon, a’ch bywhaent?
Coch a gwyn rosynnau’r gwrychoedd,
Goed yr Hydref, pa le maent?
Ond gweddi yw, etc.
Goed yr Hydref! ni bu enfys
Yn ymblethu gyda’r wawr,
Gyda lliwiau mor fawreddus
A’ch pelydrau chwi yn awr:
Sut na welem hyd y dyffryn
Gôr adeiniog ar ei hynt?
Sut na chlywem un aderyn—
Un o’r mil a ganai gynt?
Ond gweddi yw, etc.
Cainc: Codiad yr Hedydd.
Clywch, clywch foreol glod,
O fwyned yw’r defnynnau’n dod
O wynfa lân i lawr.
A’i mân ddefnynnau cân
Aneirif lu ryw dyrfa lân
Ddiangodd gyda’r wawr!
Mud yw’r awel ar y waun,
Brig y grug yn esmwyth grŷn:
Gwrando mae yr aber gain,
Yn y brwyn ymguddia’i hun.
Mor nefol swynol ydyw’r sain
Sy’n dod i ddeffro dyn.
Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd,
O le i le ar adain lwyd,
Yn uwch, yn uwch o hyd:
Cân, cân dy ddernyn cu,
A dos yn nes at lawen lu
Adawodd boen y byd.—
Canu mae a’r byd a glyw,
Ei alaw lon o uchel le:
Cyfyd hiraeth dynol ryw
Ar ei ôl i froydd ne:
Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw
I fyny fel efe.
Cainc: Merch Megan.
Mae’r deryn yn fyw, gadewch iddo fyned,
Mae llewych yr haul yn dyfod i’w dŷ:
I’w swyno i maes, o wïail caethiwed,
Ac yntau yn falch o degwch ei blu:
A’i aden am hedeg i gyngerdd y cangau,
I’r feigen gyfagos, i fysg ei gyd-ryw:
Gadewch iddo roi ei draed ar y creigiau,
Gadewch iddo ffoi, mae’r deryn yn fyw!
Mae’r deryn yn fyw, a Rhyddid yn annwyl,
Gan adar y nef, a dynion y llawr:
Mae’r awyr yn lâs, a deryn yn ymyl,
Yn disgwyl ei frawd i’r goedwig yn awr.
Ei gwynion a gân, ei edyn a gyfyd,
Mae’n gofyn am gyfaill i agor y ddôr:
Gadewch iddo roi ei draed ar y creigiau,
Gadewch iddo ffoi i’r mynydd a’r môr!
Mewn carchar du oer y cadwynwyd fi,
Ond clywaf y bobloedd yn bloeddio,—bloeddio!
A bloeddio yn nes ac uwch mae y cri,
Fod y dydd yn dyfod i’m gollwng i;
A dyna fagnelau yn rhuo,—rhuo!
Mae’r dorf yn cyhoeddi iwbil-ddydd,
Garibaldi sy’n dyfod i’m gollwng yn rhydd.
Mi glywaf yn dod offerynnau pres,
A mil o dabyrddau yn tyrddu,—tyrddu!
Cân rhyddid yw hi, a theimlaf ei gwres
Fel y dêl ymlaen, yn nes ac yn nes,
Nes bod fy hen garchar yn crynu,—crynu!
Fe wêl fy ngolygon oleu dydd,
Garibaldi sy’n dyfod i’m gollwng yn rhydd.
Ein heiyrn a dawdd dan gyffyrddiad ei fys,
Fy nghydgarcharorion, O! bloeddiwn—bloeddiwn,
Mae’r Eidal, ein gwlad, yn rhydd yn ddi-lys,
Mae y sêdd yn wag yn y gormes lys,
Caneuon Italia, O! canwn,—canwn!
A diolch i’r nefoedd, daeth y dydd,
Garibaldi gyrhaeddodd, mae’r Eidal yn rhydd!
Cainc: Bardd yn ei Awen.
Mae Bardd i ddod ryw ddydd,
A brenin fardd ein bryniau fydd,
Fe ddaw i Gymru lân:
Ei wlad a glyw ei lef,
A ni a phawb a’u hoffwn ef,
Pan gwyd pen cawr y gân:
Fe â i ddwyfol fan,
Yng nghiliau dwfn hen galon dyn:
Am Hedd fe gân o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghŷd
Enwadau’r byd yn un!
Fe ddaw y Bardd i’r byd,
A’i gân i ben, O! gwyn eu byd
Y dorf a wêl y dydd!
Pwy wêl y bore gwyn,
Ac heulwen deg cyflawniad hyn,
Y fath gyfundeb fydd!
Daw bardd i fysg ein plant,
I daro tant yn natur dyn:
Am Hedd fe gân o hyd,
Fod angel Hedd yn hel ynghŷd
Enwadau’r byd yn un!
Cainc: Ar hyd y nos.
Holl amrantau’r sêr, dywedant,
Ar hyd y nos,
Dyma’r ffordd i fro gogoniant,
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu’r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwên y Seren
Ar hyd y nos;
I oleuo’i chwaer-ddaearen
Ar hyd y nos;
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i’n gilydd
Ar hyd y nos.
Daw meddyliau am y nefoedd
Gydag awel wan y nawn;
Gyda llanw’r môr fe ddeuant,
Gan lefaru’n felys iawn:
Pan fo’r mellt fel sêr yn syrthio,
Yn y storm gynhyrfus, gref—
Pan fo’r llong yn teimlo’r creigiau,
Daw meddyliau am y nef.
Daw meddyliau am y nefoedd
I unigedd fforest goed,
Ac i’r anial, lle na thyfodd
Un glaswelltyn bach erioed.
Ar fynyddau’r iâ tragwyddol,
Ac ar greigiau llymion, lle
Bydd eryrod yn gorffwyso,
Daw meddyliau am y ne.
Daw meddyliau am y nefoedd
I ynysig leia’r aig,
Lle mae’r don yn gosod coron
Gwrel wen ar ben y graig;
Trwy holl gyfandiroedd daear,
Glynnoedd dwfn, a bryniau ban,
Pur feddyliau am y nefoedd,
Dônt eu hunain i bob man.
O ddydd i ddydd mae melyn haul
Yn pasio yn ei gerbyd;
O nos i nos mae’r lleuad wen,
Yn codi ac yn machlud.
O awr i awr mae’r sêr yn troi,
Ar draws yr eangderau:
Mae holl gredigaeth enfawr Duw
Yn teithio tuag adre.
Mae’r ffrydlif fach ar ben y bryn,
Yn rhedeg megis crwydryn;
Ac afon fawr y dolydd is
Yn rhedeg yn y dyffryn.
Mae’r gwynt yn crwydro yn y nef,
A symud mae’r cymylau:
A’r môr cynddeiriog, rhua am
Rhyw lonydd lan yn gartre.
Bugeilgerdd.
Glogwyn annwyl, hoff gen i
Yw hamdden am funudyn,
Taflu carreg at fy nghi,
Neu eistedd ar dy gribyn;
Gwylio’r afon glir islaw,
A gollwng fy myfyrion
I’r terfysglyd drefydd draw,
Ym miwsig ei murmuron.
Bywyd Bugail—bywyd yw
Na ŵyr y byd amdano,
Heibio’r bryniau wele’r byw
Fel nant yn rhedeg heibio;
Golud, enw, bydol fri,
Yw eilun-dduwiau dynion;
Mwy na’r cwbl i’m golwg i
Yw praidd y bryniau gwylltion.
* * * * *
Fel yna canai llencyn mwyn
Ar grib y graig, nes iddo’i ddwyn
Ei hun i sylw llances lân
A wrandawai ar ei gân.
Hi ddaethai ar ladradaidd droed
I lwyn islaw, ac yn y coed
Ymguddio’r oedd, yn glust i gyd
I gerdd yr hwn oedd iddi’n fyd
Ei gwddf oedd fel y lili wen,
A nos o wallt oedd ar ei phen;
I’w chariad ar y clogwyn ban,
Rhy amlwg oedd ei hymgudd fan!
Ei Olwen oedd! a serch ei fron
Newidiai’r gerdd i’r ganig hon:—
“Mae gennyf wen golomen ddôf,
Erioed heb golli pluen,
Ac edrych arni leinw ’nghôf
A holl brydferthwch Olwen;
O! mae hi’n hardd! a hardd fydd byth
Aderyn diniweidrwydd;
Pan alwaf arni tan ei nyth,
Hi ddisgyn ar fy ysgwydd;
Ond hyn sy’n torri ’nghalon i,
Pan alwaf Olwen, ni ddaw hi!
Ac mewn gwialeg ar y mur
Mae deryn du pigfelen,
A dau eithafedd harddwch pur
Yw’r deryn du a’r glomen;
Y du yn edrych ar y wen
Trwy wiail ei gaethiwed,
A hithau’n chwarae uwch ei ben
Heb gymryd arni weled;
Ac er yr awr y caethiwaist fi,
O! Olwen annwyl, felly ti!”
* * * *
Ar draws y fuches adref
Dychwelai Olwen gu,
A’r holl wrthrychau welai
A drôi’n “aderyn du.”
* * * *
Ryw dro wrth fynd o odro,
A chunnog ar ei phen,
Yn ymyl camfa’r weirglodd
Cyfarfu’r “du” ei “wen.”
Pan ganfu’r llanc ei Olwen.
Ei galon deimlodd saeth;
A phan ganfuwyd yntau,
Fe syrthiai’r gunnog laeth.
Ond cyn i Olwen brydferth
Ail godi’r gunnog laeth,
’Roedd wedi gorffen amod
I fynd er gwell, er gwaeth.
A daeth yr adeg honno,
A’r naill i’r llall a roed,
A dau o rai ddedwyddach
Ni wnaed yn un erioed.
* * * *
Y dydd dywynnodd gyntaf
Ar ruddiau mab di-nam,
Fu’r dydd dywynnodd olaf
I lygad pur ei fam.
A hi ym mreichiau angau,
A’i golwg ar y glyn,
Trodd at ei mab, a galw
Ei enw’n Owain Wyn.
Fe gloddiwyd bedd i’r marw
Yng nghladdfa’r “Tyddyn Gwyn,”
A gwelai’r tad wrth hwnnw
Werth einioes Owain Wyn.
Ym mhen rhyw ddeugain gwanwyn
Ar ôl ei chladdu hi,
A deugain gaeaf brigwyn,
Dechreua’n chwedel ni.
Tros un o drumau Berwyn,
Ryw noson ddistaw oer,
Y teithiai gŵr lluddedig
Wrth oleu can y lloer.
Fry uwch ei ben yn crynu
’Roedd llawer seren dlos,
A chlywid yntau’n canu
Fel hyn i glust y nos:—
“Hen fynyddoedd fy mabandod,
Syllant eto ger fy mron;
Wele fi yn ail gyfarfod
Gyda’r ardal dawel hon;
Cwm wrth ochor cwm yn gorwedd,
Nant a nant yn cwrdd ynghŷd,
A chlogwyni gwyllt aruthredd,
Gwyliant uwch eu pennau’n fud.
Mewn pellennig gartrefleoedd
Wedi ofn a phryder hir,
Hoff freuddwydion fy mlynyddoedd
Sylweddolwyd gan y gwir;
Os ffarweliodd anobeithion
Ar fy ngenedigol wlad,
Ni ffarweliais yn fy nghalon
Gydag annwyl dŷ fy nhad.
Dacw ’nghartref îs y goedwig,
Groesaw! hen arwyddion hedd;
Dacw’r fynwent gysegredig,
Wele’r ywen—dyna’r bedd!”
A darfu cân y teithiwr
Mewn teimlad llon a phrudd,
A deigryn gloew, gloew,
Ollyngodd tros ei rudd.
Aeth heibio dôr ei gartref,
Os gofyn wnei paham,
Awgrymed dy deimladau,
A chofia fedd dy fam!
A threulio’r noson honno
Ar fedd ei fam wnaeth ef,
Nes suddo’r seren fore
I eigion gwyn y nef.
Ar ôl i lanw ei ofid
Ymollwng ar y bedd,
Ei galon esmwythaodd,
Ac ymdawelai’i wedd.
A chododd gan ddywedyd,
O dan brudd gangau’r ŷw,
“Nid oes ond un bedd yma,
Mae ’nhad—mae ’nhad yn fyw!”
A llaw grynedig curai
Wrth ddôr y Tyddyn Gwyn.
Merch ieuanc hardd agorai,
Gan edrych arno’n syn.
“Yw ’nhad yn fyw?” gofynnai,
“O fewn y muriau hyn?”
“Ai byw?” atebai hithau,
“Ei fab ef, Owain Wyn!”
“Byw! byw! eich tad, mi’ch adwaen,
Ef welaf ynoch chwi!”
Medd yntau, “Dwg fi ato,
Ei Owain ydwyf fi!”
Cyfarfu’r ddau a’i gilydd,
Distewi y byddom ni;
I dynnu’r darlun yma,
Mudanrwydd—tyred ti!
Megis adlais yn y glyn,
Sef llef y craig-chwiorydd,
A “Dychweliad Owain Wyn”
Cyfarchai pawb ei gilydd.
Hen gyfeillion, doent ynghŷd
I adrodd eu llawenydd,
Meibion henaint isel fryd
Yn ieuanc troent o newydd.
Pan oedd serch y wlad fel hyn
Am Owain i’w fynwesu,
Gwahodd wnaed i’r Tyddyn Gwyn
Bob un oedd yn ei garu.
A darpariadau helaeth wnaed,
Y llo pasgedig laddwyd,
A llawer oedd y nifer ddaeth
I weld y mab a gollwyd.
Ar ôl y wledd, tad Owain Wyn,
A’i lygad yn goleuo,
Cyfododd ar ei draed i ddweyd,
“Cydlawenychwn heno,—
O herwydd wele hyd fy nhŷ
Fy annwyl fab ddychwelodd,
Yn awr doed Owain ger ein bron
I ddweyd yr hyn a welodd.”
