* A Distributed Proofreaders Canada eBook *

This ebook is made available at no cost and with very few restrictions. These restrictions apply only if (1) you make a change in the ebook (other than alteration for different display devices), or (2) you are making commercial use of the ebook. If either of these conditions applies, please contact a FP administrator before proceeding.

This work is in the Canadian public domain, but may be under copyright in some countries. If you live outside Canada, check your country's copyright laws. IF THE BOOK IS UNDER COPYRIGHT IN YOUR COUNTRY, DO NOT DOWNLOAD OR REDISTRIBUTE THIS FILE.

Title: I’r Aifft Ac Yn Ol

Date of first publication: 1904

Author: D. Rhagfyr Jones (??-1914)

Date first posted: Dec. 28, 2017

Date last updated: Dec. 28, 2017

Faded Page eBook #20171249

This ebook was produced by: Mardi Desjardins & the online Distributed Proofreaders Canada team at http://www.pgdpcanada.net


YR AWDWR.


 

 

I’R AIFFT     

    AC YN OL:

 

 

 

GAN Y

 

Parch. D. RHAGFYR JONES,

 

TREORCI.

 

 

 

 

GWRECSAM:

Hughes a’i Fab, Cyhoeddwyr

 

1904.

 


CYFLWYNIAD.

 

 

I’R

Henadur E. H. Davies, Ysw., Y.H.,

PENRE, RHONDDA,

YR HWN YN GYNTAF A GEISIODD

GENYF WNEUD MOES-GYFARCHIAD YN Y

FFURF YMA I’R CYHOEDD ODDIAR LWYFAM Y WASG,

A’R HWN SYDD YN DYFOD YN FWY HYSBYS O

FLWYDDYN I FLWYDDYN YN EI ENWAD

A’I WLAD FEL UN O’R BONEDDWYR

MWYAF LLENGAROL, DYNGAROL,

A CHRISTGAROL,

Y CYFLWYNAF Y GYFROL FECHAN ANELWIG HON,

TRWY EI GANIATAD.


RHAGDRAETH.

YMAE llawer wedi ei ysgrifenu ar ymweliadau â’r Aifft a Chanaan, o dro i dro, mewn ieithoedd eraill yn gystal ag yn y Gymraeg. Ond credaf fod lle i’r llyfr hwn, am ei fod yn wahanol i’r rhan fwyaf, os nad yr oll, o’i gyfathrach.

Bydd yn fwy personol.

Yma ceir y golygfeydd a’r digwyddiadau nid yn sefyll allan ar eu pen eu hun, fel pethau diberthynas; yn hytrach deuant atom â lliw myfyrdod y gweledydd arnynt i gyd. Bydd arddull ac argraffiadau meddyliol yr awdwr yn rhan o honynt, ac yn eu gwneud felly yn wahanol i’r hyn ydynt gan neb arall.

Nid yw llyfr o fath hwn i’w restru ymysg arwein-lyfrau (guide-books) a phethau o’r fath: llenyddiaeth ydyw, ac fel llenyddiaeth y mae i’w ddarllen a’i fwynhau. Os na fydd y darllenydd yn cydweled â phobpeth, bydd hyny’n glod i’r awdwr ac iddo yntau, fe ddichon; oblegid gwn mai hoffach gan yr awdwr fydd deffro meddwl, a’i gadw ar ddihun, nag enill rhywysgafn-air ogymeradwyaeth teg yr olwg arno, ond byr ei hoedl.

Os daw’r llyfr â ni i adnabod yn well y Dwyreinfyd didwrf, cryd yr hil a chryd ein crefydd, bydd hyny yn dâl am ei ddarllen ac am ei ysgrifenu.

ELFED.

Llundain: Gorphenaf, 1904.

Gan GWYLFA.

Lle mae’r Nile yn llifo’n llachar

  Buost yn ymdeithydd llesg,

Lle bu Joseph yn y carchar,

  Lle bu Moses yn hesg;

Ac wedi gweled byd mor bell,

Difyr oedd d’od i Gymru’n well.

 

Un o’m hoff freuddwydion inau

  Oedd cael gwel’d y lotos pêr,

A phob un o’r pyramidiau

  Tan ei goron wen o sêr:

Ond mwyach ni rwgnachaf fi,

Mae’r Aifft i gyd yn dy gyfrol di.

 

Yno mae yr Arab hapus,

  Yno mae y Sphinx diwên;

Bywyd yn segurdod melus,

  Harddwch yn bererin hen:

A dyma wlad y rhamant fawr

Mewn cyfrol fach Gymreig yn awr.

 

Plygodd hi ei haden dirion

  Dros fy Iesu y’more’i oes,

A hi ofalodd yru Simon

  Tua’r bryn i ddwyn ei Groes:

Gwell yw anghofio’i gorthrwm cas,

A chofio’r Aifft y’nyddiau’i Gras.

 

Mehefin, 1904.


GAIR YN EI BRYD.

TEG yw d’we’yd i lawer o gynwys y llyfryn hwn ymddangos mewn rhifyne o’r Celt a’r Tywysydd; eto, ceir yma dwsged o bethe’n gwel’d gole’ dydd am y tro cynta’, heblaw fod y lleill dipyn yn fwy trwsiadus eu lliw a’u llun. Prin y b’aswn yn eu cyhoeddi mewn ffurf mor ymhongar oni bai am gymelliade cyfeillion, y penaf o ba rai yw’r boneddwr y cyflwynaf y llyfryn iddo. Ceisiaf yn ostyngedig i’r cynorthwyon fod gryfed a’r cymelliade, fel na bo i farug Siomiant ddifa blagur f’anturiaethe llenyddol.

Mae’r un mor deg hefyd imi grybwyll enwe a chydnabod persone a wnaethant fy nhaith yn gysurus a llwyddianus drwy eu caredigrwydd ffodus a diffwdan. Heblaw f’eglwys fy hun yn y cyfanswm o honi, na’r hon nid oes ei gwell y’Nghymru, dyna W. Phillips, Ysw., Cynghorwr W. T. Jones, Ysw., D. Morgan, Ysw., Mri. T. E. Jones, A. Pimm, a Henry Jones, o Dreorci; y Parch. J. R. Davies a’i deulu dedwydd, Caerdydd; J. Davies-Bryan, Ysw., Alecsandria; E. Davies-Bryan, Ysw., Cairo; y’nghyda thri o “o fechgyn” yr ola’, sef Jones, Huws, a Roberts. Dymunaf ore’ deufyd iddynt oll, a bendith gwraig a phlentyn dros ben.

Oddiwrth yr AWDWR.


CYNWYSIAD.

PENOD.TUDAL.
  
I.Parotoade1
  
II.Y Llong a’i Phreswylwyr6
  
III.Rhagor am y Criw a’r Swyddogion11
  
IV.Bywyd bob Dydd16
  
V.Rhagor am y Bywyd bob Dydd20
  
VI.Ar y Daith26
  
VII.Fy Nyddiadur32
  
VIII.Dalen arall o’m Dyddiadur38
  
IX.Un arall eto43
  
X.Glanio48
  
XI.Mewn Dalfa54
  
XII.Trem oddiar y Trothwy59
  
XIII.Ffawd a Ffwdan64
  
XIV.Ar Grwydr73
  
XV.Yn y Tren i Gairo81
  
XVI.Cairo wedi’r Dydd88
  
XVII.Cairo wedi’r Nos95
  
XVIII.Anturiaethus101
  
XIX.Byd ac Eglwys107
  
XX.Ar yr Afon118
  
XXI.Lle bu’r Mab Bychan126
  
XXII.Ar Fin yr Anialwch134
  
XXIII.Ychydig o Friwfwyd Gweddill142
  
XXIV.Yn Ol152

DARLUNIAU.

TUDAL.
 
Yr Awdwr.(Wyneb-ddarlun)
 
Alecsandria. I wynebu tud.9
 
Cairo. I wynebu tud.41
 
Pont dros y Nile. I wynebu tud.89
 
Dan y Palmwydd. I wynebu tud.105
 
Myfyrio’r Coran. I wynebu tud.121
 
Darn o’r Bazaar. I wynebu tud.137
 
Cheops a’r Sphinx. I wynebu tudal.153

PENOD I.

*

PAROTOADE.

PAN o’wn yn hogyn bychan, yn yr oedran ag y mae plant yn cael eu cyfri’ gan eu rhïeni y tu hwnt o gall, a phob gair a dd’wedant yn cael ei gadarnhau â chwerthin, ei drysori yn y cof, a’i drotian allan er budd y cym’dogion bob tro y ceir cyfle—mi glywes fodraboedd imi yn d’we’yd fy mod yn araf sillebu un o’r Salme ar brydnawn Sul, ac, wedi cael gafel go lew ar yr ymadrodd cynta’, imi droi yn sydyn at ’rhen ŵr ’nhadcu, yr hwn oedd yntau’n ymlwybro drwy’r wythfed benod o’r Rhufeinied ar ei ffordd i’r Ysgol, a gofyn iddo:

“ ’Nhaid, ddoi di i’r Aifft?”

’Ro’em ein dau yn bur hy’ ar ein gilydd, er ei fod e’ flynydde yn hŷn na mi. Ti a tithe oedd y dull o siarad rhyngom fynycha’, oblegid yn fy myw y gallwn wel’d y cysondeb o arfer y person cyntaf unigol pan yn siarad â Duw, a’r person cynta’ llïosog pan yn siarad â dynion. Bid fyno am hyny, bu’r hen bererin am amser y’methu sylweddoli cwestiwn ei ŵyr, ac ebai’n hurt:

“By-be’ ddeudest ti? I’r Aifft? Be’ ’nawn ni fan hono?”

“Wel,” meddwn, “mae acw ddigon o le, weldi;” ac yr wyf yn dra sicr nad oedd neb yn cael mwy o le yn y fan lle’r oedd na myfi.

“Sut y gwyddost ti hyny?” gofynai drachefn, gan edrych dros ei ’spectol.

“Ond ydi’r Beibil yn deud fod Israel wedi myn’d odd’no,” meddwn; a mi ddarllenes mewn tôn fuddugoliaethus:

“Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddiwrth bobl anghyfiaith!”

A f’ymresymiad i oedd—os oedd Israel “wedi myn’d odd’no,” nad oedd dim i’n lluddias ni i fyn’d a meddianu’r wlad.

Beth bynag oedd fy syniad y pryd hwnw am fyn’d i’r Aifft, mi wn imi fod am dros ddeng mlynedd ar hugen wed’yn na freuddwydies am y posibilrwydd o hyny. Ond pan agorodd y ganrif bresenol ei llyged, daeth breuddwyd y plentyn i ben yn rhanol. Mi es i yno, ond heb yr hen ŵr. Y rheswm na ddaethe efe gyda mi i’r Aifft oedd, ei fod wedi myn’d i Ganaan flynydde cyn hyny. Ac o’r ddau, efe gafodd y fargen ore’.

Pe bawn yn tueddu at fod yn ofergoelus, gan osod coel ar bethe a elwir yn arwyddion ac argoelion, ni chychwynaswn byth. Heb roi mymryn gormod o liw ar yr helynt, yr oedd fel pe bai ryw impyn maleisus yn chware’ ei brancie â mi o’r diwrnod y penderfynes gychwyn.

Os ydych yn ame’, gwrandewch.

Gan mai er mwyn y fordeth yn bena’ yr o’wn y’myn’d, rhaid oedd cael llong a fuase’n treulio mwy o amser ar y dw’r na llonge teithio cyffredin. Ond pan aed ati i chwilio am long o’r desgrifiad, bron nad aech ar eich llw eu bod wedi myn’d i waelod y dw’r bob un. O’r diwedd, ar ol i deliffôn Abergorci grygu, ac i gwmnïe Caerdydd ddechre dangos gwỳn eu llyged, dyma genadwri’n d’od fod llong wedi ei chael oedd y’myn’d bob cam i Alecsandria heb ymdroi dim ar y ffordd, a taw gore’ pa gynta’ i mi oedd setlo’n bersonol â’r swyddogion y’Nghaerdydd.

Trefn y dydd bellach oedd ffrwst a thrwst a thryste, a mi ro’wn yn y swyddfa’n talu’r llong−lôg yn yr amser a gymer i ambell bregethwr besychu. Ar ol cwblhau hyny o wasaneth, i ffwrdd a mi i swyddfa arall—swyddfa’r Bwrdd Masnach; ac ni welsoch y fath firi erioed. Y’nghanol y casgliad rhyfeddaf o feibion dynion—yn wỳn, a du, a choch, a melyn, yn faw, a sâ’m, a saw’r, o’r Cymro i’r Chinëad, ac o’r Gwyddel i’r Hindŵ; y rhai oedd yno naill ai i gael eu cyflogi, neu, wedi eu cyflogi, yn cymeryd yr ardystiad (nid y dirwestol), ac yn derbyn ernes eu cyfloge—mi es ine at y bwrdd i arwyddo fy nghydsyniad i was’naethu fel talydd ar y llong y bum yn setlo â hi, hyd nes y dychwele o’r fordeth hono; a mi foddlones i dderbyn swllt y mis am fy ngwasaneth. Mi gefes chwecheiniog o ernes cyn symud o’r fan: ond rhyngoch chwi a mine, mae’r cenafon yn fy nyled o’r gweddill hyd heddyw. Prif waith y talydd mewn llong gargo, fel yr awgryma’r enw, yw talu arian y criw fel bo’r angen arnynt; a cheisie’r perch’nogion a’r cadben osod yn fy mhen taw mantes i mi mewn mwy nag un ystyr oedd bod ynddi fel swyddog, ac nid fel teithiwr. Y’mysg manteision erill, golyge y caffe fy nghelfi lonydd gan swyddogion y dollfa wedi i mi gyredd y làn draw.

Mi es ar y bwrdd yn brydlon, a thri o ffyddlonied yr achos hefo mi—un o ba rai gychwynodd gyda mi ar fordeth arall dros ugen mlynedd yn ol, mordeth sydd heb “fwrw angor” iddi eto. Rywbryd yn ystod y dydd, cliriwyd y dec, a ffarweliwyd yn gynes; a rywbryd yn ystod y nos codwyd yr angor, a dechreuwyd ageru i gyfeiriad y Sianel. Ond cyn ini adel y Basin yn y Bari Doc—a phrin y tramgwyddai’r un trochwr wrth y basin hwn—pan oedd y llong o fewn haner ergyd careg i’r agorfa sy’n arwen i’r môr, dyma floedd! a bloeddiade! a chwiban! a sŵn! a chrac! A chyn imi wybod fod dim allan o le’n bod, dyma’r cadben yn d’od ataf yn gyffrous, ac yn d’we’yd:

I’m afraid, Sir, you will have another fortnight on shore!

Ac felly bu. Y’mhen y pythefnos i’r diwrnod hwnw y cefnais ar ddoc y Bari. Yn ystod y pythefnos yna, nid o’wn yn perthyn i dir, na dw’r, nac awyr—hyny yw, nid o’wn na phregethwr, na dïacon, nac aelod cyffredin; a phe cyfarfyddase fy nghyfell gore’ â mi ar ’stryd Caerdydd y dyddie hyny, dodase fi i lawr fel morwr ar dramp, neu grimpyn yn chwilio am ’sglyfeth. A dyna oedd y drychineb: angor llong arall oedd wedi myn’d i mewn i ystlys y llong ’ro’wn i arni, a’i rhwygo ychydig islaw i wyneb y dw’r. Bu raid ei haner dadlwytho mewn canlyniad, a’i gyru i’r ysbyty am bedwar diwrnod-ar-ddeg cyn iddi dd’od yn ffit i ail gychwyn.

A dyna o’wn yn hala ato, ys d’wedai un o garitors Brutus: pe bai rywfaint o ofergoeledd yn llechu dan fy ngwasgod, mi wnaethwn fy meddwl i fyny’n ddi-droi-yn-ol taw bys Rhaglunieth oedd yma yn dangos y ffordd yn ol i Dreorci, ac nad oedd ond dyfrllyd fedd yn f’aros, os mai mỳnu myn’d i’r môr a wnawn. Ond mentrodd un f’adgofio o’r hen air sy’n d’we’yd nad oes boddi i fod ar y dyn ga’dd ei eni i’w grogi! Wel, meddwn, os taw felly y mae, fe gaiff “Dafydd Jones” y siawns gynta’.

Ac am saith o’r gloch, yr unfed-ar-hugen o’r mis bach, yn y flwyddyn un fil naw cant ac un, aethom allan gyda’r llanw i’r Sianel ac i’r nos.

PENOD II.

*

Y LLONG A’I PHRESWYLWYR.

HWYRACH yr hoffech wybod am y tŷ yr o’wn yn byw ynddo’r pythefnos nesa’, a’r dynion oedd yno’n byw hefo mi.

Nid yw mesuriad y llong genyf wrth law, tae fater am hyny; ond yr oedd yn llai na llong deithwyr, ac yn fwy na llong bysgota. Ymddangose’n fwy yn y doc nag ar ganol y dwr, ond yr oedd o faintioli mwy na’r cyffredin o’r dosbarth y perthyne iddo. Yr oedd golwg anghynes arni pan yn cael ei llwytho, a llwch glo dros ei gwyneb i gyd. Ofnwn taw golwg anghynes fydde arnaf fine hefyd os taw dyna oedd ei chyflwr i fod hyd ddiwedd y daith. Pan es i gysgu’r noson gynta’, yr oedd can ddued a’r glöyn; pan ddeffröes y bore’ cynta’, yr oedd can wyned a’r carlwm. Ni weles erioed drawsffurfiad mor fawr mewn amser mor fyr, oddigerth ar gyflwr ambell i ddyn.

Heblaw’r dec isa’, yr hwn a ymestyne o’r naill ben i’r llall o honi, yr oedd iddi dri dec ucha’,—un o’r tu blaen, un o’r tu ol, ac un yn y canol. O dan y dec blaen yr oedd ystafelloedd y criw a’r tanwyr, lle y bwytaent ac yr yfent, a’r lle hefyd y cysgent,—trindod o ddyledswydde ag oedd yn gofyn cymwysdere neillduol i’w cyflawni yn y fan hono. O dan y dec canol yr oedd cabane’r peirianwyr, dri o honynt; a dyma’r lle gore ar y llong i fyn’d drwy rai dyledswydde cynil yn gysurus (megis eillio, er engraff), am mai dyma lle teimlid ei hysgogiade leia’ o bobman. O dan y dec ol yr oedd ystafelloedd y cadben, y ddau brif swyddog, a’r ’stiward. Dyma hefyd lle’r oedd f’ystafell ine, a’r prif gaban lle’r eisteddem i fwyta. Ar y dec canol yr oedd ystafell breifat arall, lle bydde’r cadben a’r swyddogion yn marcio taith y llestr wrth y siart. Mewn cysylltiad â hon yr oedd ystafell yr olwyn. Yr olwyn sy’n llywodraethu ysgogiade’r llestr, ac yr oedd ei gofal ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i’w throi. Uwchben y darn yma drachefn yr oedd y bont, yr hon a gyraedde o ochr i ochr ar draws y llestr yn ei man lletaf. Ar y bont y bydde’r gwyliedydd yn cerdded yn ol a blaen dros ei orie gwylio; ac un o’m prif ddifyrion oedd bod gydag e’ am awr ar noson dywell, pan fydde’r môr yn arw a’r llong yn siglo. O’r dec canol i’r dec ol yr oedd pont arall yn rhedeg gyda hyd y llestr, yr hon a arbede ini fyn’d i’r dec isa’ pan fydde arnom eisie croesi o’r naill i’r llall.

Ar y dec isa’ yr oedd y goginfa, y fynedfa i’r peiriandy odditanodd, a’r agorfeydd i’r seleri lle cedwid y cargo. Yr wyf y’meddwl imi dd’we’yd eisoes taw llwyth o lo oedd genym y’myn’d allan, ac at y wybodeth yna yr wyf yn ychwanegu taw llwyth o wynwyn a hade cotwm oedd genym yn dychwelyd. Yr oedd y glo i lawr yn y seleri o’r golwg, ond yr oedd y wynwyn yn ffetaneidie uchel ar dop yr agorfeydd y sonies am danynt, ac yn cyraedd i fyny hyd at yr ail bont a rede gyda hyd y llestr. Nid yw’r swyddogion a’r criw y’malio fawr am lwyth o’r natur yma, am ei fod yn ’chwanegu at risg y llong ar dywydd garw.

