* A Distributed Proofreaders Canada eBook *

This eBook is made available at no cost and with very few restrictions. These restrictions apply only if (1) you make a change in the eBook (other than alteration for different display devices), or (2) you are making commercial use of the eBook. If either of these conditions applies, please contact a https://www.fadedpage.com administrator before proceeding. Thousands more FREE eBooks are available at https://www.fadedpage.com.

This work is in the Canadian public domain, but may be under copyright in some countries. If you live outside Canada, check your country's copyright laws. IF THE BOOK IS UNDER COPYRIGHT IN YOUR COUNTRY, DO NOT DOWNLOAD OR REDISTRIBUTE THIS FILE.

Title: Amser I Ryfel

Date of first publication: 1944

Author: Thomas Hughes Jones (1895-1966)

Date first posted: Aug. 30, 2022

Date last updated: Aug. 30, 2022

Faded Page eBook #20220863

This eBook was produced by: Mardi Desjardins & the online Distributed Proofreaders Canada team at https://www.pgdpcanada.net



AMSER I RYFEL


 

 

AMSER I RYFEL

 

gan

 

T. Hughes Jones

 

 

 

Y CLWB LLYFRAU CYMREIG

1944

 

 


Argraffiad Cyntaf—Gorffennaf, 1944

NODIAD

Nofel yw hon, am ryfel 1914-18, ac am mai nofel ydyw ofer fydd ceisio cysylltu’r cymeriadau â phersonau neilltuol.

Argraffwyd gan Hugh Evans a’i Feibion, Cyf., Overton Hall, Overton St., Liverpool 7 a 9-11 Hackins Hey, Liverpool 2


AMSER I RYFEL


I

Yr oedd cegin fawr Brynafon yn llawn o gysgodion anesmwyth a geisiai ddianc rhag ffaglau’r tân ar lawr yr aelwyd a fflam ansefydlog y gannwyll ar y bwrdd bach yn ymyl y tân. Eisteddai Manod y mab wrth y bwrdd gan syllu’n synfyfyriol ar y ffenestr ddi-len gyferbyn, a synnu ei bod yn dduach nag unman arall yn y gegin. Wrth ei dasg ysgol yr oedd, ar nos Sadwrn yn y gaeaf, ac o’r diwedd wedi dod at y traethawd: cadwai’r traethawd bob amser hyd y diwedd am mai hwnnw oedd ei hoff dasg. Yr wythnos honno gofynnid iddo ysgrifennu traethawd ar yr hyn a ddarllenasai yn y dosbarth am Farchogion y Ford Gron.

Yr oedd yn rhaid iddo orffen y tasgau i gyd nos Sadwrn gan ei fod yn bwrw pob Sul ar ei hyd gyda’i dad-cu a’i fam-gu, oherwydd bod y Dolau, eu cartref hwy, yn nes i’r capel na Brynafon. Âi i’r capel yn y bore a thrwy’r dydd gan fynd i’r Dolau i ginio a the, ac yn y Dolau yr oedd y gwaharddiad ynghylch gwaith ar y Saboth yn y pedwerydd gorchymyn yn cynnwys gwaith ysgol yn ogystal â phob gwaith arall. Gellid dysgu’r berfau Lladin yn y capel, ar y weddi neu’r bregeth, efallai, neu wedi dod adref nos Sul, neu wrth gerdded i’r ysgol sir fore dydd Llun, ond yr oedd yn rhaid gorffen y traethawd Cymraeg nos Sadwrn. Yr oedd y traethawd bron â bod yn barod—dim ond y frawddeg olaf a oedd yn eisiau, a cheisiai roi ffurf derfynol ar honno cyn i’w rieni ddod i’r tŷ oddi wrth eu gwaith yn y tai allan.

“Ar ôl hynny cysegrasant eu cleddyfau i chwilio am y Greal Santaidd,”—clywsai fod “santaidd” yn gywirach ffurf na “sanctaidd,” ac ychwanegodd, “yng ngwasanaeth yr Ysbryd Glân.” Nid oedd yn fodlon iawn ar y frawddeg; byddai ei athro yn yr ysgol sir yn sicr o’i beirniadu; dywedai fod “cysegrasant” yn rhy gras, a bod yr Ysbryd Glân wedi ei dynnu i’r frawddeg i wneud strôc.

Agorodd y llyfr y buasai’n ei ddarllen cyn dechrau ysgrifennu’r traethawd,—llyfr ar anturiaethwyr y dyddiau gynt. Troes y tudalennau yn freuddwydiol gan edrych ar y darluniau yn fwy na dim arall. Edrychodd yn hir ar lun Galâth yn ei arfwisg yn sefyll yn bennoeth wrth ochr ei farch gwyn. Troi’r tudalennau wedyn ac aros uwchben llun un o ryfelwyr y groes a chroes goch ar ei lurig, a chastell cadarn yng nghefn y darlun. Troi eto a dod ar draws llun Syr Harri Morgan a’i wallt llaes wedi ei rannu yn y canol uwchben dau lygad treiddgar, ac yng nghefn y darlun longau a’u gynnau yn poeri tân a mwg. Troi eto nes dal llun Wellington a’i drwyn cam, ac yr oedd gweld y trwyn hwnnw ar fore oer yn werth lleng newydd o filwyr, meddai Owen y Cwm, a gawsai’r peth fel ffaith o enau John Rice, un o filwyr y Crimea, a hwnnw wedi byw gydag un o filwyr Waterloo. Cofiodd Manod am y ddadl honno yn yr ysgol ar “Pa un ai Wellington ai Napoleon oedd y cadfridog mwyaf?” Cymerasai ef ochr Wellington. . .

Ni chlywsai Manod na’r sŵn traed na sŵn clicied y drws, ond yr oedd clust Bob y ci yn feinach: cododd o’i orwedd ger y tân a chan chwyrnu aeth tua’r drws lle y troes y chwyrnu yn gyfarth croesawgar.

“Beth sy’n bod yr hen gi du?

Ydy dy fistir yn y tŷ?”

Nid oedd eisiau dyfalu pwy oedd yno; nid oedd neb ond Owen y Cwm yn siarad â chŵn mewn barddoniaeth. Gwyddai Bob mai hen ffrind a oedd yno, a chan ysgwyd ei gynffon a chyfarth yn gryfach fyth cerddai o flaen Owen tuag at y tân.

“Ddwedi di ddim ond ‘Bow-wow-wow’?”

Tybed, meddyliai Manod, a gaiff ef odl i’r gair “wow,” ond nid oedd Owen byth yn methu,—os methai â chael odl mewn Cymraeg âi i’r Saesneg, ac os methai yno gwnâi air ei hun.

“Taw a phaid â chadw row,

Neu fe’th helwn dros y môr.”

Erbyn hyn yr oedd Owen wedi’i hercian hi drwy’r eil ac yn sefyll yn nrws y gegin. Gwyddai Manod mai her oedd hynny iddo ef orffen y cwpled, a distawodd Bob hyd yn oed i roi gwell cyfle i’r cynnig. Ymhen ychydig eiliadau dyma’r ateb yn dod oddi wrth Manod,

“I dueddau Singapôr.”

“Da iawn, da iawn,” meddai Owen, a Bob yn cyfarth ei gymeradwyaeth; yr oedd yn amlwg bod yr ymwelydd wrth fodd y bachgen a’r ci. Gwelsai Owen lawer tro ar fyd a rhoesai gynnig ar lawer math o waith; nid oedd wedi bod allan o Brydain Fawr erioed, er y gellid tybio, a barnu oddi wrth ei iaith, iddo grwydro’r byd i gyd. Troes i ryddiaith yn awr gan ddisgrifio’r daith o’r Cwm i Frynafon yn nhermau daearyddiaeth y pum cyfandir a’r saith môr.

“ ’Roeddwn i wedi dod drwy’r Hellespont (dyna fwlch y rhos, meddai Manod wrtho’i hun) i Fôr y Canoldir (dyna’r rhos fach) a heibio i Gibraltar (dyna’r banc eithin) i ganol yr Atlantic (dyna’r rhos fawr) a thrwy’r Panama Canal (dyna’r lôn gul at y tŷ) pan weles i’r Eddystone Lighthouse yn y pellter (golau ffenestr y gegin) a finne yn yr harbwr,” gan eistedd ar y sgiw yn ymyl y tân.

Aeth Manod ati i gau ei lyfrau a’u rhoi i gadw. Eisteddai Bob gyferbyn ag Owen gan edrych yn ymofyngar arno. Wedi lledu ei ddwylo o flaen y tân gofynnodd Owen,

“B’le mae’th dad a’th fam?”

“Mae nhad yn rhoi bwyd i’r ceffyle, a mam yn godro. Fe ddôn i’r tŷ ’nawr.”

“Wyt ti wedi gneud dy wersi?”

“Ydw, wedi gneud y cwbwl. Gadewch i ni gael y Batl o Waterlŵ cyn iddyn nhw ddod i’r tŷ.”

Wrth glywed y gair “Waterlŵ” dyma Bob yn gwneud y nesaf peth i wenu a fedr ci ei wneud ac yn cymryd rhyw ddwy naid neu dair at ddrws y parlwr. Yr oedd chwarae’r Batl o Waterlŵ yn hen gynefin i’r tri. Bob oedd y Ffrancod bob amser, a’r Ffrancod oedd y gelyn bob amser waeth p’run fyddai’r frwydr. Owen a Manod oedd “y ni,” y gegin yn faes y gad, drws y parlwr yn safle’r gelyn, a’r aelwyd yn rhan y Prydeinwyr. Yn y Batl o Waterlŵ Manod a’r procer yn ei law oedd y Prydeinwyr, ac yr oedd Owen, yn cynrychioli Blücher, i ddod i mewn ar y diwedd. Ar y gair “Charge” yr oedd Bob i ruthro at Manod a chydio yn y procer, a thra’r oedd pethau fel hyn deuai Owen o’r gegin gefn gan weiddi, “Up, Guards, and at ’em!” a hynny’n arwydd i Bob ollwng ei afael o’r procer a rhedeg o dan y bwrdd yn agwedd byddin orchfygedig.

Dim ond gwaith munud oedd gosod maes y frwydr. Yr oedd Manod a’i benlîn dde ar y llawr a’r procer tuag i fyny. Fei delw wrth ddrws y parlwr safai Bob gan ddisgwyl y gorchymyn. “Charge,” ebe Owen o’r gegin gefn a dyna Bob yn rhuthro’n syth i afael yn y procer. Ond yr oedd rhywbeth newydd wedi dod i ddrysu cynlluniau’r frwydr y noson honno, oherwydd cymerasai Manod y procer yn syth o’r tân, a phan gydiodd Bob ynddo rhoes ysgrech na chlywyd ei gwell mewn brwydr wirioneddol. Rhedodd rhwng coesau Owen tua’r gegin gefn; a chan fod mam Manod yn dod o odro ar y pryd aeth Bob fel hwrdd yn erbyn y bwced llaeth gan daflu peth o’i gynnwys.

“Beth ar y ddaear fawr sy’n bod yma?”

Pan ddaeth Robert a Mari Jones i’r gegin yr oedd Owen yn syllu’n fyfyrgar i’r tân a Manod yn troi dail rhyw lyfr ar y bwrdd.

“Beth sy’n bod ar y ci ’na?”

“Mynd yn rhy agos i’r tân,” ebe Manod.

“Ie, cael gormod o dân,” ebe Owen, gan wybod eu dau eu bod yn rhoi lliw arall ar y gwirionedd heb ddweud celwydd noeth.

Yr oedd gweld Owen yn y tŷ yn beth mor naturiol fel nad oedd eisiau cyfarch na dim byd felly, ac wedi i’r tad eistedd dechreuwyd trin materion y byd heb ragymadroddi.

“A sôn am dân,” ebe Owen, “y mae tanio wedi dechre rhwng Twrci a Groeg.”

“Ydy, mae’n debyg,” meddai Robert Jones.

“Ag fe gaiff y Twrc notice to quit ’nawr. Bois da yw’r Groegied ’na. A ’dyw John Bull chwaith ddim yn cysgu.”

“Eisie heddwch sydd,” meddai gŵr Brynafon, “fyddwn ni ddim gwell yn y diwedd ar ôl ymladd.”

“Ie,” meddai Owen, gan weld nad oedd milwriaeth i fod yn bwnc y noson, ac eto am roi gair drosti, “ ’dyw ymladd ddim yr hyn oedd e yn amser Wellington.”

“Wellington a gafodd y clod, ond eraill oedd yn gorfod ymladd. Mae digon o waith cael dau pen y llinyn ynghyd yma heb feddwl am y Twrc.”

Yr oedd yn amlwg erbyn hyn i’r ddau ryfelwr mai cyflwr amaethyddiaeth fyddai testun y siarad am amser. Ufuddhaodd Owen i’r drefn; daeth Bob yn ôl i orwedd dan y bwrdd mawr, mor llwfr â mynych wrthgiliwr yn ceisio cymdeithas y saint. Yr oedd Mari Jones wrthi’n rhoi’r llestri ar y bwrdd. Symudodd Manod i’r bwrdd ger y ffenestr gan edrych eto ar frawddeg ola’r traethawd.

(“ ’Does dim mynd o gwbwl ar y da blwyddi.”)

“Ar ôl hynny dechreuasant—eu hymchwil fawr,” yr oedd “ymchwil fawr” yn ymadrodd da.

(“Dim ond dau borthmon oedd yn y ffair ddwetha, ac yr oedd un ohonyn nhw yn rhegi’n ofnadwy am fod y stoc mor sâl.”)

“. . gan gysegru eu cleddyfau.” Yr oedd “gan gysegru” yn llawer gwell na “cysegrasant,” er ei fod wedi defnyddio’r ymadrodd “gan . . .” chwech o weithiau cyn hynny. Wel, ’doedd dim i’w wneud ond newid un neu ddau o’r lleill.

(“Y mae’n debyg o fynd yn gyfreth rhwng y ddau.”)

“. . gan gysegru eu cleddyfau yng ngwasanaeth y Greal Sanctaidd.”

(“Dyna gythrel o ddyn.”)

Rhaid i “sanctaidd” aros, a’r “Ysbryd Glân.” Darllenodd y frawddeg eto. “O hyn allan dechreuasant eu hymchwil fawr gan gysegru eu cleddyfau a’u harfau yng ngwasanaeth y Greal Sanctaidd a’r Ysbryd Glân.”

“Dyna beth sydd o fynd at gyfreithwyr.”

“Trowch at y bwrdd,” ebe Mari Jones.

“ ’Down i ddim yn meddwl . . .”

“Dowch fel y mae e.”

“Wel, gan eich bod chi wedi paratoi ynte . . .”

II

“Fe fydd yna danio yn Iwrop cyn bo hir,” ebe Owen y Cwm wrth alw ym Mrynafon ar ei ffordd adref un noson ddechrau Gorffennaf 1914. Wedi bod yn Aberystwyth yr oedd, a phan âi Owen i Aberystwyth câi ddau beth yn ddieithriad,—“glasaid bach,”—dyna’i ddisgrifiad ef, a phapur newydd Saesneg. Yr oedd aroglau ei anadl yn dyst o’r glasaid bach, a thaflodd ar y bwrdd y papur gyda’i lythrennau duon mawr ar ben y colofnau: “Edrychwch chi drosoch eich hunain,” meddai drachefn, “fe fydd hi’n danio yn Iwrop yn fuan iawn.”

Ym marn pobl plwyf Blaen-y-cwm dau ddigwyddiad mawr y cylch yn haf 1914 oedd ymweliad y peiriant ehedeg ag Aberystwyth, a’r eisteddfod semi-national, fel y gelwid hi, yn Nhregaron. Ceisiai pob un fynd i’r naill neu’r llall, ac ambell un ffortunus, fel Owen y Cwm, i’r ddau. Yr oedd y peiriant ehedeg yn dod ddechrau Gorffennaf, yng nghanol y cynhaeaf gwair; oblegid hynny rhoddasai’r rhan fwyaf eu bryd ar yr Eisteddfod am ei bod hi rhwng y ddau gynhaeaf. Yr oedd y papur lleol wedi gwneud ei orau i ennyn diddordeb yn ymweliad y peiriant ehedeg trwy gynnig talu am siwrnai ynddo i un o’i ddarllenwyr. Yr amod oedd torri’u henwau a’u cyfeiriad ar ddarn neilltuol o’r papur, a dod â’r darn papur i’r cae ar ddydd yr ymweliad a’i osod mewn blwch: yr enw a dynnid allan a gâi’r fraint. Os mynnai rhywun arall fynd i fyny byddai’n rhaid iddo dalu punt.

Cychwynnodd Owen am y brêc yn fore gan nodi’r argoelion am ddiwrnod braf. Galwodd ym Mrynafon ar ei ffordd, i lanw’r papur.

“B’le mae Manod yma?”

“Dyma fi.”

“Llanw hwn i fi; mae nhw eisie’r enw mewn block leteers; beth yw hynny, dwed?”

“Llythrenne mawr.”

“Welwch chi, mae blwyddyn o gollege yn gneud ei hôl wedi’r cwbwl.”

“Wel, fe ddyle,” meddai ei fam.

“Mae hynny’n wir, ag fe gawn weld a ddaw papur wedi ei lanw gan gollegeman â lwc i fi.”

Wedi cyrraedd y dref aeth Owen yn syth tua’r cae lle y cychwynnai’r peiriant ar ei siwrneiau. Yr oedd cannoedd yn y cae, wedi talu eu chwecheiniogau, er y gellid gweld y peiriant yn yr awyr lawn cystal o’r tu allan. Aeth Owen mor agos ag y gallai ato: yn ei ymyl rhyw greadigaeth afluniaidd ac afrosgo ydoedd, ond wrth ddringo i’r awyr deuai rhyw bryd a thegwch iddo fel pe bai’n ymhyfrydu ac yn ymadnewyddu yn ei elfen briod ei hun. “Mae e fel gwas y neidir,” meddai rhywun yn ymyl Owen, gan ei gyffelybu i un o ehediaid tlysaf yr haf.

Tua dau o’r gloch cyhoeddodd rhywun y tynnid o’r blwch yr enw am y siwrnai rad, a dyma ŵr busneslyd yn arwain bachgen bychan yn mynd o flaen y dyrfa ac yn gweiddi trwy ryw gorn mawr,—“Yn awr y mae’r bachgennyn hwn yn mynd i dynnu ar antur enw o’r blwch.” Cyfieithwyd y frawddeg i’r Saesneg.

“Mae na grwt yn mynd i dynnu papur o’r bocs,” meddai hwn a’r llall gan gyfieithu wedyn i Gymraeg bob dydd. Clymwyd cadach poced am lygaid yr hogyn cyn ei arwain at y papurau, rhoddwyd ei law ar ymyl y blwch, gwthiodd yntau hi i ganol y papurau, ac ymhen tipyn tynnodd hi allan gan ddal un papur rhwng ei fysedd. Yn y distawrwydd mawr a wnaed yn fwy dwys gan sŵn y trên yn y pellter agorodd y gŵr busneslyd y papur a darllenodd yr enw, “Abraham Jones, Pen-y-graig.” Torrwyd ar y distawrwydd gan gyffro mewn un cwr i’r dorf,—cyfeillion Abraham Jones a oedd yno’n mynegi eu syndod a’u mwynhad bod Abraham nad oedd nemor byth yn myned oddi cartref wedi ennill yr hawl i hwylio’r awyr am ddim. Ond nid oedd gŵr Pen-y-graig, er rhoi ei enw fel pawb arall, erioed wedi breuddwydio mai ei enw ef a dynnid allan. Troes yn wyn fel y galchen, a dechreuodd grynu gan ofn.

“Mlaen â chi.”

“Na, ’daf i ddim yn wir, fechgyn.”

“Mlaen ag e.”

“Fechgyn bach, ’dw i ddim eisie.”

Erbyn hyn yr oedd y peiriant yn chwyrnu’n barod am ei siwrnai. “Come on,” meddai’r gyrrwr, “we can’t wait all day.”

“Mlaen ag e.”

Yn sydyn penderfynodd Owen y Cwm ddal ar gyfle mawr ei fywyd. Gwelodd nad âi Abraham i fyny, a chyda “Dyma fi’n dod,” cerddodd at y peiriant. Trawyd cymdogion Abraham Jones â syndod, ond dechreuodd y dyrfa guro dwylo a dymuno’n dda i’r anturiaethwr. Dringodd yntau i’w le’n hamddenol, ac i fyny ag ef. Aethant dros y castell ac allan tua’r bae; ac yr oedd Owen wedi anghofio’r dyrfa yn y cae wrth syllu ar lesni dwfn yr wybren a glesni eang y môr. Pan ddaeth i lawr tyrrai’r dyrfa o’i amgylch ond cipiwyd ef gan un o wŷr y wasg i gael adroddiad arbennig i’r papur. Wedi’i gael yn rhydd ffurfiodd ei gyfeillion yn osgorddlu i Owen gan ei hebrwng tua’r dref.

Ar ochr y ffordd y tu allan i’r cae ar ryw fath o bulpud symudol yr oedd dwy ddynes yn areithio, bob un yn ei thro, ar hawliau merched, yn enwedig yr hawl i bleidleisio. Âi’r rhan fwyaf heibio iddynt yn weddol ddifater ar ôl holi a chael gwybod mai suffragettes oeddynt, ond yr oedd rhyw rai yn aros o amgylch y pulpud,—ychydig, ychydig bach o gefnogwyr, a’r lleill yn gweiddi rhywbeth ar draws i ddrysu’r areithydd. Pan ddaeth Owen a’i gwmni yn agos atynt yr oedd un o’r ddwy ddynes yn siarad am heddwch a rhyfel.

“Gadewch i ni gael y bleidlais a mynd i’r Senedd, ac ni fydd yna’r un rhyfel; fe ofala mamau’r wlad am hynny. Os daw rhyfel eto cofiwch y bydd defnyddio peiriannau mwy erchyll nag erioed, fel hwnna sydd yn yr awyr.” Daeth y peiriant yn sydyn dros y berth gan wneud i bawb blygu eu pennau, ond aeth y ddynes ymlaen. “Bydd rhai fel yna yn hau tân: y mae rhai pobol wedi rhagweld y peth eisoes. Cyhyd ag y bo’r awdurdod yn llaw dynion ni ddaw pethau ddim yn well.” Dechreuodd rhyw hanner dwsin o’r rhai a oedd o’i hamgylch weiddi a chadw synau diystyrllyd. “Os ydych yn credu cymaint mewn dyn,” ebe’r ddynes, “dangosed un ohonoch ei fod yn ddyn, yn ddigon o ddyn i fynnu cael chwarae teg i ddynes.”

“Dyma un,—wedi bod lan mewn eroplên,” gwaeddodd un o gyfeillion Owen.

“Ie, ac yn crynu rhag ofn ei wraig pan fydd e gartref,” meddai’r ddynes.

Gwelodd Owen ei gyfle, debygai ef, a gwaeddodd yn ôl,

“ ’Dydw i ddim wedi priodi.”

“Wel,” oedd yr ateb o’r pulpud, “y mae un ddynes beth bynnag wedi bod yn lwcus iawn.”

Chwarddodd rhai, ond gwelodd y lleill gyfle i dorri’r cyfarfod.

“Lawr â nhw,” ebe Guto’r Moch, “lawr â nhw.”

Nid oedd gan Guto unrhyw opiniwn ar bleidleisio, ond gwyddai lle y gallai gael tipyn o gwrw’r noson honno am aflonyddu ar y ddwy ddynes.

“Lawr â nhw,” meddai wedyn.

“Lawr â nhw,” meddai rhyw lanciau a oedd yn disgwyl am sbri.

“Lawr â nhw,” meddai Owen y Cwm yn ddolurus gan yr ateb ffraeth.

Wrth weld agwedd ffyrnig y dorf ciliodd y ddwy ddynes trwy lidiart bychan gan fynd tua’r dref. Dechreuodd rhai eu dilyn gan weiddi, “I’r môr â nhw,” ond teimlai Owen fod dial wedi dod am y sarhad a gawsai, ac aeth ymlaen ar hyd y ffordd. Yn y dref cyfarfu â Dai Ton-y-pandy, hen gyfaill bore oes, ac i ddau wedi cyfarfod ar ôl yr holl flynyddoedd, nid oedd ond un lle amdani, a’r Black Lion oedd hwnnw. O’r fan honno y cychwynnai’r brêc, ac felly ni chollai’r gyrrwr amser i geisio chwilio am Owen, nac Owen amser i chwilio am y brêc. Yng nghwmni Dai anghofiodd Owen eiriau’r ddynes, a hyd yn oed orfoledd y siwrnai yn yr awyr. Wedi trin materion personol aeth y ddau ati i roi’r byd yn ei le a thrafod yr helynt yn Servia. Bob hyn a hyn dywedai Dai’n bwysleisiol,

“Mae tynged Iwrop yn y glorian.”

Cyn ymwahanu penderfynodd y ddau gyfarfod wedyn yn eisteddfod Tregaron.

Distaw iawn oedd Owen yn y brêc ar y ffordd adref,—dyna fel y byddai bob amser yn ei ddiod,—ac ni ddywedodd fawr am ryw chwe milltir gan oddef yn dawel siarad gwag hwn a hon am stoc a chnydau a phrisiau. Ceisiodd rhai gael peth o’i brofiad ar ôl bod yn yr awyr, eithr ni thyciai dim. O’r diwedd pan ddaeth cyfle ar ben rhyw drafodaeth dywedodd yn floesg,

“Ydy, mae tynged Iwrop yn y glorian.”

Bu distawrwydd am ychydig fel pe bai pawb yn pwyso’r sylw a’i fesur, ac yna meddai Leisa’r Ffowls,

“Ag rwy’n siŵr y pwysith e fwy na’r hen iâr a werthes i heddi. Faint yw pwysi tynged Iwrop?”

“Ha, ha,” meddai’r llwyth.

“Wedi bod yn rhy agos i’r cymyle y mae e,” meddai Leisa wedyn, “fe ddaw ato’i hunan pan ddihunith e yn y Cwm bore fory.”

“Ha, ha,” meddent wedyn.

Felly erbyn i Owen gyrraedd Brynafon ar ei ffordd adref yr oedd gwawdiaith Leisa’r Ffowls wedi newid brawddeg Dai i

“Fe fydd hi’n danio yn Iwrop cyn bo hir.”

“Beth ych chi’n ddweud?” meddai Mari Jones.

“Bydd yn siŵr i chi, fe fydd yna danio.”

“ ’Dyw ryfedd yn y byd gen i; mae nhw wedi bod yn chware cymaint â’r peth fel chithe a Manod.”

“Ie, tanio ar y dŵr a than y dŵr, ar y tir ac uwchben y tir,”—yna gan ddechrau sylweddoli pwysigrwydd yr ymadrodd olaf, “ie, sylwch chi, uwchben y tir.”

“Uwchben y tir! Y mae’r eroplên yna wedi troi eich pen chi.”

“Wel,” meddai Manod, “y mae H. G. Wells yn dweud yr un peth.”

“Dyna ddyn,” meddai Owen, “dyna ddyn yn deall ei bwnc.” Yna ar ôl tipyn o fyfyrio, “Y mae e mor wir â mod i wedi bod lan yn yr eroplên heddi.”

“Chi wedi bod lan!”

“Do, ngwas i, fi gafodd drip y papur.”

“Wel, yn wir i chi, ag fe fuoch uwchben y dre a’r môr?” ebe Mari.

“Do, uwchben y cwbwl i gyd.”

“A sut ’roedd pethe’n edrych?” meddai Manod.

“Wel,” ebe Owen, “ar ôl gadael y ddaear, ’rown i fel pe bawn i mewn byd arall, ac o ran hynny mewn byd arall yr own i. Yr oedd yr Atlantic ar un llaw a Phrydain Fawr ar y llaw arall.”

“Ag Aberystwyth, sut yr oedd hi’n edrych?”

“Dim mwy na thwlc,—a finne’n mynd ar y Sarn Helen tua’r Llwybyr Llaethog, ond cyn i fi gael fy meddylîe at ei gilydd yr own i nôl ym myd Leisa’r Ffowls.”

Ar hyn daeth Robert Jones i’r tŷ, a bu raid mynd dros stori’r eroplên iddo yntau.

“Wel wir, Owen, mae’n anodd credu eich bod chi wedi bod lan yn yr awyr. Beth arall oedd yn Aberystwyth?”

“Dwy ddynes yn siarad am heddwch, am fôts, ac am hela merched i’r Senedd. Dyna i chi ffwlbri.”

“Fe wnaen yn well na llawer o’r dynion.”

“Ond, Mari fach, rhoi’r fôt i rai fel Leisa’r Ffowls. Beth wyt ti’n feddwl, Manod?”

“ ’Rwy’n meddwl y cân nhw’r bleidlais. Fe ddwedwyd yr un peth yn erbyn rhoi’r bleidlais i weithwyr.”

“Wel, fe godwyd cerdded ar y ddwy fadam, ag fe gawson ateb da gen i.”

O dipyn i beth aethpwyd i sôn am yr Eisteddfod. Clywsai Owen gan Dai fod rhai o gorau mawr y Sowth am ddod i fyny “fel practis am y National.” Ar ôl cael cwpanaid o de gofynnodd Owen wrth ymadael,

“Ga i fenthyg yr ‘Ysgol Farddol’?”

“Wel, cewch, yn eno dyn. Beth sydd ar y gweill ’nawr?”

“Mae ’na wobr am englyn i’r ‘Awyrlong’ yn yr Eisteddfod, a phwy ddyle wybod am y testun yn well na fi?”

“Ag fe rodda i ffugenw i chi,” meddai Manod.

“Beth yw hwnnw?”

“ ‘Un a fu ynddi’.”

“Da iawn, ar f’ened i. Dyna fydd e.”

Yn ystod y dyddiau canlynol clywyd llawer am englyn Owen y Cwm i’r “Awyrlong.” Adroddwyd ef mewn ysgoldy a siop a gefail gof. Pwyswyd ei eiriau, mesurwyd ei linellau, a bu rhyw ychydig yn beirniadu ei gynghanedd, gan ei alw yn englyn talcen slip. Yn y diwedd yr oedd cymaint o sôn am gystadleuaeth yr englyn ag am gystadleuaeth y corau meibion. Efe, cyn belled ag y gwyddai neb, oedd unig gynrychiolydd y plwyf mewn unrhyw gystadleuaeth.

Yr oedd hi’n ddiwrnod braf y dydd Mercher hwnnw, y pumed o Awst, ac yr oedd y dyrfa’n fwy nag arfer. Cyn gynted ag y cyrhaeddodd Manod y dref gwyddai fod rhywbeth wedi digwydd. “Rhyfel—rhyfel—er un ar ddeg neithiwr—rhyngom ni a Germany.” Aeth yn syth i geisio papur newydd, ond yr oeddynt i gyd wedi’u gwerthu, ac nid oedd iddo ef a llawer eraill ddim ond darllen y ddwy hysbyslen y tu allan i’r siop. “DECLARATION OF WAR,” meddai hysbyslen y papur dyddiol Saesneg, a hysbyslen y papur Cymraeg wythnosol yn ei ymyl, “TYNGED EWROP YN Y GLORIAN.”

Dim ond un o gorau’r De a oedd wedi cyrraedd, oherwydd rhyw anhawster ynglŷn â’r trên, meddai pobl, a chlywodd Manod gan ryw ddau neu dri fod bardd y gadair hefyd wedi methu â chyrraedd. Er y siomedigaeth i gyd yr oedd y rhyfel wedi dod â rhyw ddiddordeb newydd i bopeth. Aeth y côr o’r De â’r wobr yn hawdd,—nid oedd dim amheuaeth am hynny o’r cychwyn,—eithr cynhyrfid y dyrfa gan addaster rhai o frawddegau’r gytgan ryfelgar, a chaent ystyr newydd yn rhai o ymadroddion y prif adroddiad, “Araith Llywelyn,” ac yn “A oes heddwch?” seremoni’r cadeirio.

Felly daethpwyd at gystadleuaeth yr englyn i’r “Awyrlong.” Pump a deugain o englynion, meddai’r beirniad, hynny yw, rhyw fath o englynion (a’r dyrfa’n dechrau gwenu), deg yn y dosbarth isaf,—rhai a chanddynt rith cynghanedd, eithr wedi gwadu ei grym hi (yn gwenu eto). “Y mae yn eu mysg un y disgwylid pethau gwell ganddo, sef ‘Un a fu ynddi.’ Fe ddylasai hwn siairad tipyn o synnwyr, beth bynnag am gynghanedd. Ond mor bell ag y mae cystadlu ar englyn yn y cwestiwn gwell fyddai i ‘Un a fu ynddi’ fod wedi aros ynddi am dipyn wedyn.” Chwarddodd pawb, ac aeth Owen allan yn ddistaw bach a Dai Ton-y-pandy ar ei ôl. Cawsant dafarn a oedd yn wacach na’r lleill, ac yno rhoesant eu barn ar feirniaid a brenhinoedd.

Cychwynnodd Owen adref ar ei draed oherwydd ni allai feddwl am wynebu gwawdiaith cwmni. Arhosodd Manod ym mhabell yr eisteddfod hyd y diwedd bron er mai aflwyddiannus a fu ef yng nghystadleuaeth y delyneg. Wrth fynd yn ôl i’r dref clywai’r dorf o’r babell yn canu “Hen Wlad fy Nhadau,” ac yna “God save the King.” Ar y sgwâr,o amgylch un o’r Territorials yn ei wisg filwrol, yr oedd tyrfa’n canu,

“Rhwym wrth dy wregys gleddyf gwyn dy dad,”

mor ddolefus â phe bai mewn angladd. Uwchlaw’r dyrfa hon safai Henry Richard, ac yn y llwydolau tybiai Manod ei fod yn edrych yn dawel i rywle o ganol y cythrwfl fel gŵr yn sicr o’i weledigaeth.

Yr oedd gan Manod ryw bum milltir i gerdded adref. Yr oedd yn noson dawel, hafaidd, ac yr oedd yn well ganddo fod ar ei ben ei hun i feddwl am newydd mawr y dydd. Ar ôl cerdded rhyw dair milltir daeth ar draws Owen y Cwm yn flin oherwydd bod gwas y Ficer wedi ei basio yn y trap heb ofyn iddo ddod i fyny fel sbeit am fod Owen wedi gwrthod arwyddo’r ddeiseb yn erbyn Datgysylltiad. Galwai Owen felltithion ar ben y gwas, ond nid oeddynt ddim wrth y melltithion a alwai ar y beirniad. “Fe ddyle’r dyn yna gael ei gymryd i fyny mewn eroplên ganol nos a’i daflu i gors Teifi. Y mae dyn fel yna,” a chymerodd ei amser a’i wynt, “y mae dyn fel yna yn waeth na’r Ceisar.” Ymadawodd y ddau ymhen milltir, ac wedi i Manod fynd rai llathenni clywai Owen yn gweiddi,

Charge. Up, Guards, and at ’em!

a thylluan yn ateb o Goed y Cadno.

Gwyddai Manod mai cwmni Dai Ton-y-pandy a’r sôn am y rhyfel yn Ewrop oedd achos y frwydr ddychmygol, a gwyddai hefyd yn sicr mai’r gelyn oedd beirniad yr englyn.

Pan gyrhaeddodd Manod adref tua hanner nos, yr oedd ei dad a’i fam yn y gwely, ond gwyddai o arfer sut i wneud swper. Wedi rhoi’r tegell ar y tân aeth at waelod y grisiau i ddweud ei fod wedi cyrraedd.

“Oedd yna ryw newydd?” ebe Robert Jones.

“Y mae’n rhyfel rhyngon ni a Germany.”

“Rhyfel?”

“Ie.”

Cyn bod y tegell wedi berwi, daeth ei fam i lawr.

“ ’Doedd dim eisie i chi godi, mam.”

Paratôdd ei fam ei swper gyda gofal mawr fel pe bai yn paratoi’r pryd olaf cyn taith hir. Siaradai am ddigwyddiadau’r dydd ar y fferm, ac ar ôl i Manod fwyta,

“Well i ti fynd i gysgu’n dawel ’nawr,” meddai.

Wrth i Manod fynd heibio i ddrws yr ystafell wely, dyma lais ei dad yn gofyn, “Beth ddwedai Henry Richard?” a chan na wyddai i bwy y gofynnid y cwestiwn aeth yn ei flaen i’w wely.

III

Cythryblus ei feddwl oedd Manod wrth fynd yn ôl i’r coleg yr ail flwyddyn. Cilwgai rhai ar unrhyw fachgen ieuanc a oedd heb fod mewn gwisg milwr; sibrydid y byddai’r coleg yn cau gan fod eisiau pawb yn y fyddin neu at waith rhyfel, ond agor a wnaeth fel arfer ar ddiwedd yr haf. Yr oedd rhai o’r bechgyn wedi mynd i’r fyddin eisoes, ac eraill yn disgwyl eu tro.

Ar ddechrau’r tymor anerchwyd y bechgyn gan y prifathro ar ddigwyddiadau cyffrous y dyddiau hynny. Siaradodd am y trais ym Melgium, ac am gyfraniad cenhedloedd bychain i wareiddiad y byd, gan awgrymu y deuai o’r heldrin a’r alanas ryw gyfraniad arall yn ôl bwriadau yr Hwn a wna i gynddaredd dyn ei foliannu. Ni cheisiodd gyfarth y bechgyn i’r fyddin na chwaith eu perswadio i beidio â mynd,—ceisiodd angori eu meddyliau ansefydlog yng nghanol berw’r dymestl ar wirioneddau mawr sy’n aros yr un ymhob rhyferthwy. O’r tu allan deuai dyfnru diarbed y môr ar y creigiau, ond yr oedd yn dawel y tu mewn, ac aeth Manod allan gan deimlo bod y prifathro, fel Henry Richard, a’i olwg rywle y tu hwnt i’r holl drychineb.

Taerai llawer mai byr fyddai cwrs y rhyfel; ni allai’r gwledydd, meddent, gyda’u harfau dinistriol ddal yn hir heb i’r naill ochr neu’r llall, neu i’r ddwy, gael eu difodi. “Business as usual,” meddai’r Llywodraeth: “business as usual,” meddai’r papurau newydd fel cerrig ateb, “bydd y cwbl drosodd cyn y Nadolig.” Dywedid bod Kitchener yn darogan rhyfel am bedair blynedd; “wrth ddweud hynny y mae’n siarad fel milwr efallai, ond nid yw’n siarad synnwyr,” meddai un gŵr enwog, eithr yr oedd y llun hwnnw ohono ar y parwydydd, gyda’r llygaid syth, digyffro, a’r bys estynedig, yn rhyw arwydd i’r neb a fynnai ddeall bod amser caled ymlaen.

Kitchener oedd un o arwyr ieuenctid Manod,—Kitchener a chadfridogion eraill y rhyfel yn Ne Affrica; hwynt-hwy a oedd yn cloi’r gyfres o ddynion mawr yn y llyfr Saesneg a ddarllenid yn yr ysgol, ac yr oedd eu lluniau hwy yn y sypyn o hen gyfrolau o’r “Illustrated London News” a brynodd ei dad mewn rhyw ocsiwn gyda chofiant Henry Richard. Pan fyddai gan y plant ryw chwarae lle yr oedd yn rhaid cael enwau dychmygol, Kitchener neu ryw gadfridog arall a ddewisai ef bob amser. Yr unig wers a gollasai yn yr ysgol sir oedd y tro hwnnw pan aeth ef a thri arall yn ystod amser chwarae i weld y Territorials yn mynd i ffwrdd am eu hymarferiadau blynyddol. Wrth wylio’r bechgyn o ffermwyr yn carlamu i’r orsaf, a’r ceffylau porthiannus yn sgleinio yn yr haul, nid oedd munudau yn cyfrif: yr oedd fel pe bai troell amser wedi aros y bore hwnnw. Erbyn cyrraedd yr ysgol cawsant fod y droell wedi troi am hanner gwers a mwy; ond yr oedd y cof am yr olygfa lew yn yr orsaf yn lleddfu pob munud o’r “cadw i mewn” a roddwyd yn gosb ar y pedwar llanc.

Diwrnod trist oedd hwnnw pan ddaeth y newydd am farw un o fechgyn y coleg mewn ysbyty yn y wlad hon o glwyfau a gawsai ar faes y gad,—un a oedd yn y coleg yn llawn asbri a bywyd y tymor cynt. Diwrnod trist oedd hwnnw hefyd pan ddygwyd ei gorff adref; yr oedd yr Union Jack ar yr arch, y tanio uwch y bedd, a’r utganu dolefus yn gwau rhyw ramant am y cwbl. Trist oedd dyfodiad cwmni bychan o ffoaduriaid o Felgium i’r dref. Edrychent yn raenus a chlyd, ond rywfodd dychmygai Manod eu gweld yn dianc rhag y gelyn a’u cartrefi ar dân o’u hôl,—“mwg y pentrefi gyfyd gyda’r gwynt.” Canodd y dorf “Hen Wlad fy Nhadau” a “God save the King,” ac atebodd y dyrnaid ffoaduriaid trwy ganu “La Brabançonne,” eu hanthem genedlaethol hwy, a chawsant gymeradwyaeth deilwng o gôr mawr buddugol mewn cystadleuaeth.

Diwrnod trist oedd hwnnw pan aeth Dan, cyfaill gorau Manod, i’r fyddin, i ymladd dros Gymru, meddai ef. “Wn i ddim byd am hynny,” ebe Dan ryw noson pan oeddynt yn ceisio cael achos y rhyfel yn uchelgais y gwledydd, “wn i ddim am hynny; ymladd dros Gymru ’rydw i.” Tristaf oll efallai oedd myned haid o bobl y dref, a Guto’r Moch ar y blaen yn dwyn Union Jack fawr, i ymlid gwraig y dywedid ei bod yn Almaenes, yn un o’r strydoedd cefn. Clywodd wedyn i rai o’r dorf, gan nad oedd ateb i’w gael wrth guro’r drws, dorri’r ffenestri drwy luchio cerrig, a dychwelyd yn fuddugoliaethus. Daeth i feddwl Manod mai’r Union Jack a oedd yn llaw Guto’r Moch oedd honno a fu ar arch y bachgen a laddwyd. Mil gwell, meddyliai Manod, yw dilyn y faner i ladd y gelyn na’i dilyn fel hyn mewn rhyw ffug wroldeb dan gochl gwladgarwch. Fel hyn y teimlai wrth fynd adref am ei wyliau Nadolig.

Y rhyfel oedd y siarad i gyd yn y plwyf, meddai ei fam. Yr oedd prisiau da am anifeiliaid, a Gruff Penros wedi gwerthu’r gaseg felen am bedwar ugain punt, ac yn bostio ei fod wedi claddu’r arian rywle ar y mynydd, “rhag i’r Germans eu cael nhw,” a phlant y plwyf wedi bod yn tyllu ar hyd y lle i gyd ryw brynhawn Sadwrn nes gyrru Gruff o’i gof. Yr oedd y plismyn yn cael amser ofnadwy rhwng popeth. Aethai rhyw sôn bod golau mawr i’w weld ar ros Tŷ Mawr bob nos a sŵn pethau’n cael eu symud; daliai rhai mai ysbryd a oedd yno ar ôl boddi’r hen Wmffra, neu gannwyll gorff, ond yr oedd y rhan fwyaf yn dal bod gan y peth rywbeth i’w wneud â’r Germans. Aethai’r plismyn a rhyw ddau arall ar ôl y golau ryw noson; gwelsant rywbeth o’u blaen, ac wrth ei ddilyn aethant i gyd ar eu pennau i bwll mawn. Pan ddaethant i fyny nid oedd yno na golau na dim byd. “ ’Rydw i’n dweud o hyd mai Jac y Lantarn oedd yno. A beth feddyliet ti? Mae nhw wedi bod yn holi Owen y Cwm.”

“Holi Owen y Cwm? Pwy?”

“Y plismyn a rhyw ddynion mawr o Lunden.”

“Ei holi ynghylch sut i ennill y rhyfel, mae’n debyg.”

“Na, fe ddaeth rhyw si fod Owen wedi dweud y byddai’n well gweithio dan y Ceisar. ’Dyw Owen ddim wedi gweithio llawer dan ein Brenin ni, petai fater am hynny; ond dyna fe, ryw ddydd fe ddaeth dynion i’w holi, ac fe fuon rownd i’r gymdogaeth i gyd, ond y cwbwl a gawson nhw oedd fod Owen wedi dweud ar ôl yr Eisteddfod fod gwaeth dynion na’r Ceisar. ‘A welwch chi,’ medde Owen wrthyn nhw, ‘fe ddof i’r Cwrt i dyngu hynny’.”

“Dyna ffylied, onte fe?”

“Wel, ie, ’does yna neb yn fwy nag Owen am guro’r German.”

“Y mae e yn ei elfen.”

“Ydy, ond y mae un peth ar ôl.”

“Beth yw hwnnw?”

“Fe leice fe ’rwy’n credu pe baen ni yn ymladd yn erbyn y Ffrancod unwaith eto.”

Y mae’n wir nad oedd cymaint o sôn am y rhyfel gartref ag yn y dref, ond cafodd Manod ei fod yn dechrau taflu ei gysgod du dros bopeth. Nid oedd yn y papur wythnosol fawr ddim byd arall ond newyddion am y rhyfel a lluniau’r bechgyn a oedd yn y fyddin. Nos Nadolig yr oedd cyfarfod croeso i fod yn yr ysgol i Wil y Cnwc gan ei fod ar y pryd gartref o’r fyddin am dro. Nid oedd gan neb air da i Wil cyn y rhyfel, ond medrai fyw’n ddihidio heb wneud dim gwaith. Os byddai cwmni stwrllyd ar ben ffordd neu haid o fechgyn wrth eu pranciau, byddai Wil yno. Efe oedd y cyntaf a feiid pan gollai ffermwr afalau o’i berllan neu ryw declyn o’i fuarth. Syndod i bawb oedd i Wil fynd i’r fyddin yn union ar ôl dechrau’r rhyfel.

Cynrychiolid pob teulu o’r gymdogaeth yn y cyfarfod. Y Ficer oedd y cadeirydd a’r arweinydd; eisteddai ef a Wil y Cnwc ar y llwyfan, a Wil yn edrych mor anesmwyth â lleidr wedi ei ddal yn ei ddrygioni. Rhaglen amrywiaethol o ganu ac adrodd oedd y cyfarfod; yr oedd hwyl ar bopeth yn enwedig ar ganu penillion wedi eu cyfansoddi ar gyfer y cyfarfod gan Owen y Cwm. Yr oedd Owen yno mewn tei ddu, am fod Lord Roberts wedi marw. Ar ôl rhyw awr a hanner cododd y Ficer i ddweud eu bod wedi dod at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno anrheg fechan i un o fechgyn dewr yr ardal, William Davies, a bu i Wil a’r gynulleidfa gymryd rhai eiliadau cyn dygymod â’r enw newydd. Dywedodd fod William wedi gwneud ei ddyletswydd ac mai dyna oedd braint pawb yn yr amseroedd enbyd. Cafodd y Ficer wrandawiad da; gwyddai pawb fod ganddo eisoes ddau fab yn y fyddin, a phan gyflwynodd bwrs a nifer o bapurau punt ynddo i Wil ac ysgwyd ei law, bu curo dwylo a thraed am amser hir.

Yna galwodd y Ficer ar Mr. Daniels, gweinidog o’r plwyf nesaf, i ddweud gair. Gwyddai’r rhan fwyaf am frwdfrydedd Daniels dros y rhyfel; nid oedd ganddo blant ei hun, ac o bulpud a llwyfan ceisiai yrru plant pobl eraill i’r fyddin. Dechreuodd arni, gan ddweud bod llawer gormod o bobl ieuainc yn y cyfarfod. “Nid ydych wedi sylweddoli eich cyfrifoldeb,” meddai, “neu ni fyddech yn crechwenu yn y cyfarfod hwn. Fe ddylai fod cleddyf yn eich dwylo. ‘A’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf’.”

“ ’Does gen i’r un bais,” gwaeddai rhywun o’r tu ôl. Yn y chwerthin mawr aeth Daniels yn gynddeiriog: dywedodd pe bai ef yn iau yr âi i’r fyddin ei hun, pe bai ganddo blant yr anfonai hwynt i gyd i’r gad, a phe bai ganddo ganpunt y rhoddai hwynt i gyd am ddim i’r Llywodraeth.

“Tipyn llai o’r ‘pe bai’ yna,” gwaeddodd rhywun. Yna cyhoeddodd Daniels ei fod cystal gŵr ag unrhyw un yn y gynulleidfa, a’i fod yn fodlon profi hynny. Yr oedd y sŵn erbyn hyn mor enbyd nes i’r Ficer ei berswadio i eistedd i lawr, a gofynnodd i’r hen John Jones, blaenor hynaf Horeb, ddweud gair. Aeth pawb yn ddistaw ar unwaith. Er na thywyllai Wil ddrws na chapel nac eglwys, cyfeiriodd yr hen sant yn dyner at “William, ein hannwyl frawd,” atgofiodd ef am y “breichiau tragwyddol,” a’r “cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder,” nes dwyn Wil a’r gynulleidfa i’r ysbryd iawn i ganu ar y diwedd

“Peraidd ganodd sêr y bore

  Pan y ganed Brenin nef.”

Er eu bod ill tri yn teimlo bod y rhyfel fel rhyw gwmwl du y tu ôl i’r cwbl ni soniodd Manod a’i dad a’i fam am y peth. Ar ddamwain hollol y clywodd Manod ei dad ac Owen y Cwm yn trafod ei achos un noson yn yr ysgubor pan oedd ef wedi mynd i edrych b’le’r oedd ei dad.

“Fe fydd yn rhaid i bawb fynd,” meddai Owen y Cwm.

“Efalle, ond nid wyf i’n mynd i ddweud wrtho am fynd.”

“Mae’r wlad yn galw,” meddai Owen wedyn, gan gofio apeliadau Kitchener ac eraill.

“Y wlad, ddwetsoch chi? ’Does yna’r un llathen ohoni yn perthyn i fi, ag fe wyddoch fy mod i wedi gorfod gadael tair ffarm ar fy ngholled, wedi imi roi fy ngore ynddyn nhw. Fe fydde’n gas gen i feddwl am Manod yn mynd i ymladd i gadw sgamps fel Jones Bryn Hafod ar ôl y ffordd y triniodd e fi.”

“Ie, ond yr oedd Mr. Jenkins Pennant yn siarad yn y cwrdd yr wythnos ddwetha gyda’r Aelod Seneddol, ac yn dweud fod egwyddor fawr y tro hwn, mai rhyfel sanctaidd . . .”

“Y dyn! Yn dweud hynny! Ychydig gyda dwy flynedd sydd er pan fuon ni’n dathlu canmlwyddiant geni Henry Richard, a Jenkins Pennant yn siarad yno, a mynd i hwyl wrth adrodd ‘Gwyn eu byd y tangnefeddwyr,’ ac yn dweud fod melltith y nef yn eistedd ar garn pob cleddyf, Hen Destament neu beidio.”

“ ’Rych chi wedi costi tipyn ar Manod, mae’n wir.”

“Ydw, dyna b’le mae’r anghyfiawnder. Pe bawn i wedi’i gadw ar y ffarm y mae’n debyg y câi e lonydd drwy’r rhyfel; ond am i fi ei gosti i’r ysgol a’r coleg, ac ynte’n dod ymlaen hefyd, rhaid iddo fe fynd, ac er mwyn peth?”

“Y wlad a’r brenin,” meddai Owen yn gyndyn. Bob amser pan glywai Manod sôn am y brenin cofiai am y llun ar y canister te ar y silff ben tân yn y gegin,—yr wyneb llawn hwnnw, dipyn yn ddienaid, a’r llygaid pŵl, a’r dillad gorwych, a chofiai am ei fodryb a oedd yn dipyn o rebel yn dweud,

“A dyn fel yna yn frenin!”

“Wel,” meddai ei fam, “pe bai chi yn ei weld e mewn dillad rhesymol, efalle y bydde fe fel rhywun arall.”

“Ag os yw e fel rhywun arall, pam y mae e’n frenin?”

Gyda hyn dyma’i fam o’r tŷ yn gweiddi am i bawb ddod i swper.

“Wel, gan ei fod e’n barod . . .” meddai Owen gan gychwyn am y tŷ.

Âi’r misoedd ymlaen yn feichus a digwyddiadau mawr yn dod o dro i dro, y Dardanelles, Salonica, Mesopotamia, Jutland, a’r brwydrau erchyll hynny yn Ffrainc lle y collid miloedd o fywydau i geisio ennill rhyw ddarn bach o dir. Yn gymysg â’r cwbl daeth gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon a phrawf Roger Casement. Daeth yr hanes am saethu Patrick Pearse fel ergyd i Manod,—tudalen arall yn nhrueni adfydus Iwerddon,—y wlad a dynasai ei fryd gymaint ym marddoniaeth Yeats, dramâu Synge, a brwdfrydedd gloyw y deffroad cenedlaethol.

Yn ei wlad ei hun gwelai gnafiaid a dihirod yn cael swydd ac anrhydedd, oferwyr didda yn cynrychioli Llywodraeth Prydain Fawr, ac yn pesgi ar fraster yng nghanol y prinder, a cheiliogod gwynt yn cymryd arnynt fentyll y proffwydi. Yr oedd rhai mewn dillad milwr i achub eu crwyn, eraill i foddio’u blys am ramant, eraill o hir syrffedu ar wneud dim a gweld cyfle arall i wneud dim a chael ei gyfrif yn waith a thâl amdano. Saeson boldew a chynffonwyr o Gymry fel fwlturod yn ymlenwi ar bydredd a budreddi Armagedon. Yr oedd cyfarfod â rhai o’r bechgyn gartref am dro o’r fyddin fel awel o wynt mewn mwrllwch neu lygedyn o haul yn torri trwy’r caddug.

Yn 1916 daeth Deddf Gorfodaeth a ffurfiwyd llysoedd i ystyried ceisiadau i ohirio neu esgusodi. Cyflwynodd Manod ei gais i gael aros i orffen ei gwrs a chael ei radd. Caniatawyd hynny iddo’n rhwydd. Arhosodd yn y llys i glywed rhai achosion eraill. Yr oedd yno rai yn ceisio rhyddhad am eu bod yn wrthwynebwyr cydwybodol,—hawl a ganiateid iddynt gan y Ddeddf. Gwrandawodd am dipyn ar yr hollti blew a’r darnio adnodau, ar gymysgu’r Hen Destament â’r Newydd yn un cawl disynnwyr. “Onid oedd Dafydd yn rhyfelwr?” gofynnai un aelod o’r llys i fachgen ieuanc, a blysiai Manod weiddi dros y llys yng ngeiriau Morgan John Rhys, “Oedd, ac yn buteiniwr hefyd.” Ym marn y rhan fwyaf o aelodau’r llys gellid meddwl yr âi Crist o amgylch beunydd a fflangell o reffynnau gan geisio y neb y gallai ei daro.

Aeth Manod o’r llys; yr oedd hi’n dechrau nosi, a’r band yn mynd o flaen y milwyr ar eu ffordd i’r gwersyll gerllaw. “Rhyfelgyrch Capten Morgan” oedd y dôn a genid; pan glywai Manod dôn cysylltai hi bob amser â rhyw eiriau a chysylltai hon â geiriau Ceiriog,

“Rhwym wrth dy wregys gleddyf gwyn dy dad.”

Cleddyf gwyn Galâth a rhyfelwyr y groes, cleddyf yr Ysbryd Glân.

“Mwg y pentrefi gyfyd gyda’r gwynt.”

Gwelai yn ei ddychymyg y Belgiaid druain yn gorfod gadael eu cartrefi’n chwilfriw gan ddianc heb wybod i b’le.

“Clywa’r saethau’n sïo fel seirff di-baid.”

Llywelyn, Owain Lawgoch, Glyn Dŵr.

Yr oedd y band yn ail-ddechrau’r dôn,

“Atynt fy machgen dros dy wlad.”

Aeth Manod yn syth tua’r swyddfa ricriwtio i roi ei enw.

“ ’Does yma neb i mewn ’nawr,” ebe’r porthor wrtho. “Beth wyt ti eisie?”

“Rhoi f’enw i fynd i’r fyddin ’nawr.”

“Oes gen ti ddim exemption?”

“Oes, hyd fis Medi.”

“Wel, aros hyd fis Medi, a phaid â bod yn ffŵl. Beth bynnag, aros hyd yfory, ag fe gei weld sut y byddi di’n teimlo’r pryd hynny.”

Trannoeth teimlai Manod yn wahanol, ac ni welodd y swyddfa ricriwtio mohono.

IV

Tua dechrau Hydref y galwyd Manod i’r fyddin. Gorffenasai ei gwrs yn y coleg, ac yna bu gartref dros yr haf. Er bod ganddo radd yn awr, nid oedd hynny rywfodd fel pe bai’n cyfirif dim. Treuliodd y noson olaf cyn mynd i ffwrdd gyda rhai o’i gyfeillion yn Aberystwyth: oddi yno câi drên yr holl ffordd i Aberhonddu lle’r oedd i fynd yn ôl y warant; câi hefyd osgoi ffarwelio â chartref y bore olaf. Yn ei ystafell yn ei hen lety daeth rhyw hanner dwsin o’i gyfeillion ynghyd gan dreulio’r amser heibio i hanner nos wrth sôn am helyntion difyr y gorffennol gydag ambell gip i’r dyfodol tywyll. Ar ôl ysbeidiau o gwsg anesmwyth cyfarfu Manod â’r cwmni drachefn ymhen ychydig oriau ar orsaf Aberystwyth.

Yr oedd nudden dew ar y dyffryn pan gychwynnodd y trên, ond erbyn cyrraedd ymylon Cors Caron yr oedd yr haul wedi gwasgar y niwl. Eithr y bore hwnnw nid oedd dim byd yn noethni’r gors nac yn y fantell niwl i’w ddenu i edrych allan; gwyddai hefyd ped edrychai yr âi ei olwg dros y gors i’r ucheldir rhyngddi a’r môr i gyfeiriad ffermdy gwyngalchog lle’r oedd dau a’u cwsg y noson gynt wedi bod mor ysbeidiol â chwsg eu bachgen. Yn nes ymlaen gadawyd y gors am ddyffryn Teifi lle’r oedd y crinddail yn ceisio cadw rhywfaint o harddwch cyn dyfod y dyddiau blin i lwyr ddileu gogoniant yr haf. Yr oedd yn rhaid newid yng Nghaerfyrddin, ac ar ôl teithio wedyn drwy wlad ddieithr daeth i orsaf Aberhonddu: yno yr oedd gŵr mewn gwisg milwr yn barod i’w arwain ef ac eraill a ddaethai ar yr un trên i mewn drwy byrth y gwersyll.

Treuliodd Manod a’r lleill a oedd wedi eu galw y gweddill o’r dydd yn y gwersyll, a’r noson honno cawsant ystafell a gwelyau gwellt a blancedi. Teimlent rywfodd ar wahân, ac er eu bod yn y gwersyll nid oeddynt eto yn rhan o’r fyddin. Pwy a wyddai na châi’r meddyg ryw nam arnynt wrth eu profi drannoeth, a’u hanfon allan drwy’r pyrth eilwaith ac yn ôl i’w cartrefi. Yr oedd un wedi gofalu’n bendant mai’n ôl yr âi ef, ac ymffrostiai wrth y cwmni cyn iddynt fynd i gysgu ar eu gwelyau gwellt ei fod ef wedi cymryd talpiau o sebon am amser cyn hynny ac y ceid gweld yr effaith cyn diwedd diwrnod arall.

“Pa sebon sy’n dda at beth felly?” gofynnai un.

“Dim ond y sebon gore,—Sunlight soap,” ebe’r broliwr.

Yng nghornel yr ystafell yr oedd tramp a alwesid i’r gwersyll gyda’r lleill. Yr oedd yn amlwg i bawb fod ei ddillad a’i gorff yn noddfa llau, ac oblegid hynny cadwai pawb ymhell oddi wrtho ef a’i flancedi.

Nid oedd llawer o chwant cysgu ar y cwmni cymysg, ac yr oedd ymhell ar ôl hanner nos cyn i’r sŵn olaf ddarfod. Yn union wedyn, fel y tybient, canodd y corn i alw’r milwyr at waith y dydd newydd.

Daeth corpral i mewn gan orchymyn i hwn a’r llall wneud rhywbeth ar gyfer brecwast.

“A thi fan ’na,” meddai, gan bwyntio at y tramp, “dos di i mofyn y bara ar gyfer brecwast.”

“Ym mheth?”

“Yn dy flanced, wrth gwrs,” ebe’r corpral, gan beri i’r lleill dyngu na chymerent yr un gegaid o’r bara.

Ar ôl brecwast yr oeddynt i fynd o flaen y meddyg i gael gweld a oedd rhyw fai arnynt; wedi iddynt ddiosg eu dillad i gyd, a chael eu pwyso, rhoddai’r meddyg ei gorn ar eu bronnau, a gofyn iddynt besychu. Yr oedd golwg ddiflas ar bawb, a’r meddyg a’i gynorthwywyr fel pe baent wedi hen flino ar y gwaith o syllu ar gyrff noethlymun eu cyd-ddynion yn mynd heibio o ddydd i ddydd. Y tu ôl i Manod yr oedd gwladwr o odre’r sir wedi diosg ei ddillad ac yn edrych yn lled oer wrth aros yn y rhestr. Oherwydd bod y meddyg yn aros yn hwy nag arfer gyda’r un a oedd o flaen Manod aeth un o’r gweision at yr hen frawd, ac meddai,

“Ewch i mofyn eich cot fawr.”

Aeth yntau allan i’r ystafell lle’r oedd ei ddillad, a dod yn ôl a’i ymbrela dan ei fraich.

“Welwch chi,” meddai wrth y gwas, “ymbrela sy gen i.”

Ni buwyd yn hir cyn gorffen y rhestr a chael gwybod pwy oedd i aros a phwy oedd i gael mynd adref. Y prynhawn hwnnw aeth y cwmni a ddaethai i mewn y diwrnod cynt at borth y gwersyll i gael eu rhannu yno. Aeth rhai allan yn wrthodedig, eithr yn ddynion rhydd, gan adael Manod a llawer o rai eraill ar ôl yn y gwersyll. Ymhlith y rhai a wrthodasid yr oedd gŵr yr ymbrela; yn eu plith hefyd yr oedd gŵr y sebon.