A welaist ti deimladau dyn
Yn selio ei wefusau?
Neu ddeigryn bychan mud yn dweyd
Yr hyn na fedro geiriau?
A welaist ti hyawdledd syn
A chryfder mewn anallu,
Iaith felly oedd iaith Owain Wyn
Pan gododd i lefaru.
Cyffelyb deimlad oedd yn dal
Pob gwefus yn gayedig;
Dychwelodd iaith—a hon oedd cân
Yr hwn oedd gynt golledig:—
“Gadewais fy mhraidd ar y mynydd,
A chefnais ar drumau fy ngwlad,
Breuddwydiais am fyd o lawenydd
Tu allan i furiau fy nhad;
Yn ôl i’r mynyddoedd dychwelais,
Ond dysgais â’m dagrau yn lli,
Os bywyd y milwr arweiniais
Mai’r cymoedd yw’r cartref i mi.
Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais,
Ond cofio gwyllt Walia oedd loes;
O wagedd ieuenctid yr yfais
Nes chwerwi melyster fy oes:
Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,—
Chwi wledydd goruchel eich bri,
Ymhell byth y byddoch o’m llygad,—
Mynyddau’r hen Ferwyn i mi!
Mae gobaith cael eto cyn angau
Ail ddringo llechweddau fy mro.
I gasglu y praidd i’w corlannau
Hyd lwybrau cynefin i’m co:
Uwch bedd anrhydeddus y milwr
Mae enfys arddunol o fri;
Ond rhowch i mi farw’n fynyddwr,
A beddrod y bugail i mi!”
Fe welodd ddeugain gaeaf
Ar Ferwyn wedi hyn,
A hir yng nghof mynyddwyr
Fydd enw Owain Wyn.
Yn awr wrth ochor Olwen,
Ym mynwent fach y plwy,
O dan yr un dywarchen
Y cydorweddant hwy.
* * * *
|
Buddugol yn Eisteddfod Merthyr. |
Bugeilgan Delynegol.
I
’Roedd Alun Mabon yn ei ddydd
Yn fachgen cryf a hoew:
Yn berchen grudd a thalcen hardd,
A llygad gloew, gloew.
Er nad oedd goeth ’nol dull y byd,
Fe ellid dweyd er hynny
Fod ganddo galon gynnes bur
Yn natur wedi tyfu.
Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel y blodyn bychan
Oedd ar y grug wrth gefn ei dŷ,
Blagurodd yntau allan.—
Fe gafodd hafddydd yn yr haul,
A gaeaf yn y stormydd:
Ac yna megis blodyn grug,
Fe wywodd ar y mynydd.
II
Ar fin y mynydd ganwyd ef,
Ac fel yr hedydd rhyngddo a’r nef
Fe ganodd lawer anthem gref,
Lle nad oedd carreg ateb.
Ond dywed traddodiadol go,
I’r llon a’r prudd o dro i dro
Ddod ato yn ei fryniog fro
Fel haul a storm i’w wyneb.
Ar rai o fydrau Cymru lân,
Rhyw gais at roi arluniau mân
O fywyd Alun ydyw’r gân
Fugeiliol sydd yn canlyn:
Ac mae bywgraffiad byw o’r dyn,
Yn ei ganeuon ef ei hun,
A’i “Arad Goch” yw’r gyntaf un
Gaiff fyned efo’r delyn.
III
Os hoffech wybod sut
Mae dyn fel fi yn byw:
Mi ddysgais gan fy nhad
Grefft gyntaf dynol ryw;
Mi ddysgais wneud y gors
Yn weirglodd ffrwythlon ir:
I godi daear las
Ar wyneb anial dir.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr,
Ac yn codi efo’r wawr,
I ddilyn yr ôg, ar ochor y Glôg,
A chanlyn yr arad goch.
Ar ben y mynydd mawr.
Cyn boddio ar eich byd,
Pa grefftwyr bynnag foch,
Chwi ddylech ddod am dro
Rhwng cyrn yr arad goch:
A pheidiwch a meddwl fod
Pob pleser a mwynhad
Yn aros byth heb ddod
I fryniau ucha ’r wlad.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, etc.
Yn ôl eich clociau heirdd,
Bob bore, codwch chwi:
Y wawr neu wyneb haul
Yw’r cloc a’n cyfyd ni;
Y dyddiaduron sydd
Yn nodi’r haf i chwi;
Ond dail y coed yw’r llyfr
Sy’n dod a’r haf i ni.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, etc.
Ni wn i fawr am fyw
Mewn rhwysg a gwychter byd;
Ond diolch, gwn beth yw
Gogoniant bwthyn clyd:
Ac eistedd hanner awr
Tan goeden ger fy nôr:
Pan êl yr haul i lawr,
Mewn cwmwl tân i’r môr.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, etc.
Cerddorion Ewrop ddaw
I’ch mysg i roddi cân:
’Rwyf innau’n ymfoddhau
Ar lais y fronfraith lân;
Wrth wrando’r gwcw las,
A’r hedydd bychan fry,
A gweled Robyn Goch
Yn gwrando’r deryn du.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, etc.
Ddinaswyr gwaelod gwlad,
A gwŷr y celfau cain,
Pe gwelech Fai yn dod,
A blodau ar y drain—
Y rhosyn ar y gwrych,
A’r lili ar y llyn;
Fe hoffech chwithau fyw
Mewn bwthyn ar y bryn.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, etc.
Pan rydd yr Ionawr oer
Ei gaenen ar yr ardd,
Y coed a dry yn wyn,
Tan flodau barrug hardd;
Daw bargod dan y tô
Fel rhes o berlau pur,
A’r eira ddengys liw
Yr eiddew ar y mur.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, etc.
Daw Ebrill yn ei dro,
A chydag ef fe ddaw
Disymwth wenau haul,
A sydyn gawod law:
Fel cyfnewidiog ferch,
Neu ddyn o deimlad gwan,
Galara’r awyr las,
A gwena yn y fan.
’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr,
Ac yn codi efo’r wawr,
I ddilyn yr ôg ar ochor y Glôg
A chanlyn yr arad goch
Ar ben y mynydd mawr.
IV
Dowch i’r mynydd yn y bore,
Chwi gewch weld y wawr-ddydd deg
Yn ymwrido ar y bryniau,
Fel genethig dair-ar-ddeg.
Diffodd lampau’r nos,
Goleu’r ddaear dlos,
Rhodio tros y bryniau mawr,
Gosod cymyl claer
Mewn ymylon aur,
Dyna waith y wylaidd wawr.
Dowch i’r mynydd gyda’r hwyrddydd,
Pan êl haul i’w fachlud awr:
Chwi gewch weled brenin Gwynddydd
“Yn ei waed yn cwympo i lawr.”
Duo’n ddyfnach bydd
Mynwent laith y dydd,
A daw nifwl ar y môr,
Lleuad gwyd ei phen,
Hwyrddydd rodia’r nen
I ail oleu lampau’r Iôr.
V
Mi genais gerdd i’r Arad Goch,
A cherdd ar Ddowch i’r Mynydd:
Ond beth be bawn i eto’n dod
I ganu cân anghelfydd
Ar alaw annwyl “Blodau’r Cwm,”
Mae pawb yn gwybod honno;
A pheth pe bawn yn dewis pwnc
Y gŵyr pob dyn amdano?
O! gwyn ei fyd yr hwn ni ŵyr
Am ferch fu’n flinder iddo:
Ond wn i ddim yn sicir chwaith,
Ai gwyn ei fyd, ai peidio:
Mae’n ddigon hawdd gan ambell un
Sydd wedi cael ei ginio,
Areithio llawer wrth ryw blant
Y gallant aros hebddo.
Fe guchia wyneb llawer tad,
Pan glywont gân cariadau:
A’u plant eu hunain wrth eu traed
Yn chwerthin am eu pennau:
Ni welais i ’run deryn bach
Yn hoff o fyw yn unig;
Ac ni fu oen yn hoff o’i fam
Nad oedd yn hoff o oenig.
Ac ni fu dyn yn hoff o ddyn
Na mam yn hoff o’i phlentyn,
Nad ydoedd serch at ferch neu fab
Yn gyntaf wedi ennyn.
Mae holl ddynoliaeth dyn yn gudd,
A’i enaid fel yn huno,
Nes daw rhyw lygad fel yr haul
I wenu cariad arno.
Aeddfedodd dyn erioed yn iawn
Ar gangen fawr dynoliaeth:
Os bydd ei wedd heb wrido’n goch,
Yng ngŵydd ei annwyl eneth.
Ond nid athroniaeth dal i feirdd,—
Barddoniaeth ydyw’r testun:
Am hynny tyred Menna Rhên,
Fy awen i a’m telyn!
VI
Pan welais gyntaf Fenna Rhên
Yn myned tua’r mynydd,
Yr oedd plentynrwydd tyner llon
Yn dirion ar ei dwyrudd:
Ac efo’i brawd y byddai beunydd,
Yn atsain miwsig hyd y meysydd:
’Roedd ganddi lais, a chanddi ddeall
I ganu a charoli’n ddiwall,
Ond nid oedd dim ym Menna Rhên—
Ddim mwy na rhywun arall.
Mi welais eilwaith Fenna Rhên
Yn myned tua’r mynydd:
A byth er hynny, coeliwch fi,
Bu’n boenau imi beunydd.
Yr oedd y dôn a genid ganddi
Fel yn aros gyda myfi;
Mi dreuliais ddyddiau mewn myfyrion,
A nosweithiau mewn breuddwydion,
Nes credu bod cân Menna lân
Yng ngwaelod isa ’nghalon.
Mi welais wedyn Fenna Rhên
I’r mynydd hwnnw’n myned,
Ac mi ddilynais ôl ei throed
Bob cam a fedrwn weled;
Ond hi o’r diwedd oddiweddais,
Ac O! mi deimlais, ac mi ddwedais
Farddoniaeth dlysach mewn un munud
Na dim a genais yn fy mywyd,
Wrth roddi cangen fedwen ferth
Yn nwylaw fy anwylyd.
VII
Wrth gysgu’r nos ddilynol
Canfyddwn trwy fy hun,
Y gangen fedwen honno’n bleth
Am wddf fy annwyl fûn:
Y dail a ddeuai arni,
Yn wyrdd a llawn bywhâd;
A gwelwn hi’n blodeuo’n hardd,
Ac yna’n hadu had.
Ond wrth fwynhau fy mreuddwyd,
O! freuddwyd heb ei ail!
Canfyddwn locust melyn ddu
Ymysg y bedw ddail:
Ymlusgodd ac ymrwyfodd
Nes cyffwrdd gwddf y ferch,
Ac yna breuddwyd mwy nid oedd,
Ond hunllef hagar erch.
Diolchais am gael deffro,
Pan ddaeth yn doriad dydd:
Ond cofiais ddechreu’r breuddwyd hwn
Yn fwy na ’i ddiwedd prudd.—
Meddyliais am y blodau
Oedd ar y brigau cain,
Yn fwy nag am y locust erch
Lochesid yn y rhain.
Fy nghalon losgai ynnof
Wrth gofio llygad Men;
Ac adeiledais lawer llys
A chastell yn y nen:
Ond maluriasant ymaith,
Cyn dechreu mynd yn hen,
Oherwydd cangen gollen ddaeth
Oddiwrth fy Menna Rhên!
VIII
Cainc: Hob y Deri Dando.
Mae gan bawb ei brofedigaeth,
Paid â’th siarad gwirion,
Ond myfi gadd siomedigaeth,
Paid â thorri calon:
Rhyfedd iawn os na wnaf farw,
Siŵr, siŵr iawn,
Siomedigaeth chwerw arw:
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.
Rown i’n meddwl ei bod hi’n ddidwyll,
Paid â’th feddwl gwirion,—
Peidiwch chwithau â bod yn fyrbwyll:
Dyna fel mae dynion.
Dynion sydd a’r synnwyr cryfa,
Siŵr, siŵr iawn,
Ond gwrthodwyd fi gan Menna;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.
Rhoddais iddi gangen fedwen,
Beth ddywedodd Menna?
Gyrrodd imi gangen gollen,
Wel, hi wnaeth yn eitha.
Ond parhâf o hyd i’w hoffi,
Siŵr, siŵr iawn,
Pe bai’n gyrru amdo imi;
Mwyn, mwyn, er ei mwyn,
A fyddai marw er ei mwyn.
IX
’Roedd gennyf fi gyfaill pur annwyl a hoff,
Yn fy nghyfarfod bob amser â gwên:
Ac wrtho mi ddwedais fy mod wedi rhoi
Fy neheulaw i Fenna Rhên.
Ond ef pan ddeallodd yr hyn oedd yn bod,
Siaradodd â’r llances ei hun—
Efô oedd y locust ddisgynnodd ar ddail
Y fedwen a welais trwy fy hun.
Mae llawer ffordd i lofruddio dyn
Yn y byd llofruddiog hwn:
Os cwrddwch â lleidr yng ngwyll y nos,
Bydd angau ar ffroen ei wn;
Fe gymer eich arian ar ôl eich lladd,
I’w logell losgedig ei hun,
Ac yna fe’ch teifl i ffos y clawdd,—
Dyna ffordd lleidr i fwrdro dyn.
Mae arall o falais yn dod gyda gwên,
I roi i ddyn ddiod yn hael,
Mae yntau yn cymryd, ond bychan y gŵyr
Mai cwpan o wenwyn mae’n gael:
Mae un yn ymdrengi, a’r llall yn boddhau
Rhyw deimlad sydd ynddo fo’i hun—
Fe ddygodd y gwenwyn ryw amcan i ben,
Dyna ffordd llofrudd i fwrdro dyn.