Heb imi fyn’d ar ol y manylion, dyna i chwi ryw syniad am adeiladeth y caban coed y bum yn byw ynddo am y pythefnos nesa’. Bellach at ei breswylwyr.

Dim ond un Cymro oedd ar y bwrdd heblaw fy hunan, a than y bwrdd y bydde hwnw gan amla’, oblegid peirianydd ydoedd. Safe’n drydydd yn y dosbarth. Hon oedd ei fordeth gynta’, ac yr oedd yn wrthrych cyfleus iawn i’r bechgyn erill hogi eu tafode arno. Cymere arno wybod y cwbl ond sut i siarad Cymraeg, a mi ges allan cyn diwedd y daith taw siarad Cymraeg oedd y peth gore’ all’sai wneud. Pan aethom allan, yr oedd mwy o wynt, a nwy, a chalch ynddo na dim arall; erbyn ini gyredd Môr y Canoldir, yr oedd ei ddillad lawer rhy fach iddo.

Brodor o Ogledd Lloegr oedd y prif beirianwr, a’r mwyaf anodd ei ddeall yn siarad o neb a glywes erioed. Heblaw fod ei dafodieth yn flêr, a’i lais yn debyg i ffliwt wedi cael anwyd, yr oedd ganddo dric annymunol o siarad yn ei wddf, yr hyn a’i gwnai’n boenus i wrando arno. D’wedais “Ië” wrtho ganweth pan ddylaswn dd’we’yd “Nage,” a “Do” pan ddylaswn dd’we’yd “Naddo;” eto mi gredaf fy mod yn llai cyfrifol am hyny nag am lawer o bethe.

ALECSANDRIA.

Bachgen o’r un gym’dogeth oedd yr ail beirianwr, a chân ar ei wefus drwy’r dydd. Gwydde am holl ganeuon y dawnsdai, am holl ffraethebion y chwareudai, ac am holl ’streuon y clybie. Clywes ef yn canu mewn cyngherdde droion yn Alecsandria, ac yr oedd yn debycach o gael encôr na neb. Yr oedd ei lais yn uwch na llais pawb, a’i chwerthiniad i’w glywed mewn cystadleueth a’r elfene. Bu’n help i godi f’ysbryd i sgoroedd o weithie, pan y bygythie fyn’d yn is na f’esgidie.

O dan y rhai hyn ceid y tanwyr,—y dosbarth isa’u moese ar y llestr. Cy’d ag y bu’r llong yn Alecsandria, ni wnaeth y llabystied hyn ond meddwi, ymladd â’r heddgeidwed, a threulio nosweithie dan glo. Mi weles un o honynt yn taro’r prif swyddog yn ei fedd’dod, ac yn cael ei osod mewn gefyne am hynny. Bu’n gorwedd ar y dec am orie’n rhwym wrth un o’r ateg-byst, yn engraff truenus o “dwyll pechod.” Codasant eu harian i gyd cyn cychwyn ar y fordaith adre’, a gwariasant bob dime goch ar wirod, a myglys, a dirwyon; ac erbyn i’r llong gyredd Lloegr, nid oedd ganddynt ffyrling ar eu helw, na hatling i ymgroesi.

Adwaenid y saer y’naturiol iawn wrth yr enw Chips. Brodor o Norwe oedd efe, ac yn ddyn trigen oed. Un o garitors y llong oedd y saer. Yr wyf yn cofio ei fod yn gwneud rhywbeth i’w hystlys ar ddiwrnod pur frochus, pan y llithrodd tòu o gryn faintioli drosodd, gan ei daro yn ei wyneb nes syrthio o hono’n fflechtan ar y dec. Tybiwyd am foment ei fod wedi ei ladd neu ei foddi; a phan ddaeth ato’i hun, y peth cynta’ dd’wedodd oedd ei fod wedi llyncu llon’d ei safn o hoelion!

“Gwell iti lyncu’r mwrthwl eto, Chips,” ebe’r ail beirianwr.

Mae’n debyg fod yr hoelion ganddo yn ei safn, yn ol arfer seiri, pan ddaeth y dòn, a chan na welwyd yr un o honynt wed’yn, nid gwaith anodd oedd credu iddynt oll fyn’d i lawr ei gorn gwddf. Byth ar ol hynny, ’doedd dim a yrai Chips allan o’i bwyll yn waeth na gofyn iddo wrth basio am fenthyg yehydig hoelion. Tebycach fyddech o gael y morthwyl at eich pen, oni phrysurech eich camre.

D’wedais fod gofal yr olwyn ar bedwar o ddynion, y rhai a gymerent ddwyawr bob un i’w throi. Llanc o Gernyw oedd un, ac ymddangose mor anystwyth ei symudiade a phe buase wedi bod yn labro hyd y funud hono. Cydwladwr i Chips oedd y llall, yr hwn oedd y’ngafel y declein. Am y ddau arall, mae genyf chwedl i’w hadrodd, os deil eich amynedd heb fethu.

PENOD III.

*

RHAGOR AM Y CRIW A’R SWYDDOGION.

GWYDDEL oedd un, a llanc o’r Eidal oedd y llall. Hen grëadur difyr a dyddan oedd y blaena’, a’i brofiad o’r môr yn haner cant oed. Ryan oedd ei enw. Yr oedd yr ola’ drachefn mor ffyddlon a pharod a neb ar y llong, a’i enw’n Angelo. Ffrindie calon oedd y ddau, fel y profa’r ’stori wyf y’myn’d i’w hadrodd.

Pan oedd y llong yn ymyl y cei yn Alecsandria, yr oedd Ryan yn paentio’r ochr tu fa’s iddi. Safe ar rafft oedd a’i dadgysylltiad lawer y’nes na dadgysylltiad yr Eglwys Wladol; ac yr oedd wedi d’od ar ei hynt i ymyl gwàl y cei, pan y tarodd yn ei ben i ddringo’r wàl gyda help ochr y llestr, yn hytrach na throi’n ol i’r fan lle’r oedd yr ysgol. Ond buan y cafodd Ryan wybod taw’r ffordd bellaf yw’r ffordd agosaf, ac felly, trwy gwrs o ymresymiad greddfol, taw’r ffordd feraf yw’r ffordd hiraf yn aml. Pan dybiodd ei fod wedi cael un droed i wagle dïogel yn y wàl, gan ddefnyddio’r ddwyfraich i wasgu’n erbyn y wàl ar y naill du, ac yn erbyn ochr y llong ar y tu arall—rhoddodd wth i’r rafft oedd dano â’r droed oedd yn segur, nes ymsaethu o honi i bellder boddhaol. Pan ddes i droi’r peth yn fy meddwl wedy’n, bu raid i mi adde’ i mi fy hun fod y Gwyddel yn siwr o fod wedi cael ffit o’r bendro. A mi dd’wedaf y rheswm pa’m.

’Doedd dim yn galw arno i yru y rafft i ffwrdd mor ddiseremoni. Ni fuase ar ei ffordd o gwbl, oblegid i fyny’r amcane’r dyn fyn’d, ac nid i lawr; ond bu ei waith yn gwneud i ffwrdd â hi y’mron a sicrhau ei fynediad i lawr yn lle i fyny. A dyna lle’r oedd yn hongian gerfydd ei freichie, neu wrth ei benelinoedd yn hytrach—un droed yn y wàl, a’r droed arall yn siglo fel pendil cloc uwchlaw’r dw’r. Yr oedd fel pe b’ai mewn feis; ni fedrai newid ei safle pe gwelai sharc yn ffroeni ei sawdl. Aeth i ddechre gwanhau. Bygythie ei ddwyfraich ei ollwng i’r dyfnder odditanodd; ac yn y sefyllfa beryg’ hono, dyma rês o’r oernade mwya’ torcalonus yn dod oddiwrtho:

Angelo! Angelo!

Digwyddwn fod yn eistedd ar y pŵp uwch ei ben, mewn anwybodaeth cysurus o’r helynt ddifrifol odditanaf; a phan ddaeth y floedd, bu agos imi neidio dros y bwrdd gan ei sydynrwydd a’i gwawch. Edryches i lawr, a dyna lle’r oedd Ryan, druan, yn edrych fel ’sgadenyn wedi ei ’sgiwrio, ac yn gwaeddi “Angelo!” nes rhwygo’r awyr. Yr oedd gwàl y cei bellach yn frith o frodorion; ac yn lle estyn llaw o gymorth i’r creadur, chwarddent am ei ben, a dynwaredent ef yn galw ar Angelo. Mae hwnw’n d’od yn union, a’i wynt yn ei ddwrn; ac ar ol eryn ffwdan, codwyd y Gwyddel i’r làn yn fwy marw na byw. Os oedd lle, yr oedd y ddau yn hoffach o’u gilydd nag y buont erioed.

Dyn tàl, tene’, oedd y cogydd, mewn tipyn o oed, tebyg i grydd, brasderog ei olwg, a bysedd un o’i ddwylo heb fod ganddo. Nid oedd cofio am y cogydd yn un help i mi i fwyta pryd o fwyd, a gwnawn fy ngore’ i wadu ei fodolaeth cy’d ag y byddwn wrthi.

Personolieth tra gwahanol oedd i’r stiward. Dyn byr, tew, oedd efe, o’r un hyd a’r un lêd, glân ei groen a syber ei wisg—a’r gore’ o neb oedd ar y llong i gerdded y dec pan fydde’r llestr yn chware’ Euclid ac yn delio mewn ongle. Yr oedd ei ystafell o dan yr un tô a’r prif gaban, a da oedd genyf gael ei gwmni pan fydde’r elfene’n gwneud pêl droed o’r hen long. Mi weles y ’storm yn gwneud galanas enbyd ar ei lestri un tro—ymdroellent o gwmpas ein pene fel cerig, a tharawent yn erbyn eu gilydd yn y modd mwya’ nwydwyllt a dïalgar. Mi glywes y weilgi wyllt oddiallan yn taro’n erbyn y pared ddwseni o weithie tra’r eisteddwn gyda’r ’stiward, a hyny gyda’r fath swn a nerth, nes credu o honof fod y cwbl yn d’od i fewn, a rhagor. Prin y rhodde neb bisin grôt am fy hoedl y prydie hyny; ac oni buase fod y stiward genyf yn gwmni, mi fuase’n ddrud am bisin tair. Mae genyf gof pleserus am ei garedigrwydd didrwst sgoroedd o weithie; ac yr oedd gwel’d ei wyneb crwn, heulog, wrth fy ngwely bob bore’, ar wahan i’r coffi sawrus a gariai yn ei law, i mi fel gwel’d gwyneb angel.

Deuaf yn awr at y swyddogion a’r cadben.

Cydwladwr i Ryan oedd yr ail swyddog, ’beitu dwy ar hugen oed, heb flewyn ar ei wyneb na deilen ar ei dafod, yn forwr bob modfedd o hono, a’i symudiade’n d’we’yd yn uwch am y llong hwylie nag am y llong ager. Yr oedd cystal chwibanwr a’r ail beirianydd am ei ddanedd, ond ni chlywes i rêg erioed yn d’od allan o’i ene’, er ei fod yn d’od i gyffyrddiad agosach â’r criw na’r prif swyddog. Bu hefo mi mewn gwasanaeth crefyddol ragor na siwrne. Presbyteriad oedd o ran y ffydd. Nid oedd ganddo y cydymdeimlad gwanaf â Home Rule, am y crede fod hyny’n gyfystyr â Rome Rule yn syniad y cynhyrfwyr Gwyddelig.

Brodor o Denmarc oedd y prif swyddog, prin ddeugen oed, a golwg tywydd garw ar ei wyneb-pryd. Mae’n debyg fod ei gyfran o hwnw’n fwy na’r cyffredin. Yr oedd croen ei wyneb wedi myn’d fel memrwn, a difyr oedd ei glywed y’myn’d dros ei helyntion. Mi dreulies lawer awr yn ei gwmni ar y bont ac yn ei gaban; ac ni rodde dim fwy o foddhad iddo na sôn am ei wraig a’i blant, at y rhai y medde gariad y tu hwnt i bobpeth. Croge darlun mawr o honynt uwchben ei wely, ar yr hwn y sylle nes cwympo i gysgu; ac yr oedd darlunie llai yn britho’r ystafell drwyddi. Ysgrifenu gartre’ oedd ei bleser mwya’, ac ni weles ddyn erioed yn gallu taflu ei gydwybod yn llwyrach i’w waith. Ni wnele eithriad o bryd bwyd, ond clirie beth bynag a osodid ger ei fron gyda’r cydwybodolrwydd mwya’ cysurus.

Un o Canada oedd y cadben. Hon oedd ei long gyntaf a’i ail fordeth yn y cymeriad hwnw. Dyn byr, tywyll, ’sgwarog, penderfynol ydoedd—ei drem yn waharddiad, a’i air yn ddeddf. Fel rheol, prin oedd ei eirie a phell ei osgo. Ond ryw noson, pan oedd gwynt cythryblus yn ymosod arnom o Gulfor Lyons, a’n dau yn eistedd yn ystafell y siart, adroddodd ei hanes i gyd wrthyf mewn llai na theirawr. O hyny allan, nid oedd gyment dirgelwch i mi a chynt. Yr oedd yn llwyrymwrthodwr cadarn, yn ysmygwr difefl, yn ddarllenwr mawr, yn fwytawr bychan, yn feistr cryf, ac yn foneddwr o’i goryn i’w sawdl. Bu gwylio’i hunanfeddiant a’i bwyll mewn adege o berygl yn help i mi droion i feddianu f’ened fy hun mewn amynedd. Efe oedd fy nghwmni yn Alecsandria b’le bynag yr awn, a gwydde am bob twll a chornel o’r ddinas. Yr oedd yn ddyn o arg’oeddiade crefyddol dyfnach na chyffredin, a chane done Sanci yn y gwasaneth nos Sul mor galonog nes tynu sylw erill ato. Balch wyf i restru’r cadben y’mysg fy ffrindie gore’.

PENOD IV.

*

BYWYD BOB DYDD.

BUM bythefnos ar y dw’r cyn cyredd y làn arall, ac yr oedd pethe wedi myn’d dipyn yn unffurf cyn i’r pythefnos dd’od i ben, hyd y’nod i mi, na wydde ddim am fywyd o’r fath cyn hyny. Yr un amgylchoedd, a’r un gwynebe, a bron yr un bwyd o ddiwrnod i ddiwrnod, nes yr o’wn wedi cael f’addfedu er’s meityn i newid fy myd, er gwell neu er gwaeth. Yn wir, nid oedd genyf y gronyn lleia’ o gydymdeimlad â’r ymadrodd cyfleus hwnw: “Gwell yw y drwg a wyddoch na’r drwg na wyddoch.” Yr o’wn yn berffeth barod i gofleidio’r ola’, os gallwn drwy hyny gael gwared o’r blaena’.

Wrth geisio desgrifio un diwrnod, mi fydda’n desgrifio pob diwrnod, a chewch ch’ithe farnu a wyf y’mhell o’m lle wrth alw’r bywyd yn unffurf.

Dihunwn yn y bore’ ’beitu saith o’r gloch, a’r gŵr oedd gyfrifol am hyny oedd y ’stiward, yr hwn ddeue a chwpaned o goffi twym’ i mi, y’nghyda “biscïen.” Cryn gamp oedd myn’d drwy’r seremoni hon mewn pryd erbyn brecwast: yr oedd y coffi boethed, a’r fiscïen galeted. Prin o le oedd genyf i orwedd ynddo, heb sôn am gyflawni dyledswydde erill; ac erbyn y cyfrifwch symudiade sydyn y llestr ambell fore’, mi wn eich bod yn ddigon rhesymol i gredu taw bwyta ac yfed dan anhawsdere ’ro’wn yr amsere hyny. Pan y ceisiwn yn gynil gusanu’r coffi dros ymyl y cwpan, fe rodde’r hen long dro yn ei gwely hithe: y canlyniad o hyny oedd, fod traflwnc o’r gwlybwr poeth yn llifo i lawr fy nghorn gwddf fel hylif tân, a rhoi i mi brofiad o burdan am eiliad. Rhwng caledwch y fiscïen a thanchwa’r coffi, ’ro’wn bron a myn’d i gredu na fydde genyf dafod na dant erbyn y cyrhaeddwn adre’.

Blinfyd arall oedd ymwisgo. Gelwid y lle y gorweddwn ynddo’r nos yn bunk, ac yr oedd un arall odditano. Dewisais yr ucha’ am ei fod yn nes i’r ffenest’; ond y troion cynta’ bum bron ei newid am y llall. Rhyw deimlad o urddas a leche rhwng f’asene barodd imi beidio. Cawn drafferth nid bychan i fyn’d iddo; ond ’doedd hyny’n ddim yn ymyl y drafferth a gawn i dd’od o hono. A phe gwelech fi’n ceisio myn’d i mewn i’m llodre’, arswydaf wrth ddych’mygu’ch beirniadeth. Prin y mae angen imi dd’we’yd ei bod yn fater o reidrwydd imi gydio âg un o’m dwylo mewn rhywbeth sefydlocach na mi fy hun; ond y funud y gollyngwn fy ngafel, collwn fy nghydbwysedd, ac wrth geisio’i adfer, ’doedd dim dal nad ele’r llodre’n fagl imi, ac nad ar fy hyd ar y llawr y cawn fy hun, a ’mhen wedi d’od i wrthdarawiad â’r bwnc isa’. Ar adege neillduol, yr oedd awr o amser lawer ry fach imi fyn’d drwy’r gwasaneth i gyd; a phan ’r eisteddwn i lawr am wyth o’r gloch i fwyta fy more’bryd, fe fydde peth o ôl y frwydr arna’ i fynycha’.

Yr o’em yn bedwar wrth y bwrdd ar brydie bwyd, os bydde amgylchiade’n caniatau—y cadben, y ddau swyddog, a mine. Beth bynag arall ellid ei dd’we’yd am y prydie, byddid yn ddiogel ei wala pe d’wedid am danynt eu bod yn sylweddol. Triphryd y dydd oedd y mesur, gydag ambell i sgwlc ’nawr ac eilweth.

Y peth cynta’ geid i frecwast oedd “uwd.” Un o ffrindie bore’ oes oedd efe; ond nid o’wn wedi ei wel’d yn edrych cystal er pan o’wn yn grwt gartre’. Bob tro y digwyddwn gwrdd âg e’ wed’yn, ryw erthyl diymadferth ydoedd, a’i “anelwig ddefnydd” yn pregethu darfodedigeth. Ond yn y llong yr oedd fy hen ffrind dewed ag erioed. Gwedi cyfnewid syniade â’n gilydd, cymerwyd ei le gan ddysgled barchus o gorachod tordyn a brasderog y gelwid “sosinjers” arnynt yn y dyddie gynt. Yr o’ent bron a bod o’r un hyd a’r un led fel y ’stiward; ac yr oedd eu crwyn mor dỳn am danynt, fel nad oedd eisie ond gosod min y gyllell i gyffwrdd â hwy i beri iddynt ymffrwydro’n fygythiol. Nid oedd golwg ddymunoled arnynt wed’yn. Helpid y bechgyn hyn i lawr gan bytatws oedd wedi colli eu hunanieth cyn cyredd y bwrdd, a myn’d yn un i’w gilydd. Yn fy myw y gall’swn gofio imi erioed fwyta pytatws gynared ar y dydd, a deue rhyw hen dorïeth felly rhyngof a’u mwynhau fel y caraswn. Eto, gwnes fy ngore’ dan yr amgylchiade; ac erbyn i rif y trydydd ganlyn ar ffurf “pwdin reis,” nid oedd genyf ysbryd mwyach i bara ’mlaen. Neu hwyrach taw’r cylla oedd yn cellwair. Yr oedd y cyflenwad olaf hwn yn edrych mor sylweddol a dim oedd ar y bwrdd. Pe bai’r fath beth yn bosib’ ag i’r trymaf o honom fedru dawnsio ar ei grystyn—neu pe’i teflid yn enw pêl droed ar hyd y dec nes blino o honom, nid wyf yn meddwl y dygai ddim o’r node, nac y cwynai oherwydd y gamdrinieth.