Good-bye, Sunlight,” gwaeddai rhywun ffraeth ar ei ôl, “cofia iwsio mwy ohono ar dy groen a llai yn dy berfedd.”

Troes “Sunlight” yn ôl a gwenodd yn fawrfrydig heb geisio ateb y sen.

Cafodd y rhai a adawyd eu dewis o ddwy gatrawd: ffafr fawr oedd hyn, meddai pawb yn y gwersyll, “a dyna’r dewis dwetha a gewch chi am amser maith,” meddai’r sarjant wrthynt. Dewisodd pawb ond tri un o’r hen gatrodau Cymreig adnabyddus; Manod a dau arall y Welsh Guards. Y noson honno aeth y tri â’u gwelyau gwellt i gornel yr ystafell gan deimlo bod rhywbeth eisoes yn eu tynnu at ei gilydd. Ifan Rogers oedd un o’r tri,—bachgen araf, rhadlon, o waelod y sir, wedi treulio’i oes ar y tir heb adael ei ardal ond i fynd i ffair neu i eisteddfod neu i gyfarfod pregethu, ac eithrio’r tro hwnnw yr aethai i Lundain i aros gyda’i gyfnither dros y Nadolig. Glynodd wrth Manod o’r dechrau, ar ôl siarad ag ef yn y trên a deall eu bod ill dau ar yr un neges, a phan ddewisodd Manod y Guards, gan gofio efallai am rai o storïau Owen y Cwm, dewisodd Ifan hefyd fynd gydag ef.

Ned Beynon, o’r sir nesaf, oedd y llall,—creadur ffraeth a didaro,—wedi treio amrywiol orchwylion ac oherwydd hynny wedi methu â phrofi i’r awdurdodau ei fod yn anhepgorol i’r un ohonynt. Yr oedd yn llawn bywyd ac yn barod â’i ateb, yn barod i hoffi ac i ffromi, “ti” a “thithau” oedd pawb iddo; yr oedd rhyw onestrwydd a ffyddlondeb mawr ynddo yn y bôn. Dewisasai ef y Guards am fod un o’r cwmni nas hoffai ef wedi dewis y gatrawd arall. Y noson honno paratôdd y tri eu gwelyau ochr yn ochr,—yr efrydydd dibrofiad, newydd adael y coleg, y gweithiwr syml o’r fferm, a’r Siôn pob gwaith,—wedi’u cysylltu gan y penderfynu i fynd i’r Guards.

“Sut le sydd yn y Guards ’na?” gofynnai Ifan, ar ôl iddynt orwedd i lawr ar y gwely y noson honno. Yr oedd Manod ac yntau wedi bod yn y cantîn bwyd, ac Ifan wedi mynnu cael talu am bob o gwpanaid o de a bynen mewn rhyw gornel ddistaw. Gartref ar y fferm yr oedd pob gwaith gan Ifan ar bennau ei fysedd, eithr yr oedd bywyd gwersyll yn ddieithr iddo, ac ansicrwydd y dyfodol yn fwy dieithr fyth.

“Sut le sy ’na, ddyliech chi, Jones?”

Cyn i Manod gael amser i ateb daeth Ned Beynon i mewn. Daeth i mewn dan ganu

Rolling home, rolling home,

By the light of the silvery moon,”

a bloesgni’i lais ac aroglau ei anadl yn dweud yn ddiamwys mai o’r cantîn gwlyb y daethai. Yr oedd mewn pryd i glywed cwestiwn Ifan, ac meddai,

“Lle ofnadwy sy ’no.”

“Pwy sy’n dweud hynny?” meddai’r ddau arall gyda’i gilydd.

“Y sarjant a gwrddes i yn y cantîn. Ond welwch chi, bois, os ydyn nhw am dreio’u trics ar y bachgen yma,” gan bwyntio bys yn ddramatig at ei frest ei hun, a gostwng ei lais, “fe fydd yna ddiawl o row.”

“Fe welwn ni wahaniaeth, mae’n debyg,” ebe Ifan, gan geisio rhoi’r wybodaeth newydd yn ei lle.

“Gwahaniaeth? Gwnawn; fe’i dwetsoch hi’r hen frawd. Cofiwch mai nid cartre yw’r army. Dyna pam y mae nhw’n gorfod dod i’n nôl ni’n tri.”

“Mae na rai eraill y gallen nhw eu nôl,” ebe Manod.

“Gwir eto,” ebe Ned, “dyna’r J.P. sydd yco; mae e wedi cael swyddi da ynglŷn â’r tir i’w ddau fab, a’r rheini’n gwybod dim am dir.”

“Ble’r oedd y military representative?” ebe Ifan.

Military representative! Wyddoch chi, bois, faint yw oes hwnnw? Hyd ddiwedd y rhyfel,—dyna i gyd.”

“Beth fydd yn digwydd wedyn?” gofynnodd Ifan.

“Fe gaiff y diawl fwlet trwy’i ben ryw nosweth dywyll. Mae ’na lawer Ceisar bach yng Nghymru.”

“Pam na roesech chi fwlet iddo cyn dod?” gofynnodd Manod.

“O, fe fydde pobol yn sbecto pwy saethodd e; ond ar ôl y rhyfel fe fydd yna ddigon ohonon ni gyda’n gilydd, a fedr yr un dewin wedyn ddweud pwy wnaeth y gwaith.”

“Efalle,” meddai Manod wedyn, “y byddwn ni i gyd wedi cael digon ar saethu erbyn hynny.”

“Fe fydde’n well gen i i German neu ddau gael eu bywyd, a mod i’n siŵr y câi hwnnw ei ladd.”

Stop your bloomin’ jabbering,” meddai milwr o’r cornel a oedd yn ceisio cysgu.

Edrychodd Ned yn ffyrnig i gyfeiriad y llais.

“Un eto i gael bwlet ar ôl y rhyfel?” gofynnai Manod.

“ ’Rwy’n credu y bydde’n well ei roi ynte hefyd ar y list,” oedd ateb Ned wrth droi i gysgu.

Yn y bore wedi cael nifer o dafelli trwchus o fara a chig mewn cwdyn papur, a gwarant y ffordd haearn, cychwynnodd y tri ar eu taith hir i’r gwersyll newydd. Yr oedd yn daith ddiddorol, oherwydd mai dyma’u taith olaf am amser hir yn eu dillad eu hunain. Yr oedd pob man yn newydd, ac yr oeddynt i fynd trwy Lundain cyn diwedd y daith. Cofiodd Ifan am ei gyfnither yn Llundain, a gofidiai am nad oedd wedi medra anfon gair i ofyn iddi ddod i’w weld.

“Paid â hidio,” meddai Ned, “fe gei gyfle i fynd i’w gweld hi eto.”

“Ydych chi’n meddwl y bydd cyfle?” ebe Ifan gan droi at Manod.

“Bydd yn siŵr i chi,” meddai yntau, “y mae gen inne berthnase yno, ond heddi fe awn drwy’r brifddinas heb fod neb yn gwybod.”

“Mae’n debyg na allwn i ddim galw i’w gweld hi?” gofynnai Ifan wedyn.

“Dim peryg,” atebai Ned, “ ’dwyt ti ddim yn ddyn rhydd ’nawr, a elli di ddim mynd i whilmentan ynghylch perthnase.”

“Fe leicen i ei gweld hi,” ebe Ifan wedyn, “er mwyn cael gair o Gymraeg.”

“Ond oes gen ti ddau beth bynnag sy’n siarad Cymraeg ar eu gore. On’d Cymry ydyn ni?”

“Ie, ie,” ebe Ifan, “ond . . .”

They’re Dutch all right,” meddai gŵr yng nghornel y cerbyd wrth ei gydymaith, ar ôl poeni ynghylch cenedl y tri bachgen, a’r “ie, ie” wedi ei argyhoeddi o’r diwedd, “they must be Dutch. I wonder what they’re up to.

“. . . rhywun y tu allan i ni’n tri own i’n feddwl. Mae’n dda ein bod ni’n mynd i regiment Gymreig.”

“Saesneg fydd iaith y fyddin, mae’n debyg,” ebe Manod.

“Ie fe? Ond gan mai Cymry fydd yno, fe gawn lawer o Gymraeg.”

“Faint o Saesneg sydd gen ti, Ifan?” ebe Ned.

“Wel, fe werthes i geffyl i Sais y ffair ddwetha, a ’rown i’n teimlo’n reit dwp am na allen i siarad ag e yn Saesneg.”

“Feddylioch chi ddim,” ebe Manod, “ei fod e lawn mor dwp yn ffeili siarad Cymraeg?”

“Wel, naddo, feddylies i ddim am hynny.”

“Beth am fwyta’r tocyn yma?” meddai Manod, gan agor y parsel bwyd a gawsai yn y gwersyll y bore hwnnw.

“Tocyn wyt ti’n ei alw e?” gofyimodd Ned.

“Ie, dyna fydden ni yn ei alw e yn yr ysgol. Yr oeddwn i a phlant eraill oedd yn byw’n rhy bell i fynd adre i ginio yn dod â thocyn i’w fwyta hanner dydd.”

“O, a chan gofio,” ebe Ifan, “ydych chi’n meddwl y bydde’n well i mi godi fy nhocyn aelodaeth o’r capel, a dod ag e i’r fyddin?”

“Tocyn aelodaeth, wir,” ebe Ned. “Fydd neb yn hidio am hynny bellach. Fydd neb yn gofyn i ti i ba gapel yr oit ti’n mynd. Faint o Germans fedri di ladd,—dyna fydd yn cyfri bellach.”

“Edrychwch,” ebe Manod yn sydyn gan godi i’r ffenestr. Yn y pellter yn hofran yn yr awyr yr oedd un o’r peiriannau newydd. Yn sydyn troes tuag at y trên; deuai’n syth tuag atynt a’r tri’n dal eu hanadl; nid oedd y lleill yn y cerbyd yn rhoi sylw o gwbl iddo.

“Fe fu ffrind i fi fyny yn un o’r rheina,” ebe Manod.

“Ym mhle?” gofynnai Ifan.

“Yn Aberystwyth, ryw ddwy flynedd yn ôl.”

“Tewch â sôn.”

“Do’n wir, ag fe gadd fynd am ddim.”

“Mae’n debyg ei fod e’n ddyn mawr yn y gymdogeth ar ôl hynny.”

“Na, wnaeth hynny ddim llawer o wahaniaeth. Mae e’n dal mai’r rheina fydd yn setlo’r rhyfel yma.”

“Piti na fydden ni wedi joino’r rheina,” ebe Ned, “fe arbedid llawer o gerdded.”

O dipyn i beth cyrhaeddwyd Llundain, a’r tri ar yr orsaf eang fel rhyw ynysig yng nghanol cefnfor mawr aflonydd,—pawb yn rhuthro ac yn rhedeg, a phob un fel pe’n gwybod yn union i b’le’r oedd am fynd, a’r tri yn teimlo bod mwy o sefydlogrwydd yn rhuthr y gweddill nag yn eu petruster hwy. Cawsant eu trên o’r diwedd, ac yr oedd yn dechrau nosi pan gyraeddasant Caterham a chlywed sarjant o’r gwersyll yn gweiddi,

All recruits line up here.

Ar waelod y stryd yr oedd ysgrifen yn dangos mai dyna’r ffordd i’r gwallgofdy a’r gwersyll, a mynych y danodwyd iddynt ar ôl hynny eu bod wedi camgymryd y ddau le. Yr oedd tuag ugain ohonynt, o bob oed a llun,—y rhan fwyaf mewn dillad anniben ac yn llawer llai trwsiadus na’r tri chyfaill. Aethant i fyny tua’r gwersyll ar y bryn gan gerdded bob yn ddau,—Manod ac Ifan gyda’i gilydd, a Ned o’r tu ôl yn cydgerdded â gŵr o Firmingham, ac yn ceisio olrhain achau hwnnw. Wrth borth y gwersyll yr oedd nifer o filwyr yn sefyllian i wylio’r newydd-ddyfodiaid.

More meat for the sausage machine,” ebe un, a chwarddodd y lleill.

“Beth ddwedodd e?” meddai Ifan, ond ni chymerth Manod arno ei glywed.

“Oes rhai ohonoch chi’n Gymry?” gwaeddai gŵr tal canol oed a blewyn coch.

“Oes,” atebai Ifan yn awchus, a chan droi at Manod, “ond ddwedais i y bydde yma Gymry.”

“O b’le ’rych chi’n dod?”

“O sir Aberteifi.”

“Cardi ydw inne hefyd.”

“Sut le sy ’ma?” ebe Ned.

“Uffern o le, ond fe’ch gwela i chi’n nes ymlaen yn y cantîn.”

“Wel, mae ma Gymry, ta beth,” meddai Ifan wrth fynd i mewn drwy’r porth.

Arweiniwyd y fintai i gaban hirgul a’i lawr ryw ddwy droedfedd o’r ddaear. Yr oedd ei ochrau o ryw ddefnydd gwneud, a drws ym mhob talcen, a’i do o sinc. Yr oedd ychydig o ffenestri yn yr ochrau, a stof ar ganol un ochr. Gydag ochrau’r caban yr oedd y gwelyau, sef tair astell hir ar ddau drestl, gwely gwellt ar yr estyll, a phedwar blanced ar hwnnw. Cynhwysai’r caban ddeg ar hugain o’r gwelyau hyn, i gyd a’u pennau at ochr y caban, a rhodfa yn y canol o un drws i’r llall.

Take your places,” meddai’r sarjant, a dyna ruthro at y lleoedd mwyaf cysurus: cyn i Manod ac Ifan sylweddoli beth oedd yn bod cawsant mai’r ddau wely wrth y drws pellaf oedd yr unig rai ar ôl; ond yr oedd Ned wedi cael y gwely yn ymyl y stof.

Yn union deg aeth y tri i’r cantîn lle y gwerthid cwrw a the a phob math o fwydydd a melysion. “Fe fynna i de a bynen,” meddai Ifan, “fel fydda i’n gael yn y ffair.” Yr oedd Ned yng nghornel y cantîn lle’r oedd casgen fawr yn cael ei godro’n barhaus. Yr oedd y rhan fwyaf o’r rhai a ddaethai gyda hwy o’r orsaf yno hefyd. Yn eu dillad eu hunain yr oeddynt yn nod i bawb, ac yn bur boblogaidd oherwydd credid bod gan y dynion newydd, neu’r rwcis fel y gelwid hwy, ddigon o arian. Felly yr oedd hen ddwylo’r gwersyll yn barod i roddi cynghorion iddynt, ac yn barod i dderbyn fel cydnabyddiaeth fechan lasaid o gwrw neu fenthyg swllt hyd ddiwedd yr wythnos.

Y noson honno yn y caban cyn mynd i gysgu daeth Ned at y ddau ar eu gwelyau yn ymyl y drws.

“Fe’th weles di yn siarad â’r sowldiwr o sir Aberteifi,” meddai wrth Ifan.

“Do,” meddai Ifan, “dyn neis iawn.”

“Dyn neis? Beth yw ei enw e?”

“Ben Rowlands,” meddai Ifan, “crydd oedd e cyn cael ei alw i’r fyddin.”

“A ofynnodd e am arian?”

“Fe ofynnodd am fenthyg hanner coron; ’doedd e ddim wedi cael ei dalu’r wythnos hon.”

“Dyna glamp o gelwydd. Mae nhw’n cael eu talu’n gyson yma bob prynhawn dydd Gwener. Mae’n rhaid i fi siarad â’r boi,” meddai, a’r edrychiad bygythiol hwnnw yn ei lygad.

“Un eto i gael bwlet ddiwedd y rhyfel?” gofynnai Manod.

“Na,” oedd ateb Ned, “fe wneir cyfiawnder yn yr achos hwn ddydd Gwener nesa.”

Yna gan ei bod hi’n ddeg o’r gloch diffoddwyd y golau, ac aeth Ned yn ôl i’w wely ger y stof gan fwmial, “Dyn neis, wir; dyn neis, myn uffern i!” ac wedi tynnu ’i ddillad a rhoi’r blancedi amdano gwaeddodd ar y ddau arall,

“Fe ofala i y cei di dy hanner coron yn ôl ddydd Gwener.”

Oh, shut up, Taffy,” meddai rhywun.

A dyna’r gair olaf y diwrnod hwnnw.

V

Canodd y corn am chwech fore trannoeth,—corn y rifali (reveille),—ond cyn i neb ufuddhau iddo dyma gorpral yn rhuthro drwy’r drws gan gydio yn estyll y gwelyau nesaf ato a thaflu eu llwythi cysglyd ar y llawr.

Show leg there. We’ve been bloody well waiting for you two bloody long years.

Yna yng nghanol y cynnwrf a’r tywyllwch dechreuodd cwmni’r caban wisgo amdanynt. Yr oedd dillad rhai wedi mynd yn gymysg â’i gilydd, ac ambell ddilledyn ar goll. Yn un pen i’r caban chwyrnai rhyw gwlff o ddyn mawr yn foddhaus nes i’w gymar yn y gwely nesaf gael ei daflu’n ddiseremoni ar ei draws, a chyn i neb wybod beth a ddigwyddasai yr oedd y ddau yng ngyddfau ei gilydd.

Gently there, my two turkey-cocks,” ebe’r corpral, gan eu gwahanu, “you’ll have your bellyful of bloody fighting just now.”

Wedi cael brecwast a thacluso gwelyau a glanhau’r caban, aethpwyd â’r fintai i gael eu dillad ac angenrheidiau eraill o’r stôr. Cafodd pob un ddau bâr o ddillad khaki, a dillad isaf, cot fawr, dau bâr o esgidiau, a phethau eraill megis brws dillad, brwsus esgidiau, cyllell a fforc a llwy, a Beibl Saesneg mewn print mân, a dodid y cwbl i gyd mewn cwdyn du a gaeid gan gortyn yn mynd trwy’r llygaid pres yn ei ben. Yna cafodd pob un ohonynt ei rif,—rhif a oedd i fod bellach yn anwahanol gysylltiedig â’i enw, ac ambell waith yn ddigon pwysig i hepgor yr enw hyd yn oed.

Yn olaf oll cafodd pob un gerdyn crwn caled fel maint pisyn hanner coron—ac arno enw a rhif y milwr, ei gatrawd, a’r enwad crefyddol y perthynai iddo. Crogid y cerdyn wrth linyn am wddf ei berchennog; os câi ei ladd a’i gorff yn weddol gyfan ceid y manylion amdano ar y cerdyn, ac efallai y câi ei gladdu gan gaplan yn perthyn i’w enwad ei hun. Nid oedd anhawster ynglŷn â’r enw a’r rhif a’r gatrawd, na chwaith ynglŷn ag enwad y mwyafrif,—“Church of England” oedd eu hateb, a dyna ddiwedd ar y peth. Pan ddaeth tro Manod i roi’r manylion gofynnwyd iddo am ei enwad.

Calvinistic Methodist,” ebe yntau.

What’s that mob?” ebe’r sarjant.

Dechreuodd yntau esbonio, ond cyn iddo fynd fawr ymlaen troes y sarjant at ei glerc ac meddai,

Put him down as Wesleyan.

But I’m not a Wesleyan,” meddai Manod wedyn. Edrychodd y sarjant arno, a chydag awgrym dwfn yn ei lais atebodd,

You’ll bloody well learn not to argue here. If the army says you’re a bloody fool, you are one,” a dyna ddiwedd ar y pen hwnnw. Wrth fynd allan ar ôl cael ei gerdyn clywodd y sarjant yn dweud,

Here’s another of these Calvin buggers,” a gwyddai heb droi i edrych mai Ifan a oedd yno yn ceisio dadlau hawliau’r Hen Gorff.

Os byddai rhywun heb enwad rhoddid ef dan Eglwys Loegr, a hi yn y diwedd a gafodd yr unig anffyddiwr a oedd yn y fintai, er i hwnnw fod am dipyn yn fwy o ddryswch iddynt na’r Calvinistic Methodists. Ni wyddai ef ar y pryd mai mantais faterol—beth bynnag am ysbrydol—oedd cael ei gofrestru fel aelod o Eglwys Loegr, ond gwelai bob Sul ar ôl hynny ddau anffyddiwr a oedd wedi mynnu cael eu cofrestru felly yn gwneud y gorchwylion mwyaf dirmygedig o amgylch y gwersyll pan âi’r lleill i’r eglwys.

Y gwaith nesaf oedd mynd â’r cwdyn du a’i gynnwys i gael eu nodi â rhif y perchennog,—ei roi mewn paent ar y dillad, a’i dorri i mewn i’r brwsus a’r gyllell a’r fforc a’r llwy a’r Beibl. Yna yr oedd yn rhaid newid i’r dillad newydd, a rhoddwyd i bob un ddarn mawr o bapur llwyd a llinyn a llabed i anfon yr hen ddillad adref. Wrth fynd yn ôl i’r caban teimlent fel rhai a gollasai’r cysylltiad olaf â’r hen fywyd.

Erbyn diwedd y dydd yr oedd y tri chyfaill wedi cael tipyn o wybodaeth ynghylch stad pethau yn y gwersyll a’u gwaith yn yr wythnosau canlynol,—a Ned yn cadw wrth ochr Ifan o hyd rhag ofn y byddai rhywun arall yn ceisio benthyca hanner coron ganddo.

Deuai pob newyddian i’r Guards i Caterham yn gyntaf am ryw dri mis o ymarfer cyn ymuno â’i gatrawd. Cedwid milwyr y gwahanol gatrodau ar wahân,—Grenadiers, Coldstreams, Scots, Irish, a Welsh,—ac yr oedd iddynt eu lleoedd arbennig yn y gwersyll. Tynnid allan fintai o ryw ddeg ar hugain i ymarfer gyda’i gilydd o’r dechrau i’r diwedd; arhosent yn yr un caban, ac yr oeddynt o dan yr un hyfforddwr drwy’r holl amser; sgwad oedd enw’r fyddin ar y fintai hon.

Cawsai Ned Beynon mai Corpral Brunt fyddai eu hyfforddwr hwy.

“Sut fachgen yw e?” gofynnai Ifan.

“Cythrel o ddyn, yn ôl pob hanes,” ebe Ned, “ ’rŷn ni wedi dechre’n reit anlwcus, bois, ond os treiith Mr. Brunt ei brancs arna i fe fydd yna fireworks.”

“Hela ofan arnon ni mae nhw,” meddai Manod yn obeithiol.

“Ie’n siŵr i chi,” cytunai Ifan, er bod y digwyddiad ynglŷn â chofnodi ei enwad wedi peri tipyn o amheuaeth iddo. Yr oedd ei ddiffyg Saesneg hefyd wedi bod yn dramgwydd i Ifan drwy’r dydd, er bod Manod wedi ei helpu gymaint ag a fedrai. Rhwng popeth a’i gilydd nid oedd yn gysurus iawn ei feddwl, a daeth yn ôl at fater yr enwad ar y cerdyn.

“Wn i ddim beth ddweda nhw pan af i adre a gweld Wesleyan ar y cerdyn yma,” ebe Ifan.

“Twt, ’does dim eisie i ti ei ddangos e i neb.”

“Beth yw e da ynte?”

“Er mwyn iddyn nhw gael gwybod pwy fydd i dy gladdu di; pan gei di dy ladd fe gei dy gladdu gan Wesle yn awr. Cewch yn wir, bois, fe gewch eich claddu fel Wesleaid, a Wesle i roi eich pregeth angladdol,” meddai Ned gan wneud ei ffordd am ei wely ei hun yn ymyl y stof.

“Mae dynion reit neis ymysg y Wesleaid,” meddai Ifan ar ôl i Ned fynd.

“O oes,” ebe Manod, “dynion da ym mhob enwad.”

“A phregethwyr campus hefyd,” ebe Ifan drachefn, a chyda’r cysur hwn troes i gysgu.

Am chwech yn y bore canai’r corn. Galwad y corn biwgl a oedd yn rheoli pob gwaith yn y gwersyll, o nodau treiddgar y rifali a’u galwai i godi yn y bore,—yna eu galw i ymarfer ar y sgwâr, eu galw i gael bwyd, eu galw i gael eu llythyrau,—hyd at nodau dolefus y Last Post a’r Lights out a gyhoeddai fod gwaith y dydd ar ben. Nid oedd gan Manod lawer o glust i wahaniaethu rhwng gwahanol alwadau’r corn. Bob tro y clywai alaw neu dôn awgrymu rhyw eiriau neilltuol a wnaent iddo; oherwydd hynny hwylustod mawr iddo oedd bod cenedlaethau o filwyr wedi rhoi geiriau i’r gwahanol alwadau, fel y geiriau hyn i’r rifali chwech o’r gloch y bore,—

Get out of bed,

Get out of bed,

Get out of bed, you lazy devils,”

a’r geiriau hyn i alwad y pryd bwyd,

Come to the cook-house door, boys,

Come to the cook-house door.

Cafodd y tri hwyl wrth wneud geiriau Cymraeg i Ifan, a dysgu iddo yntau adnabod galwad y rifali wrth

“I maes â thi

I maes â thi

I maes â thi, y pwdryn diog.”

Yr alwad i fwyta oedd un o’r galwadau mwyaf dymunol, er nad oedd yn aml ddim i ddenu neb yn y bwyd; eithr yr oedd eu hymarferiadau a’r bywyd yn yr awyr agored yn rhoi ystumog ac awch at bob pryd.

“Feddylies i erioed y byddwn i’n byta margarine fel hyn bob dydd,” ebe Ifan ryw ddiwrnod.

“Ag yn ei leico fe hefyd,” ebe Manod.

“Ie, ag yn ei leico fe hefyd.”

Cinio oedd prif bryd y dydd, a’r mwyaf siomedig hefyd, nid am nad oedd digon o fwyd yn cael ei ddarparu ond oherwydd annibendod wrth ei baratoi. Deuai digon o fresych a llysiau eraill i’r gwersyll, ond yr oedd y coginio mor aflêr fel y gadewid y rhan fwyaf ohonynt ar ôl ar y plât, ac ar ddiwedd y dydd deuai gwas y fferm gyfagos â thwba mawr mewn cert i gasglu briwfwyd gweddill y gwersyll a dwyn y llysiau bron i gyd yn fwyd i foch y fferm, a thalpiau mawr o gig yn gymysg. Ar gyfer y pryd bwyd rhoddid dau fwrdd hir ar hyd canol y caban, ac amser cinio bob dydd deuai swyddog heibio gan daro’i ben i mewn trwy’r drws a gweiddi,

Any complaints?

“Ond wiw i chi achwyn dim ar y bwyd, fechgyn,” meddai Ben Rowlands wrth y tri.

“Ag ynte’n gofyn hefyd?” ebe Manod.

“Ie,” meddai Rowlands, “dyna arfer y fyddin; os ydych chi am gadw mas o drwbwl gwaeddwch ‘No, sir’ gyda’r lleill.”

Felly o ddydd i ddydd pan ofynnid y cwestiwn deuai’r ateb yn ôl fel taran,

No, sir.

“ ’Roedd blas reit ryfedd ar y cig yna heddi,” ebe Ned.

“Cig ceffyl oedd e,” meddai Rowlands.

“Be chi’n siarad!” ebe Ifan. “Fe fydd gen i lawer i’w ddweud wrthyn nhw gartre,—mod i wedi byta margarine a chig ceffyle.”

“ ’Does dim trefen o gwbwl ar y bwyd yma,” meddai Manod.

“Nag oes,” ebe Ifan, “a phe bai morwyn fawr newyrth Robert yma’n gofalu ar ôl pethe fe fydde yma well llun.”

“A beth fydde’r gwahaniaeth?” gofynnodd Ned.

“Wel, yn un peth,” meddai Ifan, “fe gawsen fasned o gawl da bob dydd.”

I rywun ag arian ganddo yr oedd digon o gyfle i gael rhagor o fwyd yn yr hwyr,—yn y cantîn, neu’r Y.M.C.A., neu’r “Soldiers’ Rest” y tu allan i’r gwersyll. Câi’r rhan fwyaf barseli bwyd drwy’r post bob hyn a hyn, a gellid gweld yn hwyr y dydd ryw ddau neu dri gyda’i gilydd yn y caban yn cydwledda. Yr oedd yno un corpral yn gwybod bob amser pan ddeuai parsel i rywun, a byddai’n sicr o wneud esgus i alw arno y noson honno: “corpral y torthau” oedd yr enw a roes Ifan arno.

Noson fawr i’r tri chyfaill oedd y noson honno y buont yn gwledda ar y dg briw a’r sbarrib a gawsai Ifan ar ôl iddynt fod yn lladd mochyn gartref. Gwahoddasid Ben Rowlands atynt hefyd i ddangos nad oedd neb yn dal dim digofaint ar ôl y cyffro hwnnw yn y cantîn pan aeth Ned at Rowlands a’i alw yn German ac yn Dwrc, gan ddweud nad oedd yn ffit i’w alw’n Gymro, a bygwth taflu ei beint cwrw i’w wyneb cyn gwneud iddo dalu’r hanner coron yn ôl i Ifan, a hanner y cantîn yn ceisio’u rhwystro i ymladd, a’r hanner arall yn gobeithio yr âi hi’n daro. Ar ôl bwyta’r cig mynnodd Rowlands ganu’r hyn a gofiai o gân y “Mochyn Du” a’r lleill yn uno yn y gytgan.

“O mor drwm yr ydym ni.”

“Nage,” meddai Rowlands,

“O mor llon yr ydym ni,

O mor llon yr ydym ni,”

These bloody Welshmen at their hymn-singing again,” meddai’r Saeson mewn cornel arall, ond âi Rowlands ymlaen gan roi i fyny’r ymdrech i gyfaddasu ac aralleirio,

“Y mae yma alar calon

Ar ôl claddu’r mochyn du.”

Nid y gobaith am barseli bwyd yn unig a dynnai’r bechgyn yn un haid at ei gilydd pan ganai’r corn llythyrau. Yr oedd llythyr o’r tu allan mor werthfawr ag unrhyw anrheg. “Anfonwch hanes popeth sy’n digwydd yna,” ysgrifennai Manod at ei fam, “ ’does dim gwahaniaeth pa beth fyddo,—sawl gwadd a ddaliwyd gan Bob, a oes cathod bach gan y gath, a phwy oedd yn pregethu yna’r Sul dwetha. A pheidiwch â rhoi B.A. ar ôl f’enw ar y llythyr,” ychwanegai, “oblegid dim ond gwneud sbort amdano a wneir yma.”

Llythyr trist oedd y llythyr cyntaf a gawsai oddi wrth ei fam ar ôl iddi gael y parsel a’i ddillad. “Fe fu dy dad a minnau yn llefain wedi cael y parsel. Yr oedd y papur wedi torri, a dim ond y cordyn yn aros.” Ni wyddai Manod wrth ddarllen ei llythyrau eraill mor anodd i fam yn gofidio ar ôl ei bachgen oedd ysgrifennu’n ddoniol am droeon digrif y fferm, fel am helynt Bob a’r ceiliogwydd ar y rhew, a’r hanes am Jona’r Bryn, un diwrnod o eira, yn hela’r plwyf i gyd i chwilio am ei ferlen, a’i chael tua’r hwyr yn gysurus ei gwala yn yr ysgubor lle y buasai drwy’r dydd yn boleidio’n hael o ogor prin Jona.

Clywai Manod yn aml oddi wrth gyfeillion dyddiau’r coleg,—rhai ar ôl yn y coleg, eraill yn y fyddin mewn catrodau eraill. Un dydd daeth llythyr hir oddi wrth Owen y Cwm yn rhoddi adolygiad manwl o gwrs y rhyfel gan nodi rhagoriaethau a diffygion yr arweinwyr, a dweud na ddeuai fawr o lun ar bethau nes cael y Cymro o Gricieth wrth y llyw. Yr oedd yn y llythyr hefyd lawer am beth a wnâi Wellington pe bai ef yn arwain byddin Lloegr yn 1916. Daeth llythyr oddi wrth un o’i athrawon yn y coleg yn awgrymu iddo gadw dyddiadur a rhoi ei brofiadau i lawr yno. “I beth?” meddai Manod wrth ateb, “trist yw’r rhan fwyaf o’r profiadau a gwell gennyf eu hanghofio heb roi bywyd newydd iddynt ar bapur.”

Llythyr wedyn oddi wrth ei hen athro yn yr Ysgol Sul yn Aberystwyth yn sôn am rai o bynciau dyrys y maes llafur newydd, llythyr oddi wrth gofrestrydd y coleg, a llythyr syml oddi wrth wraig ei hen lety. Yn ei dro deuai llythyr oddi wrth Dora, un o ferched y coleg, a hithau a Manod o bell yn ysgrifennu yn eu llythyrau bethau nad anturiasent eu llefaru pan oedd cyfle i hynny.

Un dydd daeth parsel bychan oddi wrth brifathro’i goleg yn cynnwys y detholiad, “The Spirit of Man,” gan Robert Bridges. “Dyma fi’n anfon y llyfr y soniais amdano pan welsom ein gilydd ddiweddaf,” meddai’r llythyr. “Y mae dynion wedi bod mewn amseroedd enbyd cyn hyn, a chwi welwch yn hwn rai o’u profiadau mawr yn yr enbydrwydd, a’r modd y cadwasant eu golwg yn y niwl a’r caddug ar y sêr sefydlog.” Yr oedd y papur lleol mor dderbyniol â’r llythyrau, ac âi Manod drwyddo’n awchus gan ddarllen yn fanwl newyddion y gwahanol ardaloedd. Cadwai’r papurau a’r llythyrau yn ofalus mewn bocs ar silff uwchben ei wely gyda’r “Spirit of Man” a thrugareddau eraill; a llythyrau Dora ac ambell lythyr arall bob amser ym mhoced ei got.

VI

Yn raddol iawn y daeth mintai y caban i adnabod ei gilydd yn dda; rhoesai dillad y fyddin ryw orchudd ar yr hen fywyd, ac i raddau pell, ar bob gwahaniaeth. Wrth ymarfer ar y sgwâr cerddent fel sgwad, ac fel sgwad y symudent; ond ar ddiwedd y dydd nid fel sgwad y gweithredent, canys ceid gweld dau neu dri yn siarad mewn un cornel o’r caban, tri neu bedwar arall yn paratoi i fynd allan i’r dref, a phedwar neu bump wedyn yn chwarae cardiau.

Tynnai un o’r fintai sylw arbennig o’r dechrau oherwydd bod rhuban rhyfel De Affrica ar ei got, a phan gafodd ei got filwr rhoed y rhuban ar honno wedyn. Ceisiodd Manod ei holi ynghylch ei hen fiwydrau, ond cafodd fod ei ddisgrifiadau o’r brwydro yn Affrica yn llawer mwy amhendant ac yn llawer llai diddorol na disgrifiadau Owen y Cwm o’r un brwydro. Gŵr talsyth urddasol ydoedd, a’i wyneb difrifol yn rhyw fath o brotest barhaus yn erbyn rhyfel arall yn ei oes ef.

Aelod mwyaf byw y fintai oedd Tranter, hogyn o Lundeiniwr,—“y cocni ’na,” fel y byddai’r tri yn cyfeirio ato. Âi Tranter i helynt ar ei ben ond cadwai i chwerthin drwy’r cwbl, a gwneud i bawb arall chwerthin gydag ef. Y reddf anffodus hon o ddod i helbul a wnaeth iddo ef ac Ifan fynd yn ffrindiau mawr,—rhyw gyfatebiaeth ddofn yn uno’r Llundeiniwr afieithus a’r hogyn dibrofiad o ganol Cymru. “Yn wir, mae e fel bowndibac,” ebe Ifan ryw noson. Adroddai Tranter straeon doniol o flaen Ifan, a hwnnw’n chwerthin yn ddilywodraeth heb fedru deall ond y nesaf peth i ddim o lediaith y Llundeiniwr. Un noson daeth Ifan ag ef at Manod gan ddweud,

“Mae e eisie i chi sgrifennu llythyr drosto.”

“Pam?” meddai Manod.

“ ’Dyw e’i hunan ddim yn medru sgrifennu, welwch chi.”

“At bwy y mae e am ysgrifennu?” ebe Manod wedyn.

“At ei gariad; mae e wedi dangos ei llun hi i fi.”

“Beth wnaeth iddo ofyn i fi?”

“O, fi ddwedodd eich bod chi wedi bod yn y college.”

Yn ystod yr ymddiddan edrychai Tranter yn swil a phenisel, ond llonnodd yn rhyfeddol pan ddywedodd Manod yr ysgrifennai’r llythyr. Wedi cael inc a phin a phapur gofynnodd Manod iddo beth a roddai yn y llythyr. Ei ateb oedd tynnu’r llun o’i boced a rhoi disgrifiad manwl o’r ferch ieuanc, ac o’r dull y cyfarfu â hi gyntaf, gyda rhes o felltithion ar ei theulu am geisio eu gwahanu. Ar ôl gwrando ar y rhagarweiniad huawdl hwn gofynnodd Manod eilwaith beth oedd i fod yn y llythyr.

Tell her,” meddai Tranter, “I’m O.K., thumbs up.

Gan nad oedd dim mwy i’w gael aeth Manod ati i ysgrifennu’r llythyr gystal ag y gallai, a cheisio gwneud i “O.K., thumbs up” lanw dwy ochr i’r papur ysgrifennu, tra safai Tranter ac Ifan mewn edmygedd gerllaw. Wedi gorffen y llythyr a’i ddarllen a’i farnu’n foddhaol a chyfeirio’r amlen gofynnodd Tranter faint oedd y bil, ac wedi cael ar ddeall nad oedd dim i’w dalu dechreuodd eilwaith ar ei atgofion gyda rhes o fendithion y tro hwn ar y ddau Gymro am eu cymorth. Wythnosau ar ôl hyn cafodd Manod na ddaethai’r un ateb i’r llythyr.

“Ar ôl y fath lythyr neis hefyd,” ebe Ifan.

Ond lled-feddyliai ef ei hun nad oedd yr eneth wedi adnabod Tranter yn iaith ffurfiol y llythyr, a bod y ffurfioldeb hwnnw wedi diffodd y tipyn tân, faint bynnag a oedd yno ar y dechrau.

Ymhen tuag wythnos aeth y tri Chymro i gael tynnu eu lluniau mewn siop y tu allan i’r gwersyll. Tynnwyd hwy’n gyntaf bob un ar ei ben ei hun, ac yna’r tri gyda’i gilydd. Yr oedd yn ffenestr y siop nifer o luniau milwyr a dynnwyd o’r blaen,—dyna’r fath luniau a welid yn llenwi’r papur lleol. Yr oedd rhyw unffurfiaeth rhyfedd ynddynt i gyd fel llun pen y brenin ar ddalen o stampiau, trowsus a phlyg ynddo, y got a’r botymau, cansen o dan y fraich dde, cap i lawr yn isel dros y talcen, a rhwng coler y got a’r cap ryw ychydig o amrywiaeth mewn ceg a thrwyn a llygaid. Pan ddaeth eu lluniau hwythau allan edrychai’r tri fel tair delw, ond meddylient y byd ohonynt ac anfonwyd hwy ar led i’w perthnasau a’u cyfeillion. Ymhen tipyn cawsant yr anrhydedd o’u rhoddi yn ffenestr y siop i geisio denu eraill i mewn.

Gan fod y tywydd yn weddol aent allan o’r gwersyll yn aml gyda’r nos, a mynnai Ned fod Ifan yn mynd er mwyn gweld ei lun yn ffenestr y siop. Nid oedd dim i’w wneud yn y dref ond cerdded i fyny ac i lawr; rhybuddiasid hwy yn huawdl gan un o’r sarjants ynghylch y canlyniadau o fynd gyda’r merched a gerddai i lawr ac i fyny gan geisio cymar am y noson. Ambell waith byddai rhai o’r merched hyn wrth borth y gwersyll yn disgwyl y milwyr allan. Ni welai’r sarjant, meddai ef, ddim allan o le mewn mynd adref gydag un o’r merched, ond y peth mawr oedd gofalu am lanhau eu cyrff rhag yr haint wedi dod yn ôl i’r gwersyll yn y lle a ddarparesid ar gyfer hynny. Rhoddasai ddisgrifiadau byw o’r hyn a ddigwyddasai i rai o’i gydnabod ef wedi iddynt gysgu gyda merched drwg, a gorfod i Manod a Ned egluro’r cwbl i Ifan wedi mynd yn ôl i’r caban. “ ’Rwy’n meddwl,” meddai yntau, “mai cadw draw oddi wrthyn nhw sydd ore,” ac am amser wedyn treuliodd bob hwyr yng nghaban y Y.M.C.A. a oedd y tu mewn i’r gwersyll.

Yr oedd dydd Sul yn rhyw fath o ddydd gŵyl, yn yr ystyr nad oedd dim ymarfer ynddo fel yn y dyddiau eraill. Canai’r corn bore yn hwyrach y diwrnod hwnnw, ac nid oedd cymaint o ruthro a chyffro. Ar ôl brecwast âi pob un â’i flancedi y tu allan i’r caban i gael eu hysgwyd, ac estyll y gwely i gael eu sgwrio â dŵr a sebon nes yr oeddynt yn wyn; yna gadewid iddynt sychu tra byddai’r milwyr yn mynd i’r gwasanaeth crefyddol. Mintai Eglwys Loegr oedd y fintai fwyaf,—yr oedd ganddi hi ei band, a swyddog yn ei harwain, ac eglwys yn y gwersyll. Yr oedd yn rhaid i’r enwadau eraill fynd i gapel y tu allan i’r gwersyll; nid oedd ganddynt fand, a dim ond corpral i’w harwain. Ond yr oedd pob un yn dymuno i bopeth fynd drosodd cyn gynted ag y gellid er mwyn mynd yn ôl i’r gwersyll i gael y gwelyau i mewn, a chinio, a gorffwys.

Yn y prynhawn byddai rhai yn ysgrifennu adref ac eraill yn darllen papur neu lyfr: byddai’r tri Chymro yn aml yn trin pethau dieithr y gwersyll, ac Ifan yn cael y ddau arall i esbonio iddo’r hyn a oedd yn ddryswch iddo ef. Wedi iddo ddeall peth unwaith yr oedd yn hollol sicr ohono. Parodd y gwahanol raddau dipyn o ddryswch iddo ar y dechrau, eithr ymhen ychydig daeth i adnabod y swyddogion wrth eu dillad a’r sêr ar eu hysgwydd,—“gwŷr y sêr,” oedd ei enw arnynt,—yr oedd yn rhaid eu saliwtio hwy, “ond nid saliwto’r dyn yr wyt ti,” meddai Ned, gan geisio cyfleu rhywbeth a ddywedasid wrthynt, “ond y dillad.”

“A oes raid i ni saliwto’r got yna sydd yn y ffenest ar ein ffordd i’r dre?” gofynnai Ifan.

“Y dillad am y dyn, ddwedes i,” ebe Ned.

“Ddwetsoch chi ddim o’r fath beth.”

“Wel, dyna beth own i’n feddwl.”

Am y swyddogion is, yn sarjants a chorprals, “gwŷr y streips ŷn nhw,” meddai Ifan; yr oedd yn rhaid sefyll yn syth wrth siarad â hwy a’ch sodlau wrth ei gilydd. O’r tu allan i’r urddau swyddogol yr oedd “y ni,”—y mwyafrif mawr, ond heb na gallu na phwrpas, defaid mudion arglwyddi’r streips a’r sêr. Yr oedd y sergeant major mor bwysig fel y rhoddodd Ifan ef ar ei ben ei hun,—“gŵr y goron,” ac ar ei ben ei hun mewn dosbarth arall yr oedd caplan y gwersyll, “gŵr y coler.”

Yr ail Sul yn y gwersyll, ymlaen ar y prynhawn, eisteddai Manod ar ei wely. Yr oedd wedi bod yn y gwasanaeth crefyddol y bore ac felly wedi cyflawni gofynion y fyddin. Yr oedd wedi darllen y papur a gawsai oddi cartref, ac wedi ysgrifennu at ei dad a’i fam lythyr digalon, er yr ysgafnder i gyd, i rywun a fedrai ddarllen rhwng y llinellau. Yr oedd Ned Beynon yn ysgrifennu ei gorau hi at rywun, ac Ifan gerllaw yn cysgu’n ysbeidiol ar y gwely.

“Pe buaswn i gartre,” meddyliai Manod, “buaswn yn yr Ysgol Sul,” ac wrth feddwl am hyn aeth ei law at y Testament Cymraeg a oedd ar y silff yn ymyl ei wely. Agorodd ef heb amcan b’le i droi, a heb wybod pam aeth at yr wythfed bennod o’r epistol at y Rhufeiniaid, a dechreuodd ddarllen,

“Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr Ysbryd.”

Nid unrhyw athrawiaeth nac addewid yn yr adnodau a’i denai ond sŵn y geiriau,—y sŵn cysurlawn a gogoneddus hwnnw a wnâi i rai o’r hen bobl a adwaenai, fel Dafydd y Saer, gredu mai yn Gymraeg yr ysgrifenasai’r Apostol Mawr ei lythyrau. “Deddf ysbryd y bywyd yng Nghrist Iesu,” yr oedd hynt y geiriau fel llif dyfroedd dros raeadr. “Canys yr hyn ni allai y ddeddf, oherwydd ei bod yn wan trwy y cnawd,”—dyna destun Cynddylan Jones pan glywsai ef ddiwethaf mewn sasiwn, a chofiai am ei dad a chymdogion ar y ffordd adref yn sôn am gymhariaeth drawiadol y pregethwr mawr, sef y gŵr cryf yn ceisio gweithio â’r bâl ddur a choes fregus ac yn methu oherwydd “y gwendid yng nghoes y bâl.”

Ni feddylient ddim o gerdded milltiroedd i sasiwn neu eisteddfod; teimlai yntau y cerddai ddwbl hynny y prynhawn hwnnw i glywed pregeth Gymraeg. “Ac os Ysbryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw, sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywiocâ hefyd eich cyrff marwol chwi.” Dechreuodd ddarllen yn uchel gan hyfryted sŵn y brawddegau a medrusrwydd yr ymresymu. Onid oedd yn drueni bod cynifer o bregethwyr yn sarnu’r bennod wrth ei darllen ar ddechrau gwasanaeth. “Eich cyrff marwol chwi;” ceisiai gofio pa sawl un a glywsai yn darllen y bennod gladdu yn dda. Dim ond un,—Ficer Llanestyn; ni fedrai yntau wneud dim arall yn dda, ond yr oedd yn werth mynd i’w blwyf i farw er mwyn cael y campwaith hwnnw uwchben eich arch.

“Canys y sawl a arweinir gan Ysbryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw. . . Ac os plant,”—dyna destun un o bregethau’r hen Ddafydd Abram,—“ac os plant,—tri gair yw nhestun i,” meddai, “yr ‘ac’ yn cysylltu’r adnod hon â’r adnod o’r blaen, felly ‘does ganddo ddim i’w wneud â’r testun, a dyna ddau air yn aros, ‘os,’—‘os’ o gadarnhad, a chan mai cadarnhau a wna ni wna ddim gwahaniaeth, felly’r testun yw ‘plant,’ a dyna ddigon o destun ac adnod i unrhyw un.” Cofiai fel yr oedd Wil bach y Glog a oedd bob amser yn dysgu testun y bregeth i’w ddweud yn y seiat wedi gweiddi’r gair “plant” pan ddaeth ei dro i ddweud ei adnod yr wythnos ddilynol, a’r hen ŵr a oedd yn cadw’r seiat yn ceisio ei gynorthwyo gan feddwl mai wedi anghofio yr ydoedd, a Wil yn gweiddi, “Fe ddwedodd Dafydd Abram fod hynny’n ddigon o adnod i unrhyw un.”

Y plant. “Bydd canu yn y nefoedd, pan ddêl y plant ynghyd.” Gwelai yn ei feddwl Daniel Lewis y codwr canu a’i sbectol i fyny ar ei dalcen i ddangos ei fod yn gwybod y geiriau a’r dôn, ac yn rhoi ei holl enaid yn y gwaith. “Dechreuir y gynghanedd.” “Canys awyddfryd y creadur sydd yn disgwyl am ddatguddiad meibion Duw. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd.” Onid dyna’r adnodau a ddyfynnai Dafydd y Ddôl i brofi y byddai cŵn yn y nefoedd,—Dafydd a welsai gymaint o anniolchgarwch dynion a chymaint o ffyddlondeb cŵn. “Dan obaith y rhyddheir y creadur yntau hefyd,” ni ddaethai i feddwl Dafydd mai “creadigaeth” oedd yr ystyr, “o gaethiwed llygredigaeth i ryddid gogoniant plant Duw.” Clywodd besychiad isel yn ei ymyl i dynnu ei sylw; Ifan a oedd wedi dihuno.

“Faint yw hi o’r gloch, dwedwch?”

“Hanner awr wedi tri.”

“Mae nhw’n dod allan o’r Ysgol Sul yn awr yng nghapel Carmel.”

“Ie, darllenwch eich Beible heddi, bois,” meddai Ned Beynon gan ddod atynt, “fe fydd yna ddigon o iaith arall fory.”

Yn wir yr oedd iaith gwŷr y streips wrth ymarfer y sgwad yn blino’r tri o’r dechrau. Yr oedd digon o iaith front a rhegi yn y caban, ond yr oedd iaith yr is-swyddogion yn waeth fyth. Ni fedrai rhai ohonynt dorri brawddeg heb ddod â llw neu reg i mewn.

“Ac nid rhegi glân yw e,” meddai Ned, “ond rhyw hen siarad brwnt.”

“Dyna fe,” meddai Rowlands, “y mae ’na regi a rhegi. Dyna i chi Wat y Wagen,—cymydog i fi yw Wat,—y mae Wat yn rhegi mor naturiol a glân fel nad yw’r hen Joseff Williams y blaenor yn sylweddoli ei fod e’n rhegi.”

“Fe fydde’n werth clywed hwnnw,” ebe Manod.

“Bydde’n wir,” meddai Ifan.

“Fedri di ddim dangos i ni?” gofynnai Ned.

“Na,” oedd ateb Rowlands, “wna i ddim treio, bois, rhag gneud cam â dyn o athrylith.”

Cymysgid llwon a gorchmynion â darnau o adnodau, ac os byddai rhywun yn fwy trwstan na’i gilydd, câi hwnnw ddisgrifiad gwrthun o’r modd y cenhedlwyd ef gan ei dad, a disgrifiad mwy gwrthun fyth o’r modd yr esgorodd ei fam arno. Trosglwyddid yr ymadroddion o genhedlaeth i genhedlaeth; fe’u lluniesid rywbryd gan berson unigol, ond daethent yn rhan o’r stoc gyffredin,—yr oedd hyn yn wir am yr ymadroddion brwnt yn ogystal â’r ymadroddion eraill. Gan fod y gwahanol finteioedd yn ymarfer yn agos i’w gilydd ar sgwâr y gwersyll, a’r gwahanol hyfforddwyr o fewn hyd clyw yr oedd tipyn o gydymgais rhyngddynt i fod yn fwy brwnt neu’n fwy ffraeth na’i gilydd. Nid oedd gan y milwr cyffredin ddim i’w wneud ond aros yn dawel dan y gawod laid.

Drannoeth cafodd y sgwad ei hymarfer gan Corpral Pritchard, newydd ddychwelyd o Ffrainc. Medrai ef ddal ei dir gyda’r bryntaf ei iaith, a mynd ymhellach oblegid medrai regi’n Gymraeg, ac ambell waith tawai’r lleill i gyd i wrando ar yr huodledd anghyfiaith.

“Oes yma Gymry?” oedd geiriau cyntaf Corpral Pritchard drannoeth. Dyma chwech yn codi eu dwylo.

“Duw a’ch helpio chi, os treiwch chi’ch tricie arna i.”

“Wnawn ni ddim, corpral,” ebe Ifan a’i galon yn cynhesu at ei gydwladwr.

“Ca dy geg, y bastard diawl,” ebe’r corpral gan ruthro ato fel i’w daro; eithr nid aeth mor bell â hynny, a dechreuwyd yr ymarfer.

Squad,”—pob un yn ymsythu, “squad, shun,” a’r sodlau’n taro i’w gilydd fel un sawdl,—“right turn,” a phob un ond Ifan yn troi i’r dde, yntau yn ei gyffro yn troi i’r chwith. Ceisiodd Ifan droi wedyn i’r cyfeiriad iawn ond yr oedd llygaid craff y corpral wedi gweld ei anffawd.

“Yn enw’r bloody Hollalluog Dduw a’i uniganedig bloody Mab, right turn.”

Troes pawb i’r dde y tro hwn, ond er mwyn Ifan yn unig y bwriadai ef y gorchymyn, felly dyna arllwys storm o gabledd yn Saesneg ar y lleill. Yr oedd yr anffawd gyntaf wedi rhoi’r bendro i Ifan; ni fedrai wneud dim yn iawn, ac yn ben ar bob camgymeriad deuai rhyw aflendid newydd o enau’r corpral.

“Yn enw Iesu Grist o Nasareth, pwy feddyliodd ddod â thi i’r byd o gwbwl?” ac yna aeth ymlaen i ddweud yn bendant mai hwrgi oedd ei dad, a’i fam yn butain. Wrth droi ei olwg o amgylch gwelodd Tranter yn gwenu,—gwenu oherwydd y llif anghyffredin o eiriau dieithr.

And don’t you think, you other bloody bastards, that God Almighty thinks any better of you,” ac yna cafodd y gweddill o’r sgwad wybod yn eu hiaith eu hunain ei fam ef amdanynt hwy ac am eu tylwyth.

Wrth edrych o amgylch i weld effaith ei eiriau gwelodd y gwrid o gywilydd ar wyneb Manod.

“O,” meddai, “mae yma bloody sant bach, oes e? Weldi yma, gwell i ti adel dy bloody crefydd yn y bloody kitbag, os nad wyt ti am ddod i bloody trwbwl.”

“ ’Rwy’n teimlo fel pe bawn i wedi fy nhynnu trwy gors,” ebe Manod yn y caban y noson honno.

“Yng ngwaelod uffern y dyle’r diawl fod,” ebe Ned.

“Ond yfory y cewch chi hi, bois bach,” ebe Ben Rowlands.

“Yfory?”

“Ie, mae Corpral Brunt yn dod ’nôl fory i gymryd eich sgwad chi.”

“B’le mae e wedi bod?”

“Yn y pox hospital,” ebe Rowlands, “fe gafodd ddos reit dda, medden nhw.”

VII

Ni bu yn rhaid i’r sgwad aros yn hir cyn cael profiad o’r hyfforddwr newydd. Bore trannoeth gyda bod corn y rifali wedi dechrau canu rhuthrodd Corpral Brunt i mewn i’r caban gan weiddi, “Show a bloody leg there; the war’s been on for two years now,” a dechrau dymchwel gwelyau’r cysgaduriaid. Yr oedd Ifan yn ei awydd i fodloni’r corpral newydd wedi codi cyn rifali ac wrthi’n siafio wrth olau pwt o gannwyll. Cyn iddo sylweddoli’n iawn beth oedd yn bod dyma rywun yn cael ei daflu ar ei draws gan beri i’r ellyn dorri ei wyneb a gwneud i’r gwaed redeg ar hyd pob man. Rhedodd Ifan allan, a’r peth cyntaf a welodd rhai o’r milwyr ar ôl agor eu llygaid oedd rhywun yn rhedeg yn wyllt allan o’r caban a’i waed yn disgyn gan adael smotiau cochion ar y llawr o’i ôl. “There you are; one bastard killed himself already; there will be more before the day is out,” rhuai’r corpral tra ceisiai’r sgwad ymgynefino â’r amgylchiadau dieithr.

Erbyn brecwast dechreuai hwn a’r llall roi barn ar yr hyfforddwr newydd.

Hello, Evan,” meddai Tranter, “when I saw you running out with your face all blood, I thought the bloody Jerries had come.”

I think the devil was come,” atebodd Ifan gan beri chwerthin mawr, canys yr oedd ef erbyn hyn yn dipyn o ffefryn gan y sgwad.

Thank God for a bit of quiet to have our breakfast,” ebe un arall.

Eithr ni buont yn hir cyn i Corpral Brunt ddod drwy’r drws eilwaith a gweiddi, “Come on, let’s get a move on; you’re not at home now; some of you’ll be wanting your bloody breakfast in bed next,” a chyda hynny aeth y sgwad at ei gorchwylion arferol ar ôl brecwast,—golchi’r llestri, glanhau’r caban, trwsio’r gwelyau, gloywi botymau, a pharatoi ar gyfer y parêd naw o’r gloch. Yr oedd yn arllwys y glaw y tu allan, a gwyddent felly mai yn y caban y byddai’r parêd ac nid ar y sgwâr; ond pan nesaodd yr amser dechreuodd Brtmt eu gorfodi i gychwyn am y sgwâr.

But it’s raining, corporal,” meddai un.

Raining?” ysgrechodd yntau. “Raining?” ac â llais yn llawn o wawd a gwatwar hysbysodd hwy mai nid glaw ydoedd o gwbl ond dagrau hen filwyr a laddesid yn Ffrainc, wrth weld y corachod eiddil a oedd yn olynwyr iddynt, a dywedodd hefyd os oeddynt am weld beth oedd glaw y caent ddigon o gyfle cyn bo hir, a magnelau yn lle cymylau a bwledi yn lle’r diferynnau dŵr. Erbyn iddo eu cael i gyd allan o’r caban daeth neges i ddweud mai dan do y byddai’r ymarfer; felly yn ddrwg iawn ei hwyl gorchmynnodd iddynt fynd yn ôl.

Wedi cael ei siomi fel hyn nid oedd argoel dda am y parêd cyntaf. Rhythai’r corpral yn fileinig ar y ddwy res o’i flaen, fel pe bai’n ystyried sut i’w trin a’i dryllio. Am ryw reswm neu’i gilydd dechreuodd ar Marsden, yr hen filwr a fuasai yn rhyfel y Transvaal; meddyliai Brunt efallai y byddai dofi’r gweddill yn haws ar ôl dofi hwnnw.

What have you got there?” meddai gan bwyntio at y rhuban ar ei ffest.

South African ribbon, corporal,” meddai Marsden, a dyna ddigon i agor llifddorau ei watwareg drachefn. Cafodd Marsden a’r sgwad i gyd wybod mai nid rhyfel oedd rhyfel De Affrica ond picnic, trip Ysgol Sul, chwarae plant, neu ymarferiadau Boy Scouts. Llifai’r cymariaethau oddi ar ei dafod, ac yr oedd ei watwareg yn fwy miniog na phan esboniai darddiad y glaw. Câi Marsden a phawb arall wybod beth oedd rhyfel iawn cyn bo hir. Safai’r hen filwr fel craig drwy’r cwbl i gyd; nid oedd pymtheng mlynedd wedi dileu disgyblaeth y fyddin; ond brathai’r geiriau i’w galon.

Stop waggling your moustache.

Yes, corporal,” a dyna i gyd; gwelodd Brunt fod yn rhaid iddo droi at rywun arall, a dechreuodd ar Tranter.

Who are you?

Tranter, corporal.

No; you’re a bloody fool. Now tell the squad what you are.

A bloody fool, corporal.

That’s right; and who am I?

Corporal Brunt, corporal.

Daeth hyn oll â’r hyfforddwr i well tymer, a dechreuodd roi tipyn o hyfforddiant. Gan fod y lle yn rhy gyfyng iddynt gerdded a throi rhoes iddynt yn y ffurf o holi ac ateb dri dyletswydd milwr (“obedience, cleanliness, and self-respect”), hanes y gatrawd, ei harwyddair a’i harwyddlun, enwau prif swyddogion y gwersyll a’r gatrawd, cyflog y milwr, a’i fwyd. Erbyn i’r awr ddod i ben yr oedd y glaw wedi cilio, ac allan ar y sgwâr y buwyd weddill y dydd, a’r corpral dipyn yn fwy rhadlon wedi gweled nad oedd gwrthryfelwyr yn ei sgwad.

Ni bu unrhyw gyffro eithriadol am wythnos neu ddwy,—dim ond undonedd yr ymarfer o ddydd i ddydd: codi am chwech a’u paratoi eu hunain ar gyfer y parêd cyntaf am chwarter i saith, pryd y byddai’n rhaid iddynt eu dangos eu hunain wedi siafio ac wedi gloywi botymau eu cotiau, a dangos rhyw un peth arall yn lân yn ôl gorchymyn y noson gynt,—y gyllell a’r fforc, neu strap y cap, y tyn bwyd, neu’r wregys; yna’n ôl i frecwast am saith; wedi hynny tacluso’r caban a pharatoi ar gyfer y parêd naw o’r gloch; yna ymarfer hyd amser cinio gydag ychydig seibiant yn y canol pryd y gellid prynu cwpanaid o de a theisen ac ymgrynhoi i glywed corpral y post yn galw enwau’r rhai yr oedd llythyrau a pharseli iddynt; yn y prynhawn ymarfer drachefn hyd amser te; ac ar ôl hynny llonyddwch oni bai fod rhywun ar waith arbennig neu o dan gosb.

Gallai’r rhai a oedd yn rhydd fynd allan i’r pentref, neu fynd i gaban y Y.M.C.A. yn y gwersyll lle y ceid cwpanaid o de a phapur ysgrifennu, neu fynd i’r cantîn lle y gellid prynu te neu gwrw a holl angenrheidiau milwr, neu gallent aros yn y caban drwy’r hwyr i ddarllen efallai, neu baratoi ar gyfer trannoeth, oherwydd nid oedd diwedd ar y sgwrio a’r gloywi a’r glanhau. Tua deg o’r gloch deuai dolef y Lights out â distawrwydd dros y gwersyll.