Mae arall yn byw ac yn bod gyda chwi,
Fel cyfaill diffuant bob pryd,
Ac rywfodd i’ch mynwes yn gynnes yr â,
Nes cael eich cyfrinach i gyd.—
Ac yna mae’n myned i sibrwd ei serch
I galon un a garech eich hun—
Yn ennill y llances a garasech erioed:
Dyna ffordd cythraul i fwrdro dyn.
X
Cainc: Y Melinydd.
Ni chaiff y gangen fedwen
Ddim gwywo’n goch ei lliw,
Nes âf i siarad eto
Yn wyneb Menna wiw.
Fa la, etc.
Mae gennyf dŷ fy hunan,
Heb ddegwm, rhent, na threth:
A phan eisteddaf ynddo,
’Rwy’n frenin ar bob peth.
Fa la, etc.
Mae gennyf barlwr bychan,
Ac aelwyd fechan lân;
A’m tegell i fy hunan
Sy’n canu wrth y tân.
Fa la, etc.
Mae gennyf gant o ddefaid
Yn pori ar y bryn,
A gallaf godi ’nghyfrwy
Ar gefn fy ngheffyl gwyn.
Fa la, etc.
Mae gennyf ferlyn mynydd,
I fynd i weled Men;
Na all ond mi fy hunan
Roi rheffyn yn ei ben.
Fa la, etc.
Mae’r ardd, a’r cae, a’r ffriddoedd,
A’r tŷ yn eiddo im:
Ond heb fy Menna annwyl
’Rwyf fel pe bawn heb ddim.
Fa la, etc.
Fe’i ceisiaf unwaith eto,
Ac os gwrthodir fi,
Tros fil o weithiau wedyn
Am Fenna ceisiaf fi.
Fa la, etc.
XI
Gwelais bren yn dechreu glasu
Ei ganghennau yn yr ardd.
Ac yn dwedyd wrth yr adar
Wele daeth y Gwanwyn hardd.
Daeth aderyn bychan heibio,
Ac fe safodd ar ei frig;
Ac fe ganodd gyda deilen
Newydd irlas yn ei big.
Daeth aderyn bychan arall
Ar las gangen yn y coed,
Fe ysgydwodd blu ei aden
Ac fe ddawnsiodd ar ei droed,
Canodd yntau a dewisodd
Fan lle carai wneud ei nyth:
O! mae’r Gwanwyn fel yn cadw
Natur hen yn ieuanc byth!
Es o dan fy nghoeden fedwen
Ac mi godais fry fy mhen,
Ac mi welais ôl y gyllell,
Lle toresid cangen Men.
Gwnaeth atgofion im ofidio
Na buasai’r gainc yn wyw;
Ond canfyddwn gangen ieuanc
Yn y toriad hwnnw’n byw.
O! mae gobaith mewn gwrthodiad,
Meddwn innau wrthyf fy hun;
Er fy nhorri gallaf dyfu
Eto yn serchiadau’r fûn.
Trois fy wyneb tuag adref,
Teflais lawer tremiad ffôl
Tros fy ysgwydd at y fedwen
Lâs adewais ar fy ôl.
XII
Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi’r moroedd
I’r ynys fechan hon.
A chwcw gynta’r tymor
A ganai yn y coed,
’Run fath a’r gwcw gyntaf
A ganodd gynta ’rioed.
Mi drois yn ôl i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple’r oedd y deryn mwyn
Mi gerddais nes dychwelyd
O dan fy medw bren:
Ac yno’r oedd y gwcw,
Yn canu wrth fy mhen!
O! diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma’n cwrdd—
Mi sychais i fy llygad,
A’r gwcw aeth i ffwrdd.
XIII
Ar ôl i’r gôg fy ngadaw, efo ’r pren,
Dechreuais ganu ’r alaw, Mentra Gwen.
Cyfodi wnês yn union,
A theimlais fwy na digon
O ganu ar fy nghalon, Mentra Men,
Er gwaethaf fy ngelynion, Mentra Men.
Os gyrraist imi gollen, Menna Wen,
Fe yrraf eto fedwen, Menna Wen,
Pe bai holl fedw Cymru
Tan farn yn gwywo fory,
Mi ddaliwn innau i ganu, Mentra Men,
Nes byddent yn ail dyfu, Menna Wen.
Os gwelaist ddail yn syrthio, ar y pren,
A blodau’r haf yn gwywo, Menna Wen,
Perogli wedi marw
Wnâ’r dail sydd ar y bedw,
Gan ddal y tywydd garw, Menna Wen,
Pren cariad ydyw hwnnw, Menna Wen.
XIV.
Cainc: Clychau Aberdyfi.
Wrth feddwl am y gangen gyll
Ddanfonodd Menna imi,
Draw’n y pellter clywn sŵn
Hen glychau Aberdyfi—
Menna eto fydd dy fun,
Gâd y pruddglwyf iddo’i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,
Meddai clychau Aberdyfi.
Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,
Meddai clychau Aberdyfi.
Hawdd gan glychau ganu’n llon,
Tra na bo dim i’w poeni:
Hawdd yw cael gweniadau merch,
Ond mil mwy hawdd eu colli.
Menna eto fydd dy fun, etc.
Pe bai etifedd i ŵr mawr
Y fory’n cael ei eni:
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
Menna eto fydd dy fun, etc.
Pe bai ryw ddeuddyn yn y wlad,
Y fory’n mynd i’w priodi,
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi.
Menna eto fydd dy fun, etc.
Pe bawn i fory’n mynd i’r bedd,
A’m calon wedi torri:
I ganu cainc dechreuech chwi,
Hen glychau Aberdyfi!
Menna eto fydd dy fun,
Gad y pruddglwyf iddo’i hun,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn,
Meddai clychau Aberdyfi.
Un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Cwyd dy galon, bydd yn ddyn
Meddai clychau Aberdyfi.
XV
’Rwyf wedi canu llawer
O gerddi Cymru lân,
Ond dyma’r darn prydferthaf
Sydd gennyf yn fy nghân:
Ymhen rhyw flwyddyn wedyn,
At Fenna Rhên daeth brŷs,
Nes aeth yn Fenna Mabon,
A modrwy am ei bŷs.
Ymhen rhyw flwyddyn arall,—
A dyma ddernyn cain;—
Pan oedd y gôg yn canu
A’r blodau ar y drain,
Yr ŵyn ar ben y mynydd,
Yn chwarae naid a llam;—
Fe wenai Mabon bychan
Ar freichiau gwyn ei fam.
XVI
Adroddawd.
Ar ysgwydd y gwan fe ddaeth pwys
Trafferthion a helbul y byd,
Cynyddodd fy nheulu, a daeth
Gofynion am chwaneg o ŷd:
Ychwaneg o fwyd i’r rhai bach,
Ychwaneg o lafur a thraul:
Er hynny yng nghwmni fy Men,
Yr oedd imi gysur i’w gael.
Un gweryl a gawsom erioed,
A chweryl dra chwerw oedd hon:
Fe’m gyrrwyd fy hunan a’m gwraig,
A’r tŷ’n bendramwnwgl bron.—
Yr oedd hi ’n bur hoff o roi tro
I weled ei mam tros y bryn:
Ac wrth imi ddwedyd gair croes,
Dechreuodd areithio fel hyn:—
“Cymeryd fy hel a fy nhrin,
Fy maeddu heb ddarfod na phen:
Cymeryd pob tafod a rhenc,
Fel pe bawn yn ddernyn o bren!
Ai dioddef fel carreg a raid,
Heb deimlad—na llygad—na chlyw!
O! na wnâf, os gwelwch chwi’n dda,
Wnâf fi ddim er undyn byw!
“A chymer di fi ar fy ngair,—
Fe’i cedwais erioed hyd yn hyn:
Cyn y cei di fy ngwddf tan dy droed,
Bydd dy ben yn eitha gwyn.—
Cymeryd diflasdod a chas,
A galw fy modryb yn ‘sgriw.’—
O! na wnâf, os gwelwch chwi’n dda,
Wnâf fi ddim er undyn byw!
“Ni flasa i fynd allan o’r tŷ
I weled fy chwaer na fy mam,
Nad codi’r gloch fawr byddi di,
Heb reswm, nag achos, na pham.—
Wnâ i mono fo, Alun, er neb,
Mi gadwaf anrhydedd fy rhyw:
O! na wnâf, os gwelwch chwi’n dda,
Wnâf fi ddim er undyn byw!
“ ’Does gen ti’r un galon o’th fewn,
A phwyll yn dy gorun ni roed:
A gwae fi o’r diwrnod a’r awr [yn crïo]
Y gwelais dy wyneb erioed!
Mi âf tros y bryn at fy nhad,
I’m hatal ’does undyn a wiw;
Ac aros yn hŵy efo th’di—
Wnâf fi ddim—wnâf fi ddim!
Wnâf fi ddim er undyn byw!”
Ac i ffwrdd yr aeth hi, ac i ffwrdd y bu hi, ac i ffwrdd yr arosodd, am nas gwn i ba hyd. Ond tra yr oedd hi efo’i mam a’i theulu, a minnau yn fy helbul efo fy mhlant bach, mi genais gerdd i ysgafnhau fy nghalon, ac fel hyn y cenais:—
XVII
Mae ’r lloer yn codi tros yr aig
Ac ogof Craig Eryri:
Ond beth yw cartref heb fy ngwraig,
Ond ogof ddioleuni?
Y mae pob munud megis awr,
Ac awr, O! Menna, ’n flwyddyn!
Pe bawn i heno’n dderyn tô
Caet heno weled Alun.
O na bai cadair Morgan Mud,
Neu un o’r hen Freindlysau,
Yn mynd a mi, fy ngeneth wen,
Tros ben y coed a’r caeau.
Mi rown fy ngwefus wrth dy glust,
A gwnawn i ti freuddwydio:
Nes codit trwy dy gwsg i ddod
Yn ôl at Alun eto.
Ond i fy nghader wellt yr âf,
A cheisiaf huno, Menna:
Ac mewn breuddwydion cyn bo hir
Mi ddeuaf innau yna.
Yn awr ’rwy’n cau fy amrant swrth
Wrth gychwyn am dy wyddfod:
Breuddwydia dithau, felly hêd,
A thyred i’m cyfarfod.
XVIII
Adroddawd.
Mi dreuliais wythnos gyfan,
A Menna bach i ffwrdd:
A’r tŷ yn llanast tryblith,
A’r llestri hyd y bwrdd.
’Roedd gennyf was a hogyn
Yn cynhaeafa mawn:
Ac eisiau pobi bara
A ddaeth yn fuan iawn.
’Roedd godro un o’r gwartheg
Yn gasach na phob peth,
Oherwydd Menna’n unig
Gai gydied yn ei theth.
A throi yn hysb wnaeth pedair
O’r gwartheg mwyaf blith:
A llaeth y lleill a surodd,
A’r byd a drodd o chwith.
Ac am y gegin, druan,
’Roedd hi heb drefn na llun:
Y plant yn dechreu crïo,
A chrïais i fy hun.
Mi flinais ar fy einioes,
Aeth bywyd imi’n bwn;
A gyrrais efo’r hogyn
I Menna’r llythyr hwn:—
XIX
Cainc: Bugail Aberdyfi.
Mi geisiaf eto ganu cân,
I’th gael di’n ôl, fy ngeneth lân,
I’r gadair siglo ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi:
Paham, fy ngeneth hoff, paham,
Gadewaist fi a’th blant di-nam,
Mae Arthur bach yn galw’i fam,
A’i galon bron a thorri:
Mae’r ddau oen llywaeth yn y llwyn,
A’r plant yn chwarae efo’r ŵyn;
O! tyrd yn ôl fy ngeneth fwyn
I fynydd Aberdyfi.
Nosweithiau hirion niwlog du
Y sydd o’m blaen, fy ngeneth gu:
O! agor eto ddrws y tŷ,
Ar fynydd Aberdyfi,
O! na chait glywed gweddi dlos
Dy Arthur bach cyn cysgu’r nos,
A’i ruddiau bychain fel y rhôs,
Yn wylo am ei fami:
Gormesaist lawer arnaf, Men,
Gormesais innau—dyna ben:
O! tyrd yn ôl fy ngeneth wen
I fynydd Aberdyfi.
Fel hyn y ceisiaf ganu cân
I’th gael di’n ôl fy ngeneth lân,
I eistedd eto ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi:
’Rwy’n cofio’th lais yn canu’n iach—
Ond, fedri di, na neb o’th âch,
Ddiystyrru gweddi plentyn bach
Ag eisieu gweld ei fami.
Rhyw chwarae plant oedd dweyd “ffarwel,”
Cyd-faddeu wnawn, a dyna ’r fel,
Tyrd tithau’n ôl, fy ngeneth ddel,
I fynydd Aberdyfi.
XX
Fe ddaeth yr hogyn adref,
A rhoddodd sicirhâd
Fod Menna’n mynd i aros
Yn nhŷ ei mam a’i thad.
Os oeddym wedi priodi,
Yn bendant dwedai hi;
Nad oedd dim modd cymodi
 dyn o’m tymer i.
Fod i’r holl fechgyn fyned
I’w magu ganddi hi:
Ac i’r genethod ddyfod
O dan fy ngofal i.
’Roedd hi yn ymwahanu,
Ac felly’n canu’n iach:
Ond hoffai roddi cusan
Ar wefus Enid fach.
A thrannoeth hi ddychwelodd
I ddwyn y rhwyg i ben:
Ond O! fe dorrodd dagrau
O eigion calon Men:
Cymerodd Arthur afael
Am wddf ei fam a mi,
Ac fel rhyw angel bychan,
Fe’n hail gymododd ni.
XXI
Wyddoch chwi beth, mae ffraeo
Yn ateb diben da,—
Pe na bâi oerni’r gaeaf
Ni theimlem wrês yr ha:
Pe na bâi ymrafaelio,
Ni byddai’r byd ddim nês,
Yn wir mae tipyn ffraeo
Yn gwneud llawer iawn o les!