Dïau taw’r adeiladeth ore’ i mi oedd gwylio’r ddau swyddog wrthi. Eisteddwn gyferbyn iddynt, a’r cadben wrth f’ochr. Mi dd’wedes eisoes taw bwytawr bychan oedd y cadben, ond gwnai’r lleill iawn digonol am ei ympryd ef a mine. Cenfigenwn wrth y modd blysig a deheuig yr aent ati; a phan ddeue’r prydie erill heibio’n eu tro, ceid ganddynt ail a thrydydd argraffiad, gydag ychwanegiade, o bryd cynta’r dydd.

PENOD V.

*

RHAGOR AM Y BYWYD BOD DYDD.

AM un cenid y gloch ginio.

Cawl go dene’ oedd y rhagarweiniad i’r eilbryd fynycha’. Nid yr un oedd ei ddeunydd bob dydd, ond yr un oedd ei drwch. Yna fe ddeue rhyw gymysgfa y gelwid curry arno. Pare hwn imi chw’thu, a chw’su, a chochi, a thynu f’anadl ataf, a cholli dagre, gan mor dwym’ ydoedd; ond yr oedd y ddau frawd ar fy nghyfer yn peri iddo ddiflanu heb grychu talcen. Arferwn yfed swm difrifol o ddw’r wrth drafod y crëadur yma, nes y des i wel’d nad oedd dim yn tycio, yna ymatelies. Cig eidion, neu borc wedi ei biclo a ddilyne, mor flasus â dim oedd yn y fwydgell. Caled oedd y blaena’, a meddal yr ola’, ond canwn eu clodydd yn uwch na dim arall, a bendithiwn y diwrnod pan y gwnaent eu hymddangosiad ar y bwrdd. Dirwynid y ginio i fyny weithie gan ŵr bonheddig o’r enw Roland Poland—yr hwn, yn ein munude mwya’ chwareus, a alwem yn “roly-poly;” a phrydie erill gan bwdin o’r un teulu a’r llall y sonies am dano. Bydde’r pryd nesa’n cyfranogi o rai o’r elfene dywededig, y’nghyd a chwpaned o dê oedd yn peri i mi ame’ ai nid coffi ydoedd. Hwn oedd y pryd cyfreithlon ola’; ond mi fydde aelode’r Cyfrin-gyngor yn cael sgwlc cyn y wyliedwrieth naw o’r nos, a mine yn eu cysgod. Yr wyf yn meddwl imi wneud y sylw yna o’r blaen, yr hyn a ddengys nad dibwys yw yn fy ngolwg i.

Tra ar y pen hwn, cystal imi sôn am y modd yr ymdarawem wrth y bwrdd ar dywydd garw.

Wedi ini fyn’d i fewn i’r Bau Mawr, ac i hwnw, ’nol ei arfer, ein siglo’n ddiseremoni, nes gwneud i’m cydbwysedd i a sefydlogrwydd gwahanol bethe dd’od yn faterion i alw sylw atynt—gwelwn y ’stiward un diwrnod, pan oedd yn tynu at amser cinio, yn sicrhau rhyw grëadur cam a chrwca wrth y bwrdd, ac y’myn’d ymaith. Nis gwyddwn beth i wneud o hono. Ar ol taith igam-ogam, es ato, ac ni bum yn hir cyn d’od i’r penderfyniad taw nid peth i’w fwyta ydoedd. Gwir na wyddwn am gyraeddiade’r cogydd y ffordd yna, ond teimlwn yn bur hyderus na fu’r creadur hwn erioed mewn na chrochan, na sospan, na phadell ffrïo. Gwneid ef i fyny o beder ’styllen, yn rhedeg gyda hyd y bwrdd, a dwy bob pen yn rhedeg gyda’i lêd. Yr oedd tri o wagleoedd rhwng y ’styllod, a’r canol oedd y lleta’. Wrth edrych arno’n ddyfal, tybiwn fod y wawr yn tori, a disgwyliwn y ’stiward yn ol a’r datguddiad gydag ef. Ac i wneud ’stori fer o ’stori hir, dyma ydoedd:

Math o garchar i gadw’r dysgle a’r platie rhag dïanc dros yr ymylon pan fydde’r llong y’myn’d wŷsg ei hochr i radde mwy nag a fydde’n ddymunol. Amddiffyn y llestri lleia’ rhag direidi’r llestr mwya’ oedd ei genhadeth, ac yr oedd yn amlwg na ellid gwneud hebddo. Yr oedd defnyddio cyllill a ffyrc dan amode fel hyn yn orchwyl peryg’; ac yr oedd yn rhaid i ddyn gadw’i lyged yn agored os am gadw’i geg yn iach. Yr enw arno oedd crwth. Nid oedd ynddo ddim yn debyg i grwth cyffredin, ond yr oedd y llestri pridd a phiwtar yn tynu tipyn o fiwsig allan o hono. Bu raid ini wrth wasaneth y “crwth” cy’d ag y buom yn y bau, a throion wed’yn; a ’does dim dadl nad oedd yn un o’r cre’duried mwya’ gwas’naethgar yn y llong.

Fy nghydymeth ffyddlona’ wrth fyn’d a dychwelyd oedd cath fechan ar ei phrifiant o’r enw Bismarc. Nid oedd yr enw’n ffitio’i rhyw, oblegid yr oedd y’nes perthynas i wraig Bismarc nag i Bismarc ei hun yn yr ystyr hono. Tebyg taw cath ystrai ydoedd, a ddaethe i fewn yn y Bari Doc pan oedd y llong yn llwytho. Talai am ei lle y’null arferol y math yma o bedrod, sef trwy hela llygod a’u dal. Mae morwyr yn hoff o gre’duried ar y bwrdd, a bydde lladd un o honynt trwy fwriad neu amryfusedd yn creu hylabalŵ ofnadwy. Yr oedd byd braf ar Bismarc, ac yr oedd ei gôt yn profi hyny. Gofale’r cadben am ei frecwast, y prif swyddog am ei ginio, a’r ail am ei dê. Nid wyf yn gwybod pa’m y dodwyd yr enw Bismarc arno, os nad oblegid ei hirbeneiddiwch. Os methwn a bwyta’r cwbl osodid ger fy mron, deue Bismarc heibio, a dealle’r sefyllfa’n union. Nid oedd terfyn ar ei rwbio a’i ganu nes y cynygid y gweddillion iddo; ond os dealle fod pob un y’meddwl myn’d trwy ei waith heb adel dim ar ol, fe ymneilldue’r gwalch nes y bydde’r cwbl drosodd. Yna fe ddychwele at ei blât ei hun.

Treulies lawer o f’amser i chware’ gyda’r gath, ac nid oes arnaf g’wilydd d’wedyd hyny. Mae’n amheus genyf a fu’r crëadur bach ar y môr o’r blaen, oblegid ’roedd symudiade dideddf y llestr yn peri dyryswch mawr iddo. Credwn weithie fod ganddo wybodeth reddfol fy mod i’n debyg iddo yn hyny o beth. Bid fyno, hefo mi y myne fod pan fydde’r gwynt yn uchel, a’r môr yn dringo wrth ei sodle. Yr oedd yn siwr o fod wedi cyfri’ ar fwy o gydymdeimlad gen i na neb arall. Pan gode’r llestr ar ei hochr, nes gwneud i mi genfigenu wrth y clêr am fedru cerdded a’u peue’ i lawr, safe Bismarc yn sydyn am eiliad, fel pe bai’n ceisio ymresymu’r pwnc—yna fe ruthre ar ei gyfer mor wyllt a diseremoni, nes yr ofnwn iddo daro’i fenydd yn erbyn y pared. Cyn ei fod wedi cael ei draed dano, mae’r llong yn rhoi tro i’r ochr arall, nes gyru Bismarc, druan, i’r cyfeiriad cyferbyniol, a’i edrychiad fel edrychiad dyn meddw’n ceisio bod yn sobr. Nid oes amheueth genyf nad oedd y gath y’ngafel selni’r môr lwyred y bu cath erioed—na dyn chwaith, pytae fater am hyny. Ar ol i’w fewnolion gael eu troi a’u trosi, eu chwilio a’u chwalu, eu corddi a’u cordeddu tua dau ddwsin o weithie yn y modd yna, fe orwedde i lawr yn y man lle bydde fel un wedi rhoi’ fyny’r ysbryd, a cholli pob gobeth am wel’d llygoden byth ond hyny.

Ni fydd y benod yn gyflawn heb i mi dd’we’yd gair am y dydd cynta’ o’r wythnos. Yr o’wn wedi awgrymu i’r cadben mewn pryd y byddwn at ei wasaneth i bregethu ychydig i’r dwylo ar y dec, neu i fyn’d dros rai o done Sanci hefo’n gilydd. Ond ce’s ar ddeall yn fuan fod yn well ganddo beidio; a’i reswm oedd—fod yna’r fath gasgliad o wahanol opiniyne ar faterion crefyddol a gwleidyddol, nes ei gwneud yn ddoethach i gadw’n glir oddiwrth bethe felly’n gyhoeddus, a gadel ei ryddid i bob un i feddwl fel y myne am y naill a’r llall, neu i beidio meddwl o gwbl. Er nad o’wn o’r un farn ag e’ ar y pwnc, efe oedd y meistr, ac nid oedd apelio i fod oddiwrth ei ddyfarniad.

Y Sul cynta, es am dro cy’belled a phen blaen y llong, ac yno gwelwn gortyne o’r naill bôst i’r llall, ac arnynt bob math o bilin, gwlyb a sych, adnabyddus ac anadnabyddus, o bob lliw a llun, cyfen ac anghyfen, yn chwyfio’n yr awel ac yn clecian yn y gwynt, nes peri imi feddwl fod yno gynrychioleth o faneri holl genedloedd y byd. Wedi holi, ce’s ar ddeall taw dy’ Sul oedd diwrnod golchi’r criw; a dyna lle’r oedd rhai o honynt wrthi’n brysnr—un yn golchi ei grys, un arall yn golchi ei ’sane, ac un arall yn golchi ei gorff ei hun, oedd fryntach na’i grys na’i sane. Gan nad oedd yr arogl a ddeue odd’no’n ddymunol iawn i’r ffroene, mi a ddychweles i’m caban, ac a dreulies y gweddill o’r dydd yn cydaddoli o ran yr ysbryd â’m pobl fy hun gartre’.

PENOD VI.

*

AR Y DAITH.

MAE’N bryd imi bellach gymeryd stoc o’r byd sy’n gorwedd o’r tu allan i’r llong, rhag i chwi fyn’d yn sal o glefyd y môr drwy gael eich cyfyngu cy’d rhwng y plancie.

Yr oedd y nos y cychwynes allan o ddoc y Bari yn “dangos gwybodeth” ar ei gore’, ac yn “traethu ymadrodd” cystal a’r dydd am ei ddanedd. Fe wincie goleuade Gwlad yr Ha’ draw arnom fel pe ba’em y’myn’d allan ar ryw ddireidi, a nhwthe’n y gyfrinach. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod goleuade glane Morganwg yn cenfigenu wrth eu chwiorydd yr ochr arall i’r Sianel, ac am hòni cyment o wybodeth a’r Saeson, a d’we’yd y lleia’. ’Roedd ambell i oleuad yn ymddangos i mi fel pe bai’n cael difyrwch diniwed am ein pen; un funud edryche arnom fel plentyn drwg yn ei wely—y funud nesa’ fe fydde a’i ben dan y dillad—i fyny drachefn heb ei ddisgwyl—i fyny ac i lawr, i fyny ae i lawr, mor brofoclyd a dim wolsoch erioed. Gelwir y math yma’n oleuad trofäol; ac erbyn sylwi, y mae i’w gael ar ei ganfed ar hyd y glane y’mhobman. Nid oedd y lleni wedi eu tynu dros ffenestri’r ffurfafen chwaith, ac yr oedd cysgod engyl i’w wel’d yn pasio heibio iddynt ol a gwrthol. Dyna oedd f’esboniad i pan yn blentyn ar ansefydlogrwydd y sêr, ac ni elles ymddihatru oddiwrtho byth. Adlewyrche’r dw’r o gwmpas sêr y nefoedd a sêr y glane, a theimlwn yn ddigon hunanol i feddwl fod yr holl gre’digeth wedi d’od allan i ddymuno mordeth dda i mi. Cure calon yr hen long mor rheoledd a phe bai’n canu unod mewn cystadleueth, a gwylltie’r hwylysydd weithie mewn cyfeiliant iddi. Rhodde’r môr ffordd yn foneddigedd i’r llestr basio, cusane’r mân done ei hochre geirwon wrth fyn’d heibio, ac ymestyne ei llwybr yn ol i fynwes y nos fel llwybr arian.

Dacw oleuade Ilfracombe yn pefrio’n y pellder; ac wele gilfach Westward Ho! lle bum unweth yn chwilio am unigedd ac yn temtio seibiant, heb ddim ond gole’ gwyliedydd y glane i dd’we’yd lle mae. Wedi murmur “Nos da” wrth ynys Lundy, trymhaodd fy llyged, ac yn hwyrfrydig es i chwilio am fy ngorweddle. Nid heb gryn gyflafareddiad y llwyddes i’w sicrhau at fy ngwasaneth; ac wedi myn’d iddo, yr oedd pobpeth fel wedi ymdynghedu i’m cadw’n effro. Bum amser hir yn ysbïo drwy’r ffenest’ gron oedd yn f’ymyl ar oror Cernyw y’myn’d ac yn d’od. Bum wed’yn yn gwrando ar ddirgryniade’r llestr, neidiade’r hwylysydd yn union odditanaf, ergydion y peiriant, a llaib y dw’r yn erbyn yr ochre. Y peth nesa’ wy’n gofio’n groew ydyw’r stiward yn d’od i fewn a’i gwpaned coffi. Ond noson drallodus ydoedd; a phe b’asech yn fy lle, gwn na f’asech damed gwell, os cystal, er eich bod yn awr yn barod i chwerthin am fy mhen.

Pan ddeffröes y bore’ cynta’, yr oedd pen pella’ tir Pryden ar fin myn’d o’r golwg. Delies i syllu arno hyd y gall’swn, a phan y colles ef, daeth ochened drom i fyny o rywle heb fy nghaniatâd. Tybiwn imi glywed eco iddi o’r tu ol, a mi drois yn sydyn; ond ni weles neb ond yr ail beirianydd yn chwilmanta gerllaw. Ni wyddwn am ei dricie’r pryd hwnw; ond wedi i mi dd’od i’w adnabod yn well, a meddwl am y peth, drwg dybiwn ef o fod yn gwneud difyrwch o honof, a taw efe oedd yr eco. Erbyn hyn, ’doedd dim yn y golwg ond môr ac awyr, ac ambell i long arall yn pasio. Yr o’em bellach yn nesu at y Bê Bisce, yr hwn oedd wedi bod i mi’n fwgan y dydd, ac yn hunlle’r nos oddiar pan y penderfynes fyn’d y ffordd hono. Clywswn gyment o sôn am dano, ei fôd yn grëadur mor ofnadwy, nes fod myn’d drwyddo bron bod yn gyfystyr a myn’d trwy lỳn cysgod ange’.

Ond diwrnod ardderchog oedd hwn, gan’ad sut y bydde’n y Bau. ’Does dim eisie’ croesi’r bont cyn d’od ati. “Digon i’r diwrnod ei ddrwg ei hun.” Mae’r haul yn gry’, a’r gwynt yn isel. Mae’r môr fel gwydr, a’r gwylanod yn ein dilyn yn ffyddlon. Chwareua haid o bysgod y gelwir “porpoesied” arnynt yn ymyl trwyn y llestr. Neidiant o’r dw’r y naill ar ol y llall, yn cael eu blaenori gan borpoesyn mwy na’r cyffredin; desgrifiant haner cylch yn yr awyr ar eu taith, yna plymiant i’r dyfnder drachefn, gan fyn’d drwy’r un chware’r ochr arall. Bum yn gwylio’r rhai hyn am orie bwy gilydd. Yn y cyfamser, ele llonge erill heibio i ni, ager a hwyl—rhai yr un ffordd, a rhai i’n herbyn. Ha! dacw hen drampes fel nine ychydig o’n blaen, gafodd gwarter awr o fantes arnom wrth gychwyn o’r Bari. Yr ydym wedi enill arni, a dyma hi’n “râs.” Mae ei thanwyr yn cael gorch’mynion i lanw’i berwedyddion â glo, a chw’da fwg du, tew, allan o’i gene’ nes cuddio’i hun o’r golwg. Gwnawn nine’r un fath, nes peri imi dybied am foment fy mod y’nghanol gwaith Dowles. Erbyn i’r mwg glirio, ’ro’em ar y blaen i rywle. Caed aml i brofion ar hyd y daith taw gwaith anodd oedd curo hon gan longe o’r un dosbarth a hi. Nid llawer o gyffröade sy’ mewn bywyd ar fwrdd llong o’r natur yma; ond mae rhedeg râs â llong arall yn sicr o fod yn un o honynt.

Yr ail nos mi dreulies y dog-watch ar y bont y’nghwmni’r ail swyddog. Ymestyna’r wyliadwrieth yma o chwech i wyth. Mae’r gwyliadwriaethe erill yn beder awr bob un. Sut y daw hon i fewn, nid wyf yn gwybod, na pha’m y gelwir hi dog-watch. Buont yn ceisio esbonio’r blaenaf i mi, ond mae’r bai naill ai ar fy neall neu ar fy nghôf. Ni wyddent yr olaf eu hunen, felly, ni ddisgwylir i mi ei wybod. Gallaf ddych’mygu, ond nid ’grifenu dych’mygion wyf, eithr ffeithie. Yr o’wn wedi gwneud darpariade heleth ar gyfer y ddwyawr ar y bont; a phe gwelech fi, gwn y bydde’n naturiol i chwi gredu fy mod ar y ffordd i’r Pegwn Gogleddol. Côt fawr dros fy nghôt isa’, a chôt ar gyfer gwynt a gwlaw dros hono drachefn, a choleri’r tair i fyny fel tair catrod. Menyg tewion am fy nwylo, a chap blewog am fy mhen. Yr oedd gan y cap glustie, ac yr oedd gen ine glustie, a gwasanaethe’r naill i amddiffyn y lleill. Rhwng pobpeth, yr o’wn mor gysurus a phe b’aswn wrth y stôf yn y caban. Cyn i’r wyliadwrieth dd’od i fyny, aeth un o’r llonge mwya’ heibio i ni o fewn cwarter milldir; ac yr oedd yn ymddangos fel pentre wedi ei oleuo ar amser rhïolti.

Pan y ceisies godi’r ail fore’, methwn a dyfalu beth oedd yn bod. Ni fu’r fath helynt erioed ar ddyn yn ceisio d’od o’i wely; ac erbyn y cofiwch fod y “bwnc” y gorweddwn ynddo gryn bellder o’r llawr, golyge anturieth bwysig.

“Mae’r bendro arnaf,” meddwn; “neu ’rwy’ wedi tori ’nirwest heb wybod i mi fy hun.”

Ond mi ddigwyddes edrych drwy’r ffenest’ fach, a mi weles fod y môr wedi codi hefyd, a thrafferthed a mine wrth y gorchwyl. Yr oedd fel pe bai’n ddig wrth yr hen long am ei aflonyddu’n rhy fore’—fel y byddwn ine wrth y ’stiward ambell dro; ac ysgydwe hi’n enbyd—fel y bygythiwn ine wneud i’r ’stiward. Wedi do’d drwy’r anhawsdere o wisgo a ’molchi, mi gerddes mor barchus ag y medrwn i’r dec, ac yno mi ddealles ein bod wedi myn’d i mewn i’r Bau Mawr rywbryd yn y nos, a’n bod wedi myn’d gwarter y ffordd drwyddo. Yr oedd y gwynt o’r gogledd-ddwyren, ac yn fwy o help ini nag o rwystr. Ond, O’r symudiade! Yr oedd gwel’d y llong yn cusanu’r dw’r hyd ei rhagfurie, a’r tone’n neidio drostynt, y mynydde dyfrllyd yn erlid ar ein hole, a’r pantie dyfnion a grëid gan y sugndyniad, Chips yn cael ei ddala’r ochr yma, a’i wlychu at y croen, a’r ’stiward yn gwylio’i gyfleusdra’r ochr arall, ac yn dïanc â chroen ei ddanedd—yr oedd bod yn dyst o’r golygfeydd hyn a’u cyffelyb am haner awr cyn brecwast yn gosod y prawf llymaf ar f’ystumog a’m calon. Dyma’r bore’ y daeth y “crwth” i’r ford gynta’. “Dal llygoden a’i bwyta” oedd y drefn ar bryd bwyd bellach, a’r “dal” yn fwy o gamp na’r bwyta. Dyma fel y bu drwy’r dydd, a dyma fel y bu drwy’r nos wed’yn. Nid af i gelu fod braw arnaf, ond dim salwch. D’wedir i mi pan fo salwch nad oes dim braw. P’run yw’r gwaetha’, nis gwn. Ni dd’wedaf chwaith sut y treulies y nos hono, rhag crechwenu o’r Philistied. Ond ganol dydd dranoeth yr o’em wedi myn’d drwy’r Bau, ar ol haner cant o orie gerwin eu gwala. Bellach, dyma “Wlad yr Haul” yn y golwg.