Di-lun iawn oedd yr ymarfer ar y dechrau,—y naill yn symud ar ôl y llall, troi i’r chwith yn lle troi i’r dde, a rhai naill ai oherwydd dieithrwch y geiriau neu fel Ifan oherwydd dieithrwch yr iaith yn methu â gwneud na phen na phastwn o’r gorchmynion. Peth anodd ar y cychwyn i Sais hyd yn oed wybod bod “Shun” yn golygu “Attention,” a hynny drachefn yn golygu dod â’i sodlau at ei gilydd a’i freichiau a’i fysedd i lawr yn syth wrth ei ochr, eithr i Gymro uniaith yr oedd yn anos fyth. Pan fyddai’r gorchymyn yn fwy nag un gair y geiriau cyntaf yn unig a seinid yn weddol gywir,—nid oedd y gair olaf yn ddim ond ebychiad neu floedd anelwig. Yn wir, dywedid i’r gatrawd i gyd unwaith, a hithau’n disgwyl am orchymyn y sergeant major, symud fel un gŵr pan gyfarthodd mastiff y cyrnol yng nghornel y gwersyll. Ar ôl hynny clywodd Manod fod hyn wedi digwydd mewn mwy nag un gwersyll arall, ac yr oedd hyn yn nodweddiadol o’r fyddin, sef adrodd yr un hen storïau, yr un hen ffraethebion, a’r un hen ymadroddion,—yn enwedig gan y swyddogion,—o flwyddyn i flwyddyn, ac o wersyll i wersyll. Y mae’n rhaid i rywun cymharol wreiddiol eu bathu rywbryd, ond aethai’r rhan fwyaf ohonynt o hir dreiglo mor foel â darn arian wedi colli ei ddelw.

Ond deuai mwy o raen ar yr ymarfer o ddydd i ddydd nes o’r diwedd i bob aelod o’r sgwad deimlo rhyw falchder mewn symud gyda’i gilydd a rhyw gywilydd oni wneid popeth yn iawn. Yn lle achwyn a chwyno yn ei lythyrau i Dora aeth Manod i sôn yn fostfawr am y gwahanol ymarferiadau a sôn ychydig am y gwahanol gymeriadau. Dysgu sefyll yn syth, a throi i’r dde ac i’r chwith, a wneid ar y cyntaf, yna troi wrth gerdded a throi wrth redeg, yna saliwtio i’r ffrynt, i’r dde, ac i’r chwith, yna o fod yn ddwy res ymffurfio yn bedair rhes drwy i’r ail a’r pedwerydd a’r chweched, ac felly yn y blaen, yn y ddwy res gymryd cam yn ôl â’i droed chwith a cham i’r dde â’i droed dde gan ei ddwyn yn gymwys y tu ôl i’r milwr a oedd ar ei law dde.

Yn y diwedd daethpwyd at ymarferiadau gyda’r dryll, dysgu sut i’w drin, a dysgu enwau’r gwahanol rannau, dros drigain ohonynt. Dyma anhawster mwyaf Ifan,—dysgu’r enwau Saesneg a’u cysylltu â gwahanol rannau’r dryll. Bu Manod ac yntau am lawer awr gyda’r enwau hyn, nes gwybod o Ifan yn gywir ym mha le yr oedd y foresight, piling swivel, bolt head tenon, lower band, worm wheel, a llawer dirgelwch arall. Treuliai Manod lawer o’i amser yn yr hwyr i ddarllen “The Spirit of Man”; ni fedrai Ifan wneud dim byd o’r “ysbrydion” fel y dywedai, ond deuai’n aml at Manod ac yntau’n darllen gan edrych yn euog a dweud, “Gawn ni adel ysbryd dyn a rhoi tipyn bach o amser i’r ysbryd drwg?” a dyna ymdaflu i ddirgeledigaethau y Short Lee Enfield Mark III, fel y gelwid y dryll.

O ddydd i ddydd ac o awr i awr bron âi gwaith y gloywi a’r glanhau ymlaen: gloywi’r botymau a nodau pres y cap a’r ysgwyddau,—defnyddid math o glud a elwid yn soldiers’ friend i hynny, ac yr oedd yn rhaid rhoi fforch am y botwm rhag i’r glud fynd ar y got; glanhau esgidiau o un parêd i’r llall; glanhau’r gêr a wnaed o we,—rhyw ddefnydd cleiog a elwid blanco oedd orau at hyn, ac yr oedd yn rhaid iddo gael amser i sychu,—dyna’r aflwydd o ddod i’r gwersyll yn hwyr a chael wrth ddarllen y gorchmynion am drannoeth fod yn rhaid dangos y wregys dan ei blanco am chwarter i saith yn y bore. Yna yr oedd yn rhaid cael plyg i lawr ar hyd ffrynt y trowsus bob dydd, a hwnnw mor finiog â chyllell, fel y dywedai’r milwyr. Y ffordd orau i gael hyn oedd plygu’r trowsus yn ofalus, rhoi dŵr ar y plyg, ei roi rhwng y blanced isaf a’r matres, a gorwedd arno drwy’r nos. Gwae’r gorweddwr aflonydd oherwydd byddai ei drowsus drannoeth fel pe bai ei berchen wedi cysgu mewn taflod wair a’i drowsus amdano. Yna gloywi sawdl y dryll, a symud pob tipyn o lwch o bob man arno, glanhau’r tyn bwyd a’r gyllell a’r fforc: nes argyhoeddi pob un fod glanweithdra yn un o brif ddyletswyddau milwr da.

Dydd y praw ar y sgwrio a’r gloywi a’r glanhau oedd diwrnod y kit inspection, unwaith yn yr wythnos. Y diwrnod hwnnw yr oedd yn rhaid dangos popeth a oedd yn y cwdyn du,—yr holl eiddo a gawsai’r milwr ar ôl dod i’r fyddin, a’i ddangos yn lân. Taenid blanced wedi’i blygu’n ofalus ar y gwely, a dangosid cynnwys y cwdyn ar hwnnw. Yr oedd ffurf arbennig o ddangos y cynnwys, a’i le traddodiadol i bob peth,—i’r brws dillad a’r brws gwallt, y gyllell a’r fforc, a’r Beibl,—byddai rhai yn blacio cloriau hwnnw ar gyfer y diwrnod,—yr eilbar esgidiau a gwadnau’r rheini wedi eu duo a’r pedolau’n loyw. Pan fyddai popeth yn barod arhosai pob un wrth ochr ei eiddo a deuai swyddog heibio iddynt o un i un gan edrych am ryw fai. Pan ddeuai gogyfer â milwr rhoddai hwnnw ei enw a’i rif, ac os byddai popeth ganddo dywedai, “Kit present, sir.” Yr unig reswm digonol dros fod rhywbeth yn eisiau oedd ei fod yn cael ei olchi, ac os mai felly y byddai dywedid, “Shirt (neu rywbeth arall) at the wash, otherwise kit present, sir.” Esgus da oedd hwn pan fyddai rhyw ddilledyn ar goll, ac adroddid i un milwr a oedd wedi colli ei ellyn ddweud o rym arfer, “Razor at the wash, otherwise kit present, sir.” Ar ôl hyn clywodd Manod y stori hon am lawer gwersyll arall.

Un peth y methai Manod â dygymod ag ef oedd y bytheirio a’r rhuthro parhaus, ar ddechrau parêd, neu ar ddydd y kit inspection, neu ar eu hymweliad â’r baddonau,—yr oedd yn rhaid i’r is-swyddogion regi a rhuthro fel pe bai’n ddiwedd byd, er y gellid gwneud y peth lawn cyn gynted heb y berw a’r ffwdan. Ar y parêd yr oedd popeth yn dilyn ei gilydd yn rheolaidd,—un, dau, tri,—un, dau, tri,—fel pendil cloc, ond os deuid at ryw waith nad oedd cyfarwyddiadau pendant amdano mewn llyfr, yr oedd yn rhaid ymwneud â hwnnw heb na rheol na threfn.

Cyn pen hir daeth un diwrnod tawel fel llygedyn o haul yng nghanol storm,—dydd Nadolig. Hyd yn oed y noson gynt yr oedd rhyw awyrgylch dynerach yn y gwersyll, ac ar y dydd ei hun arafodd y peiriant gan adael i’w gaethion ennyd fer i ymddifyrru cyn tynhau o’r rhaff drannoeth. Nid oedd ond y mymryn lleiaf o waith a pharêd, a rhwng darpariaeth hael y fyddin a’r parseli bwyd yr oedd miri a hwyl wrth y byrddau. Tua’r hwyr daeth digon o gwrw o rywle i’r caban yn y bwcedi te ar gyfer y sgwad, a chan bob diotwr air da am unwaith i’r llwyrymwrthodwyr.

Yn yr hwyr aeth Manod ac Ifan i’r cantîn: ni welsent erioed, hyd yn oed yn ffeiriau’r wlad, gynifer o ddynion meddw. Wrth fynd i mewn trwy’r drws trawai’r rhialtwch hwy yn eu hwyneb fel chwythwm o wynt. Yr oedd pob un, debygent, yn ceisio canu neu weiddi. Canu yr hen ganeuon poblogaidd a theimladaidd, “DixieaWay down in Tennessee,” gydag ychwanegiadau anweddus yn awr ac yn y man yn ôl mympwy’r canwr. Fel y deuent yn fwy dan effaith y cwrw ceid hwyl ar yr hen ganeuon yn dyheu am ddiwedd y rhyfel a chartref a thad a mam.

When this bloomin’ war is over,

  No more soldiering for me,”

ac fel llinyn drwy’r cwbl rhedai nodau hiraethus

          “I want to go home,

I don’t want to go to the trenches no more . . .

          I want to go home . . .

          I want to go home.

“Well i ninne fynd adre,” ebe Manod.

“Ie, i’r fath gartref ag yw e,” atebai Ifan. “Ond b’le mae Ned?”

“ ’Dyw e ddim yma, beth bynnag.”

Y tu allan i’r cantîn yr oedd twr o filwyr “wedi’i dal hi,” chwedl Ifan, yn canu’n ddolefus,

I want to go home,”

a dilynai’r sŵn wylofus y ddau Gymro tua’r caban. Ar y ffordd tripiodd Ifan dros rywun yn gorwedd ar ei hyd ar ochr y llwybr.

What the bloody hell!” meddai hwnnw.

Gwyddai’r ddau wrth y llais mai Ned Beynon a oedd yno: codasant ef ac aethant ag ef i’r caban a oedd bron â bod yn wag. Wedi tynnu ei esgidiau a’i ddillad a’i roi yn ei wely gadawsant ef yn erfyn melltith ar un o’r Jocks am ei adael ar y llwybr. Yr oedd ganddo stori hir am yr hyn a ddigwyddasai ond ni fedrai’r un o’r ddau ddilyn y brawddegau anghysylltiol. Toc clywent ef yn erfyn bendith y nef ar ei ddau gymwynaswr, ond cyn pen hir yr oedd wrthi yn melltithio drachefn. Yr oedd y tri wedi cysgu cyn i’r rhai diwethaf gyrraedd y caban.

Yr oedd yn y sgwad ddau neu dri ni ddylai fod yn y fyddin o gwbl,—gwŷr yn mynd ymlaen ar eu hoed ac yn dioddef gan wythiennau chwyddedig, tor llengig, ac anhwylderau eraill. Câi Corpral Brunt hwyl fawr am ben y rhain. Oherwydd na allent aros yn syth a chymwys fel y gweddill cymharai hwy i hen wragedd neu epaod, eithr yr hyn a hoffai fwyaf oedd eu cymharu i wragedd beichiogion, a gofyn gyda blas pa bryd yr oedd y babi i ddod. Un ffordd i aelodau eraill y sgwad gael ffafr y corpral oedd gwenu wrth glywed yr ymadroddion hyn, ac yr oedd yno rai yn barod i ddangos, beth bynnag, eu bod yn mwynhau’r hyn a gyfrifai ef yn ffraethineb di-ail. Fel yr âi’r wythnosau ymlaen troes ei gellwair yn ffymigrwydd, oblegid gwelai na ddeuent i fyny â’r safon ar ddiwedd y deuddeg wythnos; felly dechreuodd eu trin mor greulon ag y gallai, a thrwy fygwth a tharo a gorweithio cafodd hwy o’r diwedd i’r ysbyty: wedi dod allan cawsant waith ysgafnach yn y gwersyll. Yr oedd yno un arall heb ddim allan o le arno, ond llwyddai rywfodd i dwyllo’r swyddogion a’r meddygon. ’Doedd ef, meddai, ddim yn mynd i aros yn hir yn y fyddin, ac un diwrnod daeth i’r gwersyll yn ei ddillad ei hun i ganu’n iach i’w hen ffrindiau ac i orfoleddu yn ei orchest.

Un diwrnod ar ôl cael gwared o’r olaf o’r anafusion tybiodd y corpral ei bod yn hen bryd rhoi prawf arall ar waseidd-dra’r sgwad. “Treied e rai o’i dricie arna i,” meddai Ned Beynon yn aml, “ag fe gaiff e weld,” ac ar Ned y disgynnodd y tro nesaf. I dorri’r ia gwaeddodd y corpral ar un o’i gynffonwyr,

You’re a bloody fool. Now, what are you?

Bloody fool, corporal,” meddai hwnnw ar unwaith.

Yna gan droi at Ned Beynon,

What are you?

Guardsman, corporal.

Nid dyna’r ateb a ddisgwyliai, ond i guddio’i siom dywedodd,

Guardsman, eh? And what am I!

Bloody fool, corporal,” atebodd Ned yn glir ac yn groyw.

Daliai’r sgwad ei hanadl: brochodd y corpral yn filain; aeth ei wyneb fel fflam; camodd tuag at Ned, a chan godi ei law gwnaeth am ergyd ffyrnig arno. Tynnodd yntau ei ben yn ôl yn sydyn a’r milwr a ddigwyddai sefyll nesaf ato a gafodd y glustan.

Fall in, two men,” ebe’r corpral ar unwaith, a rhwng dau o filwyr eraill aeth â Ned at y sergeant major ac i’r gardrwm. Daeth Brunt yn ôl, a dialodd ar y sgwad drwy ei gwneud i redeg a rhedeg am weddill y parêd hwnnw.

Bore trannoeth aethpwyd â Ned o flaen y swyddog. Pan ddygid cyhuddiad difrifol yn erbyn unrhyw filwr tynnid ei gap i ffwrdd ac yr oedd yn rhaid iddo sefyll rhwng dau filwr arfog. Gan un o’r milwyr hynny y cafwyd yr hanes y noson honno.

Cyhuddid Ned, meddai, o anufuddhau ar y parêd,—un o’r cyhuddiadau gwaethaf. Disgrifiodd Brunt ef fel dyn peryglus o ysbryd gwrthryfelgar a’i esiampl yn ddrwg ar y sgwad. Pan ddaeth tro Ned i siarad anghofiodd ddechrau gyda “Thank you for leave to speak, sir,” cywirwyd ef gyda bloedd gan y sergeant major, ond cyn iddo grynhoi ei amddiffyniad dedfrydwyd ef i bythefnos yn y gardrwm.

“Pythefnos yn y gardrwm, bois bach,”—Ben Rowlands a oedd yno wedi dod i gael sgwrs â’r ddau ar ôl clywed y newydd. “Ie, dyna fel y mae hi. Mae’n well i bob un gadw’i feddylie iddo ’i hun yn y fyddin.”

“Ond yr oedd Ned yn iawn,” ebe Manod.

“Oedd, efalle, ond nid yw peth fel yna yn talu. Efe a’i mâl ef yn chwilfriw,—ie, yn chwilfriw, bois bach.”

“A phwy yw’r ‘efe’?” ebe Ifan.

“Yr ‘efe’ yw Corpral Brunt a’r fyddin, a thi a finne a phob un sy’n treio bod yn ddynion yw’r ‘ef.’ Dyna’r sboniad.”

Yna dangosodd Rowlands iddynt o’i brofiad aeddfetach ei hun mor ofer oedd gwingo yn erbyn y symbylau. Yr oedd milwr o gatrawd arall, meddai ef, wedi cyflawni hunanladdiad yr wythnos gynt,—wedi torri ei wddf yn ymyl y berth a gwaedu i farwolaeth.

“Cythrel o beth yw rhyfel, onte fe?” ebe Ifan yn wresog.

“Ie,” meddai Rowlands, a chan lithro i un o frawddegau cyffredin y fyddin, “y deng mlynedd cynta fydd y gwaetha.”

“Well i ni sgrifennu at Lloyd George.”

“Na,” meddai Rowlands, “mae ganddo fe ddigon ar ei blât yn barod heb boeni amdanon ni.”

Daeth milwr o’r gardrwm i ymofyn tywel a sebon a phethau siafio o gwdyn Ned Beynon, ac wedr i Manod ei helpu i’w cael eisteddodd ar wely gwag Ned yn ymyl y stof. Er mwyn ceisio tawelu ei feddwl ceisiai ddarllen “The Spirit of Man.” Troes y dalennau ond nid oedd yr un blas ar y darnau y noson honno. Chwiliodd am “Adonais” Shelley, a chafodd hi,—y gân honno a oedd fel neithdar o baradwys iddo bob amser, ond ni fedrai fynd ymhellach na’r llinellau,

                                    “We decay

    Like corpses in a charnel; fear and grief

    Convulse us and consume us day by day,

And cold hopes swarm like worms within our living clay.

Troes yn ôl a gweled y teitl “The Happy Warrior.” Gwenodd: “The Happy Warrior,” wir! Yr oedd yr ymadrodd fel gwatwareg lem. Wrth ei weld mor benisel a synfyfyriol gwaeddodd milwr o’r ochr arall,

Don’t look so miserable. Burn the bloody book.

The Happy Warrior.” Pwy oedd yr happy warrior? Owen y Cwm, yr oedd pob rhyfel yn rhamant hudolus iddo, hen greadur ni welsai ryfel erioed, a swyn yr enwau,—Trafalgar, Waterloo, Sebastopol, Balaclava, Pretoria,—yn cuddio hacrwch yr ymladd, fel eiddew gwyrdd am hacrwch hen furddyn. “The Happy Warrior?” Galâth efallai, ac aeth ei feddwl yn ôl at hanesion cain y Greal Sanctaidd. A phwy wyt ti? ebe Gwenhwyfar wrth y llanc. Bloody fool, arglwyddes, ebe Galâth, bloody fool. Burn the bloody book.I think I will,” meddai Manod yn uchel, gan godi caead y stof a thynnu’r llyfr yn ddarnau oddi wrth ei gilydd a gollwng y darnau i’r tân, Rhoddes y caead yn ôl ac aeth at ei wely yn y cornel a’r corn y tu allan yn seinio Lights out.

Yr oedd y pentwr dalennau yn ormod i’r ychydig dân a oedd yn y stof, ac ymhen tipyn dechreuodd mwg tew ddod allan drwy’r tyllau. Deuai grwgnach huawdl oddi wrth y milwyr yn ymyl y stof, a chododd un ohonynt a thynnu’r caead a rhoi proc i’r papur y tu mewn. Fflamiodd i fyny ar unwaith gan losgi’n glir a syth a thaflu’i olau drwy’r caban.

Put out that light,” meddai’r gwyliwr y tu allan wedi gwdd o bell lewych y golau ar y ffenestri.

Ond yr oedd y milwr wedi mynd yn ôl i’w wely a gadael y caead ar y llawr.

Put out that light.

Cododd eilwaith i brocio’r hyn a oedd ar ôl er mwyn gorffen ei losgi.

Put out that light.

Yr oedd amynedd y gwyliwr yn pallu erbyn hyn; agorodd y drws, a gwaeddodd,

Put—out—that—bloody—light.

Rhoes “The Spirit of Man” un ffagl fawr fel ateb i’r her, ac yna darfu amdano.

VIII

Meddyliai Manod ac Ifan yn aml am Ned: gwelsent ef o hirbell unwaith neu ddwy yn cael ychydig o ymarfer. Cawsai Ifan ei hun ei gosbi unwaith, am adael ei flancedi yn aflêr yn y caban, a gorfod cerdded o amgylch y sgwâr a phac ar ei gefn am awr ar ddiwedd y dydd. Ond yr oedd cosb Ned yn eu taro’n waeth, oherwydd teimlent mai clod ac nid cosb a ddylasai ddilyn ei weithred. Eithr ni fedrent wneud dim, a chyn bo hir daeth yr adeg i Ned orffen ei benyd. Disgwyliai ei ddau gyfaill iddo chwythu bygythion yn fwy nag erioed, eithr Ned hollol wahanol a ddaeth yn ôl i’r caban,—Ned a rhywbeth ar goll neu wedi ei dorri. Ni hoffai sôn am yr helynt, ac oherwydd hynny, ni chyfeiriai’r ddau arall ato: ni chyfeiriodd Corpral Brunt ato chwaith.

Erbyn hyn yr oedd eu tri mis yn Caterham bron ar ben, ac fel y nesâi’r amser deuai milwyr y sgwad yn fwy hyddysg yn eu gwaith, ac fel y deuent yn fwy hyddysg yn eu gwaith dechreuent ymsythu ac ymfalchïo. Ar y dechrau ni thrafferthent gerdded yn syth pan nad oeddynt ar y parêd, oni byddai llygaid y sergeant major arnynt, ac yr oedd llygad hwnnw, meddai Ifan, yn gwneud iddo feddwl am y darlun yn y parlwr gartref,—rhyw lygad mawr yn y pen uchaf, map o’r byd oddi dano, a llinellau’n cydio’r llygad â phob rhan o’r map, ac ar y gwaelod yr ymadrodd, “Llygad Duw sydd arnaf i.” “Ydy’n wir,” meddai Ifan, “y mae e’n gneud i fi feddwl am y llygad hynny bob tro’r af i’n agos ato.”

Ond fel yr âi’r wythnosau heibio deuai’r ymsythu a’r ymarweddu yn ail natur iddynt; cyn mynd allan i’r pentref gofalent fod eu botymau a’u hesgidiau yn disgleirio, ac fel yr aent allan drwy’r porth i’r stryd hir gyda’u menyg a’u ffyn bach awyddent am weled swyddog er mwyn dangos mor smart y medrent saliwtio.

Deuai eu cyrff nid yn unig yn fwy hoywsyth ond yn fwy caled hefyd. Yn amser y rhew mawr ni phetrusent fynd allan yn y bore tywyll yn llewys eu crys i dorri’r rhew ar y dŵr er mwyn ymolchi, “a minne,” meddai Manod, “yn arfer gweiddi am ddŵr twym gartre.” Medrent roi eu holl sylw i’w gwisg a’u hymarferiadau oblegid nid oedd unrhyw ofal arall arnynt. Syrthiasai’r gofalon i ffwrdd fel baich pererin Bunyan.

“Yn wir,” meddai Ben Rowlands wrthynt un nos Sul, “ ’rŷn ni fel adar y nefoedd.”

“Fel adar y nefoedd?” gofynnai Ifan.

“Ie, adar y Bregeth ar y Mynydd, oblegid,” meddai Rowlands, gan lithro i iaith lenyddol y Beibl, “nid ydym yn hau nac yn medi nac yn cywain i ysguboriau, a phwy sy’n gofalu amdanom ni?”

“Ein Tad nefol,” ebe Ifan gan gofio diwedd yr adnod.

“Nage,” ebe Rowlands, “Fatty Larkin, y pwtyn tew yna sy yn y quartermaster’s stores. Oddi yna mae popeth yn dod,—y dillad, a’r bwyd fel y mae e. Pan awn ni’n ôl ar ddiwedd y rhyfel, bois, fe fyddwn mor ddiymadferth â phlant, byddwn yn wir, fel plant.”

Ar ôl Lights out clywodd Manod Ifan yn chwerthin wrtho’i hun yn y gwely.

“Beth sy ’nawr?”

“O,” atebai Ifan, “meddwl am Fatty Larkin fel ein Tad nefol.”

Un pen wythnos cafodd Manod ganiatâd i fynd i fyny i Lundain,—caniatâd i fod allan o’r gwersyll o brynhawn Sadwrn hyd nos Sul. Anfonasai ei ewythr a’i fodryb ato lawer gwaith i ofyn iddo ddod i roi tro amdanynt, ac wedi iddo fynd nid oedd diwedd ar eu caredigrwydd. Yr oedd rhyw bleser annirnadwy bron mewn cael yfed te o gwpan, mewn cael eistedd mewn cadair a thynnu esgidiau o flaen y tân, mewn cael cysgu mewn dillad gwely glân, ac yn ben ar y cwbl cael te yn y gwely fore trannoeth. Nid oedd wedi gweld dim o’r bywyd hwn yn ystod yr holl wythnosau, ac o’r aelwyd hon yng nghanol Llundain teimlai fel pe bai gwahanlen wedi’i gosod rhyngddo a bywyd y gwersyll. Wrth deithio’n ôl nos Sul yr oedd gan Manod syniad lled dda paham yr oedd yn rhaid anfon milwyr i gyrchu rhai yn ôl wedi iddynt fod gartref am dro.

Ymhlith yr ymarferiadau olaf yn Caterham yr oedd ymarfer ymosod ar y gelyn ar y comin y tu allan i’r gwersyll. Ar brynhawn sych mwynhaent yr ymarferiadau hyn, sef ymosod mewn llinell hir a dau gam rhwng pob milwr ar y gelyn dychmygol yn y tewlwyn ar y gorwel, a’r cwbl yn ôl arwyddion braich a llaw y corpral. Yr oedd rhyw hyfrydwch mawr mewn gweithio’n ddistaw fel hynny; yn y gwersyll yr oedd pob hyfforddwr yn bytheirio gorchmynion a gwadnau’r esgidiau yn tynnu sŵn o’r concrit. Ar y comin yr oedd Corpral Brunt fel mudan, a’r ddaear dyner yn lladd pob sŵn; ac ar y ffordd yn ôl i’r gwersyll caent ganu,—canu

When the roll is called up yonder,

When the roll is called up yonder,”

gan newid pan fyddent yn pasio rhyw filwr a hogen ar ei fraich i

Hullo! hullo! and who’s your lady friend?

Eithr coron yr ymarferiadau i gyd oedd ymarfer â’r fidog. Cofiai Manod mai “fix bayonets” oedd y gorchymyn yn adran olaf llawer o storïau Owen y Cwm, a phob gelyn yn ddiwahaniaeth yn rhedeg rhag y dur noethlym. Ar gwr y gwersyll lle yr oedd yr ymarferiadau hyn gyrrid dau bolyn mawr i’r ddaear dipyn oddi wrth ei gilydd a phren croes o un i’r llall ryw chwe throedfedd o uchder. O’r pren croes crogai sachau yn llawn o flawd llif i gynrychioli milwyr y gelyn yn ymosod, a thu hwnt iddynt hwy sachau eraill ar y llawr i gynrychioli’r gelyn yn agosáu’n llechwraidd. Gosodid milwyr y sgwad yn rhes ychydig bellter o’r sachau, milwr gyferbyn â phob sach, ac ar orchymyn yr hyfforddwr yr oedd pob un i ruthro at ei sach a’i thrywanu, tynnu’r fidog allan, a thrywanu’r sach arall ar y llawr.

Un dydd daeth tro’r sgwad i gael ei hymarferiad cyntaf. Corpral Pritchard, y Cymro, a oedd yn cymryd pob sgwad yn y cwrs hwn. Gan nad oedd dim byd mewn sachau diymadferth yn llawn o flawd llif i gynddeiriogi’r ymosodwyr yr oedd yn rhaid meithrin ysbryd dial ac ymosod cyn dechrau’r ymarfer. Felly rhoddes y corpral araith fer ar greulonderau’r gelyn, gan ddangos mor giaidd yr ymddygent nid yn unig at filwyr ond hefyd at wragedd a phlant, ac awgrymodd ped olrheinid ei hachau ymhell yn ôl y caent fod rhan o deulu dyn wedi ymhalogi ac ymgyfathrachu â bwystfilod y maes i roi bod i ryw hil annynol. Oddi wrth hyn aeth i ddangos mor lân a chynnil oedd lladd y gelyn â’r fidog,—nid am fod y gelyn yn haeddu hynny, ond busnes pob Prydeiniwr, os oedd cigyddio i fod, oedd cigyddio’n lân a medrus. Dywedai nad oedd na chrefft na medr mewn lladd â gynnau mawr, nac o ran hynny â gynnau bach, ac ni wnâi tân-belennau a bomiau ond dryllio a rhwygo. Ar ôl tân-belennau, meddai, y gwelid rhai’n chwilio yn y ffos am eu coluddion, a rhai heb eu pennau yn ymwingo fel iâr ar ôl bod ar y plocyn, ac eraill mewn cymaint o lanastr fel y byddai’n rhaid crafu’r cnawd o ochrau’r ffos er mwyn cael digon i’r sach i wneud esgus o wasanaeth claddu.

Eithr nid oedd dim annibendod felly ynglŷn â’r fidog, meddai ef, dim ond brath yn y cylla, yn y frest, neu yn y corn gwynt, a gofalu rhoi tro i’r fidog cyn ei thynnu allan er mwyn i’r awyr fynd i mewn i’r clwyf a’i wenwyno. “Os gweli di hen dad o Jerry yn dod ymlaen,” meddai gan droi at Ifan, “goglais e yn ei fogel â hon,” gan anwesu’r dur gloyw, “ag fe fydd y diawl farw o chwerthin.” Gorchmynnai i’r milwyr weiddi a bloeddio wrth ruthro ymlaen er mwyn syfrdanu’r gelyn a rhoi cyfle i’r fidog wneud ei gwaith yn ddestlus.

O’r diwedd a’r wers lafar ar ben rhoddwyd cynnig ar ymarfer. Ar y gair, rhedodd pob un tuag at ei elyn a’i fidog yn estynedig o’i flaen; ceisient weiddi ond egwan oedd y bloeddiadau; eithr bloeddiai’r corpral ddigon i wneud y tro drostynt i gyd; cynhyrchai ryw seiniau annaearol yn gymysg â chyfarwyddiadau pendant ymha ran o gorff y gelyn i blannu’r fidog. Gwelodd y corpral fod Ifan yn petruso, “Mlaen â thi!” gwaeddodd. “Bratha fe yn ei geille,” ac o deimlo bod llygaid y corpral arno gwthiodd Ifan y fidog mor bell nes methu â’i thynnu allan. Y ffordd gywir i’w chael allan oedd taro’i droed yn erbyn bol y gelyn a thynnu’r fidog yn rhydd, ond anghofiodd Ifan bopeth am hyn. Yn ei benbleth gwallgo rhoddes ei holl rym y tu ôl i’r fidog nes i’r dryll a’r cyfan fynd i mewn, ac i’r sach a hithau’n frau gan y tywydd ymarllwys ar y llawr. Cyn gweld effaith ei ruthr yn llawn yr oedd Ifan wedi mynd ymlaen i frathu’r ail elyn a oedd yn gorwedd yn amyneddgar ar y ddaear. “O’r mochyndra uffernol!” gwaeddai’r corpral. “Wnei di byth filwr; ’dwyt ti ddim yn ddigon da i agor mochyn.”

Ar ben tri mis o ymarfer âi pob sgwad i Orpington i gael ymarferiadau pellach cyn mynd dros y môr. Diwrnod mawr y sgwad yn Caterham oedd y diwrnod y profid hi yn ei hymarferiadau a’i gwybodaeth, ac uchelgais pob hyfforddwr oedd cael pob aelod o’r sgwad drwy’r prawf. Aethai sgwad Ben Rowlands i Orpington eisoes, ac yr oedd Manod yn disgwyl ei dro yntau. Eithr un bore wrth ymolchi gwelodd nifer o ysmotiau cochion ar ei fron, ac wedi eu dangos i’r corpral cynghorwyd ef i weled y meddyg. Dywedodd hwnnw ar unwaith fod y frech goch arno, ac anfonwyd ef i’r ysbyty rai milltiroedd i ffwrdd.

Er ei afiechyd yr oedd y mis yn yr ysbyty fel nefoedd iddo, a’r nyrsus fel angylion. Hyfryd oedd mwynhau gorwedd yn ddigyffro yn ei wely, cael bwyd da yn ei bryd, a darllen neu ysgrifennu neu ddiogi drwy’r dydd. Yn y gwersyll, pan sonnid am y rhyw arall, am ferched drwg yr oedd y sôn bob amser; dim ond mewn cyfrinach rhwng dau y soniai neb am ei fam a’i wraig a’i chwaer a’i gariad. Yr oedd gweld merched unwaith eto,—merched yn naturiol wrth eu gwaith, fel rhyw ail ddatguddiad, a châi Manod ei hun yn aml yn hirsyllu arnynt, a phan drôi un ohonynt ato a dal ei lygad teimlai fel ymddiheuro am ei ddigywilydd-dra.

Cyn iddo adael yr ysbyty daeth llythyr oddi wrth Ifan yn dweud bod y sgwad wedi symud i Orpington. “Yr oedd yn ddrwg iawn gennym fynd cyn i chi ddod yn ôl atom,” meddai’r llythyr, “ond fe gawn gyfarfod eto gobeithio cyn bo hir. Un o’r rhai cyntaf a welsom ni yma oedd Ben Rowlands, ac fe’n gwnaeth ni’n gartrefol ar unwaith. Y mae’n well gan bawb Orpington na Caterham. Mewn hen frewery yr ydym yn aros, ond y mae Ned Beynon yn dweud nad oes yma ddim smel cwrw erbyn hyn. Ond y mae ef a Rowlands yn cael digon ohono yn rhywle arall, ac y mae’r ddau yn cofio atoch yn gynnes iawn, a minnau hefyd. Gwnewch hast i wella.” Gwneud hast i wella, wir, meddai Manod wrtho’i hun ar ôl darllen y llythyr, pe byddai Ifan yma rhwng dillad glân y gwely hwn yn gwneud dim byd drwy’r dydd ni byddai fawr o sôn am hast i wella; ac wrth adael yr ysbyty ar ben pum wythnos credai Manod ei fod yn deall paham yr oedd rhai yn eu hanafu eu hunain er mwyn cael mynd i’r ysbyty.

Pan ddaeth Manod yn ôl i Caterham rhoddwyd ef mewn sgwad a oedd o fewn pythefnos i ymadael. Gan ei fod wedi mynd drwy’r ymarferiadau i gyd cyn mynd i’r ysbyty gwaith hawdd oedd iddo gymryd ei le yn y sgwad. Eithr yr oedd yr hen gyfeillion wedi mynd, ac ni fedrai rywfodd ddod yn gyfeillgar â’r un yn y sgwad newydd. Ymddangosent fel pe baent yn gwneud cymwynas ag ef drwy ganiatáu iddo adael Caterham yn eu cwmni hwy. O’r diwedd daeth y dydd i wyth ar hugain ohonynt adael Caterham a cherdded yr holl ffordd i Orpington ar draws gwlad; yr oedd eu cydau wedi’u hanfon ymlaen mewn gwagenni. Daethai swyddog a sarjant o Orpington i’w harwain i’w cartref newydd, ac ar ôl sefyllian am dipyn allan â hwy drwy’r porth o olwg y sgwâr a’i gloc a’i farics moel.

Wedi gadael yr ystrydoedd gwelid bywyd y gwanwyn yn ymwthio trwy flodau a choed ac adar mewn gardd a chae a pherth, ac yr oedd yn falm cael mynd trwy’r wlad ac anghofio’r sgwâr lle ni ddeuai’r gwanwyn a’r haf â dim ond llwch. Caent hoe ar ochr y ffordd bob hyn a hyn; yr oedd y swyddog ieuanc a’u harweiniai yn ddigon doeth i beidio â cheisio ffrwyno’u mwynhad hyd yn oed pan drawodd rhywun y dôn ar yr emyn

And a little child shall lead them.

Yn hwyr y prynhawn daethant i olwg Orpington a’r barics newydd, a chyn mynd i mewn caed trefn a rheol unwaith eto, a cherdded i mewn trwy’r porth heibio i’r gwyliwr a’u pennau i fyny a’u traed a’u breichiau yn mynd mor rheolaidd â phendil. Ymddangosai’r lle newydd yn dynerach na’r hen wersyll, ac yr oedd llawer o hen gydnabod wedi ymgasglu i weled y sgwad newydd yn cyrraedd. Nid oedd yn anodd i Manod weld Ifan a Ned Beynon yno’n disgwyl yn dawel, ac yn edrych mor feirniadol ag y gall hen filwyr edrych ar newyddianod,—yn union fel yr edrychai Ben Rowlands arnynt eu tri yn cyrraedd Caterham dros dri mis cyn hynny.

Eithr rhewyd unrhyw eiriau croeso rhwng y cyfeillion gan ymddangosiad sergeant major mwy ysblennydd na’r un a adawsid yn Caterham. Wedi cyflwyno’r sgwad iddo aeth y swyddog ieuanc ymaith, a dyna’r sergeant major o ben ei ddwylath yn dechrau gwneud iddynt deimlo nad oeddynt wedi newid er gwell. Daeth cwmwl dros ogoniant y gwanwyn pan ddechreuodd eu galw yn fwbachod brain ac yn fyddin Fred Karno gan broffwydo y byddent un ac oll yn waradwydd i wisg Ei Fawrhydi. Pan welodd gudyn afreolus o wallt yn y golwg y tu allan i gap un milwr dyna ddechrau arllwys ei watwareg,

What have we got here? Spring poets. This is not a school for poetry, as you’ll soon find out. Here, sergeant, take him to the barber after parade.

Sir,” meddai hwnnw’n ufudd.

Cyn gadael iddynt fynd dechreuodd eu hymarfer yn y man a’r lle er mwyn tynnu’r trwstaneiddiwch allan ohonynt, meddai ef.

Shun. Quick march . . . About turn . . . About turn . . . Right turn . . . Left turn . . . About turn,” nes bod pob un yn taro yn erbyn ei gilydd mewn dryswch annisgrifiadwy. O’r diwedd gan addo rhagor o’r ffisig iddynt drannoeth gadawodd iddynt fynd.

“Croeso i’r dafarn,” meddai Ned Beynon.

“Wn i ddim beth ddweden nhw gartre,” ebe Ifan, “pe baen nhw’n gwybod mod i’n aros mewn brewery.”

“Beth yw’ch barn chi am y sergeant major yna?” gofynnai Manod.

“ ’Dyw e ddim yn ddrwg yn y bôn,” atebai Ifan.

“A pheth arall,” ychwanegai Ned, “ ’dyw e ddim yn rhegi fel y diawled eraill.”

Rhoes y ganmoliaeth annisgwyliadwy hon derfyn ar drin cymeriad y sergeant major, ond yr oedd digon o destunau eraill i’w trafod, ac wrth glywed lleisiau ei hen ffrindiau teimlai Manod fod peth o londer y gwanwyn yn dod yn ôl.

Gwelyau ystyllod fel gwelyau’r gwersyll yn Caterham a oedd ganddynt, eithr yr oedd yr hen fracty yn fwy cadarn a chysurus na’r caban; yr oedd hefyd awyrgylch mwy cyfeillgar yn y lle newydd. Rhywbryd cyn deg o’r gloch daeth Ben Rowlands i mewn “wedi’i dal hi,” ond yn ddigon sobr-feddw i groesawu Manod yn frwdfrydig. Ymddihatrodd yn drafferthus: yr oedd wedi gwneud ei wely’n barod cyn mynd allan; ond yr oedd pob carrai a botwm yn ystyfnig. O’r diwedd fe’i cafodd ei hun yn y gwely.

“Pryd ’rych chi’n mynd i adel y cwrw ’na?” gofynnai Ifan.

“Ifan bach,” ebe Rowlands, gan edrych yn dosturiol arno, “wyddost ti ddim am demtasiynau’r diafol.” Yn union deg seiniwyd y Lights out, ac yna yn ei lais soniarus dechreuodd Rowlands ganu, canu emyn, ac er bod y canwr yn hanner meddw anghofiodd Manod bopeth am hynny fel yr âi’r hen eiriau â’i feddwl yn ôl, yn ôl.

“Os dof i trwy’r anialwch . . .”

Holl daith yr anialwch i gyd meddai’r hen bobol yn y seiat gan sôn byth a beunydd am yr hen genedl yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn trwy yr anialwch anialwch erchyll yw y byd fel y Sahara ebe Owen y Cwm gan wneud i’r llafariaid agored wrth dreiglo o’i dafod awgrymu milltiroedd di-ben-draw o anghyfanedd-dra anialwch mawr ac ofnadwy lle yr ydoedd seirff tanllyd ac ysgorpionau yr anialwch a’r anghyfaneddle a lawenychant o’u plegid y diffeithwch hefyd a orfoledda ac a flodeua fel rhosyn . . .

“A’m henaid i lonyddwch . . .”

efe a’m tywys gerllaw y dyfroedd tawel gorffwysfa dawel deg ddi-stŵr sydd yno i’r gŵr lluddedig hapus luddedig mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid beth mewn difri sydd eisiau arnoch chi’r ffermwyr meddai’r areithiwr huawdl wrth ei gynulleidfa galed llonydd meddai hen ffermwr yn syth o’i flaen llonydd efe a wêl lonyddwch mai da yw dyna fydd yn ffein ar ôl y rhyfel meddai Ifan cael llonydd. . .

“A’r maglau wedi eu torri . . .”

efe a’th wareda di o fagl yr heliwr fel aderyn o fagl yr adarwyr y fagl a dorrwyd a ninnau a ddiangasom ond fe wela i ddiwrnod yn dod y bydd ein hannwyl frawd yn ehedeg yn iach heb arno na brycheuyn na chrychni o’i holl gadwynau’n rhydd . . .

“Os gwelir fi fel hynny . . .”

Oh, chuck it, Rowlands,” meddai llais o’r dde, “let a fellow sleep.”

O’r aswy taflodd rhywun esgid at y canwr gan daro’r pared yn ymyl pen ei wely.

“ ’Dyw’r diawled ddim yn haeddu cael clywed yr efengyl,” ebe Rowlands, a chan gydio yn yr esgid a’i rhoi o dan ei wely, “fe fydd rhywun yn chwilio am ei esgid bore fory.”

Teimlai Manod a’i gyfeillion yn llonnach yn Orpington. Yr oedd yr agendor rhwng y milwyr a phobl eraill yn aros o hyd; er bod eu gwersyll yn awr yng nghanol y wlad a’r wlad honno yn edrych ar ei harddaf, perthynai’r tai clyd a’r gerddi trwsiadus i fyd arall. Ceisiai’r milwyr ddyfalu am chwerthin a chysur a chyfeillgarwch y tu ôl i’r drysau a’r ffenestri, ond nid aent ymhellach. “Ai er mwyn y rhain yr ŷn ni’n mynd i ymladd? Ydy’r diawled ddim yn gwybod ei bod hi’n rhyfel?” meddai Ned Beynon unwaith pan aeth car yn llawn o wŷr boldew a gwragedd coegfalch heibio iddynt. Ond anghofid popeth fel hyn pan aent i mewn trwy borth y gwersyll.

Yr oedd mwy o Gymry yn y gatrawd nag a feddyliasai Manod. “Dewch gyda fi,” meddai Ifan wrtho ryw hwyr, “ ’rwy wedi cael gafel ar sgwlmistir o’r Sowth, Corpral John,” a dyna gyfarfod â’r athro, a hwnnw ar ei wely yn darllen papur newydd Cymraeg. Dro arall aeth Ifan ag ef at borthmon a wyddai bopeth am Ffair Wyl Grog a ffair Reuben a ffair Dalis. Nid oedd y corprals a’r sargants chwaith yn cnoi fel is-swyddogion Caterham. Y mae’n wir bod y sergeant major a’r drill sergeants yn fodau anghymodlon a ffyrnig, ond yr oedd eu twrw’n waeth na’u taro: hoff beth gan Ifan fin nos yn y cantîn oedd gwrando ar un o fechgyn y band yn dynwared y drill sergeants.

Felly yr âi’r paratoi ymlaen. Yr oedd Caint i gyd yn edrych fel gardd gyda’i pherllannau cnydfawr a’r odynau hopys yma a thraw. Ambell waith teimlai Manod ryw dawelwch mawr; rhywbeth pell oedd y rhyfel, ac ychydig a sonnid amdano. Byddai rhai ni welsent erioed danio bwled at elyn yn cega’n uchel am gwrs y rhyfel: ar dro deuai milwyr yn ôl i’r gwersyll a rhibyn aur ar eu llawes chwith yn dangos eu bod wedi’u clwyfo ar faes y gad. Ychydig a ddywedai’r rhan fwyaf o’r rhain ac yr oedd rhywbeth yn eu distawrwydd hwy yn fwy huawdl na baldordd y lleill. Fel yna, yn ôl Owen y Cwm, yr edrychai Lasarus wedi iddo glywed y byddai’n rhaid iddo farw drachefn.

IX

Gwelai Manod yr athro o’r Sowth yn aml, a chafodd fod ganddo ddiddordeb mewn barddoniaeth yn ogystal ag mewn llawer peth arall.

“Welsoch chi gân Gwynn Jones yn y ‘Faner’ ddechre’r rhyfel?” gofynnai un noson.

“Do,” atebai Manod, ac yna mynd i sôn am gerddi’r “Welsh Outlook” a’r “Beirniad,” ac yntau’n adrodd o’i gof ganeuon cyfain. O hynny mynd i sôn am yr “ysgol newydd,” a gorffen gydag adrodd rhai o emynau Pantycelyn, a synnu mor newydd oeddynt. Yn fuan iawn aeth Corpral John dros y môr, ac ni chafodd Manod neb wedyn i drin llenyddiaeth Gymraeg.

Yr oedd yr ymarfer yn mynd ymlaen o hyd, ac ar brydiau câi’r milwyr hyfforddiant diddorol mewn rhyw gwrs newydd. Dyna’r bom a elwid ar enw ei dyfeisiwr,—Mills. Rhyw blisgyn tew o haearn ydoedd o faint a ffurf wy gŵydd gyda defnyddiau ffrwydrol y tu mewn a rhigolau ar y tu allan. Yr oedd yn declyn digon diniwed nes tynnu’r pin a gadwai’r lifer yn ei le; os gwneid hynny tasgai’r lifer i ffwrdd gan ryddhau spring y tu mewn i daro’r cap a pheri ffrwydro ymhen pum eiliad gan wneud i’r bom ymdorri ar hyd y rhigolau a gyrru’r darnau i bob cyfeiriad. Gellid cadw’r lifer yn ei le â bys wedi tynnu’r pin; ymhen pum eiliad ar ôl i’r bom adael y llaw y byddai’r ffrwydro. Yr oedd yn rhaid ei thaflu fel taflu pêl griced a gwneud iddi ddilyn ffurf bwa. Os teflid hi’n rhy fuan gallai’r ochr arall ei thaflu’n ôl cyn y byddai’r pum eiliad ar ben a pheri iddi ffrwydro lle y cychwynasai.

Un dydd wedi cael gwers ar y bom aeth cwmni Manod i ben bryn i ymarfer ei thaflu; yr oeddynt yn sefyll mewn ffos igam-ogam a phob un yn ei dro yn taflu bom i ffrwydro mewn pwll ychydig lathenni i ffwrdd. Aeth popeth ymlaen yn iawn nes i un swagrwr yn ei rodres ffeindio’r ffos yn rhy gul a tharo’r llaw a ddaliai’r bom yn erbyn ochr y ffos. Gwaeddodd gan y boen, a gollyngodd y bom o’i law: gwyddent oll fod y pin allan, ond pan oedd rhai yn gwibio heibio i gornel y ffos, ac eraill yn edrych yn syn heb allu symud o’r man, rhuthrodd Ned Beynon at y bom gan ei chodi i fyny a’i hyrddio fel bollt i’r pwll i ffrwydro yno yn ddiniwed fel y lleill.

Ar ôl ychydig wythnosau symudodd y fataliwn i Tadworth i fyw mewn pebyll, “fel yr hen genedl yn yr anialwch,” meddai Ifan ar ôl iddynt ymgartrefu. “Ie,” atebai Manod, “ond ein bod ni’n mynd ymhellach o wlad yr addewid.” Yr oedd rhyw wyth, mwy neu lai, ymhob pabell a chysgent a’u traed at y polyn canol. Pan ddeuai rhywun i mewn yn hwyr tipyn o ffwdan yn aml fyddai iddo gael ei le heb sengi ar ryw ran o gyrff y cysgaduriaid. Pan ddigwyddai hynny dyna b’le y byddai rhegi a rhwygo, a chan mai oriau hwyr y dafarn oedd y prif reswm am y diweddariaid byddai ymlaen ymhell ar y nos cyn tawelu’r anghydfod. Dydd Sadwrn tynnid pob pabell i lawr, a sgwrio’r llawr coed, a rhoi calch o dano, ac yna rhoi’r cwbl yn ôl wedyn. Os byddai’n bwrw glaw ymdyrrai preswylwyr pob pabell o amgylch y polyn gan ofalu peidio â chyffwrdd llen y babell rhag i hynny beri i’r diferynnau glaw ddod drwodd; deuai sŵn canu o ambell babell, ac o rai eraill yr anogaeth

Send it down, Davy.

Pan fyddai’n braf yn yr hwyr byddai llawer o’r milwyr yn eistedd yn dwr wrth ryw chwarae siawns neu’i gilydd,—housey, neu crown and anchor,—i geisio ychwanegu at eu cyflog prin. Yr oedd Ned Beynon yn dilyn y cwmnïau hyn yn weddol gyson; ac am ei fod yn chwarae yn ôl sistem, meddai ef, llwyddai i orffen y chwarae gyda’r un faint o arian ag oedd ganddo ar y dechrau, wedi cael oriau o fwynhad am ddim. Unwaith y ceisiodd Manod ac Ifan uno yn y chwarae, a’r tro hwnnw ni chawsant lawer o bleser oherwydd ni fedrent gydfynd â chyflymder y chwarae, ac ni chawsant hyd yn oed lwc y newyddian.

Yr oedd tref Epsom dros y gefnen, a cherddai’r milwyr yno yn aml yn yr hwyr, neu grwydro ar y downs,—y bronnydd tonnog hynny sydd i’w cael yn neheudir Lloegr. Dechreuodd Ned Beynon fynychu tŷ gwraig a dau o blant yr oedd ei gŵr yn y fyddin yn rhywle yng ngogledd yr Alban. “Pam na all hi a finne gael tipyn o sbort?” oedd esgus Ned dros yr ymgyfathrach. Gwahoddwyd Manod ac Ifan gyda Ned ryw noswaith; yr oedd hi wedi anfon y plant i’r gwely ac wedi gwahodd dwy ddynes arall; ac er bod y swper yn ddi-fai ni fu rhyw lawer o hwyl ar y cwmni ar ôl i Ifan ofyn b’le’r oedd y plant a throi’r siarad o hyd at ei gŵr. Cyn pen hir clywyd i’r gŵr ddod adref yn ddirybudd ryw noswaith a dal ei wraig gyda Ned yn y gwely. Bu ôl yr ysgarmes ar Ned am ddyddiau, ond tystiai Ifan oddi wrth yr hyn a glywsai mai’r Sais a gawsai’r gwaethaf, a dywedai hynny mewn tôn a awgrymai fod buddugoliaeth cydwladwr am y tro yn fwy pwysig na buddugoliaeth cyfiawnder.

Un noson bu’r fataliwn yn ymarfer yn y wlad o amgylch y gwersyll. Yr oedd yn dywyll iawn, a dechreuodd y glaw ddisgyn gyda’u bod yn cychwyn allan. Pan ddaethant yn ôl i’r gwersyll wedi colli ffordd a theithio ofer teimlai Manod ac eraill nad oedd dim yn y byd yn fwy annifyr na milwr yn wlyb at ei groen.

Weithiau byddai’r fataliwn i gyd, y band a’r cyfan, yn ymarfer ar y bronnydd. Daeth Manod i hoffi rhwysg y seremonïau hyn: yr oedd archwiliad manwl arnynt cyn cychwyn, i weld bod pob dim yn lân ac yn ei le; ond ar ôl hynny mwynhad digymysg oedd y peth, a phan drawai’r band ryw dôn yr oedd fel pe bai’r wybren las yn dihidlo llawenydd; ac os byddai’r dôn yn ymdeithgan clywid y fataliwn i gyd yn symud fel un gŵr a’r milwyr ymhell yn y gwt yn ymsythu ac yn camu heb na meth na choll.

Left, Right. Left, Right. Left. . . Left . . .”

Un tro cerddodd y fataliwn allan gan ymffurfio yn dair ochr sgwâr i wrando ar un o brif gaplaniaid y fyddin. Hoffodd Manod ef yn fawr oherwydd ei agosatrwydd: dywedodd iddo glywed ryw stori front unwaith ynglŷn â rhyw adnod, a phob tro y clywai’r adnod ar ôl hynny, meddai, ai mewn gwasanaeth ai mewn cynhadledd, deuai’r stori front honno i’r cof hefyd.

Eithr dydd mawr yr haf hwnnw oedd y dydd y daeth y cadfridog Syr Francis Lloyd i weld y fataliwn. Y mae’n wir nad oedd bywyd yn werth ei fyw am ddyddiau cyn hynny gan y rhegi a’r rhwygo a’r rhuthro, ond erbyn bore Sadwrn yr oedd y pebyll a’r milwyr fel pin mewn papur, “yn ddigon ffit i’r Duke of Wellington,” ebe Ned Beynon, a rhywbeth a glywsai am fanylrwydd yr hen gadfridog hwnnw wedi glynu yn ei feddwl. “Fe fyddwn yn siŵr o fod yn ddigon da i Frankie ynte,” meddai Ifan, gan ddefnyddio enw’r milwyr ar y cadfridog. Ffurfiwyd y fataliwn yn llinell ar y gefnen, cwmni wrth gwmni, a’r hen gyrnol yn arwain ei fataliwn ac yn cael llawer mwy o drafferth gyda’i geffyl na chyda’i filwyr. Yna gorymdeithio heibio i’r cadfridog a’i osgorddlu, a’r band yn canu ymdeithgan y fataliwn, “Codiad yr Ehedydd.” Yna’n ôl i’r gwersyll, a phawb yn fodlon iawn.

Aeth Manod ac Ifan i ddal y trên i Lundain, oblegid yr oedd eu hymweliadau â Llundain yn mynd yn amlach. Fel yr oeddynt yn cerdded yn ôl a blaen yn yr orsaf yn disgwyl am y trên, dyma’r hen gyrnol, yntau hefyd yn disgwyl am y trên, yn troi i siarad â hwy.

The general was very pleased with us this morning,” meddai.

Dyna’r tro cyntaf i swyddog dorri gair â’r ddau Gymro.

Cyn bo hir tynnwyd rhai o’r milwyr i fynd ar gyrsiau arbennig, ac aeth Ifan a Ned Beynon ar gwrs i ddysgu trin gynnau peiriant. Dewisodd Manod gwrs mewn signalling, a dyna ddechrau’r tymor mwyaf diddorol a gafodd yn y fyddin. Gwaith y signallers oedd trosglwyddo negeseuau a newyddion o un adran i’r llall pan fyddai’r fyddin ar y maes. Ambell waith defnyddid milwyr i gludo’r neges yn union fel y gwnâi’r Groegiaid yn eu hen ryfeloedd hwy, ac yr oedd gan y fyddin wŷr arbennig i wneud hyn: eithr trwy foddion eraill yr anfonai’r signallers eu negeseuau.

Un ffordd o anfon neges oedd semaphore, sef gwneud i ystum braich gynrychioli llythyren,—y fraich dde yn estynedig hanner y ffordd o’r ochr i’r ysgwydd yn cynrychioli’r llythyren A, y fraich yn gydwastad â’r ysgwydd yn cynrychioli B, ac felly trwy wahanol ystumiau a chyfuniadau o’r ddwyfraich nes cael y llythrennau i gyd. Ni ellid anfon neges yn y dull hwn ond yn y dydd pan fyddai’r milwr yn y pen arall, sef y derbynnydd, yn medru gweld y milwr a oedd yn anfon y neges, sef yr anfonydd, a phan fyddai’r gelyn o’r golwg. I wneud yr ystumiau yn fwy pendant dygent faner fechan ar bolyn byr yn eu dwylo i bwysleisio ystum y fraich.

Eithr y dull cyffredin oedd defnyddio gwyddor Morse, sef y dull o ddynodi llythrennau’r wyddor trwy gyfuno dotiau a llinellau byrion, . — yn dynodi A, — . . . yn dynodi B, — . — . C, ac felly yn y blaen. Gellid anfon negeseuau yn yr wyddor hon gyda baneri bychain yn cael eu dal uwchlaw’r pen, a rhoi ysgogiad byr i’r faner i ddynodi dot ac ysgogiad hwy i ddynodi’r llinell fer. Neu gellid eu hanfon gyda lamp a chaead arni a gwthio’r caead i lawr yn dangos y golau; gwthio y caead am ennyd fer i ddynodi dot, ac yn hwy i ddynodi llinell fer. Ni ellid defnyddio’r lamp yn hwylus yn y dydd, na chwaith yn y nos pan fyddai’r gelyn yn agos.

Y ffordd fwyaf cyffredin oedd defnyddio telegraff bychan, y gellid gwneud synau arno trwy gyfrwng y ffrwd drydan, sŵn byr i’r dot a sŵn hwy i’r llinell fer. Yr oedd gwifren yn mynd â’r sŵn o delegraff i delegraff, lathenni neu filltiroedd, beth bynnag fyddai’r pellter, a byddai gan y derbynnydd a’r anfonydd gap ar eu clustiau i glywed y sŵn yn well. Treuliodd Manod lawer awr yn dysgu am fanylion cywrain y peiriant bach, dysgu cyweirio gwifrau wedi torri, a dysgu’r wyddor nes medru derbyn yn gyntaf ddau air mewn munud, yna bedwar, chwech, ac i fyny i ddeuddeg, gan fwriadu gydag amser gyrraedd safon y rhai a honnai y gallent dderbyn deg ar hugain o eiriau mewn munud.

Er na ellid defnyddio’r lamp yn y dydd yr oedd ganddynt ddyfais a elwid heliograff i adlewyrchu golau’r haul o wydr, a hwnnw’n gwneud y tro yn lle golau lamp. Dyna’r dull a ddefnyddid yn rhyfel De Affrica, meddai’r hen filwyr. Yr oedd rhywbeth yn y dull hwn yn gweddu i’r haf heulog ac eangderau gwyrdd y downs. Ar y bronnydd gwyrddlas lle yr hyfforddid hwy yr arferid rhedeg y Derby a rasus ceffylau eraill; ambell waith âi march lluniaidd heibio, efe a’i farchog yn enwog ym myd y rhedegfaes.

Un prynhawn ar ôl te a phawb yn paratoi i fwynhau eu hwyr yn y gwersyll neu allan ohono daeth gwŷs i bob Jones yn y gwersyll fynd ar barêd. “All the Joneses on parade. All the Joneses on parade at once.” Rhuthrodd Manod a phawb arall o’i gyfenw i faes y parêd gan ryw led obeithio mai cael eu galw i fynd adref am wythnos yr oeddynt, oherwydd buasai sôn mai yn ôl llythrennau eu cyfenwau yr oeddynt i gael mynd. Rhuthrodd y Jonesiaid oll fel yr oeddynt, rhai yn llewys eu crys, a phob un heb ei gap; wedi eu cael mewn dwy res, dyma’r sergeant major yn rhoi’r gorchmynion arferol iddynt, oherwydd beth bynnag oedd y newydd i fod yr oedd yn rhaid dal ar y cyfle i roi ychydig o ymarferiadau iddynt.

Right dress. Stand at ease. Shun. Jump to it; you’re not at home now,”—a dyna lygedyn o obaith y byddent gartref cyn bo hir. Yna tynnodd y sergeant major amlen frown o’i boced a gofyn a oedd yno rywun yn disgwyl telegram. Distawrwydd mawr. Yna gofynnodd a oedd yno rywun yn disgwyl telegram oddi wrth ei gariad. Distawrwydd llethol. Yna gofynnodd a oedd yno rywun yn disgwyl telegram ynglŷn â’r noson honno. Distawrwydd annioddefol.

Well,” ebe’r sergeant major o’r diwedd, “whoever he is, Susie expects to meet him tonight at half past seven at the usual place. Dismiss, you bad men.

Deallodd Manod fod rhyw Susie wedi anfon telegram i’w chariad gyda’r cyfeiriad, “Jones, Welsh Guards.”

Eithr yn fuan daeth yn amser i Manod gad wythnos i fynd adref am dro. Edrychai’r wlad yn ogoneddus yn ei gwisgoedd haf, ac yr oedd yntau wedi gwneud i bob botwm ar ei wisg ddisgleirio ei orau. Yn yr orsaf yr oedd ei dad yn cyfarfod ag ef gyda’r gaseg felen yn y trap. Wythnos lawn oedd yr wythnos honno,—mynd i ymweld â rhyw deulu o hyd a’i dad gydag ef yn aml, a’r cymdogion yn sylwi mor dda yr edrychai’r mab ac mor gwla yr edrychai’r tad. Gartref yr arhosai ei fam a pha mor hwyr bynnag y byddai Manod byddai hi ar lawr yn disgwyl amdano. Mynnai Bob fynd gyda Manod i bob man; fel rheol ni cheisiai ddilyn neb oddi cartref, ond yr wythnos honno yr oedd yn ddi-droi’n-ôl.

Teimlai Manod oddi wrth y demtasiwn i siarad yn oraclaidd pan ofynnai hwn a’r llall iddo gwestiynau fel pa bryd y gorffennai’r rhyfel; ond yr oedd yn rhaid iddo fod yn wyliadwrus gan fod cynifer o syniadau Owen y Cwm ar led yn yr ardal, ac ni fynnai Manod er dim ddweud mai celwydd oedd yr un o’r rheini. Dangosai’r cymdogion garedigrwydd mawr gan roi arian iddo i brynu’r peth hwn a’r peth arall, a daeth y penllanw yn y cwrdd croeso a drefnwyd ar rybudd byr y noson cyn iddo fynd yn ôl. Yr oedd yno rai o bell ac agos yn canu ac yn adrodd; cafwyd hefyd anerchiadau barddonol a rhyddieithol; yr oedd Owen y Cwm, a oedd erbyn hyn yn wael yn ei wely, wedi anfon “ychydig benillion ar yr achlysur.” Cawsai rywun i’w hysgrifennu drosto wythnosau cyn hynny, a darllen y penillion lle y clodforid bechgyn y fro a’r “gwron hwn,” sef Manod, yn arbennig, oedd un o bethau cofiadwy y cyfarfod. Ar ôl darllen y pennill olaf,

“Daw heddwch eto dros y fro

A gwŷr yr Almaen fawr ar ffo;

A Manod hoff yn yfed gin

Ym mhlas y Ceisar yn Berlin,”

yr oedd hyd yn oed lwyrymwrthodwyr y plwyf yn curo dwylo, gan wybod mai odl yn unig a oedd y tu ôl i’r drydedd linell. Uchafbwynt y cyfarfodydd hyn bob amser oedd cyflwyno swm o arian i’r milwr, a’i eiriau diolch bron bob amser yn rhyw fath o ddisgynneb ar ôl yr areithiau brwd eraill.