XXII
Awel groes ar fy oes godai’n gryf wedyn,
Daeth i mi adwyth mawr, clefyd, a thwymyn:
Rhoddai ’mhlant ddwylaw ’mhleth, ogylch fy ngwely,
Minnau ’n fud, gwelwn fyd arall yn nesu.
Is fy mhen, ias fy medd deimlais yn dyfod,
A daeth ofn, afon ddofn, ddu i’m cyfarfod:
Ond ’roedd grudd ar fy ngrudd, ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna.
O! os bu iâs y bedd, allan o’r briddell,
Hi a fu ennyd fêr yn fy hen babell:
Yn fy nhraed teimlais waed dyn wedi huno,
Ond fe drodd angau draw wedi fy nhrawo.
Fel y graig safai ’ngwraig annwyl yn eon,
Ac i’r nef, gweddi gref yrrodd o’i chalon:
Rhoi ei grudd ar fy ngrudd ar yr awr ddua,
A rhoi gwin ar fy min ddarfu fy Menna!
XXIII
Ar ôl fy hir gystudd,
’Rwy’n cofio’r boreddydd
Y’m cariwyd mewn cader dros hiniog fy nôr:
Ac ar fy ngwyn dalcen
Disgynnodd yr heulwen,
Ac awel o’r mynydd ac awel o’r môr.
Ar ôl imi nychu
Yn gaeth ar fy ngwely
Am fisoedd o gystudd, o glefyd a phoen:
Fy nghalon lawenodd
Wrth weld ar y weirglodd
Y gaseg a’r ebol, y ddafad a’r oen.
Trwy wenlas ffurfafen
Fe wenai yr heulwen,
A mi a’i wynebais, ac yfais y gwynt:
A’r adar, fe ddeuent
I’m hymyl, a chanent,
Nes teimlais fy nghalon yn curo fel cynt.
Fy ngeneth ieuengaf
Ac Arthur ddaeth ataf,
A gwenu mewn dagrau wnâi Menna gerllaw:
A daeth fy nghi gwirion,
Gan ysgwyd ei gynffon,
A neidiodd i fyny a llyfodd fy llaw!
XXIV
Ond O! mae llawer blynedd,
Er pan own gynt yn eistedd,
O flaen fy nrws tan wenau’r haul;
’Rol gadael gwely gwaeledd.
A llawer tywydd garw
Sydd er yr amser hwnnw,
Mae ’mhlant yn wragedd ac yn wŷr,
A Menna wedi marw!
Claddasom fachgen bychan,
Ac yna faban gwiwlan,
Ni chododd Menna byth mo ’i phen
’Rol inni gladdu’r baban.
’Rwy’n cofio’r Sul y Blodau
Yr aeth i weld eu beddau,
Pan welais arwydd ar ei gwedd,
Mai mynd i’r bedd ’roedd hithau!
Penlinodd dan yr ywen,
A phlannodd aur-fanhadlen,
Mieri Mair, a Chanri’r coed,
A brig o Droed y glomen.
Y blodau gwyllt a dyfent
Ar ddau fedd yn y fynwent;
Ond gwywo’r oedd y rhosyn coch
Ar foch y fam a’i gwylient.
Ac er pan gladdwyd Menna,
Un fynwent yw’r byd yma:
Y fodrwy hon sydd ar fy mŷs
Yw’r unig drysor fedda.
Y fodrwy hon a gadwaf,
Y fodrwy hon a garaf,
A dyma destun olaf cerdd:
Gwreichionen awen, olaf.
XXV
Mae Menna’n y fynwent yn isel ei phen,
A thi ydyw’r fodrwy fu ar ei llaw wen:
Ar law fy anwylyd rwy’n cofio dy roi,
Ac wrth imi gofio, mae ’nghalon yn troi—
Fy llygaid, tywyllant, a chau mae fy nghlyw,
’Rwyf fel pe bawn farw, ac fel pe bawn fyw:
Ond megis fy mhriod wrth adael y byd,
Mae modrwy’r adduned yn oer ac yn fud!
Pan roddwyd ti gyntaf ar law Menna Rhên,
’Roedd coedydd yn ddeiliog, a natur mewn gwên,
Y clychau yn canu, a’r byd fel yn ffôl:—
Ond cnul oedd yn canu pan ges di yn ôl!
Mewn gwenwisg briodas y dodais i di,
O wenwisg yr amdo dychwelaist i mi:
O! fodrwy’r adduned, nes gwywo’r llaw hon,
Fe’th gadwaf di’n loew, fe’th gadwaf di’n gron!
XXVI
Aros mae’r mynyddoedd mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda’r wawr,
Gân bugeiliaid megis cynt;
Eto tyf y llygad dydd,
Ogylch traed y graig a’r bryn,
Ond, bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.
Ar arferion Cymru gynt,
Newid ddaeth o rod i rod;
Mae cenhedlaeth wedi mynd,
A chenhedlaeth wedi dod;
Wedi oes dymhestlog hir,
Alun Mabon mwy nid yw,
Ond mae’r heniaith yn y tir,
A’r alawon hen yn fyw.
Cainc: Toriad y Dydd.
Mae llawer un yn cofio
Yr eneth fechan ddall,
Ni welodd neb un fach mor fwyn,
Mor brydferth, ac mor gall:
Fe gerddodd am flynyddoedd
I ysgol Dewi Sant,
Ar hyd y ffordd, o gam i gam,
Yn nwylaw rhai o’r plant.
’Roedd gofal pawb amdani,
A phawb yn hoffi’r gwaith
O helpu’r eneth fach ymlaen,
Trwy holl drofeydd y daith:
Siaradai’r plant am gaeau,
A llwybrau ger y lli,
Ac am y blodau tan eu traed,
Ond plentyn dall oedd hi!
Fe glywai felys fiwsig
Yr adar yn y dail:
Fe deimlai ar ei hwyneb bach
Belydrau serch yr haul;
Aroglai flodau’r ddaear;
Ond nid adwaenai’r fûn
Mo wên yr haul, a mwy na’r oll
Mo wên ei mam ei hun!
Mae’r plentyn wedi marw,—
Ar wely angau prudd
Fe wênodd ar ei mam, gan ddweyd,
“Mi welaf doriad dydd!”
Ehedodd mewn goleuni
Oddiwrth ei phoen a’i phall,
A gweled golygfeydd y nef
Y mae yr Eneth Ddall.
Tôn: Cân Dafydd Broffwyd.
’Does eisiau’r un garreg i ddangos y fan
Y gorffwys fy nghariad ym mynwent y Llan:
O’r dydd y rhoed yno i huno mewn hedd,
Mae blodau hyd heddyw yn byw ar y bedd.
Fe drowyd ffyddlondeb a phurdeb ei bron
Yn wenwyn i’w heinioes a huno y mae hon:
Y cyfoeth a gafodd oedd gofid a gwae,
Priododd ag Angau, a dyma lle mae.
Mae hi yn y ddaear yn fyddar a mud,
A’r bedd yn ei flodau yn hafaidd o hyd:
Mae Amser ac Angof ac Angau’n rhy wan
I ladd y traddodiad sy’n byw ar y fan.
’Does eisiau’r un garreg i ddangos y fan,
Y gorffwys fy nghariad ym mynwent y Llan:
O’r dydd y rhoed yno i huno mewn hedd
Mae blodau tragwyddol yn byw ar ei bedd!
Ti nid wyt, fy chwaer anwylaf,
Hyd y dolydd gyda ni;
Cwch ysblennydd ar yr afon
Ddaeth ry agos atat ti:
Hwyliau sidan gwyn oedd ganddo,
Gynnau gwynion wisgai’r criw;
’Roedd dieithriaid arno’n rhwyfo,
Ac angylion wrth y llyw.
Nid oes yma neb yn meddwl
Byth am yrru neb i’th nôl;
Cryfach ydyw’r chwant i fyned
Dros yr afon ar dy ôl.
Ti nid wyt, fy chwaer anwylaf,
Ond os oes yn nef y nef
Rywun garodd sôn am Iesu,
’Rwyt ti yno gydag ef;
Ber a phur a difrycheulyd
Fu dy yrfa ar y llawr,
Sôn amdanat byddwn beunydd
Gyda min yr afon fawr;
Yna disgwyl cwch i’r golwg,
Ac angylion wrth y llyw,
I’n cymeryd ninnau trosodd
At ein chwaer ym mynwes Duw.
Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Eisteddai gwraig weddw ynghanol ei phlant:
A’r iengaf ofynnodd wrth weld ei thristad,
Mae’r nos wedi dyfod, ond ple mae fy nhad!
Fe redodd un arall wyneblon a thlws
I’w ddisgwyl ef adref ar garreg y drws:
Fe welodd yr hwyrddydd yn cuddio’r wlad,
A thorrodd ei galon wrth ddisgwyl ei dad.
Y sêr a gyfodai mor hardd ag erioed,
A gwênodd y lleuad trwy ganol y coed:
A’r fam a ddywedodd, “mae dy dad yn y nef,
Ffordd acw fy mhlentyn—ffordd acw mae ef.”
Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant,
Ymddiried i’r nefoedd mae’r weddw a’i phlant:—
Ni fedd yr holl gread un plentyn a wad,
Fod byd anweledig os collodd ei dad.
Wrth rodio un prynhawn
Ar lan hen afon Deifi,
Holais y llif, “Paham na chaniatei fi
I weld dy bysgod aur—pysg aur melynion,
Beunydd a byth sydd yn gwirioni dynion;
Er taflu coch-y-bonddu,
A gwybed Aberhonddu;
Ymguddio yn y cysgod,
A’m gwrthod gan y pysgod.
Sisialodd un o’r dwfr yn dirion,
“O! di bysgotwr gwirion:
Pysgodyn aur wyf fi, a buan cei fi,
Ond taflu pluen arian ar lan hen afon Deifi.”
Arian o hyd, o hyd,
Ac nid dim caws na bara,
Arian o hyd yw’r grefydd ddiweddara,
Hyd yn oed y pysg sydd yn ein hen afonydd;
Yn sŵn y pres ni allant fod yn llonydd;
Chwaraeant gyda’r plufyn,
Y pryfyn bach, a’r gwyfyn:
“ ’Rwyt ti yn llencyn ’smala—
’Does neb yn disgwyl dala
Hen adar gyda manus,” ebe ’r ail bysgodyn,
“I faes y sych ysglodyn,
Pysgodyn arian wyf, a buan cei fi
Ond taflu pluen arian ar lan hen afon Deifi.”
’Roedd melin ddŵr a melin wynt,
Yn malu ŷd y glyn;
Ar fin y mynydd safai un,
A’r llall ar fin y llyn:
Ac un melinydd oedd i’r ddwy,
’Nôl dull y bobol gynt;
A’r rheswm ydoedd, meddynt hwy—
Pan na bo dŵr bydd gwynt.
Fe gŵynai’r dŵr am nad oedd wynt
Yn dyfod ar ei daith;
A chŵynai’r gwynt am na ddoi’r glaw
I wneud ei ran o’r gwaith:
Ond dedwydd ydoedd gwŷr y glyn
’Nôl dull y bobol gynt;
Oherwydd hwy a wyddent hyn—
Pan na bo dŵr bydd gwynt.
Y gwynt a’r glaw barhâ o hyd
I falu yn ddi-fêth;
Peth ddigon hawdd yw malu’r ŷd,
Ei gael ef ydyw’r peth:
Am haidd a gwenith gweithia’r byd,
’Nôl dull y bobol gynt;
Gofala’r Iôr am falu’r ŷd,—
Pan na bo dŵr bydd gwynt.
Dowch a’r milgwn at ei gilydd,
Clywch y rhewynt yn y coed;
Wele’r Wawr yn rhodio’r mynydd,
Gydag eira dan ei throed.
Meirch, gweryrant,
Helwyr, casglant,
Dyma ddiwrnod o foddhad:
O mae’n iechyd,
A dedwyddyd,
Hela sgwarnog yn y wlad.
Dyna floeddio ar y ddehau,
Talihoian tros y fro:
Wele’r gwta hir ei chlustiau,
Yn ymwrando, Hei Si Ho!
Neidia, rheda,
Dyna drofa,
Ar ei hôl pob milgi âd:
O mae’n iechyd, etc.
Chwaneg, chwaneg, yw ei chynnydd,
Nid yw dal y fach mor hawdd:
Dyna hi yn rhydd i’r mynydd,
Heibio’r cŵn a thros y clawdd;
Rhedeg, neidio,
Dal neu beidio,
Mwy mewn hela boed mwynhad:
O mae’n iechyd,
A dedwyddyd,
Hela sgwarnog yn y wlad.
Mae Robyn fy mhriod ar ôl cael crys glân,
Yn edrych cyn futred, cyn ddued a’r frân;
Mae’n eistedd mewn cadair a gefais gan nain,
A’i wyneb fel ffidil, yn hir ac yn fain:
O! mae Robyn yn flin,
Mae Robyn yn flin,—
Mae’n ofid i’m calon fod Robyn mor flin.
Pan rwbiaf y ffendar yn loew a glân,
Daw yntau i smocio a’i drwyn yn y tân;
Os dwedaf yn dyner,—Paid, Robyn bach, paid—
Fe dania, fe fyga, fe boera’n ddi baid:
O! mae Robyn, etc.
Ar ôl bod am oriau ar garreg y drws,
A scwrio y lloriau yn lân ac yn dlws,
A’i draed yn un rwbel, fy Robyn ddaw at
Ei fwyd yn y pobty, cyn gweled y mat:
O! mae Robyn, etc.
Os bydd arnaf eisieu ystenaid o ddŵr,
Rhaid rhedeg i’r ffynnon—wiw gofyn i’r gŵr,
A phan fo fy sgidiau yn myned yn wael
Mae’n dannod pob ceiniog am bopeth wy’n gael:
O! mae Robyn, etc.