PENOD VII.

*

FY NYDDIADUR.

AR draul ail-adrodd fy hun—yr hyn yw fy “mhechod parod” wrth siarad a ’sgrifenu—gosodaf yma ddarne o’m dyddiadur. Mae hwnw’n siwr o fod mor agos i’w le o ran cywirdeb a dim sydd wedi ymddangos, ac a ymddengys eto. I dreulio’r uwd a’r pytatws a gawswn i frecwast, y peth cynta’ wnawn oedd ’sgrifenu ar fy nyddiadur, oni fydde’r hen long yn bechadurus o ansefydlog; ac af yn feichie dros y nodiade sydd ynddynt, eu bod yn adlewyrchiade gonest o’r hyn a weles, a glywes, ac a deimles drwy’r holl helyntion. Chwi gofiwch fy mod yn ’sgrifenu ddiwrnod ar ol y dyddiad a geir.

Dydd Sadwrn, Chwef. 23ain.—Y’nghanol y Bê Bisce. Wedi myn’d drwy ran o hono neithiwr, dïolch am hyny. Yn weddol o dawel drwy’r bore’, ond ar ol haner dydd dechreuodd y tone guro ar y llong, a’n hanes wed’yn oedd ymsuddo ac ymrolio hob yn ail—weithie o ben i ben, bryd arall o ochr i ochr—a’r dw’r yn golchi dros y dec yn gyfrole trwchus. Felly am y gweddill o’r dydd, ac ar hyd y nos—ond nid oedd blas genyf i ganu’r hen alaw. Bwyta mewn gefyne. Pawb fel wedi meddwi, a’r hen long y’nghanol ei bloddest. Lle rhyfedd yw’r bau hwn: y mae fel pytae pobpeth o chwith yma. Pysgod y’neidio allan o’r dw’r, ac adar y’myn’d dros eu pene iddo. Porpoesied yw’r naill, a gwylanod yw’r lleill. Mor falch yw’r gwyliedydd i wel’d yr haul yn d’od i’r golwg pan y mae’n gymylog! Mae’r haul yn cadarnhau’r cyfeiriad. Ond pan na bo haul, na lloer, na seren yn y golwg, mae’r cwmpas ganddo o hyd. Gŵyr y mordeithwyr ysbrydol am rywbeth tebyg.

“Tywydd da yw hwn,” ebe’r ail swyddog.

“O’r anwyl! beth am y drwg, ynte?” meddwn wrtho.

Ofn nad oes dim llawer o gysgu heno eto. Dim gogwydd at selni mor belled. Dywed y cadben wrthyf fy mod yn un o fil. Mỳn y ’stiward fy mod wedi camgymeryd fy ngalwedigeth—taw morwr ddylaswn fod. Yr wyf o’r un farn ag e’ weithie’ am y cynta’, ond yn ame’r ola’n fawr. Beth dd’wede pobl Bethania, tybed?

Dydd Sul, y 24ain.—Codi am saith. Y llong yn chware’i phrancie o hyd, y môr yn tori drosti, a phawb ar y dec yn wlyb dyferu. Eto, dyma dywydd cyffredin y Bê Bisce! Fel hyn y budrwy’r bore’; ond erbyn canol dydd yr o’em wedi dianc o’i grafange. Ysgyrnygu ei ddanedd arnom yr oedd y crëadur yn y bore’n ddiame genyf, wrth ein gwel’d yn ffoi o’i derfyne. Gobeithio’r anwyl na cheidw’i ddialedd nes y dychwelwn. Wedi cael tir Sbaen rhyngom a nerth y gwynt, aeth yn dawelwch mawr. Ac O! brydnawn Sul. Haul clir, tanbed, ffurfafen ddigwmwl, môr didone, a’r llong yn cerdded drosto fel boneddiges y’nhraed ei ’sane—ardderchog, a d’we’yd y lleia’. Y tir o gwmpas Corunna ddaeth i’r golwg gynta’. Cofio am Syr John Moore, a’r farwnad anfarwol a wnaed iddo gan y Parch. Charles Wolfe. Gorffwysdra i’r llygad oedd gwel’d tamed o dir ar ol y fath dafell o fôr. Dacw’r arfordir gorllewinol i lawr hyd Benrhyn Finisterre. Cawsom engraff o ddïogi’r Sbaenied yn y Penrhyn hwn. Mae yma orsaf i dderbyn arwydd llonge. Codasom yr arwyddion arferol, ond ni ddaeth arwydd yn ol mewn atebiad; a thynge’r cadben (nid yn gableddus) taw cysgu oedd y tacle. ’Doedd dim perswâd ar yr ail beirianwr na chlywse hwy yn chw’rnu’r pellder hwnw! Mynyddig a garw yw’r darn yma o dir Sbaen. Collasom ef yn fuan, a disgwyliwn wel’d tir Portugal ’fory.

Dydd Llun, y 25ain. Bore’ heddyw disgynodd fy llyged ar dir Portugal. Mor wahanol i dir Sbaen! Yn lle mynydde uchel a geirwon yn codi’n syth o’r môr, ceir yma ffermdai a phentrefi bychen a mawrion i’w gwel’d y’mhob man. Caëe a gwinllane, perllane ac olewydd-lane ar lechwedde’r brynie, a’r mynydde draw yn y pellder yn dir cefn iddynt. Pentrefi pysgota ar y làn, a thraethe swynol o dywod gwỳn a chaled yn dysgleirio’n yr haul. Lle braf i fyn’d a phicnic Ysgol Sul am brydnawn. Hwyrach taw’r ffordd fydde dipyn y’mhell o Gwm Rhondda. Yr oedd yn ddiweddar yn y dydd pan weles gyffinie Lisbon. Yr oedd y ddinas ei hun yn llechu o’r golwg i fyny’r afon Tagus. ’Roedd hafdy’r brenin yn sefyll ar fan amlwg iawn, yn union uwchben y ddinas, mi allwn dybied. Adeilad mawr gwỳn ac unffurf ydoedd, yn pregethu llai o gysur na bwth Beti New Cross ar dir y Godor, mi wna’ lw. Ar y dde’ mae tair neu beder o greigie daneddog yn codi’n ddirybudd o ganol y dyfnder. Creigie’r Birlings y gelwid hwy. Mae dim ond edrych arnynt yn ddigon i’ch argyhoeddi eu bod yn beryg’ i longe, ’nenwedig ar amser niwl. Yn agos i’r fan yma y collwyd llong fawr berthyne i’r Anchor Line. Dacw Benrhyn Espechel, lle cawsom yr arwydd. Ar bigyn ucha’r mynydd fan draw mae lleiandy aruthrol—y mwya’n y byd, medde nhw. ’Roedd ei adeiladu’n golygu llafur blynydde i rywrai. Un o olygfeydd mwya’ dymunol y darn yma o’r byd yw y bade pysgota tlws a syber sy’n dawnsio o’n deutu, Mi weles sgoroedd o honynt heddyw, a rhedent o flaen yr awel mor ysgafn-droed a’r awel ei hun. Cyfarfyddasom â llong ryfel, a chyfarchasom hi. Dychwelodd hithau’r cyfarchiad yn foneddigaidd ei gwala. Mae’r môr mor dawel â Llyn Tegid ganol ha’, a thripia’r llong yn llawn mursendod drosto. Cyredd gyferbyn â Phenryn Rocca cyn nos. Y tir yn cilio eto, ac nis gwelwn ef mwy hyd y bore’. Dïolch i Dduw am ei amddiflyn.

Dydd Mawrth, y 26ain.—Tybies fod rhywun yn curo’r ffenest’ pan o’wn rhwng cysgu a deffro. Beth oedd ond gwlaw! Bysedd y gawod a’m dihunodd. Bu’n gwlawio’n drwm drwy’r bore’. Mae gwlaw a niwl yn cydgyfeillachu ar y môr: anaml y ceir y naill heb y llall. Diflas yw bod ar dir pan y mae’n bwrw gwlaw; diflasach yw bod ar y dw’r. Ond daeth yn deg cyn cinio, a pharodd yn deg drwy’r dydd. Cryfhaodd yr haul, a chryfhaodd y gwynt o’r tu ol ini, nes peri i’r llestr siglo’n enbyd ar brydie. Tir yn y golwg, ond yn rhy bell i wneud fawr o hono. Pasio heibio i leoedd a hanes iddynt, megis St. Vincent a Trafalgar. Mae’r hen long yn cael côt newydd o baent y dyddie hyn—nid rhyfedd ei bod mor rodresgar ei symudiade.

Dydd Mercher, y 27ain.—Wedi myn’d drwy Gulfor Gibraltar yn y nos—yn hytraeh, dri o’r gloch y bore’. D’wede’r cadben wrthyf fod y llong wedi teithio’n gyflymach o’r Bari i’r Gib nag y gwnaethe’ ’rioed o’r blaen. Mor garedig yw’r Llywodraethwr Mawr ini! Mae’r Hwn sy’n cadw’r gwynt yn ei ddwrn yn ei ollwng allan yn dameidie cysurus, a’r Hwn gerddodd ar y tone gynt yn cerdded arnynt eto. Dyma Fôr y Canoldir o’r diwedd! Y Môr Mawr! Môr yr Apostol Paul! A’r môr y taflwyd Jona’ ’styfnig iddo! Onid yw yn llawn swyn i’r efrydydd Beiblaidd? Mae ei ddyfroedd yn loew ac yn lâs heddyw, a’i dòne’n fân ac yn fuan. Yr ydym bellach y’mordwyo tua’r dwyren—o’r blaen tua’r de’ y mordwyem. Mae fy wyneb yn awr tua chodiad haul. Dacw dir Affrig yn y golwg i’r dde’, a thir Sbaen yn y golwg i’r aswy. Mynydde uchel, a’u coryne’n wynion gan eira. Dilynant ni am dros gan’ milldir. Mae golygfa fawreddog i’w chael arnynt. Sylles yn hir ar y cyfandir tywyll, a cheisiwn adgofio pob emyn ac adnod a dd’wedent rywbeth am dano.

Mi ro’is dro yn y tŷ peiriant cyn myn’d i gysgu, o dan arweiniad yr ail beirianwr. Teithies dan y dec o’r naill ben i’r llall. Ni fum mewn gwlad ryfeddach erioed. Dyma lle mae cyfnewidiad hinsodde! Ceir y gwynt oera’ a’r gwres mwya’ llethol am y drws i’w gilydd. Mae yma bob sicrwydd dynol am ddiogelwch. Ele iase drosof pan ddechreuwn feddwl taw dim ond ychydig droedfeddi oedd rhyngof a’r dyfnder du; ac yr oedd llaib y dw’r yn ymyl fy nhroed yn gwneud imi oeri a chw’su bob yn ail. Cyn dychwelyd i’r dec, cymeres stoc o’r tanwyr y’ngole’r ffwrneisie. ’Roedd eu düwch, a’u meindra, a’u taldra, a’u noethder yn eu trawsffurfio’n ellyllon mewn ymddangosiad. Wedi eu gwel’d wrth eu gwaith, nid o’wn yn synu mwyach eu bod mor sychedig.

Mae’n ddiwrnod ardderchog, a’r haul yn ei ogoniant. Mae’r awyr eisoes yn gliriach nag awyr Pryden. Erbyn diwedd y dydd, yr ydym wedi gosod dros dri chant ar ddeg o filldiroedd hyngom a’r Hen Wlad.

PENOD VIII.

*

DALEN ARALL O’M DYDDIADUR.

DYDD Iau yr 28ain.—Pen yr wythnos ar y dw’r. Dacw dir Affrig eto—glane Morocco ac Algeria. Dim ond mynydde uchel sydd i’w gwel’d, a rheiny’n edrych yn noeth, a chas, a thywyll. Ni weles fynydde ’rioed a’r fath olwg ddiserch arnynt. Tybed nad rhein yw’r “mynyddoedd tywyll” y sonia’r proffwyd am danynt? Trwy’r ’spïeinddrych gwelaf ychydig bentrefi yma a thraw, ond y maent yn rhy bell i’w gwahaniaethu’n glir. Arabied yw’r boblogeth, a lladronllyd yw eu cymeriade. Mae’r pentrefi hyn yn hen nythleoedd môr-ladron o’r rhywogeth waetha’. D’wedodd y cadben bethe rhyfedd wrthyf am danynt. Maent wrth eu hanfadweth heddyw pan gânt gyfle. Anfonodd Swltan Morocco rybudd dro’n ol i holl deyrnasoedd Ewrob, am i’w llonge beidio caniatau i fade lanio’n sengl ar y traethe hyn oherwydd y môrladron; ac os bydde i rywbeth anymunol gymeryd lle ar ol y rhybudd, na fydde fe’n gyfrifol i neb am hyny. Ond aeth bâd allan o long Ellmynedd ar waetha’r gwaharddiad. Yr oedd haner dwain o ddynion ifanc gwamal ynddo; a phan ddaethant o fewn haner milldir i dir, ymsaethodd tri o fade hirion, meinion, yn llawn o ddynion, allan o un o’r cilfache, cymerasant hwy yn garcharorion heb fawr trafferth, ac yr o’ent oll wedi diflanu cyn i neb ar y llong wybod fod dim wedi cymeryd lle. A’r darn prudda’ o’r hanes yw, na chlyw’d siw na miw am y trueinied byth wed’yn! Nid oes lle i ame’ na chawsant eu cludo i un o farchnadoedd y Sahara, a’u gwerthu’n gaethion i’r canolbarth.

Mae’r tywydd mor ddiserch a’r tir, heb fawr haul, a’r gwynt yn eillio mwy nag a f’asech yn feddwl mewn lle fel hyn. Mi deimles fwy o wres lawer gwaith yn yr Hen Wlad y’mis Chwefror nag a deimlaf heddyw y’ Môr y Canoldir. Mae’r dyfroedd yn dawel ryfeddol, a’r llestr yn cadw heb siglo ond ychydig. Dim ond un llong a weles drwy’r dydd—nyni sy’n teyrnasu. Ddoe ’roedd y dw’r yn loew iawn; heddyw y mae’n dywyll iawn. Y rheswm o hyny yw fod y dyfroedd yn adlewyrchu gwyneb y wybren. Awyr lâs, ddigymyle oedd awyr ddoe—glas a gloew oedd y dyfroedd; awyr o blwm yw awyr heddyw—cyfranoga’r dyfroedd o’r un lliw yn union. Onid yw hyn y’meddu ar wirionedd cyfatebol mewn cylchoedd moesol a chrefyddol? Mi sylwes fod y llestr yn cynyrchu ei thone a’i hawel ei hun wrth fyn’d rhagddi, ac mi ofynes i mi fy hun—Onid yw dyn yn gwneud peth tebyg wrth fyn’d drwy’r byd, beth bynag fo’i gymeriad? Prydferth yw gwel’d y gwylanod yn gorphwys ar y tone. Mae’r Hwn ddysgodd Petr i gerdded ar y môr gynt yn dysgu ei saint eto i droi tone dig môr bywyd i fod o wasaneth iddynt, i’w helpu i gyredd pen y daith. Dyna ddigon o bendrymu; rhaid ymneillduo bellach. Dacw ole’ Algiers yn dawnsio yn y pellder draw, ac es i gysgu wrth edrych arno drwy’r ffenest’ gron.

Dydd Gwener, Mawrth 1af.—Diwrnod braf, dïolch am dano. Mwy o haul, a llai o wynt. Yn wir, ’does dim gwynt o werth son am dano heddyw, yn unig awelen o grë’digeth y llong ei hun. Pasiwyd Algiers, fel Gibraltar, yn y nos. Yr unig at-daliad a geisiaf yw eu pasio yn y dydd wrth ddychwelyd. Gorore’r cyfandir du yn y golwg o hyd. Y mynydde’n uwch, ac eira ar goryne y rhai ucha’. Cip ar fynydde’r Atlas, sy’n cadw gwynt deifiol yr anialwch rhag gwneud Ewrob yn bentewyn. ’Does dim yn ddeniadol mor belled yn y darn hwn o dir Affrig—hwyrach y gwella wrth fyn’d y’mlaen. Rho’es y cadben ei ’spïeinddrych mawr yn fy llaw, a pharodd imi edrych i gyfeiriad y gogledd. Gwnes hyny, ac ar ol cael y crëadur i ganolfan prïodol, a fy hunan i fedru ei ddal heb grynu, gwelwn fwg yn dyrchu’n dew draw’n y pellder, Wedi deall taw mynydd Etna yn Sicili ydoedd, ’r o’wn yn falch dros ben, er na welwn ond ei fwg. Nid o’em lawer yn fyr o gan’ milldir oddiwrtho, ond ’roedd y pellwelydd yn un cryf dros ben. Oera’r awyrgylch yn fawr ar ol machlud haul, a disgyna’r gwlith yn drwm. Par hyny ei bod yn beryg’ i mi fod allan ar y dec wedi iddi ddechre’ t’w’llu. Mae’r criw wrthi fel lladd nadrodd yn glanhau’r hen long, drwy ei phaentio a’i thrwsio, ei golchi a’i thario. Bwriedir iddi fod fel prïodasferch wedi ymdrwsio i’w phriodas erbyn cyredd Alecsandria. Eto, unffurf iawn yw bywyd o hyd. Dathlu Dy’gwyl Dewi yn fy meddwl, drwy ddwyn ar gof i mi fy hun sut y dathlem ef pan yn blant yn hen dre’r sir. Cofio am y seindyrf yn chware’, y clybie’n cerdded, y baneri’n chwyfio, a’r pwdine a gaem y’nghysgod ein perthynas â rhai o’r swyddogion. Torwn allan i chwerthin weithie pan ddeue ambell i ddireidi i’r wyneb, a thybiwn fod y prif swyddog yn edrych yn amheus arnaf. Ni ŵyr y Cymro arall ddim am Dewi Sant a’i wyl, mwy nag y gŵyr twrch daear am yr haul.

CAIRO.

Dydd Sadwrn, yr 2il.—Tir Tunis yn y golwg. Safle’r hen Garthage, cartre’ Hanibal, a gwrthymgeisydd Rhufen am feistroleth y byd. Dacw bont grogedig Bizarte. Dyma ynysoedd Galita, y Brodyr, Zembra, a Zambretta. Mae mynachlog yn perthyn i Eglwys Groeg ar ben Zembra. Mae darne’ o’r ynysoedd hyn dan arwyneb y dw’r, ac felly’n beryg’ i longe. Darne o’r cyfandir, yn ddïame, ydynt oll, ond wedi myn’d yn wahanedig rywbryd drwy gyffröad tanddaearol a thanforol. Gwel’d amryw o bysgod hedegog; y mae un o honynt o faintioli ’sgadenyn go fawr. Ceir sharcod y ffordd yma hefyd, er na weles i yr un. Ped ymollyngwn dros ymyl y llong i’r môr i ymdrochi, gwnawn fy llw y teimlwn y cna’n union, os na welwn ef. Tynu at Malta—disgwyliwn ei gwel’d rywhryd ’fory.

PENOD IX.

*

UN ARALL ETO.