Un dydd aeth Manod i Aberystwyth. Yr oedd yr hen bethau yno o hyd,—yr hen gastell, yr hen goleg, a’r hen fôr; yr hen gyfeillion hefyd: ond teimlai fel pe bai yn edrych ar y cwbl o ryw gyfeiriad anarferol. Yr oedd rhyw len rhyngddo a Dora, hyd yn oed; collasai ef lawer o’i ddiddordeb ym mywyd y dref a’r coleg, ac ni chaffai hithau lawer o flas wrth wrando ar fanylion bywyd y gwersyll. Teimlent wrth ymwahanu ar ddiwedd y dydd nad oeddynt wedi dweud dim byd wrth ei gilydd er y siarad i gyd.

Aeth Manod i weld Owen y Cwm ddwywaith. Wedi iddo fethu â mynd oddi amgylch aethpwyd ag ef i dŷ ei chwaer iddi hi gael gofalu amdano. Dyna lle’r oedd yn ei ystafell wely a mapiau lawer ar y muriau,—mapiau yn dangos cwrs y rhyfel yng ngwahanol rannau’r byd. Yr oedd rhesi ceimion o faneri bychain ar rai ohonynt i ddangos safle’r byddinoedd a oedd yn rhyfela, ond yr oedd yn hawdd gweld nas symudasid hwy ers talm, a rhai ohonynt yn hongian yn llipa fel pe yn ymddiheuro am eu hanwiredd.

Y tro cyntaf yr ymwelodd Manod ag ef cwynai Owen am na fedrai gael map o’r byd ar ffurf pêl. “Mae hwn yn rhyfel byd-eang,” meddai yn ei hen ddull mawreddog, “ac y mae’n rhaid cymryd golwg fyd-eang ar bethau. Mae’n dda gen i fod y wlad yma’n mynd i ymosod ar y Twrc yng ngwlad yr addewid; ddaw dim llun ar bethe nes i ni ennill Jeriwsalem; dyna ganol y byd, waeth yno y bydd dydd y farn. Ag os ŷn nhw am general iawn, Botha yw’r dyn.” Wrth i Manod ei adael ceisiai Owen yn daer ganddo ddod yno wedyn i wneud trefn ar y baneri bychain, “er mwyn i mi fedru dweud, weldi, fod specialist wedi bod ar y gwaith.”

Pan aeth Manod i’w weld yr eildro yr oedd Owen yng nghanol un o’i ysbeidiau drwg, a’i feddwl yn crwydro yma a thraw. Sylweddolai fod Manod yn y fyddin, ond credai mai’r Ffrancod oedd y gelyn. “Paid â thrysto’r French. O na chawsen ni’r Duke o Wellington a’i drwyn cam eto i wneud iddyn nhw weiddi. Fe leicien i fod gyda chi pan ewch chi i Paris, ond wela i mo’r dydd, weldi, fe fydda i wedi mynd drwy’r Sea of Marmora i’r Pacific Ocean.” Distawodd am ychydig, ac yna meddai, “Cofia fi at John Rice pan ei di’n ôl i Sebastopol.” Yna rhyw hanner gododd yn y gwely gan ddweud mewn llais uchel, “Up, Guards, and at ’em!” Clywodd Bob y gorchymyn a rhedodd at waelod y grisiau gan gyfarth. Wrth glywed cyfarth Bob daeth rhyw oleuni i lygaid Owen fel pe bai’r atgof yn dod yn ôl am frwydrau’r amser gynt ar aelwyd Brynafon. Erbyn yr hwyr yr oedd Owen wedi marw.

Bore anodd oedd y bore cychwyn yn ôl. Penderfynasai Manod gerdded y pum milltir i’r orsaf, a ffarwelio â’i dad a’i fam gartref. Ffarweliodd â’i fam yn y tŷ; daeth ei dad i’w hebrwng hyd lidiart y buarth; edrychodd y ddau ar ei gilydd, eithr ni ddeuai’r un gair, ac felly troesant bob un i’w ffordd. Y noson honno ysgrifennodd Manod at ei rieni. “Daeth yr hen gi i’m hebrwng hyd at lidiart y mynydd. ‘Dyna ’nawr, Bob,’ meddwn wrtho, ‘well i ti fynd ’nôl ’nawr, ngwas i.’ Ond edrych ar fy ôl yn ymbilgar a wnâi; y mae yna rai pethau na fedr cŵn mo’u deall,—na dynion chwaith, am a wn i.”

Wrth gerdded ymlaen ar hyd y ffordd sylweddolodd Manod mor dynn oedd ei gysylltiad â’r hen ardal. Yr oedd y niwl yn codi a’r wlad yn dod yn fwy clir o hyd fel lluniau dyn y lantarn yn y ddarlith. Yr oedd popeth mor dawel, a phopeth mor glir. Daeth enwau’r hen dai i’w feddwl,—Moel-y-glomen, Rhyd-y-criafol, Bwlch Hafod-y-gog, Abermawnen, Nant-yr-arian, Maes-y-mêl, Moel Ifor, Bryn-y-wennol,—a daeth arno awydd gweiddi’r enwau dros bob man.

Ymddolennai Teifi yn hamddenol fel arfer gan lifo’n llyfn heibio i bentanau y bont gefngrwm. Yn y pellter yr oedd pennau’r mynyddoedd y tu ôl i Dregaron bron â dod i’r golwg, a Chwm Berwyn yn rhyw wahodd y teithiwr i’r unigeddau. Ond yr oedd y niwl yn drwch ar ben y bwlch.

Pan gyrhaeddodd Manod yn ôl i’r gwersyll cafodd fod Ifan a Ned Beynon wedi mynd allan i Ffrainc. Ymhen ychydig ddyddiau aeth yn un o gwmni o filwyr i Tidworth i ymarfer tanio gyda’r dryll. Buont yno dridiau yn tanio,—tanio ar ben canllath, ar ben pedwar canllath; tanio at gardiau mawr a modrwyau o wahanol faint yn ymagor o’r bull’s eye yn y canol, tanio at gardiau ar ffurf dynion yn codi o’r tu ôl i’r clawdd am ychydig eiliadau; tanio’n hamddenol gan eu pwyll, a thanio’n gyflym cyn gynted ag y gallent. Yna arllwys dŵr poeth trwy faril y dryll, a mynd yn ôl i wersyll Tidworth i’w lanhau,—“y ffrind gore a gewch chi yn Ffrainc,” meddai hen filwr amdano.

Y noson olaf yn Tidworth wedi iddynt fynd i’w gwelyau daeth y sarjant heibio i’r cabanau gan weiddi am iddynt ddod allan ar unwaith. Gan feddwl mai llongau awyr y gelyn oedd yr achos rhedodd pawb allan fel yr oeddynt, ambell un yn ei ddillad isaf, ac eraill wedi aros i wisgo’u trowsus: safent yn dwr gan ddechrau rhynnu yn awel lem y nos. Yn y pellter yr oedd y goleuadau gwylio yn symud uwchben gan chwilio ffyrdd yr wybren am ddychryn nos. O’r diwedd eglurwyd iddynt achos yr ymgynnull dirybudd: yr oedd Sarjant Brown a ofalai am y cwmni wedi bod yn treulio’r hwyr yn y cantîn gyda sergeant major o Ganada, gan ddod yn gyfeillion mawr, ac i goroni’r cyfeillgarwch yr oedd y sarjant wedi galw’r cwmni i gyd allan er mwyn i’w ffrind glywed sut y medrai Cymry ganu.

Now boys,” meddai, “let’s have that grand old Welsh tune ‘Aberhammersmith’.”

Trawodd un o’r bechgyn dôn Joseph Parry, a chydiodd y lleill yn y geiriau,

“Beth sydd imi yn y byd

Ond gorthrymder . . .”

Ar y dechrau y geiriau Cymraeg yn unig a genid, ond erbyn y drydedd linell daeth y Saeson i mewn.

“Gelyn nearer gelyn roll,

While the tempest nos a dydd,

Meddyg O my Saviour hide

Till the storm of life is past,”

a’r Cymry’n dod allan fel rhuthr dyfroedd lawer yn y diwedd,

“Yna canaf am dy waed

Nes meddiannu’r nefol wlad.”

Yn ystod y canu safai’r sergeant major o Ganada yn syth fel delw a’i sodlau wrth ei gilydd. Ar y diwedd troes at y milwyr a fu’n canu, a’u saliwtio.

Sergeant Brown,” meddai.

Sir,” meddai hwnnw gan fynd i fyny ato a tharo’i sodlau wrth ei gilydd fel pe baent yn cymryd rhan mewn seremoni rwysgfawr. Disgwyliai’r milwyr i gyd i’r sergeant major ddweud rhywbeth; gwnaeth ymdrech, ond methodd; yna aeth at Sarjant Brown gan roi ei freichiau am ei wddf a’i gofleidio; ac aeth y milwyr rhynllyd yn ôl i’w cabanau.

Tua’r Hydref symudodd y fataliwn i Lundain, i Ranelagh, cyrchfan pobl ffasiynol y brifddinas yn y ddeunawfed ganrif a chanolfan chwarae polo yn yr ugeinfed. Yn yr ystablau lle yr arferid cadw’r merlod polo y cysgai’r milwyr,—rhyw dri ymhob stâl: adeiladau diddos oeddynt hefyd, oherwydd cawsai’r merlod hynny bob gofal a chysur. Deuai’r sôn a’r siarad am fynd allan i Ffrainc yn fwy pendant o hyd. Erbyn hyn yr oedd Manod a’r rhai a ddaethai gydag ef o Caterham wedi mynd trwy’r holl ymarferiadau, ac ar brydiau yn cyrraedd safon uchel y sergeant major, a oedd bron â drysu oherwydd lletchwithdod milwyr catrodau eraill ar strydoedd Llundain, yn enwedig milwyr Awstralia a New Zealand.

Fel y deuai Manod yn fedrus yn ei waith teimlai fwy o falchder a boddhad, a phari glywai storïau am elwa a chribddeilio o’r tu allan, llawenhâi ym mywyd glân y fyddin. Gwyddai fod pethau chwerw a ffiaidd yn digwydd dros y dŵr ar faes y gad, ac mai ar gyfer hynny yr oedd yr ymarferiadau i gyd, eithr digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun. Methai â deall paham yr oedd pobl yn gadael Llundain yn yr haf gan mor ddiddorol yr oedd popeth iddo. Un noson wedi dod i mewn yn hwyr darllenodd rybudd y byddai iddo ef, yn un o gwmni o signallers, ymadael am Ffrainc drannoeth.

X

Rhywfodd teimlai Manod ryw ryddhad am fod yr amser o’r diwedd wedi dod, ac oblegid hynny cysgodd yn drwm drwy’r nos. Yn fore drannoeth yr oedd y cwmni a oedd i fynd allan i Ffrainc yn brysur iawn yn pacio, rhoi’r dryll a’r blancedi a phethau eraill yn ôl i’r stôr, a chael enw’r fataliwn mewn brethyn wedi ei wnio ar fôn eu llewys yn lle’r llythrennau pres a wisgent gynt, gan wneud iddynt feddwl, nes gweld eu camsyniad yn nes ymlaen, fod hynny yn ddiwedd ar lanhau botymau hefyd. Yna wedi iddynt gael cyllell boced fawr, a phecyn bach o bethau at drin clwyfau, a’u dogn bwyd am y dydd, aethpwyd â hwy i weld y meddyg. Archwiliad brysiog a wnâi hwnnw,—dim ond edrych a oedd arwyddion eu bod wedi cael haint y butain; yr oedd gan bob meddyg ei hobi, meddent, a dyna oedd hobi hwnnw. Tua hanner y bore pan oeddynt yn barod i gychwyn aethpwyd â hwy o flaen y cyrnol; daeth yntau allan o’r swyddfa i gyfarch y fintai fach o bymtheg cyn iddynt fynd dros y dŵr. Yr oedd rhai ohonynt wedi bod allan o’r blaen, ond yr oedd y rhan fwyaf yn mynd am y tro cyntaf.

Dechreuodd yr hen gyrnol trwy ddweud wrthynt fod hwnnw yn ddydd mawr yn eu hanes, dydd cychwyn allan i Ffrainc i ymuno â bataliwn gyntaf y Welsh Guards ar faes y gad. Yna soniodd am draddodiadau mawr y fataliwn ieuanc, ac am wrhydri ei milwyr. Credai, meddai ef, y byddai i’r ddrafft newydd barhau’r traddodiadau hynny ymhob dull a modd a bod yn deilwng o’r enw da a gawsai’r gatrawd eisoes. Anogodd hwy i roi nod uchel o’u blaen, ac ymochel rhag dwyn anfri ar eu cyfeillion; anogodd hwy i fod yn filwyr da mewn ymddangosiad a moes, ac uwchlaw popeth—a phawb yn clustfeinio i glywed yr anogaeth ddifrifol a oedd i ddilyn—uwchlaw popeth, i gymryd gofal mawr o’r pethau bychain yn eu hysgrepan, sef y taclau siafio a’r brwsus a’r edau a’r nodwyddau a’r gyllell boced. Yr oedd rhai, meddai ef, wedi colli’r cwbl ar y llong wrth groesi i Ffrainc gan beri trafferth mawr yn y gwersyll yr ochr arall i’r môr. Yr oedd gan bob cyrnol, fel pob meddyg, ei hobi, a hobi hwn oedd y small kit. Amser ar ôl hyn deallodd Manod fod gan bob cadfridog hefyd ei hobi, ac o bob hobi honno oedd yr hobi ddrutaf, oherwydd er mwyn i gadfridog gael dilyn ei hobi byddai’n rhaid yn aml aberthu miloedd o fywydau.

Yng ngorsaf Waterloo cafodd y fintai fechan drên i Southampton. Yr oedd llawer o filwyr eraill o wahanol gatrodau ar y trên, ac yn eu plith rai a fuasai allan o’r blaen ac a ddaethai’n ôl wedi eu clwyfo neu i roi tro adref. Yr oedd y platfform yn llawn o garedigion a pherthnasau wedi dod i ganu’n iach. Teimlai Manod hiraeth am rywun i ddweud ffarwel wrtho, a chofiai ddarllen am Americaniaid cyfoethog wedi bod am dro yn y wlad hon yn talu rhai i ddod i’r orsaf i ganu’n iach iddynt wrth ymadael. Ond gwyddai yn ei galon mai’r peth anhawsaf yn y byd fyddai treulio’r chwarter awr olaf pe bai yno rywun a adwaenai,—rhyw symud o un troed i’r llall a dyheu am i fysedd y cloc gyflymu yn lle ymgripian mor farwaidd.

Plygodd allan drwy’r ffenestr pan oedd y trên yn symud o’r orsaf rhwng cefnau’r tai a’r muriau brwnt. Yr oedd gwraig yn hongian dillad ar y lein, a phan oedd y trên yn mynd heibio cododd Manod ei law arni; cododd hithau ei llaw yn ôl gan edrych arno’n syth, debygai ef. Cadwodd ei law i fyny nes mynd heibio i’r tro, ac yna eisteddodd yn y cerbyd yn fodlon.

Ar ôl iddynt ddisgyn yn Southampton aethpwyd â hwy i sied fawr yn ymyl y cei i ddisgwyl amser hwylio. Rhoddodd y sargant a ddaethai â hwy i Southampton eu gofal i swyddog o gatrawd Sgotaidd, ac yna aeth yn ôl i Lundain. Yr oedd y cwmni bychan ar ei ben ei hun ac ymhen tipyn, o awydd am rywbeth i’w wneud, dechreuasant fwyta’r bwyd a gawsent cyn cychwyn o’r gwersyll y bore hwnnw a sylwi ar y milwyr eraill o’u hamgylch. Yr oedd yno Americaniaid yn llawn chwilfrydedd, a Serbiaid digartref yn rhoi rhyw fath o ddawns ryfel gyda rhyfelgri ar ei diwedd ac yn edrych mor foddhaus â phlant dan gymeradwyaeth yr edrychwyr.

Ambell waith deuai rhai o’r milwyr eraill at fintai fechan y signallers; gadawent hwythau iddynt ddarllen y geiriau “Welsh Guards” ar eu llewys heb ymdrafferthu i edrych i ba gatrodau y perthynai’r lleill, oherwydd nid oedd yn y fyddin ond dwy adran,—y Guards a milwyr eraill. Edrychai’r signallers ar y lleill gyda difaterwch dirmygus ci Newfoundland a ddigwyddo fod yn destun sylw haid o gorgwn. Dechreuodd rhai o’r cwmni ysgrifennu llythyrau; medrodd rhai brynu papur newydd, ac eraill dalpau o siocled, a rhwng yr ysgrifennu a’r darllen a’r bwyta ymlusgodd y prynhawn ymlaen.

Gyda’r hwyr aeth pawb i’r llong, a chafodd y cwmni bychan le yn y salŵn; meddylient ar y dechrau y caent y lle iddynt eu hunain, ond cyn pen hir nid oedd ganddynt ond prin le i orwedd pan ddeuai’n amser i hynny. Yr oedd wedi nosi pan gychwynnodd y llong o’r porthladd, ac wedi gadael tir cododd y gwynt gan beri i’r llong rowlio. Yn y golau gwan gwelai Manod gwmni gwelw’r salŵn yn ymroi i gysgu, eithr trafferthus oedd yr ymdrech. Teimlai ryw drymder yn ei gylla, trymder na fedrai dim mo’i symud, a cheisiai ei anghofio a chysgu ar lawr y salŵn a’i got fawr yn obennydd.

Rhywle ym mhen pellaf yr ystafell dechreuodd un o’r milwyr chwydu, ac fel pe baent oll yn disgwyl am yr arwydd hwn dechreuodd hwn a’r llall gael ei stumog yn ôl. Medrodd rhai gyrraedd ochr y llong mewn pryd, ond methodd llawer â chyrraedd hyd yn oed y llestr a oedd ar ganol yr ystafell. Clywsai Manod am glefyd y môr, a chofiai am y sbri a gawsent yn Aberystwyth am fod un bachgen yn ei gael bob amser ar ôl mynd allan ryw chwarter milltir yn y cwch, eithr ni feddyliasai erioed mor arteithiol oedd y profiad. Cydymdeimlai’n fawr â’r milwr ieuanc y tu allan a ddymunai’n hyglyw am i’r bore ddod neu angau. O’r diwedd, ar ôl noson anesmwyth o geisio cysgu yng nghanol ocheneidiau a griddfannau ac arogleuon ffiaidd, daeth y bore.

Wedi iddi ddyddhau aeth Manod allan i ymyl y llong i gael ei olwg gyntaf ar y cyfandir ac ar wlad Ffrainc. O’i flaen ymestynnai dociau Le Havre yn ddi-ben-draw, a’r ddinas yn ymgodi o’r tu ôl, a chawodydd didostur Hydref yn fflangellu’r cwbl. Erbyn amser glanio yr oedd hi’n hindda a phopeth yn edrych yn lân a chlir ar ôl y glaw, eithr rhyw lendid oer a digariad ydoedd. Ar y cei yr oedd y mynd a’r dod yn ddiddiwedd, a gwylwyr arfog ym mhob man. Daethai sarjant i lawr o’r gwersyll y tu cefn i’r ddinas i gyfarfod â’r cwmni, ac wrth iddynt fynd drwy’r strydoedd rhedai benywod a phlant ochr yn ochr â hwy gyda basgedi o afalau gan weiddi, “One apple, penny, very good.” Yn sydyn cofiodd Manod fod clefyd y môr wedi ei lwyr adael pan sangodd ar y tir, ac ar unwaith mynnodd brofi ceiniogwerth o ffrwyth y wlad newydd.

Wedi cyrraedd y gwersyll a chael dangos eu pebyll iddynt, y peth cyntaf oedd mynd â hwy o flaen y C.O. (Commanding Officer) a’r M.O. (Medical Officer), yna mynd â hwy i gael eu blancedi, dryll, clogyn slic, helmed ddur, a mwgwd nwy. Yn gynnar yn y prynhawn aethpwyd â’r cwmni i wastatir ar ben y bryn yng ngolwg y môr i gerdded trwy nwy yn eu mygydau newydd. Gan eu bod yn rhydd yn yr hwyr aeth Manod i gaban y Y.M.C.A. i ysgrifennu llythyr a chael lluniaeth. Yno esboniodd hen filwr o Gymro iddo, am gwpanaid o de a theisen, sut i newid arian Lloegr i arian Ffrainc, gwerth cymariaethol y swllt a’r ffranc, a chastiau cyfnewidwyr arian.

“Pan fyddi di wedi bod yn Ffrainc cyhyd â fi,” meddai, “fe weli di pam y darfu i’r Gwaredwr roi’r whip ar gefn y cyfnewidwyr arian yn y deml.”

Ar eu ffordd yn ôl i’r gwersyll dangosodd ei gydymaith i Manod bethau diddorol y dref.

“I lawr fan ’na mae’r stryd enwog,—y Rue y clywaist ti gymaint o sôn amdani.”

Daeth i feddwl Manod ryw annelwig atgof o’r enw, ond cyn iddo roi ffurf fwy pendant arno aeth ei gydymaith ymlaen.

“Dyna’r lle mae’r red lamps, ag fe wyddost beth yw rheini?”

Dechreuodd gwahanol gyfeiriadau a sibrydion ymffurfio ym meddwl Manod.

“Ond rhag ofn mod i’n siarad dirgelwch i ti, red lamps yw’r lle mae’r puteiniaid yn byw; fe wyddost beth yw’r rheini, achos mae sôn amdanyn nhw yn yr Hen Destament, a lamp goch y tu allan yw arwydd eu busnes nhw, fel y mae tair pelen yn arwydd busnes pawnbroker. Wel, mae ’na lawer o red lamps yn y dre ’ma, ond yn y Rue y mae’r rhan fwyaf. ’Chaiff yr un milwr fynd ’no’n awr; mae’r lle out of bounds, ond os byddi di eisie mynd,”—a chan ryw lededrych ar Manod, “ond cadw mhell oddi wrthyn nhw sy’n talu ore.”

Daeth yn ôl i gof Manod gyngor Owen y Cwm iddo y noson olaf cyn mynd i’r Coleg, pan oedd pawb yn hael iawn â’u cynghorion, ac yntau’n teimlo y dylasai gyfrannu rhywbeth.

“Cadw ’mhell, machgen i,” meddai mewn rhyw lais annaturiol, “rhag y cwrw a rhag cwmni drwg a merched drwg.”

“Fan ’na ar y dde y mae’r Osus,” ebe cydymaith Manod drachefn, “fe welest rai ohonyn nhw yn y lle ’na gynne. Ond dydy ni ddim yn rhyw lawer o ffrindie â nhw ’nawr; fe fu ’ma gythrel o badl yr wthnos ddwetha.”

“Beth? rhyngon ni a’r Australians?” gofynnai Manod mewn syndod.

“Ie,” ebe’r llall, “wn i ddim a yw e’n iawn dod â rhai pobol yn rhy agos at ei gilydd, a wn i ddim, weldi, beth ddaw o’r byd ’ma pan fydd hi’n hawdd mynd o un wlad i’r llall.”

“O, dod i nabod ein gilydd yn well.”

“Nid dyna fel mae hi eto, beth bynnag. Mae ’na un neu ddau wedi marw ar ôl y badl ’ma; killed on active service fydda nhw, wrth gwrs, a chystal i’w teuluoedd gredu hynny, efalle.”

“Ond beth oedd dechre’r trwbwl?”

“Wyr neb ddim yn iawn,—yr un fath â dechre’r rhyfel ’ma.”

Erbyn hyn daethai’r ddau i’w gwersyll, sef pebyll wedi eu gosod ar dipyn o godiad tir.

“B’le’r wyt ti’n cysgu?” ebe’r milwr.

Dangosodd Manod y babell iddo; nid oedd neb i mewn ond tystiai’r blancedi a phethau eraill fod yno dri thrigiannydd arall.

“O, tent Corpral John,—bachgen nobl iawn.”

“ ’Rwy’n meddwl fy mod i’n ei gofio fe,” ebe Manod.

“Y mae e a’r ddau arall ar gârd heno ar y bryn, yn gwylio’r Germans sy ’ma. Fe gei’r lle i ti dy hunan, os na leiciet ti i fi gadw cwmni i ti am dipyn.”

Derbyniodd Manod y cynnig yn llawen, a chyn iddynt ymwahanu cawsai wybod mai Morgan Richards oedd enw’i gydymaith a’i fod unwaith yn gweithio ar fferm fawr yn y Gogledd ac wedyn yn y gwaith glo yn y De. Ymrestrodd yn y fyddin, yn y Grenadier Guards, ar ddechrau’r rhyfel, “fel y bûm i fwya o ffŵl,” meddai, “ ’roedd ’na reswm am hynny, ond waeth i ti heb ei glywed heno, nag i minne fynd drosto.”

Ffurfiasid y Welsh Guards yn 1915 o filwyr fel Morgan Richards wedi eu tynnu o gatrodau eraill. Yn un o frwydrau cyntaf y gatrawd newydd clwyfasid Morgan yn ei goes, ac ar ôl hynny gadawyd iddo wneud gorchwylion ysgafn yn y gwersyll yn Le Havre. “Ond pan aiff pethe’n galed, gei di weld y byddant yn galw’r hen grocs i gyd, a Morgan Richards gyda nhw. Ond llonydd sydd eisie arna i bellach, a mynd adre os galla i.” Cyn iddo fynd i gysgu’r noson honno gwyddai Manod gryn lawer am fywyd y milwr yn Ffrainc ac yng ngwersyll Le Havre.

Drannoeth aethpwyd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi’r signallers ar gyfer y ffrynt. Deuai pob drafft ar ei ffordd o Loegr i’r lein am gwrs byr o ymarfer i Le Havre. Draw yn Lloegr yr oedd rhyw ddieithrwch ynglŷn â’r ymarferiadau hyd yn oed pan geisiai’r hyfforddwyr wneud y peth mor wirioneddol ag y gallent, fel yn yr ymarfer gyda’r fidog. Eithr yn eu gwersyll cyntaf dros y dŵr teimlai’r milwyr fel pe bai’r ymladd wedi dechrau eisoes, a thystiai’r hen filwyr y gellid clywed ar noson dawel sŵn y gynnau mawr.

Nos drannoeth pan aeth Manod i’r babell gwelai Corpral John yn eistedd yno’n hamddenol. Cawsai fynd allan o’r lein am bythefnos i ddysgu trin y Lewis gun, ac yr oedd ar ei ffordd yn ôl drachefn. Gyda’u bod yn dechrau siarad am hwn a’r llall yn y gatrawd daeth Morgan Richards i mewn gan ddweud,

“ ’Rydych chi’n siarad fel ffatri.”

“O,” meddai’r corpral, “ ’roedden ni’n nabod ein gilydd o’r blaen.”

“Wel, dyna fe, cynt cwrdd dau ddyn na dau fynydd.”

“A chofiwch chithe’ch dau,—waeth i fi’ch paratoi chi ’nawr,—eich bod i gwrdd â’r Duke of Connaught brynhawn fory.”

“Duke of Connaught?” ebe Manod.

“Ie, y mae’n dod i’n gweld ni yma fory. Fe fydd yna barêd, ac fe ddaw drwy’r camp efalle.”

“Pam na arosith y cythreulied gartre?” gofynnai Morgan yn ddig. “Y mae fel pe bai rhyw bryfed ym mherfedd y generals ’ma yn gneud iddyn nhw fynd i rywle o hyd.”

“Mae’n debyg,” ebe Manod, “mai nid eu dewis nhw yw popeth mae nhw’n wneud; mae’n rhaid iddyn hwythe gadw i fynd fel ninne.”

“Hynny yw, mae mistir ar Mistir Mostyn.”

“Yn hollol,” ebe Corpral John.

“A phwy yw’r mistir, ynte?”

“Disgyblaeth y fyddin,” ebe’r corpral eilwaith.

Ar ôl ennyd o ddistawrwydd i’r sylw hwn gad ei lawn effaith dywedodd Manod,

“Ond fe fydd pethe’n well allan yma.”

“Beth wyt ti’n feddwl wrth ‘well’?”

“Raid i ni ddim gloywi botyme a glanhau sgidie o hyd.”

“Y nefoedd a’th helpo di!”

“Mae arna i ofn,” ebe’r corpral, “os bydd yna fotyme brwnt ar eich cot chi brynhawn fory, neu flew diwrnod oed ar eich wyneb chi, os bydd rhywbeth felly, fe fydd yna gosbi drannoeth.”

“ ’Rwy’n cydweld â syniad y cyfell ifanc ’ma ynghylch y botyme,” ebe Morgan Richards. “Glanhewch y dryll by all means; dyna gyfell gore milwr yn y lein. Fe all dryll glân achub dy fywyd di; mae hwnnw beth bynnag yn talu am ei lanhau. Ond am y botyme, beth mae rheini’n ei achub?”

“Rhywbeth mwy na bywyd, efalle.”

“Rhywbeth mwy na bywyd!” Decbreuai Manod fwynhau’r drafodaeth erbyn hyn; teimlai ryw atgof o ddadleuon yr Ysgol Sul, neu gwmnïaeth ddifyr dyddiau’r coleg pan ddadleuent am bopeth dan haul.

“Ie,” meddai’r corpral gan deimlo llygaid y ddau arall arno, “rhywbeth mwy na bywyd,—hunan-barch. Fe weles i filwyr yn dod allan o’r lein yn flin ac yn fudur, yn llawn llau a llaid, ac wedi gorffwys tipyn fe ddechreuai rhywun lanhau botwm, ac wrth i hwnnw ddechrau disgleirio yr oedd fel pe bai dynoliaeth y milwr hwnnw’n ailgynnau, a’r botwm hwnnw fel y tipyn da sydd ym mhob dyn, meddir, yn rhoi cyfle i’r Ysbryd Glân gydio ynddo.”

“Diawl! fe wnait ti bregethwr da.”

“Ond nid yw regiments eraill yn gwneud hyn, medden nhw.”

“Ddim i’r un gradde; ond i’r Guards mae hyn yn rhan o’r ddisgyblaeth.”

“Hyd yn ôd,” meddai Morgan Richards, “pe bai’r botyme yn dangos i’r gelyn b’le byddwn ni. Fe wn i’n iawn i’n botyme ni wrth fynd i fyny i’r lein unwaith dynnu tân Jerry, ag fe laddwyd llawer ohonon ni.”

“Mae’n bosib gor-wneud pethe da,” meddai Corpral John.

“Ond nid glendid botwm ac esgid yw’r unig lendid,” ebe Manod, “beth am fryntni Caterham?”

“Go dda, ngwas i.”

“Ie,” ebe’r corpral, “mae’n dda gen i i chi grybwyll Caterham. Caterham wedi’r cwbwl yw sylfaen disgyblaeth y Guards. Beth oeddech chi’n ei feddwl wrth fryntni Caterham?”

“Yn gyntaf, bryntni iaith y corprals a’r sarjants.”

“A’r milwyr hefyd,” ebe’r corpral.

“O, ie,” ebe Manod, “ond cymryd eu hesiampl oddi wrth yr N.C.O.s yr oeddyn nhw. A beth am rai fel Corpral Brunt yn taro milwyr? Fe weles i hen fachgen na ddyle fod yn y fyddin o gwbwl yn cael ei daro am na fedrai symud yn ddigon cyflym, a finne’n aros yn dawel; fu dim cymaint o gwilydd arna i rioed.”

“Dyna’r bloody shame; fe deimles i’n union yr un fath â thi.”

“Wel, fe gymrwn ni Corpral Brunt. Rhaid i chi gofio fod Corpral Brunt yn gorfod cael ei sgwad mewn deuddeg wythnos i fyny â gofynion y fyddin. Rhegi? Yn amal iawn diffyg geiriau oedd yr achos am hynny. Fe wyddoch mai o gwteri Llunden y daeth Corpral Brunt, a pha ryfedd fod ei stoc eiriau fel yr oedd hi? Pan fyddai allan o’i go nid oedd ganddo unrhyw eiriau eraill i ddod allan. Oni ddwetsoch chi ‘bloody shame’ ’nawr?” meddai gan droi at Morgan Richards.

“Do, ‘dyna’r diawl ohoni’ ddylswn i ddweud.”

Chwarddodd y ddau arall.

“Ond i fynd yn ôl. Gofynnid i Corpral Brunt wneud y deg ar hugain o dan ei ofal yn rhan o beiriant y fyddin Brydeinig mewn amser neilltuol. Pa ryfedd ei fod yn colli’i dymer ambell dro? Pe na wnâi ei waith, byddai’n colli ei streips, ac yr oedd hynny yn ei feddwl o hyd. Rhan o’r peiriant oedd e, a’i amcan ac amcan y fyddin oedd eich gwneud chithe hefyd yn rhan o’r peiriant. ’Does dim lle i bob un feddwl drosto’i hun yn y fyddin. Nid y chi sy’n cyfri, ond y cynllun, y plan.”

Dechreuodd Manod adrodd,

Theirs not to make reply,

Theirs not to reason why,

Theirs but . . .”

“ ’Rydyn ni wedi mynd ymlaen cyn belled,” ebe Morgan Richards, “yn iaith dy fam.”

“O’r gore.”

“Y plan sydd i lwyddo, a’r plan yn Caterham oedd ein gneud yn filwyr da.”

“Ond nid oedd raid cael y pethe eraill.”

“Nag oedd; y mae taro milwr yn groes i’r King’s Regulations, ac fe ddyle’r swyddogion ofalu am hynny.”

“Ond anamal iawn yr oeddyn nhw o amgylch.”

“Ie, bron mor anamal â’r bl . . . —â’r caplanied.”

“Nid oedd yn deg i Corpral Brunt efalle gael yr holl awdurdod yna, oblegid mae’n rhaid cael dyn cryf iawn i ddal awdurdod felly. Rhaid i chi gofio hefyd fod Corpral Brunt yn dipyn o’r hyn a elwir yn mental case, ac ni ddylai milwyr fod o dano o gwbwl.”

“ ’Roedd Sarjant Reynolds yn troi allan filwyr cystal,” ebe Manod, “heb y bryntni.”

“Oedd bob tipyn,” ebe Morgan Richards; “yn sgwad Sarjant Reynolds yr oeddwn i.”

“A minne,” ebe Manod, “yn sgwad Corpral Brunt.”

“Ag am a wn i,” meddai Morgan Richards, gan edrych yn. graff ar Manod, “fe wnei gystal milwr â finne.”

“Felly’r un oedd amcan Corpral Brunt a Sarjant Reynolds er bod y dulliau’n wahanol. ’Rydych chi’ch dau yn ddau deip gwahanol. Fe aeth Morgan i’r fyddin o’i fodd . . .”

Dechreuodd Morgan fwmial rhywbeth.

“. . . Wel, o’ch dewis eich hun ar y pryd. Ac fe aethoch chithe,” gan droi at Manod, “fel finne, o’ch anfodd. Ond fe ellir dweud hyn amdanoch chi’ch dau,—ddaw dim meddwl am roi i fyny a rhedeg yn ôl i’r un ohonoch chi. Ac os syrthiwch chi, fe fydd y plan yn aros. Rhywbeth braf wedi’r cwbwl yw ymgolli mewn rhywbeth mawr. ’Rwyf i wedi gweld teilyngdod dwsinau o V.C.s mewn ambell frwydr, ond yr oedd pob un yn edrych ar y peth fel ei resymol wasanaeth.”

“Os marw, marw a’n hwynebe at y gelyn,” meddai Manod gan ddechrau teimlo tipyn o frwdfrydedd y corpral.

“Ie, a dwylath union rhyngot ti a’r milwr nesa,” ebe Morgan Richards.

“Ie,” ebe’r corpral, “a’ch sgidie’n lân. Ac nid dychymyg yw hyn, ond peth a welwyd, ac y mae rhai wedi cael gafael yn eu dynoliaeth a’u hunan-barch wrth weld peth felly. Mae’r fyddin wedi rhoi amcan newydd, a bywyd newydd, i rai, ac wedi mynd â’u bryd i gyd. Fe allai’r rheini ddweud amdani yng ngeiriau Williams,

‘Ti fynni’r cnawd a’r esgyrn, a’r galon yn gytûn,

Rhaid i ti gael y cyfan, neu ynteu ddim o’r dyn’.”

“Pwy ddwedodd fel ’na?”

“Pantycelyn, onte?” ebe Manod.

“Ie.”

“Wel,” meddai Morgan, “roedd e yn ei deall hi, ac yn medru’i dweud hi.”

“Mae’n bosibl,” meddai’r corpral wedyn, “i’r balchder o fod yn Guardsman eich cadw rhag iaith front, eich cadw rhag y red lamps, ac arferion ffiaidd; ond beth bynnag fydd eich hanes, pan ddaw dydd y praw, fe syrthia’r cwbwl i ffwrdd, ac ni fydd dim yn aros ond y gwaith sydd i’w wneud,—ac fe’i gwnewch.”

“Gwnawn, myn Duw!” ebe Morgan Richards yn gynhyrfus.

Clywid sŵn traed y tu allan i’r babell, ac edrychodd Morgan allan.

“Dyma’r ddau arall yn dod ’nôl,” meddai, ac yna wrthynt hwy, “What have you two been up to?

We found an old scrag and a young wench down town. We tossed up; Jock got the young un, and I had to put up with the old dame. God! some of these old birds are tough, I tell you.

XI

Ysgafn iawn oedd eu gwaith yn y gwersyll hwn; caent barêd yn awr ac yn y man, ac yn eu tro byddai’n rhaid iddynt fod yn wylwyr i’r gwersyll neu i ryw fan arall,—mynd ar gârd, y gelwid hyn. Yr oedd bod ar gârd yn orchwyl pedair awr ar hugain; byddai pob gwyliwr ar ei bost am ddwyawr, yna câi bedair awr o lonydd nes dyfod ei dro drachefn. Pan fyddent yn gwylio wrth y fynedfa i’r gwersyll ni theimlent yn unig, oherwydd yr oedd rhywun o hyd yn mynd a dod hyd yn oed yn oriau’r nos, ac yr oedd eu cyfeillion i gyd yn agos er eu bod yn cysgu. Yr oedd gwylio gwersyll y carcharorion ar ben y bryn y tu cefn i’r gwersyll yn waith mwy unig, yn enwedig yng ngwyliadwriaeth y nos: yr oedd ehangder y môr i un cyfeiriad, a phellter anhysbys y ffordd i’r ffrynt i’r cyfeiriad arall, ac uwchben y cwbl eangderau diderfyn y ffurfafen.

Pan aeth Manod ar ei bost yno’r tro cyntaf, teimlai’n ddieithr a sŵn y llygod mawr ar y dechrau yn gyrru iasau drwyddo. Yr oedd ei ddryll yn llawn, a’i fidog wedi ei sicrhau ar ei blaen. Dychmygai weld rhywun yn dyfod heibio i’r gornel, ac âi yn ei feddwl drwy’r ymadroddion priodol,

Halt! who goes there?

Beth pe bai’r rhywun yn gwrthod ateb? A ddylai danio arno? Ynteu tanio cyn gofyn? Pwy ar unrhyw waith onest a rhesymol a fyddai’n rhodio o amgylch y gwersyll yr amser hwnnw o’r nos? Yn sydyn ymsaethodd seren wib ar draws y nos gan beri i Manod edrych i fyny a chwilio am yr hen gysodau cyfarwydd yn y ffurfafen,—Orïon, a’r Llew, a’r Saith Seren Siriol. Edrychai’r lleuad mor unig ag erioed, a dechreuodd Manod adrodd llinellau Islwyn,

“Rhwng bydoedd fyrdd y nefoedd dlos,

  Mawreddau’i hymerodraeth fawr,

Tramwya eangderau’r nos

  A chwmwl ar ei gwawr.”

Y lleuad a’r sêr! Yr un lleuad a’r un sêr ag a dywynnai gartref gynt, ag a dywynnai ar ei dad a’i fam yn awr. Dechreuodd adrodd eilwaith,

“Fry yn ei gwae,

  Ar orsedd wen,

Hiraethu mae

  Am loywach nen.”

O gyfeiriad y tir deuai sŵn bygythiol, ond gwelodd cyn bo hir mai awyrlong ydoedd yn myned tua’r môr. Gan fod popeth yn dawel ym mhobman penderfynodd mai awyrlong Ffrengig ydoedd, a chyn i’w sŵn farw’n hollol yn y pellter daeth y milwr a oedd i gymryd ei le am y ddwyawr nesaf.

Pan ddaeth Manod yn ôl i’w babell un noson gwelodd fod y lle yn llawn o baciau newydd: yr oedd drafft arall wedi dod allan gan roi cyfle i ailgyfarfod â chyfeillion. Âi pethau ymlaen fel arfer, a’r ddrafft newydd yn ei thro yn ymbaratoi ar gyfer y lein, a’i chyfaddasu’i hun i fywyd y gwersyll. Yn Lloegr yr oedd landri’r gwersyll yn golchi dillad isaf y milwyr bob wythnos, ond yn awr oherwydd ansicrwydd eu symudiadau yr oedd yn rhaid iddynt olchi eu dillad eu hunain a threfnu i’w sychu fel y gallent. Yr oedd llawer yn yr hwyr wrthi â’r edau a’r nodwydd yn cyweirio sanau, yn tynhau hen fotymau, a gwnïo rhai newydd.

Teimlai Manod fod ei chwilfrydedd a’i ddiddordebau yn mynd yn llai wrth agosáu at y lein, eithr cofiai amser maith ar ôl hynny am y cerflun hwnnw o Fair Forwyn a’r Baban a welsai ar ei ffordd i’r dref, ac am y bore hwnnw pan oedd yr wybren fel pe bai ar dân wrth i’r haul godi y tu ôl i gymylau dyfngoch uwchben eglwys Harfleur. Cofiai hefyd ddarllen rhagarweiniad Bernard Shaw i’w ddrama “Androcles and the Lion,” yn enwedig yr adran ar “Grist ynteu Barabbas?”

Unwaith tua chanol nos rhuthrodd milwr ieuanc allan o babell lle’r oedd ef a Sarjant Platt yn cysgu gan weiddi fod y sarjant wedi ceisio cyflawni rhyw ffieidd-dra. Cafodd Morgan Richards afael yn y llanc; “Fe wn i am y mochyn yn iawn,” meddai, “dere i fewn yma.” Nid aeth yn ôl i’r babell arall drachefn, ac ni chlywyd rhagor am y peth.

Un peth a nodweddai wersyll Le Havre, a phob gwersyll cyffelyb, oedd y gwahanol chwedlau a fyddai ar hyd y lle. Wrth gwrs clywid sôn a siarad o bryd i bryd fod y ddrafft i fynd i fyny i’r lein drannoeth neu ail-drannoeth; clywid o fewn yr un diwrnod efallai fod y Guards yn y lein, eu bod yn gorffwys ymhell y tu ôl i’r lein, neu eu bod ar ganol brwydro ffyrnig; clywid bod rhyw wlad wedi gofyn am heddwch, a rhyw wlad arall wedi ymuno o’r newydd yn yr ymladd; clywid bod rhyw gadfridog wedi’i ladd,—a phawb yn dweud, “Too good to be true,”—bod Birmingham wedi’i dinistrio gan y gelyn o’r awyr, a Llundain yn garnedd oherwydd bod y milwyr yno wedi gwrthryfela. Gwyddent oll fod cnewyllyn o wirionedd yn un o’r sibrydion, beth bynnag, sef eu bod ar fynd i fyny i’r lein; ac ar ôl pythefnos yn Le Havre clywodd Manod yn swyddogol y byddai’n un o’r ddrafft nesaf i adael y gwersyll.

Diwrnod prysur oedd y diwrnod olaf cyn ymadael,—gwneud y paciau yn barod, cael cot ledr a dillad gaeaf eraill, cael chwech ugain o fwledi, a mynd eto o flaen y meddyg. (“Do you feel all right?” “Yes, sir.” “Very well, next”). Yn y prynhawn daeth y post â’r papur lleol; fel arfer, aeth Manod drwyddo’n fanwl o’r dechrau i’r diwedd, yn hysbysiadau a newyddion, gan lwyr anghofio oriau maith y disgwyl yng nghronicl amrywiaethol digwyddiadau’r hen sir. Ar eu ffordd i’r orsaf cawsant fod un wedi ei adael ar ôl, oherwydd methu â bodloni’r meddyg. Yr oedd gan rai reddf neilltuol i beidio â mynd ymhellach na’r gwersyll, ac er bod y lleill ar eu gorau yn eu goganu, lled-edmygent eu crefft yn cadw’u crwyn yn iach.

“Da bo ti,” meddai Morgan Richards wrth Manod pan oedd y ddrafft ar gychwyn o’r gwersyll, “fe gawn gwrdd yn Berlin.”

Yes, we’ll meet in Berlin,” gwaeddai rhai o’r Saeson yn ôl wedi deall yr ergyd yn iawn.

Wedi cyrraedd yr orsaf cawsant fod llawer o ddrafftiau eraill yno, ac wedi i’r trên ddyfod i mewn rhoddwyd hwy’n drefnus yn eu cerbydau. Cadwodd y signallers gyda’i gilydd, a chael yr un cerbyd. Wrth aros i’r trên gychwyn nid oedd ganddynt ddim i’w wneud ond bwyta, a rhwng y bisgedi a’r bully beef a’r jam a gawsent cyn cychwyn a’r gwahanol bethau i’w hyfed yn y cantîn cafodd pob un bryd da. Pan aeth hi’n dywyll aeth y signallers i’w cerbyd a chael hwyl fawr ar lawer math o chwarae fel sillebu geiriau a dyfalu gwrthrychau. Pan gychwynnodd y trên tua hanner nos yr oedd pawb yn barod i gysgu, ac yn union deg nid oedd yr un sŵn ond sŵn y trên.

Cyrhaeddwyd Rouen gyda glasiad y dydd. Yr oedd un o’r cwmni, am ei fod yn cadw dyddiadur, wedi aros ar ddihun i gael enwau’r gorsafoedd yr aethent drwyddynt, eithr cytunai’r mwyafrif fod hynny’n mynd yn rhy fanwl hyd yn oed i’r Guards. Dywedwyd wrthynt y caent dreulio’r dydd yn Rouen, ac yng nghaban y Church Army yno y bu Manod am gyfran o’r dydd, gan dybio mai hwnnw oedd y tro olaf efallai am beth amser y câi de mewn cwpan glân ac amryw ddanteithion gyda hynny. Rhyw loetran a wnaeth ar hyd y dydd a bodloni ar gip o bell ar ryfeddod yr eglwys gadeiriol. Dysgodd y pennill a gawsai ar ddrws y cantîn,

A wise old bird lived in an oak,

The more he saw the less he spoke,

The less he spoke the more he heard,—

Soldiers should imitate that old bird.

Ond yr hyn a’i trawodd fwyaf oedd cael enw a chyfeiriad milwr o Aberystwyth ar un o furiau’r gwersyll.

Pan ddaeth yn amser gadael Rouen yn yr hwyr gwelodd Manod fod pethau’n gwaethygu, oblegid wedi cyrraedd yr orsaf nid cerbydau teithwyr—er mor anghysurus oeddynt hwy—a oedd yno yn eu haros ond cerbydau anifeiliaid, a chyfarwyddiadau yn Ffrangeg ar bob cerbyd yn dweud bod yno le i wyth geffyl neu ddeugain o filwyr. Ar ôl hyn gwelodd Manod lawer o’r cerbydau hyn ar hyd a lled Ffrainc gyda’r geiriau, “Hommes 40. Chevaux (en long) 8.” Pymtheg ar hugain o filwyr a wthiwyd i’r cerbyd yr oedd Manod ynddo, a chythryblus iawn oedd cwsg y rhan fwyaf fel yr âi’r trên yn ei flaen drwy’r nos. Deuai awel lem rhwng planciau’r llawr ac ystyllod yr ochrau, a phan orfu i un o’r cwmni fynd at ochr y cerbyd rywbryd yn y nos chwythwyd ei ddŵr yn ôl i wynebau’r cysgaduriaid gan beri rhegfeydd diddiwedd.

Ar ôl iddi ddyddhau yr oedd bywyd dipyn yn ddifyrrach; mewn ambell orsaf ceid cantîn, a phan safai’r trên gellid cael dŵr poeth o’r injan i wneud tê. Âi’r trên mor araf ambell dro fel y gallai’r milwyr fynd i lawr i gerdded a bod yn sicr o’i ddal wedyn, gan wneud i Manod gofio am lawer stori a adroddid am arafwch relwe’r Cambrian. Wedi blino ar fynd i lawr dringodd dau i fyny i ben y cerbyd ond ar ôl mynd drwy ddau dynel daethant yn ôl at y lleill ar y llawr.

Er mwyn ychwanegu tipyn at gysur y cerbyd meddyliodd rhai o’r milwyr mai da o beth fyddai cael tân yno, ac ni buont yn hir cyn cael gafael ar hen dyn olew mawr. Rhoddwyd dwy fricsen oddi dano yng nghanol y cerbyd, tyllwyd ei ochrau â bidog, a chasglwyd swp lled dda o danwydd. Oherwydd bod yn rhaid gadael tipyn o ganol y cerbyd i’r lle tân yr oedd llai fyth o le i’r pymtheg milwr ar hugain, eithr yr oedd gwres y tân yn rhywfaint o iawn am aelodau crebachlyd.

Cadwyd y tân yn fyw hyd y prynhawn, ac yna, gan y tybid bod y trên yn agosáu at ben ei siwrnai, penderfynwyd cad gwared ohono. Safai dau y tu ôl i’r tân gan gydio un ymhob pen i bren hir ar fedr hyrddio’r tyn gwynias a’i gynnwys allan trwy’r drws agored y cyfle cyntaf. Fel yr oeddynt yn paratoi aeth y trên i mewn i dynel hir, a phan oedd Manod yn sylwi ar y darlun dieithr a wnâi wynebau’r milwyr pan ymgodai’r fflamau yn y tywyllwch, clywai lais yn ei ymyl,

“Pe bawn i’n dihuno ag agor fy llyged yn awr fe gredwn mod i yng nghanol uffern gyda’r diawled.”

“Yno y byddi di cyn bo hir,” meddai llais dwfn o’r tu ôl.

Yn ddisymwth daeth y trên allan o’r tynel ac agorwyd y drws. “Now for it,” meddai’r ddau a’r pren, ac allan â’r cwbl. Ni sylwasai neb nes ei bod yn rhy ddiweddar fod gorsaf fechan ar enau’r tynel a bod meistr yr orsaf yno a thri o ddynion eraill gydag ef. Wrth edrych yn ôl gwelent fod y tân wedi gwahanu y cwmni bach ar y platfform. “Vive la France! Vive la France!” gwaeddai rhai o’r milwyr arnynt, eithr yr oedd dyrnau caeëdig y gwŷr ar yr orsaf a’u holl osgo yn dangos nad dymuniadau da a ewyllysient hwy i’r milwyr a’u gwlad enedigol.

Rhywbryd yn y prynhawn daethant i ben eithaf y ffordd haearn, ac yr oedd yn rhaid cerdded oddi yno i’r gwersyll; eithr nid oedd y ffordd yn hir. Cerddent ar hyd glan afon, ac mewn un man daeth dwy wraig atynt gan weiddi, “Soldat Anglais—into river—plonk.” Llawer tro ar ôl hyn clywodd Manod wragedd Ffrainc yn defnyddio’r dull hwn o siarad, sef tipyn o Ffrangeg, tipyn o Saesneg, a thipyn o ddynwared; a hyd yn oed y tro cyntaf hwnnw gwyddai ar unwaith beth a ddywedent, sef bod un o filwyr y gwersyll, ai o fwriad ai o ddamwain, wedi syrthio i’r afon. Yr oedd milwyr eraill wedi dod i’r fan erbyn hynny, ac aeth y ddrafft ymlaen i’r pencadlys a oedd mewn tŷ fferm. Y noson honno bu’n rhaid iddynt gael lle i orffwys fel y gallent, a chafodd Manod a chyfaill le mewn hen gartws. Gwnâi gwaelod y gert wedi ei godi yn wastad wely iawn, ac er bod eroplenau’r gelyn dros y gymdogaeth a gynnau’n tanio’n ddibaid cysgodd y ddau yn fuan ac yn drwm.

Trannoeth dosbarthwyd y signallers rhwng gwahanol gwmnïau’r fataliwn, ac aeth Manod i geisio’r cwmni y gosodasid ef ynddo. O’r diwedd cafodd y cwmni mewn tŷ fferm; yr oedd y swyddogion yn y tŷ byw, a’r lleill yn y tai allan,—y rhan fwyaf ohonynt mewn hen ysgubor dyllog a’i muriau o fwd wedi ei ddwbio mewn ffrâm goed, a thipyn o wellt ar y llawr. Siom fawr iddo oedd y lle, ond gyda’i fod wedi rhoi ei bac a’i flancedi i lawr, daeth Ifan a Ned i mewn.

“Fe glywsom eich bod wedi cyrraedd,” ebe Ifan.

“Croeso i faes y gad,” ebe Ned.

“ ’Dyw’r lle yma ddim yn edrych yn rhyw groesawgar iawn,” oedd ateb Manod, gan bwyntio at yr ysgubor.

“Na, ’rwy’n credu mai’r gwenolied a’i cododd e pan nad oedd ganddyn nhw ddim arall i’w wneud.”

“Peidiwch ag insylto’r gwenolied,” ebe Ifan.

“Ond gofala di,” meddai Ned, “am blygu dy flancedi yn iawn yn y bore, a gadael popeth yn deidi, neu fe fydd yna ganlyniade tost.”

“Ond pwy all gadw dim byd yn deidi mewn lle fel hwn?” gofynnai Manod.

“Cofiwch,” meddai Ifan gan ddynwared anogaethau’r is-swyddogion, “cofiwch eich bod chi yn y Guards ’nawr.”

“Ag yn awr,” meddai Ned Beynon, “gwell i ti ddod gyda ni’n dau i ni gael dangos rhyfeddode’r ddinas i ti.”

Yr oedd y frigâd ar wasgar yn y ffermydd o amgylch pentref Serques. Yn gyntaf oll aeth y ddau â Manod i weld eu llety hwy, a phan welodd Manod hwnnw teimlai yn haws dygymod â’r hen ysgubor. Diwedd y daith, sef y cantîn, oedd yr unig le diddorol. Yr oedd yn hwyr ac yn oer pan ddaeth y tri allan, ac am ei bod hi’n oer yn yr ysgubor hefyd anesmwyth fu cwsg Manod.

Yn y bore daeth gorchymyn y byddai’r brigadïer yn dod heibio i edrych a oedd y lleytau yn lân ac yn drefnus, a rhuthrai’r is-swyddogion yma a thraw i weld bod blancedi wedi eu plygu yn ôl y rheol, a bod pob botwm a phob darn o bres a oedd yn y golwg yn disgleirio. Rhywbryd yn ystod y bore pan oedd pawb allan, daeth y brigadïer i weld yr ysgubor. Ofnai Manod drwy’r dydd fod rhywbeth o’i le ar y crugyn bach a nodai ei orweddle ef, ond ar ddiwedd y dydd cafodd mai rhywun arall a ddaethai dan gondemniad llygaid barcud y brigadïer.

Er mai “gorffwys” ar ôl bod yn y lein am wythnosau yr oedd y fataliwn yn swyddogol, âi’r ymarfer ymlaen yn union fel pe baent mewn gwersyll ym Mhrydain. Eithr sylwai Manod fod byw yn agos i faes y gad yn peri newid ym mywyd y milwyr. Yr oedd rhyw hyder a chytbwysedd yn ystum ac osgo’r milwyr cyffredin: cerddai Ifan trwy stryd y pentref fel pe bai yn Arlywydd Ffrainc. Yr oedd yr is-swyddogion yn llawer nes at y milwyr, ac ni ddibynnent gymaint ar ruo a rhegi: yr oedd y swyddogion hwythau yn nes at bawb. Diflanasai llawer o annaturioldeb ac afresymoldeb sgwâr y barics,—fel pe bai’r peirianwaith wedi ei gwbl guro i’w lun a’i ddelw heb eisiau bellach ddim ond olew i gadw’r olwynion ar gerdded.

Yn ystod y dyddiau nesaf cafodd Manod, fel newyddian ar y maes, ddigon o ymarfer. Yn gyntaf aed â gwifren deleffôn o’r ysgubor drwy wrychoedd a thros gaeau i bencadlys y fataliwn fel y gellid derbyn negeseuau a’u danfon. Eithr wedi i’r signallers feddiannu cornel o’r ysgubor cawsant fod gormod o dwrw a sŵn iddynt wneud eu gwaith yn rhwydd.

“Fe fydd mwy o sŵn na hyn yn y lein,” meddai un.

“Ond os allan o’r lein, wel, allan o’r lein,” meddai hen signaller profiadol, “ac ’rwy i’n mynd i chwilio lle arall y peth cynta yfory.”

Yn Hydref 1914, pan oedd y gelyn yn bygwth goresgyn Ffrainc i gyd gwnaethid ymguddfan yn y twmpath y tu ôl i’r ysgubor; yr oedd iddo ddwy fynedfa a lle i hanner dwsin y tu mewn iddo, ac yr oedd y coed ar yr ochrau ac uwchben wedi cadw’n dda. Yno y symudodd y signallers drannoeth gan ddwyn gyda hwy y teleffôn a’u holl gêr. Erbyn yr hwyr yr oedd ochrau’r ogof yn llawn o luniau wedi eu torri allan o gylchgronau, a hen stof wedi’i rhoi yn y canol yn siriol gan dân coed. Rhoddwyd sachau ar y ddwy fynedfa i gadw awel oer y nos allan, a’r noson honno cysgodd y pedwar trigiannydd yn gynnes, beth bynnag. Ysgrifennodd Manod lythyr i Dora yn llawn o sôn am yr ogof, gan adael i’w ddychymyg a’i eiriau redeg yn ddiwahardd nes tynnu darlun o rywbeth tebyg i westy brenin. Pan ddihunodd Manod yn y bore yr oedd dwy fadfall fawr yn gorwedd ar ei flanced, ond pan ddechreuodd ymysgwyd rhedasant i’w tyllau.

Eithr nid madfallod fu prif flinder Manod yn Ffrainc ond creaduriaid llawer llai.

“ ’Rwy’n gweld eich bod chi wedi’u cael nhw,” ebe Ifan wrth Manod un noswaith wrth ei weld yn cosi’n llechwraidd dan ei got.

“Nhw” oedd y llau, ffyddlon gymdeithion Manod a phob milwr arall allan yn Ffrainc. Clywsai Manod amdanynt, a chadwodd rhagddynt yr holl amser yr oedd yn Le Havre; eithr y noson gyntaf yn yr ogof gwybu fod y peth wedi digwydd. Yr oedd y cysgu yn yr ysgubor a’i ddillad amdano wedi gwneud y gwaith. O hynny ymlaen nid oedd dim i’w ddisgwyl ond yr ysfa farwaidd honno ddydd a nos, ysfa’r llau a heigiai wrth y cannoedd yng ngwrymiau’r dillad, dan y ceseiliau, ac ym mhob lloches o’r corff. Gellid cael dillad isaf glân i gyd, ond byddai nythfeydd ohonynt ar ôl yn y lleill; gellid mygdarthu’r dillad i’w diheintio mewn brwmstan ac olew a rhoi’r corff noethlymun dan y dŵr, ond yno y byddent drannoeth yn cosi ac yn amlhau. Gellid gweld ar ddiwrnod teg filwyr yma a thraw wedi tynnu eu cotiau a’u trowsusau a’u crysau yn hela ac yn lladd y llau yn lluoedd. Er lladd a lladd a rhoi ym mhob llythyr adref, “Anfonwch ragor o bowdwr,” âi’r frwydr ymlaen o hyd, ac yn y frwydr honno nid y milwyr a enillai’r dydd. Deuai brigadïer i ymweled â lletyau’r milwyr, a gwelai’r blancedi wedi eu plygu’n drefnus, botymau’r got fawr yn loyw, a’r tyn bwyd yn disgleirio; eithr ni welai fyddin sorth y llau yn y gwellt ac yn y blancedi. Yn ei dro deuai cadfridog i ymweled â’r milwyr; dyna lle y byddent reng ar reng ohonynt, a phob dilledyn a theclyn yn gymwys yn ei le, a’r cadfiridog a’i osgordd yn symud o reng i reng gan aros yn awr ac yn y man,—o flaen hen filwr a rhuban rhyfel De Affrica ar ei got, o flaen milwr a rhuban y D.C.M., o flaen milwr chwe throedfedd a chwe modfedd o daldra, “very smart man, fine specimen indeed,” edrych yn frysiog ar y lleill, a chanmol golwg drwsiadus y frigâd,—ac o dan bob cot y fyddin leuog wrthi’n ddyfal ddibaid yn cosi, cosi. “Tybed,” meddai Manod un tro, “a ydyw’r cadfridog ei hun . . .?” nes cofio ohono na ddylai milwr cyffredin goleddu dyfaliadau felly,—nid yn y Guards, beth bynnag.

Un noson daeth Ifan a Ned i’r ogof, ac yr oedd Manod wedi paratoi pryd o fwyd trwy ferwi Quaker Oats gyda thynnaid o laeth cadw,—y ddau wedi’u prynu yn y cantîn.

“Dyma beth yw byrgw!” ebe Ned, gan ddefnyddio gair y fyddin am uwd.

“Ie,” meddai Ifan, “bron cystal â’r uwd gartre,” gan roi ei ganmoliaeth uchaf.

Yr oedd y ddau yn wlyb ac yn flin oherwydd cerdded rhyw bum milltir mewn glaw mawr i roi cyfle i un o gadfridogion Ffrainc weld milwyr Prydain, a hwnnw, yn ôl Ifan, wedi torri’i gyhoeddiad.

“Os oedd arno fe gymaint o awydd ein gweld ni pam na ddeuai e yma?” gofynnai. “Fe gawn ni gerdded digon eto.”

“Yr oeddwn i’n meddwl,” ebe Manod, “y byddai popeth fel hyn yn darfod allan yma.”