Pan fydd arnom eisieu rhyw lwythyn o lo,
Bydd Robyn am wythnos fel adyn o’i go;
Ac wrth iddo gyfrif pa faint a barhadd
Y llwythyn blaenorol, bydd agos a’m lladd:
O! mae Robyn, etc.
Er iddo gael brecwest o goffi a thost,
A chigau i ginio, berwedig a rhost;
Ac er i mi ferwi dau ŵy efo’i dê:
Gwneud wyneb, a gwefus, a thrwyn, y bydd e:
O! mae Robyn yn flin,—
Mae Robyn yn flin,—
Mae’n ofid i’m calon fod Robyn mor flin.
|
Cymhares i gân Talhaiarn, “Mae Robin yn Swil.” |
Y diwrnod o’r blaen ar y ddôl,
Pan oeddwn yn difyr bysgota,
Pwy welwn yn llercian ar ôl,
Ond Jac Robyn Puw yn cardota
Bu ef yn gymydog i’m taid,
Mae deg o flynyddoedd er hynny,
A’i blant adnabyddwn wrth raid,
Bob un fel y tyfent i fyny.
“I ble’r ei di heddyw, Jac Puw?”
A chollais bysgodyn yn codi—
“I geisio, syr, damaid i fyw,
Ac ymladd yn erbyn tlodi—”
“Tlodi, Jac bach, sut mae hyn?
Mae dy fyd wedi newid yn arw,—
Mae bara dau fab iti’n wyn—”
“O, na, syr! mae’r ddau wedi marw!”
Yw Mari fu’n forwyn i’r Maer
Yn dangos dim chwaneg o sadrwydd?—
Mi wyddwn o’r blaen fod ei chwaer,
Yn byw gyda’r byd mewn anlladrwydd.
“Mae Mari, syr, gartref yn glaf,
Ond balch a fydd hi pan drengaf,
A heno, pan adref yr af,
Hi’m rhega yngŵydd y rhai iengaf.”
Yw Robyn yn sefyll ei dir?
Mawr hoffwn efô pan oedd hogyn:
“Mae ef, syr, yngharchar y sir,
A dyna’r lle goreu i’r diogyn.
Fe ddenodd ei frawd bychan del,
I wneuthur y trosedd erchylla:—
Mae hynny, syr,—hynny syr—fel
Rhyw wiwber yn cnoi yn fy nghylla.”
Wyt ti byth yn troi d’wyneb at Dduw,
I geisio rhyw gysur oddyno?—
“Weddïwn i ddim yn fy myw
Gwnaed Duw gyda ni fel y mynno.”
Dy blant gan yr Arglwydd a gest
Fel engyl yn bur a charuaidd,
Ond uffern ohonynt a wnest,
O bob annedwyddwch teuluaidd!
A wyt ti’n diota fel cynt?
Maddeua i’m ofyn gan hyfed;
Medd yntau gan atal ei wynt,
“Mae’n rhaid, syr, cael dropyn i’w yfed,
I’m cadw rhag myned yn îs,”
Pa le meddwn innau mae Cati?
“Yng ngwaelod ei bedd, syr, ers mis,
A goreu bo cynta’r af ati.”
Yn ôl traddodiadau
Ein mamau a’n tadau,
’Roedd Derwydd mawr gynt
Yn byw ac yn bod,
Yn uchel ei glod,
Ar fynydd Pumlumon ar Lwybyr y Gwynt.
Ei enw oedd Caw
(Ap rhywbeth heblaw),
Ac ef oedd yn cloi
Yn trin ac yn troi
Ysbigod y gwynt a sbigod y glaw.
Un bore dydd Llun,
Pan oedd ef wrtho’i hun,
Danfonodd melinydd Dolelin
Archeb i Caw,
Am wythnos o law,
Er mwyn gyrru dŵr at ei felin.
Ddydd Mawrth gyda’r wawr,
Daeth cawod i lawr,
Ond ymhen pedair awr,
Cyrhaeddodd merch ifanc i fyny,
A dwedodd wrth Gaw,
Am atal y glaw,
Mewn munud—a’i rheswm am hynny,
Oedd fod ei mam
Yn gofyn paham
’Roedd Caw yn gwmeud cam
Â’r merched o’i gylch oedd yn golchi!
Dydd Mercher a ddaeth,
A llongwr o’r traeth,
('Roedd o’n gapten, dae waeth)
Yn nhŷ Meistr Caw gadd ei dderbyn:
A dwedai fod llong
Yn dod o Hong-Kong,
A bod y gwynt yn right wrong yn ei herbyn.
Ond fore dydd Iau,
Daeth ffarmwr neu ddau:
Un yn garedig
Yn gofyn a gai
Hin i aredig
Rhyw gefnyn o gae.
“Na, na,” meddai ’r llall,
Gan ostwng ei ael,
“Os ydych chwi’n gall,
Gadewch ini gael—fel y gelwais:
Sef gaea fel llew,
Ac eira go dew,
A rhew ar y braenar a brynais.”
Daeth y Brenin ddydd Gwener ar gefn ei farch gwyn,
Gan ofyn, “Yw’r Derwydd yn byw yn fan hyn?”
Ymgrymodd y Derwydd a’i het yn ei law,
Gan ddwedyd mai ef oedd ei was, elwid Caw:
Atebodd y Brenin: “Mae arnaf eisieu tri mis
O heulwen os gellwch, beth bynnag fo ’r pris.”
“O’r goreu,” medd Caw, ac ymgrymodd yn îs,
“Chwi gewch yn ddi-fêth,
Mae’ch deiliaid gan mwyaf yn hoffi’r un peth.”
Ond fore dydd Sadwrn dywedodd Caw,
Wrtho’i hunan yn Swyddfa’r Glaw,
“Mi glôf fy nrws heddyw, a phwy bynnag ddaw
I ofyn am dywydd, mi cadwaf o draw:”
Ond fel ’roedd y cloc yn taro naw,
Trwy dwll y glicied canfyddai draw,
Ddau ful y ddwy felin yn trotian trwy’r baw:
Sef dyn y felin ddŵr
Yn dod ar ei hynt, a
Dyn y felin wynt
Yn dod am y cynta.
Ar ôl y rhai hyn,
Yn dod ar eu siwrne,
Hyd waelod y glyn
’Roedd ustus a thwrne;
A deugain neu chwaneg,
O ffermwyr yn rhedeg,
A’u gwynt yn eu dyrnau.
Neges y twrne oedd cosbi’r hen Gaw,
Am dorri’i gytundeb â phobol y glaw:
A neges yr ustus oedd dweyd mor annhêg
Oedd hyn â’r cwsmeriaid oedd eisieu hin deg.
Ymgasglodd llu
O amgylch y tŷ,
Ni choeliai neb byth y fath helynt a fu—
Y lluchio cerrig a’r peltio mawn,
Y chwerw drin,
Fu ’nghylch yr hîn,
O ddeg y bore tan bedwar prynhawn.
Ond bedwar o’r gloch, pan oedd y bobol yn benben,
Ysgydwyd tŷ’r Derwydd o’i sylfaen i’w nenbren;
O gwmwl du, tywyll, daeth mellten glaer wen,
A thaniodd hen fagnel y nefoedd uwch ben.
Dychrynodd y Derwydd, ac allan ag ef,
Anerchodd y bobol, gan edrych i’r nef:—
“Pechasom gydwladwyr yn erbyn yr Iôr,
Creawdwr y tywydd ar dir ac ar fôr:
Trowch adref, a chofiwch ar ôl i chwi droi,
Mai’r Nefoedd sy’n gwybod pa dywydd i’w roi.”
NEU
Ymgom y Clebrod.
I’w berfformio gan chwech o Bersonau.
| Tomos y Teiliwr. | Siôn y Saer. | |
| Siân y Teiliwr. | Siân y Saer. | |
| Gwen y Gof. | Mari Bach y Siop. |
Tomos yn prydyddu wrth fwrdd ac yn darllen o’i lyfr:—
“ ’Rwyf wedi bod yn gyrru ’ngwaith
I’r eisteddfodau lawer gwaith;
Ond yn sobr, ni ches i ’run wobr.
Ond ar fy hen sawdl
’Rwyf am dreio awdl:
Awdl ar y Flwyddyn,
Dyna eitha testun:
Caf genfigen llawer
Os enillaf y gader;
Ond cofia di awen
Newid yr odlau
Yn fywiog a llawen
Ar dy hen sodlau.
O boed llonyddwch tan fy mron,
A heddwch yn y gegin hon,
Er mwyn i’m hawdl yn y man
Fod yn y dosbarth cyntaf.”
Gwen y Gof:
Oes yma rywun i mewn?
Oes yma rywun i mewn?
Sut yr ydych chwi heddyw, Tomos?
Yn eno’r annwyl efo’ch llyfr!
Heno, neithiwr, ac echnos!
Ond o ran hynny, ’r oedd Cati’r Crydd
Wedi clywed gan y cryddion
Eich bod yn gwneud ryw awdl fawr,
I’r Steddfod yng Nghaernarfon.
Tomos:
Ydw wir, yr ydw i Gwen,
Am dreio canu tipyn:
Ond codais ddolur yn fy mhen
Wrth geisio gweld y testun.
Pa beth, dybygech chwi, yn awr,
Ystyrrir wrth “Y Flwyddyn.”
Gwen:
Tomos bach, na chwynwch ddim,
Os yw eich pen yn poeni:
Mae pen Siôn Saer yn curo mwy
’Rôl bod yn ffair y Gelli!
Tomos:
Siôn Saer! Siôn Saer, ’does bosib Gwen,
Ydych chwi wedi clywed rhywbeth!
Gwen:
Clywed! Wel do, yn eno’r taid.
Ormod o lawer, ’syweth!
Tomos:
Oni chlywodd pawb—dyn helpo Siôn,—
Ond chymrwn i lawer, Tomos,
A chario chwedlau fel gwraig y Lôn
A hela strâes heb achos;
Pe buasai ’nhafod i mor rhydd
I ddweyd pob peth wy’n wybod
Am Siôn y Saer, a Siân y Crydd,
A merched Craig-yr-Hafod,
Mi dynnwn helbul yn fy mhen,
Casineb a diflastod,
Ond rhaid i bobol fod yn gall,
A phawb ymdrechu oreu gall
Rhoi’i ddannedd ar ei dafod;
Pan fo gwaradwydd wedi’i wneud,
Sy’n warthus i ddynoliaeth,
O diolch am ddaint i atal dweyd;
Fe safiodd fy mhen i ganwaith!
Tomos:
Felly finnau ar hyd fy oes,
Ond maddeu i mi am unwaith:
Ni chymrwn lawer a bod yn daer,—
Ond beth yw’r mater ar Siôn y Saer?
Siân y Saer, yn y drws:
Oes yma bobol i mewn?
Ydych chwi i gyd yn fyw?—
Fe gymrais ryw ffit yn fy mhen
I alw yma am seiat, fel tae,
Sut yr ydych chwi heddyw, Gwen?
A chwithau Tomos—ymhle mae’r wraig?
Ond ydyw hi ’n braf ryfeddol?
’Roeddwn i’n meddwl golchi crys neu ddau,
Pan godais heddyw’r bore,
Ond ’roedd hi’n edrych yn ddwl, a’r cymylau’n cau.
A’r gwynt, fel tae, o’r dehau.
Tomos:
Pa sut mae Siôn acw’n ffeindio’r byd?
Mae o’n ddieithr arw ’rwan:
Ni fu o ddim yma ers gwn i pryd—
Ymhle mae o’n ’i gadw’i hunan!
Siân, yn wichianllyd:
Prysur ofnatsen, dyna fel mae,
Ac wrthi hwyr a bore;
Mae o ’n slafio’r dydd, a’r nos, fel tae,
Yn ysgrifennu biliau.
Ond, Tomos annwyl! ’does dim yn y byd
Yn ffolach a mwy dibroffid,
Na gyrru biliau o hyd o hyd
I bobol glos, gybyddlyd.
Ni rown i’r un ddimai ’r fil am gael
Cwsmeriaid fel sydd acw,—
Mae’r papur a’r inc, a’r llafur a’r draul,
Yn llawer mwy na’r elw.
Y garsiwn ddiffaith, ar ôl cael bil
Fe’i collant cyn amser talu!
Rhaid cael un arall! ac felly maent—
Mae’n anodd peidio â’u malu!
Er hynny, gwelir hwy ar y Sul,
Mewn llïain main cyfrodedd,
A’r ffyrdd a’r llwybrau yn rhy gul
I wisgoedd drud eu gwragedd.
’Does un tŷ fferm o flaen y Cwm,
Os dowch chwi efo ’r afon
I lawr i’r môr, nad ydynt oll
Yn berwi o ddyledion
Ac O! mae’n anodd! Tomos bach—
Gweld Siôn a’r gwas yn myned
I weithio at y silod crach
Am ddim ond bwyd a llymed.
Ond wedi aros am amser maith
Yn disgwyl, disgwyl talu,
Hwy yrrant i chwi fwy o waith,
Nes gwneud i un lwyr ddiflasu.
Ac fel pe tae, i wneuthur iawn,
Am beidio byth â setlo,—
I drin y gwair a chynnull ŷd
Rhaid cael y Saer i’w helpo.
Ac os bydd almanaciau’n dweyd
Fod dydd o “law” yn agos,
Rhaid gweithio ddydd a nos o hyd
Nes cael yr ŷd tan ddiddos.
Ar ôl bod efo’r ffermwyr hyn
Yn gweithio haf a gwanwyn,
Yr unig dâl a gaiff y Saer,
Yw’r fraint o weithio wedyn.