DYDD Sul, y 3ydd.—Tywydd tawel o hyd—dïolch i Lywydd y môr am hyny. Diwrnod golchi’r criw: golygfa ryfedd i Gymro crefyddol. Mae pen blaen y llong fel cefen un o dai Treorci, yn gortyne a dillad golchedig o gẁr i gẁr. Rywbryd yn y bore’ aethom heibio i ynys o’r enw Pantellaria. Perthyna i’r Eidal, ac y mae ynddi benydfa i droseddwyr dan lygad y Llywodreth. Mae’r tai a’r gerddi i’w gwel’d yn dlws a swynol nodedig o’r llong. Tua chanol dydd ce’s gipolwg ar un o’r ynysoedd Melitaidd draw y’mhell—prin y gwyddwn y gwahanieth rhyngddi a chwmwl yn codi o’r môr. Erbyn tri y prydnawn yr o’em wedi d’od gyferbyn â hi. Gozo yw ei henw, a hi yw’r ail mewn maintioli. Mae’n ddarn braf a gwrteithiedig drosti. Ceir arni bentrefi mawrion, heb fawr o drefn, ond llawer o brydferthwch. Cyfnewidiwyd arwyddion wrth basio. Yn union ar ol cwmpasu Gozo, dyma Malta i’r golwg—Melita Llyfr yr Actau. Meddwl mwy am Paul nag erioed. Oasis y’nghanol anialwch dyfrllyd yw Malta. Ceir perllane a gwinllane’n dryfrith drosti. Mae’r llwybre cochion sy’n croesi’r caëe yn peri imi redeg yn ol i Bontargothi. Y brif dre’ yw Valetta. Mi weles long y’myn’d i mewn i’r porthladd. Mae gene hwnw’n gul, a chyflegre fel rhes o ddanedd ar ei fin. Ce’s olwg braf ar y dre’, am ei bod ar safle uchel. Dacw’r barracks a phebyll y milwyr, a dacw’r milwyr eu hunen y’myn’d drwy eu hymarferiade. Dacw ddwy neu dair o eglwysi’n dyrchu eu pigdyre i gyfeiriad y nefoedd. Ust! mae’r awel yn cario sain clyche un o honynt dros y tone i glustie’r alltud unig nas gŵyr beth a wna, ai chwerthin ai wylo. Dacw’r castell coch ei furie, ac adfel hen fynachlog. Ha! a dacw’r ’strydoedd llithrig a cheimion, a phobl yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddynt fel gwybed ar gwarel ffenest’. Mae hen air yn d’we’yd na fedr un Iuddew fyw y’Malta nac Aberdeen; a’r rheswm am hyny yw, fod y Melitied a’r Ysgotied yn gorfaelu cribddeilieth, fel nad oes dim ar ol i’r Iuddew. Dangoswyd i mi fau bychan ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i’r ynys, a elwir Bau Sant Paul, am y tybir taw yno y daeth efe a’r achubedigion erill i dir. P’run bynag a oedd hyny’n wir neu beidio, yr oedd yn wir i mi ar y pryd; a daliwn i syllu ar y fan nes i’r ynys fyn’d o’r golwg. Mi weles heno’r haul-fachludiad gogoneddusaf a weles erioed. Nid af i geisio’i ddesgrifio, am ei fod y’mhell y tu hwnt i’m darfelydd egwan i. Fel ’roedd yr haul y’machlud, fe ddeue’r lleuad i fyny’r ochr arall, ac er fy syndod, yr oedd yn werdd i gyd drosti! Yr oedd yn debycach i gosyn o gaws Gorgonzola na dim arall. Gofynes i rywun pa’m yr oedd felly, a’r atebiad ge’s oedd taw gwyrdd oedd prif liw’r haul wrth fachlud, a taw cyfranogi o hwnw oedd y lleuad. Cyflwynaf ef am ei werth, ond nid yw’n anhygoel. Dim tir eto nes cyredd yr Aifft.

Dydd Llun, y 4ydd.—Dim helynt o fath yn y byd heddyw. Darn diserch iawn o’r daith yw hwn o Malta i Alecsandria. Dim ond awyr a môr a haul—ac ä’r haul o’r golwg weithie. Dim aderyn yn y wybren—dim pysgodyn y’neidio allan o’r dw’r—dim llong ar wyneb yr eigion yn unman. Meddyliwn am gân Alecsander Selkirk:⁠—

“I am monarch of all I survey,

 My right there is none to dispute.”

A gall’sai’r hen long fabwysiadu’r syniad yn llawn cystal. Yr haul yn gwresogi ar brydie, ond y gwynt o’r gogledd-ddwyren yn para i eillio o hyd, gan gymedroli’r gwres. Disgyna gwlith trwm yn gynar wedi i’r haul fyn’d lawr. Mae hyn yn nodweddiadol o’r dwyren. ’Does dim rhyfedd fod cyment o son am wlith yn y Beibl. Gwneir parotöade mawrion ar gyfer glanio, a theimlaf ychydig gyffro yn fy meddianu ine.

Dydd Mawrth, y 5ed.—Y tone wedi codi, ac yn peri i’r llestr siglo’n enbyd. Y gwynt yn gry’ ac yn oer. Cael y môr i ni ein hunen o hyd. Ysgrifenu at deulu bychan y’Nhreorci, sydd a’i bryder yn fawr am danaf. Ysgriblo gore’ medrwn at gyfeillion hefyd. Tynu i derfyn y daith, a dïolch am hyny.

Dydd Mercher, y 6ed.—Dyma’r diwrnod gwaetha’ gawsom oddiar pan y gadawsom y Bari. O’r anwyl! Daeth rhuthrwynt ofnadwy o’r gorllewin arnom, a gwlaw mawr yn ei gôl. Yr enw sy’ gan y morwyr ar y math yma o dywydd yw squall. Mae’r tone fel mynydde, ac yn disgyn ar y dec yn dunelli. Mae’r llong yn gwegio fel meddwyn, nes ei gwneud yn a’mhosib’ cerdded yn gywir, bwyta’n weddus, nac ysgrifenu’n daclus. Mae’r cadben yn bryderus rhag y bydd yn rhaid i’r llong aros o’r tu allan i’r porthladd, a’i thrwyn i’r gwynt oherwydd y ’storm. Dipyn yn beryg’ yw myn’d i mewn i ambell i borthladd ar dywydd garw. Mae porthladd Alecsandria felly, am fod ei ene mor gul. Ar ol d’od i ymyl y làn mor ddidrafferth, mae’n anodd i’r bechgyn gadw ffrwyn yn eu gene wrth wel’d y drafferth wedi eu gorddiwes yn y diwedd. Nid oes genyf ond gobeithio y tawela’r gwynt erbyn y bore’, ac y cawn fynediad cysurus i’r hafan cyn nos yfory. Cyflwynaf fy hun, a’r llong a’i llwyth, i ofal yr Hwn y ceisiaf yn anheilwng ei was’naethu.

Dydd Iau, y 7fed.—Y gwynt wedi gostegu, y môr wedi tawelu, a’r gweddïe wedi eu hateb. Daethom i olwg y tir cyn haner dydd. Hwre!

O hyn allan gadawaf fy nyddiadur, gan roi hanes fy helyntion tra yn yr Aifft, heb ymgais i’w dyddio a’u trefnu, yn union fel y digwyddant guro wrth ddrws y côf.

PENOD X.

*

GLANIO.

GWEDI pythefnos o ymlwybro ar hyd wyneb y dyfnder, a “Dafydd Jones” yn “byhafio” fel gŵr bonheddig—yr un fath a phe gwydde fod iddo gâr o’r un enw ar fwrdd y llong—des i olwg tir yr Aifft pan o’wn bron yn ei ymyl. Y rheswm am hyny yw, fod y tir yn fflat fel eich llaw, heb iddo na mynydd, na bryn, na bryncyn, na chodiad cyment a thwmpath gwahadden yn dir cefen i’w farcio allan o’r pellder. Pan ddaeth y llygad noeth yn alluog i’w wahaniaethu, ymddangose fel llinell lwyd wedi ei thynu gan bwyntil o blwm, ac yn tori rhwng dw’r ac awyr. Ond dyna! cyn imi braidd gael amser i roi ’nghap yn deidi ar fy mhen, ce’s arwyddion y’nes ataf fod tir gerllaw.

O amgylch ogylch y llestr yr oedd bade, fychen a mawrion, yn llawn o fode ar lun dynion—rhai yn rhwyfo, erill yn eistedd a’u dwylo ’mhleth, ac erill drachefn yn sefyll ar eu traed mor ddidaro a phe baent ar y làn. Y peilot oedd un, a’i neges ef oedd ein cyfarwyddo i mewn i’r porthladd. Un o swyddogion y dollfa oedd y llall, yn d’od i archwilio’r papyre, y’nghyda chargo unrhyw deithiwr fel fy hunan a all’sai fod ar y bwrdd. Yn awr y gweles y fantes o fod ar enw un o swyddogion y llong, hyd y’nod pytae heb fod ond gwerth swllt y mis. Oblegid wrth fy ngwel’d â phin ysgrifenu wrth fy nghlust, un arall rhwng fy nanedd, bwndel o bapyre yn fy llaw, fy nghap ar fy ngwegil, ac awdurdod diapêl yn argraffedig uwchben fy llyged, cafodd f’eiddo i lonydd, a’u perchenog y fath arwyddion o barch, nes gwneud iddo dybied am foment ei fod yn perthyn i warchodlu Arglwydd Cromer.

Dyma’r meddyg yn d’od i wel’d fod pawb yn iach yn ein plith. Yr oedd y ffaith fy mod wedi arwyddo’r erthygle fel talydd yn fy nïogelu rhag ymosodiade hwn eto. Ac mi dd’wedaf wrthych pa’m. Pe daethe i wybod taw fel dyn claf yn chwilio am iechyd yr es allan, deg i un na f’ase’n gwneud y ffwdan creulona’, yn gwarafun i’r llong fyn’d i’r porthladd nes y ceid ardystiad o’r ochr hyn i sicrhau nad o’wn wedi bod yn dyodde’ oddiwrth glefyd heintus—hwyrach y gorfodid y llong i aros o’r tu allan am wythnos neu ragor, yr hyn fydde’n golygu coste o ganoedd o bune i’r perch’nogion. Ond megis y mae llawer ffordd i ladd ci heblaw ei grogi, felly y mae rhagor nag un ffordd i dd’od allan o honi heblaw drwy ddrws y ffrynt, a’r naill onested a’r llall.

Ha! dyma’r llythyr-gludydd, wirionedd i, yn d’od a’r llythyre i’r bwrdd. Efe oedd yn cael y croeso mwya’ o bawb. Mor dda oedd genyf fyn’d ’nol i Dreorci am bum’ munud, a rhoi llam dros dair mil o filldiroedd o fôr i siarad â rhai oedd anwyl genyf. Nid yw fy “ngwir gymar” wedi f’anghofio, nac Eunice fy merch, fy unig blentyn, o’i hysgol yn Caint. Bendith arnynt! Erbyn imi dd’od i ben draw’r epistole, yr o’em wedi d’od i ben draw’r daith, a bwrw angor yn ymyl y cei. Y’mysg y dyrfa amryliw a wylie’n dyfodiad oddiar y cei, yr oedd nifer o blant o bum’ mlwydd oed a than hyny, heb ddim o’u cwmpas i ddynodi eu rhyw, a chan ddued a’r eboni. Tra’r o’wn yn syllu arnynt gyda dyddordeb, diflanasant fel mwg, heb un ar ol; ac yn fy myw y medrwn ddyfalu pa beth a ddaethe o honynt. Ond pan drois fy llyged dros ymyl y llong yr ochr nesa’ i’r môr, mi weles ddwsin o bene duon y’nofio fel cyrc hwnt ac yma, ac yn crio “Bacsheesh!” dros y lle. Mi dafles ddwy neu dair ceiniog i’w canol, ac i lawr a hwy ar eu hole fel pysgod. Buont cy’d yn d’od i’r wyneb drachefn, nes peri i mi ofni eu bod wedi glynu yn y mwd ar y gwaelod! Ond pan ddaethant, mi weles arwyddion yn union oedd yn d’we’yd fod yna ysgarmes ofnadwy wedi bod o’r golwg, a’r cwbl am dair ceiniog! Gwn am ddynion—heb sôn am blant—y’nes yma na’r Aifft, a ânt drwy ysgarmese a farciant eu cymeriade—heb sôn am eu cyrff—hyd y bedd, yn eu hawydd aniwall i gofleidio traed y duw Mammon.

O’r diwedd, ar ol pwffio, a ’sgriwio, a chwibanu, a gwaeddi mwy na mwy, gollyngwyd yr angor, a sicrhawyd y llong â rhaffe wrth gyrn ei hallor ei hun. Cyn pen pum’ munud, yr o’wn mewn bâd hwylie y’nghwmni’r cadben yn ’sgimio dros wyneb y dw’r yn groes i’r porthladd, i’r ochr nesa’ i’r ddinas. Enw’r badwr oedd Alec, ac enw’i brentis oedd Achmed. Cofier taw Cymraes yw’r “ch” yn enw’r prentis. Daeth y badwyr a mine’n ffrindiol ryfeddol cyn i mi ddychwelyd. Daethant a ni’n gysurus i’r làn draw. Neidies o’r bâd yn gynta’, a theimles fy nhraed yn taro tir yr Aifft am y tro cynta’ ’rioed. O’m cwmpas yr oedd scoroedd o Arabied talgryf ac ysgwyddog, capie cochion hirgul ar eu pene, a’u gwisgoedd yn fath o gymodiad rhwng Dwyren a Gorllewin. Pan o’wn yn croesi’r ffin or plentyn i’r llanc, yr wy’n cofio’n dda na yre dim fwy o arswyd arnaf na gwel’d “dyn du” ar y ’stryd: rhedwn adre’ ar golli f’anadl, ac ni theimlwn yn ddïogel nes y cawn fy hun yn llechu dan ffedog fy nain, fel estrys a’i ben yn y tywod. Ac er fy mod yn ddyn “llawn deugen mlwydd oed” pan ge’s fy hun y’nghanol yr ebonied clebrllyd y prydnawn hwnw yn Alecsandria, nid heb ychydig bach o gyffro yn f’ochr chwith y gall’swn gymeryd ’stoc o honynt â chil fy llygad.

Pan ddechreues sylweddoli’r ffaith fod gwadne fy nhraed a daear yr Aifft wedi cusanu eu gilydd, meddianwyd fi gan deimlad go ddyeithr. Dyma’r wlad y mae ei hanes y’myn’d yn ol i fabandod y byd, a’i gwareiddiad yn berffeth “cyn bod Abraham.” Dyma’r wlad lle magwyd Moses bach, yr addysgwyd ef yn holl ddoethineb yr Aifftied nes y daeth yn Foses mawr, ac y dysgyblwyd ef i gyfrinion Duw’r Hebrëwyr nes iddo fyn’d yn Foses mwy. Dyma’r wlad lle bu’r etholedig genedl yn codi temle a phyramidie oesol y Pharöed, yn gweithio am y rhan fwya’ o bedwar cant a haner o flynydde â phriddfeini heb wellt iddynt, ac yn cynyddu mewn rhifedi a nerth er gwaetha’r caledi a ro’id arnynt i’w cadw i lawr. Dyma wlad y Nile, dyfroedd yr hon a dröwyd yn waed gan Dduw i ddïal gwaed ei bobl, ar fynwes yr hon y gosodwyd gwaredwr cynta’ Israel i orwedd dan gysgod yr hesg a’r prysglwyni, a’r hon a addolid gynt, ac a addolir eto, gan filiyne o breswylwyr ei glenydd. Dyma’r wlad lle bu Duw (ys d’wedai’r anfarwol Dewi Ogwen), yn agor dwylo Pharo’ bob yn fys i ollwng y genedl i ffwrdd, lle bu rhan o “lu mawr” yr Arglwydd—y llau, y llyffent, a’r locustied—yn cyflawni eu hymdeth ddinystriol wrth orchymyn eu llywydd, a lle bu angeu’n cynal ei loddest y’mhob teulu’r un pryd trwy’r wlad i gyd ond Gosen. Ac os cywir y casgliad taw’r Saeson yw’r deg llwyth sydd ar wasgar, ac a gollwyd y’mysg y cenhedloedd, dyma’r wlad sy’n cael ei llywodraethu heddyw gan ddisgynyddion y dynion fu’n gaethion ynddi bum’ mil o flynydde’n ol. A dyma’r wlad, mi greda’, a ddaw eto’n ail i Eden mewn prydferthwch, i ddyffryn yr Iorddonen mewn ffrwythlonrwydd, i Bryden Fawr mewn gwareiddiad, ac i Walia Wen mewn crefyddolder, y’mhen dwy neu dair o genedlaethe.

Yr o’wn wedi myn’d i freuddwydio ar ddihun fel hyn, y gwaetha’ o bob breuddwydio, a llais y cadben ddaeth a mi’n ol at sylwedde bywyd:⁠—

Come away, sir, or they will think you mad!

A phan edryches, dyna lle’r oedd tẁr o fadwyr cymysgliw o’m cwmpas yn syllu arnaf fel pe bai dau gorn ar fy mhen. Mi ge’s ragor na dau ar fy nhraed cyn dychwelyd; ond ni fu brys mawr arnaf wed’yn i freuddwydio ar ganol y ’stryd.

PENOD XI.

*

MEWN DALFA.

NI raid i chwi fod fawr o amser y’ngwlad yr Aifft cyn y cewch eich taro gan amldra ei thrigolion. Y maent fel locustied, nid yn unig yn y trefi a’r dinasoedd, ond hefyd yn y pentrefi a’r wlad oddiamgylch. D’wedir nad yw nifer trigolion Alecsandria dros dri chan’ mil; ond wrth gerdded dros ei ’strydoedd, hawdd fydde madde’ i chwi pe haerech fod yno filiwn. Mae culni’r ’strydoedd yn peri fod y dre’n ymddangos yn llawnach nag ydyw mewn gwirionedd. Gydag ychydig eithriade, ac heb gyfri’ y rhan hono lle mae Ewropied yn byw ac yn dwyn y’mlaen eu trafnidieth, chwi ellwch boeri o un ochr i’r llall yn y ’strydoedd brodorol, a hyny heb aflonyddu ond y nesa’ peth i ddim ar gyhyre eich gwyneb. Y canlyniad yw, fod y dynion yn ’sgwyddo’u gilydd fel mewn ffair. Weithie, chwi gewch eich hunen y’nghanol y dyrfa ryfedda’ heb fedru symud cam i’r dde’ na’r aswy, y’mlaen nac yn ol, mor ddigymorth ag aderyn mewn rhwyd. Chwi aethoch i’r sefyllfa boenus yna’n ddïarwybod i chwi, a chwi ddeuwch allan o honi’r un modd. Yn sydyn, mae’r wasgfa’n cilio; ac os ydych yn bryderus o gywreingar i wybod yr achos o’r waredigeth, byddwch ar eich gwyliadwrieth y tro nesa’ y cewch eich hunen mewn sefyllfa debyg. Buan y gwelwch haner dwsin o heddgeidwed y’nghyrion y dyrfa, a buan y clywch sŵn eu pastyne’n dyfod i wrthdarawiad â nifer o bengloge ’styfnig ar eich cyfer. Rhydd hyn ollyngdod mawr cyn pen ychydig eiliade, a pharod fyddwch i ddïolch taw nid ar eich pen chwi y disgynodd y pastwn.

Soudanied yw’r heddgeidwed bron yn ddieithriad—brodorion y wlad sy’n gorwedd i’r de a’r de-orllewin o’r Aifft; a gwneir heddgeidwed o honynt ar gyfri’ eu gwydnwch a’u ’stoicieth. “Gwŷr cedyrn” ydynt o ddifri’—tal, ’sgwyddog, brest-lydan, can ddued a’r t’w’llwch, a’r duwch hwnw’n dysgleirio fel grât y gegin ar fore’ Sadwrn y’nhŷ’r wraig syber Gwefuse tewion, yn ymestyn y’mlaen, ffroene llyden, yn ymestyn yn ol o glust i glust y’mron, a dwylo fel dwy balfes gwedder. Ar y pen yr oedd cap coch, hirgul, tebyg i lestr blod’yn wedi ei droi a’i wyneb yn isa’, a thusw o’r un lliw yn rhedeg dros yr ymyl. Am y traed yr oedd esgidie o ledr, cryfion a thrwchus, yn dwyn tebygrwydd nid bychan i ddwy wagen gymedrol; a’r syndod i mi ydoedd, sut yr oedd y dynion yn gallu dygymod â’r fath garchar ar ol bod yn draednoethion erioed dros dywod yr anialwch. Rhwng y ddau eithafion yna—y pen a’r traed—yr oedd ganddynt wisg o’r un doriad ag eiddo heddgeidwed Morganwg, ond fod y botwne’n fwy. Maent i’w cael ar ben pob heol, os nad yn amlach; a chwi dde’wch ar eu traws fynyched nes eich cyfiawnhau i ame’ ai tybed nad gwylio’ch symudiade chwi oedd neges fawr eu bywyd. Ar y cynta’, wrth feddwl am hyn, tueddwn i fyn’d dipyn yn bryderus; ond mi dde’s yn gyfarwydd â’r gwŷr yn fuan. Yn wir, mi dde’s i delere siarad â dau neu dri o honynt a gerddent yn ymyl y doc. Yr o’wn wedi pigo ychydig froddege Arabaeg i fyny’r diwrnode cynta’, a defnyddiwn bob cyfleusdra a gawn i’w hawyru. Pan y’myn’d o’r llong i’r dre’ yn y bore’, cyfarchwn hwy â’r frawddeg, “Narak said,” wrth basio, ystyr yr hyn yw, “Dydd da;” a phan y dychwelwn yn yr hwyr, dywedwn, “Iltak said,” sef “Nos da:” chyfarchent fi’n ol bob tro’n siriolach nag y gwneir yn aml y’Nghymru.