“Dim bloody hope, ngwas i,” ebe Ned, a chan syrthio i ffregod yr hen filwyr, “ond mae nhw’n dweud mai’r deng mlynedd cynta fydd y gwaetha.”

“Ydy Ned yma wedi saethu rhywun eto?” meddai Manod gan droi at Ifan. “ ’Rych chi’n cofio fel yr oedd e’n bwgwth hwn a’r llall.”

“Mae’r rhai sydd mewn golwg gen i heb ddod allan eto,” oedd ateb Ned.

“A phan ddeuan nhw?”

“ ’Rwy’n meddwl y gadawa i i’r peth hyd ar ôl y rhyfel. Fe gân nhw’r bwledi fydd yn sbâr ar ôl setlo Jerry.”

“Ar ôl y rhyfel, ddwetsoch chi?” ebe Ifan.

“Ie, fe gei di weld y bydd yna gythrel o setlo cownts ar ôl y rhyfel. Mae rhai o’r bois ma’n dweud na fydd pethe ddim yr un fath ar ôl y rhyfel.”

“Beth ych chi’n feddwl?” ebe Manod.

“Fe fydd cyfiawnder i bob dyn, a bywyd gwerth ei fyw. Fe weli’r newid yn dechre ’nawr.”

“Mae e’n siarad fel pregethwr, ond yw e?” ebe Ifan. “Ond amdana i, fe fydda i’n fodlon os ca i fynd nôl at bethe fel yr oedden nhw.”

“ ’Rwy bron â chytuno â chi,” meddai Manod; “cael cysgu mewn gwely glân unwaith eto yn lle bod yn llawn llau a mablathod yn cerdded arnoch yn y nos.”

“Beth ych chi’n ddweud? Mablathod?”

“Ie, yr oedd dwy ar y blanced pan ddihunes i’r bore yma.”

“Wyt ti’n siŵr na chest ti ddim byd cryf cyn mynd i gysgu?”

“Dim ond Quaker Oats.”

“Fe ro i stori’r mablathod yna,” ebe Ifan, “yn y llythyr pan fydda i’n diolch am y sgarff i ddosbarth gwnïo’r capel. Ond gwell i mi beidio oherwydd fe ddarllenwyd y llythyr o’r blaen yn y capel ar ôl y bregeth nos Sul.”

“Fe fydde’n dda i’r diawled wybod mai nid picnic yw hi yma,” ebe Ned.

Oherwydd gwres y stof câi teulu’r ogof ddigon o gwmni gyda’r nos. I gadw’r tân aent allan yn eu tro i gasglu tanwydd o’r perthi ac o unrhyw fan arall, gan ofalu mynd yn ddigon pell i gadw drwgdybiaeth draw. Ar ddiwedd pythefnos cafodd pob milwr dâl o ddeg ffranc mewn dau bapur pumffranc. Aeth y rhan fwyaf ar eu hunion i’r cantîn; yr oedd Manod wedi meddwl prynu defnyddiau pryd lled dda’r noson honno oherwydd bod sôn am symud cyn bo hir. Pan gyrhaeddodd y cantîn cafodd fod popeth wedi mynd am fod y gwŷr y tu ôl i’r cownter yn brin o newid a phob cwsmer felly wedi gorfod prynu gwerth pum ffranc yn llawn neu ddim.

Pan ddaeth Manod yn ôl i’r ogof yn hwyr ac yn waglaw gwelodd un o’r cwmni wrth y stof. Aethai ef â’i ddeg ffranc i’r estaminet, sef tafarn y pentref, gan eu hyfed yno’n rhwydd; ond ar y ffordd adref yn y tywyllwch daethai i’w feddwl niwlog mai ei dro ef ydoedd i baratoi swper yn yr ogof, a thynasai feipen wrth groesi cae. Wrthi’n rhostio’r feipen yr oedd pan ddaeth Manod i mewn. Pan aethpwyd i brofi’r feipen siomedig iawn oedd pawb, eithr cafwyd blas anghyffredin ar sylwadau’r rhostiwr.

XII

Ar ben deng niwrnod daeth gorchymyn i’r frigâd symud. Y noson olaf daeth Ifan a Ned i’r ogof er mwyn tipyn o glydwch a goleuni; yr oedd y cantîn wedi symud eisoes.

“Yn wir, yr oedd gyda chi le bach twt iawn y fan yma,” meddai Ifan gan edrych o amgylch, er bod y lle yn foelach nag arfer am fod popeth wedi ei roi heibio ac eithrio cartŵn gan Bairnsfather uwchben silff y gannwyll. Y cartŵn enwog hwnnw ydoedd yn disgrifio dau filwr aflêr mewn twll a wnaed gan ynnau mawr y gelyn, a’r naill yn dweud wrth y llall, “If you know of a better ’ole, go to it.” Penderfynasai cwmni’r ogof adael hwnnw i’w holynwyr.

“Fe allai fod yn waeth,” ebe Manod. Gyda hyn daeth un o blismyn y fyddin i mewn am dro.

“Wel, fory amdani hi ’te.”

“Wyddoch chi b’le ’rŷn ni’n mynd?” gofynnai Ifan.

“ ’Ryn ni’n mynd i lawr i’r Somme,” ebe’r plisman gan roi pwyslais ar bob gair.

Wrth glywed yr enw “Somme” cofiodd Manod am yr hyn a ddarllenasai fwy na blwyddyn cyn hynny am ymladd gwaedlyd y rhanbarth honno,—yr ennill tir wrth y llath a cholli bywydau wrth y miloedd, ac yr oedd y gair fel y deuai o enau’r plisman yn awgrymu’r gors leidiog honno a lyncodd gynifer o obeithion.

“Waeth hynny na rhywle arall, mae’n debyg,” ebe Ned Beynon yn ddihidio.

Edrychodd y plisman arno yn dosturiol, ac o’r diwedd meddai,

“Y mae gen i grwtyn bach gartre,—yn deirblwydd oed.”

“Oes e wir?”

“Oes, ac os nad ych chi’n credu, dyma’i lun e, a’i fam hefyd.”

Tynnodd y plisman o’i boced ei lyfr tâl,—y llyfr hwnnw a gynhwysai fanylion am ei berchennog ynghyd â chofnodion pob tâl a gâi yn Ffrainc, ac ar y diwedd dudalen lle y gallai wneud ei ewyllys. Agorodd y llyfr yn ofalus a thynnodd y llun allan, ac edrychodd pob un arno yn ei dro. Llun dynes ieuanc hardd yn eistedd ar gadair ydoedd,—un o gadeiriau gorwych stiwdio y tynnwr lluniau,—gyda bachgen bychan ar ei harffed.

“Dyma fe,” meddai, “ac ’rŷn ni’n meddwl y byd ohono. Ond pe gwyddwn i y byddai’n rhaid iddo fe wedi tyfu i fyny fynd trwy rywbeth fel y Somme,” gan edrych yn graff ar Ned, “pe gwyddwn i hynny fe’i lladdwn e’r tro nesa’r awn i adre,—ie, fel lladd ffowlyn.”

Edrychai pawb yn anesmwyth, heb neb yn gwybod beth i’w ddweud nesaf. Edrychai’r plisman yntau fel pe bai yn disgwyl rhywun i’w wrth-ddweud, ond gan nad oedd neb am wneud hynny bodlonodd ar aralleirio cymal olaf ei fygythiad, “ie, fel torri pen ceiliog.” O’r diwedd gan deimlo ei fod wedi dod â digon o brudd-der i’r cwmni dywedodd yn sionc,

“Mae rifali am bump bore fory.”

“Well i ni fynd ’te,” meddai Ifan a Ned gyda’i gilydd.

Bore trannoeth wedi cael pethau ynghyd a chlirio’r ogof aeth Manod i’r ysgubor, lle’r oedd pawb wrthi mor brysur â morgrug yn paratoi at ymadael a gadael eu lle yn lân ar eu holau.

“Dau waith mawr sy gan filwyr Prydain,” meddai un hen filwr yng nghornel yr ysgubor, “a dyma un ohonyn nhw.”

“Beth yw e?” ebe Manod.

“Glanhau Ffrainc.”

“A’r llall?”

“A’r llall? Trechu Germany. Ond y cynta sy’n bwysig. Rhaid i ni adael y lle yma mor deidi ar ein hole, ac i beth? Fel y bydd i’r rhai a ddaw yma heno i gymryd ein lle ni ddweud, ‘Y Guards sydd wedi bod yma.’ ”

Cychwynnwyd yn union ar ôl saith, a’r bore yn dywyll a chymylog. Cariai pob milwr ei ddryll a’r holl gêr arall,—y fidog, y tyn bwyd, yr erfyn turio, y pac ar ei gefn, a’r got fawr. Cerddai’r fataliwn gyda’i gilydd, a phob un o’i phedwar cwmni yn cymryd ei dro i fod ar y blaen, a’r band wrth gwrs o flaen y rheini. Nid oedd na sirioldeb yn yr awyr na thegwch ar y meysydd, a meddyliai Manod mai gwaith undonog iawn oedd gwylio cefn y milwr o’i flaen o hyd nes bod pob tipyn o’i gêr a’i wisg ar ei gof. Trwy’r cwbl yr oedd yr esgidiau mawr yn codi a gostwng,—tyr-amp, tyr-amp,—gan ddod â chân Kipling yn fyw iawn i’w feddwl,

Boots, boots, boots,

Marching up and down again,

Boots, boots, boots.

Nid oedd dim amdani ond ceisio codi hwyl trwy ganu,—canu’r hen ganeuon a oedd yn gymeradwy bob amser,

Pack up your troubles in your old kit-bag

And smile, smile, smile.

Yna fel y trymhâi’r daith,

There’s a long, long trail a-winding

Into the land of my dreams,”

a’i dilyn gan hen faledi teimladaidd De America am yr hen gartref, a’r rhosynnau o gylch y drws, a’r hen berthnasau, am Dixie, Swanee, Tennessee, ac Alabama, a phob hyn a hyn y gân honno y credai llawer amdani mai hi oedd anthem genedlaethol Prydain,

It’s a long way to Tipperary,

It’s a long way to go.

Arhosai’r fataliwn am hoe ddeg munud o bob awr, ac ar hanner dydd câi hanner awr i fwyta’r tocyn bwyd. Tua phedwar o’r gloch cerddodd y milwyr i’r pentref a oedd i’w lletya am noson, ac wrth fynd i mewn trawodd y band ymdeithgan y gatrawd, “Codiad yr Ehedydd.”

“Cân, cân, ehedydd glân,

Nes swyno myrdd â’th seiniau mân,”

a phan glywyd y nodau cyfarwydd daeth gorchymyn i’r fataliwn, a gâi siarad a chario’i drylliau fel y mynnai ar y daith, gerdded yn rheolaidd a phob dryll ar oledd ar yr ysgwydd, a heb sŵn ond bythol dramp yr esgidiau mawr yn taro’r ddaear gyda’i gilydd. Left, right, left, right, left . . . left . . .

“Cân, cân, ehedydd glân,” ebe’r nodau, ac ar eu hadenydd daeth atgofion am awyr las ac wybren glir a chân ehedydd, ac uwchlaw popeth obaith am lety clyd i orwedd.

Nid wrth y filltir y mesurid pellter yn Ffrainc ond wrth y kilometre (neu kilo), ac er bod kilo yn llai na milltir tueddai’r milwyr i’w ystyried yn gyfartal. Ar ôl cael golwg ar ei lety, a chael cinio poeth a the a swper yn un pryd, aeth Manod i chwilio am Ifan a Ned er mwyn cael golwg ar y pentref a gwybod ei enw.

“Wyddoch chi faint gerddon ni heddi?” gofynnai Ifan.

“Na, wn i ddim,” ebe Manod.

“Ugain kilo,” meddai Ifan. “Meddyliwch am hynny,—ugain milltir,” gan wneud y trawsgyweiriad yn rhwydd, “ugain milltir,—gymaint o ffordd ag o Aberaeron i Aberystwyth.”

“Ac mae fy ysgwydde inne’n tystio,” ebe Ned, “mai gwirionedd ’rwyt ti’n ddweud.”

“Gwirionedd,” meddai Ifan, “ydyw’n wirionedd bob gair. Fe’i clywes e o enau offiser,” gan ychwanegu, i gloi bob dadl, “ac ’roedd ganddo fe fap hefyd.”

Cyn mynd i gysgu, mewn hen ysgubor fawr, cafodd pob un o’r milwyr ddogn o rum. Ni phrofasai Manod ef o’r blaen, a phan roddwyd iddo ei ddogn yng nghaead ei dyn bwyd yfodd ef ar un llwnc. Bu bron iddo â cholli ei anadl fel y rhedai’r tân i lawr trwy ei wddf ac ar hyd ei gorff. Cysgodd fel pren, a bore trannoeth oedd yr unig fore iddo fethu â chlywed y rifali.

Bore tywyll arall, a rifali am bedwar o’r gloch, a chychwyn am saith. Er mwyn ysgafnhau’r daith penderfynwyd anfon cotiau mawr y milwyr ymlaen yn y cerbydau.

“Coeliwch chi fi neu beidio,” meddai un hen filwr, “fe fydd yn bwrw fel y diawl cyn bo hir,” ac erbyn hanner dydd daeth ei ddarogan yn wir. Gan fod y cotiau mawr yn rhy bell, yr oedd yn rhaid i bob un ddefnyddio’i glogyn, a cheisio anghofio’r glaw wrth ganu amdano,

Raining, raining, raining,

Always blooming well raining—

Raining all the morning,

Raining all the night,”

ac wedyn ganu am yr hen aelwydydd,

Keep the home fires burning . . . .

Till the lads come home.

Yn y prynhawn cafwyd hwyl ar y cerddi a soniai am ferched,—Genevieve, Clementine, Mary of Argyle, Sally, Annie Laurie, a dod yn y diwedd at y ferch enwog o Armentieres. Yr oedd mynd ar y gerdd olaf yna bob amser: cyn gynted ag y clywyd y geiriau,

Mademoiselle from Armentieres,

    Parlez vous,”

agorodd pob un ei geg a’i glustiau.

Rhyw faled anweddaidd oedd y gân hon yn disgrifio troeon gyrfa rhyw lances o Armentieres, ac ymwneud milwyr Prydain â hi. Ni wyddai neb yn iawn pa faint o benillion a oedd yn y faled, oblegid ychwanegid atynt o bryd i bryd, gan hwn a hwn, a deuid â digwyddiadau eraill i mewn nes ei bod o’r diwedd mor gymysg ei threfn â’i hawduraeth. Y prynhawn hwnnw wedi mynd trwy nifer mawr o benillion daeth y canu i ben, ond dyma Tranter, y Cockney, yn canu llinell gyntaf hollol newydd, a’r lleill yn llawn chwilfrydedd yn bytheirio’r ail linell fel cytgan,

Parlez vous,”

er mwyn ei annog i fynd yn ei flaen; ac yn ei flaen yr aeth nes llunio pennill newydd. Yna canwyd y pennill i gyd gan bawb, a gwyddai Manod y byddai mynd mawr ar y pennill newydd yn y llety’r noson honno, ac y byddai cyn pen ychydig wythnosau wedi treiddio ar hyd yr holl ffrynt ac yn ôl i Brydain, a chael ei dderbyn i’r canon. Ni allai lai na chofio am yr hen ŵr, Eben Harris, yn rhoi penillion dieithr allan bob yn llinell yn y cyfarfod gweddi, a’r gynulleidfa’n eu canu ar ei ôl.

O’r diwedd daeth seiniau “Codiad yr Ehedydd” â hwy i bentref arall a llety newydd mewn hen furddyn o adeilad a thyllau yn ei do a’i ochrau, a’r ffordd iddo ar hyd planc a roesid ar draws y domen. Wedi edrych ansawdd y pentref aeth Manod yn ôl i’r adeilad llwm, a chyn pen hir daeth cawl poeth i bob milwr, ac ar ôl hynny ei ddogn rum. Am ei bod hi’n bwrw o hyd, a thyllau yn y to, cysgodd Manod fel y cerddasai drwy’r dydd,—a’i glogyn amdano. Cyn cysgu parwyd cryn anesmwythyd yn yr adeilad oherwydd bod un o’r milwyr wrth ddod dros y planc yn y tywyllwch wedi syrthio i fan tyner yn y domen, a’i gyfeillion wedi gorfod ei dynnu allan. Llanwai yr aroglau yr holl adeilad, ond gan fod y tyllau’n aml a’r gwynt yn codi glanhawyd y cyrrau pellaf yn fuan; ni châi y rhai a orweddai yn ymyl y milwr anffodus unrhyw ryddhad, eithr heb fod yn hir, yn y fan honno hyd yn oed, aeth cwsg yn drech na phopeth.

Trannoeth, oherwydd camsyniad y diwrnod cynt, penderfynwyd bod y milwyr i gario eu cotiau mawr, “ac fe gewch chi weld,” meddai’r hen filwr, “y byddwn ni yn llewys ein ays cyn hanner dydd.” Unwaith eto daeth ei ddarogan yn wir, oblegid y diwrnod hwnnw yr oedd yr haul ar hyd y daith fel pe bai ar ei orau yn ceisio profi bod ganddo ddigon o adnoddau ym mis Tachwedd, hyd yn oed. Nid oedd dim i dorri ar undonedd y daith,—dim ond meindwr eglwys yn codi o’r coed yn awr ac yn y man i gyhoeddi bod pentref wrth ei draed.

Ar derfyn y daith daethant i bentref lle yr arferai milwyr aros, ac oherwydd hynny yr oedd yno ddarpariaeth well. Mewn adeilad mawr yr oedd gwelyau wedi eu gwneud o wifren gref wedi’i phlethu’n fân; yr oeddynt mewn ffrâm bren, bob yn dri, un uwchben y llall. Cysgai Manod yn un o’r gwelyau uchaf. Yr oedd yn rhaid iddo ddringo iddo ar hyd y lleill, ac wedi ei gyrraedd camp fawr oedd ymddihatru yn y lle cyfyng a chael lle i’w bac a phopeth arall. Eithr yr oedd y gwelyau hyn yn ganwaith gwell na gwellt lleuog a llawr caled yr ysguboriau. Nid rhyfedd i’r stori fynd ar led ymhell cyn amser cysgu fod y fataliwn i aros yno am fis.

Pan ddaeth y bore cafwyd bod rhywfaint o sail i’r si y noson gynt, oherwydd nid oedd sôn am symud. Treuliwyd y bore mewn ymarferiadau ysgafn, a glanhau’r dryll a phethau eraill. Tua hanner dydd daeth dyn y papur newydd i’r gwersyll; gwnâi ryw sŵn digrif â’i chwibanogl fel arwydd ei fod wedi cyrraedd. Y “Daily Mail” a oedd ganddo,—argraffiad arbennig ar gyfer y Cyfandir ac ychydig yn llai ei faint na “Daily Mail” Llundain. Ychydig o newyddion a oedd ynddo, ond prynid ef yn gyffredinol. Nid oedd i’w gymharu mewn diddordeb â’r papur lleol a gâi Manod bob wythnos; darllenai hwnnw mor fanwl nes i bobl nis gwelsai erioed ddyfod yn gyfarwydd iawn iddo.

Yn gynnar yn y prynhawn aeth Manod a’i ddau gyfaill i bentref cyfagos i geisio prynu bara.

“Y mae sôn,” meddai Ned Beynon, “ein bod ni’n mynd i Itali.”

“Sut le yw’r Itali ’na?” gofynnai Ifan.

Itali! Un enw’n unig a ddeuai i feddwl Manod pan grybwyllid Itali,—Mazzini, y proffwyd y bu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o efrydwyr Cymru yn darllen ei genadwri, a rhywun ym mhob cenhedlaeth bron yn cael ysbrydiaeth oddi wrtho,—Mazzini a’i ddysgeidiaeth aruchel am genhadaeth cenhedloedd. “Heb wlad nid oes gennych nac enw nac arwydd na llais na braint na rhan fel brodyr yng Nghymdeithas y Bobloedd. Bastardiaid Dynoliaeth ydych. . . Fe gyfyd Gwledydd y Bobloedd . . . ar adfeilion Gwledydd Brenhinoedd . . . a rhwng y gwledydd hyn bydd cytgord a brawdgarwch,”—Mazzini a ddaethai yn unswydd i ddiolch i Gwilym Hiraethog am ddadlau dros ei wlad,—a chyfle’n awr i’r Welsh Guards fynd i ryddhau’r Eidal o afael ei gorthrymwyr. O’r diwedd cofiodd fod Ifan wedi gofyn,

“Sut le yw’r Itali ’na?”

“O,” meddai, “gwlad hafaidd, lawn o ffrwythau, a’r bobol yn yfed gwin yn lle dŵr.”

“Dyna’r bloody lle i fi,” ebe Ned.

“Yn Itali y mae Rhufain,” ebe Manod wedyn gan droi at Ifan, “lle bu’r Apostol Paul.”

“Wel, ie,” ebe Ifan, “dyna beth mawr fyddai cael cerdded lle bu’r apostol Paul. Fe rown i daw ar Sianco’r Fron yn yr Ysgol Sul wedyn.”

“Pam Sianco’r Fron?”

“Am ei fod e’n sôn am yr apostol Paul byth a hefyd fel pe bai, e’n hanner brawd iddo.”

“Ond os awn ni yno,” meddai Manod, “—os o amheuaeth, cofiwch,—mae’n debyg na welwn ni fawr o Itali ond rhyw res o fynyddoedd lle y mae’n nhw’n ymladd.”

“Am a wn i,” atebai Ifan yn fyfyriol, “na fyddai hynny yn well na’r Somme yma mae nhw’n sôn amdani.”

Ar eu ffordd aent heibio i ysgol a gwelent y plant yn chwarae

“Pwy ddaw, pwy ddaw,

  Dan bont y glaw?”

yn union fel y byddai plant yng Nghymru. Cerddasant drwy’r pentref i edrych am dŷ neu siop a’r gair “boulanger” arno, oherwydd gwyddent mai dyna’r Ffrangeg am “bobydd.” Wedi methu â chael un curasant wrth ddrws tŷ ar gwr y pentref, a daeth gwraig radlon i’r drws. Dechreuodd Manod yn ei Ffrangeg afrwydd,

Avez vous du pain, s’il vous plaît?

Yes, du pain,” ebe Ned.

“Ie,” meddai Ifan, fel pe bai ychwanegu sŵn, heb wahaniaeth am iaith, yn pwysleisio’r cais. Aeth y wraig yn ôl i’r tŷ, ac yn y man daeth allan a thorth ganddi. Wedi talu amdani arhosai’r pedwar fel pe baent yn amharod i ymwahanu ar unwaith. Yn y pellter clywid y gynnau mawr yn ergydio’n drymaidd, a chan bwyntio i’r cyfeiriad hwnnw dywedodd y wraig,

Non bon guerre.

Non,” meddai Manod, a chan droi at ei ddau ffrind, “mae hi’n dweud nad oes dim da o ryfel.”

“ ’Rwy’n deall cymaint â hynny o French fy hun, ngwas i,” ebe Ned, ac yna gan droi at y ddynes, “No bloody bon.”

No bon,” meddai Ifan.

Yna dechreuodd y wraig sôn yn huawdl am anffodion rhyfel, a thrwy gymorth yr ychydig Ffrangeg a wyddai cafodd Manod ei bod hi a’i chwaer wedi gorfod dianc o flaen y gelyn ar ôl colli eu heiddo i gyd, a bod llawer o’u perthnasau wedi eu lladd. Yn y diwedd gofynnodd iddynt ddod i’r tŷ i gael coffi, a chawsant bob un gwpanaid o goffi fel y gall pobl Ffrainc ei wneud. Ni chymerai dâl o gwbl am y coffi. Pan oeddynt ar y ffordd troesant i godi llaw fel arwydd ffarwel; yr oedd hi o hyd yn sefyll yn y drws. Yna cerddasant yn ôl i’r gwersyll, i gyfeiriad y gynnau mawr a’u sŵn fel gordd rhyw gawr yn taro’r ddaear. Trannoeth aeth y tri i edrych am bentref arall, ond gorfu iddynt ddod yn ôl yn flinedig heb gael na phentref na bara.

Synnai Manod at ddycnwch y Ffrancod yn dal at eu gorchwylion arferol o fewn sŵn y gynnau mawr a’r brwydro. Hen wŷr a merched a oedd yn gweithio ar y tir, a pheth anghyffredin iawn oedd gweled dyn ieuanc heb fod mewn gwisg milwr. Er holl wahaniaeth iaith ac arferion cytunai milwyr Prydain yn well â milwyr Ffrainc nag â’u cefndryd o Awstralia a lleoedd eraill. Nid oedd eu hymwneud â thrigolion y wlad mor hapus bob amser. Yn y gwersylloedd mawr ychydig o gyfle a gaent i ymgyfathrachu â phobl y tu allan; yn nes i’r ffrynt lle yr oedd y milwyr yn aml yn gymysg â’r trigolion yr oedd aml anghydweld. Nid bob amser y rhoddai’r milwyr yr hyn a fenthyciasid yn ôl, na thalu amdano. Edrychai rhai o’r Ffrancod ar filwyr Prydain fel eu gwaredwyr, ac edrychai eraill arnynt fel drwg i’w oddef am dymor.

Yr oedd yna wahaniaeth iaith, wrth gwrs. Cofiai Manod ac eraill rywfaint o’r Ffrangeg a ddysgasent yn yr ysgol; ymgodymai eraill â gwerslyfrau mewn Ffrangeg; ond yr oedd y rhan fwyaf yn fodlon ar wybod nifer o eiriau yn unig. Gwyddent mai “pain” oedd bara, a “vin blanc” neu “vin rouge” oedd cwrw’r wlad, “tres bon” oedd da iawn a “non bon” oedd dim da, “tout suite” oedd ar unwaith a “na poo” dim byd: yr oedd berfenw yn gwneud y tro am bob amser a pherson a modd. Dysgai’r Ffrancod Saesneg yn haws nag y dysgai’r milwyr Ffrangeg, a hyd yn oed pan na fedrent Saesneg yr oedd yn syndod fel yr ymdrechent wneud eu meddwl yn glir trwy ddefnyddio ffurfiau moel heb ofalu am gystrawen. Un noswaith adroddai Ned fel yr oedd gwraig y fferm lle yr oedd ei gwmni ef yn aros dros nos yn achwyn bod y milwyr a fuasai yno o’u blaen wedi lladrata bwced o’i ffynnon bydew.

Me donnez bucket soldat anglais—soldat departir—bucket na poo.

Un diwrnod cafodd y frigâd ymarferiad mewn ymosod, ond y cwbl a ddaeth i ran Manod oedd cerdded a cherdded a cherdded, a dod yn ôl i’r unman yn hwyr y dydd. Drannoeth daeth gorchymyn i symud eilwaith, ac ar ôl deuddydd o deithio dywedwyd nad oedd eisiau na gloywi botymau na glanhau esgidiau wedyn.

“Y peth nesa’,” meddai Ifan, “fydd fy ngweld i’n tyfu whisgers.”

Yr oedd yn amlwg erbyn hyn eu bod yn nesáu at y ffrynt; nid yn unig yr oedd sŵn y gynnau mawr yn uwch, ond yr oedd ar y pentrefi yr aent trwyddynt greithiau’r rhyfel. Gwelodd Manod un eglwys a hanner ei thŵr wedi ei saethu ymaith gan adael y gloch yn noeth ac yn fud. Yma a thraw yr oedd bwndeli o wifrau ar hyd y meysydd,—y maglau hynny a godid bob amser o flaen y ffosydd. Mewn ambell le gellid gweld y ffosydd yn glir, yn gris-groes ar draws y wlad. Cysgodd Manod a signallers eraill un noson mewn dug-out, sef un o’r tyllau dwfn hynny yn ochr y ffos.

“Leiciet ti weld rhywbeth newydd?” gofynnai Ned Beynon iddo un hwyr.

“O’r gore,” ebe Manod, “os nad yw e ’mhell.”

“Dim ond lawr yn y gwaelod ’na.”

Cerddodd y ddau am dipyn dros ddaear wedi’i thorri a’i chwalu yn yr ymladd, gan wylio ar eu traed.

“Mae ’na rai boms yn y lle ’ma heb fynd off eto,” ebe Ned. “Dere ffordd hyn.”

Aeth Ned ymlaen, a Manod yn ei ddilyn, tua phantle bychan, a rhywfaint wedi ei adael o’r clawdd a fuasai yno unwaith.

“Dyma fe i ti,” meddai Ned gan roi cic i rywbeth, “dyma i ti un o’r penne sgwâr.”

Ar unwaith sylweddolodd Manod mai corff un o filwyr y gelyn a oedd yno, yn ei wisg lwydlas. Yr oedd rhywun wedi mynd â’i esgidiau a’i gap, a gallasai rhywun feddwl yn y llwydolau mai sypyn o garpiau a oedd yno.

“ ’Does dim yn ei bocedi e. Sa’r ochor yma, waeth ma’i wynt e dipyn yn gryf. . . Pŵr dab . . . ond ’roedd e’n fab i rywun.”

XIII

Yn ystod y bythefnos nesaf yr oedd y fataliwn o hyd ar gyffiniau’r ffrynt a sŵn y gynnau mawr yn gyfeiliant i’w theithio a’i chwsg. Er na roddid sylw i lanhau botymau ac esgidiau, rhoddid sylw arbennig i bethau eraill. Dyna’r dryll, yn un; pan geid rhyw hanner awr o hamdden dechreuai pob milwr fynd at ei ddryll unwaith yn rhagor,—gweld bod y faril yn lân y tu mewn a bod y follt yn gweithio’n rhwydd, rhoi olew ar un man a glanhau tipyn ar fan arall.

“Dyna’ch cyfaill gorau yn y lein,” meddai’r swyddogion.

“Dyna’ch cyfaill gorau yn y lein,” ebe’r hen filwyr, “fe dâl y dryll am bob gofal. Fe fydd eich bywyd yn dibynnu ar y dryll ryw ddiwrnod.”

“Dyma nghyfaill gorau i,” meddai pob milwr, gan fynd dros bob rhan ohono yn fanwl, fanwl.

Deuai ofn colli’r dryll ar Manod yn aml: unwaith cadwodd hi yn ei freichiau drwy’r nos wedi iddo freuddwydio’r noson gynt fod y Germans yn ymosod, ac yntau heb ei ddryll.

“Be wnawn i,” gofynnodd i hen filwr unwaith, “be wnawn i be bawn i’n colli’r dryll yn y lein?”

“O,” meddai hwnnw’n ddidaro, “dim ond mynd â dryll rhyw ffŵl arall.”

Rhoddid sylw manwl hefyd i’r mwgwd nwy, ac i’r pecyn bach a gynhwysai’r gwahanol bethau at drin clwyf. Yr oedd pecyn arall y sonnid llawer amdano, sef yr iron rations, yn cynnwys tynnaid o gig eidion, ychydig fisgedi, a defnydd te. Cymhellid pob milwr i fod â mawr ofal am y pethau hyn rhag ofn iddo gael ei adael ar ei ben ei hun rywbryd heb fedru cael bwyd o unman arall. Nid oedd i gyffwrdd â’r iron rations ond pan fyddai wedi mynd i’r pen arno.

Teithiasant lawer yn y bythefnos,—yn y nos y rhan amlaf. Ambell waith yn y dydd deuent at bost ac ystyllen ac arni enw pentref, ond y cwbl a welid oedd pentwr o gerrig yng nghanol y chwalfa. Dro arall yn y nos aent heibio i adeiladau maluriedig, a’r milwyr bron ag ofni anadlu wrth fynd heibio iddynt rhag ofn ail-dynnu gwg y pwerau dinistriol. Yna yn yr hwyr neu ar ben bore cyrraedd gwersyll o bebyll a gorfod cysgu yn bymtheg mewn pabell efallai. Er nad oedd angen glanhau botymau ac esgidiau nid âi’r milwyr fwy na diwrnod heb siafio, a ph’le bynnag y byddai cyfle gellid eu gweld gyda’u brws mewn rhyw ychydig bach o ddŵr mewn llestr tolciog, a rhywbeth a wnâi’r tro fel drych wedi ei osod o’u blaen. Rhoddai’r rhai mwyaf hirben sylw i’w traed hefyd gan eu golchi ar ddiwedd pob taith, a newid a thrwsio hosanau. Er pob gorchmyn i’r gwrthwyneb mynnai Corpral Adams lanhau popeth bron fel pe bai yn y barics yn Llundain. Cawsai’r Military Medal yn Ypres am fynd yn ôl i’r ffos trwy dân y gelyn i edrych am glwyfedigion. Dyna’r adroddiad swyddogol; ond tystiai pawb yn y fataliwn mai wedi anghofio ei frwsus glanhau ydoedd.

Bisgedi caled a chig eidion mewn tyniau (bully beef) oedd eu prif fwyd yn awr, ond rywfodd ar derfyn pob taith llwyddai’r cogyddion gyda’u cegin symudol i baratoi rhywbeth blasus a phoeth, stiw neu de, a’i flas fel blas bwyd y duwiau. Anaml y methai’r rum â chyrraedd mewn pryd. Dywedid bod digon o rum, pan gychwynnai ar ei daith i’r lein, i roi dogn helaeth i bob milwr, ond wedi i bob un ar y daith gymryd mwy na’i ran nid oedd ond ychydig iawn i’r milwr cyffredin ar y diwedd. Cân boblogaidd oedd honno,

If the sergeant drinks your rum,

    Never mind,

He’s entitled to his tot,

But he takes the blooming lot . . .

Wedi cael y rum yfai rhai’r dogn ar unwaith, sipiai eraill ef gan ei araf fwynhau, gohiriai eraill y mwynhad a chadw’r rum i’w roi yn eu te, ond ni welodd Manod yr un yn gwrthod ei gymryd. Os byddai popeth yn hwylus caent fara,—bara gwyn bob amser yn Ffrainc,—torth rhwng wyth, neu rhwng pedwar efallai ar ôl lladdfa fawr, bryd arall, torth rhwng ugain, a phan ddigwyddai hynny codai’r floedd,

Rhagor o’r bloody prisoners ’na,”

oherwydd y carcharorion a gâi’r bai bob amser am brinder y bara.

Gwaeth na’r teithio blin a’r prinder bwyd a’r diffyg cysur oedd y gorchmynion croes i’w gilydd a ddeuai o hyd. Pan fyddai tân y gelyn yn drymach nag arfer deuai’r gorchymyn i fod ar wyliadwriaeth—“stand to” y gelwid hyn,—a phan âi’r tanio heibio caent ymlaesu,—“stand down.” Yna ar ganol eu seibiant deuai gorchymyn i fod ar wyliadwriaeth drachefn. Wedi mynd filltir i un cyfeiriad ar hyd rhyw fath o ffordd caent eu danfon ar draws gwlad i gyfeiriad arall. Wedi eu rhybuddio y byddai bysus yn barod i fynd â hwy i gyffiniau’r ffrynt gorchmynnid iddynt wneud y daith ar draed, ac wedi mynd ryw filltir neu ddwy deuai milwr â neges i ddweud bod y bysus yn aros amdanynt yn y lle y cychwynasent. Felly’n ôl i’r unfan dan ganu,

Oh, oh, it’s a lovely war,”

a newid wedyn i

I don’t want to go to the trenches no more;

      I want to go home.

Trwy’r cwbl i gyd deuai sôn am y peth hwn a’r peth arall, sôn bod rhyw fataliwn o’r Guards wedi mynd trwy’r gelyn, sôn bod y gwŷr meirch wedi mynd drwyddynt a bod y gelyn ar ffo, sôn bod Cambrai ar syrthio, ac yna ar ôl i ryw fil o garcharorion fynd heibio a’r rhan fwyaf ohonynt yn edrych yn ddigon hapus, sôn bod Cambrai wedi syrthio. Grwgnach diddiwedd, grwgnach di-daw, ac ar ddiwedd pob taith dymuno am fwyd twym, a mynd yn fanwl fanwl dros y dryll i weld bod pob rhan ohono yn lân a pharod.

Synnai Manod yn aml mor ddifater yr ydoedd ef a phawb arall wrth fyw yn ymyl y ffrynt. Os bu iddynt unwaith bryderu sut yr ymddygent yn wyneb y gelyn nid oedd arwydd o hynny yn awr,—dim ond rhyw ymbalfalu ymlaen fel pe bai rhyw dynghedfen yn eu harwain. Dyma gred rhai ohonynt,

“Os wyf i ddod drwy’r cwbwl yn iach, fe ddof; ac os yw f’enw i ar ryw fwlet, yna fe ddaw i fi.”

Cyhoeddwyd un dydd y byddai gwasanaeth crefyddol gwirfoddol a gweinyddu cymun gan gaplan yn un o gabanau’r Y.M.C.A. a oedd ar gwr y gwersyll y daethent iddo yn y bore,—y cyfle olaf cyn mynd i’r lein, meddai pawb.

“ ’Rwy’n meddwl yr af i,” ebe Ifan, “dewch chithe hefyd,” meddai gan droi at Ned.

“Na, ’dwy i ddim yn meddwl. Fel hyn mae hi, weldi: ’dwy i ddim wedi bod yn rhyw ffyddlon iawn gyda chrefydd, a ’dwy i ddim yn meddwl ei bod hi’n iawn treio gneud patners â’r Brenin Mawr ’nawr pan yw hi’n galed.”

“Ond dyna be mae E eisie,” ebe Ifan, “mynd ato pan yw hi’n galed.”

“Efalle; ’rwyt ti’n well ysgrythyrgi na fi, a ’da i ddim i ddadle, ond mae tipyn o onor yn y bachgen yma o hyd, ag ’rwy’n credu y bydd E’n deall, ag y bydde Fe’n gwneud yr un fath pe bai E yn fy lle i.”

“Pwy?”

“Y Brenin Mawr.”

“Ydych chi’n dod?” gan droi at Manod.

“Fe ddof i, waeth dyna fydde nhw gartre am i mi neud.”

“Ewch chi’ch dau, ag os daw Jerry drosodd pan fyddwch chi’n canu emyne y fi raid ymladd.”

“Fe ymladdwn ninne’n well,” ebe Ifan, “wedi canu tipyn.”

“ ’Rwy i’n gobeithio na fydd yna ddim sôn am ymladd o gwbwl yn y gwasanaeth,” ebe Manod, “ ’rwy’n cytuno ag Ifan,—eisie clywed canu emyn sy arna i.”

“Wyddoch chi beth,” meddai Ifan, wedi iddynt gychwyn, “ ’rwyf wedi bod yn meddwl yn ddiweddar tebyg i beth fydd yr ymladd yma. Fe fyddwn yn ei chanol hi’n union, ’does dim amheuaeth am hynny. Rhyw brofiad rhyfedd fydd e.”

“Rhyw brofiad rhyfedd fu’r cwbwl o’r dechre,” ebe Manod, “ac nid wyf i’n meddwl yn awr y bydd mynd dros y top yn wahanol i’r hyn yr ŷn ni wedi mynd drwyddo.”

“Hen fachgen go lew yw Ned,” ebe Ifan, “ond ’doeddwn i ddim yn leicio’r ffordd ’roedd e’n sôn am y Brenin Mawr.”

Yr oedd ychydig o filwyr yn y caban pan gyraeddasant, a daeth ychydig eraill yno o un i un. Yr oedd yn wahanol iawn i’r gwasanaethau arferol,—dim band, dim gorchmynion gerwin,—dim ond rhai’n dod o wahanol gyfeiriadau, bob yn un neu bob yn ddau. Yr oedd bwrdd ar ben blaen yr ystafell a chroes arno, a safai’r caplan wrth ochr y bwrdd. Rhoddes emyn allan i’w ganu,

Jesu, Lover of my soul,

    Let me to Thy bosom fly . . .”

A chyn gorffen y canu yr oedd cymdogaeth Achiet le Petit a’i daear lom a’i hwyneb creithiog wedi ei hanghofio’n lân. Wedi mynd drwy rai o weddïau’r Llyfr Gweddi dechreuodd y caplan ddarllen o’r Salmau,

God is our refuge and strength, a very present help . . . mewn cyfyngder.”

Fel yr âi’r caplan ymlaen meddyliai Manod am yr adnodau yn Gymraeg.

“Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr . . . Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf.” Cysegr. Cofiai am yr hen adeilad moel diaddurn gartref, heb unrhyw amrywiaeth ar ei furiau ond y map o fryniau Casia gyferbyn â’r allor ar y dde, ac ar y chwith,—yr ochr a oedd yn nannedd y tywydd,—batrymau rhyfedd wedi’u tynnu gan y lleithder yn y mur. Cofiai am yr hen flaenoriaid yn ymbil bob amser, “Bydd Di yn gysegr bychan iddynt yn y mannau lle y maent.” Y mannau lle y maent. “Y cenhedloedd a derfysgasant . . . Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd, pa anghyfanedd-dra a wnaeth Efe ar y ddaear.” Disgwyl yr anghyfanedd-dra fu’r hanes yr holl ffordd o Serques, drwy Enquinegatte, Heuchin, Saint Pol, Buneville, a Grand Rullecourt, drwy Berles au Bois a’i heglwys ddrylliedig nes dyfod yn awr i Achiet le Petit a’i thai digysgod a’i meysydd digysur. Anghyfanedd-dra. Cofiai iddo fod yn un o barti yn adrodd y Salm unwaith, adrodd bob yn adnod, ac mai’r adnod a’r gair mawr oedd ei adnod ef. Bu am ddyddiau yn gweiddi’r gair er mwyn ymarfer, rhag ofn bustachu’r adnod ar y diwrnod mawr. Yr oedd wedi ymarfer cymaint nes i’w dad-cu ddweud iddo’i hadrodd fel pregethwr, “a gwell na llawer ohonyn nhw,” ebe’r hen Siani Fach. Anghyfanedd-dra. “Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear. . . . Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; ymddiffynfa i ni yw Duw Jacob.”

Torrwyd swyn y gwasanaeth pan aeth y caplan i sôn am Cambrai, a rhoi ei esboniad ef ar ddigwyddiadau’r wythnos, gan ddweud bod pethau mawr ar ddigwydd. Eithr daeth y swyn yn ôl drachefn yng ngwasanaeth y cymun, ac fel yr âi’r ddau gyfaill tua’r gwersyll yn hamddenol,

“Mae’n dda gen i i fi fynd,” ebe Ifan.

“ ’Rwyf inne’n teimlo’n lanach.”

Wrth nesáu at y gwersyll gwelent fod cyffro mawr yno, a phopeth yn arwyddo bod y fataliwn ar fin symud eto.

Come on, you two,” meddai’r corpral, “get a bloody move on. This war’s going to be won with bayonets and not with hymn-singing.

Cyn symud casglwyd eu paciau a’u blancedi a’u cotiau mawr,—arwydd sicr bod rhywbeth mawr yn y gwynt. Yr oedd y ffyrdd yn ddrwg ac annhrefn mawr arnynt. Fel yr âi’r fataliwn ymlaen cyfarfyddent â rhesi di-dor o gerbydau, a’r ceffylau yn chwys mawr wrth dynnu’r llwythi ar hyd y ffyrdd anwastad. Ambell waith disgynnai un o belennau’r gelyn ar y ffordd gan gronni ffrwd y traffic am ennyd, ond wedi llenwi’r twll yn fuan âi popeth ymlaen fel cynt. Gwelodd Manod un o’r ceffylau’n cael ei daro gan ddarn o belen, a syrthiodd yn y tresi heb unrhyw sŵn. Yr oedd llawer o gyrff ceffylau ar ochr y ffordd, ac ar bob tu danciau diymadferth wedi syrthio i byllau neu wedi’u dinistrio gan ynnau mawr y gelyn. Gwyddai’r gelyn, gan ei fod newydd adael y lle, am bob ffordd a chroesffordd, a hwynt-hwy oedd nod y gynnau mawr. Y noson honno arhosodd y fataliwn yn un o’r ffosydd a adawsai’r gelyn ychydig ddyddiau cyn hynny. Yr oedd rhai o’r cyrff heb eu claddu o hyd, a rhyfeddai Manod at ei ddifaterwch pan faglodd ar draws un ohonynt yn y llwydnos.

Gosodwyd Manod a signallers eraill ar wyliadwriaeth wrth enau dug-out i roi rhybudd os byddai perygl oddi wrth nwy. Disgynnai’r pelennau nwy i rhyw sŵn marw, hollol wahanol i’r pelennau ffrwydro, ac os disgynnai un yn agos iawn yr oedd y gwyliwr i daro’r gloch a oedd yn ei ymyl er mwyn rhybuddio’r cysgaduriaid a rhoi cyfle iddynt roi eu mygydau am eu pennau. Tua hanner nos dechreuodd y tanciau fynd i fyny tua’r lein, gan ymlwybro’n stwrllyd wrth yr ugeiniau. Rhywbryd cyn y bore dechreuodd y gynnau o’r ddeutu â’u cyfarth diddiwedd, a phan dorrodd y wawr dechreuodd y carcharorion ddyfod heibio,—twr yn y fan yma, a thwr yn y fan draw, a phob twr yng ngofal rhyw un milwr arfog. Cerddai rhai heb fod yng ngofal neb, a phob osgo’n dangos eu bod yn awyddus myned cyn belled ag y gallent oddi wrth faes yr ymladd. Heb rybudd o gwbl dechreuodd pelennau’r gelyn ddisgyn yn nes, a disgynnodd un yng nghanol twr o garcharorion gan chwalu darnau o gyrff i’r awyr ac ar led oddi amgylch, a gwneud i’r gweddill redeg ynghynt oddi wrth eu gynnau eu hunain.

Treuliwyd y dydd i lanhau drylliau a gofalu bod popeth yn barod, ac wedi iddi dywyllu aethant i fyny tua’r lein i fod yn gefn i fataliwn arall. Cyn bo hir daethant i goedwig fechan lle’r oedd stormydd y gaeaf a chawodydd tân y gynnau wedi rhwygo’r canghennau. Gorchmynnwyd iddynt drefnu cysgod ar unwaith: yr oedd rhai mewn ffosydd bas, ond yr oedd yn rhaid i’r lleill wneud y gorau a allent gyda’r ychydig balau a’r erfyn turio a oedd gan bob un. Dygid yr erfyn hwn yn ddau ddarn,—y goes a’r pen,—coes fer o bren, a’r pen o ddur, un ochr iddo’n flaenllym fel picas, a’r ochr arall yn llydan fel caib. Ymhell o’r ffrynt glanheid coes a phen yr erfyn turio fel popeth arall, gan rwbio’r goes â phapur garw nes ei gwneud yn llathrwyn. Gwaith hawdd oedd rhoi’r goes yn y pen, ond gwaith anodd oedd gwneud twll digon dwfn i fod yn gysgod, heb sôn am wneud ffos, Eithr meistri gwaith effeithiol oedd y pelennau a ddisgynnai o bryd i bryd yn niffeithwch y goedwig, a chyn bo hir yr oedd gan bob un rywfaint o gysgod. Yna’r aros hir am y gelyn neu am y bore.

Cyn iddi oleuo daeth catrawd arall i gymryd eu lle ar ôl colli rhai o’i milwyr ar y ffordd. Wrth gerdded yn ôl gwelai Manod y sypynnau khaki yma a thraw, eithr fel pawb arall cymerai arno nad oeddynt yno; ond yr oedd yn dda cael gadael y goedwig, a da oedd y bwyd poeth pan gyraeddasant ben eu taith.

Trannoeth yr oedd popeth yn fwy distaw a digyffro; yr unig ddigwyddiad cynhyrfus oedd saethu balŵn gan un o eroplenau’r gelyn. Yr oedd hi wedi ei hanghori wrth y llawr, a basged oddi dani yrf dwyn dau sylwedydd. Pan aeth y falŵn ar dân taflwyd y ddau o’r fasged, a chan fod rhywbeth o le ar y gêr syrthiasant fel cerrig i’r ddaear. Tua’r prynhawn cafodd y milwyr eu paciau a’u blancedi a’u cotiau mawr yn ôl,—arwydd bod y fataliwn i fynd allan o’r lein am dymor; ond gyda’r hwyr gorchmynnwyd hwy i’w rhoi yn ôl drachefn a mynd allan i’r meysydd oherwydd bod y gelyn yn ymyl.

Yr oedd y ffyrdd yn llawn dan sang, a phawb a phopeth yn mynd i’r un cyfeiriad,—yn ffoi o’r ffrynt. Gwneid yr annibendod yn waeth oherwydd bod y gelyn yn tanio’n gywir ar y ffyrdd. Yr oedd Manod a’i gwmni mewn hen fragwair ar dipyn o godiad tir, a phan ddaeth gair y byddent yno drwy’r nos gwnaeth Manod dwll yn y ddaear i ffitio’i gorff, ac wedi rhoi ei glogyn amdano a thipyn o’r gwair fel gobennydd ceisiodd gysgu ac anghofio. Cofiodd ddarllen am ryw saer wedi gwneud ei arch ei hun yn barod erbyn dydd ei gladdu, ac yn cysgu ynddi bob nos, “a dyma finnau,” meddyliai, “wedi gwneud fy medd.” Ar ôl hynny yr oedd yn anos fyth gysgu,—ac anghofio.

I ychwanegu at ei anghysur cofiai am y llythyr a dderbyniasai oddi wrth Dora. Yr oedd yn amlwg y teimlai’n flin oherwydd ysgafnder ei lythyr ef o’r ogof. “Yr ydych yn mwynhau eich byd yn iawn,” meddai, “ac yn mynd ymlaen yn iawn hebom ni; fel yr ydym ninnau’n ceisio gwneud yma.”

Tua’r bore, bore Sul, daeth gorchymyn bod cwmni Manod i fynd dros y top pan dorrai’r wawr. Yr oedd y gelyn wedi torri drwy’r amddiffynfeydd, meddent, ac wedi gwthio ymlaen heibio i’r fan y cychwynasai’r ymladd. Dim ond y Guards a oedd rhyngddo â’r wlad agored y tu ôl. Dim ond y Guards. Wedi cerdded heibio i bentwr o falurion lle y buasai tref Gouzeaucourt a thrwy ffosydd maluriedig, a’u dal yn aml yn y tywyllwch gan y gwifrau dryslyd a oedd ym mhobman, daethant i ffordd isel, un o’r ffyrdd hynny a oedd yn gyffredin iawn yn Ffrainc, llawer is nag arwynebedd y wlad oddi amgylch. Tra arhosent ynddi yr oedd gystal â ffos am gysgod, eithr am hanner awr wedi chwech yr oeddynt i adael ei diddosrwydd hi a dringo i fyny a mynd ymlaen i daflu’r gelyn allan o ryw goedwig a oedd o’u blaenau. Yn y golau gwan edrychai pob milwr fod popeth yn iawn ganddo,—ei ddryll wedi ei lwytho, yr iron rations, y botel ddŵr, y dressings, a’r erfyn turio. Yn ychwanegol at hyn yr oedd gan Manod lamp fawr ar ei ysgwydd i anfon negeseuau yn ôl wedi iddynt gyrraedd y goedwig, a phâl ar ei gefn. Rhyw hanner awr annifyr oedd yr hanner awr olaf, fel y munud neu ddau olaf rhwng cyfeillion ar orsaf cyn i’r trên fynd allan.

Yr oedd y milwr nesaf at Manod wedi tynnu llun o’i boced a’i roi ar ochr y ffordd lle y gallai edrych arno,—llun geneth ieuanc. Gwyddai Manod am y milwr yma fel hen fachgen hynaws, ond ni chofiai siarad fawr ag ef o’r blaen. Yn awr dechreuodd adrodd ei holl helyntion wrtho, yn enwedig ei helynt ef a’r eneth brydferth yn y llun.

“. . . ’Roedden ni’n gariadon er yn blant . . .”

Ceisiai Manod ddyfalu am yr ymosodiad am hanner awr wedi chwech ac am ei amcan, ond ni fynnai’r meddwl hynny, a theflid pob dyfaliad yn ôl fel pêl oddi ar bared.

“. . . fe fuasem wedi priodi oni bai am y rhyfel. Yr oedd y lle yn barod . . .”

Yr oedd llawer o fynd a dod ar y ffordd,—negeseuwyr o’r cyfeiriad hwn a’r cyfeiriad arall,—eithr nid oedd a wnelont ond â’r swyddogion; yr oedd y milwyr cyffredin yn dawel yn disgwyl yr amser.

“. . . fe fûm i’n ffyddlon iddi gartre, a ffyddlon yn y fyddin. Nid am na chefais i ddigon o gyfle . . .”

Sylwodd Manod fod y swyddogion mewn dillad milwyr cyffredin. Clywsai mai’r rheswm am hyn oedd bod y gelyn yn ceisio saethu’r swyddogion yn gyntaf er mwyn peri dryswch. Edrychai’r swyddog nesaf ato ar ei watsh o hyd.

“. . . ond fe ddaeth y cythrel mewn cnawd heibio. Yn y fyddin y dylai e fod yn lle sarnu merch ddiniwed . . .”

Yr oedd rhyw gyffro a rhedeg diddiwedd ar y ffordd fel pe bai rhywbeth allan o le. Uwchben yr oedd niwl y bore yn symud yn araf ar yr awel, a disgynnai un o belennau’r gelyn yn awr ac yn y man ymhell y tu ôl.

Five minutes to go.

“. . . ei theulu hi a wnaeth y drwg . . .”

Daeth i feddwl Manod y dylai wneud rhywbeth, y dylai weddïo efallai, ond pan oedd ar fin gwneud hynny, “na,” meddai ynddo’i hun, “mae’n rhy ddiweddar i hynny.”

One minute to go.

“. . . ond fe af i â’r llun gennyf,” gan godi’r darlun a’i roi yn ofalus yn ei boced, “ac fe leicien i i Neli wybod mai gyda hi ’roedd fy meddwl i hyd y diwedd . . .”

Y dryll yn iawn, y bidog yn gadarn ar ei ben, a bom yr un yn ei ddwy boced.

“. . . ond cyn wired â bod Duw yn y nefoedd fe’i lladda i e pan af i adre . . .”

Go.

Yr oeddynt i fynd dros y top yn dair rhes, neu dair ton fel y dywedid, ac ychydig o lathenni rhwng pob rhes. Yr oedd Manod yn yr ail res. Wedi dringo allan o’r ffordd nid oedd dim i’w weld ond cefnen a niwl tew y tu hwnt iddi, ac ynddo yn rhywle yr oedd y gelyn. Symudent yn araf a’u drylliau yn eu dwylo, yn araf mewn llinell union fel pe baent ar barêd, a rhyw ddwylath rhwng pob un yn y llinell. Ymhen ychydig eiliadau daethant i ben y gefnen a daeth bwled neu ddwy o’r niwl, taniodd un o’r milwyr ar ei gyfer, ac fel ateb daeth cannoedd o fwledi yn ôl. Gwelodd Manod un o’r milwyr ar ei dde yn cwympo a chan gydio yn ei ystumog yn ei wneud ei hun yn dorch fel ci yn cysgu; yr oedd mor ddigrif fel y bu i Manod bron â chwerthin. Yna dechreuodd eraill gwympo, ond yr unig sŵn oedd si’r bwledi wrth fynd drwy’r awyr. Ambell dro trawent y ddaear gan wneud i’r pridd dasgu ac i’r milwyr dynnu i un ochr.

Keep those bloody two paces interval, and dress by your right,” ebe llais y swyddog, ond yr eiliad nesaf yr oedd yntau ar lawr a phedair llath o wagle yn ei le.

“Ryt-yt-yt-yt . . .”

Yr oedd y gynnau peiriant erbyn hyn yn llanw’r lle â’u bwledi a’u sŵn. Rhywle uwchben clywid grwnan eroplên. Âi’r rhesi ymlaen yn ddigyffro, ac er eu bod yn mynd yn deneuach o hyd yr oeddynt mor union ag yn y dechrau.

O na cheid golwg ar y gelyn!

Up, Guards, and at ’em!

Cân, cân, ehedydd glân.

Well i ti fynd ’nôl ’nawr, Bob.

Cofia fi at John Rice pan ei di’n ôl i Sebastopol.

Fe fyddant yn paratoi i fynd i’r cwrdd cyn bo hir.

Pa anghyfanedd-dra a wnaeth Efe ar y ddaear.

Yna yn ddi-boen a di-stŵr daeth tywyllwch dros bopeth.

XIV

Pan ddaeth Manod ato’i hun yr oedd mewn twll a wnaed gan un o belennau’r gynnau mawr, gyda dau filwr arall. Yr oedd y twll yn ddigon dwfn iddynt deimlo’n ddiogel oddi wrth fwledi, a dywedai un o’r ddau filwr na byddai dwy belen fyth yn disgyn yn yr un man. Yr oedd y ddau wrthi yn trin ei goes, ac wrth hynny ac nid wrth unrhyw boen y gwybu mai yno y trewsid ef.

The bullet’s gone right through,” meddai un, “you’ve got a cushy blighty one all right, that is, if we can get back.”

Dywedasant fod y cwmni wedi cael gorchymyn i gilio’n ôl i’r ffordd drachefn; ac wedi gwylio’u cyfle dechreuodd y tri ymlusgo ar y ddaear. Cyn pen hir aethant mor eon â chodi yn eu cwrcwd, ac yn y diwedd ar eu traed gan redeg yn ôl gyda Manod rhyngddynt a’i freichiau am eu gyddfau. Deuai ambell fwled wib ar draws y maes o hyd.

Yn y ffordd yr oedd hi’n wahanol iawn i’r tawelwch trwm cyn mynd dros y top. Nid oedd ond ychydig funudau er pan aethent allan, ond bu hynny’n ddigon i lenwi’r ffordd â chlwyfedigion, ac o bryd i bryd âi milwyr allan eilwaith i gyrchu’r cyrff a oedd ar led ym mhobman. Yr oedd hi’n rhy ddiweddar i wneud dim i rai ohonynt, a rhoddid hwy’n rhes o’r neilltu. Mewn dug-out yn ochr y ffordd gweithiai dau feddyg yn ddiflino. Gan na wyddai neb a ddeuai’r gelyn drosodd cedwid gwyliadwriaeth fanwl ar y darn tir a frithid gan gyrff y milwyr,—rhai’n gorwedd yn llonydd hollol, ac eraill yn gwingo yn eu harteithiau. Ar ôl bwrw golwg frysiog ar glwyf Manod gorchmynnwyd iddo ef a milwr arall a gawsai fwled drwy ei fraich fynd yn ôl i’r dressing station. Dangoswyd y ffordd iddynt, a dechreuodd Manod hercian ymlaen gan bwyso ar ei gydymaith. Ni allai lai na theimlo llygaid y milwyr arno mewn cenfigen.

“ ’Rwyt ti allan ohoni am amser, beth bynnag,” meddai’r llygaid, “rhaid i ninnau aros yma, a mynd drwy’r cwbwl eto.”

O’u blaen gwelent y tanciau yn agosáu a’r pelennau’n disgyn rhyngddynt; eithr yr oedd rhyw ysgafnder ymhlith y clwyfedigion,—yr ysgafnder a ddeuai o ganu’n iach am dymor i faes y gyflafan. Cyn bo hir cyrhaeddodd Manod y dressing station lle y chwistrellwyd rhywbeth i’w fraich i’w gadw rhag cael lock-jaw; yna aed ag ef yn syth mewn cerbyd ambiwlans i’r orsaf nesaf lle’r oedd y trên yn barod i’w lwyth o anafusion. Yn gynnar yn y prynhawn cyrhaeddwyd ysbyty mawr lle y trefnid i ba le i’w hanfon ymhellach. Yr oedd yno glwyfedigion o bob math: llawer fel Manod yn medru ymlwybran wedi cael bwled neu ddarn o belen mewn braich neu goes; siaradent hwy am eu clwyfau gydag anwyldeb, gan edrych ambell waith fel pe baent yn ofni mai breuddwyd oedd y cwbl i gyd. Daeth sôn o rywle eu bod i fynd tua’r porthladd y noson honno i gael llong i Brydain. Cyraeddasai llawer o gydnabod Manod erbyn yr hwyr, a chanddynt hwy y clywodd i’r tanciau ymosod ar y gelyn am ddeg o’r gloch a’i yrru allan o’i safle heb golli milwr.

“Ond pam ’roedd yn rhaid i ni fynd dros y top am hanner awr wedi chwech?”

“Wel, fel ’rwyf i’n deall, yr oedd y tanks i fynd dros y top gyda ni, ond gan na ddaethon nhw mewn pryd fe gawson ni fynd ein hunain. Fe wyddost am bwy bynnag sy’n rhedeg y rhyfel yma nad oes ganddyn nhw’r un syniad yn eu penne, ond pan gân’ nhw un, ’does dim posib cael hwnnw allan, a mynd dros y top am hanner awr wedi chwech oedd yn eu penne heddi, ac oherwydd hynny dros y top â ni.”

“Felly, ’doedd dim eisie lladd neb o Number 3 Company.”

“Pe bai’r rhyfel heb ddechre, ni byddai eisie lladd neb. Paid â gofidio, ’rwyt ti’n iawn; bendithia dy lwc, a phaid â chario gofid pobol eraill.”

Mewn rhan arall o babell fawr yr ysbyty yr oedd y rhai a glwyfasid yn ddifrifol a’r rhai a ddioddefai gan nwy, a’r meddygon wrth eu gwaith yn fedrus a digyffro yng nghanol y griddfan a’r ochain a’r dirdyniadau. Pan gychwynnodd y trên gyda’r nos i’r rhain y rhoddwyd y lle gan adael y lleill i gysgu fel y gallent ar lawr llwm y babell. Daeth eu tro hwythau drannoeth, ac wedi teithio drwy’r dydd daethant erbyn nos i ysbyty ymhell o’r ffrynt: yno yr oedd bwyd blasus, dillad glân, a gwelyau esmwyth. Yn ben ar y cwbl rhoddwyd ar y cerdyn uwchben gwely Manod y llythrennau H.S.D. (Hospital Ship, Deck) a olygai y byddai’n mynd yn ôl i Brydain. Ar ôl hynny melys oedd y cysgu a’r breuddwydio, a theimlai fel pe bai eisoes ar ei ffordd drwy’r caeau i Frynafon.