Y fraint anferthol o gael mynd
I roddi diwrnod cynhaeaf,
Yn dâl am lidiart, trol, ac ôg,
Ac arad wnaed y gaeaf!
Tomos:
Yw Siôn yn weddol iach yn awr,
’Rôl bod yn ffair y Gelli?
’Roedd Gwen y Gof yn dwedyd fod
Ei ben yn cael ei boeni.
Gwen y Gof, yn arbed ei phen:
Na, Siôn y Siop, nid Siôn y Saer,
Y chwi sy’n camgymeryd—
Neu drwg yw’ch clyw, ond Siôn y Siop
A ddaru mi ddywedyd:
’Rwy’n ddigon siŵr mai Siôn y Siop
A ddwedais wrthych gynnau;
Ond mae’ch gwallt chwi, Tomos, megis mop,
Yn tyfu tros eich clustiau.
“Hawdd y cyffelyba’r byddar beth
Os clyw o ddim,” fel dwedir;—
A hawdd i chwithau efo’ch gwallt,
Wrth fethu clywed, fethu dallt,
A throi y gwir yn anwir.
Tomos, gan gilwenu:
Yr wyf fi’n fyddar, Gwen y Gof,
Pan fwy yn cysgu cyntûn:
Ond fel llygoden, pan ddeffrôf,
Fe glywaf bin yn disgyn.
Siân y Saer:
Pa un ai’ch gwallt, ai ynte’ch cwsg,
Ai Gwen yn camgymeryd,
Sydd ar y bai, mae Siôn yn iach,
A diolch am ei iechyd.
Ond dyma Mari bach y Siop
Yn pasio, gelwch arni:
Os yw ei thad yn sal, fe ddwed—
(Yn bloeddio):
Hei! aros! hwda, Mari!
Gwen y Gof, yn ddigofus:
Peidiwch â galw’r eneth, Siân,
Peidiwch â stopio ’r eneth;
Ac am ei holi ynghylch ei thad,
Peidiwch, yn eno popeth!—
Ond mynd ’rwyf fi, er mwyn cael gwneud
Fy ngwaith yn weddol gynnar:
Dydd da i chwi’ch dau—yr annwyl fawr!
Mae hi ’n chwarter wedi pedwar!
(Ymaith â Gwen.)
(Mari bach y Siop yn dod i’r tŷ.)
Tomos:
Wel, Mari bach, sut mae dy fam,
Ple mae dy dad yn cadw?
’Rwyt wedi mynd yn ddynes fach,
Yw dy dad a’th fam yn weddol iach?
Mae mis o Suliau, os nad mwy,
Er pan maent wedi galw.
Mari:
Mae ’nhad a mam yn weddol iach,
Diolch i chwi, Tomos Parri.
Siân y Saer, a’i bys ar ei gwefusau:
A ninnau’n meddwl fod dy dad yn sâl,
’Rôl bod yn ffair y Gelli?
Mari:
Fu ’nhad ddim yno, naddo wir,
Fu ’nhad ddim yn y Gelli!
Siân y Saer:
’Roedd Gwen y Gof, y munud hwn,
Yn dweyd ei fod, ond oedd hi!
Mari:
’Roedd ’nhad yn dwedyd wrth fy mam,
Fod Gwen yn eitha ceges;
Ond rhaid im feddwl mynd yn awr,
I orffen gwneud fy neges.
Tomos:
Wnawn ni mo’th gadw, Mari fach,
Dos dithau, Mari—dos;
Ond dywed wrth dy dad a’th fam
Am droi i mewn ryw nos.
Siân y Saer, gyda bod Mari allan:
Wel, wyddoch chwi beth? mae Gwen y Gof
Yn siŵr o ddod i drwbwl;
’D yw’r chwedel hon am ŵr y Siop
Ond celwydd wedi’r cwbwl.
Y glebren glebrus, ’does gŵr na gwraig,
Na mab na merch yn unman,
Nad yw mewn munud yn eu gwneud
Mor ddu a hi ei hunan.
Yr annwyl tirion! bwriwch fod
Fy mhen mor ysgafn, Tomos,
A myned i fychanu pawb
A phopeth pell ac agos!
Os oes casineb ynof fi
At rywrai mwy na’i gilydd,
Y bobol sydd yn hel ystrâes
Ac yn caberlulio celwydd—
Sy’n gyrru tŷ yn erbyn tŷ,
Sy’n felltith i gymdogion,—
Dyna’r fath bobol sydd i mi
Yn ffiaidd gan fy nghalon.
Tomos:
Wrth glebar a chlepian a chlebar,
A thynnu’r holl wlad yn ei phen,
’Rwy’n sicir ’does neb ar y ddaear
A’i thafod mor brysur a Gwen.
Ond dwedwch y stori ddechreusoch
Ynghylch y rhai wyddoch eich hun,
Sy’n setlo y biliau yrasoch
Trwy ddwedyd na chawsant hwy’r un.
Siân y Saer:
Wel, gan ein bod yn dechreu sôn
Am arian, coel, a chredyd:
Rhaid i chwi beidio â dweyd wrth Siôn
Mai fi, fel tae, sy’n dwedyd.
Ac ar yr amod nad â gair
O’r stafell lle’r eisteddwn;—
Fe geisiaf gofio dwy neu dair
O’r ffermydd gwaethaf feddwn:
Dyna Ifan Ffowc o Bandy Rhos,
A phobol Plas yng Nghynon,
Ezeciel Jones o Dros y Ffos,
A Joseph Tan y Ffynnon.
A phwy sydd arall?—arhoswch chwi,
Mae mhen fel tae yn nofio;
O, ie, Simon Ifan Pyrs,
A Robert Pant y Bondo,
A gŵr Ty Drain, a llawer iawn,
Pe bawn yn gallu cofio.
Tomos, yn codi ei ben yn fyrbwyll:
Ust! Ust! a glywch chwi’r sŵn?
Yr annwyl! glywch chwi’r bloeddio!
Siân y Saer:
Ar fengoch las i, mae Gwen y Gof
A gwraig y Siop yn ffraeo!—
Ust! dyna lais ysgrechlyd Gwen,
Fe fydd yna firi ’rwan.
Ceisiwch eich hetan am eich pen,
Mae pawb yn rhedeg allan;
Maent wedi tanio powdwr sych—
Yrwan am dafodi:
Dowch oddyna ’r gwirion fel yr ŷch
I weld y byd yn codi!
’Rwyf fi yn mynd—’rwyf fi yn mynd,
Cewch chwithau eto ddyfod,
Pan fydd tawelwch wedi dod,
A’r ffrwgwd wedi darfod.
(Ymaith â Sian.)
Tomos, yn canu wrtho’i hun:
Mae Siân y Saer yn hoffi ffrae,
A gweld peth gwaeth na gwagedd;
Fe aethwn innau onibai
Fod arnaf ofn y gwragedd.
Mae Gwen y Gof yn gystal crec
Fu erioed mewn amryfusedd,
Am dynnu gwallt, a thynnu cnec,
A chripian efo’i bysedd.
Pan oeddwn ifanc, clywais sôn
Fod gwinedd Gwen yn gwânu:—
’Rwy’n methu cofio beth yw’r dôn
’Rwyf ’rwan yn ei chanu.
A chan na wn mo enw’r dôn.
Pa fodd y gwn y mesur?—
Ond dyma ’r Saer, dowch yma Siôn,
Rhowch imi air o gysur.
Siôn y Saer, yn dod i mewn:
Os gofyn am gysur wnewch chwi,
Yr ydych yn gofyn i’r truan;
Os gellwch gael cysur gen i,
Chwi gewch beth nas cefais fy hunan.
Go drwm ydyw pwysau’r hen fyd,
Mae ’nwylo, fel cyrn, yn galedion,
Wrth dynnu y ddeupen ynghŷd
A’m cadw fy hun o ddyledion.
Tomos, yn ddistaw a gwyliadwrus:
Mae arnaf eisiau gwybod, Siôn,
Eich barn—’does neb yn gwrando—
Am ŵr Ty Drain, ac Ifan Ffowc,
A phobol Pant y Bondo.
A ddylem ni fel crefftwyr tlawd
Sy’n slafio am ein tamaid,
Fynd i’r cynhaeaf atynt hwy
Am ddim ond bwyd a llymaid?
Pe baem yn gwrthod mynd, ni chaem
Ond gofid ac anghysur;
Ond hyn sy’n taro i’m meddwl i,—
A ddeuant hwy i’n helpu ni
Pan fyddom ni yn brysur!
Siôn y Saer:
Os ydym mewn ystyr yn dlawd,
Mae gweithio cynhaeaf yn ennill:
Go dyllog dy reswm di, frawd,
Ni ddeil o ddim dŵr mwy na rhidyll.
Cwsmeriaid rhagorol o hael
Yw pobol y ffermydd er hynny—
Yn talu pob swllt yn ddi-ffael
Y diwrnod daw’r amser i fyny.
Bu’n dda i fy mhen lawer tro,
Pan fyddai y siopwr a’r teiliwr
Yn gwasgu fy llogell am bres,
Gael benthyg pum punt gan y ffermwr.
Wrth dderbyn cymwynas gan ddyn,
Ynghanol caledi y gaeaf;
Fe safwn yn fy nghysgod fy hun
Pe na bawn yn gweithio cynhaeaf.
Tomos:
Peth rhyfedd iawn—’rwy’n methu’n lân
’Rwy’n methu’n glir a gweled:—
Fe glywais chwedel gan y frân,
Mai nhw sydd yn eich dyled—
Mai nhw sydd yn eich dyled chwi
Am weithio hwyr a bore—
Yn wir, fel yna y clywais i,
Ond chwi sy’n gwybod oreu.
Siôn y Saer:
Er mwyn cael gyrru ’machgen bach
I’r ysgol, yn Nhreffynnon,
Ces fenthyg punt yn y Felin Fach,
A phunt ym Mhlas yng Nghynnon:
A phan eis innau’n sâl o’r cryd,
A Siân fy ngwraig yn dondio,
Gan ŵr Tŷ Drain ces sachaid ŷd,
A phwn ym Mhant y Bondo.
Ond peidiwch â gwrando’r brain, da chwi,
A chwedlau ffôl gwrageddos:
Fel yna mae hi efo fi—
Fel yna mae hi, Tomos.
(Siân y Teiliwr yn dyfod adref.)
Tomos:
Wel, dyma dithau’n dyfod, Siân,
Ple buost ti tan rwan?
Mae dy swper yna wrth y tân,
A’r tegell ar y pentan.
Siân y Teiliwr:
A welsoch chwi mo’r ffrae, wŷr da?
Yr helynt a’r ymrafael!
Rhwng gwraig y Siop a Gwen y Gof
Yn ymyl Penty’r Efail?
Mae gwraig y Siop yn waed i gyd,
A’i dillad yn gyrbibion;
A Gwen y Go ’n gynddeiriog wyllt—
Yn ddall gan lygaid duon.
A’r achos oedd, fod Gwen y Gof
Yn cario rhyw ystori,
A dweyd fod gŵr y Siop yn sâl,
’Rôl bod yn ffair y Gelli.
I wneud y drwg yn waeth na dim,
’R y’m ni'n cael ein cyhuddo,
O achles hwn a’r llall i’r tŷ
I glebran wrth fynd heibio.
Fod chwi a minnau, Tomos bach,
Ein dau yn caberlulio,—
Yn waeth na neb am hela clec,
Brygawthian a bragaldio.
Bu ffrae ofnadwy rhwng y ddwy;
Ond cyn y paffiant eto,
Fe ddaw yn gyfraith rhyngddynt hwy,
Ac wedyn—dyn a’u helpo!
Siôn y Saer, yn canu:
Pan weloch chwi glebren yn dyfod
I’ch ymyl a gwên ar ei gwep,
Gadewch iddi ollwng ei thafod,
A thywallt ystraeon y glep.
Pan glywoch lefaru,
Llysnafedd a pharddu,
Gan ladd a thrybaeddu,
Cytgan:
Rhowch air i mewn o radd i radd,
A chofiwch chwi ganmol y sawl fo nhw’n ladd
A pheidiwch â rhoi eich preswylfod
I’r ffôl gael darostwng y call:
Yn fan i gymdogion gael dyfod
I faeddu cymeriad y llall.
Pan glywoch lefaru
Llysnafedd a pharddu,
Gan ladd a thrybaeddu:
Cytgan:
Rhowch air i mewn o radd i radd,
A chofiwch chwi ganmol y sawl fo nhw’n ladd.
Ni wn i ddim yn sicir, syr,
Ymhle y dylwn ddechreu:
Pe basech chwi’r un fath â mi,
Petruso wnaethech chwithau.
Mae arwrgerddi, meddyn nhw,
Yn dechreu yn y canol,
Ac yn diweddu mewn ystorm,
Mewn cwr o’r wasg wythnosol.
Mae rhieingerddi un ac oll
Yn dechreu gyda charu:
Ac yn diweddu gyda thŷ,
A thân a gwraig a theulu.
Mae awdlau a phryddestau mawr
Yn gynta’n galw’r awen:
Ac fel tylluan, honno ddaw,
Ac yna tyr ei haden.
Ynghylch fy annwyl duchan gerdd,
’Rwyf fi yn mwydro f’awen:
Ond mi ddechreuaf yn y pen,
Fel tân ar gannwyll frwynen.
Ac achau Tom yn gyntaf oll,
Cânt ddechreu ar y testun;
Ac yna down o gam i gam
I rywle tua’r terfyn.
Fe’i ganwyd ef o deulu hen,
Na synner dim am hynny,—
Oherwydd barna dynion doeth
Fod pawb o deulu felly.
’Roedd ganddo dad a chanddo fam,
Ond nid yw hynny, gyfaill,
Ond peth a welsom lawer gwaith
Yn nheulu lawer eraill.
Rhys Owen ydoedd enw’i dad,
Ac Owen oedd ei hendaid:
Ond daeth ryw falchter rhyfedd iawn
I deulu yr Oweniaid.