Eu pechod parod yw bod yn or-swyddogol a garw pan gânt gyfle. Rhyngoch chwi a mine, hwyrach taw dyna yw pechod parod eu brodyr sy’n byw y’nes atom na’r Aifft. Yn ddystaw bach, onid dyna bechod parod pawb sy’ mewn swyddogaeth? Gan nad beth am hyny, parodd rhein dipyn o flinder i mi ar ddau achlysur yn eu hawydd angerddol i fawrhau eu swydd. I ddirwyn y benod i fyny’n brydlon a blasus, mi dd’wedaf wrthych pysut.

Rhwng y docie a’r dre’ yr oedd clwydi tebyg i’r hen dollbyrth gynt. Yn eu hymyl safe nifer o blismyn, gwaith y rhai oedd edrych na bydde nwydde trethol o un math yn cael eu smyglo drwodd o’r llonge i’r dre’, ac o’r dre’ i’r llonge. Yr ochr arall i’r ffordd, yn union gyferbyn a’r clwydi, yr oedd adeilad crwn, tebyg i dŵr castell, yn yr hwn yr eistedde dau swyddog o awdurdod dïamheuol, y rhai a agorent ac a archwilient bob pecyn a ddrwg-dybid—ac na ddrwg-dybid yn aml. Nid oedd hawl gan y bechgyn yn ymyl y clwydi, er ame’ eich pecyn, i’w agor, nac hyd y’nod i’w gymeryd o’ch llaw yn y fan hono: eu dyledswydd hwy oedd myn’d a chwi a’ch pecyn i’r tŷ crwn yr ochr draw. Ond yr oedd ambell un y’mynu rhoi cam neu ddau dros ben ei ddyledswydd, ac fe wnele fyr waith o’ch eiddo’n bur ddiseremoni o dan lyged y werin, os nad argyhoeddech ef eich bod cystal gŵr ag yntau am ei ddanedd. Gwnaed hyny â mi ddwyweth—pan o’wn y’myn’d i ddal y trên i Gairo, a phan o’wn yn dychwelyd. Ond mi achwynes arnynt y ddau dro yn y tŷ crwn, ac ni chlywsoch erioed y fath dafod a gawsant! Ceisiasant wneud yr un peth â mi wed’yn, heb fy adnabod; ond daliodd un o honynt fy llygad mewn pryd, d’wedodd air wrth ei gymydog, a gwthiasant fi’n llyth’renol i’m ffordd—megis y gwthie’r Aifftied yr Israelied gynt i’w taith. Ar ol hyny, yr wyf bron yn sicr y gall’swn smyglo faint fyd fynwn o “lâs,” a thybaco, a sigeri drwy’r clwydi o dan drwyne’r heddgeidwed, pe dewiswn, a phe bawn yn tueddu at bethe felly, heb iddynt dd’we’yd gair, ond yn falch i wel’d fy nghefn yn diflanu’n y pellder.

Pa faint roe ambell un adwaenwn am gyfleusdra tebyg!

PENOD XII.

*

TREM ODDIAR Y TROTHWY.

SON yr o’wn am amldra’r trigolion pan ddaeth yr heddgeidwed i fewn i’r fusnes—y byddai hyny’n un o’r pethe cynta’ a’ch tarawe.

Peth arall a’ch tarawe mor debyg a dim fydde amrywieth y gwynebe a’r gwisgoedd. Nid y bechgyn sy’n peryglu’r heddwch wrth geisio’i gadw yw yr unig rai sy’n gwisgo capie cochion, ond ceir hwy’n gyffredin iawn. Yr enw arnynt yw “tarbwshus,” a mi weles dri o honynt yn cael eu gwneud wrth orchymyn, yn y siop lle’r es i’w prynu. Gwisgwn un fy hun wedi’r nos yn Cairo, a thybiwn fy mod yn gwneud Arab go lew. Mae’n siwr gen i taw prin y tybie neb arall hyny. Mae’r “turban” bron mor gyffredin a’r llall. Math o ddeunydd gwỳn, neu las, neu felyn, yw hwn, wedi ei dorchi drosodd a throsodd am y penglog, a chryn lawer o fedr yn cael ei ddangos yn y gwaith. Mae gan y Mahometanied selog ystyr i’r gwahanol liwie: dynodant radde o agosrwydd ysbrydol i’r blaenor Mahomet. Gwisgir mantelli hirllaes dros y corff hyd at y traed gan y mwyafrif o’r bobl, o bob lliw yn y byd; ac am y traed, weithie sandale, ond yn amlach hebddynt. Rhwbir rhyw fath o sylwedd melyn ar wadne’r traed i’w caledu rhag y gwres, a defnyddia’r merched a’r gwragedd yr un ’stwff at ewinedd eu dwylo—i’w caledu, medd rhai, i’w prydferthu, medd erill. Fy marn i oedd taw prin oedd y prydferthwch; ond dyna, ’does dim cyfri’ i fod am chwaeth. Bid fyno, mae blaenion bysedd y boneddigese’n ymddangos yr un fath yn union a phe baent yn bwyta mêl â hwynt drwy gydol y dydd.

Ryw ddiwrnod, mi ge’s gader i eistedd arni ar ben drws un o swyddfeydd llonge Alecsandria, fel y gall’swn wylied y “llïaws cymysg” a elent heibio. Bum yno awr: ac i mi, yr oedd yn un o’r orie mwya’ difyr ac adeiladol a dreulies yn yr holl wlad.

Dyma beneth rhyw lwyth Arabedd yn pasio, naill ai mewn dwfn fyfyrdod, a’i ben ar ei frest, neu mewn hwyl herfeiddiol, a’i drwyn yn yr awyr. Fel rheol, clobyn o ddyn tal, cyfartal, prydweddol, lluniedd, ystwyth, a chryf yw’r “shêch,” neu’r peneth; ei groen yn bygddu, ei drwyn yn hir a syth, ei lyged yn fychen, duon, ac aflonydd, fel pe baent yn chwilio am elyn ar bob llaw, ei wefuse’n feinion, ei ffroene’n deneuon, ei farf yn dywyll a chwta, a’i ben yn hirgul. Crachboera wrth basio pob Ewropiad, a chwi ellwch ei glywed yn murmur melldithion ar ei ben wedi iddo fyn’d heibio. Pe cae ef a’i wehelyth eu hewyllys, ’sgubid ymeth bob ci o Gristion allan o’r terfyne cyn pen fawr amser, ac allan o’r byd gynted a hyny. Dyna i chwi deip o’r gwir Arabiad,—cydnerth, cyfrwys, creulon, coelgrefyddol.

Dyma Negröed o’r canolbarth, a mwy o’r anifel yn perthyn iddynt na dim arall: eu pene’n fawr a chrynion, eu pengloge’n gelyd a gwlanog fel gwlan y ddafad ddu, eu crwyn yn ddu a seimlyd, eu trwyne’n fflat, eu ffroene’n llyden, eu gwefuse’n dewion, a’u danedd fel ifori. Plant y cyhydedd a’r anialwch ydynt, a phrin y cânt eu hanadl y’nghanol y ’strydoedd culion.

Dyma i chwi Dwrc a’i wyneb difynegiant⁠——

Ac ar ei ol Bersiad yn ei garpie⁠——

Ac wrth ei sodle ynte un o breswylwyr Ceylon a hireth-Cymro-am-ei-wlad yn ei lyged⁠——

A dacw Chinëad a’i gynffonbleth⁠——

A’r ochr arall i’r ’stryd ŵr o Japan a’i lyged bychen hirgrwn, a’i aelie ymofyngar⁠——

A dyma Roegwr llyswenog⁠——

A Sais o filwr yn ei gôt goch yn ei ddilyn⁠——

Ac un o blant Abram yn plygu dan bwyse’r groes ro’ed ar gefn ei genedl⁠——

A morwr o Ynys Pryden yn cerdded yn ’sgwarog ar ei ol⁠——

——Hach! beth yw hwn sy’n moes-ymgrymu o fy mlaen, ac o ba le y daeth? Edrycha fel tẁr o ddillad budron parod i’w golchi, neu dẁr o garpie parod i’w llosgi. Dyma law a braich yn ymestyn dan y carpie tuag ataf, ac O! nid ydynt ond croen ac esgyrn ar y gore’. Rhytha gwyneb ’sgerbydol arnaf odditan benguwch ffïedd, a llosga dwy lamp loew y’nhylle’r llyged. Prin y mae arnaf ei ofn, a phrinach y mae arnaf ei chwant. Dealles yn fuan taw un o fegeried y wlad ydoedd, yn ei dawch a’i duchan; a haws oedd i Paul ysgwyd y wiber oddiwrth ei law, nag i mi gael gwared o’r aflendid hwn. Dosbarth sy’n nodweddiadol iawn o’r Dwyren yw ei fegeried, y rhai sy’n boen ac yn bla i’r ymwelwyr. Glynant wrthynt fel gelod. I geisio rhoi cyfeiriad arall i’w gamre, mi ro’is iddo geiniog; ond yn lle hel ei bac at ei gilydd a myn’d i’w ffordd, dal i estyn ei law wnele’r hen bechadur, gan furmur rhwng ei ddanedd, a gofyn am ragor, fel Oliver Twist. Yr oedd yn amlwg ei fod wedi gwneud ei feddwl i fyny taw aderyn hawdd ei blyfio o’wn i, ac nid o’wn yn chwenych ei ewinedd fwlturedd, rhag iddo fyn’d y’nghyd a’r gwaith yn llyth’renol. Ond mi ge’s brawf buan fod Rhaglunieth yn gofalu am ei phlant. Dyma un o ddynion y swyddfa yn d’od allan ar y funud, pan oedd pethe’n dechre gwisgo gwedd go ddifrifol—ac ar ol deall sut oedd pethe’n sefyll, gỳr y cardotyn egr ac aflan ymeth gyda rhes o’r geirie mwya’ cyflym eu dylanwad a glywes erioed. Ni f’asech byth yn credu gynted y casglodd y crëadur ei gwbl y’nghyd, ac y symudodd ei bres’noldeb afiach o’r gym’dogeth. Afred yw ’chwanegu iddo dywallt diluw o felldithion ar ben fy nghymwynaswr, ac anghofio dïolch i mine am y geiniog a gawse.

Dacw ferched o Ynys Malta’n pasio, ac edrychent mor ’smala nes imi syllu ar eu hole’n hŵy nag y mae’n weddus i ddyn prïod wneud peth felly’n gyffredin. Yr o’ent o faintioli glew y’naturiol, ond yr oedd y fantell oedd am danynt yn gwneud iddynt ymddangos deirgwaith gyment. Nis gwn beth oedd deunydd y fantell, ond yr oedd yn sicr o fod o ddeunydd ysgafn iawn. Cychwyne am y pen fel cwcwll, yna tynid ef i mewn am y gwddf, nes yr oedd fel awyren fechan. Dyna balŵn No. 1. Wed’yn, fe rede i lawr hyd at y wâsg, tynid ef i mewn yno drachefn, nes cyfansoddi balŵn No. 2. No. 3 oedd y fwya’, oblegid yr oedd hono’n rhedeg i lawr o’r wâsg i’r ffere. Wrth edrych arnynt o’r tu ol, yr oedd y tair awyren yn ymddangos mor ddoniol o ddigri’, nes peri i mi dynu sylw a chilwg ambell i hen shêch a ele heibio, gan mor uchel y chwarddwn. Pan gydgerdde tair o honynt ochr yn ochr, cyrhaeddent o balmant i balmant; a’r peth a’m syne i oedd—os taw felly y gwisgent yn Ynys Malta, sut gebyst yr o’ent yn cael lle yno! Yr oedd modrwye ganddynt ar bob bys, hyd y’nod y bodfys, a breichlede ar arddwrn a migwrn—os nad yw sôn am freichled ar figwrn yn sawru braidd yn Wyddelig. Sut bynag, dyna fel ’roedd. A peth arall oedd yn ogleisiol: O dan yr ardderchawgrwydd i gyd, mewn sidan, a modrwye, a breichlede, yr oedd pob un o honynt yn droednoeth, heb gysgod hosan na sandal yn agos iddynt!

PENOD XIII.

*

FFAWD A FFWDAN.

MAE Alecsandrida’n ddinas fawr, a’i phoblogeth dros dri chan’ mil; ond ni weles ei haner. Mae ynddi rai ’strydoedd gwychion, a llu o adeilade fydde’n gredyd i Paris; ond culion a brwnt oedd y rhan fwya’. Wedi ’sgriwio drwy haner dwsin o’r rhai cula’, a dyodde’ dirdyniade heb fesur oherwydd a’mhwylledd y gyriedydd ac arafwch y gwŷr traed i symud oddiar y ffordd, ryw ddiwrnod ce’s fy hun yn sydyn yn y Grand Square, a’r cadben hefo mi. Mae’r ’sgwâr hwn yn deilwng o unrhyw ddinas yn Ewrob. Dyma lle mae’r bancie, a’r gyfnewidfa, a’r prif fasnachdai, a’r swyddfeydd pena’, a’r gwestai gwycha’. Y’nghanol y ’sgwâr y mae cofadel i Mahomet Ali (os wy’n cofio enw’r gŵr yn iawn), un o gynfawrion y tir, a gerddi, a sedde; tra y rhuthra olwynion masnach a phleser heibio o bob tu ac i bob cyfeiriad. Cedwir y ’sgwâr yn lân a chryno, ac y mae i’r llygad fel darn o Baradwys y’nghanol yr anialwch. Allan o hono y rheda’r brif heol a elwir ar enw Cherif Pasha, ac yma de’s i gyffyrddiad â’r Cymro twym’galon a gwladgarol y soniaf am dano yn fy Rhagymadrodd. Oni b’ase am dano ef a’i frawd yn Cairo, mae’n anodd gwybod pa beth a ddaethe o honof yn y wlad bell hono. Er yn frodor o Sir Gynarfon, mae wedi enill ei blwy’ yn yr Aifft er ys agos i ugen mlynedd; a’i frawd yr un modd. Nid oes ei barchusach y’mhlith dinaswyr Alecsandria. Masnachu y mae mewn nwydde Seisnig, a’i lwyddiant yn gyfiawn ac yn sicr. Y’mhlith ei wasanaethwyr yr oedd bachgen o Gymro o’r enw Huws o Abergele, a bachgen melynddu o’r enw Selim, y rhai fuont arweinwyr i mi o bryd i bryd. Preswylia’r boneddwr ychydig allan o’r ddinas, a che’s y mwynhad o dreulio un prydnawn Sabbath o dan ei gronglwyd. Mewn “fflat” y trigai—y “fflat” ucha’n yr adeilad, yr hwn oedd yn sicrhau nen y tŷ at wasaneth y teulu. Yr oedd yn cynwys amryw ’stafelloedd, wedi eu dodrefnu’n bena’n ol y dull Dwyreiniol. Yr oedd yr holl ffenestri’n agored, a’r awel garedica’n tramwy drwy’r tŷ. Oddiar nen y tŷ ceid golwg braf ar y ddinas a’r wlad oddiamgylch; ac mewn congl gerllaw fe gane ceiliog yn Gymraeg, ac fe ymdreche iar neu ddwy glochdar yn yr un iaith. Boneddiges o Aberystwyth yw Mrs. Bryan, ac yr oedd ganddi, pan o’wn i yno, beder o’r merched bach tlysa’ fu gan fam erioed. Gwyn oedd fy myd I’r prydnawn hwnw; bydded hwythe wynfydedig byth gan yr Arglwydd.

Yr wyf y’meddwl imi ddechre’r benod hon gyda chyfeiriad at y cadben a mine y’myn’d i mewn i’r ’sgwâr yn y cerbyd ar ryw ddiwrnod, ac yr wyf y’meddwl hefyd taw’r diwrnod y glanies oedd y diwrnod hwnw. Ar ol bod yn y llong am bythefnos, yr oedd fy aelode isa’ dipyn yn chwareus, a chawn fy hun yn taro’n erbyn rhyw Ismaeliad o hyd. Anodd oedd peidio, gan mor aml y dynion a chul yr heolydd. Cymerasom y traed cyn cymeryd y cerbyd, ac wedi pasio drwy un o byrth y deyrnged, cawsom ein hunen y’nghanol y dyrfa. Croesasom y ’stryd—anturieth heb fod yn ddiberyg’, o herwydd y cerbyde o bob math a chwim-basient i fyny ac i lawr. Heb fod nepell oddi-yma y mae palas y Khedive, brenin yr Aifft. Gorchuddia ddarn mawr o dir, ac nid oes dim yn brydferth ynddo. Llanastr o dŷ isel ydyw, yn wỳn i gyd drosto, yn ffenestri bob tamed o hono, ac yn gwynebu i’r môr. Yr oedd yn anodd dal i edrych arno, gan fel yr oedd yr haul yn t’w’nu ar ei furie gwynion a’i ffenestri gloewon. Nid yw y brenin yn byw yma’n barhaus. Yn Cairo y mae ei brif balas; ond pan ä’n rhy boeth i fyw yno’n gysurus, symuda i Alecsandria, i gael y fantes o awelon y môr. Dilynir ei esiampl gan y rhan fwya’ o’r mawrion. Troisom ar y dde i heol gul, oedd yn llawn siope, a swydd-dai, a cherbyde, a phobl, a phlant. Yr oedd yr heol guled fel, pe safech ar ei chanol, y gallech ysgwyd dwylo’n dalïedd â’r dynion oedd bob ochr i chwi. Yr oedd lled llaw o balmant yn rhedeg gyda’r ochre’ ond camp i chwi fydde sefyll arno am ragor nag eiliad. A phan wthid chwi oddiarno gan rywun neu gilydd un foment, gyrid chwi’n ol y foment nesa’ gan ryw Jehu a fygythie redeg drosoch. Yr oedd siope agored bob ochr i’r ’stryd, tebyg i stondine ffeirie Cymru, yn y rhai yr oedd pob math o nwydde, a dau neu dri o beryt yn crogi wrth eu cewyll oddiallan, ac yn ’sgrechen Arabeg i dynu sylw’r dyrfa. A mi wna lw nad oedd sylw neb yn fwy effro na f’eiddo i.

I b’le bynag y crwydrwn yn Alecsandria, deuwn yn ol, fel swllt drwg, i’r llong erbyn pob hwyr i gysgu. Weithie’n gynar, weithie’n ddiweddar: dibyne hyny ar hŷd y daith am y diwrnod, ac ar y cwmni, ac ar yr amgylchoedd y cawn fy hun ynddynt. Nid o’r un cyfeiriad y deuwn bob tro, ac nid ar fy nhraed y byddwn bob amser. Dïogelach oedd llogi cerbyd pan fydde wedi myn’d yn hwyr iawn, er hwyrach y byddem yn ddau a thri mewn nifer. Gwneud cilwg gâs ar dramorwr o’r Gorllewin mae dosbarth o’r Arabied, ac ysgyrnygant ddanedd arno pan dybiant y gallant wneud hyny a bod yn groeniach. Ymddygant felly liw dydd gole’; afred yw d’we’yd eu bod yn fwy haerllug liw nos pan gânt gyfle. Ni fum i heb gwmni’n cerdded i’r llong gyment ag unweth, ond bum yn un o ddau gryn ddwsin o weithie; ac er na ddigwyddodd i mi na niwed nac anffod yn y gwibdeithie nosol hyn, mi ge’s beth braw ragor na siwrne. Bernwch chwi.