Ymhen tridiau daeth pennaeth yr ysbyty heibio i’r gwelyau gan edrych yn fanwl ar bob clwyfedig. Gwelodd fod clwyf Manod yn gwella’n gyflym a chroesodd allan y llythrennau dymunol, H.S.D., gan roddi’r geiriau, “further treatment” yn eu lle. Nid arhosodd ond am ychydig; efellai bod ganddo ddigon o ddychymyg i wybod gymaint siom a fu ei ymweliad i’r milwr a oedd o’i flaen.

Er i’r siom barhau yn hir dechreuodd Manod fwynhau bywyd hamddenol yr ysbyty. Gan fod y tywydd yn sych a’r clwyf yn gwella gallai gerdded i’r cantîn a oedd yn ymyl yr ysbyty ac i ben y bryn a oedd yn y cefn, a chan fod llyfrgell helaeth yno hefyd gallai ddarllen faint a fynnai. Y llyfr cyntaf a ddarllennodd yno oedd “Martin Chuzzlewit,” ac wedi darllen hwnnw mynnodd nofelau eraill Charles Dickens nis darllenasai eisoes. Yr oedd rhadlonrwydd eang a sirioldeb mwynaidd Dickens yn gweddu’n hollol i fywyd tawel a digyffro yr wythnosau hynny, a chwerthin y gŵr mawr hwnnw yn falm i’r ysbryd ysig. Ymhen tair wythnos yr oedd Manod wedi gwella’n ddigon da i adael yr ysbyty.

“ ’Rwyt ti’n ffŵl i fynd mor fuan a chlwy fel yna,” meddai un milwr wrtho ryw ddiwrnod, ac yna disgrifiodd gyda manyldra mawr sut y gellid gwneud clwyf glân yn llidiog a chignoeth, ac aros yn yr ysbyty cyhyd ag yr hoffai.

“Ond beth am y lleill yn y lein?” ebe Manod.

“Efalle y dysgi dithe, fel finne, mai edrych ar ôl dy hunan sy’n talu ore.”

O’r diwedd aeth Manod ac eraill o’r ysbyty gyda’r trên i wersyll ar gyfer rhai ar wellhad. Yr oedd yn bwrw eira yn drwm, a’r noson honno mewn pabell fechan wrth geisio cadw’n gynnes gyda dau flanced hiraethai Manod am glydwch gwely’r ysbyty. Trannoeth ar ôl aros oriau yn yr eira am y trên aethant i wersyll arall gerllaw Trouville lle yr oedd cabanau pren cysurus a bywyd llonydd a di-ffrwst. Câi pob un ryw waith ysgafn yn ôl ei allu, ac ambell waith eid â hwy i lawr i’r traeth i chwarae pêl droed neu ryw ymarfer arall.

Rhoddwyd Manod mewn caban gyda rhyw ddau ddwsin o filwyr eraill o lawer o wahanol gatrodau, gan gynnwys nifer o filwyr Canada. Oherwydd yr amrywiaeth hwn ceid siarad diddorol a dadleuon mawr yn y caban ar derfyn y dydd. O bryd i bryd deuai partïon i’r gwersyll i gadw cyngerdd yn y caban bwyd, ac er bod hwnnw’n adeilad mawr yr oedd bob amser yn orlawn pan fyddai cyngerdd ynddo. Yng nghaban y Y.M.C.A. yr oedd cymdeithas lenyddol yn cyfarfod yn rheolaidd. Ar y dechrau yr oedd y testunau yn syndod i Manod; yr oeddynt yn debycach i destunau cymdeithas yn y coleg,—testunau fel “The Scientific Aspect of Scenery,” “Micro-organic Infection and the Theories of Immunity,” “Psychical Research,” “Tennyson’s Poems,” ac un o’r milwyr a fyddai’n siarad bob tro. Ar brydiau deuai darlithwyr o Brydain allan, a phryd arall ceid milwyr o wledydd eraill i sôn am eu cartref. Pan dorrai rhywun ei gyhoeddiad byddai’n rhaid i’r goruchwyliwr lanw’r bwlch, a’i bwnc bob amser fyddai un o lyfrau ei hoff awdur, W. J. Locke.

Rhyw ddeuddydd cyn y Nadolig trefnwyd i filwyr o wahanol wledydd roi hanes treulio’r Nadolig yn eu gwlad eu hunain. Felly caed un i sôn am y Nadolig yn yr Alban, un arall am y Nadolig yn Awstralia, ac eraill am y Nadolig yn America, De Affrica, a Chanada, ac un yn sôn am Nadolig a dreuliasai yn yr Almaen cyn y rhyfel. Yng nghanol y rhain siaradodd Manod ar y Nadolig yng Nghymru, am y pylgain a’r cyfarfod pregethu a’r eisteddfod, ac oddi wrth hynny at Hedd Wyn a’i Gadair Ddu, ac oddi wrth hynny at Gymru’n genedl.

Erbyn dydd Nadolig yr oedd cwmni’r caban wedi addurno’r lle â brigau uchelfar, â phapur lliw, ac â chanhwyllau. Cawsai milwyr Canada bob un barsel Nadolig gan eu Llywodraeth; cawsai llawer o’r lleill barseli hefyd, ac yr oedd cinio da i bawb. Yn yr hwyr cynhaliwyd noson lawen yn y caban, a phob un yn cymryd rhan trwy ganu neu adrodd, dweud stori neu ddangos tric. Yn hwyr iawn daeth dau o’r milwyr yn ôl o’r dref a nifer o boteli ganddynt, a chan mai dydd Nadolig ydoedd mynnent i bawb brofi cynnwys y poteli. Yr oeddynt hwy wedi cael digon eisoes, ond dalient i yfed gyda’r lleill. Fel y gwaceid y poteli âi safon y difyrrwch yn is a’r diddordeb yn llai. O un i un troes pawb i’w wely gan adael y ddau yn cymharu ar goedd ferched Ffrainc a merched Prydain. Wedi cytuno ar y pwnc ymunodd y ddau i ganu “Mademoiselle from Armentieres,” a rhywle ar ganol y gân anniben cysgodd y ddau ganwr.

Yr oedd pwnc perthynas y rhywiau yn amlwg iawn mewn gair a gweithred. Ceid ym mhob adran o’r fyddin rai a’u holl fryd ar buteinio b’le bynnag y byddent. I eraill yr oedd bywyd iach y fyddin ac ymarferiadau corff yn ddigon i yrru i ffwrdd bob awydd am ferched. Yr oedd gan eraill wraig neu gariad gartref a’r cof amdani yn ddigon i’w cadw’n ffyddlon; eithr ambell waith âi un o’r rhai hyn i wely’r butain gyda’r esgus,

“ ’Rwy’n teimlo’n llawer gwell wedi bod, ac ni ddaw hi byth i wybod.”

Yr oedd bob amser yn y trefi mawr ac yn agos i wersylloedd nifer o buteiniaid wrth eu swydd yn barod i gyflenwi’r galw am bris y farchnad. Ar adeg y rhyfel yr oedd merched eraill a hoffai gael eu gweld yn cerdded gyda sowldiwr ac yn y pen draw yn cael eu llithio i ymgyfathrachu. O bryd i bryd datblygai cariad gwir rhwng milwr a merch, ac ambell waith pan gofiai ef a hithau mor ansicr oedd bywyd, a maes y gad mor agos, rhoddai hi ei chorff iddo o lwyrfryd calon heb feddwl am na thâl na chanlyniadau. Clywid sôn am filwr ymhell oddi wrth ei wraig yn ymgyfathrachu â gwraig yr oedd ei gŵr i ffwrdd gan gronni helbul ar gyfer y dyfodol. Yn Ffrainc nid oedd fawr o gyfle i’r milwr cyffredin i ymgyfathrachu ond â’r puteiniaid. Pan âi Manod o’r gwersyll i lawr i’r dref cyfarfyddid ag ef ar y ffordd gan blant bach gyda’r cyfarchiad, “Tommy, my sister jig-a-jig, two francs; me take you to my sister.”

Un hwyr yn y dref gwelodd gwt hir o filwyr y tu allan i adeilad, a chan fod dau o’i gaban ef ar ben olaf y gwt ymunodd â hwy gan feddwl mai cyngerdd a oedd yno.

There’s a good crowd tonight,” ebe un ohonynt.

Yes,” meddai Manod, “what’s it going to be like?

They say the fair one is too tame, but the dark one is a bloody beauty; I’m paying my five francs for her.

Yn sydyn fflachiodd i feddwl Manod mai y tu allan i buteindy yr ydoedd a bod y milwyr i gyd yn aros eu tro i gael ychydig funudau—am bum ffranc—gydag un o ddwy butain a gedwid yn y tŷ hwnnw, a cheisio cael tipyn o bleser o’r cyrff a wnaed yn swrth gan syrffed. Gadawodd y gwt ar unwaith, ac yn hwyrach y nos honno yn y caban gwelodd y milwr y buasai yn siarad ag ef yn y gwt,—un o filwyr Canada, heb weld ei wraig ers dwy flynedd.

I feel better for it, and she’ll never know.

Ambell dro deuai rhyw ddarlithydd neu feddyg i siarad—a siarad yn dda a phlaen—ar destunau fel “The Ennobling Side of Sex Relationship,” ond yr oedd cartref ymhell a chwe mis neu flwyddyn neu ddwy neu dair yn amser hir i aros, a gwahoddiadau cyson i dorri’r chwant am bum ffranc ym mhuteindy’r dref gyda’r dark beauty neu am hanner y pris yn y strydoedd cefn gyda chwaer y plant bach.

Ymhlith y dadleuon a geid yn y caban y mwyaf brwd oedd dadleuon ar grefydd a diwinyddiaeth, a chan fod yno gynrychiolwyr o lawer o enwadau a chrefyddau, heb sôn am rai heb gysylltiad o gwbl â chrefydd swyddogol, gadewid pob dadl yn benagored iawn. Ceisiwyd cael y caplan i’r caban ryw noswaith i ateb dadleuon, ac er i bob un aros i mewn y noson honno i gymryd rhan yn y drafodaeth neu i wrando, aeth rhywbeth o le ac ni ddaeth y gwahoddedig. Yr oedd iaith y rhai a arhosodd yn y caban i glywed y ddadl yn lle mynd i’r cantîn neu i lawr i’r dref yn finiog iawn, a gorffennwyd y noson mewn naws dra anghrefyddol. Y noson ganlynol oedd noson olaf yr hen flwyddyn, ond nid aeth Manod i’r gwasanaeth crefyddol i groesawu’r flwyddyn newydd. Troes i’w wely’n gynnar, eithr deffrowyd ef ar hanner nos gan glychau eglwysi’r dref a chroch utganu llongau’r porthladd.

Yn gynnar yn y flwyddyn newydd penderfynwyd cael cystadleuaeth am baffio yn y gwersyll. Yr oedd nifer o baffwyr enwog ymysg yr hyfforddwyr, a hwynt-hwy a gychwynnodd y peth. Gan fod y gwersyll wedi ei rannu yn gwmnïau pwysid ar bob cwmni i gael cynifer ag a allai o gystadleuwyr oherwydd deuai hynny â marciau i’r cwmni. Yr oedd cystadlu mewn amryw o ddosbarthiadau, o’r dosbarth ysgafn i’r dosbarth trwm. Ymhob dosbarth yr oedd cyfres ar ôl cyfres: âi buddugwyr y gyfres gyntaf i ymladd â’i gilydd yn yr ail gyfres, a buddugwyr honno i’r drydedd, nes bod yn y diwedd ddau ar ôl, a’r buddugwr yn yr ornest derfynol honno fyddai campwr y gwersyll.

Nodwedd fwyaf diddorol y cystadlu oedd y cydymgais rhwng y cwmnïau: os gorchfygid cystadleuydd yn y gyfres gyntaf, câi un marc i’r cwmni; os byddai’n fuddugol câi ddau farc a mynd i’r gyfres nesaf. Pan ddaeth sergeant major cwmni Manod i’r caban un dydd i ofyn am enwau ychydig a atebodd ei apêl. Gwnaeth y rhan fwyaf ryw hen glwyf neu hen anhwyldeb yn esgus cyfleus, ac yn y diwedd dim ond dau a roddes eu henwau,—Blayney, broliwr mawr o’r De, a Manod,—y naill er mwyn gwneud argraff ar deulu’r caban, a’r llall oherwydd methu â gwrthsefyll taer erfyniad y sergeant major am gynnal enw da’r cwmni.

Ni wyddai Manod lawer am wyddor paffio, ac ni ddefnyddiasai ei ddyrnau er ymladd afrosgo dyddiau ysgol. Gwyddai Blayney, a barnu oddi wrth ei siarad, bopeth am y grefft, ac yr oedd wedi siarad neu yfed gyda phob paffiwr o bwys. Cymerth at ddysgu rhai o driciau elfennol y grefft i Manod rhag iddo ddwyn anfri ar y caban a’r cwmni, a chyhoeddai hynny i bawb. Yr oedd y milwyr eraill hefyd, er iddynt wrthod rhoi eu henwau, yn barod iawn â’u cynghorion. Un dydd aeth Manod i gael ei bwyso er mwyn penderfynu ei ddosbarth, a chan ei bod hi’n oer a llawer o ddillad amdano daeth allan yn rhwydd yn y dosbarth trwm.

Dechreuai’r cystadlu ddydd Llun gyda’r dosbarth ysgafn ysgafn, ond dywedwyd wrth Manod na byddai ei eisiau hyd ddydd Gwener. Eithr methodd ag aros i ffwrdd yn hir, ac ar brynhawn dydd Mawrth aeth i gael gweld beth a oedd yn digwydd. Cynhelid y gystadleuaeth yn y neuadd fwyta. Yr oedd yno ddigon o le i gannoedd, ac yr oedd y lle yn llawn a phob un yn gweiddi nerth ei ben. Eithr yr hyn a dynnai sylw Manod oedd y llwyfan sgwâr yn y canol a’r rhaffau praff o’i amgylch. Yno yr oedd dau lencyn noethlymun bron wrthi yn dyrnu ei gilydd am y gorau. Gwyliai Manod hwy yn astud, ond chwifient eu breichiau mor gyflym a gwibiai’r dyrnau mor ddirybudd nes iddo fethu â dilyn eu symudiadau; ac yr oedd y ddau wedi ymgolli gymaint fel na chlywsant y gloch a ddynodai fod yr amser ar ben.

Yn yr ymladdfa nesaf yr oedd dyn du yn erbyn dyn gwyn, ond yn fuan iawn yr oedd wyneb y gwyn wedi troi yn goch gan waed o’i drwyn a’i enau. Dywedodd milwr a oedd yn ymyl Manod fod taro dyn du ar ei gorff neu ei ben yr un fath â tharo carreg, ac mai’r unig ffordd i’w drechu oedd sathru ar ei draed a gwneud iddo weiddi am bardwn. Trewid ambell un nes iddo syrthio yn anymwybodol, ac os methai â chodi cyn i’r beirniad gyfrif deg, dyna ddiwedd ar yr ymladdfa honno. Aeth Manod allan gan ddymuno o waelod ei galon na ddeuai ffawd ag ef wyneb yn wyneb â dyn du, a lledofidiai iddo fod mor fyrbwyll â rhoi ei enw o gwbl.

Caffai fod yn rhydd o bob gwaith yn ystod yr wythnos eithr nid oedd hwyl ar ddarllen na phleser mewn hamddenu, a theimlai ryw ryddhad pan rybuddiwyd ef i fod yn barod yn ei le brynhawn Sadwrn. Oni ddigwyddai rhywbeth yr oedd pob ymladdfa yn dair rownd o ddau funud yr un, a munud rhwng pob rownd. Gofelid bob tro fod y ddau baffiwr o wahanol gwmnïau, a chyhoeddid eu henwau ac enw’r cwmni. Wedi i Manod ymddihatru o bopeth ond ei ddrôns a’i sanau dywedwyd wrtho pwy oedd ei wrthwynebydd, a gofynnwyd iddynt ill dau eistedd wrth y llwyfan i aros eu tro.

Dyn canol oed oedd y llall, ychydig yn fyrrach na Manod, ond yn wydn iawn. Dechreuodd y ddau siarad am eu cartrefi a’u teuluoedd gan anghofio’r ymladd a oedd yn mynd ymlaen yn eu hymyl. Dyn o Wlad yr Haf ydoedd, a’i enw Stretton, a’i fam-gu yn Gymraes, meddai ef; yr oedd yn briod a chanddo dri o blant, a Janet yr hogen deirblwydd, yr ieuaf o’r teulu, yng nghanol y frech goch. Aeth y rhan fwyaf o ymladdfeydd y prynhawn i’w llawn hyd, ac felly ni ddaeth tro Manod, ond rhybuddiwyd ef i fod yno eilwaith brynhawn Llun.

Pan ddaeth prynhawn dydd Llun cafodd Manod afael yn Stretton ar unwaith a gofyn iddo sut yr oedd y ferch fach. Yr oedd llythyr wedi dod y bore hwnnw i ddweud ei bod yn waeth, ond cyn cael manylion pellach dywedwyd wrthynt mai hwy a oedd i ymladd gyntaf. Aeth Manod i fyny i’r llwyfan gan eistedd ar stôl, a’i gefn ar y post cornel. Ychydig o’r llwyfan yr oedd cadair uchel lle yr eisteddai’r prif feirniad, ac ar ddwy gadair un o bob tu i’r llwyfan eisteddai dau feirniad arall. Wrth ymyl Manod yr oedd dau gefnogydd gyda thywel a dwfr ac eli, ac wrth rwymo’r menig mawr clustogog am ei ddwylo arllwysent i’w glustiau gynghorion ac anogaethau yn un ffrwd. Eithr yr oedd golwg a meddwl Manod ar y cornel gyferbyn lle’r oedd Stretton yn mynd drwy’r un peth a chael ohono yntau ei gynghori gan ei gefnogwyr ef.

Rhoddwyd gwregys gwyrdd i Manod a gwregys coch i’r llall, ac yna cyhoeddwyd eu henwan a’u cwmnïau gan oruchwyliwr y llwyfan. O’r diwedd canodd y gloch fel arwydd i’r cefnogwyr fynd y tu allan i’r rhaffau; yna ail gloch fel arwydd bod y rownd i ddechrau. Cipiwyd stôl Manod oddi dano a gwthiwyd ef i ganol y llwyfan lle’r oedd y ddau i ysgwyd llaw cyn dechrau. Ar ôl cyffwrdd menig yn ôl y ddefod dechreuodd y ddau gwffio. Gallai llygad cyfarwydd weld nad oedd gan yr un o’r ddau lawer o stremp ar ymladd; ac yr oedd effaith pob dyrnod yn llawer llai na’r bwriad. Digwyddodd un neu ddau o bethau lletchwith a barodd hwyl fawr i’r gynulleidfa, a phan ddaeth y rownd ffwdanus i ben cawsant gymeradwyaeth fawr.

Yn ystod y munud nesaf, a Manod yn eistedd ar ei stôl, chwifiai un o’i gefnogwyr dywel yn egniol o’i flaen i roi gwynt iddo. Rhoddodd y llall botel ddwfr wrth ei enau gan ddweud wrtho am beidio â llyncu’r dwfr ond ei boeri’n ôl i lestr arall. Yna dechreuodd rwbio’i frest ac arllwys cynghorion fel o’r blaen, ond teimlai Manod ei bod yn rhy hwyr erbyn hyn i ofyn ystyr y termau a ddefnyddiai. Edrychodd ar y daflen fawr ar fur yr adeilad a ddangosai sut y safai’r gwahanol gwmnïau, a gwelai’r ysgrifen am ei gwmni ef, “T Coy., 19 points.”

Seconds out of the ring.

Daeth y munud i ben, a chanodd y gloch am yr ail rownd.

Yr oedd y gynulleidfa yn barod i fwynhau tipyn o drwstaneiddiwch yn y rownd gyntaf, ond galwent yn groch am i’r ddau fynd ati a gwneud rhywbeth yn yr ail.

Go on, Taffy,” gwaeddai un o gwmni T ar Manod, “knock hell out of him.”

Teimlai Manod fod y bloeddio fel mur caled a didostur o’i ddeutu, a’r munud nesaf teimlai fod rhywfaint o nwyd anwar y dorf wedi mynd i’w waed yntau. Aeth at Stretton a’i daro’n syth ar ei drwyn gan beri i’w waed redeg ar hyd ei wyneb. Janet fach yn y frech goch, yn y frech goch; gwaed, gwaed, gwaed. Rhuai’r dorf o’u hamgylch yn fwy wedi gweld y gwaed a gwaeddent am ragor. Eithr nid y gwaed a welai Manod ond geneth fach yng nghanol y dwymyn, a gollyngodd ei freichiau i lawr. Dim ond am eiliad, ond rhuthrodd Stretton arno gan ei daro â’i holl rym ar asgwrn ei ên. Gwelodd Manod fod Stretton a’r beirniaid a’r dorf a’r neuadd yn dechrau troi a throi a chwyrnellu fel rhyw rod wallgof, ac yna collodd olwg a gafael ar bopeth.

Pan ddaeth ato’i hun gwelodd Stretton yn eistedd ar ei stôl ac un o’i gefnogwyr yn sychu ei wyneb ag ysbwng; aeth ato gan ddal ei ddwylo allan; estynnodd Stretton ei ddwy law yntau, a’r dorf yn taranu’i chymeradwyaeth. Cyn mynd o’r llwyfan edrychodd Manod ar y daflen.

T Coy., 20 points.

Y noson honno yn y caban dathlwyd yr amgylchiad fel pe buasai’n fuddugoliaeth, yn enwedig am fod Blayney wedi colli, a methu ag ennill un marc i’r cwmni, oherwydd i’r beirniaid benderfynu nad oedd wedi gwneud ei orau.

Yr ochr arall i’r bae o Trouville yr oedd Le Havre, pen y llinyn a arweiniai i’r ffrynt, ac un dydd cyhoeddwyd bod Manod yn ddigon da i fynd i faes y gad unwaith eto. Wedi taith awr yn y cwch, daeth i dir, ac yn union deg i’r gwersyll.

“Ar f’ened i,” ebe Morgan Richards, “dyma’r gwron yn ôl am y second round.”

Wrth gofio’i helynt yn y gystadleuaeth baffio a’r hyn a ddigwyddasai yno tybiai Manod y gallai ei hen ffrind fod wedi dewis cymhariaeth lai tramgwyddus na’r second round.

XV

Pythefnos hawdd oedd y bythefnos nesaf yn Le Havre. Ychydig o filwyr a oedd yno oherwydd bod galw mawr am filwyr yn y ffrynt, ac nid oedd yr un ddrafft ar ei ffordd ar hynny o bryd. Ysgafn hefyd oedd gwaith Manod ar ôl iddo gael popeth at ei gilydd unwaith yn rhagor, yn ddillad a gêr a dryll,—dim ond bod yn un o wyliadwriaid y gwersyll yn ei dro, neu gymryd ei dro ynglŷn â gwaith y gwersyll. Câi ddigon o amser i ddarllen ac ysgrifennu llythyrau a siarad â hwn a’r llall. Yn y cantîn ryw fin nos gwelai Manod fod Morgan Richards yn eistedd wrth fwrdd bychan gyda sarjant o’r R.A.M.C., a dau lasaid o’u blaen, a phan amneidiodd Morgan arno aeth atynt a’i gwpanaid te ac eistedd wrth y bwrdd.

“Sarjant Evans o ymyl Aberystwyth,” ebe Morgan Richards, ac yn union deg yr oedd Manod a’r sarjant wedi brasgamu dros hanes a helyntion gogledd y sir nes gwneud i’r llall deimlo fel dieithryn. Er mwyn dod â’r siarad yn ôl i’w gylch ef gofynnodd Morgan i Manod,

“Oeddet ti’n nabod y bachgen ’na gafodd y Military Medal?”

“Beth oedd ei enw e?”

“Beynon, Ned Beynon; Number 2 Company.”

“Ned Beynon!” ebe Manod. “ ’Rwy’n ei nabod e’n ddigon da. Fe ddaethon ni i Caterham gyda’n gilydd.”

“Wel, dyna’r boi. Ag fe’i henillodd hi hefyd. Nid dod i fyny gyda’r rations a wnaeth ei fedal e.”

“Fe alla i gredu hynny’n rhwydd. Am beth y cafodd e hi?”

“Wel, ’roedd un o fachine guns Jerry yn peri trwbwl i ni, ond fe aeth Ned ymlaen, a rhwng boms a bayonet fe laddodd bump o Jerries ag fe ddistawodd y gwn. Dyna beth yw ennill medal yn iawn.”

“ ’Rwy’n credu y dylid gneud i ffwrdd â’r medalau yna i gyd,” meddai Sarjant Evans, gan weled ei gyfle i ddod i mewn i’r drafodaeth.

“ ’Rwy’n hollol o’r un farn,” ebe Manod, “waeth mae pobun yn gneud yr hyn a ofynnir iddo, ac felly ’does dim rhagor rhwng un a’r llall.”

“Ond,” meddai Morgan, “mae rhai yn gneud mwy na’r hyn a ofynnir, a dyna b’le mae’r medalau’n dod i mewn. ’Rwyt ti, er enghraifft, yn siŵr o wneud yr hyn a ofynnir i ti, ond fe wna bom neu ddryll hynny, a ’does neb yn meddwl am roi medalau iddyn nhw.”

“Mae ’na rai,” ebe’r sarjant, “dipyn o bellter o’r ffrynt yn llawn rhubanau a medalau, heb fedru cydio mewn dryll yn iawn, ond yn medru saliwto yn dda anghyffredin.”

“Dyna’r medalau sy’n dod i fyny gyda’r rations,” ebe Morgan, “ag fel y mae’r rum yn mynd yn llai wrth agosáu at y lein, felly’n union y mae’r medalau hynny. Ond medal arbennig oedd hon i Beynon. A pheth arall,” meddai gan droi at y sarjant fel un wedi gweld gwirionedd mawr, “ ’dyw’r ffaith fod rhai yn cael medalau heb eu haeddu ddim yn profi nad oes eraill yn eu haeddu.”

“Dim o gwbwl,” ebe’r sarjant, “ond pwy sydd i fesur gwroldeb? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Military Medal a Victoria Cross?”

“A pheth,” meddai Manod, “yw gwroldeb?”

“Wel dyna gwestiwn cystal â chwestiwn Peilat,” meddai’r sarjant.

“Ond ’rwy i, beth bynnag, yn aros am ateb.”

“Dewrder,” meddai Morgan Richards yn bwysleisiol fel un yn ateb ar ddiwrnod holi’r pwnc, ac yn llithro’n naturiol i arddull yr amgylchiad, “dewrder yw wynebu perygl yn ddiofn.”

Arhosodd y tri am ennyd uwchben y diffiniad cyn profi o gynnwys y gwydrau a’r cwpan.

“Mae ’na rywbeth mwy na hynny,” ebe Manod, “fe alla i siarad am hynny, oblegid ’rwy i wedi bod dros y top.”

“Ac nid ti yw’r unig un.”

“Nage, wrth gwrs; ond dweud ’rwy i nad oeddwn i’n teimlo yn ddewr o gwbwl wrth fynd dros y top,—dim ond mynd fel rhan o’r gwaith; ag ’roedd digon o berygl yno. Ond ’doeddwn i’n meddwl dim y gallwn i gael fy lladd,—dim o gwbwl,—dim ond meddwl am y lleill. Onid dyna’ch profiad chi?”

“Wel, ie,” ebe Morgan Richards, “ond effaith y training oedd hynny. Dyna pam y dywed pawb wrthych fod conscripts yn ymladd cystal â’r lleill.”

“Yn hollol, gall training roi ymddangosiad o ddewrder, ond rhaid fod yna rywbeth mwy.”

“Rhywbeth moesol,” ebe’r sarjant.

“ ’Rwy’n meddwl fy mod i’n cofio Ned Beynon yn mynd trwy’r lle ’ma. Tharodd e ddim ohono i fel rhyw gymeriad moesol iawn. Synnwn i ddim nad oedd e’n dipyn o fwser neu hwrgi.”

“Y ddau, mae arna’i ofn,—ond wedi’i eni’n ddewr.”

“Dyna fe,” meddai’r sarjant, “mae rhai wedi’u geni’n ddewr, ac eraill fel arall: ’does gan yr un o’r ddau ddim dewis.”

“Ac felly,” meddai Manod, “ddim credit.”

“Na, ddim mewn gwirionedd. Ond nid wynebu perygl yw’r unig beth sy’n gofyn dewrder,—beth am wynebu gwawd?” gofynnai’r sarjant. “ ’Rwy i yn yr R.A.M.C. am fy mod i’n wrthwynebydd cydwybodol. Ond coeliwch chi fi, yr oedd hi’n fwy anodd mynd o flaen y treibiwnal gartre na mynd allan yn y ffrynt i drin clwyfedigion o dan dân y gelyn. Beth yw dewrder y rhan fwyaf ohonom? Cywilydd arddel ein bod yn llwfr. Amdanaf i, fûm i erioed ag ofn arna i yn y lein.”

“Ond nid yw hynny’n wir am bawb,” ebe Manod.

“O, nag yw. Dipyn cyn i fi ddod i lawr fe saethwyd crwt ifanc am ddianc allan o’r lein. Yr oedd ei nerves wedi mynd yn rhacs, ag fe redodd yn ôl. Fe fu treial arno, ond ei saethu gafodd e yn y diwedd. Ond fe fu farw mor ddewr ag y gallai unrhyw un.”

“Trueni o beth yw saethu rhai felly.”

“ ’Does dim i’w wneud â dolen wan,” meddai Morgan Richards, “ond ei thaflu hi i ffwrdd. ’Roedd e’n peryglu bywyd ei gyfeillion.”

“A beth am gapten neu general yn peryglu miloedd o fywydau?”

“A pheth arall,” meddai’r sarjant, “ ’dyw’r bachgen sy’n cael ffit o ofn yn y lein ddim hanner cynddrwg â’r rhai sy’n llercian tua Le Havre neu’n ôl yn Lloegr, yn lle mynd i’r ffrynt.”

Edrychodd Morgan Richards yn anesmwyth, ac er iddo benderfynu nad ato ef yr oedd yr ergyd ceisiodd ddod â’r ddadl yn ôl a chodi’i ysbryd yr un pryd drwy adrodd yr hen arwyddair,

The Guards never retreat.

“Mae hynny’n wir,” ebe’r sarjant, “pan weles i’r Guards yn mynd i fyny tua Cambrai fe fu’n agos i fi grio fel babi. Pethau fel hynny sydd wedi gneud i bobol feddwl mai rhyfel sy’n odidog. Ond wedi meddwl, mae ’na ddewrder mwy,—wynebu caledi a dioddef yn ddirwgnach.”

“Ac fe all hynny ddigwydd yn amser heddwch,” ebe Manod.

“Gall, yn amser heddwch.”

“Neu gartre yn amser rhyfel.”

Ar ôl i’r geiriau ddod allan y sylweddolodd Manod beth a ddywedasai.

“Mae gyda chi fam?” ebe’r sarjant.

“Oes,” meddai Manod, a’r dŵr yn dod i’w lygaid.

“A finne hefyd,” meddai Morgan Richards, “y fam ore a gafodd neb.”

“Fe ddylid sôn rhywfaint,” ebe’r sarjant, “am eu dewrder nhw.”

Bu’r tri yn ddistaw, a’u meddyliau’n mynd yn ôl i Gymru, i fwthyn a fferm, a chofio pryder di-baid rhieni gofidus.

“ ’Does dim medalau iddyn nhw,” meddai’r sarjant.

“I b’le’r ych chi’n mynd?” ebe Manod wrth weld Morgan Richards yn codi yn sydyn.

“I mofyn tipyn o bapur ysgrifennu; ’dwy i ddim wedi hela gair adre ers tair wythnos.”

Ymhen rhyw ddeng niwrnod daeth yn amser i Manod fynd tua’r ffrynt eilwaith. Aed ag ef i weld y meddyg, a phan ddywedodd Manod ei fod yn teimlo’n ddigon iach pasiwyd ef heb unrhyw archwiliad pellach. Cyn pen ychydig oriau yr oedd yn yr orsaf lle’r oedd y cerbydau’n disgwyl i fynd ag ef a drafftiau newydd i’w gatrawd ei hun ac i gatrodau eraill. Yng nghanol drafft y Guards ymddangosai Manod yn dipyn o wron oherwydd iddo fod yn y ffrynt eisoes a chael ei glwyfo, a phe buasai ei eiriau yn fwy rhydd cawsai ddigon o edmygwyr. Fel y tro o’r blaen Rouen oedd terfyn rhan gyntaf y daith; yno newidiwyd i’r hen gerbydau ceffylau,—yr “hommes 40, chevaux 8,” ac yna linc-di-lonc nes cyrraedd gwersyll yn ymyl Arras.

Eithr os bu i Manod fri ymhlith y milwyr anaeddfed a gyd-deithiai ag ef o Le Havre gwelodd nad oedd ei absenoldeb o’r ffrynt wedi dwyn unrhyw anrhydedd iddo yno. “You’ve had a damned cushy holiday,” oedd cyfarchiad y sarjant iddo fel pe bai Manod wedi rhagluniaethu hynt y fwled arbennig honno yn ymyl Gouzeaucourt a’i chanlyniadau. Eithr gwyddai mor siomedig i un a dreuliasai flynyddoedd allan yn Ffrainc oedd gweled newyddian yn cael clwyf mor ddymunol ac wythnosau tawel ar ben hynny.

Cafodd fod y fataliwn yn y lein, ond yr oedd rhai wedi eu gadael ar ôl fel y byddai’r arfer ac at y rheini y daethai. Wedi cael ei iron rations rhybuddiwyd ef i fod yn barod i fynd i Arras gyda chwmni bychan. Dim ond chwe milltir oedd y daith, ond ymddangosai’n llawer hwy oherwydd undonedd ac unionder y ffyrdd hir a’r poplys tal o boptu. Yr oedd digon o arwyddion rhyfel a dinistr ar bob llaw, a phan ddaeth y cwmni i’w farics dipyn y tu mewn i borth y ddinas gwelwyd bod rhan o’r adeilad wedi ei ddinistrio gan belen o’r gynnau mawr. Dioddefasai’r dref lawer gan y gynnau hyn, ac yr oedd hi eto o fewn ergyd; dywedid mai un o’r carthffosydd mawr oedd y lle gorau i ymguddio pe baent yn ail-ddechrau. Yr oedd cantîn yn y dref, ac yno y cafodd Manod gyntaf y pryd blasus hwnnw a garai pob milwr, egg and chips. Yno’r oedd milwyr o lawer catrawd, a’r miri’n uwch oherwydd bod y perygl yn nes.

“Gall shell ddisgyn yma unrhyw funud,” ebe un o’r milwyr wrth Manod, “a’n cymysgu ni â’r chips yn un gybolfa fawr.”

O’r diwedd symudwyd Manod a’r cwmni bychan i wersyll y tu allan i’r dref lle’r oedd y fataliwn newydd ddyfod allan o’r lein a phob un wrthi’n ddyfal yn ymdrwsio a glanhau. Trannoeth bu chwarae pêl droed rhwng dau gwmni, ac yno y cyfarfu Manod ag Ifan.

“Fe glywsoch y newydd?” gofynnai.

“Am Ned a’i fedal?”

“Ie, wrth gwrs.”

“B’le mae e, i fi gael golwg arno fe.”

“Mae e wedi mynd am bythefnos o draining gyda’r machine guns. Fe fydd ’no le ofnadwy, gewch chi weld. Ei air dwetha i fi oedd ei fod e’n mynd i gael bloody good time.”

“A oeddech chi gydag e pan enillodd e’r fedal?”

“Heb fod ymhell. Yr oedd yna fachine gun ar y dde yn drwbwl mawr i ni ac yn lladd llawer bob dydd. Un noswaith fe aeth Ned allan gyda’r corpral ac un arall. Yr oedd hi’n dywyll fel y fagddu, ac wedi ymlusgo ar hyd y lle am amser yr oedd y tri bron â throi yn ôl i’w trenches eu hunain pan glywen nhw sŵn Germans yn siarad, a dyna’r machine gun yn tanio yn eu hymyl. ’Doedd dim ond darn bach o dir rhyngddyn nhw a’r gwn, ond yr oedd e’n ddarn noeth. ‘Arhoswch chi fan yma,’ mynte Ned, ‘a gadewch y bygers i fi.’ Yn union ar ôl yr ergyd nesa fe aeth ymlaen ar ei ben ei hun, a beth bynnag ddigwyddodd, fe laddodd bump o’r Germans a chymryd y gwn. Mae na ragor o ymladd wedi bod am y lle, ond ein gwn ni sydd yno ’nawr.”

“Wel, ’rwy’n falch iddo’i chael hi.”

“A finne hefyd,” ebe Ifan, “dynion fel yna ddylai fod yn gapteniaid. Yr oedd y corpral yn credu mai fe ddylai gael y fedal, ond yr oedd yn lwcus fod y llall yno i ddweud y gwirionedd.”

“Mae’n debyg mai Ned ddwedodd yr hanes wrthoch chi?”

“Nage,” meddai Ifan yn syml, “y fi oedd y llall.”

Prif destun siarad y fataliwn y dyddiau hynny oedd y cyrch y bwriedid ei ddwyn ar ran o linell y gelyn gan fintai o ddeg ar hugain wedi eu dewis yn ofalus. Dywedid bod arwyddion paratoi mawr ar gyfer rhywbeth yn ffosydd y gelyn a thu ôl iddynt, ac amcan y cyrch oedd ceisio cael gwybodaeth ynghylch y paratoi, ynghylch y catrodau a oedd yn y ffosydd gyferbyn, a dod â rhywfaint o garcharorion yn ôl. Er mwyn i’r ymarfer ar gyfer y cyrch fod mor drylwyr ag y gallai lluniesid ymhell y tu ôl i’r lein gopi manwl o’r darn hwnnw o ffosydd y gelyn nes teimlo o bob un o’r fintai ei fod yn gwybod am bob modfedd o’r ffosydd gyferbyn gystal ag y gwyddai am ei ffosydd ei hun. Nid yn unig dyna oedd prif siarad y fataliwn, dyna oedd siarad pob gwersyll a chantîn, dyna hefyd oedd siarad pob estaminet a chlebar y brodorion.

Pan ddaeth noson y cyrch yr oedd distawrwydd trwm ar yr adrap honno o’r ffrynt; gwyddai pob milwr y munud yr oedd y fintai fach i fynd allan dros y llain ddiberchen a oedd rhwng y ffosydd a chawsai rybudd i beidio â thanio’n ddiofal. Mewn un darn o’r ffos disgwyliai’r fintai am yr awr,—eu hwynebau wedi eu duo a phob marc wedi’i gymryd o’u dillad a marciau ffug yn eu lle. Wedi iddynt fynd allan i’r tywyllwch ymddangosai pob munud fel awr i’r rhai a oedd ar ôl yn y ffos; eithr o’r diwedd clywid tanio o ffosydd y gelyn a gwelid y goleuadau Verey yn mynd i fyny gyda’u hapêl am help. Dechreuodd gynnau mawr y gelyn danio fel côr gan beri i ynnau mawr yr ochr arall ateb rywle filltiroedd yn ôl.

O’r diwedd a phawb ymron drysu am wybod canlyniadau’r cyrch dechreuodd aelodau’r fintai ymlusgo yn ôl, rhai’n ddianaf, a rhai’n glwyfedig yn cael eu dwyn gan eraill. Un carcharor a gawsid, a saethwyd yntau’n farw gan fwled grwydr gyda’i fod yn cael ei wthio i lawr i’r ffos. O’r deg ar hugain a aethai allan deuddeg a ddychwelodd. Cawsent fod y gelyn yn gwybod popeth am y cyrch ac yn barod amdanynt. Dyna’r unig wybodaeth bendant a ddaeth o’r cyrch,—ymhen rhai wythnosau daeth tair medal rhwng y deuddeg.

Ar ôl y cyrch aeth y fataliwn i wersyll y tu ôl i’r lein yn siomedig a digalon. Yr oedd rhyw ddisgwyl mawr am rywbeth i ddigwydd i dorri ar undonedd diddiwedd ennill ychydig lathenni o dir a’u colli wedyn, ac ni waeth ai colli tir ai ei ennill a wneid colli bywydau oedd hi bob tro.

“Fe aiff pethau ymlaen fel hyn am flynyddoedd eto,” meddai un hen filwr ryw ddiwrnod, “efallai yr aiff y rhyfel ymlaen nes daw’r hogyn sy gen i gartre yma i gadw cwmni i’w dad.”

“Cyn y diwedd,” meddai un arall, “fe gei di weld y bydd yn rhaid i dy dad di ddod allan hefyd.”

Ymddangosai’r ail osodiad ar gael ei wirio, canys gwelwyd wynebau llawer o’r rhai a fuasai’n llwyddiannus iawn yn osgoi’r lein oherwydd oedran neu anhwylder neu ystryw.

“Fe fyddant yn fwy o drafferth na’u gwerth,” meddai’r hen ddwylo, “ond waeth iddyn nhw gael eu lladd na rhywun arall.”

Pan fyddai ei gwmni y tu ôl i’r llinell flaen fel atgyfnerthion medrai Manod fynd dipyn oddi amgylch. Gwaith nid annymunol oedd cysylltu’r gwahanol gwmnïau â’i gilydd a dirwyn y wifren deleffôn o un orsaf i’r llall, ac ar ôl lludded gosod y gwifrau mwynhad mawr oedd cysylltu’r teleffôn a medru siarad â’r rhai a adawsai oriau cyn hynny. Ni cheid siarad negeseuau pwysig ar y teleffôn yn ymyl y lein oherwydd dywedid bod y gelyn yn medru eu codi, a’u codi hefyd pes danfonid yn sistem Morse. Gellid osgoi hynny os defnyddid dwy wifren yn lle taro pin yn y ddaear; ond daethai dyfais newydd allan,—y Fullerphone, a gellid anfon negeseuau mewn Morse drwy’r teleffôn hwnnw heb ofn iddynt gael eu codi. Teclyn oriog iawn oedd y Fullerphone; efallai na ddeuai na siw na miw ohono am ysbaid, yna troi rhyw sgriw heb amcan yn y byd, a dyna’r cwbl yn gweithio yn berffaith. Dywedai’r hen signallers na wyddai Fuller ei hun bopeth ynghylch ei beiriant. Cawsent orchymyn pendant i’w dorri’n yfflon yn hytrach na gadael iddo syrthio i ddwylo’r gelyn; temtiwyd llawer un i’w falurio ar lai na hynny.

Ambell waith pan ddigwyddai i ryw belen siawns dorri’r wifren yr oedd yn rhaid mynd allan i’w chyweirio. Ar ôl bod yn y lle am ychydig ddyddiau yr oedd yn hawdd ffeindio’r ffordd o fan i fan ac yn hawdd llwybreiddio rhywun, canys rhoesid enwau newydd ar fannau neilltuol,—Single Arch oedd enw lle yn ymyl pont un bwa, i’w wahaniaethu oddi wrth Triple Arch ryw filltir oddi yno. Un o’r mannau mwyaf anhyfryd yn y cyffiniau oedd bryncyn bychan lle y disgynnai pelennau’r gelyn yn gyson; ei enw ef oedd Mount Pleasant. Piccadilly Circus oedd enw’r lle y cyfarfyddai chwe llwybr â’i gilydd, a galwyd ffos a dorasid drwy’r garreg galch yn Coral Trench. Heb fod ymhell yr oedd ogofau maith wedi’u torri i mewn i’r ddaear lle’r oedd tipyn o godiad tir, a’r ochrau a’r to o garreg sialc. Yr oedd llu o filwyr yn yr ogofau hyn, yr oedd ganddynt leoedd cyfleus i gysgu; goleuid y lle â thrydan, ac yr oedd fel pe bai pob milwr a fuasai yno naill ai wedi gwneud delw o rywbeth o dalp o sialc neu wedi torri ei enw ar ochr yr ogof. Yn un pen yr oedd cantîn lle y gallai milwr ac arian ganddo fyw fel brenin.

Un hwyr eisteddai Manod ar lan llyn bychan yn darllen llythyr a gawsai oddi wrth ei fam. Pan edrychodd ar y llyn gwelodd ynddo adlewyrchiad perffaith o odidowgrwydd lliw cymylau’r gorllewin. Cododd ei olwg i edrych ar ogoniant y machlud ac wrth wneud hynny trawyd ef gan noethni digysur y llethr a oedd rhwng y llyn a’r awyr,—llethr yn llawn o dyllau pelennau, a gwifrau rhydlyd a hen ffosydd fel creithiau hagr ar hyd-ddo.

“Mae’r pen uchaf a’r gwaelod,” meddyliai Manod, “fel darlun o waith Duw, a’r diafol wedi tynnu cyllell trwy’r canol.”

Yr oedd y fataliwn yn gorffwys ymhell y tu ôl i’r ffrynt pan dorrodd rhuthr y gelyn ar lein y Prydeinwyr tua diwedd Mawrth, ac yn fuan iawn llanwyd y gwersyll gan bob math o newyddion, bod y lein wedi ’i gwthio’n ôl ym mhobman, bod y gelyn wedi cymryd un fyddin yn garcharorion, bod bwlch yn y lein a’r gelyn yn ffrydio drwyddo tua Pharis, “ac wedi cael cannoedd o Fullerphones,” meddai un hen signaller. Yr oedd y gorchmynion mor amhendant â’r newyddion; o awr bwy gilydd rhybuddid pawb i fod yn barod i rywbeth neu’i gilydd, a chyn sicred â hynny dirymid y rhybudd cyn i ddim gael ei wneud. Un hanner nos llwythwyd y fataliwn mewn bysus a oedd yn disgwyl gerllaw, ac i fyny â hi tua’r ffrynt i lenwi bwlch a adawsid yn y lein, meddent. Cyn iddi oleuo yr oeddynt wedi cyrraedd un o’r ffyrdd isel hynny a groesai’r wlad, heb wybod pa le’r oedd y gelyn na pha beth oedd ei fwriad,—dim ond disgwyl am olau dydd.

Yn ystod y bore cafwyd bod y gelyn mewn ffosydd ar ychydig o godiad tir ryw hanner milltir i ffwrdd. Yr oedd y tir rhyngddynt a’r gelyn yn glir, ond bod rhai llwyni yma a thraw. Y tu ôl i’r ffordd yr oedd cefnen hir, a’r ochr arall i honno o olwg y gelyn. Erbyn y prynhawn gwyddai’r naill ochr am safle’r llall, a dechreuodd y fataliwn gadarnhau ei safle hi. Tyllwyd llochesau yn ochr y ffordd, a cheisiwyd llunio pob math o gysgod arall rhag y gwynt a’r glaw. Y tu ôl i’r gefnen yr oedd gweddillion gwersyll a adawsid ar frys mawr gan rywrai ychydig ddyddiau cyn hynny, ac wedi iddi dywyllu dygwyd ymaith lawer darn ohono, yn drawstiau a sinc, i godi rhyw fath o gysgod yn y ffordd.

Trannoeth bu Manod a dau signaller arall yn dad-ddirwyn gwifrau er mwyn cysylltu’r ffordd â phencadlys y frigâd a oedd dipyn o bellter yn ôl. Yn y mannau amlycaf yr oedd yn rhaid bod yn ofalus iawn, ac yn un o’r mannau hynny saethwyd un o ddau gydymaith Manod drwy ei galon. Bu farw heb na gair nac ochenaid, ac wedi hysbysu’r cwmni yn y lein aeth y ddau ymlaen â’u gwaith.

Y bore nesaf, gyda’r dydd, dechreuodd gynnau mawr y gelyn danio. Gellid tybio mai rywle i’r chwith yr oedd y man pwysig, canys ar hwnnw yr oedd pwys y tân. Eithr disgynnodd dwy belen ar y ffordd, ac aeth un yn syth i loches a wnaethid yn ddifeddwl yn ochr y ffordd a wynebai’r gelyn. Lladdwyd pump gyda’i gilydd. Cyn bo hir clywodd Manod fod y wifren wedi’i thorri, ac aeth allan i chwilio am y toriad a’i gyweirio. Symudai’n ofalus gan ddilyn y cwrs a gymerasai’r diwrnod cynt, ac o’r diwedd cafodd y toriad. Yno yng nghanol sŵn y bwledi, ac ambell belen yn disgyn yn agos teimlai Manod yr un fath ag y teimlai’r bore hwnnw yn Gouzeaucourt wrth fynd dros y top yn y niwl,—teimlo fel pe bai wedi ymddiosg o bopeth materol, yn dwys-hanfodi mewn rhyw wagle, ac ar fin ymgydnabod â rhyw ddirgelwch mawr. Wrth orwedd ar ei hyd medrodd gyweirio’r wifren, a pheri i’r negeseuau fynd yn ôl a blaen unwaith wedyn yn ddi-rwystr.

Mewn ateb i neges dechreuodd gynnau’r Prydeinwyr danio’n ôl, ond disgynnodd un belen yn union ar y ffordd ymysg y milwyr. Gan mai pelen glwc oedd hi nid anafwyd neb, ond ymhen tipyn daeth y capten at Manod, a oedd wrth y teleffôn gan fytheirio’n ddicllon,

Tell the bloody bastards . . .” ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Ar ôl i Manod gyfieithu’r cyfarchiad i’r termau priodol a’r neges ei hun i Saesneg llai brwmstanaidd cyn ei hanfon aeth y teleffôn yn fud gan ddynodi bod y wifren wedi ei thorri eilwaith.

Prescott will have to take the message back,” ebe’r capten, gan gyfeirio at signaller arall, “and you,” gan gyfeirio at Manod, “you’d better take your rifle and stand to.”

Felly ymunodd Manod â’r milwyr a safai’n rhes ar y ffordd gan gydio’n dynn yn eu drylliau. Bob hyn a hyn o lathenni yr oedd gwyliwr yn edrych allan dros ochr y ffordd gan gadw’i olwg ar ffosydd y gelyn. O’r diwedd gwaeddodd un ohonynt, “Here they come,” ac ar amrantiad neidiodd pob milwr i’r ris a dorasid yn ochr y ffordd. Wrth sefyll ar y ris honno gallai milwr weld yn glir o’i flaen a saethu yn ddi-rwystr.

Ar y chwith yr oedd tanio di-dor o ddeutu, a’r gelyn wedi dechrau croesi’r tir a oedd rhwng y ffosydd. Bu Manod am ychydig cyn sylweddoli bod milwyr y gelyn yn dod drosodd hefyd gyferbyn â’r fan yr oedd yntau. Nid oeddynt yn niferus ac ni ddeuent ymlaen ar eu hunion, eithr ceisient wneud pob llwyn a thwmpath a chlawdd yn fath o gysgod. Yr oedd rhywbeth yn chwerthinllyd yn eu symudiadau yn atgoffa Manod am blant yn chwarae ymguddio pan fyddai un a’i lygaid ar gau yn cyfrif hyd at gant tra byddai’r lleill yn ffeindio lloches; yr oedd fel pe bai’r cyfrifydd wedi agor ei lygaid ar yr hanner a gweld y lleill ar eu ffordd i ymguddio. O dipyn i beth deuent yn nes; yr oedd rhai o’r milwyr wedi dechrau tanio arnynt; a cheisiai Manod gofio beth a ddywedasai Owen y Cwm gynt am yr amser iawn i danio.

Wait till you see the white of their eyes,”—dyna fe, gwyn eu llygaid; eithr nid oedd dryll y Short Lee Enfield Mark III gan y rhai a gawsai’r cyfarwyddyd hwnnw. Ceisiai gofio pa un ai Wolfe ger Quebec ai Wellington yn Waterloo a roesai’r gorchymyn. Fel y dynesai’r Almaenwyr at y ffordd âi’r cysgod yn llai, ac o’r diwedd ymgasglasant i wneud rhuthr. Anelodd Manod yn bwyllog at un milwr tal a oedd fel pe bai’n rhoi gorchmynion i’r lleill, ac yn union ar ôl i’w fys dynnu clicied y dryll gwelodd ef yn codi ei freichiau yn yr awyr ac yn syrthio ar ei hyd. “Rhyfel yn ôl y gwerslyfr,” meddai wrtho ei hun gan anelu at un arall, ond ni welodd unrhyw arwydd bod y fwled honno wedi cyrraedd ei nod.

Taniai gynnau mawr y Prydeinwyr ar y tir y tu cefn i rwystro atgyfnerthion i ddod i fyny, ond disgynnodd un belen yng nghanol milwyr y gelyn gan wneud bwlch mawr. Fel y dynesai’r gelyn dechreuodd machine-gun a guddiasid mewn ffos groes danio arno o’i ochr. Daeth hwn yn ddirybudd hollol, ac fel y cyfarthai’r gwn ei guriadau chwyrn syrthiai’r milwyr yn niferoedd. Troes rhai tuag at y gwn, a chyn bo hir distawyd ef. Eithr âi’r tanio cyflym yn y ffordd ymlaen yn ddiflino, a gwelai Manod yn awr werth yr ymarferiadau a gawsai mewn tanio’n gyflym. Yr oedd fel be bai machine-gun gan bob milwr. Nid oedd y gelyn chwaith yn segur, ac yn sydyn sylwodd Manod fod y milwr nesaf ato yn rholio’n ddiymadferth i lawr a’i ddryll yn trystio ar gerrig y ffordd. Fel y deuai’r gelyn yn nes taniai Manod ar ei gyfer gan weithio’r follt a llwytho’r dryll a thanio fel peiriant. Yn ddisymwth dechreuodd milwyr y gelyn betruso, ac yna gilio yn ôl gan lusgo rhai o’u clwyfedigion gyda hwy, a drylliau poeth o’r ffordd yn anfon eu plwm yn un gawod gyson ar eu holau. Er disgwyl a disgwyl ni ddaethant drosodd drachefn.

XVI

Daeth tawelwch dros y maes ac ymlonyddodd y ddwy ochr fel dau anifail ar ôl ysgarmes yn ymneilltuo i lyfu eu briwiau. Eithr cyn bo hir torrwyd y distawrwydd gan ocheneidio un o’r clwyfedigion a orweddai allan yn rhywle rhwng y Guards a’r Almaenwyr. Gwyddai’r cwmni yn y ffordd mid un o’r gelyn ydoedd, ond fel yr âi’r prynhawn ymlaen a’r ochain yn parhau teimlent yn anesmwyth. Gwelsent ddwyn ymaith eu clwyfedigion eu hunain a’u meirw o’r ffordd heb ddangos unrhyw deimlad, ond yn sŵn bloeddiadau alaethus y gelyn clwyfedig aent ynghylch eu gwaith gan edrych yn euog ac anghysurus.

O’r diwedd hysbysodd un o’r gwylwyr fod baner wen wedi’i chodi o ffosydd y gelyn; yna daeth milwr i’r golwg yn dal y faner yn ei law; ac yna dri milwr arall. Yr oedd popeth yn hollol dawel, ac er bod pob llygad yn y ffordd gyferbyn yn eu gwylio ni thaniwyd ergyd at y pedwar Almaenwr fel y dynesent dros y tir canol. Gwelwyd ar unwaith mai at y truan dolefus y cyfeirient, a bod ganddynt elorwely i gludo’r clwyfedig. Symudent yn betrusgar ar y dechrau, yna’n fwy hyderus, gan ddal y faner wen i fyny o hyd. cyn pen hir daethant at y clwyfedig a rhoesant ef ar yr elorwely, ond cyn troi yn ôl safodd y pedwar gan wynebu’r Prydeinwyr a rhoes un ohonynt saliwt; yna’n ôl yn araf i’w ffos eu hunain.

Yr oedd rhyw deimlad newydd ymhlith y rhan fwyaf o’r milwyr weddill y prynhawn. Yr oeddynt fel rhai a brofasai fywyd arall ac yn anfodlon mynd yn ôl i’r hen fywyd. Ni thaniwyd ergyd o’r naill ochr na’r llall drwy’r prynhawn, ac yr oedd gynnau mawr y ddwy ochr fel pe’n ceisio taflu eu pelennau cyn belled ag y gallent. Oherwydd y tawelwch aeth rhai yn ddiofal ac esgeulus gan ymddwyn fel pe bai’r rhyfel ar ben. Er hynny cafwyd y “stand to” fel arfer am awr cyn machlud haul a phob un yn y ffordd yn cydio yn ei ddryll. Yn sydyn cwympodd y capten a oedd yn gwylio ffosydd y gelyn drwy ysbienddrych. Cwympodd yn ôl heb na chŵyn nac ochenaid gan orwedd yn hollol farw â’i wyneb i lawr. Yr oedd Manod a Ned Beynon yn sefyll yn ymyl; rhuthrodd y ddau ymlaen a throes Ned y corff. Yn ei dalcen yr oedd marc cochddu fel clais, a dyna i gyd.

“Wel,” meddai Ned yn synfyfyriol, “mae’r bloody rhyfel wedi dechre eto.”

Un bore wedyn pan oedd cwmni arall yn y lein daeth y gelyn drosodd, a chan luosowgrwydd ei filwyr cyrhaeddodd y ffordd, eithr nid aeth un yn ôl. Pan ddaeth y cwmni y perthynai Manod iddo i’r lein y noson honno yr oedd cyrff ar hyd y lle ym mhobman. Ar ôl rhyw bythefnos hysbyswyd bod y fataliwn i fynd yn ôl o’r lein am dymor i gael seibiant ac atgyfnerthion. Y diwrnod olaf cwmni Manod a oedd yn y lein, ac yn yr hwyr anfonwyd ef yn ôl i arwain bataliwn o filwyr Canada a oedd i gymryd eu lle. Wrth fynd yn ôl ceisiai graffu ar bob pren a thwmpath er mwyn ffeindio’i ffordd drachefn yn y nos. Wedi cael y Canadians, a hithau’n nosi, dechreuodd Manod ei ffordd yn ôl ar flaen y fataliwn.

Er ei bod yn dechrau tywyllu yr oedd yn hawdd cadw cyfeiriad ar y cychwyn, ac wedi cerdded tipyn daethant at hen ffordd haearn wedi’i chodi ar glawdd. Cofiai Manod ei fod i ddilyn hon am ychydig, ac yna droi ohoni drwy dwll yn y gwrych ar y gwaelod; eithr pan syllai yn y gwyll ymddangosai tyllau ym mhobman. Dechreuodd ei amau ei hun, a dechreuodd capten y Canadians ei amau hefyd; cydiai yn llawes Manod bob hyn a hyn gan ofyn, “Guide, are you quite sure you’re on the right track?” O’r diwedd gofynnodd Manod iddynt aros er mwyn iddo fynd yn ôl i chwilio’r adwy yn y gwrych, ac wrth iddo fynd yn ôl cododd y lleuad gan amlygu’r llinell hir o filwyr ar y ffordd haearn. Disgynnodd un o belennau tân y gelyn ar y maes gerllaw, a chlywai Manod sylwadau anfoesgar am y “bloody guide” a gollasai ei ffordd. Teimlai fod cyfrifoldeb y fataliwn arno ef, ac os lleddid rhywun mai ef a fyddai i’w feio am eu harwain ar ddisberod. O’r diwedd penderfynodd fentro tua chyfeiriad y lein a gadael y ffordd haearn. Wedi cyrraedd y maes maglodd mewn rhywbeth a rhoddes waedd o foddhad a barodd i gapten y fataliwn neidio’n frawychus. Sylweddolodd mai’r wifren deleffôn a oedd yno, a gwyddai ei bod yn arwain yn syth i’r lein. Cydiodd ynddi gan adael iddi redeg drwy ei law, ac felly y daeth â mintai ei ofal yn ddiogel i ben ei thaith.

Pan aeth y fataliwn yn ôl i’w gwersyll gorffwys cafwyd bod nifer mawr o filwyr wedi dod allan i’r ffrynt i lenwi’r bylchau, ac yn eu plith rai a fuasai’n osgoi’r lein ar hyd yr amser. Ymhlith y milwyr newydd yr oedd llanciau ieuainc a gwŷr canol oed, a hefyd Morgan Richards o Le Havre a Ben Rowlands o’r depot. Ym mhen tridiau syrthiodd Rowlands yn lletchwith ar ganol ymarfer a thorrodd ei goes; y newydd nesaf a ddaeth amdano oedd ei fod mewn ysbyty yng ngogledd Lloegr.

Un prynhawn gorchmynnwyd i’r fataliwn fynd ar barêd i gael ei hannerch gan y penswyddog. Dechreuodd drwy ganmol dewrder a dycnwch y fataliwn a chatrodau eraill y frigâd yn yr ymladd diweddar. Yr oedd y darn lein a ddaliai’r Guards, meddai, yn estyn allan fel trwyn tua chyfeiriad y gelyn, a hynny’n dangos nad oedd ildio wedi bod yno, beth bynnag. Ac nid oedd ildio i fod ychwaith, a’u dyletswydd oedd saethu’n gelain unrhyw un a gynigiai hynny, boed swyddog neu filwr cyffredin. Tanio chwyrn y rapid fire oedd yr unig beth a gadwai’r gelyn yn ôl,—plwm a dur,—baril boeth a bidog oer, dyna’r unig ffisig effeithiol i’r gelyn, a’r ffisig effeithiol i’r gelyn oedd y ffisig a’i lladdai oherwydd Boche marw oedd yr unig un da. Ie, Boche marw, ac oherwydd hynny awgrymodd mai nid dymunol oedd cael gormod o garcharorion pan ddeuai’r amser i fynd yn ôl i’r lein ac ymosod. Pla oedd carcharorion yn peri blinder a thrafferth; ni fedrai’r marw na saethu na bwyta. Yna ar y diwedd darllenodd orchymyn Syr Douglas Haig, y pencadfridog, “with our backs to the wall . . . each one of us must fight on to the end.”

Ni chafodd yr araith fawr o effaith ar yr hen filwyr oherwydd yr oeddynt hwy wedi hen ymgynefino â geiriau swyddogol, er bod rhywbeth anghyffredin yn symlrwydd y geiriau hyn, eithr teimlai’r milwyr newydd eu bod yng nghanol y rhyfel o’r diwedd.

“Mae hi’n u-p-up ar Jerry,” meddai Ned Beynon, pan gawsant dipyn o hamdden ar ôl y parêd.

Soniai’r swyddogion am y gelyn bob amser fel Boche neu Hun, ond gair y milwr cyffredin amdano, hyd yn oed pan fyddai’n ei draddodi i’r uffern boethaf, oedd Jerry neu Fritz, ac yr oedd rhywbeth tebyg i dinc o anwyldeb a thosturi yn yr enwau.