A thad Tom Bowdwr, trodd yn Smith,
’Rôl iddo fod yn Llundain,
Ac o ganlyniad—Smithiaid mân,
Y galwai’r plant eu hunain.
Ond ’roedd enwogrwydd wedi’r oll
Yn nheulu hen ein harwr,
Am fod rhyw duedd yn y gwaed
I hoffi cŵn a phowdwr.
Er bod y teulu yn bur dlawd,
Mewn newyn a chaledi,
Ni welid byth mo’r cwpwrdd bwyd
Heb bowdwr a bwledi.
Os oedd ffaeleddau mawr yn nhad
Tom Bowdwr—dyn a’i helpo,
Am oferlwytho cylla’i blant,
Ni ellid mo’i gyhuddo.
Os ydoedd Tom bob dydd yn cael
Ei wala tua’r hanner,
’Roedd yno ddau neu dri o gŵn
Yn dda eu graen bob amser.
Ond nid rhaid diolch dim i’r cŵn,
Na dim i’r hanner prydau:
Daeth Tom yn ddyn er gwaetha hyn,
Os oedd yn grymffast tenau:
A gallodd fyw am amser maith,
A chadw gwraig a theulu,
Heb weithio dim—ac nid pob dyn
Sy’n gallu’r ffordd i hynny.
Mae’n arw o beth—rhaid dweyd y gwir
Amdano wedi ’r cwbwl—
Os gallodd fyw heb weithio dim,
Ni allodd fyw heb drwbwl;
Ond pan ganfyddir dyn yn cael
Ei ddedwydd fyd trwy ladrad,
Mae yno ffos o ddyfnder du,
Lle nad â cydymdeimlad.
Fe gollodd cyfaill hoff i mi
Ei fferm ar fryniau Cymru,
Oherwydd taniad dryll un nos,
Yn agos i’w amaethdy:
Ac er na ddygwyd ef i brawf
Dan unrhyw gyhuddiadau,
Fe gollodd ef a’i deulu’r fferm
Oblegid drwg dybiadau.
Flynyddau’n ôl fe gafwyd dyn
Yn farw ar y mynydd;
Fe gaed yr ergyd yn ei fron,
Ond byth ni chaed y llofrudd;
Dyn symyl a diniwed oedd,
Benodid gan foneddwyr
I gadw’r sgafaeth rhag eu lladd,
A’i dwyn gan herwhelwyr.
Ychydig iawn a wyddai Tom
Am helynt y wladwriaeth:
Ond barnai ef mai gorthrwm oedd
Popeth o’r enw cyfraith;
Ni wyddai ef am ddeddfau’r nef,
Na deddfau’r greadigaeth,
Ac nid oedd chwaith yn hidio dim
Am ddod o’i anwybodaeth.
Yr oedd un gyfraith, meddai ef,
Yn warthus i ddynoliaeth—
Am wahardd dyn i gario gwn,
Yn rhydd i ladd ysgafaeth;
’Roedd myrdd o’r rhain yn bwyta ŷd
A chnydau yr amaethwyr,
A gwaeth na chaeth-feistradoedd oedd
Pob un o’r tir-feddianwyr.
* * * *
Mae’n anodd dweyd pa faint o serch
Oedd ganddo at ei deulu,
Oherwydd yn ei gŵn yr oedd
Bob amser yn hyfrydu;
Clywais ei fod wrth fyrddiad bwyd
Un waith yn torri gwningen,
Gan roddi cig y goes i’r ci,
A’r asgwrn coes i’w fachgen.
Cymerwyd priod Tom yn glaf
Ar nawngwaith oer yn Hydref:
Ond fel arferol gyda’r nos,
Ei gŵr aeth oddi cartref.—
Fe glywyd ergyd yn y llwyn
Yn dweyd fod herwhela;
A’r ergyd hon am amser maith
I Tom fu’r ergyd ola.
Fe’i daliwyd, a charcharwyd ef,
Ond ’mhen rhyw hanner blwyddyn
Fe gadd ei draed yn rhydd drachefn,
A herwheliodd wedyn;
A daliwyd ef yr eilfed waith
A thrymach oedd ei ddedryd:
Cadd ddeuddeg mis o galed waith,
A chaled fara hefyd.
Ond tra’r oedd ef mewn carchar cosb,
Daeth newyn at ei deulu,
Ei druan wraig a’i deulu mân,
A drowyd i’r tyloty.
Ond cyn i’r deuddeg mis o gosb
Fynd trosodd yn y carchar,
Roedd angau wedi dod a rhoi
Ei briod yn y ddaear.
At fedd ei wraig fe ddaeth un nawn,
A dau o’i blant ddaeth efo,
Ac addunedodd wrth y pridd,
A’r cerrig oer oedd yno—
Na welid byth drachefn ei draed
Yn llithro i’r hen lwybrau:
Ac ar ei ddeulin gofyn wnaeth,
Fy ngwraig, O maddeu! maddeu!
Ac un o’i blant wrth weld ei dad
Yn troi ei ben i wylo:
Aeth ar y bedd a dwedodd, “Mam,
Mae tada gennym eto!
Cyfodwch mam, mae ’nhad yn ôl,
A ninnau wrth eich beddrod:”
Os mud oedd llwch y bedd—y tad
A glywodd lais ei briod.
A chyfnod newydd yn ei oes,
Ddechreuodd yn y fynwent:
Derbyniodd barch cyn mynd i’r bedd
Gan bawb a’i hadnabyddent.
Boed mwy o rodio ar hyd ffordd
Gonestrwydd ac uniondeb,
Mae anonestrwydd wedi rhoi
Y pridd ar lawer wyneb.
I
Ryw frawd o Sais oedd Lawrence Lowe,
A ddaeth i fyw i Gymru:
A stiward oedd ar weithiau glô,
Pe bai o’n well er hynny.
’Roedd wedi bod ym more’i oes,
Yn tynnu ffotograffau:
A’i dad, medd ef, fu’n dysgu’r haul
I dynnu gwawlarluniau;
A bod un diwrnod estron ddyn,
Yn nhŷ ei dad yn cael ei lun,
A’r estron hawliodd iddo’i hun,
Ddyfeisiad ffotograffiaeth;
Oherwydd hyn fe drôdd ei dad
I gyflym ddarfodedigaeth.
II
’Roedd Lawrence Lowe yn ddoniol iawn
Pan gai ryw ddau ddyferyn:
A henwai rês o bobol fawr
Oedd iddo ef yn perthyn.
’Roedd Palmerston yn fynych iawn
Yn ysgrifennu ato;
A Lord John Russell wedi bod
Un waith yn cysgu efo;
A thrwy ddylanwad Duke Monroe,
Yr hwn oedd gâr i Mrs. Lowe,
Cadd ef stiwardiaeth y gwaith glô,
Lle’r ydoedd y pryd hynny:
A’i fai ef oedd na buasai’n awr
Yn bennaf dyn yng Nghymru.
III
Pan besid Lowe, ’roedd plant y Llan,
A phobol gall oedrannus,
Yn cilio o’r ffordd, gan wneuthur bow,
I’r stiward anrhydeddus.
’Roedd plant yr ysgol fel tan raid
I dynnu’u capiau erddo;
A gwragedd glân y glowyr oll
Yn gwneuthur cyrtsi iddo.
Ni wyddai’r person ddim yn wir,
Na byddai Lawrence Lowe cyn hir,
Yn cael ei gynnyg tros y Sir,
Yn aelod yn y Senedd—
Ac am a wyddai, nid oedd neb
Cymwysach i’r anrhydedd.
IV
Oherwydd nid oedd Sul na gŵyl
Yn pasio na chanfyddid
Lawrence Lowe, a’i deulu hardd,
Yn eistedd tan ei bulpud.
Dyn diargyhoedd ydoedd ef,—
Gwyn fyd na buasai chwaneg;
Ac er ei fwyn bob Sul brynhawn,
Fe roi wasanaeth Saesneg.
’Doedd dim yn hynny yn sarhaus,—
A dioddef hyn er mwyn y Sais,
Wnâi’r Cymry uniaith yn barhaus,
Am lawer o flynyddau:
Ond synnai’r person lawer iawn,
Fod cyrddau’r nawn mor deneu.
V
’Roedd siopau’r Llan mewn awydd am
Gael Lawrence Lowe yn gwsmer;
Ond prynai ef ei nwyddau oll
Yn Liverpool bob amser.
Un bore Llun, er syndod mawr
I Robert Jones y cobler,
Pwy ddaeth i mewn ond Lawrence Lowe,
I brynu carai leder.
’Roedd gwasgod Robert Jones pryd hyn
Yn teimlo iddo braidd yn dyn,
Wrth dorri carrai o leder gwyn,
I ŵr mor fawr ac enwog—
Fe’i lapiodd hi mewn papur llwyd,
A chadd amdani geiniog.
VI
Fe gadwodd honno ar y fainc
I’w dangos i’r cwsmeriaid:
A braidd na thybiai ar y pryd
Gael ceiniog am ei gweled.
Ond gyda’r nos pwy ddaeth i’r siop,
Ond Lawrence Lowe a’i eneth:
A’r crydd a dybai yn y fan,
Fod eisieu carrai eilwaith.
Ond yn lle hynny’n glyfra ’rioed,
(A Robert mewn perlewyg roed),
Estynnodd Lawrence Lowe ei droed,
I’w fesur am fotasau!
A dwedai wrtho, “Gwnewch hwy’n dda,
Beth bynnag fyddo’u prisiau.”
VII
Mesurwyd troed yr eneth bach
Am dri o barau tlysion;
Sef rhai i’w gwisgo ar y Sul,
A rhai ar ddyddiau gwlybion.
A gwnaed addewid os gwnâi ’r crydd
Eu plesio’n iawn â’r rheini,
Y gallai hefyd Mrs. Lowe,
Ddod ato ef i brynu—
Gan wthio’i faneg tros ei fys;
Atebai Robert braidd ar frys,
Nad oedd e’n hidio botwm crys
Mewn neb a gŵyrodd ede:—
Y gwyddai ef pa beth oedd gwaith,
Ac hefyd sut i’w wneud e.
VIII
Yn stryd Glyn Dŵr, gerllaw y Groes,
Mewn congol ar y ddeau,
’Roedd brawd i Robert Jones y crydd
Yn cadw siop ddilladau;
O flaen y drws ’roedd delw dyn
Yn syth fel wedi rhewi;
Yn gwisgo het a chrys a chôt,
A llodrau a la Française.
’Does neb yn dweyd fod hwnnw ’n un
O eilundduwiau’r cenedl-ddyn,
Ond dwedais ganwaith wrthyf fy hun,
Wrth weld rhai arno’n sylwi,
Fod un ai’r wisg ai’r ddelw bren,
Yn cael addoliad rheini.
IX
Ni wn yn iawn ai’r dynan pren,
Ai ynte ’r ffenestr honno,
A ddenodd sylw Lawrence Lowe;
Sut bynnag galwodd yno.
Mae pin y bardd yn rhy fyr o inc
I roddi iawn ddarluniad,
O’r gwenau mwyn a’r croeso mawr
Gadd Lowe yn siop y dillad.
Am nad oedd stôr y siop yn gre,
Estynnwyd holl frethynnau’r lle,
I’w troi a’u trosi iddo fe,
Gael gwneuthur ei ddewisiad.
I fod yn fyr, y diwedd fu—
Fe werthwyd siwt o ddillad.
X
Ond ar delerau celyd iawn,
Nes gwneud i’r teiliwr ddychryn:
’Roedd rhaid i’r gôt fod fel y croen,
Yn ffitio i drwch y blewyn.
Ac os na wneid y llodrau’n iawn
Yn ôl rhyw gyfarwyddiadau,
’Doedd dim i’w wneud ond ymfoddhau
I’w derbyn yn eu holau.
Os byddai’r wasgod ddu a’r gôd,
Y llodrau a’r oll yn à la mode,
’Roedd ei gwsmeriaeth byth i fod
Gan William Jones y siopwr:
A hwn yw’r cyfnod mwya’i bwys
Fu ’rioed yn oes y teiliwr.
XI
’Roedd dau ddarllawydd yn y Llan
Yn gwawdio cwrw’i gilydd;
Os nad oedd cwrw’r ddau’r un fath,
’Run fath oedd eu hymennydd.
’Roedd bîr y ddau mor fain a gwan
Fel nad oedd dim arswydiad
I un dirwestwr yn y llan
Fyth dorri ei ardystiad.
Y ddeuddyn hyn, caent eu boddhau
Gan Lawrence Lowe un bore Iau,—
Fe roddodd archeb dda i’r ddau,
Am hyn a hyn o ddiod;
Ond os na byddai wrth ei fodd,
’Roedd popeth wedi darfod.
XII
Aeth pethau ’mlaen am flwyddyn gron,
Yn dawel a didwrw;
I Lawrence Lowe, rhai yrrai gig,
Ac eraill yrrai gwrw.
Gan ddwy neu dair o siopau bach
Rhoid iddo ddefnydd pwdin;
A gweithiai’r cryddion iddo ef
Yn ddiwyd anghyffredin.
Ond ar brynhawngwaith teg ym Mai,
Aeth gwraig y crydd i un o’r tai,
Lle byddai Lowe yn cael y bai
O yfed tipyn weithiau—
A gwraig y crydd a gwraig y tŷ,
Dechreusant hela chwedlau.
XIII
’Roedd hwn a hwn y dydd a’r dydd,
Yn myned i briodi:
A hon neu hon y pryd a’r pryd,
Yn disgwyl cael ei gwely.
A hyn a’r llall ar gymryd lle,
Pan slipiodd un ei thafod:
A dweyd fod Lowe yn rhyfedd iawn
Am dalu arian parod.