Yr oedd y cadben a mine wedi bod ar ein hynt yn rhywle, ac wedi cael ein hunen rywbryd gyda’r nos, rhwng dau ole’, yn bur bell o’r fan lle’r oedd y llong yn gorwedd, ac wedi blino heb gellwer: y gwyneb a’r dwylo’n ’stiff gan lwch a haul, y pen yn poeni, a’r traed yn poethi—yr o’em wedi myn’d i hercian fel dau drempyn er’s meityn, ac yn hiraethu am y caban bach yn y llestr, er lleied oedd. Drwy ryw gydymdeimlad cyfrin, daethom i ddeall beth oedd prif angen y naill a’r llall yr un pryd; a’r canlyniad oedd, ini alw’n dau yr un pryd ar gerbydwr a ele heibio, yr hwn, ar ol cymeryd arno ei fod yn gwybod y cwbl ac yn deall rhagor, a’n cymerodd o’r fan hono yn ei gerbyd. Ac O, gyfnewidiad cysurus! Rhoisom raff i’n mwynhad, a buom ddall, mud, a byddar i bobpeth arall am ysbed chwarter awr. Tybiaf ini dd’od ’nol i’n hamgylchoedd agosa’ tua’r un adeg. Beth bynag, tynodd y cadben fy sylw i at gymeriad amheus y gym’dogeth yr aem drwyddi, a thynes ine ei sylw ynte at gymeriad amheus y gyriedydd a eistedde o’n blaen.

“Nid dyma’r ffordd i’r doc!” ebe’r cadben.

“Nid hwn yw’r dreifer a logasom!” ebwn ine.

Yr oedd y cadben y’nes i’w le na mi. Gwge hen furddynod hagr arnom ar bob llaw, sarheid ein ffroene diniwed gan arogliade amryw a dieithr, a merwinid ein clustie gan gri begeried. “Bwrw tân” atom y bydde ambell i lygad wrth basio; ac er galw ar Jehu, ni chymere arno’n clywed, ond gyru’n ynfyd a wnai. Y’mhen hir a hwyr, daethom at ffordd haiarn, ac yr oedd yn rhaid ei chroesi neu droi’n ol. Er fod y clwydi’n gauad, nid oedd na thrên na pheiriant yn y golwg. Disgynodd Jehu i agor y clwydi o’r ochr hyn, ac wedi arwen y ceffyl a nine i ganol y cledre, dyma chwibaniad! a dyma’r swyddog oedd yn gofalu am y groesffordd yn d’od allan o’i focs, yn cydio y’mhen y crëadur o law’r crëadur arall, ac yn gollwng allan y diluw mwya’ ’sgubol o fras hyotledd. “Tra yr oedd hwn yn llefaru,” dyma ruthr o gyfeiriad y clwydi cyferbyniol, lle’r oedd dynion a cherbyde ganddynt yr ochr arall, ac yn disgwyl am gyfleusdra i groesi. Heb estyn dim at y ’stori, yr oedd yno gryn haner cant o’r tafode grymusa’, yn cael eu helpu gan draed, a dwylo, a llyged, a danedd, duon a gwynion, fflachiade mellt y’nghanol caddug—y cerbyd, a nine ynddo, ar ganol y rheilie—dim posib’ myn’d y’mlaen, dim siawns i fyn’d yn ol—trên yn ymyl a’i beiriant yn ’sgrechen ei anadl allan—a’r Pandemonium mwya’ cysurus o amgylch ogylch! Golygfa i’w chofio ydoedd. Deallem eu bod oll y’mhen ein gyriedydd ni, ond haws oedd deall iaith gwydde Cymru amser Nadolig, na iaith y gwerinos hyn. Yr oedd gwyneb y cadben wedi newid ei liw droion, ac nid oedd fy ngwep ine ronyn gwell, mi wn. Yr oedd e’ o’r farn taw gwell oedd disgyn; barnwn ine taw gwell oedd ini lynu wrth y cerbyd, ar dir rheswm a ’sgrythyr. A dyna fu ore’. Wedi ymryddhau o’r criw ’stwrllyd, a chael llwybr clir drachefn, cawsom ddigon o achosion i ddïolch taw nid ar ein traed yr o’em. Yr oedd y cerbydwr wedi colli’r ffordd cyn cyredd y clwydi, a chollodd ei ben wed’yn; y canlyniad oedd, ini gael awr arall o chw’sfa cyn cyredd y doc, rhwng ofn a phryder a phobpeth. Chwarddasom yn galonog y noson hono, ar ol ini gael ein traed ar ein tomen ein hunen.

Pan o’wn wedi bod yn treulio’r prydnawn Sul hwnw gyda’r ffrind o Gymro y sonies am dano, tua chwech o’r gloch mi feddylies ei bod yn bryd i mi gychwyn yn ol, os o’wn am gael odfa bregeth yn y Sefydliad i’r Morwyr, yn ol y cynllun. Yr oedd genyf awr o amser wrth gefn. Cymerodd fy nghyfell boen i’m cyfarwyddo sut i gael gafel ar y tram, ond bum yn hir cyn d’od o hyd iddi. Cerddes fwy na mwy, ac er holi, nid oedd neb yn fy neall, na mine’n deall neb. O dïolch, dyma hi o’r diwedd—ond mae hon yn rhy lawn i gynwys rhagor. Gadewes iddi fyn’d, ac aroses am y nesa’. Wel, wel, mae hon yn llawnach na’r llall, ac yn colli drosodd o ddynion! Rhaid imi dreio bachu’r drydedd, neu ffarwel i’r odfa. Neidies i fyny, a ches led troed ar y grisyn i sefyll. Ni welsoch gynifer o bobl erioed mewn un cerbyd. Dringent ar hyd ei ochre fel gwybed. Yr oedd yn rhaid i’r tocynwr dreisio’i ffordd drwy’r dyrfa, a synwn at ei amynedd. Mor bell ag y gall’swn wel’d, myfi oedd yr unig ddyn gwyn o fewn i’r lle; a mi’r o’wn getyn gwynach nag arfer hefyd. Dywedase fy nghyfell wrthyf fod y tram y’myn’d drwy’r Grand Square, a llygadwn am hwnw’n bryderus. G’yd y deuem iddo! Tybed fy mod wedi camgymeryd y cerbyd! Ond para i redeg a wnae ar hyd heolydd culion—mor gulion, nes peri i mi wasgu fy hun yn erbyn ochr y cerbyd rhag fy ’sgathru gan y murie. Mi benderfynes lynu wrtho b’le bynag yr ae, deled a ddele i’m cyfarfod. Cofiwn i hyny dalu’r ffordd imi’n ddiweddar. Mi ofynes i’r swyddog fy ngosod i lawr yn ymyl y Gabara, neu’r carchar. Nid am fy mod wedi bod ynddo, ond am y gwyddwn fy nghyfeiriad oddiwrtho. Eithr ysgwyd ei ben a dangos ei ddanedd wnae’r swyddog pan dd’wedes y gair, ac y mae mor debyg a dim nad o’wn yn ei seinio’n briodol. O’r diwedd, dyma’r ’sgwâr, a dyma ben ar fy mhenyd ine. Milldir arall, a disgynes ar gyfer y Gabara; ac ar ol ugen munud o gerdded cyffrous, mi gyrhaeddes y Sefydliad yn brydlon erbyn y bregeth.

Yr ochr nesa’ i’r ddinas o’r tollborth sy’n arwen o’r docie mae tua dwsin o dafarne, isel y’mhob ystyr, y rhai sy’n byw’n bena’ ar arian a dillade’r morwyr. Cedwir nifer o sharcied ar lun dynion yn y tylle hyn, a denant Jac i fewn; yna dygir ei synwyre oddiarno gan y gwenwyn a ŷf, a theflir ef allan i’r heol agos y’noethlymun. Dilynodd dau o’r giwed hyn myfi ac un arall un noson am bellder ffordd, a chynyddent mewn beiddgarwch er gwaetha’n protestiade. ’Doedd dim i wneud ond troi arnynt. Prynaswn ffon o groen rhinoceros ychydig cyn hyny, a phan y bygythies hwy â hono, ciliasant yn eu hole fel dau whelpyn wedi eu curo. Da i mi na wyddent beth dd’wede fy nghalon!

PENOD XIV.

*

AR GRWYDR.

CERBYD sy’ mewn bri mawr yn yr Aifft yw yr un y gelwir arabeyah arno. Tebyga i hansom cab ein gwlad ni, ond ei fod yn ysgafnach na hwnw, a’r gyrwr o’ch blaen yn lle o’ch ol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich dwyn i gyffyrddiad a’ch gilydd yn y benod flaenorol. Mae canoedd o honynt i’w cael yn y prif drefi, a’r oll yn gyfrifol i’r Llywodreth. Maent wedi eu rhifo’n ofalus, a’r gyrwyr hefyd, yr un modd a nine. Eto, prin yr anturiech i ambell un o honynt, gan mor ddigymeriad yr ymddengys y cerbyd a’r cerbydwr. Ac os anturio wnewch, yr ydych yn y purdan c’yd ag y byddwch ynddo. Mi allwn dybied nad oes yno un ddeddf yn gwahardd ac yn cosbi gyru eithafol. Paradwys i “yrwyr ynfyd” o ddosbarth motorwyr a dwy-rodwyr y Gorllewin; ac ni fydde gan aml i amaethwr wrthwynebiad i ryddid gogoneddus o’r fath wrth ddychwelyd o’r dre’ brydnawn Sadwrn. Y syndod i mi oedd, sut na fase llawer yn cael eu hanafu a’u lladd, yn enwedig o blant, gan mor llawn a chulion y ’strydoedd, a chan mor ddireswm y gyrid. Ni chlywsoch y fath Babel erioed ag sy’ rhwng y gyrwr yn dirwyn ar y ceffyl ac yn gwaeddi ar y dyrfa i symud oddiar y ffordd, ar y naill law, a’r dyrfa hithe yn tywallt anatheme ar ei ben, ar y llaw arall.

Pe gallech feddianu eich hun i gymeryd ’stoc o’r amgylchoedd, deuech yn fuan i fod o’r farn taw un o’r cyfrynge gore’ i wel’d bywyd cyffredin y bobl yw yr arabeyah. Yr ydych yn eu canol, ac eto’n ddidoledig oddiwrthynt. Ond bydd chwarter o ysgol, a d’we’yd y lleia’, yn ofynol cyn y llwyddwch i gyredd y ’stad ddymunol yna. Rhaid i mi gyfadde i mi fethu. Y tro cynta’r es iddo, yr oedd yn ferthyrdod perffeth. Sôn am ’storm ar y môr! Yr oedd yn felus o’i chymharu â chwarter awr mewn arabeyah! Ni weles neb mor ddibris o einioes a meddiane.

Yr wyf wedi sôn am olwg ddiolwg y cerbyd a’r cerbydwr; mae’n ddrwg genyf orfod d’we’yd am y ceffyl, nad oedd ynte, druan, ddim gwell. Yr oedd edrych arno ef, a’i gyd-grë’duried yn dwyn i’m cof bob ’stori a glywes am geffyle tene erioed. Cofiwn am y gŵr cyflym hwnw a basie heibio i efel gôf pan oedd ceffyl yn aros i’w bedoli. P’run ai sefyll ai gorwedd oedd y crëadur, mae’n anodd d’we’yd gan mor dene ydoedd.

“Ai dyma lle ma’ cyffyle’n ca’l u gneud?” gofyne’r gŵr cyflym i’r gôf.

“Eu gneud!” ebe mab Vulcan, heb wel’d yr ergyd; “bewt ti’n feddwl?”

“O, dim ond ’mod i’n gwel’d ffrâm ceffyl yn y fan yma, dyna i gyd!” ebe’r arabus; a ffwrdd ag e’. Gyda llaw, fe dd’wedwyd i mi fod y gôf hwnw heb wel’d yr ergyd byth! Un go dew ei fenydd yw ambell i ôf, ysyweth.

Sonie Kilsby am gi oedd mor dene nes ei bod yn angenrheidrwydd poenus arno i bwyso yn erbyn y wàl bob tro y cyfarthe!

Pan o’wn yn byw ar Gefncoedcymer, yr oedd yna bydler yn gweithio y’ngwaith y Gyfarthfa a chanddo gi can deneued a’r teneugi teneua’ a welsoch mewn deng mlynedd. Llusge’r ci ar ol ei feistr i’r gwaith bob dydd. Gofynodd rhywun iddo—nid i’r ci, ond i’r pydler:

“B’le ce’st ti’r ci ’na, Ianto?”

“Dw i ddim wedi ga’l o yto,” ebe Ianto.

“Sut hyny, bachan?”

“O, d’od ma’s yn rhana’ ma’ fa,” ebe’r pydler. “Pan ddaw a ma’s i gyd, mi fydd yn gyfrol biwr ddigynyg!”

Perthyn i’r dosbarth yna o bedwar-carnolion ysgerbydol yr oedd y ceffyl a lusge’r cerbyd y bum i ynddo ar un achlysur yn Alecsandria. Tebyg i’r buchod a welse Pharo’n ei freuddwyd—drwg yr olwg a chul o gig. Yr oedd ffrewyll y gyrwr ar ei wàr a’i ochre’n ddibaid, a’i lais cryglyd yn gwaeddi ar y bobl am droi o’r neilldu’n ddïatal. Lletye ’nghalon yn fy ngwddf c’yd ag yr eisteddwn o’r tu ol iddo. Gwelwn ddynion a merched yn cael eu gwasgar o’i flaen fel haid o ddefed; a chauwn fy llyged yn dỳn pan dybiwn fod cerbyd arall y’myn’d i’n rhedeg i lawr.

Yr unig dro y mwynhês i fy hun mewn arabeyah oedd pan aeth y cadben a mine am ddarn diwrnod allan o’r dre’ i wel’d Colofn Pompi, y Bedde Tanddaearol, Gerddi’r Brenin, glane’r Nile, a Ramle, un o’r maesdrefi. Ac am y tro hwnw yr wyf y’myn’d i sôn yn awr.

Heblaw Jehu, llogasom ddyn o’r enw Moses yn arweinydd i ni; ac yr oedd yr enw a’r swydd yn taro eu gilydd i’r dim. Arabiad oedd Moses, ac arno ef yr oedd gofal y llong yn y nos c’yd ag yr oedd yn y doc. Edryche’n frwnt ddiraen wrth ei waith, ond y prydnawn hwn yr oedd wedi ymbincio’n anghyffredin; yr oedd ei wisg yn wèn fel eira, a’i ymddangosiad yn foneddigedd dros ben. Efe oedd yr unig Arabiad a glywes yn ceisio siarad Cymraeg; ond cystal i mi ei dd’we’yd a pheidio, nid oedd ei eirie’n yr hen iaith mor ddewisol ag y b’aswn yn caru eu bod. Yr oedd ganddo ddwy wraig a thri o blant. Bydde’r prif swyddog yn hoff o gellwer ag ef.

“P’sawl gwraig, Moses?”

“Dwy.”

“P’sut wyt ti’n gallu rheoli dwy, a fine’n methu rheoli un?”

“Rhoi un i ofalu am y llall, a fine i ofalu am hono,” ebe Moses.

“Faint o blant sy’ genti?”

“Tri.”

“O, un-a-haner bob un, ai e? Oes cynffone gyda nhw, Moses?”

“Nag oes,” ebe’r Arab yn syn.

“Siwr o fod—mwncis bach ydyn’ nhw, Moses,—chwilia di am u cynffone nhw heno!” Ni ddangose Moses gysgod anfoddlonrwydd i’r cateceisio manwl hwn, ond fe ddangose’i ddanedd gwynion mewn llawn tymer dda.

Y lle cynta’ y daethom iddo oedd Colofn Pompi a’r Bedde. Un darn anferth yw’r Golofn, sydd yn peri i chwi synu sut y gosodwyd hi ar ei phen erioed. Un o gadfridogion Rhufain oedd Pompi, yn byw oddeutu haner cant o flynydde cyn Crist. Ai ganddo ef ei hun, ynte gan rywun arall er cof am dano, y codwyd y golofn, ’does neb a ŵyr. Ond mae’n sicr o fod yn hen iawn, fel bron bobpeth sydd yn y wlad ’rwy’n traethu am dani.

Yn ymyl mae’r Catacombs, neu’r Bedde Tanddaearol. Yn gynta’, eir i lawr ddeugen o risie’n yr awyr agored; yn ail, eir i fewn yn sydyn i fath o dwnel; ac yn drydydd, disgynir yn raddol wrth ole’ canwylle nes y deuir i d’w’llwch y gellir ei deimlo. Tybir taw’r Crist’nogion Coptaidd cynta’ gleddid yn y bedde hyn; ond mae’r cyrff oll wedi eu symud i’r Amgueddfa yn Alecsandria. Mi weles nifer o honynt yr un diwrnod wrth ddychwelyd. Y bedde’n unig oedd yma. Math o dylle hirgul oedd y rhein, wedi eu gweithio i fewn i’r ochre, ac i’w cael ar bob llaw i’r llwybre. Mae’n hawdd i ddyn golli ei ffordd yn y dyrysle hwn, ac oni bai fod genym arweinydd lleol,—ein harwen at y lle’n unig wnai Moses,—mae’n amheus genyf a wele’r cadben a mine ole’ dydd drachefn. Wesul tipyn, daethom i ’sgwâr, o’r hwn yr oedd yr holl lwybre’n rhedeg, ac i’r hwn y dychwelent. Ar ganol y ’sgwâr yr oedd careg anferth o dywod wedi caledu, a throsti yr oedd canoedd o enwe wedi eu ’sgriblo gan bersone fuont yno, fel fy hunan, yn aberthu i dduw henafieth. Ar ol chwilio am damed glân, tores ine f’enw y’mhlith y llu, er afrwydded oedd. Yr oedd hyn yn fwy o gamp nag a feddyliech; ac wedi gorffen, dyhewn am dd’od o’r twll myglyd i anadlu awyr iach Duw’r Nefoedd. Pan ddaethom allan, yr oe’m yn chw’su fel tanwyr, yn chw’thu fel cŵn ar wres mawr, yn wincio ar yr haul fel dallhuanod, ac yn siglo fel dynion wedi meddwi. Ac wedi meddwi yr o’em ar beth gwaeth na chwrw a licwr,—ar awyr wenwynig, yr hon y buom awr gron gyfan yn drachtio o honi.

Ffwrdd a ni wed’yn i gyfeiriad yr afon, a buom yn olwyno gyda’i glane am hir ffordd. Yr ochr arall iddi yr oedd canoedd o fwdgabane, a dynion yn ymolchi ynddi ac yn yfed o honi. Yr ochr hyn iddi yr oedd gerddi gorwych, pyrth henafol yn arwen i mewn i balase teg, ac hyd y’nod i hen furddyne adfeiliedig. Gwelwn ambell i fad afrosgo’n croesi, ac weithie’n glynu’n yr hesg. Tyfe’r hesg yn dew ac yn uchel dros rane o’r afon,—mor dew ac mor uchel nes cuddio peryg’ i’r ymdrochwyr a’r gwehynwyr dwfr. Welwch chi’r tamed tywyll acw sydd yn edrych fel darn o bren pwdr y’nghanol y llafrwyn? Ha! dyna fe’n symud, ac yn llithro’i lawr i’r dw’r. Beth yw hwna, Moses? Dyna un o grocodilied yr afon, y rhai a ddeuant i lawr can ised a hyn yn amser newyn, a’r rhai a addolir gan y bobl fwya’ anwybodus, fel na wnant ddim iddynt i achub eu bywyd eu hun na bywyde eu gwragedd a’u plant.