“Mae’n ddigon hawdd dweud backs to the wall,” ebe Morgan Richards, “ond pwy aeth â ni i’r wal?”

“A beth am ddod â ni o’r wal?” ebe Manod.

“A’r cwestiwn mawr,” meddai Ned Beynon, “yw b’le mae’r bloody wal?”

“Y nhw ŵyr orau,” ebe Ifan.

“A phwy yw nhw?” gofynnai Manod.

“Y generals.”

“Ie,” meddai Manod wedyn, “a phob un ohonyn nhw wedi dysgu’i grefft yn Sowth Affrica, ac yn credu mai rhyfel tebyg i hwnnw yw, hwn.”

“ ’Dŷn nhw dda i ddim,” ebe Morgan Richards, “bnd galifantio yn eu ceir. Piti na chawsen ni rywun fel Wellington.”

“Ond mae’n debyg,” ebe Ned, “fod rhywrai yn amser Wellington yn dweud nad oedd e ddim bloody good. Ac mae’n ddigon hawdd siarad, ond pwy roesech chi yn eu lle nhw?”

“Lloyd George,” ebe Manod, “rhywun â meddwl agored ag yn barod i ddysgu.”

“ ’Rwy’n cytuno,” meddai Ifan gan gefnu ar ei generals yn ddiseremoni ar ôl i Manod enwi Cymro, “Lloyd George amdani.”

“Ond ’dyw e ddim wedi cael profiad o hyn,” ebe Morgan Richards.

“Dyna pam ’rwyf i’n ei enwi; mae eisie dyn a meddwl ffres.”

“Mae’n dda fod y Brenin Mawr o’n hochor ni,” ebe Ifan.

“Fe all general gwael,” ebe Morgan, gan edrych fel pe bai’n dweud rhywbeth pwysig, “fe all general gwael ddrysu cynlluniau’r Brenin Mawr.”

Safodd y pedwar yn feddylgar am ychydig uwchben hyn.

“Ond gan fod yn rhaid i ryfeloedd fod,” ebe Ned, “a chan fod . . .”

“ ’Does dim rhaid,” ebe Manod.

“Dim rhaid?”

“Na, fe ellir setlo’r cwbwl mewn ffordd arall. Ar ddiwedd y rhyfel yma beth fydd? Cynhadledd heddwch. Pam na ellir ei chael hi ar y dechre?”

“Nid arnon ni yr oedd y bai,” ebe Ifan.

“ ’Rwy’n gwybod hynny, ac nid wy i’n ein beio ni yn fwy na phawb arall.”

“Ond fechgyn,” ebe Ned Beynon, fel pe bai wedi cael gafael ar ddadl gref, “beth am y Beibl?”

“Ie, beth amdano?” gofynnai Morgan Richards.

“Wel, mae’r Beibl yn dweud y bydd yna ryfeloedd a sôn am ryfeloedd hyd ddiwedd y byd.”

“Dim o’r fath beth,” ebe Manod, “dyma’r adnod,” gan dynnu ei Destament Cymraeg o’i boced.

Come on, you four; I’ve got a spot of work for you. Leave the arguing to the people at the top.

Nid oeddynt wedi gweld y corpral yn dynesu.

People at the top, ie fe?” meddai Morgan Richards wrth gerdded ar ôl y corpral, “ond beth am y pŵr dabs ar y gwaelod?”

Ni ddaeth yr un ateb oddi wrth ei gymdeithion fel y symudent dan wybren guchiog Ebrill, ac ni chlywodd y corpral mo’r cwestiwn.

Daethai rhyw syrthni a digalondid dros y milwyr yn yr wythnosau hynny,—rhyw ymdeimlad mai lladd a lladd a fyddai hi nes lladd un ochr i gyd. Âi pob un ymlaen â’i waith fel pe bai’n beiriant, heb syniad yn ei ben na gobaith yn ei galon. Ymhlith yr ychydig lygedynnau o obaith yr oedd y sôn am ddewis Marshal Foch yn bencadfridog holl fyddinoedd y cynghreiriaid yn Ffrainc. Un tro wrth ddod allan o’r lein yn flin a budr gwelodd Manod fataliwn o Ffrancwyr yn mynd heibio,—rhan o’r llu hwnnw a gododd y Marshal i fod wrth gefn. Yr oedd eu dillad yn lân a’u llygaid yn loyw wrth wynebu ar y lein, ac wrth i Manod edrych arnynt cerddodd rhyw asbri drwyddo. Gwelent hefyd yn awr ac yn y man filwyr o America, a gwyddent mai dim ond blaen cad miloedd ar filoedd o filwyr ffres oedd y rhai hyn. Teimlent ar adegau fel hyn fod yn rhaid i’r fuddugoliaeth derfynol ddod, ond oherwydd maint eu siomedigaethau rhyw farwlosgi yr oedd eu ffydd.

Un dydd wrth fynd ar neges i gatrawd arall mewn gwersyll cyfagos gwelodd Manod am y tro cyntaf enghraifft o’r gosb a elwid yn “Field Punishment No. 1.” Ar ei ffordd i mewn i’r gwersyll gwelai filwr wedi ei rwymo wrth olwyn un o’r gynnau mawr; rhwymasid ef a’i gefn ar yr olwyn a’i freichiau ar led, a’i goesau a’i fireichiau’n dynn wrth adenydd yr olwyn. Teimlai Manod yn anghysurus iawn o flaen y llygaid pŵl, difynegiant; troes ei lygaid a’i gamre i ffwrdd gan geisio anghofio’r cwbl.

“Efalle ei fod e wedi gneud i rywun arall golli’i fywyd,” ebe Ned Beynon pan adroddodd Manod yr hanes wrtho.

Y noson honno, serch hynny, breuddwydiodd Manod fod Corpral Brunt a dau filwr Rhufeinig yn croeshoelio rhywun ar olwyn un o’r gynnau mawr. Uwchben yr olwyn yr oedd astell ac ysgrifen arni; ceisiodd Manod ddarllen yr ysgrifen, ond codai’r astell yn uwch o hyd, ac yn ei ymdrech i’w dehongli dihunodd.

Pan aethant yn ôl i’r lein cawsant fod eu ffosydd mewn tir corslyd a chlai ar y gwaelod. Am nad oedd iddo rediad arhosai’r dŵr ar waelod y ffos ar ôl pob cawod o law. I gadw’r traed o’r dŵr rhoesid ar y gwaelod res o gledrau coed tebyg i ysgol a’r ffyn yn agos at ei gilydd. Pob hyn a hyn tyllasid lloches yn ochr y ffos a sinc neu darpolin yn gysgod iddi. Mewn lloches felly a rhyw le i ddau yr oedd Manod wedi gosod ei deleffôn, a threuliai oriau yno yn rhyw hanner cwsg gyda deublat y derbynnydd yn dynn am ei glustiau yn hirddisgwyl am nesegeuau o bencadlys y frigâd. Un dydd cafodd lygoden fach yn llechu y tu mewn i’w got, ac wedi ei thaflu i ffwrdd gofidiai rhag iddi fynd yn ysglyfaeth i’r gath ddu lygadlym honno a ddeuai i’r ffosydd bob nos. Câi’r gath lawer o foethau gan y milwyr a derbyniai’r cwbl mor ddiddiolch â theyrn yn derbyn ei gyfiawn wrogaeth. Un cyfnos croesodd i ffosydd y gelyn yng ngolwg pawb; yr oedd un neu ddau am ei saethu ond perswadiwyd hwy i beidio. Pan ddaeth yn ôl ymhen deuddydd cafodd y croeso a’r wledd a gaiff yr afradlon dychweledig bob amser.

Er pob maldodi, oeraidd ac anghariadus oedd agwedd y gath at y milwyr, eithr anwyldeb oedd prif nodwedd y ci mwngrel a oedd yn byw yn y gwersyll y tu ôl i’r lein. Cawsai’r fataliwn ef wedi’i glwyfo yn ei goes, ac ni bu’r fath helynt erioed â’r ymdrech i wella’i glwyf a’i wneud yn holliach drachefn. Bob tro y deuai milwyr yn ôl o’r lein i’r gwersyll âi yntau allan i gyfarfod â hwy a llawenydd yn llond ei wyneb blewog a’i gorff afluniaidd, a’r hen filwyr a ddaethai’n syth o gigyddio’u gelynion yn ymdrechu am y cyfle i dynnu llaw dros ei ben a’i ganmol.

Am gael digon o fwyd a digon o gynhesrwydd y dymunai pawb yn y ffosydd; parai prinder o’r ddeubeth hyn iddynt anwybyddu pob anghysur arall. Ceisiai’r gelyn wneud ei orau i rwystro dwyn bwyd twym i’r ffosydd, ac os ceisid cynnau tân yn y ffos i ferwi dŵr neu i gadw’n gynnes yr oedd yn rhaid gwneud hynny heb fwg, canys yr oedd y bluen fwg yn sicr o dynnu sylw a thân y gelyn. Yr oedd yn anodd iawn cael defnydd tân, a thaerai rhai o’r hen filwyr mai’r tanwydd gorau oedd y bisgedi caled a rennid i’r milwyr yn y ffosydd, ac mai rhyw gamgymeriad oedd eu hanfon yn fwyd. Bob hwyr yn gyson deuai’r rum gan roddi rhywfaint o wres a hyder mewn aelodau oer ac ysbrydoedd llesg. Chwarddai Ifan yn galonnog ryw noswaith wrth adrodd stori a glywsai am lygoden yn y ffos wedi yfed tipyn o rum y sergeant major yn gweiddi dros bob man,

“ ’Bl’e mae’r gath gythrel yna?”

Cyfyng oedd syniad y milwr cyffredin am y rhyfel, oherwydd rhywrai ymhell y tu ôl i’r lein biau’r cynlluniau, a’i waith ef oedd cyflawni ei ddarn bach ei hun o’r cynllun heb wybod dim am y darnau eraill. Cyfyng hefyd oedd cylch ei olwg yn y lein oblegid llinell igam-ogam oedd y ffos; ni fedrai weled ymhell i’r dde nac i’r aswy, a gofalai saethwyr cudd y gelyn nad âi yn rhy hy wrth syllu o’i flaen. Er hynny i gyd dysgai gydag amser pa bryd a pha le y gallai edrych dros ben y ffos, ond y rhan amlaf nid oedd dim i’w ddenu i wneud hynny ond y swyn sydd bob amser ynglŷn â phob dirgelwch.

Mewn un man yr oedd darn o ffordd haearn rhwng ffosydd y ddwy ochr a’r rheiliau wedi eu chwalu a’u llurgunio gan belennau tân y naill ochr a’r llall, ac yng nghanol y cwbl engine yn gorwedd ar ei ochr yn ddiymadferth. Nid oedd sôn am y cerbydau,—dim ond y peiriant marw, ac i Manod dyna’r olygfa dristaf a welsai. Cofiai fel yr arferai fynd pan yn fachgen yn yr ysgol yn unswydd i’r orsaf i weld y trên yn dod i mewn a’i edmygedd gymaint bob tipyn ag ydoedd y bore hwnnw pari welodd y trên gyntaf erioed wrth fynd gyda’i dad-cu i Lundain. Aeth ei feddwl yn ôl at un bore pan ddeuai o’r capel yn llaw ei dad-cu ar ôl clywed pregeth ar “Ac megis y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch,” ac yn holi beth oedd defnydd y sarff honno, a’r hen ŵr yn ceisio esbonio beth oedd “pres.”

“Wyt ti’n cofio’r peth melyn gloyw hwnnw ar injan y trên? Pres oedd hwnnw.”

Yn y diffeithwch. A gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.

Ar y groes dyrchafwyd Iesu,

  Fel y sarff ar drostan hir.

Edrych allan drachefn a gweld y peiriant syrthiedig.

Ymhen pedwar diwrnod aeth y fataliwn i adran arall o’r lein. Yr oedd yn noson gymylog pan ddaethant i mewn y tro cyntaf, ond sylwai Manod fod yr arweinydd yn cadw’i ffordd yn dda anghyffredin. Gwelodd o’r diwedd pan ddaeth rhimyn lleuad i’r golwg drwy hollt yn y cwmwl fod yr arweinydd yn cyfeirio’n syth at ryw wrthrych, ond cyn ei gyrraedd daethant i’r ffos, a dechrau archwilio eu lle newydd.

Pan ddaeth y bore gwelai Manod yn eglur y gwrthrych y sylwasai arno yn y nos. Croes bren ydoedd, a’r Crist crog yn edrych tuag ato. Cawsai’r tir oddi amgylch ei ran o’r pelennau tân; yr oedd tyllau mawr o amgylch y groes, ond rywfodd arhosai’n gadarn trwy’r cwbl i gyd. Yr oedd y milwyr erbyn hyn yn hollol gyfarwydd â gweld y croesau hyn yn Ffrainc ar ochr y ffordd ac ar groesffyrdd, ac edrychai’r rhan fwyaf arnynt fel arwydd arall o hynodrwydd y Ffrancod a’u hofergoeliaeth. Clywsent hefyd lawer stori ryfedd am ddiogelwch y croesau hyn yng nghanol y dinistr, a gwyddai pob milwr am y ddelw o Fair Wyryf yn Albert yn aros ar ogwydd heb lwyr syrthio er y difrod i gyd. Eithr yr oedd y groes neilltuol hon yn dyst o flaen eu llygaid o hyd; hyhi oedd yr unig wrthrych ar foelni’r tir.

Yr oedd un Pabydd yn y cwmni, bachgen ifanc o’r enw Morrison, ac yr oedd y groes yn destun sylw arbennig iddo ef. Gwyddai pawb am ddefosiwn Morrison ac am ei ffyddlondeb i’w baderau a’i seremonïau, ond am ei fod dipyn yn blentynnaidd ei ffordd gwawdid ef gan lawer o’r milwyr, eithr nid oedd hynny yn ddim rhwystr iddo ef. Yng ngolwg y groes unig rhwng y ffosydd adroddai wrth y milwyr pan gâi gyfle am y gwyrthiau rhyfedd a wnaethid drwy wrthrychau cysegredig, a rywfodd yr oedd y milwyr yn barotach i wrando arno a gwrando’n ddigellwair. O syllu arni o hyd yng nghanol eu perygl daeth y groes yn annwyl i’r milwyr, ac er y gallesid tybio y gwnâi nod da i dân y gelyn, ni ddisgynnai y dyddiau hynny ond ychydig belennau ar y rhan honno o’r lein, ac ni ddisgynnai yr un ar gyfyl y groes. Tyfodd rhyw gydymdeimlad rhyfedd rhwng y milwyr a hi, a llawer o’r rhai ni hidiai flewyn am bregeth caplan yn dechrau holi ynghylch dioddefaint a gwaredigaeth.

Eithr mynnai rhai o filwyr y cwmni mai wedi ei gadael yno o bwrpas yr oedd y groes fel cyfeiriad i ynnau’r gelyn. Dyna oedd barn Gunther, creadur di-foes a diddychymyg; ffolineb mawr yn ei farn ef oedd ymadroddion Morrison, a haerai gyda llwon mai un arall o driciau’r bastardiaid gyferbyn â hwy ydoedd y cwbl i gyd. Âi’r dyddiau heibio a’r groes yn aros o hyd. I’r milwr digalon yn y dydd yr oedd y groes yn rhywbeth i edrych arno, a’r un fath i’r gwyliwr unig yn y nos, ac am ddeuddydd ni ddisgynnodd pelen yn agos. Yr ail ddydd, gyda’r nos, disgynnodd cawod o belennau o flaen y ffos. Troes un o’r swyddogion ei ben tua ffosydd y gelyn gan ddweud.

It’s that bloody cross.

Clywodd Gunther ef, a daliodd ar ei eiriau am eu bod yn mynegi ei biniwn yntau. Wedi iddi dywyllu aeth allan tua chyfeiriad y groes ar ôl rhybuddio’r gwylwyr o’i fwriad. Gwyddai rhai o’r milwyr eraill am y peth a gwrandawent yn astud. Cyn bo hir clywent sŵn bom yn ffrwydro allan yn rhywle o flaen y ffos. Aeth goleuadau i fyny o ffosydd y gelyn, ac fel y disgynnent gan wneud yr holl le yn llachar gwelid bod Gunther wedi llwyddo yn ei amcan. Ymhen ychydig funudau disgynnodd rhai o belennau’r gelyn yn agos i’r fan, a phan dawelodd popeth drachefn daeth Gunther yn ôl i’r ffos, yn llawn llawenydd ac ymffrost.

Daeth y trydydd dydd, ond heb y groes. Aeth rhyw ddigalondid dros filwyr y cwmni, canys yn ystod y ddeuddydd daethai’r groes yn rhan o’u bywyd ac ni ddigwyddasai niwed i neb dan ei chysgod. Credai rhai mai tân y gelyn yn y nos a’i taflasai, a melltithient ef am hynny. Pan glywodd Gunther hyn aeth ei lawenydd a’i ymffrost yn llai. Tua’r prynhawn nesaodd tân y gelyn, ac yn yr hwyr disgynnodd dwy belen yn y ffos,—dim ond hynny, ond dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd mewn tridiau. Rhuthrodd Manod ac eraill tua’r fan a chael corff marw a’i ben wedi ei falurio. Ni wyddai neb pwy ydoedd nes edrych ar ei lyfr tâl. “Morrison,” ebe Ned Beynon, gan edrych yn syth ar Gunther.

Ychydig ar ôl hynny cyfarfu Manod ac Ifan â Ned Beynon. Yr oedd y rum wedi dod i fyny, a Ned trwy ryw fodd neu’i gilydd wedi cael mwy na’i ddogn. Dechreuodd sôn am Morrison.

“Dyna beth yw bloody shame,” meddai, “a Gunther a’i lladdodd e. Ond fe gaiff y diawl roi’r groes yn ei hôl pe bawn i’n gorfod mynd gydag e.”

Yr oedd Ifan yn un o’r gwylwyr y noson honno, a thua hanner nos daeth Ned Beynon a Gunther ato, ac allan o’r ffos â hwy.

“ ’Rŷn ni’n mynd i godi’r groes,” ebe Ned.

Daeth Manod heibio ychydig ar ôl hynny.

“Mae nhw wedi mynd allan,” ebe Ifan, “Ned a Gunther.”

Edrychai’r ddau i’r tywyllwch, a chyn pen hir gwelent ryw gyffro a’r groes sigledig yn dod i’r golwg am ennyd. Ar hynny daeth ergyd neu ddau o ffosydd y gelyn, ac yna gyfarth chwyrn y gynnau peiriant, a’r goleuadau dros bob man. Yn sydyn darfu’r twrf gan adael gwylwyr mud yn syllu tua’u gelynion dros yr anghyfaneddle.

Cyn y bore aeth Ifan gyda chorpral a dau filwr arall allan i weld beth a ddigwyddasai.

“Dyna un ohonon ni wedi mynd,” ebe Ifan pan gyfarfu Manod ag ef yn y bore. “Fe fuon yn dri hapus iawn gyda’n gilydd.”

“Do,” meddai Manod, “fe gollson gyfaill da, ac fe gollwyd milwr da hefyd. Sut olwg gawsoch chi ar y fan?”

“ ’Roedden nhw’n gorwedd yn un rhes,—Jim Gunther ar y chwith a Ned ar y dde, ag Yntau yn y canol.”

“Ned Beynon,” meddai Manod wrtho’i hun, “yn marw wrth godi’r groes.”

“Do,” meddai Ifan, yntau wrtho’i hun, “fe fu farw mewn lle da. ’Roedd yn biti bron symud y corff.”

XVII

Ar ôl marw Ned teimlai Manod ac Ifan fod y perygl wedi dod yn nes. Rhywbeth o’r tu allan oedd y sôn am filoedd yn syrthio mewn brwydrau, a hyd yn oed gweled lladd eu cydfilwyr, ond yr oedd colli un o’r tri a gychwynasai gyda’i gilydd o Aberhonddu fwy na blwyddyn cyn hynny yn wahanol. Aeth y ddau gyfaill ati i ysgrifennu llythyr at rieni Ned,—Manod yn ysgrifennu ac Ifan yn cynnig awgrymiadau o bryd i bryd. “Rhaid i ni sgrifennu llythyr neis,” ebe Ifan, “efallai y gwnân nhw ei ddarllen e yn y capel.”

Syniad Ifan am lythyr neis oedd sôn am rinweddau’r marw mewn ymadroddion ysgrythurol ynghyd ag adnodau o’r Beibl. Credai Ifan fod Manod yn collfarnu gormod o’i ymadroddion: “fe fu farw wrth y groes, beth bynnag,” meddai o’r diwedd, ac yr oedd yn rhaid i Manod gyfaddef bod hynny yn wir. Ymhen tipyn ar ôl anfon y llythyr derbyniasant barsel oddi wrth rieni Ned, yn cynnwys danteithion lawer, ac ni theimlent fod mwynhau’r danteithion yn unrhyw ddiystyrwch ar goffa eu cyfaill.

Gydag amser ymgyfarwyddent â phopeth anghysurus ac annymunol. Am ychydig yn unig y parai saethyddion cudd y gelyn iddynt gadw eu pennau i lawr; dibynnai’r rheini gymaint ar esgeulustod eu hebyrth ag ar eu medr a’u cyfrwystra eu hunain. Deuai’r milwyr yn gynefin â marwolaeth a chyrff y meirw. Heb fod ymhell o’r lein yr oedd pelennau wedi disgyn yng nghanol mynwent ac wedi chwalu esgyrn y claddedigion, a meddyliai rhywun am ryw ysmaldod newydd bob tro yr âi cwmni o filwyr heibio i’r fan. Ambell waith yr oedd yn rhaid torri ffos trwy dir y claddesid lladdedigion ynddo, ond drewdod y cyrff yn fwy na dim byd arall a aflonyddai ar y milwyr. Pan aeth cwmni Manod i gyfryw ffos am y tro cyntaf yr oedd y glaw wedi golchi ochr y ffos ymaith gan ddinoethi braich farw yn estyngedig fel pe’n gwahodd pawb i ysgwyd llaw. Pan ddaeth un o’r milwyr cyntaf yn y rhes gyferbyn â hi, “How d’ye do, old chap?” meddai gan afael ynddi, ond daeth y fraich yn rhydd yn ei law, a syrthiodd i waelod y ffos.

Un o’r peryglon mwyaf llechwraidd oedd y nwy; gwelsai rhai o’r milwyr ei effeithiau marwol a chlywsent ocheneidiau torcalonnus y dioddefyddion, eithr yn aml iawn yr oedd yn well ganddynt ei mentro hi pan wyddent fod nwy o’u hamgylch yn hytrach na goddef anhwylustod gwisgo’r mwgwd. Pan wisgent y mwgwd nid oedd anadlu yn hawdd, ac nid oedd yn hawdd gweled i ba le yr aent.

Un hwyrnos pan oedd cwmni Manod yn mynd i’r lein a swyddog yn ei arwain daeth y rhybudd “Gas!” Yr oedd pob mwgwd allan ac am eu hwynebau mewn ychydig eiliadau. Trafferthus oedd yr ymlwybro, ac yn union deg dododd un o’r milwyr ei ddeufys o dan ymyl y mwgwd, a chan nad arogleuodd ddim anhyfryd tynnodd y mwgwd i ffwrdd. Ymledodd y newydd o un i un, a synnodd Manod o droi ei ben weled y rhan fwyaf o’r cwmni heb eu mygydau. Y diwethaf oll i ffeindio bod y perygl drosodd oedd yr arweinydd cydwybodol, a hwyl fawr i’r cwmni oedd ei weld yn camu’n ochelgar yn ei fwgwd. O’r diwedd anturiodd yntau anadlu’n rhydd gan roi’r gorchymyn fod popeth yn iawn a rhoi pen ar sbri’r cwmni difwgwd.

Fel rheol nid un llinell oedd y ffrynt. Un llinell oedd hi ambell waith am ysbaid ar ôl i’r ffrynt newid a gorfod cloddio ffosydd newydd. Eithr lle y buasai’r ddwy ochr yn yr unman am fisoedd ceid nifer o ffosydd cyfochrog yn ymestyn ymhell yn ôl a ffosydd cyswllt rhwng y rhain a’i gilydd. Pob hyn a hyn ymestynnai ffos allan o’r llinell flaen tua ffosydd y gelyn, a gwylfa ar ei phen. Yno yr oedd gwn peiriant, a chadwai pwy bynnag a fyddai yno wyliadwriaeth fanwl nos a dydd ar ffosydd y gelyn. Bu Manod unwaith mewn rhan o’r lein lle yr oeddid yn gwneud tynel at ffos y gelyn er mwyn ei chwythu i fyny. Sibrydid bod y gelyn hefyd wrth yr un gwaith, a mawr oedd yr ymdrech i orffen o’i flaen. Âi pawb ynghyd â’u gwaith drwy’r dydd a’r nos mewn ofn a dychryn, a phob sŵn yn awgrymu tyllu o dan y ddaear. Yr oedd Manod yn y llinell gefn pan fu’r ffrwydro o dan ffos y gelyn, eithr teimlodd yr ysgytiad a chlywodd y twrf a thwrf y gynnau mawr am oriau ar ôl hynny. Clywodd wedi hynny rai o’r milwyr yn melltithio’r cwbl oherwydd nad oedd dim yn dilyn ond ymgiprys parhaus am y twll a wnaed gan y danchwa.

Ychydig o eroplenau a welid yn yr awyr. Un diwrnod daeth un o eroplenau’r gelyn yn isel, isel,—yn ddigon isel iddynt weld y peilot yn edrych dros yr ymyl. Taniodd pob un ar ei gyfer ar yr eroplên, ac fel yr âi o’r golwg dros fryncyn y tu ôl i’r lein gwelid ei bod ar dân. Broliai pob un mai ei fwled ef a roesai’r ergyd marwol iddi, a pharhaodd y ddadl nes i’r pencadlys ymhell y tu ôl i’r lein roi’r clod am yr orchest i fataliwn arall.

“Y tro nesa y daw un ohonyn nhw drosodd,” ebe un hen filwr, “ ’rwy i am daflu cusan iddo, a lwc dda iddo roi bom neu ddwy ar y bechgyn bras yna yn yr headquarters.”

Allan o flaen y ffos ac yn gyfochrog â hi yr oedd gwifrau pigog wedi eu pentyrru o bost i bost. Yr oedd gwifrau cyffelyb o flaen ffosydd y gelyn. Yn y nos y rhoddid y gwifrau yn eu lle, a gwaith peryglus ydoedd os byddai un o’r gynnau peiriant wedi ei anelu at y fan. Os tybiai’r gelyn fod y milwyr wrth y gwifrau anfonent oleuadau Verey i fyny; saethid y rhai hyn o bistol, aent i fyny fel roced gan losgi’n llachar wrth ddisgyn a gwneud y nos yn olau fel y dydd. Pan âi’r goleuadau hyn i fyny y peth diogelaf i’w wneud oedd sefyll yn hollol dawel heb symud dim, oblegid byddai’r symudiad lleiaf yn tynnu sylw. Defnyddid y goleuadau hyn hefyd, trwy gyfuniadau neilltuol o liwiau, i anfon negeseuau i’r gynnau mawr y tu ôl i’r lein.

Hoffai rhai o’r swyddogion a’r milwyr fynd allan ar batrôl rhwng y ffosydd yn y nos, ac aent yn rheolaidd dro ar ôl tro. Amcan hyn oedd ceisio ffeindio pa beth oedd bwriadau’r gelyn, ei wneud yn ofnus, a cheisio cael carcharor yn awr ac yn y man gan obeithio y byddai i hwnnw roi gwybodaeth ynghylch symudiadau’r gelyn.

Aeth Manod allan un noswaith gyda’r corpral a milwr arall o’r enw Fraser. Cyn iddynt fynd allan rhybuddiwyd y gwylwyr ar y rhan honno o’r lein rhag iddynt danio arnynt mewn amryfusedd. Yna wedi iddynt fynd drwy’r gwifrau drwy fwlch a dorasid eisoes gorweddasant ar y ddaear gan edrych o amgylch i gael syniad am y tir, oherwydd yn y tywyllwch gellid gwneud camgymeriadau mawr, a hyd yn oed golli cyfeiriad yn hollol. Rhwng y ddwy ffos, ond yn nes i ffos y gelyn, yr oedd twll mawr a wnaed gan belen, a drwgdybid bod saethyddion y gelyn yn defnyddio hwnnw. Penderfynasai’r tri fynd yn syth at ffos y gelyn a dod heibio i’r twll ar eu ffordd yn ôl. Gwylient o hyd am ryw arwydd bod rhywun byw yn symud, ac nid y byw yn unig a’u blinai: yr oedd rhai cyrff allan rhwng y ffosydd, ond ni chyffyrddent ag un oherwydd dywedid bod y gelyn yn cysylltu maglau â’r cyrff, ac yr oedd symud y corff yn peri i’r fagl ffrwydro.

Tua hanner y ffordd rhwng y ffosydd daeth i Manod y teimlad a gawsai y bore hwnnw yn Gouzeaucourt wrth fynd dros y top,—teimlo fel pe bai wedi ymryddhau o bopeth ac ar fin ymdaflu i rywbeth annirnadwy. Fel yr oeddynt yn clustfeinio clywent ryw sŵn ar y chwith, sŵn rhywrai yn symud fel hwythau. Rhoesant eu drylliau yn barod, ond ni thaniasant, oblegid rhyw bythefnos cyn hynny yr oedd dau batrôl o Brydeinwyr wedi tanio ar ei gilydd yn y nos, a phob un wedi’i ladd ond un milwr a ddaethai’n ôl i ddweud yr hanes. Gwelodd llygaid craff y corpral mai Prydeinwyr oedd y patrôl arall, ond ni wyddai sut i dynnu eu sylw. Pe gwnâi ryw arwydd efallai y taniai’r lleill yn sydyn ar ei batrôl gan gredu mai gelynion a oedd yno. Pan oeddynt yn y cyfyng-gyngor daeth iddynt ryddhad mawr o weld y lleill yn ymbellhau.

O’r diwedd daethant at y gwifrau o flaen ffosydd y gelyn, a dechreuasant dorri twll i fynd drwyddo â’r gwellaif a oedd ganddynt at y gwaith. Clywent y gelyn yn siarad yn y ffos, ac ni theimlodd Manod erioed yn fwy blin oherwydd cymysgu’r ieithoedd. Yr oedd un wifren mor den nes gwneud sŵn chwyrn wrth ei thorri; yn y tawelwch mawr teimlai Manod fod y sŵn yn diasbedain dros yr holl ffrynt. Yn ebrwydd distawodd y siarad yn y ffos. Cofiodd Manod fod bom ganddo a chydiodd ynddi yn barod i’w thaflu, ond ar yr un funud aeth llygoden fawr drwy ryw dyniau a oedd y tu allan i’r ffos gan wneud twrw mawr a thawelu amheuaeth y gelyn. Er hynny penderfynodd y tri fynd tuag yn ôl.

Gwaith caled a llafurus oedd ymlusgo fel y gwnaent, ac wrth fynd yn ôl ceisient ambell waith gerdded yn eu cwrcwd. Daliwyd Manod yn yr ystum hwnnw pan aeth un o’r goleuadau Verey i fyny, a chyn iddo fedru’i wneud ei hun yn anamlwg aeth y lle i gyd yn olau. Arhosodd fel delw, a meddyliai’n sicr fod y goleuad yn disgyn yn syth ar ei ben; ond ar ôl eiliadau a ymddangosai fel oriau disgynnodd yn ddiniwed ymhell o’r fan wedi dangos yn glir i’r tri lle yr oedd y twll hwnnw rhwng y ffosydd. Aethant tuag ato yn wyliadwrus; yr oedd eu llygaid erbyn hyn wedi ymgynefino â’r tywyllwch a gweled trymwydd dau filwr a gwn peiriant ar ymyl y twll. Paratôdd y corpral ei ddryll gan sibrwd yng nghlust Fraser. Cyn i’r un o’r ddau yn y twll feddwl am y perygl yr oedd bidog y corpral yng nghalon un a Fraser yn llindagu’r llall. Gwnaeth y fidog ei gwaith yn berffaith, a phan welsant nad oedd yr ail am wrthsefyll penderfynasant fynd ag ef yn ôl yn garcharor.

Felly dechreuodd y pedwar eu ffordd yn ôl i’r ffos,—Manod a Fraser ar y blaen yn dwyn y gwn, y carcharor o’r tu ôl, a’r corpral y tu ôl iddo yntau. Cyn iddynt gyrraedd y ffos dechreuodd y gelyn danio ac anfon goleuadau i fyny, ac wrth faint y tân yr oedd yn amlwg iddo ddarganfod corff y milwr arall yn y twll. Gorweddai’r pedwar yn amyneddgar drwy’r tanio; ni ddeuai tân o’r ffos o’u blaen canys gwyddid yno eu bod hwy allan yn rhywle. Ar ôl dwyawr o daer ddisgwyl darfu’r tanio, a phenderfynodd y tri gyrchu’r ffos ar unwaith a’r carcharor gyda hwynt. Eithr cawsant eu bod mewn man dieithr, ac ni fedrent weld bwlch yn y gwifrau. Aeth Fraser ymlaen i dorri bwlch, ond gyda’i fod yn dechrau saethwyd ef yn farw gan un o wylwyr ei ochr ei hun. Gwnaeth hynny y lleill yn wyliadwrus iawn, a chyn i’r wawr dorri cawsant y bwlch y daethent drwyddo a diogelwch eu ffos eu hunain, a’r carcharor mor falch â’r un ohonynt.

Synnai pawb eu gweld yn ôl canys collasid pob gobaith amdanynt. Dangosai’r milwyr ddiddordeb mawr yn y carcharor, a gofelid amdano fel am lestr gwerthfawr. Rhoddai hwn a’r llall sigarets iddo, a siaradai yntau yn huawdl ond i glustiau diamgyffred. Rhywbryd ar y bore anfonwyd ef yn ôl i’r pencadlys i ddweud ei stori yno. Wedi iddo fynd cerddodd Manod i lawr dipyn ar hyd y ffos nes dod i fan lle’r oedd dwy linell o wifrau o’r tu blaen. Ar y llinell bellaf o’r ffos yr oedd corff Fraser yn cael ei ddal i fyny gan y gwifrau; edrychai’n wrthun bron, fel bwgan brain yng nghanol noethni’r tir, heb gnwd o’i amgylch, na gobaith amdano ychwaith.

Un dydd wrth chwilio caban mewn gwersyll a oedd wedi ei ddinistrio yn agos i’r lein codasai Manod gopi poced o gân Omar Khayyâm yn aralleiriad Fitzgerald. Troai iddi’n aml am fod rhyw anobaith pêr ynddi yn cydweddu â’i deimlad y dyddiau hynny, a’r anobaith yn haws ei oddef oherwydd ei fydru mor gain. Cofiai iddo unwaith yn y Coleg ddysgu ar ei dafod gyfieithiad Syr John Morris-Jones o’r un gân, ac yr oedd y penillion Saesneg yn ddigon i ddwyn y llall yn ôl i’w gof.

’Tis all a Chequer-board of Nights and Days

Where Destiny with Men for Pieces plays . . .

 

Yn wir rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn,

Tynged yn chware â hwnnw’i chware’i hun;

Ein symud ar glawr Bywyd, ôl a blaen,

A’n dodi ’mlwch yr Angau, un ac un . . .

 

You know how little while we have to stay,

And, once departed, may return no more . . .

 

Ni phery’n hoes ond bore a phrynhawn,

A phoen a gofid ynddi i gyd a gawn;

Yna, heb ddatrys o’i dirgelion un,

 mil o waeau dan y fron yr awn . . .

 

Beth sydd imi yn y byd

  Ond gorthrymder mawr o hyd? . . .

Dyn a aned o wraig sydd fyr o ddyddiau, a llawn o helbul . . .

Canys y mae gobaith o boen, er ei dorri . . . ond gŵr a fydd marw . . . a pha le y mae? . . .

Ddoe, Ned Beynon; heddiw, Fraser; yfory? . . .

Fy nghyfaill, am yfory na thristawn,

“Sut leiciech chi farw?” gofynnai Ifan i Manod un noswaith.

“Beth yw’r siarad yna sy gyda chi?”

“ ’Rŷn ni’n mynd dros y top fory.”

“Fory?”

“Ie, fory.”

“Peidiwch â gofidio am fory; fe gawn sôn am hyn nos yfory.”

“Meddwl am Ned wnes i,—fel yr aeth e. Ond gadewch i ni gadw gyda’n gilydd fory; fe leicien i hynny.”

“Ac ni fynnwn inne neb gwell wrth f’ochor,” ebe Manod.

Bore trannoeth dechreuodd y gynnau mawr danio i’r eiliad. Rhwygwyd heddwch y bore gan y taranu mwyaf erchyll a glywsai Manod erioed, a phan edrychodd allan gwelai ffos flaen y gelyn gyferbyn yn chwydu mwg a daear ar ei hyd.

Those gunners have got them this time,” ebe un.

Yr oedd beirniadu gwŷr y gynnau mawr yn hoff destun gan y gwŷr traed, yn enwedig pan syrthiai’r pelennau yn fyr, ar ffosydd eu gwŷr eu hunain; eithr y bore hwnnw nid oedd ond edmygedd mawr o gywirdeb yr anelu a thrylwyredd y saethu. Yr oedd yr awyr yn llawn o su dolefus y pelennau ar eu taith a thrymswn y ffrwydro. Uwchben y ffosydd yr oedd nifer o adar yn ehedeg mewn dryswch, mor wahanol i’w hedeg trefnus arferol; yr oeddynt yn syfrdan yng nghanol y preswylwyr newydd anweledig. Cofiai Manod mor ddiymadferth y teimlai yntau pan oedd gynnau mawr y gelyn yn tanio ar ffosydd y Prydeinwyr, ac er mai’r un oedd y sŵn a’r dinistr teimlai’n hyderus yn awr oherwydd mai “ein gynnau ni” a oedd yn tanio, ac mai ffosydd y gelyn a oedd dan y tân. Teimlai wŷn y frwydr yn ei aelodau a’i ysbryd yn rhan o’r pwerau mawr a faluriai ffos y gelyn.

Gwyddai’r milwyr fod llinell flaen y gelyn yn grom yn y rhan honno o’r ffrynt a’u bod hwythau i’w hunioni. Torasid bylchau yn y gwifrau o flaen eu ffosydd hwy, a phan ddaeth y gorchymyn i fynd ymlaen ymaith â hwy trwy’r bylchau hynny. Eithr nid yn fyrbwyll nac yn rhusgar, ac yn union wedi mynd trwy’r gwifrau ymestynnent allan yn llinell “with the proper two paces interval.” Gyda’u bod allan o’r ffos daeth ffosydd cefn y gelyn yn nod y tân, a chlywent o’u hôl belennau’r gelyn yn disgyn ar eu ffosydd cefn hwythau i rwystro atgyfnerthion i ddod i’r lein. Er y tanio a fu ar ffos flaen y gelyn yr oedd yno rai o hyd yn tanio â drylliau a gynnau peiriant, ac fel y dwysáu’r tân ceid bylchau aml yn llinell yr ymosodwyr, a thueddai’r gweddill i fynd yn glymeidiau yma ac acw. Wrth fynd ymlaen clywodd Manod lais yn ei ymyl,

“Dyma fi.”

Ifan a oedd yno yn sibrwd ei galondid. Rhoes Manod un edrychiad a oedd yn digon i fflachio’i foddhad i’w gyfaill, ac yna troes y ddau eu golygon eilwaith ar yr anghyfanedd-dra.

Rhywle o’u blaen yr oedd un o ynnau peiriant y gelyn yn tanio y tu ôl i wrthglawdd bychan. Rhuthrasai nifer o’r milwyr at y lle gan geisio dinistrio’r gwn a lladd pwy bynnag a’i taniai, eithr syrthiasai pob un cyn cyrraedd y clawdd. O’r diwedd daeth tanc ymlaen i helpu’r milwyr, gan ystwrio’n afrosgo dros y tir anwastad. Wrth weld y tanc daeth gobaith newydd i’r milwyr, oherwydd teimlent nad oedd dim byd a’i cadwai ef yn ôl. Aeth ymlaen yn syth at y lle’r oedd y gwn peiriant yn tanio, ond cyn iddo gyrraedd y clawdd rhedodd un o’r Jerries allan tua’i ffos ei hun. Saethwyd ef cyn iddo fynd hanner dwsin o lathenni, eithr daliai’r gwn i danio o hyd: yr oedd un o filwyr y gelyn beth bynnag am sefyll hyd y diwedd. Daliodd i danio nes i’r tanc godi’i ben blaen ar y clawdd a thynnu’i dunelli trwstan dros y fan a distewi’r saethu a mathru’r saethwr. Yna aeth y tanc yn ei flaen dros gorff y milwr arall gan ei wasgu’n slachdar i’r ddaear.

Âi Manod a nifer o filwyr eraill ymlaen yng nghysgod y tanc. Toc daeth nifer o filwyr y gelyn allan o’u ffos, a thybiai Manod mai eu rhoi eu hunain i fyny yn garcharorion oedd eu hamcan; ond taniodd saethwyr y tanc i’w canol gan eu medi.

A dead Boche is a good Boche,” meddai un o’r milwyr.

Wrth nesáu at ffos y gelyn gwelent fod y gynnau mawr wedi torri bylchau yn y gwifrau; aethant drwyddynt ac i’r ffos gan adael i’r tanc fynd ymlaen i’r ffos nesaf. Gwnaethid difrod ofnadwy ar ffos y gelyn, ac yr oedd yn anodd credu bod neb wedi byw drwy’r cyfan; eithr aethai’r rhan fwyaf i lawr i’r dug-out, a dyfod i fyny wedi i’r storm dawelu. Yr oedd rhai a’u dwylo i fyny yn gofyn am eu cymryd yn garcharorion; ceisid eu crynhoi a’u rhoi yng ngofal rhywun i fynd â hwy allan o’r frwydr. Gwelodd Manod ddau ohonynt yn mynd heibio a’u dwylo i fyny, ond troes yn sydyn pan glywodd ergyd yn ei ymyl a gweled un o’r ddau yn swp ar y ddaear wedi ei saethu.

“ ’Roedd e’n mynd i daflu bom pan nad oedd neb yn edrych,” meddai milwr yn ymyl Manod. “Dyna ddiwedd ar ei drics e. Efalle y byddai’n well saethu’r bastard arall.”

Ond am fod yr ail yn ymddangos yn awyddus iawn i fynd cyn belled ag y gallai o’r lle gadawyd iddo fynd mewn heddwch.

Nid gwaith hawdd oedd clirio’r ffos. Yr oedd rhai o filwyr y gelyn o hyd yn y dug-outs, ac oni ddeuent allan yr unig beth i’w wneud oedd taflu bom i lawr a gadael iddi wneud ei gwaith. Nid oedd pob un chwaith yn awyddus i’w roi ei hun i fyny heb ymdrech, ac am fod y ffos yn igam-ogam yr oedd yn rhaid bod yn ofalus iawn wrth fynd heibio i’r corneli. Âi Manod ac Ifan ymlaen gyda’i gilydd, a phan ddaethant at gornel taflodd Manod fom i adran nesaf y ffos: wedi iddi ffrwydro aethant ymlaen yn ochelgar. Yn eu disgwyl heibio i’r tro yr oedd Almaenwr corffol a’i ddryll yn ei law. Mewn amrantiad camodd Manod o’r neilltu ac yn yr amrantiad hwnnw daeth holl ymarferiadau bidog y barics yn ôl iddo. Tynnodd y dryll yn ôl, ac â holl nerth ei ddwyfraich gwthiodd y fidog i fol ei elyn; daeth rhyw wich wan fel cwyn baban o’i enau, taflodd ei ddryll ei hun i ffwrdd gan gydio ym mhen y dryll a’i trywanai. Pan geisiodd Manod gael ei fidog allan ni allai am fod pwysau’r Almaenwr arni. Gwelai Almaenwr arall yn nesáu, ac yn ei benbleth daeth un o gynghorion y barics i’w gof,—taniodd ei ddryll a rhyddhaodd hynny’r fidog. Eithr cyn iddo gael amser i baratoi ar gyfer yr ail yr oedd Ifan wedi dod i’w ochr a saethu hwnnw yn gelain.

Cyn iddynt orffen clirio’r ffos daeth ton arall o’u milwyr eu hunain atynt gan fynd ymlaen i’r ffos nesaf lle’r oedd y tanc a’r pelennau wedi paratoi’r ffordd. Mewn coedwig fechan ar y chwith wedi’i deifio gan y tân yr oedd ymladd ffyrnig rhwng y boncyffiau moel nes i gawod o belennau tân o ynnau’r Prydeinwyr ddileu’r dwyblaid yn ddiwahaniaeth. Tua hanner dydd ymosododd y gelyn er mwyn adennill y ffosydd ond chwalwyd ei filwyr gan y gynnau mawr.

Drwy’r prynhawn yr oedd y milwyr wrthi yn paratoi’r ffos ar gyfer ymosodiad, ac yn casglu’r lladdedigion. Yr oedd mwy o gyfle i ymgeleddu’r clwyfedigion a’u hanfon yn ôl i’r cefn, yn aml yng ngofal rhai o’r carcharorion. Câi’r milwyr flas ar archwilio’r ffosydd a dirgelion y dug-outs er iddynt gael eu rhybuddio ddigon i beidio â chyffwrdd â phethau rhag ofn mai maglau oeddynt. Yn hwyr y prynhawn dechreuodd brwydro rywle y tu blaen i’r ffos, a disgynnodd nifer o belennau arnynt hwy. Pan oedd y tanio yn mynd ymlaen cerddai un o’r milwyr ar hyd y ffos a gwelodd Manod ddarn o belen yn torri ei ben i ffwrdd yn glir o’i gorff. Safodd y corff am eiliad fel pe’n disgwyl i’r pen ddod yn ôl, a theimlai Manod yntau fel pe bai’n edrych ar gonsurwr cyfarwydd yn dangos tric. Yna ymollyngodd y corff yn un swp.

“ ’Rwy’n clywed y bydd ’na inspection yn y bore,” meddai Ifan wrth Manod gyda’r nos, “i weld fod popeth gyda ni.”

“Fe fydd gan rai lawer mwy nag oedd ganddyn nhw’n dod yma,” meddai Manod, gan gyfeirio at y rhai a oedd wrthi’n brysur yn casglu iddynt eu hunain y pethau a adawsid gan y gelyn.

“Mae’n debyg y bydd raid i mi siafo rywfodd, os ca i gyfle. Ond y dryll sy bwysica.”

“Ie,” ebe Manod, “y dryll sy bwysica,” a’i olwg yn symud ar hyd-ddi hyd at y fidog ar ei blaen.

“A pheth arall,” meddai Ifan a’i olwg yntau wedi mynd at y fidog, “mae’n rhaid glanhau pob tamaid o waed. ’Dyw’r general ddim yn leicio gweld hwnnw.”

“Dyna pam mai’r rhan fwya ohonyn nhw yn marw yn eu gwely.”

“Dyna,” meddai Ifan, “dyna fel y leicien inne farw.”

“Ond beth bynnag amdanyn nhw, fe feddyliwn i mai gore po fwya o waed fyddai arnon ni.”

“Fel arall mae hi, welwch chi, ac wedi’r cwbwl ’dyw e ddim yn edrych yn neis ar gylleth. ’Rwy’n cofio i fi gael cyngor pan ddechreues i ladd moch, a dyma fe, ‘Cofia lanhau dy gylleth. Bwtshwr gwael sy ddim yn cadw’i gylleth yn lân’.”

XVIII

Cyn bo hir daeth tawelwch dros y ffrynt a chyfle i’r preswylwyr newydd ymsefydlu. Cawsant fod y ffosydd yn ddyfnion ac yn sychion, a’r dug-outs yn helaeth a chysurus; ac ni phoenai neb am fod drws y dug-out yn wynebu’r gelyn ac y gallai ergyd lwcus oddi wrtho anfon pelen yn syth trwy’r drws. “Siawns mewn mil,” meddent, gan edrych ymlaen at orwedd yn dawel a chynnes.

“Dyma’r Hindenburg Line, onte fe?” meddai Ifan ryw ddiwrnod.

“Ie, medden nhw,” atebai Manod, “ond Hindenburg neu beidio, ’roedd pwy bynnag wnaeth hon yn gwybod ei job.”

“Ie, yr Hindenburg Line,” meddai Ifan yn freuddwydiol. “Wyddoch chi beth?” meddai wedyn, “mae ’na hen ddyn bach gartre yn sôn o hyd am yr amser yr oedd e’n gweithio ar y ffordd haearn, ar y Southern Line. Y Southern Line yw popeth.”

“Ond fe gaiff pobol y plwy wybod am lein arall pan ewch chi’n ôl.”

“Fe ellwch chi fod yn siŵr o hynny. Nid pawb sydd wedi trafaelu ar yr Hindenburg Line.”

“Fe ewch â chlod yr hen ddyn bach i gyd.”

“ ’Roedd yn bryd i rywun dorri tipyn ar ei grib e. Ond yn wir, y mae yma le braf.”

Buwyd wrthi yn hir yn casglu’r pethau a adawsai’r gelyn yn ei frys, a’u dosbarthu cyn eu hanfon yn ôl. Eithr cadwai’r milwyr lawer o’r pethau yn souvenirs. Yr oedd cael oriawr yn beth mawr iawn, neu ysbienddrych, neu bistol; ond er bod Manod yn medru edrych ar gyrff meirw’r gelyn yn hollol ddidaro, ni fynnai chwilio’r cyrff am rywbeth gwerth ei gadw. Nid oedd ball ar ysfa gasglu rhai o’r milwyr: casglent bob math o offer a llestri, a chael gan wŷr y transport y tu ôl i’r lein ofalu amdanynt nes dod cyfle i fynd â hwy adref i Brydain. Gofynnid i’r rheini mewn smaldod ambell waith a oeddynt yn dechrau dodrefnu tŷ.

Un diwrnod cododd Manod lyfr tâl rhyw Almaenwr marw; aethai rhywun drwy ei bocedi a thaflu’r llyfr i lawr fel rhywbeth diwerth. Yr oedd yn y llyfr lythyrau a dderbyniasai’r milwr, ac yn eu plith lythyr mewn llaw plentyn. Cadwodd Manod y llyfr, ac edrychai arno’n aml gan geisio dyfalu sut ddyn oedd yr Otto Schmidt hwnnw, ac er bod mur yr iaith rhyngddo ag ef dechreuodd dynnu darlun ohono yn ei feddwl. Eithr rhyw ddydd pan ofynnodd y sarjant iddo am ei lyfr tâl rhoes lyfr yr Almaenwr iddo mewn camgymeriad.

Be careful in future,” meddai’r sarjant, “or you’ll be shot as a bloody spy,” ac anghofiodd Manod ofyn am y llyfr yn ôl.

Pan aeth y fataliwn allan o’r lein am dymor o orffwys arhosent mewn pentref bychan yng nghanol y wlad,—rhyw ychydig o dai o boptu ffordd droellog, ac eglwys yn y canol. Cysgai cwmni Manod ar wellt mewn ysgubor ar gwr y pentref, a’r noson gyntaf wedi iddynt gyrraedd disgynnodd bom yn yr ymyl gan siglo’r adeilad a pheri i’r plastr syrthio o’r muriau. Pan ddihunodd Manod gan y sŵn cafodd fod rhywun wedi goleuo cannwyll, ac yn ei golau gwan gwelai’r lle yn ddu gan lwch, ond wedi deall mai o agennau’r muriau y daethai’r llwch troes pawb i gysgu drachefn.

Erbyn y bore cafodd Manod fod ei nod cap ar goll, ac er twrio a thwrio yn y gwellt nis cafodd. Bu’n llawn pryder drwy’r bore, nid oherwydd ofn unrhyw gosb ond oherwydd mai’r genhinen bres honno oedd y nod a gawsai pan aethai i Caterham gyntaf. Dilynai’r siom ef drwy’r bore, a mawr oedd ei lawenydd pan gafodd y nod hanner dydd o dan wellt yr ysgubor. Gyda’r nos gwelodd Manod fintai o Chineaid a oedd yn gweithio ar y ffyrdd yn mynd â’u blancedi tua’r coed i gysgu yno wedi cael eu brawychu gan y bomio’r noson cynt. Yr oeddynt wedi’u cynhyrfu a siaradent drwy’i gilydd yn eu hiaith eu hunain. Daeth Ifan yno o rywle, ac wrth fynd heibio i’r ddau Gymro edrychai rhai o’r Chineaid arnynt gyda’u llygaid culion yn eu hwynebau difynegiant.

“Mae nhw’ mhellach oddi cartre na ni,” ebe Manod.

“Ydyn,” ebe Ifan.

“Mae nhw’n edrych fel pe baent ar goll,—ddim yn gwybod pam y mae nhw yma.”

“Ie, dyna beth sy’n eu gwneud nhw’n wahanol i ni.”

“A wyddon ni ynte?”

“ ’Rydych chi’n dweud pethe rhyfedd ambell waith,” ebe Ifan.

Fel arfer pan fyddent allan o’r lein cawsant atgyfnerthion o’r ail fataliwn yn Lloegr. Teimlai’r hen filwyr fel rheol yn oeraidd tuag at y newydd-ddyfodiaid oherwydd eu bod yn cymryd lle cyfeillion a gollasid, a’u bod hwy eto heb selio’u cymundeb yn enbydrwydd y lein. Bob amser yr oedd rhyw is-swyddog yn sicr o weiddi wrth eu gweld, “Thank God, we’ve got a navy,” ac ar ôl hynny teimlai pawb yn well rywfodd.

Er bod y lein yn agos iawn yr oedd y Ffrancod wrthi’n trin y tir fel pe bai popeth yn mynd ymlaen fei arfer,—i fyny ac i lawr, yn ôl ac ymlaen, yn hen ffordd ddigyfnewid plant y tir. Cofiai Manod iddo ef ddweud wrth Ned Beynon unwaith o weld Ffrancwr yn gweithio yng ngolwg y lein,—

“Dyna beth yw dewrder i chi.”

“Mae’n eitha tebyg,” atebai Ned yn sychlyd, “mai spy yw’r diawl wedi’r cwbwl.”

Yr oedd yn dywydd braf, a gellid casglu oddi wrth lythyrau Manod ei fod ar ben ei ddigon. Yn y lein nid oedd llawer o amser i ysgrifennu, a’r rhan amlaf defnyddiai field-card, sef cerdyn post a nifer o frawddegau wedi’u hargraffu arno, fel “I am quite well. Letter follows at first opportunity. I have been admitted into hospital,” ac yn y blaen, a gellid croesi allan y brawddegau nid oedd yn gymwys. Os ysgrifennid llythyr ni chaeid yr amlen oherwydd yr oedd yn rhaid i’r sensor edrych drosto a’i gymeradwyo neu ddileu rhywbeth ni ddylai fod ynddo. Ond os ceid amlen werdd gellid cau honno, ac ni ddeuai’r llythyr dan lygad y sensor, er y dywedid yr agorid rhai yma ac acw o’r amlenni gwyrdd hyd yn oed.

Mewn amlen werdd yr ysgrifennodd Manod ar ôl bod allan un prynhawn yn golchi eu sanau mewn llyn bychan heb fod ymhell o’r pentref. Yr oedd newydd gael parsel oddi cartref, ac ar ôl golchi’r sanau a’u hongian ar gangen a bwyta rhan o gynnwys y parsel syrthiodd i drymgwsg. Dihunwyd ef gan ryw gynhyrfiad yn y ddaear, ond cyn iddo gael amser i ddyfalu’r rheswm am hynny gwelodd fuwch yn pori wrth ei ben mor hamddenol â phe bai hi’n hollol gyfarwydd â gweled cyrff ar hyd y lle. Y funud honno canodd y gwcw ar bren y pen arall i’r llyn. Rhoddes hanes y prynhawn yn y llythyr, gan ei wneud yn debyg i lythyr rhywun ar ei wyliau haf yn ysgrifennu adref. Sibrydodd wrtho’i hun bennill olaf cân Ceiriog,

“O diolch iti gwcw

  Ein bod ni yma’n cwrdd;

Mi sychais i fy llygad

  A’r gwcw aeth i ffwrdd,”

ond ni roddes hwnnw yn y llythyr.

Erbyn hyn symudasai cwmni Manod o’r ysgubor i adeilad arall lle’r oedd gwelyau wedi eu gosod un uwchben y llall yn drioedd. Cysgai ef ar yr uchaf o dri, ac yno y cadwai ei holl feddiannau. Nid oedd Manod yn smocio, ond pan ddeuai’r dogn sigarets i’r milwyr cymerai hwynt bob amser gan eu rhoi i rywrai. Yr oedd milwyr eraill heb fod yn hoff o jam a phan ddeuai dogn o hwnnw byddai rhai yn barod i’w gyfnewid am sigarets; felly y crynhoesai Manod stôr dda ohono. Pan aethant i’r gwely un noson bu cynnwrf mawr yn yr ail wely oherwydd bod dau bot jam yng ngwely Manod wedi troi ac arllwys eu cynnwys triaglaidd ar flancedi’r milwr oddi dano. Wedi estyn ei law i deimlo’r gwlybyrwch a gwybod pa beth ydoedd dechreuodd areithio’n huawdl, fel y clywai’r holl ystafell, ar neilltuolion annymunol pob bwytawr jam, a phan atgoffawyd ef fod y cwmni’n mynd i gael bath drannoeth y cwbl a ddywedai oedd,

Not all the blooming oceans could wash this bloody stuff.

Drannoeth aethpwyd â’r cwmni i bentref arall i gael golchi’u crwyn a dileuogi’u dillad. Ar y ffordd sylwodd Manod ar gantîn helaeth gan benderfynu mynd yno pan gâi gyfle. Un hwyr dechreuodd ef ac Ifan gerdded tuag yno, a chyda’u bod yn cychwyn goddiweddwyd hwy gan ffermwr yn ei gert. Derbyniasant ei wahoddiad i fynd i’r gert ac wedi cael lle i eistedd ceisiasant dynnu rhywfaint o sgwrs fel y gallent. Yr oedd y Ffrancwr yn ŵr llithrig ei barabl ond ni fedrai Manod gael pen llinyn ar ei ffregod. Ceisiodd ganmol y ceffyl a gofyn a ydoedd yn “bon cheval,” ac fel pe i roi ateb i’r cwestiwn dechreuodd y gyrrwr ddefnyddio pastwn byr ar y ceffyl gan beri iddo godi trot. Gwegiai’r gert drwyddi, ond yr oedd yn amlwg nad oedd digon o ysbryd yn y ceffyl i ddal ati’n hir.

O’u blaen yr oedd milwr arall yn cerdded, a phan droes yn ôl wrth glywed y sŵn gwelodd y lleill mai nod yr R.A.S.C. a oedd arno. Pan gododd ei law gan beri i’r ceffyl aros gwahoddwyd ef i fyny at y lleill.

Bon jour, m’sieur,” meddai gan droi at y gyrrwr wedi iddo gael lle i eistedd, “bon jour, m’sieur.” Gan droi at y ddau arall, “Some turnout this, eh? How far does the thing go?” Yna gan edrych arnynt yn graff, “Efalle mai Cymry ych chi?” Wedi cael amnaid gadarnhaol gan y ddau, aeth ymlaen, “Wel, Cymro ydw inne hefyd. Mae rhai am gadw’r Cymry gyda’i gilydd, ond mae’n well gen i eu cael nhw ar hyd y lle fel hyn, wedyn fe ellwch gwrdd â Chymro yn rhywle. Ond pwy yw my nabs?” meddai gan bwyntio at y gyrrwr. Dechreuodd hwnnw ddweud rhywbeth, ond aeth y milwr ymlaen, “San fferi an; siwrnai siawns, mae’n debyg. Wel, gan ein bod ni’n ymladd drostyn nhw waeth i ni gael ambell reid am ddim. Ie, reid am ddim; wyddoch chi’n bod ni’n talu iddyn nhw,” gan bwyntio at y gyrrwr eto, “am bob lle y byddwn ni’n cysgu, talu am le pob camp, talu am y trenches, ag am le bedd am a wn i? ’Does dim llawer o bethe am ddim yn y wlad yma.” Yr oedd y Ffrancwr am le i ddod i mewn; edrychai’n erfyniol ar y ddau arall, ond yr oeddynt hwy mor ddiymadferth ag yntau. Yn sydyn yng nghanol ei barablu arhosodd y milwr gan rythu ar Manod.

“Nid Manod Brynafon?”

“Ie.”

“Wyt ti ddim yn fy nghofio i?”

Ar unwaith sylweddolodd Manod na allai’r trwyn miniog hwnnw na’r barabl lifeiriol honno berthyn i neb ond Dan Powell a fuasai’n was gyda’i ewythr yn y Lluest.

“Sut mae pawb yn y Lluest? ag yn y plwy? ’Dyw hwn ddim o’r plwy?” gan amneidio i gyfeiriad Ifan. “ ’Rown i’n meddwl, ond mae’r co yn dechre pallu; fe ddylwn i fod wedi dy nabod di ar unwaith. Fe rown i lawer am gael bod nôl yn y Lluest eto, a chael tarten fale dy fodryb. Ydy’r cel glas yno o hyd? Dyna i chi geffyl,” meddai, gan apelio at y tri yn gyffredinol, “ceffyl ffit i gerdded trwy Berlin ar ddiwedd y rhyfel; weles i ’rioed un tebyg iddo. ’Dyw hwn ddim yn ffit i gael ei enwi ’run diwrnod ag e,” gan bwyntio at y ceffyl rhwng breichiau’r gert.

Tybiodd y Ffrancwr ei fod am dynnu sgwrs am y ceffyl drachefn, rhoes ei bastwn arno gan godi trot eilwaith. “Dyna fe, tout suite, m’sieur,” ebe Dan, “bant â’r cart,” a dechreuodd ganu “It’s a long way to tickle Mary, It’s a long way to go.” Tynnodd y Ffrancwr ei gap am ennyd gan gydnabod fod gan y dôn rywbeth i’w wneud â Phrydain Fawr. “ ’Rych chi bois mewn mob cwshi,—dim ond glanhau ag edrych yn smart. Pwy sy’n edrych ar eich ôl chi? Fe ddweda i,—y pŵr R.A.S.C.”