Fod arno bymtheg punt i’r “Queen,”
A deg i’r “Goat,” am ddim ond gwin;
Fod gŵr y “Bull” yn hel a thrin,
Fod arno iddo yntau—
“Ac ugain punt,” medd gwraig y crydd,
“I ninnau am esgidiau.”
XIV
Ym mhen dau funud, mwy neu lai,
Waeth heb fanylu ar amser;
Am Lawrence Lowe siaradai pawb,
Yn deiliwr, crydd, a sadler.
Tramwyai’r chwedel fel y tân,
Nes daeth y ddau ddarllawydd
I gwrdd ynghŷd ac ysgwyd llaw,
A siarad efo’i gilydd!
I glustiau pawb daeth sî a stŵr,
Fod Lawrence Lowe o dan y dŵr:
Y noson honno llawer gŵr
A gwraig fu yn tafodi—
Ond bore trannoeth clywodd Lowe
Fod storm o’i hwyl yn codi.
XV
’Roedd yn y Llan ryw wreigan dlawd,
Yn byw ar wau hosannau;
Yn cael cynorthwy gan y plwy
Ers llawer o flynyddau;
Yr oedd hi wedi magu mwy
O deulu na chyffredin:
Ond marw’n ieuanc wnaeth ei phlant,
Oddigerth un o’r bechgyn;
Bu’r weddw hon yn gwneuthur gwaith
I Lawrence Lowe am amser maith,
Ond poenus yw cofnodi’r ffaith,
Bu farw’r bachgen hwnnw—
A Lawrence Lowe o galon hael,
Rhoes bunt at gladdu’r marw.
XVI
Am garedigrwydd Meistar Lowe
Ymgomiai pawb yn union;
A theimlai’r crydd, a’r teiliwr fel
Yn maddeu’r holl ddyledion;
Fe ddwedai’r teiliwr wrth ei wraig
Am arfer peth amynedd;
Ond ni wnâi’i wraig ef wneuthur dim
Ond hel yn ddidrugaredd
Ymhen dydd neu ddau i Lawrence hael
Fe yrrwyd bil o bymtheng mael,
Ac oll ar unwaith eisieu cael
Yr arian heb ohirio—
’Roedd rhai yn gas, a’r lleill yn fwyn,
Ond pawb yn pwyso arno.
XVII
Yr ateb roddwyd i bob un
O’r bobol dlodion hynny,
Oedd—fod ystâd pryd hynny’n dod
I Lawrence Lowe a’i deulu,
Y telid iddynt un ac oll
Bob ceiniog goch yn ddiddig,
Os deuent yno ’mhen y mis
Rôl gwyliau y Nadolig.—
Llawenai’r teiliwr, canai’r crydd,
A phawb o’u hofnau, doent yn rhydd,
Wrth feddwl am yr hyfryd ddydd
Y byddai Lowe yn talu—
A daeth y gwragedd erbyn hyn
Yn ddiddig i’w ryfeddu.
XVIII
’Roedd un am own, a’r llall am gap,
Ymhen mis ar ôl Nadolig,
A merch y teiliwr, meddai rhai,
Yn sôn am gael “perdonig.”
Am bedwar mis parhaodd Lowe
I brynu ac i brynu;
Ond daeth Nadolig yn ei dro,
A mis ddaeth wedi hynny.
A phan oedd pawb yn meddwl fod
Y stâd a’r eiddo wedi dod,
Cymerodd Lawrence Lowe ei gôd
A’i goes i ffwrdd o Gymru—
A byth ni chlywyd siw na miw,
Amdano ef a’i deulu.
Breuddwyd yn amser Cobden.
Breuddwydiais weled llongau
Yn rhoi’u banerau i lawr;
Yn casglu at ei gilydd,
Ar fôr Iwerydd mawr:
Yr haul a’r lleuad, safent
Yn wynion uwch y byd,
Tra gwelwn longau’r ddaear
Yn casglu, casglu ’nghŷd:
Y lleuad ni fachludai,
Na’r haul am ddeugain nydd,
A’r llongau yn cynnal ar ganol y môr,
Gymanfa Masnach Rydd.
O’r Gogledd, o’r Gorllewin,
O’r Dwyrain, ac o’r De,—
Fel adar mudol, deuent
Yn union i’r un lle;
Ac ymysg myrdd o longau
Canfyddwn gyda gwên,
Rai Cymru Newydd Ddeau,
Yn cwrdd rhai Cymru hen.
Parhaent i ddod yn araf
O bedwar ban y byd,
Am dri o ddyddiau hafaidd
Cyn dyfod oll ynghŷd;
Hen lestri mawr Trafalgar
A safai ar y blaen;
O’u hôl ’roedd cychod India,
A llongau Ffrainc a Sbaen.
’Roedd bwa blaen y llongau
Yn cario delwau gwiw,
Fel brenhinesau hawddgar,
Neu fôr-wyryfon byw;
Pob un yn gwenu’n siriol
Lawenydd mynwes lawn,
Gan ddawnsio ar y tonnau
A chrymu’n serchus iawn.
Ar hyn mi glywwn daran,
Ond taran fiwsig oedd!
Sef llais mil myrdd o longwyr
Yn rhoddi llawen floedd;
Pob iaith gymysgodd Babel,
Pob tafod dynol sydd,
Yn cario’r meddwl allan,
Cydganent “Fasnach Rydd.”
Ar hyn mi welwn gastell,
Yn codi yn y dŵr!
A Nefydd Fawr Naf Neifion
Oedd ar ei uchaf tŵr.
Ymgrymai’r haul i wrando,
A’r lleuad syllai i lawr:—
“Hawddamor longau’r moroedd,
Ysgydwch ddwylaw’n awr.”
“Fel mae y De yn agor
Yn rhydd i haul y wawr,
Agorwch chwithau ddorau
Eich holl borthladdoedd mawr.
Gwaith uffern yw carcharu
Pelydrau gwên yr Iór—
Gadewch i haul Rhyddfasnach
Gyfodi ar y môr.”
Bu bedwar dydd ar hugain
Yn annerch llongau’r byd:
Pan dawodd—myrdd o hwyliau
A gurodd ddwylaw ’nghyd.
Daeth awel tros y tonnau
O bedwar pwynt y nef
I ruo cymeradwyaeth
I’r hyn lefarai ef.
“Duw gadwo orsedd Prydain,”
Medd llais Prydeinig cry;
“Duw gadwo ein brenhinoedd,”
Medd myrddiwn o bob tu.
Daeth côr o fôr-wyryfon,
Gan gipio’r anthem rydd,
A chanent fel Syreniaid:
“Dduw, cadw Fasnach Rydd!”
Mewn sŵn cerddoriaeth nefol
Goruwch cyneddfau dyn
Gwasgarodd llongau’r moroedd,
Bob un i’w gwlad ei hun.
A sŵn “Hwrê” y llongwyr,
Yn oïan llawen floedd,
Deffroes fi, a gofynnais,
O Dduw ai breuddwyd oedd!—
Y lleuad giliodd ymaith,
A gwelwn wawr y dydd;
Ond nid oedd y llongau ar ganol y môr,
Ac nid oedd Masnach Rydd!
(Yn ôl yr Almaeneg.)
Gadewch i nofiol rew a choed
Wneud i’r llifeiriant groni;
Hi ddaliodd lawer llif erioed,
Ac mae’r dref yn falch ohoni;
Bwâu sydd ganddi dri-ar-ddeg—
Arferol â gwlybaniaeth;
Ac nid yw storm a thywydd teg
I’r Bont o un gwahaniaeth.
Trosti rhêd y meirch fel cynt,
Trosti, trosti, chwŷth y gwynt
Chwibanogl groch ei beiriant;
A hi, brenhines deg y pynt,
Yn chwarae â’r llifeiriant.
Mae’r toll-dy ar ei chanol draw
Yn crynu dan y gwynt a’r glaw—
Mae’n arfer gwneud, ran hynny:
Mae’r talpiau rhew yn codi’n wal
Ar draws y llif, yn argae dal,
Ond mae’r hen Bont yn siwr o ddal
Ei gwar a’i phen i fyny.
Ysmocio’i bibell yn ddi fraw—
Ag ar ei lin ei eneth dlos,
Mae’r gŵr sy’n cadw’r toll-dy draw.
Cyn mynd i’w wely am y nos;
Yna try ei ben i lawr
Tros ganllaw nâdd yr harddwech Bont
I weled y rhyferthwy mawr
Orlifai’r wlad a thref Piedmont.
A’r dwfr yn codi caerfa hir
Ar hyd y Bont, o dir i dir;
Gan luchio ei ewynnog luwch,
O awr i awr—yn uwch, yn uwch;
Mae ’r tollwr wrth ei waith o hyd,
Un geiniog ni fyn golli;
Ac nes daw “amser cau,” a’i fryd
Ar dolli—tolli—tolli!
Ond aros i fyny ar ei draed
Yn ei olwg ef oedd annoeth;
Ac yntau yn y dollfa i fod
Mor fore, fore drannoeth.
Yn ei dŷ
A’i wely plu,
Her rodd i ru
Y rhyferthwy tost;
Medd wrtho’i hun,
“Tra fo ynddo ffun,
Dyletswydd dyn
Yw byw a marw wrth ei bôst.
Ni feiddiwn i ’fory, pe syflwn o’m lle,
Ddangos fy wyneb i fechgyn y dre.”
Ond melys hun,
O ddeg i un,
A gafodd ef ar y goreu;
Taranau byw
Ant trwy ei glyw—
Cerddoriaeth y llifddorau;
Ac nid oes un bont
Ar afon Piedmont
Am ddau o’r gloch y bore!
Oddigerth un bwa—gwêl y llun
A welir yn sefyll wrtho’i hun—
Dim ond un tŵr dan dŷ y doll,
Aeth y deuddeg eraill byth ar goll.
A rafio fel meddwon
Mae’r rhew-wynt a’r iâon,
A rhyfyg yr afon ymdeifl ar y graig;
A llefain mewn alaeth,
Ar ddibyn marwolaeth,
Mae teulu y Tollwr a’i wraig:
Ac uwch, ac uwch na thwrdd y lli
Yw’r dreiddiol floedd, “Achubwch ni!”
Y weddi a’r floedd,
Y waedd a’r gri
Waed-fferol oedd
“Achubwch ni!”
Ond rhuthro ’mlaen wnâ’r creigiog rew,
Dan wên y lloer ddigwilydd;
A’r dwfr fel teigr, a’r gwynt fel llew,
Yn rhuo ar ei gilydd.
O wŷr a hunai awr yn ôl,
Mae tref Piedmont yn fyw;
Hwy geisiant wastad dir y ddôl,
Ond bro’r rhyferthwy yw;
Rhew-fryniau’r Alp yn rhuthro drwy
Nofiedig anferth goed;
Rhyferthwy mawr—rhyferthwy mwy
Nag a welodd dyn erioed.
’Roedd Maer y dref, fel llawer Maer,
Yn ddyn a wnâi ddaioni;
A’i logell ddofn yn llawn o aur,
A’i galon yn llawn haelioni.
“Oes neb a â mewn cwch,” medd ef,
“I achub y trueiniaid?
Ddewrion a chedyrn wŷr ein tref,
Yw’ch calonnau chwi’n rhy weiniaid?”
“Welwch chwi’r teulu ar y Bont?
A dyna i chwi dri o fadau;
Oes neb, oes neb, o blant Piedmont
Yn disgyn o’u cyndadau!
“Oes neb a gymer gwch,
Ac yn y rhwyf a dynn?
Fe ddichon fod yma ferched a wna,
Os na wna dynion hyn.”
“Oes y mae un”—Hwrê!
Â’i nerth crynedig,
Rhwyfa trwy’r rhew nofiedig;
Y Nefoedd a’i cadwo e!—
Bachgen bendigedig!
Do, cyrhaeddodd y Bont,
Ac ar hyd ysgol raff,
Unwaith, dwywaith, teirgwaith—
Metbu, a medru eilwaith—
Tra bloeddia Piedmont,
“O Dduw! mae nhw’n saff!—yn saff!
Ac fel ’roedd cloc y dref yn hwyrdrwm daro saith,
Aeth y Maer yn ôl i’w wely, a’r Bachgen at ei waith:
Gwaith saer oedd gan y llencyn,
A thrannoeth, gweithdy’r saer
A anrhydeddwyd gydag
Ymweliad gan y Maer.
“Ai chwi yw’r gŵr ieuanc aeth yn y cwch?”
“Ie, fi a ddaru fynd, syr.”
“Dyma’r can doler, ynghyda’r aur flwch,
A minnau i chwi yn ffrynd, syr.”
Nid hir yn nwylaw’r ieuanc saer
Yr erys yr aur a’r arian,
Na ddywed, “Maddeuwch i mi, fy arglwydd Faer
Onid fy Nuw yw fy nharian?
Duw biau fy mywyd, ac nid myfi,
Ac wele’r arian yn ôl i chwi—
Rhowch ef i’r Tollwr—gwna iddo ef les,
Teimlaswn fy nghalon yn ofnus a llwfr,
Pe tawlswn fy mywyd ar wyneb y dwfr,
Mewn mater fel yma, am arian neu bres.
Yn y Tŷ ar y Bont ’roedd geneth fach dlawd,
A’i phriodi yfory yw ’mwriad;
Ac yn y fan yma, mewn pabell o gnawd,
’Doedd dim ond gwreichionen o gariad.
Curo wnâi nghalon yn ymchwydd y lli,
A’m curiad o’m mewn oedd “Ym Cariad i mi.”
WRECSAM
HUGHES A’I FAB, CYHOEDDWYR
Transcriber’s Notes:
Errors in the table of Contents have been corrected. A few obvious typesetting errors have been corrected without note. Otherwise, text is as originally published.
[End of Ceiriog, Detholiad o’i Weithiau by John Ceiriog Hughes]