Ni chafodd y lleill fawr o gyfle i wneud dim ond amneidio â’u pennau nes cyrraedd y pentref.

“Wel, bois,” meddai Dan, “mae yma gantîn go dda, fe gawn dipyn o bompadour fritz,—pompadour fritz,” meddai eilwaith gan edrych ar y Ffrancwr. “Y gwaetha o’r bobol yma yw nad ŷn nhw ddim yn diall eu hiaith eu hunen bob amser, ie, pompadour fritz, a thipyn o vong blong ar ôl hynny,—vong blong,” drachefn wrth y gyrrwr a gwenodd yntau.

Wedi iddynt ddisgyn cynigiodd y tri dalu i’r Ffrancwr, ond ni chymerai ddim, ac fel rheswm am hynny tynnodd o’i boced lun bachgen ieuanc yn nillad milwr Ffrengig, a phwyntio tua’r ffrynt gan ysgwyd ei ben yn drist.

Non bon la guerre,” meddai Manod.

Non bon,” atebai’r Ffrancwr yn dristach fyth.

No bloody bon,” ebe Dan Powell, gan gloi’r mater yn yr hen ddull.

Yn y cantîn cafodd y ddau glywed o enau Dan ymdriniaeth huawdl ar gwrs tebygol y rhyfel a diffygion y cadfridogion. Yr oedd yn hwyr pan ffarweliwyd ag ef ar y groesffordd lle y gwahanai’r ffyrdd. Ar ôl ymadael clywent Dan yn canu ar y ffordd,

And when we get to Berlin,

The Kaiser he will say,

Hoch, hoch, mein Gott,

What a bloody fine lot

Are the boys of the A.S.C.

“Dyna ddyn am siarad,” ebe Ifan, “fe allech feddwl mai fe oedd Douglas Haig fel ’roedd e’n planio pethe.”

“Siarad yw’r peth gorau wnaiff Dan,” meddai Manod.

“Fe ellid meddwl wrtho fe mai’r A.S.C. sy’n ennill y rhyfel. Fe fues i bron â dweud wrtho ein bod ninne yn ein ffordd wedi cwrdd â Germans.”

“Fyddai waeth i chi beidio; fe fyddai gan Dan ryw stori amdano yntau yn lladd Germans.”

“Byddai’n siŵr,” meddai Ifan, ac yna ymhen tipyn, “ond fe ddyle fod rheswm hyd yn ôd ar ddweud celwydd.”

Bore trannoeth sylwodd Manod fod dolur ar ei goes yn edrych yn llidiog. Teimlasai ryw gosi yno yn y lein, ond ni chymerasai fawr o sylw ohono, a hyd yn oed wedi dod allan o’r lein yr oedd rhyw anfodlonrwydd mynd at y meddyg nes y byddai’n rhaid iddo. Beth bynnag, penderfynodd fynd y bore hwn. Yr oedd nifer i weld y meddyg bob bore, a rhai yno’n weddol gyson gan obeithio y byddent yn ddigon ffodus i dwyllo meddyg newydd neu i berswadio’r hen drwy eu taerineb. Pan welodd y meddyg y dolur ar goes Manod gorchmynnodd iddo fod yn rhydd o bob gwaith a pheidio â gwisgo puttees. Ar ôl bod felly am rai dyddiau heb ddim llesâd anfonwyd ef i ysbyty yn ymyl Rouen.

Yr oedd yno bebyll a chabanau, a phawb yn yr ysbyty yn dioddef gan ryw anhwyldeb ar y croen,—brech neu darddiant neu ddolur. Mewn un adran, wedi eu cau i mewn gan wifrau fel carcharorion, yr oedd y milwyr a gawsai haint y butain, a dywedid pa sawl mil a oedd allan o’r lein yn barhaus oherwydd y clefyd hwnnw. Er bod rhyw deimlad o ryddhad ac ymwared wrth adael y lein profodd Manod fel llawer eraill mai po bellaf yr âi mwyaf o bethau annymunol a ddeuai i’r golwg,—yr anhwylderau ffug, a’r ystrywio i osgoi mynd i’r lein, a’r sôn am yr anghyfartaledd mawr yn aberth y bobl gartref. Ar adegau teimlai fod perygl a dinistr y ffrynt fel curlaw yn golchi’r budredd ymaith, a dinoethi’r glendid oddi dano.

Cyn i Manod fod yn yr ysbyty yn hir daeth si bod y lle i gael ei glirio oherwydd disgwyl ymosodiad mawr rywle ar y ffrynt a bod eisiau’r gwelyau yn barod i’r clwyfedigion. Ymddangosai fod gwir yn y si, oblegid daeth meddygon oddi amgylch gan anfon y rhai a oedd ar wellhad i wersylloedd cyfaddas, a’r lleill dros y dŵr yn ôl i Brydain. Pan welodd Manod y geiriau “Hospital Ship” ar ei gerdyn ni fedrai gredu’r peth o gwbl, a theimlai fel un yn ofni dihuno o freuddwyd melys yr holl ffordd i Le Havre, a hyd yn oed ar y llong. Wedi cyrraedd y cei yn Southampton y sylweddolodd yn llawn yr hyn a ddigwyddasai.

Ar y llong ac ar y trên yr oedd dyfalu mawr ymhlith y clwyfedigion a’r anafusion i ba le yr anfonid hwynt. Âi rhai mor bell â dweud eu bod am haeru mai brodorion o’r fan a’r fan oeddynt hwy er mwyn cael eu hanfon i le neilltuol; eithr teimlai’r rhan fwyaf mai gorau po agosaf i gartref y caent le. Gobeithiai Manod mai i rywle yng Nghymru yr anfonid ef, eithr yn Dorchester yr arhosodd y trên, a dygwyd yntau a milwyr eraill i’r ysbyty lle y cawsant lwyr ymolchi a phrofi moethusrwydd anhraethadwy gwely esmwyth a dillad glân.

Rhes o bebyll mawr ar y maes ar gwr y dref oedd yr ysbyty, ac oherwydd mai dyddiau braf Mehefin oedd hi codid ochrau’r pebyll yn y dydd, a gellid gweld o’r gwely dawelwch digyffro caeau a choed. Deuai’r nyrsus yn eu tro i drin y doluriau â’u dwylo medrus; deuai hefyd o dro i dro swyddogion uchel i ymweled â’r ysbyty, ac un dydd daeth cadfridog enwog a’i frest yn frith gan rubanau. Eithr swyddogion neu beidio yr oedd gofal y nyrsus yn ddiflino a phopeth yn ddifrycheulyd. Ar ôl deng niwrnod cafodd Manod godi tua hanner dydd, ac yna yn fuan iawn godi yn y bore a myned oddi amgylch yn nillad glas yr ysbyty. Hoffai Manod fynd i’r dref i’r farchnad ddydd Mercher i wrando ar acen ddieithr pobl y wlad, a mynd i weled hynafiaethau’r dref a’r cylch, a rhyw synddyfalu yn y tes ynghylch hanes Maiden Castle—yr hen wersyllfa enfawr honno yng nghyffiniau’r dref, a darllen nofelau Garvice a Gould o lyfrgell yr ysbyty gan anghofio’r nofelydd mawr a oedd yn byw ym Max Gate.

Cwmni llawen oedd cwmni’r ysbyty. Yr oedd un milwr yn ddiarhebol am gysgu’n hir y bore, ac un tro aeth y lleill â’r gwely allan i ganol y maes y tu allan i’r babell a gŵr y gwely’n cysgu drwy’r cwbl. Gwylient y gwely o bell i weld beth a ddigwyddai, ond yn union deg daeth ci’r meddyg allan i’r cae a phan welodd y gwely o’i flaen rhuthrodd ato gan gymryd naid a disgyn yn sydyn ar ben y cysgadur. Neidiodd hwnnw allan o’r gwely yn ei ddillad nos gan roddi’r sgrech fwyaf ofnadwy a glywsai neb. Dywedodd ar ôl hynny iddo gredu am eiliad fod un o belennau mawr y gelyn wedi disgyn arno’n syth.

Ar ben tair wythnos wedyn cafodd Manod ei ddillad khaki a gwyddai fod hynny’n dynodi symud i wersyll rhai ar wellhad. Yr oedd y gwersyll yr anfonwyd ef iddo yn ymyl Plymouth. Treuliodd yno bythefnos ddidaro yn gwneud gwaith ysgafn yn y gwersyll a chrwydro’r wlad oddi amgylch. Wrth dreulio prynhawn ar lan y môr dan gerflun Syr Francis Drake teimlai fod y rhyfel a’i anghysuron ymhell iawn; eithr cofiai drachefn mai rhyw werddonau ar wasgar yn yr anialwch oedd y mwynderau hyn, a bod sŵn y ddrycin rywle yn y pellter.

Ar ôl pythefnos yn y gwersyll hwn barnwyd bod Manod yn barod i gyflawn waith milwr unwaith yn rhagor, ond cyn ymuno â’i fataliwn yn Llundain cafodd saith niwrnod gartref. Yr oedd y daith yn faith a’r aros yn hir. Yn Whitchurch yng nghanol nos yr oedd ganddo ryw bum awr i aros am drên Aberystwyth. Cafodd gerbyd o’r neilltu a cheisiodd ei wneud ei hun mor gysurus ag y gallai yno. Mewn un cornel yr oedd milwr arall yn lled-orwedd yn swrth; dechreuodd Manod dynnu siarad ag ef ond atebion cwta a gafodd. Ymhen tipyn daeth gŵr rhadlon i mewn, a chan fod ar hwnnw awydd siarad aethpwyd drwy rannau arweiniol yr ymddiddan yn fuan iawn, sef pwy oeddynt a pha beth a’u dygasai i’r fan honno. Cafodd Manod mai ffermwr o sir Drefaldwyn oedd y gŵr dieithr, wedi bod yn rhoi tro am ei ferch yn Lloegr. Pan glywodd y milwr yn y cornel hwy’n siarad yn Gymraeg collodd yntau beth o’i syrthni. Dywedodd ei fod yn mynd adref wedi bod yn gweld ei wraig ym Manceinion a chael ffrae boeth cyn ymadael, ar ôl hynny ni ddaeth oddi wrtho ond ambell ebychiad yn awr ac yn y man.

“A fuoch chi allan o’r wlad yma?” gofynnai’r ffermwr.

“Do,” ebe Manod.

“Yn Ffrainc?”

“Ie.”

(“Ffrainc a’r Dardanelles,” meddai’r milwr yn y cornel).

“Gawsoch chi’ch clwyfo?”

“Do, ond nid hynny ddaeth â fi adre. Tipyn o salwch, fel ’roedd hi’n digwydd.”

“Fe welsoch dywydd caled?”

(“Bloody awful”).

“Wel, ’dyw hi ddim yn bicnic bob amser, ond os peidiwch chi â meddwl am y peth ’dyw hi ddim yn rhy ddrwg.”

“Ie, dyna fo, meddwl am y peth.”

“Ydy, mae’r meddwl yn gneud llawer o wahaniaeth. Nid y corff sy’n diodde fwya, ac mae’r corff yn fuan iawn yn cryfhau digon i ddal popeth newydd.”

“Neu’n torri i lawr?”

“Ie, neu’n torri i lawr. Ond os dechreuwch chi feddwl am bethe fe fyddwch yn anghysurus o hyd.”

(“Nid y fi oedd ei dad e. ’Roedd hynny’n amhosibl”).

“Mae’n debyg mai peidio meddwl sydd orau ynte.”

“Ie; pan ddechreues i yn y fyddin ’roedd meddwl am gartre a meddwl am y gwahaniaeth yn ddigon i’m lladd i, ond o dipyn i beth fe ddeuthum i beidio â meddwl.”

“Dyna’r unig beth i’w wneud.”

“Ie, am fod meddwl yn rhy boenus. A chofiwch chi, nid y peth mae’r corff yn ei ddiodde yw’r diodde mwya sydd yn y rhyfel yma, er bod ’na bethe go erchyll yn digwydd i gyrff dynion yn y ffrynt, ond y llethu sydd ar ysbryd dyn, a’r dirywiad yn hwnnw.”

(“ ‘Strangle the bloody thing,’ mynte fi, ‘I’m not going to rear him’.”)

“A chan mai diodde’r meddwl yw’r diodde mwya, nid y chi’r rhai sydd allan yn y rhyfei yw’r unig rai sy’n diodde. Mae ’na rai gartre sy’n diodde hefyd.”

“Fe wn i hynny,” ebe Manod.

“Mae ’na ddyn yn ein hymyl ni a’i unig fab yn y rhyfel. Mae’r dyn yna yn meddwl am y bachgen ddydd a nos, ac yn marw o ddydd i ddydd. A ddwedwch chi wrtha i nad yw hwnnw’n un o’r rhai a laddwyd yn y rhyfel. Mae cysgod y rhyfel ar bobman, a llawer o chwalu gartre yma.”

(“ ’Roedden ni mor hapus hefyd; ond os daw e rywbryd i gwrdd â fi fe fydd yna un cythrel yn llai”).

Gwelodd y milwr yn y cornel fod y ddau arall yn edrych arno, ac meddai,

“Dyna beth gefes i wedi dod adre.”

Ar hyn daeth porter at y cerbyd ac meddai wrth y milwr,

Here’s your train, chum, just coming in, and don’t worry too much about that business. It’s a bloody shame, though,” meddai gan droi at y lleill.

Aeth y tri allan i chwilio am eu trên.

O’r diwedd cyrhaeddodd Manod Aberystwyth, ac wedi galw yn ei hen lety a gweld rhai o’i hen gyfeillion cafodd drên i Dregaron. Yr oedd ei dad yno yn ei ddisgwyl yn y cerbyd a’r gaseg felen. Edrychai’r wlad ar ei gorau,—a phob hen lecyn cynefin ar ei hwyneb digyfnewid yn dwyn cysur i’w phlentyn.

“ ’Dyw dy fam ddim yn rhyw dda iawn,” meddai ei dad ar y ffordd adref, ond pan welodd Manod hi’n eistedd wrth y tân ar ôl mynd i’r tŷ daeth gofid i’w galon o weled y newid a oedd arni, a daeth geiriau’r ffermwr i’w gof, “y mae yna rai’n diodde gartre hefyd.”

“ ’Rwy’n teimlo dipyn bach yn wanllyd heddi weldi,” meddai ei fam.

“Ond fe ddowch yn well cyn diwedd yr haf,” ebe Manod, ac yna i droi’r siarad, “ond b’le mae Bob?”

“Mae’r hen gi wedi mynd,” meddai ei fam, “fe edrychodd lawer i lawr ar hyd y cae yna, fel pe bai e’n disgwyl amdanat ti.”

XIX

Aeth y dyddiau heibio’n gyflym; o amgylch y tŷ y bu Manod y rhan fwyaf o’r amser. Gan fod rhai o’r milwyr yn dod adref yn amlach na’r lleill penderfynasai’r pwyllgor lleol a ofalai am gysuron y milwyr mai un cyfarfod croeso a drefnid i bob milwr. Cawsai Manod gyfarfod y tro cyntaf y daethai adref, ac oherwydd hynny ni threfnwyd un iddo; yr oedd yntau’n ddiolchgar am hynny. Un diwrnod cyfarfu â Sianco’r Celwydd Mawr ar y ffordd.

“Sawl German laddest ti?” meddai hwnnw.

“O, rhyw hanner cant,” meddai Manod ar unwaith gan deimlo mai nid twyll oedd twyllo twyllwr.

“Ie, hanner cant,” meddai Sianco a’i geg yn agored. “Ar yr un pryd?”

“O, nage,” meddai Manod, “un yn awr ac yn y man.”

“A faint o filwyr ych chi allan yna?”

“Rhyw filiwn.”

“Ie miliwn,—miliwn o filwyr; ag rwyt ti wedi lladd hanner cant.”

Er nad oedd cyfarfod cyhoeddus i fod disgwylid i Manod alw gyda thrysorydd y pwyllgor i gael ei gyfran o’r arian a rennid i filwyr y plwyf. Aeth yno un noson a chael croeso mawr a swper helaethwych. Yno clywodd fod Sianco wedi bod drwy’r ardal yn ceisio trefnu cyfarfod arbennig iddo oherwydd ei wrhydri, a’i fod wedi cyfrif pe bai pob milwr ym myddin Prydain wedi lladd cymaint o’r gelyn â bachgen Brynafon y buasai’r rhyfel drosodd ers misoedd. Dywedid ei fod yn bwriadu ysgrifennu at Lloyd George ynghylch y peth.

Nid gan y pwyllgor yn unig y derbyniodd Manod haelioni; estynnai hwn a’r llall roddion iddo yn arian neu rywbeth arall, ac erbyn diwedd yr wythnos ymddangosai’r rhyfel ymhellach nag erioed. Y bore olaf penderfynodd gerdded i’r orsaf a ffarwelio â’i rieni gartref. Cychwynnodd yn fore cyn bod neb bron ar y ffordd. Yr oedd aroglau gwair newydd ei ladd yn llenwi’r ardal fel y codai’r gwlith, a phopeth yn arwyddo diwrnod braf. Wedi teithio drwy’r dydd cyrhaeddodd Lundain yn yr hwyr, a chyn mynd i gysgu cafodd fod llawer o’i hen gyfeillion yn y gwersyll, a Ben Rowlands yn eu plith. Ymhen pythefnos daeth Morgan Richards hefyd yn ôl.

Dyddiau tawel, llonydd, oedd dyddiau olaf yr haf hwnnw: teimlid bod buddugoliaeth yn dod yn nes, a hynny’n lliniaru rhyw gymaint ar erwindeb bywyd y milwr. Eithr ar adegau gofynnai Manod ai efe ei hun a oedd wedi newid ac yn edrych ar bethau’n wahanol. Yn anfynych iawn er hynny y poenai ynghylch pethau felly gan gymryd dyletswyddau’r dydd fel y deuent. Câi gwŷr y B.E.F., fel y gelwid y milwyr a fuasai allan yn Ffrainc, amser cymharol esmwyth,—dim ond parêd yn y bore, ac amcan hwnnw yn bennaf oedd eu cadw rhag anghofio’r ymarferiadau a ddysgasent mor llwyr ar ddechrau’u gyrfa, a rhoi cyfle i swyddogion newydd arfer eu dawn. Ar ôl hanner dydd yr oeddynt yn rhydd i fynd allan i’r ddinas, ac ni ddisgwylid iddynt ddychwelyd i’r gwersyll cyn hanner nos.

Treuliai’r milwyr oriau ar oriau yn cerdded yn ôl ac ymlaen ar hyd rhodfeydd lluosog Hyde Park,—cerdded â’r swae honno a ddynodai’r Guardsman b’le bynnag y byddai. Yr oedd rhai milwyr bob amser o amgylch yr areithwyr amryfarn yn ymyl Marble Arch yn rhyw led-wrando ar opiniynau rhyfedd y genedl anghyfrifol honno. Treuliai’r lleill eu hamser i lygadu’r merched ar y seddau a’r rhodfeydd, gan eu hystyried yn ofalus fel prynwr profiadol yn pwyso a mesur y tebygolrwydd o fargen neu o losgi’i fysedd cyn mentro’r nwyddau.

Un hwyr pan oedd Manod allan gyda Morgan Richards gwelodd filwr a ddygid yn ôl i’w wersyll rhwng dau o blismyn y fyddin yn dianc i ffwrdd gan adael ei osgordd ar ôl. Neidiodd y ffoadur dros farrau haearn y glwyd ar ymyl y llwybr, ac yn groes i’r parc nes dod i rodfa arall. Yr oedd un o’r ddau blisman yn rhy dew i redeg llawer, ond canodd ei chwibanogl i alw plismyn eraill. Rhedodd y llall ar ôl y ffoadur. Arhosodd y dyrfa fel tyrfa’n gwylio ornest, ond tyrfa hollol amhleidiol nes i ryw lanc estyn ei droed allan gan faglu’r ffoadur, a chyn iddo fedru codi yr oedd y plisman ar ei warthaf. Wrth syrthio rhoes y milwr anffodus sgrech a oedd yn ddigon i beri i iasau gerdded drwy’r corff, ac ar ôl i bopeth dawelu teimlai Manod fel pe bai atsain y sgrech honno yn chwyrnellu ar draws heddwch y parc.

“Ys gwn i pam nad yw hwnna a’i baglodd e yn y fyddin,” ebe Manod.

“Ys gwn inne hefyd,” ebe Morgan. “Beth bynnag, ’doedd ganddo fe ddim hawl i roi’i big i mewn.” Yna ar ôl meddwl am ychydig, “Wyddost ti beth, ’dwn i ddim yn iawn be wnaethwn i pe bawn i yn ei le fe.”

Pan oedd Manod ar ei ffordd i ymweld â’i ewythr un prynhawn digwyddodd edrych i mewn drwy ffenestr siop oherwydd bod enw Cymraeg ar y ffrynt, ac er ei syndod gwelodd y tu ôl i’r cownter ferch a gofiai yn dda yn y Coleg,—Blodwen Davies. Pan nad oedd yr un cwsmer yn y siop aeth i mewn, ac yr oedd yn dda ganddo ei bod hithau’n ei gofio ef. Gwahoddwyd ef i’r tŷ, a dywedodd y ferch ei bod yn cymryd lle ei brawd a oedd yn y fyddin. Erbyn cael te a siarad am helyntion yr amseroedd ac am y dyddiau a fu, a’r forwyn yn gofalu am y siop, yr oedd yn rhy hwyr i fynd ymhellach, a throes Manod yn ôl i’r gwersyll.

Erbyn cyrraedd y caban cafodd Manod fod yno rialtwch mawr oherwydd bod Morgan Richards, Ben Rowlands, a dau filwr arall o Gymry wedi cael noson gyffrous yn y parc. Cyn belled ag y gallai Manod ddilyn y stori, yr oedd y pedwar wedi bod yn cael “glasaid neu ddau,” ac ar eu ffordd yn ôl wedi aros yn ymyl Marble Arch i wrando ar un o’r areithwyr wrthi’n profi nad oedd Duw yn bod. Dywedodd yr areithiwr rywbeth diraddiol am y ffyliaid dwl a gredai ym modolaeth Duw, “ag yna fe gofiais am nhad a mam,” meddai Ben Rowlands, “ag fe ddwedais wrth y lleill, ‘Amdano fe, bois’,” ac ar y diwedd yr oedd pulpud symudol yr anffyddiwr wedi’i chwalu ac yntau ar ffo, a phlisman neu ddau a rhai o bleidwyr yr areithiwr wedi cael triniaeth arw.

“Fe fyse’r hen ŵr y nhad yn leicio’n gweld ni wrthi heno,” meddai Ben, gan feddal-fyfyrio.

“Ysgrifenna ato,” awgrymai Morgan Richards.

“Na, mae e wedi mynd.”

“Wel, efalle ’i fod e wedi’n gweld ni drwy’r cwbwl.”

“Falle’n wir. Beth bynnag, fe brofon ni i’r whole bloody lot fod Duw yn bod.” Yna gan droi at Manod, “Yr wyt ti’n dawel iawn. Beth sy’n bod?”

“Dim byd,” ebe Manod.

“Dim byd, wir! Pan fydd rhywun yn edrych fel ’rwyt ti, ’does dim ond un o ddau reswm,—cwrw neu ferched, a ’dwy i ddim yn meddwl dy fod ti wedi dechre yfed.”

Prif ddyletswydd gwŷr y B.E.F. yn y gwersyll oedd bod yn warchodlu’r Brenin, y King’s Guard, unwaith neu ddwy yn yr wythnos. Yr oedd nifer o filwyr bob dydd yn gwarchod Plas Buckingham a Phlas St. James, ac i ran catrodau’r Guards a oedd yn gwersyllu yn Llundain y deuai’r gwaith hwn. Pan ddeuai tro’r Welsh Guards cyhoeddid enwau’r rhai a ddewisid y noson cynt. Wedi gweld bod ei enw ar y rhestr âi’r milwr ati i baratoi ar gyfer y gwaith, sef glanhau pob tipyn o’i wisg a’i gêr.

Y prif bryder ynglŷn â bod yn un o warchodlu’r brenin oedd yr archwilio a fyddai cyn iddynt gychwyn allan fore trannoeth. Deuai’r swyddog hynaf ar hyd y ddwy res o filwyr gan eu harchwilio o’r tu blaen ac o’r tu ôl,—edrych a oedd y gêr o liw’r clai yn lân, y pres ar flaen y cenglau yn disgleirio, botymau’r dillad yn fflachio, plyg y trowsus yn flaenllym, y gwallt wedi’i dorri, a’r dryll a’r fidog yn gwbl ddi-fai. Yr oedd diofalwch ac amryfusedd ar yr amgylchiad hwn yn bechod mawr a châi’r pechadur druan glywed rhagor am y peth. Tua naw o’r gloch ar ôl gorffen yr archwilio cychwynnai’r gwarchodlu allan o’r gwersyll ac ar hyd y stryd fawr, gan gerdded yn uncam ond pan fyddent yn croesi Pont Hammersmith. Yna aent gyda’r trên i orsaf Sloane Square.

Ar ôl dod allan o’r trên tynnid y bidogau a’u sicrhau ar ffroenau’r drylliau, ac yna ymdeithio tua’r Plas. Hoffai Manod yr ymdeithio rhwng yr hen dai parchus, a haul y bore’n goleuo’r bidogau ac yn anwesu gwychder y faner a ddygid o flaen yr orymdaith. Tyrrai’r bobl i’r’ palmentydd, a phob gŵr yn tynnu ei het a phob milwr yn saliwtio pan âi’r faner heibio. Teimlai Manod bob amser ryw falchder mawr wrth gerdded ar ôl y faner tua’r Plas, rhyw gyfriniaeth ddwys a dorrid yn awr ac yn y man pan grochlefai’r drill sergeant ar y plismyn i ddelio â rhyw filwr a oedd heb saliwtio’r faner. Yr oedd y sgwâr o flaen y Plas bob bore yn llawn o edrychwyr; ai’r un rhai oeddynt bob bore, ni wyddai Manod, ond yno’r oeddynt wrth yr ugeiniau a’r cannoedd. Cedwid lle clir i’r gwarchodlu gerdded i mewn drwy’r pyrth haearn i iârd ffrynt y Plas lle’r oedd yr hen warchodlu yn aros yn barod i drosglwyddo’r gwaith i’r gwarchodlu newydd.

Gyda bod y seremoni honno drosodd dechreuid ar y pedair awr ar hugain o wylio. Câi pob milwr ei safle; byddai’n gwylio am ddwyawr, yna câi bedair awr o orffwys nes dyfod ei dro drachefn. Yr oedd caban pren ar bob safle, caban digon o faint i gysgodi milwr mewn tywydd garw. Yn y caban yr oedd cyfarwyddiadau arbennig i’r gwyliwr ac un o’i ddyletswyddau cyntaf oedd ymgydnabyddu â’r cyfarwyddiadau hyn, oherwydd disgwylid iddo eu hadrodd pan ddeuai swyddog y gwarchodlu heibio. Gallai’r hen ddwylo adrodd yn rhugl y cyfarwyddiadau ar bob un o’r safleoedd.

Hoffai Manod un o’r safleoedd y tu allan i ffrynt y plas yn wynebu’r sgwâr. Gyda’i fidog ar flaen ei ddryll safai mor llonydd â delw faen ar y palmant o flaen ei gaban gan gerdded ambell waith yn ôl a blaen a chydsymud i’r dim gyda’r gwyliwr ar y safle nesaf. Un o anfanteision y safle ar ffrynt y plas oedd y saliwtio di-ben-draw ar adegau; disgwylid i’r gwyliwr saliwtio nid yn unig swyddogion ei wlad ei hun ond swyddogion pob gwlad arall. Medrai Manod adnabod swyddogion byddin Prydain yn weddol hawdd, eithr teimlai anhawster mawr i adnabod nodau swyddogion y llynges a’r awyrlu. Ynglŷn â swyddogion cynghreiriaid Prydain Fawr,—ac yr oedd llu ohonynt yn Llundain,—cawdel oedd y cwbl i Manod nes iddo o’r diwedd ddatblygu rhyw synnwyr a barai iddo saliwtio’r bobl iawn. “Os byddi di byth mewn amheuaeth, dyro saliwt,” meddai un hen filwr wrth Manod, “oblegid mae’n well i rywun sydd heb ei haeddu gael saliwt na bod trwbwl am beidio â saliwtio.”


I wneud pethau’n fwy dyrys fyth yr oedd saliwt arbennig, y present arms, i bob aelod o’r teulu brenhinol. Ni welsai Manod y brenin, a dim ond rhai o’i berthnasau, ac yr oedd y rhan fwyaf o’r gwylwyr yr un fath. Yr oedd gan hynny yn ystafell y gwarchodlu restr o aelodau’r teulu brenhinol a darluniau ohonynt. Ond gan fod y darluniau yn hen ac yn dangos Tywysog Cymru yn hogyn dengmlwydd, nid oeddynt lawer o help. O gofio hefyd mai nid ar ei draed y byddai’r brenin yn dod drwy’r porth ond mewn cerbyd, cerbyd caeëdig efallai, ymddangosai penbleth y gwyliwr yn anobeithiol. Anaml iawn, serch hynny, y byddai unrhyw anhawster oblegid gellid adnabod cerbyd y brenin; yr oedd y gyrrwr hefyd yn barod i roddi arwydd neilltuol, ac os methai popeth arall byddai plisman gwasanaethgar wrth law.


Nid y teulu brenhinol yn unig a oedd â hawl i’r saliwt arbennig. Hawlid hi gan swyddogion uchel fel y Cadlywydd Douglas Haig a Syr Francis Lloyd, pen swyddog rhanbarth Llundain, a chan gwmnïau neilltuol o filwyr arfog. Nid oedd yn rhyfedd i’r newyddian hwnnw ar ei wyliadwriaeth gyntaf wrth y plas, a’i ben yn gymysgfa o gyfarwyddiadau, roi’r present arms i gar post pan ddaeth hwnnw heibio i’r tro gydag arfbais y brenin yn disgleirio’n euraid ar ei ochr. Ni chlywsai neb am y peth, y mae’n debyg, oni bai fod y sarjant yn sefyll gerllaw.


Yr adeg ddistawaf oedd rhwng hanner nos a phedwar yn y bore. Câi’r hwn a fyddai’n gwylio yn union wedi hanner nos weld y crwydriaid olaf yn cyrchu i’w llochesau a’r ddinas fawr fel cysgadur anesmwyth ac afrosgo yn tynnu ei draed ato, heb ddim i dorri ar y tawelwch ond ambell sŵn dieithr a diystyr yn trymhau’r tawelwch,—ebychiadau’r ddinas gwsg. Ond câi’r hwn a fyddai ar ei wyliadwriaeth cyn pedwar weld egwan ymysgwyd dinas yn dihuno gan daflu’r tarth oddi amdani fel un a rôi heibio wisgoedd y nos gan roddi amdani fantell y goleuni.


“Pwy feddyliech chi welais i’n pasio mewn cart llaeth pan oeddwn i’n gwylio y tu allan i Buckingham Palace ddoe?” ysgrifennai Manod mewn llythyr adref. “Jonathan yr Hafod. Yr oedd ei enw ar y gart mewn llythrennau mawr, ond hyd yn oed pe na bai yno ddim byddai’n ddigon hawdd adnabod Jonathan; yr oedd yn symud yn ôl a blaen ac yn gweiddi ‘Tshi-yp’ ar y ceffyl yn hollol fel yr arferai wneud wrth fynd yn y trap i Dregaron. Fe fûm i bron â gweiddi, ‘Halt, Jonathan Harris,’ ond yr oedd yna lawer o bobol eraill o amgylch yr adeg honno. Fe gefais i yr address ar y gart, ac fe af i’w weld cyn diwedd yr wythnos.”

O dipyn i beth deuai pedair awr ar hugain yr wyliadwriaeth i ben, a throsglwyddo gofal y plas i gatrawd arall. Mynd drwy’r un seremoni ac allan drwy’r pyrth, a’r un hen dyrfa neu rywbeth tebyg iddi ar y sgwâr, ac yn ôl i’r gwersyll a chael gweddill y dydd i ddadluddedu. Hanner diwrnod dibryder i orffwys yn y gwersyll neu grwydro ar hyd Llundain; eithr i’r rhai y cawsid rhywbeth yn eu herbyn yn ystod yr wyliadwriaeth, hanner diwrnod a noswaith gyfan o hir ddisgwyl am y prawf fore trannoeth.

Yr oedd Morgan Richards yn yr un caban â Manod, ac anaml iawn yr âi ef allan. Gwyddai Manod felly y câi gwmni ar brynhawn gwlyb, a byddai Ben Rowlands hefyd yn sicr o ddod yno rywbryd cyn Lights out. Un hwyrnos ystormus yr oedd Morgan a Manod a llawer o’r milwyr eraill yn y caban, rhai’n lled-orwedd, rhai’n lled-ddarllen, ac eraill yn glanhau. Daeth un o filwyr y caban i mewn: yr oedd yn siaradus ryfeddol, a mynnai i bawb yno glywed stori a gwasai yn y cantîn. Stori front ydoedd, eithr yr oedd pawb yno yn gyfarwydd â storïau tebyg, ac yr oedd geirfa’r adroddwr yn peri chwerthin mawr cyn dod at ergyd y stori. Teimlai Manod bob amser yn anesmwyth wrth glywed y storïau hyn, a phan ddaeth diwedd y stori yng nghanol cymeradwyaeth fawr edrychodd o’i amgylch a gwelai ar ochr arall y caban filwr ieuanc yn darllen ei Feibl yn hollol ddisylw o bopeth arall. Gwelodd adroddwr y stori ef hefyd, a chyffrowyd ef oherwydd bod un yn y caban yn nacáu ei gymeradwyaeth. Cydiodd yn yr esgid a oedd wrth ei wely, a thaflodd hi at y llanc gan daro’r Beibl allan o’i law a gweiddi ar yr un pryd,

Don’t you like my bed-time story, mother’s darling?

Tybiai pawb ei fod wedi mynd yn rhy bell, ond ni ddywedodd neb air, hyd yn oed pan ddechreuodd y llanc grio. Gwnaeth hyn y storïwr yn fwy eofn a gwaeddodd ar y llanc,

Bring that bloody boot back.

Yr oedd yntau ar fin codi’r esgid yn ôl y gorchymyn pan aeth Morgan Richards ar draws y caban i’r lle’r oedd y storïwr yn eistedd ar ei wely,

Go and bring it back yourself,” meddai.

What the bloody hell has it got to do with you?

Yr oedd tawelwch mawr yn y caban erbyn hyn, a’r ddau yn llygadrythu ar ei gilydd. Gwyddai pawb, heb i neb fynegi hynny, fod teimlad y caban yn troi o blaid Morgan Richards, a gwyddai ei wrthwynebydd hynny hefyd. Aeth i gyrchu’r esgid gan geisio ysmalio, a llygaid Morgan arno o hyd, ac yn union aeth allan o’r caban.

“Hen goward mawr yw e yn y bôn,” meddai Morgan, wedi dod yn ôl i’w gornel.

Yn fuan ar ôl hyn daeth Ben Rowlands i mewn, ac adroddodd Manod yr hanes wrtho.

“ ’Rwyt ti’n dechre dod yn geidwad yr athrawiaeth,” meddai hwnnw wrth Morgan, “rhwng yr hyn ddigwyddodd yn y parc pwy noswaith a’r hyn ddigwyddodd yma heno.”

“Fe wnawn i’r un peth pe bai e’n darllen Twm Pain; fe ddyle’r crwt gael chware teg.”

“Waeth iddo roi heibio ’i Feibl, am a wn i, nes dod diwedd y rhyfel,” ebe Manod.

“Ie,” ebe Ben, “a phob caplan hefyd. Mae’n hawdd iawn gneud pregeth bob dydd Sul, ond a fu caplan yn siarad â thi erioed?”

“ ’Dwy ddim yn cofio.”

“ ’Dwy inne ddim yn cofio chwaith. Pe cawn i fy ffordd fe’u rhown i nhw i gyd yn y ranks i ymladd, ag fe wnawn yr un fath â phregethwyr sy’n cymell bechgyn i’r fyddin.”

“ ’Dwy ddim yn cytuno â chi, fechgyn,” ebe Morgan, a oedd wedi gwrando yn ddistaw. “Mae gen i syniad arall,—y dylai pob gweinidog ag offeiriad fod yn basiffist yr adeg yma neu golli’i swydd, a hynny er mwyn cadw tipyn bach o gariad yn y byd erbyn diwedd y rhyfel.”

“Ond oni wnâi hynny godi mwy o gasineb ac ymrannu rhwng pobol adeg y rhyfel?” gofynnai Ben.

“Beth bynnag,” ebe Manod, “mae’n ddigon gneud dyn yn sâl i glywed rhai ohonyn nhw’n sôn am grefydd yn y trenches ac am ganu hymnau a gweddïo cyn ymosod ar y gelyn, a lol fel hynny.”

“Ond mae’n rhaid i fi gyfadde,” meddai Morgan, “i fi weld cymaint o grefydd yn y trenches ag yn unman arall, hynny yw, gwir grefydd.”

“Ond nid yw hynny’n rheswm dros ryfel.”

“Nag yw ddim, wrth gwrs, ond rhyw sylw gyda llaw oedd hwnna. Fe leicien i weld pob gweinidog yn pregethu peth mor ddienaid yw rhyfel.”

“A pheth mor ffôl.”

“Ie, dyna ti wedi’i dweud hi. Mae’r rhai sydd yn erbyn rhyfel yn sôn digon am ei erchylltra fe, ond dim hanner digon am ei ffolineb e.”

“Ydech chi’n meddwl y bydd pethe’n wahanol iawn ar ôl y rhyfel?”

“Byddan, yn wahanol iawn; ond ’dyw hynny ddim yn dweud y byddan nhw’n well. Ond yr ŷn ni’n siŵr o un peth.”

“A beth yw hwnnw?” gofynnai Ben Rowlands.

“Fydd yna ddim rhyfel mawr rhagor,—mae hwn wedi rhoi diwedd am byth ar y ffordd yna o setlo cwerylon.”

“Ydyw, gobeithio,” meddai Manod, “am byth.”

Arhosodd y tri am ychydig uwchben y syniad hwn.

“Ac os nad yw e,” meddai Ben Rowlands, gan godi i fynd allan wedi gweld fod amser cau’r cantîn yn agosáu, “y cwbwl ddweda i yw ein bod ni’n lot o bloody fools.”

Who are the bloody fools?” meddai’r milwr gyferbyn ag ef, wedi deall diwedd y frawddeg.

You and me, mate, and the whole British army,” ebe Ben yng nghanol “Hear, hear” o bob cwr o’r caban.

Nos drannoeth eisteddai Manod a Blodwen ar sedd yn y parc a’r haul ar fachlud yn taflu cysgodion hir ar y maes ac yn tynnu lliwiau gogoneddus o’r cwmwl tawel uwchben. Soniai Blodwen am erthygl a welsai mewn papur newydd yn disgrifio cynghrair i gadw heddwch ar ôl y rhyfel.

“Ydych chi’n meddwl y daw hi i hynny?” gofynnai.

“Os daw hi,” meddai Manod, “fe fydd yna un peth da wedi dod o’r rhyfel. ’Rwy’n siŵr o hyn, ’does yna ddim byd arall yn werth yr ymladd a’r diodde.”

“Fe fydd y plant sy’n codi ’nawr yn cael mwynhau’r ffrwyth. Ond fe fyddwn ni’n cofio am baratoi’r tir. Fyddwch chi’n meddwl llawer am yr ymladd yn Ffrainc?”

“A dweud y gwir i chi, nid dyna’r peth sy’n aros ar fy ngho i, ond cofio am fechgyn yn mentro’u bywyde er mwyn achub rhywun, cofio am y cyfeillgarwch mawr a welais i, cofio am funude dedwydd yng nghanol yr holl anghysur,—dyna’r pethau sy’n aros.”

“Os mai dyna’r unig bethe sy’n aros siawns go wael fydd i’r cynghrair yna.”

“Mae hi’n dechre oeri,” meddai Manod, “gadewch i ni anghofio’r rhyfel,” ac ymunodd y ddau â llu’r rhodianwyr. Ar gornel y maes yr oedd areithiwr yn rhoddi ffigurau am gwmnïau a oedd wedi gwneud ffortiwn yn ystod y rhyfel.

“Mae siawns y cynghrair yn mynd yn is o hyd,” ebe Blodwen.

Pan ddaeth Manod yn ôl i’r caban tua hanner nos yr oedd popeth yn ddistaw. Wrth ddechrau ymddihatru yn y tywyllwch clywai ryw fwmial o gornel y caban, a gwyddai mai Astley, yr hen filwr, a oedd yn siarad yn ei gwsg. Fel rheol gwaeddai ei fod ar ladd German neu fod German ar ei ladd ef, gan ddihuno pawb yn y caban. Eithr y noson honno siarad â’i fam yr ydoedd. Siaradai fel plentyn bach yn dweud cyfrinachau, yn dawel a digyffro, ond o’r diwedd rhoddes floedd a gweiddi, “Mam! Mam!” dros y lle, a beichio wylo. “Here, give him his bottle,” meddai rhywun, a throes Astley a phawb arall i geisio ail-afael yn eu cwsg.

Fel yr âi’r hydref ymlaen yr oedd yn amlwg bod diwedd y rhyfel yn agosáu, a gobeithiai pob milwr yn y gwersyll y byddai drosodd cyn dyfod ei dro ef i fynd allan. “Waeth gen i fynd allan i ymladd unwaith eto os bydd raid,” ebe un, “ond ’dwy i ddim am fynd allan i glirio’r llanast.”

Clywid sŵn y cracio yn rhai o’r gwledydd a oedd o blaid yr Almaen, a theimlid bod awr ei malurio hithau yn agos. Darogenid bod miloedd ar filoedd o Americaniaid ar eu ffordd, ac yr oedd llu ohonynt eisoes yn Ffrainc yn gwthio’r gelyn yn ôl. Gwyddai Manod yn dda ei bod bron yn bryd iddo yntau fynd allan yr ail waith, a chafodd ryw hanner rhybudd i fod yn barod ar gyfer y ddrafft nesaf. Un prynhawn pan oedd wrthi’n paratoi daeth telegram yn dweud bod ei dad wedi marw, a chan nad oedd yr un gŵr arall gartref cafodd ganiatâd i fynd i’r claddedigaeth. Bore drannoeth cyn ymadael gwelodd enwau’r ddrafft newydd y tu allan i’r swyddfa.

Ar ddiwrnod tawel yn Nhachwedd yr oedd y claddedigaeth, un o’r diwrnodau tawel hynny a geir pan fo bywyd yr haf ar ollwng ei afael olaf ar y tir. Ymddolennai’r orymdaith araf drwy’r plwyf tua’r eglwys ar y bryn,—y gwŷr bob yn bedwar ar y blaen, yna’r arch a’r galarwyr, a’r gwragedd y tu ôl. Clywai Manod wrth gerdded y tu ôl i’r arch rai o sylwadau’r gwragedd.

“Fe aeth yn y diwedd fel diffodd cannwyll.”

“Do, ond yr oedd e wedi gofidio llawer.”

“Ie, am y mab.”

“Y gofid mwya yw’r gofid cudd.”

Pan oeddynt ar waelod y rhiw cyn mynd i fyny i’r eglwys dechreuodd y gloch â’i chnul, “Ding . . ding . . ding,” ond gyda’i bod yn dechrau daeth sŵn chwibanogl y trên o gyfeiriad y mynydd,—sŵn gorfoleddus fel miri diwrnod priodas. Aeth rhyw ias drwy’r orymdaith, ac yn fuan aeth y newydd o’r naill i’r llall, “Mae’r rhyfel ar ben.” Teflid atsain y chwibanogl o’r mynydd i’r gwastadedd, ond drwy’r cwbl i gyd clywid “Ding” bruddglwyfus y gloch. Teimlai Manod yn ddig wrth y chwibanogl, wrth lawenydd y dorf, wrth ysgafnder y ficer, a’r dull nwyfus y canwyd “Crug-y-bar,”

“A ninnau’n ddihangol o’u cyrraedd

  Yn nofio mewn cariad a hedd.”

Bachgen gwan ei feddwl oedd y clochydd y diwrnod hwnnw, yn cymryd lle ei dad. Pan ddywedodd rhywun wrtho yn y prynhawn nad oeddynt wedi clywed y gloch oherwydd chwiban y trên penderfynodd fynd i’r eglwys eilwaith i ganu cnul arbennig. Yn nhrymder yr hwyr trawodd nodau prudd y gloch ar yr ardal drachefn, “Ding . . ding . . ding.” Clywyd hi gan y ficer ac aeth i fyny i’r eglwys ar unwaith. Eithr cyn iddo fedru atal y cnul clywsid y gloch gan y ddau a oedd yn caru ger mur y fynwent a theimlent fod mwynhad y noson wedi mynd. Clywsid hi gan yr hen glochydd yn ei wely, a dyfalai pwy a fyddai farw nesaf. Clywsid hi gan y dyrfa o bobl ieuainc o amgylch y goelcerth ar Foel-y-garn, a syllent mewn dryswch yng ngolau’r fflamau.

XX

Dyddiau digysur i Manod oedd y dyddiau ar ôl y claddedigaeth: methai â sylweddoli bod gorffen y rhyfel wedi gwneud unrhyw wahaniaeth. Yr oedd galwadau’r rhyfel wedi llywodraethu pawb a phopeth gyhyd, ac yntau gyda hwy, nes teimlo ohono’n awr fod rhywbeth ar goll, teimlo nad oedd bellach nod i gyrchu ato,—yr hen nod wedi mynd heb ddim arall i gymryd ei le. Cafodd estyniad i’w leave oherwydd gwaeledd ei fam; iddi hi daeth diwedd y rhyfel â rhyw ollyngdod mawr, a dechreuodd wella o’r diwrnod hwnnw. Ar ben mis gorchmynnwyd i Manod fynd yn ôl i’r gwersyll yn Llundain i gael ei ryddhau.

Taith flinderus oedd ei daith yn ôl oherwydd bod streic ar ran o’r ffordd haearn; ond pan gyrhaeddodd y gwersyll cafodd fod y bywyd yno yn debyg iawn i’r hyn yr arferai fod; yr unig wahaniaeth oedd mai prif nod yr hyfforddi yn awr oedd nid yn gymaint gwneud milwyr cymwys at faes y gad eithr gwylwyr cymwys at blas y brenin.

Eithr un prynhawn cyffrowyd y gwersyll gan wŷs i ryw gant o filwyr wisgo’u gêr ymladd ar unwaith, a chyn pen ychydig funudau yr oeddynt ar y sgwâr gyda’u drylliau a’u bidogau a chwech ugain o fwledi ym mhocedi bach eu gêr. Yr oedd y milwyr yn gyfarwydd â gorchmynion dirybudd fel hyn, ac ni wyddai neb y rheswm am y cyffro. Ar y ffordd y tu allan yr oedd tri neu bedwar o fysus, ac wedi eu llenwi â’r milwyr arfog cychwynasant drwy heolydd Llundain. “Dyma anlwc,” meddai Manod, “a finne’n mynd i adael y lle yfory am byth.” Cyn iddo ddadrys y dirgelwch, safodd y bysus a daeth y milwyr allan. Gwelsant eu bod y tu allan i orsaf Victoria, a’r gorchymyn cyntaf a gawsant wedi iddynt ddisgyn oedd gosod eu bidogau ar flaen y drylliau. Yr oedd nifer o bobl o amgylch yr orsaf, ac wedi i’r milwyr gyrraedd cynyddai’r nifer o hyd. Clywodd Manod rai yn y dyrfa’n sibrwd, “The Guards are here,” a chofiai fel y byddai minteioedd o filwyr lluddedig yn Ffrainc, wedi blino ar wrthsefyll ymosodiad ar ôl ymosodiad, yn ymgalonogi o glywed y newydd, “The Guards are here.”

Fel yr oeddynt yn aros ar ymyl pellaf y lle agored o flaen yr orsaf mynegwyd iddynt y rheswm am eu galw allan. Yr oedd nifer o filwyr ar yr orsaf ar eu ffordd yn ôl i Ffrainc wedi cydymgynghori a phenderfynu peidio â mynd. Gan fod y rhyfel drosodd ni welent paham yr oedd yn rhaid iddynt fynd yn ôl a cholli’r cyfle i gael swyddi a gwaith gartref. Safent yn dwr y tu allan i’r orsaf, yn aflêr a direol, a rhai ohonynt yn haerllug wedi datod botymau eu cotiau ac yn gwisgo’u gêr rywsut rywfodd. Gyferbyn â hwy yn rhyw hanner cylch yr oedd y Guards a phob teclyn yn ei le, a’r cant ohonynt yn barod i symud fel un gŵr.

Eithr nid yr haid o filwyr a gâi sylw Manod, ond ei harweinydd. Safai ef ar ferfa ar y palmant, a botymau uchaf ei got ar agor. Yr oedd yn bennoeth a chudyn du o wallt ar draws ei dalcen. Ym mha le y gwelsai Manod ef o’r blaen? Diwygiwr ieuanc yn gyrru iasau drwy gynulleidfa fawr? Glowr ieuanc yn siarad mewn cyfarfod adeg y rhyfel a’i eiriau’n rhuthro yn un rhyferthwy ysgubol? Gŵr ieuanc yn y llun hwnnw o’r Chwyldro Ffrengig, yn sefyll ar wagen a daflesid ar draws y stryd, a’i gleddyf yn ei law yn herio’r gelyn?

Gorchmynnwyd i’r Guards roi bwledi yn eu drylliau yn barod, a gwnaed hynny’n ddiffwdan hollol. Gwelai Manod arweinydd y milwyr gwrthryfelgar yn ceisio gan ei ganlynwyr ymwroli a thorri allan drwy gylch y Guards, ond ni ddeallai ei eiriau oherwydd murmur y lleill. Yr oedd popeth mor glir: canol y sgwâr yn wag, hwythau’r Guards o hyd yn dawel yn barod i unrhyw orchymyn, y fintai lipa o’u blaen, a’r hen adeiladau dideimlad yn amgylchynu’r cwbl dan wybren lwyd Rhagfyr. O’r diwedd wedi methu â chael neb i’w ddilyn cerddodd yr arweinydd heb ei ddryll yn syth at y Guards, a gwnaeth ystum yn dangos mor anobeithiol oedd y cwbl i gyd a’i fod yn barod i gael ei ddwyn i’r ddalfa.

Fall in, you two,” meddai’r swyddog wrth ddau o’r milwyr, ac ymaith â hwy a’r gwrthryfelwr ieuanc rhyngddynt. Wrth fynd ymaith cadwai ei ben i fyny gan edrych yn feiddgar yn llygaid y Guards, eithr ni throes unwaith tuag at y fintai ddigalon o flaen yr orsaf.

Trannoeth aeth Manod ymaith i’r gwersyll lle y rhyddheid y milwyr, a’r ail-drannoeth tua’r hwyr daeth adref i Frynafon. Yr oedd yn anodd iawn cael penllinyn y bywyd newydd; yr oedd bywyd y fyddin a’i reolau pendant wedi mynd yn rhan ohono, a theimlai’n awr heb na rheol na chanllaw. Ambell waith gweithredai’n hollol fel pe bai ar faes y gad megis pan blygai i lawr yn ddisymwth wrth glywed sŵn gïach yn chwyrnellu uwch ei ben. Yr oedd pob perygl wedi darfod, ond ni theimlai unrhyw ddiolchgarwch, chwaethach gorfoledd, am ei fod yn fyw, hyd yn oed pan welodd yn y papur lleol fod Ifan wedi ei saethu’n farw gan un o eroplenau’r gelyn fore’r unfed ar ddeg o Dachwedd cyn cyhoeddi’r cadoediad.

Cafodd fwy o afael ar y penllinyn un diwrnod wrth fynd drwy hen lyfrau a hen bapurau. Ai drwyddynt er mwyn llosgi rhai ohonynt; meddyliasai wneud hyn cyn mynd i’r fyddin, ond nis gwnaethai. Daeth rhyw atgof pêr wrth fynd drwyddynt yn fanwl a’u rhoi yn ddau bentwr, un i’w gadw, a’r llall i’r tân: llythyrau, hen filiau llyfrau, hysbysiadau am lyfrau, darnau a dorasai o bapurau yn cynnwys erthyglau ar lenyddiaeth a chrefydd a gwleidyddiaeth ac yn eu plith ddarn lle’r ymddangosasai ei enw gyntaf mewn print ar ôl iddo ennill gwobr am adrodd mewn cyfarfod cystadleuol, rhaglenni eisteddfodau, llyfr o ddyfyniadau o weithiau llenorion a beirdd, darnau o’i farddoniaeth ei hun, a hen lyfrau ysgrifennu ysgol a choleg.

Cyneuodd dân ar ymyl y domen yng nghornel y buarth. Taflodd y papurau arno yn gyntaf, ac yna’r llyfrynnau. Yr oedd rhai o’r llyfrau ysgrifennu, yn enwedig y rhai a’r cloriau celyd, yn ormod o damaid i’r tân, ac yr oedd yn rhaid eu torri a thynnu’r dalennau oddi wrth ei gilydd cyn llosgi ohonynt yn llwyr. Llyfr ei draethodau yn yr Ysgol Sir oedd y llyfr olaf, ac wrth dorri dalennau hwnnw dechreuodd Manod ddarllen rhai o’r traethodau, gan daflu dalen yn awr ac yn y man i gadw’r tân ar gynn.

Teimlai ambell waith fel pe bai’n darllen gwaith rhywun arall, rhywun hollol ddieithr iddo, eithr deuai rhyw atgof yn ôl gan ei ddenu i ddarllen.

Yr olaf i gyd oedd y traethawd ar “Farchogion y Ford Gron,” ac erbyn iddo orffen darllen hwnnw, gyda’i frawddeg olaf, “gan gysegru eu cleddyfau a’u harfau yng ngwasanaeth y Greal Sanctaidd a’r Ysbryd Glân,” yr oedd y tân bron â llosgi allan. Cadwodd y ddalen olaf yn ei law am ychydig, yna gwthiodd hi i’r pentwr llosg. Cododd fflam wen, ac wrth farw cydiodd yn y ddalen a ddaliai Manod yn ei law. Daliodd hi felly nes llosgi ohoni hyd at y darn lle’r oedd ei fysedd. Taflodd hwnnw i’r awyr, a lleibiodd y fflam y ddalen i gyd. Yna disgynnodd y gweddill du yn araf yn ôl i’r pentwr.

Nos Nadolig cynhaliwyd cyfarfod croeso yn y capel i filwyr y lle i ddathlu diwedd y rhyfel. Cyfarfod i filwyr y capel yn unig ydoedd. Parwyd tipyn o ddiflastod oherwydd bod y capel ar ben arall y plwyf wedi penderfynu cynnal eisteddfod ar yr un noson: gwnaed llawer cais i osgoi’r gwrthdaro, ond methiant fu’r cwbl. Eithr yr oedd y lle yn llawn i groesawu’r milwyr, a dywedid drannoeth fod eisteddfod hwyliog yn y lle arall. Cyfarfod amrywiaethol ydoedd; yr oedd yno gantorion ac adroddwyr o bell ac agos wedi dyfod i arfer eu dawn, a llawer ohonynt wedi cyfansoddi geiriau arbennig ar gyfer y cyfarfod. Yr oedd y cadeirydd yn byw ar hynny o bryd ar gyffiniau’r plwyf ac wedi gwneud ffortiwn, meddid, wrth dorri coed a’u gwerthu adeg y rhyfel. Gyda’r cadeirydd ar y llwyfan yr oedd Manod a thri milwr arall. Yr oedd dau yn methu â bod yno am nas rhyddhasid hwy o’r fyddin, ac yr oedd dau arall wedi mynd yn rhydd am byth o bob brwydro a sôn am frwydro,—Jac y Fron wedi marw a chael ei gladdu yn ymyl Jeriwsalem, a Rolant y Banc wedi’i ladd yn Iwerddon. Yr oedd dwy gadair wag, un o bob tu i’r llwyfan, i gofio amdanynt hwy.

Oherwydd galw o’r gynulleidfa ar y datgeiniaid a’r adroddwyr i ailganu ac ailadrodd aeth yn hwyr iawn cyn dod at brif waith y cyfarfod, sef cyflwyno Beibl yr un i’r pedwar milwr a oedd ar y llwyfan ac i deuluoedd y lleill. Cyflwynwyd y Beiblau gan yr hen John Jones, y blaenor hynaf. Yr oeddynt yn Feiblau mawr a llythyren fras, ac wedi iddynt eu derbyn a dweud ychydig eiriau o ddiolch âi pob un o’r milwyr yn ôl i’w le. Yna agorai pob un ei Feibl a rhoi cip ar dudalen neu ddau fel un yn awyddus i weld beth sydd mewn parsel; yna cadwai’r Beibl yn ddefosiyngar ar ei lin.

Yna daeth araith y cadeirydd. Iddo ef dyna bwynt uchaf y cyfarfod, eithr gobeithiai’r gynulleidfa y sylweddolai mai oherwydd amlder ei arian ac nid oherwydd amlder ei eiriau y rhoddasid ef yn y gadair. Rhoddes ryw ddeg munud o’i anerchiad ar y Nadolig, deg arall ar y rhyfel, ac yna dechreuodd ddod â’r ddau destun at ei gilydd. Daeth ochenaid o ben arall y capel; ni welodd y cadeirydd ei harwyddocâd, eithr credodd fod ei eiriau’n cyrraedd adref. Yr oedd y ffenestri fel arfer ar gau a’r awyr yn drymllyd; eisteddai’r pedwar milwr, a’r Beiblau mawr ar eu gliniau, mor swrth a llonydd â delwau cerrig.

“Ond o’r diwedd daeth y rhyfel i ben . . .” “Yn llawer rhy fuan i rai pobol,” sibrydodd rhywun o dan Manod, eithr nis clywodd y cadeirydd. “Er i’r ffordd fod yn hir . . .” it’s a long way to Tipperary it’s a long way to go take me back to dear old Blighty rolling home rolling home llonyddwch a’m henaid i lonyddwch Efe a wna i mi orwedd “. . . dyma’r bechgyn yn ôl at eu teuluoedd a’u cariadon . .” hullo hullo and who’s your lady friend mademoiselle from Armentieres my sister jig-a-jig all the Joneses on parade “. . . pa amser gwell na’r Nadolig? . . .” cân cân ehedydd glân bydd canu yn y nefoedd a’r maglau wedi eu torri a’m traed yn gwbwl rydd left right left right left beth sydd imi yn y byd yn wir rhyw ddernyn gwyddbwyll ydyw dyn a beth yw gwroldeb one minute to go keep those bloody two paces interval cofia fi at John Rice dyna’ch cyfaill gorau yn y lein rhwym wrth dy wregys gleddyf gwyn dy dad “. . . wedi gweld amseroedd enbyd . . .” pe gwyddwn i y bydde rhyfel arall fe’i lladdwn e fel lladd ffowlyn non bon guerre uffern o le y mae tynged Iwrop yn y glorian put out that light Ifan wedi’i ladd Ifan wedi’i ladd pa anghyfanedd-dra a wnaeth Efe ar y ddaear “. . . yr ydym yn awr wedi cyrraedd gwlad yr addewid . . .” canys fel y dyrchafodd Moses y sarff yn y diffeithwch fydd yna ddim rhyfel mawr rhagor yng ngwasanaeth yr Ysbryd Glân gwyn eu byd y tangnefeddwyr i ryddid gogoneddus plant Duw “. . . gadewch i ni aros yn ystyriol uwchben yr aberth . . .”

Torrwyd ar ei araith ac ar fyfyrdodau Manod gan sŵn rhywbeth trwm yn disgyn, ac yna chwerthin y gynulleidfa. Cyn pen hir sylweddolodd Manod mai Wil Caeffynnon a eisteddai ar ben arall y rhes a oedd wedi cysgu a gadael i’w Feibl syrthio i’r llawr. Dihunodd Wil hefyd gan y sŵn; am funud ni wyddai pa beth a ddigwyddasai, a pharai ei olwg wyllt fwy o chwerthin nag erioed. Heb glo i’w araith aeth y cadeirydd at y peth nesaf ar y rhaglen, a daeth gŵr ffraeth o blwyf arall i ganu penillion yn disgrifio pa fodd yr oedd Morus yr Hafod wedi aredig y fawnog ar orchymyn rhyw gomiti.

Yr oedd chwaer Manod a oedd yn byw mewn plwyf arall wedi dod i’r cyfarfod gyda’i bachgen bach nawmlwydd oed, ac yr oedd y ddau i aros ym Mrynafon y noson honno. Yr oedd y plentyn wedi cysgu am ran o’r cyfarfod, ond wedi cyrraedd y tŷ a chael swper adfywiodd i gyd. Holai ei ewythr yn ddidrugaredd am y peth hwn a’r peth arall, a chan fod ganddo bistol a gawsai yn anrheg Nadolig yr oedd yn rhaid cael chwarae ymladd.

“Y fi yw’r British,” ebe Tom bach, “a chithe nwncwl yw’r Germans.”

“O’r gore,” ebe Manod, “sa di o flaen y tân, ac fe af inne i ddrws y parlwr, a phan ddof i ymlaen tania dithe’r pistol.”

“Dwedwch pan fyddwch chi’n dod, nwncwl.”

“Fe waedda i ‘Charge,’ a phan glywi di hynny bydd yn barod.”

Safai Tom bach a’i gefn at y tân a’i lygaid ar ddrws y parlwr, yn syllu mor eiddgar â gwyliwr yn y ffosydd blaen. O’r diwedd wele gynnwrf yn nrws y parlwr: “Charge,” ebe Manod gan ruthro tuag at y tân. Gweithiai’r plentyn y pistol â’i holl egni a gwaeddai’n gyffrous ar draws y gegin. Daeth diwedd sydyn i’r miri, a phawb yn edrych ar Manod. Safai fel delw ar ganol y llawr a’i ben ar dro fel pe’n clustfeinio, oherwydd tybiasai iddo glywed cyfarthiad ci.


Transcriber’s Notes:

Spelling and hyphenation have been left as in the original. A few punctuation errors have been corrected without note.

 

 

[The end of Amser I Ryfel by Thomas Hughes Jones]