Ar ol teithio tair milldir neu ragor gyda glàn yr afon, troisom i fewn i erddi’r Brenin. Maent yn eang ac yn ffrwythlon, ond mor afler a’r tamed gardd sydd genyf fi y tu cefn i’r tŷ lle’r wyf yn byw. Ceir ynddynt goed palmwydd wrth y miloedd, yn enwedig y date-palm. Tŷf y rhai’n yn dalion iawn. Mi weles ddynion yn rhedeg i fyny i’w brige ucha’ fel gwiwerod, i’w talfyru. Rhwymant wregys cryf am eu canol, ac am y pien, ac esgynant mewn cyfres o herciade. Mae yma hefyd nifer fawr o goed ffigys a banane. Nid hir y buom cyn myn’d i’r Amgueddfa i wel’d y cyrff fu’n gorwedd ar yr estyll yn y Bedde Tanddaearol. Ni ddeil hon i’w chymharu âg Amgueddfa Ghizeh, yn Cairo. Ei phrif nodwedd oedd hyfdra’r swyddogion ofalent am dani. Codent dreth arnoch am gael anadlu ’mron, a bu gorfod i mi siarad tipyn o Gymraeg â hwy cyn iddynt dewi, er mawr ddifyrwch y cadben. Cafodd amgenach dylanwad arnynt hwy nag a gafodd ar hen sipsiwnen wrth draed y Pyramidie, am yr hon y cewch glwed eto. Bu’r hen iaith o fantes anrhaethol i mi ragor na siwrne. Yr oedd y cnafon yn deall acen a goslef y Sais a’r Ffrancwr; ond nid oedd ganddynt syniad am dafodieth Cwm Rhondda, a gosodwn y diffoddydd arnynt mewn byr amser.

Aethom allan i’r wlad drachefn, o dan gysgod y palmwydd am filldiroedd, nes d’od i Ramle’, un o faesdrefi Alecsandria. Dyma lle mae’r bendefigeth yn byw, a braf yw eu byd. Erbyn hyn yr oedd yn dechre’ nosi, a throisom yn ein hole. Pan gyrhaeddasom y llong, yr o’em ein dau mor newynog a bleiddied ar amser eira, ac mor flinedig a phlant sy’n talu ’mlaen am eu gwely wrth chware’ ar hyd y dydd.

A d’wedwch chwi os na fum yn crwydro y diwrnod hwnw.

PENOD XV.

*

YN Y TREN I GAIRO.

MAE gwel’d trên yn yr Aifft yn ysbeilio’r wlad henafol hono o swm nid bychan o’r gogoniant gysylltir â hi’n gyffredin, ac â phob gwlad o’i bath. Bid siwr, ceir ynddi gamelod ac asynod, ychen a dromedaried, y’nghyda phedwaried cyffelyb; ond ceir ynddi drên hefyd, ac y mae hwnw’n Gorllewineiddio pethe’n anghyffredin. Ac eto, oni bai am y trên, sut y galle teithwyr glirio cyment o dir mor ddidrafferth, a gwel’d cynifer o ryfeddode mewn can lleied amser? Yr oedd y pryd hwnw’n rhedeg i Cartŵm, pellder o ddwy fil o filldiroedd; ac y mae wedi rhedeg bwer y’mhellach oddiar hyny. Tebyg yw na orphwysa mwy nes y tramwya o eitha’r Gogledd i eitha’r De. Pan yn codi tocyn o Alecsandria i Cairo, mi ofynes o gywreinrwydd pa faint a gostie tocyn o Alecsandria i Cartŵm un ffordd: a be’ feddyliech oedd yr atebiad? “Deg punt ar hugen!” Mi wnes fy meddwl i fyny’n union taw gwell i mi oedd peidio myn’d mor bell a hyny y tro hwn, gan’ad sut y bydde wed’yn. Gorwedda dros chwech ugen milldir o dir gwastad i’r llygad rhwng Alecsandria a Cairo, a rhedasom y pellder yna, neu rhedodd y trên a ni, mewn teirawr, yn gwneud cyfartaledd o ddeugen milldir yr awr. Pan gofiwch nad yw’r peiriant na’r peirianwyr i fyny y’mhopeth ag eiddo’n gwlad ni, chwi gydnabyddwch ini redeg yr yrfa’n òd o ebrwydd. Mi dybia’ fod y daith hon yn werth penod, ac felly cychwynwn yn ddiymdroi.

Codir y tocyn o’r tu allan i’r orsaf: ni cheir mynediad i mewn hyd y’nod i’r ystafell aros, heb sôn am y platfform, heh docyn teithio. Hyny yw, at wasaneth teithwyr, a theithwyr yn unig, mae’r orsaf yn Alecsandria. Cyflwynaf y wers i awdurdode rheilffyrdd y wlad hon. Nid yw Cairo cystal. Mae tri dosbarth yn perthyn i drên yr Aifft fel trên Lloegr, gyda hyn o wahanieth,—nid yw’r trydydd i’w gael gyda’r cyntaf a’r ail. Ymffurfia hwnw’n drên ar ei hen ei hun. Ce’s gip arno pan yn aros yn un o’r gorsafe, a thebygwn ef yn fy meddwl i drycie dâ’r T. V. R. ugen mlynedd yn ol! Es i fewn i gerbyd o’r ail ddosbarth. Mae tri neu bedwar o’r rhein mor agos gysylltiedig â’u gilydd, fel y gellwch gerdded yn gysurus o un pen i’r naill i’r pen arall i’r llall. Mae llwybr i’w gael o bwrpas i’r perwyl. Rhwng pob cerbyd mae platfform isel, i fyny’r hwn yr ewch wrth fynd i fewn, ac ar yr hwn y gellwch sefyll, os dewiswch, ac os na thry eich pen yn Brotestant, c’yd ag y mynoch, yn yr awyr agored, ac heb ddim rhyngoch a’r wlad oddiallan. Bum yn sefyll arno droion am amser hir, a mi dd’wedaf wrthych yn union pa’m.

Yr oedd y trên yn llawn o deithwyr, ac ni fum yn cyd-drafaelu â theithwyr rhyfeddach yn fy nydd erioed. Brodorion y wlad o’ent gan mwya’, yn dduon, a melynion, a chochion,—a budron hefyd lawer o honynt. Eisteddent ar y sedde a’u traed odditanynt fel teilwried, ac ysmygent sigreti’n ddidor. Ychydig sylw wnaent o’u gilydd, a llai fyth o’m siort i, os na fydde eisie tân arnynt; dïolchent am fatsen fel pe bai ffortiwn. Bum am ysbed heb wel’d neb arall, a thybiwn taw myfi oedd yr unig ddyn gwyn yn y lle,—er y gell’sid ame’ fy lliw ine. Ond mi gwrddes â dau Ellmyniad yn fuan ar fy hynt drwy’r cerbyde, y rhai a edrychent can wyllted a geifr ar darane. Yr o’wn wedi eu gwel’d o’r blaen y’ngerddi’r Brenin yn Alecsandria. Wrth eu clywed yn ymddifyru gyda’r “ch,” mi ofynes iddynt yn Gymraeg:

“Ai sych yr ymbesychasoch?”

Ond edrych arnaf mor hurt a lloi a wnaent. Treies wedy’n:

“Ai chwech-a-chwech yr un a roisoch am berchyll bychen cochion eich hwch goch chwychwi a’ch chwaer?”

Bobl anwyl! Dyma’r gafod greulona’n dilyn mewn atebiad, nes y bu gorfod i mi droi at ryw hen “shêch” a eistedde gyferbyn â mi am amddiffyniad, yr hwn oedd yn dangos ei ddanedd fel pe’n deall y cwbl.

Yr oedd digon o ffenestri yno i foddloni ffatri, ac yr o’ent oll yn agored. Y canlyniad oedd fod y gwynt mwya’ dïarbed yn tramwy pob cwr o’r trên, yn cario lon’d ei gôl o dywod, ac yn ei daflu i’ch llyged ac ar draws eich dillad mor ddiseremoni a phe baech wedi rhoi archeb am y cwbl. Lle ofnadwy ydoedd i ddyn oedd yn ferthyr i’r ddanodd! Weithie, fe ddeue’r gwynt gyda’r fath ruthr direidus nes dynoethi’ch pen, oni fyddech ar eich gwyliadwrieth. Gwnaeth hyny â mi siwrne, a bu mor anfoesgar a bwrw fy nghapan i wyneb yr hen “shêch” y sonies am dano. Bu raid i mi wneud ymddiheurad i hwnw drosof fy hun a’r gwynt, a’r aberth cymod oedd haner dwsin o “fatsus.” Dyna pa’m y safwn am ysbed ar y platfform, i gael llai o wynt a mwy o gysgod. Ond ’roedd yno ddigon wed’yn i droi meline Sir Fôn bob un! Gwell oedd peidio ffraeo âg ef, oblegid yr oedd meddyginieth yn ei esgyll oddiwrth wres a phob drwg-arogl.

Yn rhyfedd iawn, ni welwn un o’r “rhyw deg” yn un man wrth gychwyn, dim ond dynion geirwon lle bynag yr awn. Ai tybed fod merched yr Aifft yn fwy ceidwadol na’r dynion, gan ddewis yn hytrach lynu wrth yr asyn a’r camel na chymeryd eu llusgo wrth gynffon yr agerbeiriant? Ond cyn cyredd Cairo, mi ge’s allan fod ganddynt hwy eu cerbyd eu hunen, a gwae’r crëadur y gelwir “dyn” arno fuase’n anturio i’w presenoldeb! Y fath chwedleua raid fod yn y cerbyd hwnw! Oblegid mae’r foneddiges o’r Dwyren mor hoff o ’stori ag yw ei chwaer o’r Gorllewin am ei danedd.

Sut yr edrycha pethe oddiallan? Drwy ba fath wlad y teithiwn? Wel, mae pethe oddi allan mor hynod ag yw pethe oddifewn. Nid trwy ganol caëe gwair a meusydd llafur, coed a pherthi, mynydde a brynie, heirdd drefi a harddach pentrefi y teithiwn, fel pe bawn y’Nghymru, ond dros wastadedd o dywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr. Pasiwn heibio i wmbredd o bentrefi, yn fwy ac yn llai, a ’doedd dim yn hardd ynddynt i lygad a chwaeth Cymro. Tomene o laid wedi sychu’n yr haul nes bod fel y gallestr—nen y tŷ’n fflat, lle mae dillade’n crogi, dynion yn gorwedd, a ffowls yn ffraeo—yr ochre wedi eu rhidyllu bob hyn-a-hyn, y tylle mwya’n golygu’r dryse, a’r tylle lleia’n golygu’r ffenestri. Plant yn chware’ heb bilin yn eu cylch i’w cloffi—y mame’n clebran â’u gilydd yn y cywer C dwbl—y gwŷr yn ceisio dal pen rheswm â’u hasynod a’r asynod y’methu cydwel’d. Ychydig o balmwydd talion yn ysgwyd eu dail uwch eu pene, a’r amgylchoedd pell ac agos yn cyfranogi’n bena’ o dywod, a mwd, a dwfr—tywod, a mwd, a dwfr.

Dyna’r pentrefi; a’r unig wahanieth rhyngddynt a’r trefi oedd fod yr ola’n domene mwy eu maint. Ymsaetha pinacl y “mosc” i fyny o ganol y pentre’ gwaela’, ac y maent i’w gwel’d yn y trefi draw bron can amled a’r tai. Heb fod nepell o’r pentrefi agosa’, gwelwn ddarn o dir wedi ei gau i fewn, a chodiade trefnus a chyfartal dros y rhan fwya’ o hono. Wedi imi gael esboniad, mi ddealles taw mynwentydd o’ent, y rhai a gedwir gan yr Arabied lawer glanach na’u tai. I dori’r unffurfieth, gan fod yn help i’r llygad orphwys, fe ddeue i’r golwg weithie gaëe gleision o ryw fath o borfa i ddyn ac anifel. Ymddangose’n dehyg i’r llysie y gelwir “berw’r dw’r” arnynt; a mi weles sacheidie o hono wed’yn yn Cairo gan yrwyr anifeilied, y rhai a’i bwytaent bob yn ail a’u gilydd, a’r naill mor awchus a’r llall.

Trwy gydol yr amser yr oedd miloedd o bobl yn pasio i fyny ac i lawr—llu ar draed, lluaws ar anifeilied, a lluoedd mewn cerbyde o bob math—a neb yn brysio, ond pawb yn ysgafala. Gwelwn y Nile o hyd, ac ar y cynta’ cawn fy nyrysu gan ei thröade sydyn a diddeddf. Bron na wnai imi gredu ei bod y’mhobman yr un pryd. Ond pan gofies fy mod y’myn’d drwy ei delta, a bod iddi saith tafod o’r pen meina’ i’r pen lleta’, sef o Gairo i’r môr (yn ol yr Ysgrythyre), darfyddodd fy nyryswch yn y fan. Yr afon ryfedda’n y byd yw’r Nile. Yr un ffurf yn union sydd i’r Pyramidie ag sydd i ddelta’r afon: ai tybed taw oddiwrth yr ola’ y ca’dd cynllunydd y blaena’ ei syniad? Tra’r o’wn mewn syn-fyfyrdode o’r natur yna, dyma gyffro y’mysg y teithwyr—mae’r trên yn arafu—ac heb ragor o ragymadrodd, ce’s fy hun y’ngorsaf Cairo. Yn siwr i chwi, nid wyf bell o dŵr Babel o ran lle nac amser. Nid oedd genyf ond un celfigyn yn fy llaw, eithr ymestyne cant o ddwylo duon am dano. Yr oedd pawb yn siarad ond myfi, ond yr wyf y’meddwl taw myfi oedd yr unig un oedd yn gwrando. Syllwn hefyd o’m cwmpas yn bur bryderus am y gŵr oedd wedi addo fy nghyfarfod; a phan oedd fy nghalon ar fin cychwyn ei thaith i lawr i gym’dogeth f’esgidie, clywn rywun yn gwaeddi:

“Ai Cymro ydych?”

PENOD XVI.

*

CAIRO WEDI’R DYDD.

CYMRO o’r un enw a mine ddaeth i’m gwaredu o ddwylo’r Arabied y’ngorsaf Cairo, ac i mi yr oedd fel angel Duw. ’Does dim dwyweth nad oedd y giwed haerllug wedi ffroeni diniweidrwydd cyfleus o gwmpas fy mhersonolieth i, a fy mod wedi cael fy marcio allan ganddynt fel aderyn hawdd i’w blyfio; ac er fy mod yn ceisio gwneud gwep gâs, gwyddwn yr un pryd taw methiant cywilyddus ydoedd. Haws genyf gredu fy mod yn edrych yn debycach i ddafad ar goll, nag i lew wedi ei yru yn erbyn y wàl. Gwn fod mwy o’r ddafad nag o’r llew yn f’esgyrn. Bachgen o Gynarfon oedd y Moses hwn, ac aelod yn Salem; ac er na fydde’i weinidog byth yn ymwel’d ag e’, yr oedd ganddo ef “olwg” ryfeddol ar ei weinidog, a siarade am dano hyd at ei addoli bob tro y cai gyfle. Cynorthwywr ydoedd y’ngwasanaeth brawd fy nghymwynaswr o Alecsandria; ac er i hwnw fod mor garedig i mi ag oedd modd, synwn i ddim na thynodd ei frawd yn Cairo’r “shein” o hono, Hwyrach iddo gael gwell cyfleusdra. Yr oedd y ddau’n gyfranog yn y gwaith o anfon “Jones bach” i’m cyfarfod; a bendith ar eu pene.

PONT DROS Y NILE.

Mi fydde’n dda gen i fod yn help i roi anfarwoldeb i’r bechgyn o Gairo. Ni wyddwn am danynt cy’myn’d yno, ond nid aeth diwrnod heibio wed’yn nad y’nt wedi bod yn fy nghôf ac yn fy nghalon. Yr oedd yna wahanieth dybryd rhyngddynt, ond yr oedd pob un o honynt yn garedig yn ei ffordd ei hun, ac am y caredica’. Jones oedd yn cael ei ollwng amla’ hefo mi, am ei fod yn “Sentar” fel fine. Bachgen glân ei groen a’i siarad oedd efe—gwisgi ar ei droed a’i dafod—ei bersonolieth yn f’adgofio o Towyn a’i “arian byw”—y’medru siarad â’r brodorion fel un o honynt hwythe—ac yn gwybod am bob “twll a chornel” yn y ddinas cystal a’r trempyn o gi mwyaf afradlon y tu fewn i’r lle. Bu’n waredwr i mi ragor nag unweth ar ol y tro hwnw’n yr orsaf, ac ni f’aswn iached fy nghroen na llawned fy llogell yn gadel Cairo oni bai am dano ef. Un o ardal Gwrecsam oedd Roberts, ac ni che’s ei gwmni ef ar ei ben ei hun, fel y ddau arall, ond bob tro’n un o’r tri. Dipyn yn dỳn ar ei ’piniwn oedd Roberts, ac mi a’i gweles siwrne agos a d’od a ni i drybini go gâs oherwydd yr elfen amlwg hono yn ei natur. Ac eto, fe ddeue i fyny fel corcyn i wyneb y dw’r pan fydde pobpeth y’myn’d i brofi ei fod i lawr yn y gwaelod er’s meityn. Collasom y ffordd un noson, ac er y myne Jones a’r brawd arall taw i’r cyfeiriad yma y dylasem fyn’d, yr oedd ewyllys Roberts yn gryfach na’r ddau, ac i’r cyfeiriad acw’r aethom. Wedi bod yn crwydro “drwy leoedd geirwon, enbyd iawn,” yn chwŷs ac yn lludded—Roberts yn ei brasgamu o’n blaen, Jones a mine’n tuchan ar ei ol, a Huws yn murmur anatheme wrth ein sodle—am awr o amser, cawsom afel ar ein lledred o’r diwedd; ac ebe Roberts mor hunan-feddianol a bricen⁠—

Fi oedd yn reit, boys, drwy’r cwbwl!

—yr un fath yn union a phe na baem wedi bod wrthi bum’ munud. Yr oedd ganddo allu rhyfeddol i ddisgyn ar ei draed o bob d’ryswch yn y byd. Yr olaf, ond nid y mwya’ dibwys o’r tri, oedd Huws—hamddenol, ’smala, gogleisiol ei sylwade, a mwy o stoicieth y Gorllewin yn perthyn iddo nag o nwyd y Dwyren. Ni weles ef yn cael ei gynhyrfu ond siwrne, pan y rho’wd iddo ychydig o dybaco’r Hen Wlad ar ol bod “yn haner starfio’i hun ar sychddail llwydwyn yr Aifft.” Mi gredes yn siwr y b’asai’n cael ffit y pryd hwnw. Dyna’r “tri llanc” wnaethant i mi deimlo’n rhydd a chartrefol y’nhir y caethiwed, ac y mae iddynt le cysurus yn ymyl y tân ar aelwyd gynes fy nghalon.

I ddychwelyd i’r orsaf. Ni fu Jones chwinciad cyn gwasgaru fy mhoenwyr, a myn’d a mi mewn “bus” reit gyffredin i’r gwesty lle’r o’wn i aros. Yr oedd hwnw’n cael ei alw ar enw Bryste—pa’m, nis gwn: Hotel Bristol, yn ol dull Ffrainc o siarad. Groegwr oedd yn ei gadw, a’i enw yn cynwys y rhan fwya’ o lyth’rene’r wyddor. Ar ol ymolchi, ac ymdrwsio, ac ymborthi, aeth fy ffrind a mi i wel’d ychydig o’r lle, ac yr oedd genym brydnawn cyfan wrth ein cefne.

I gychwyn, croesasom bont hir-lydan oedd wedi ei bwrw dros y Nile, oblegid nid oedd yr afon eto wedi fforchogi’n saith tafod. Cewch gip ar y bont yn y darlun gerllaw. Pwysasom am dipyn ar wàl y barracks, lle’r oedd nifer fawr o filwyr y’myn’d dan ddysgyblaetb. Yna troisom i’r dde, a cherddasom dan gysgod y palmwydd, allan o dwrw a gwres yr heolydd, y’nghanol y golygfeydd mwyaf atdyniadol i lygad gŵr o wlad machlud haul. Draw gwelwn dẁr o Ewropied yn chware’ cricket, a’u dillad gwynion yn disgleirio’n yr haul, heb hidio botwm am Rudyard Kipling na neb. A pha’m lai? Ar bob llaw ini yr oedd y “gamŵs” yn talu treth am ei fodoleth. Y “gamŵs” sy’n gwneud pobpeth ar y tir i’r llafurwr Aifftedd. Yr enw sydd ar y dosbarth yma yw’r fellaheens, meibion y tir; a d’wedir taw hwy yw hen frodorion y wlad. Mae’r “gamŵs” i’r fellaheen fel mae’r ych neu’r ceffyl i ffermwr Cymru; ’does dim pall ar ei adnodde. Crëadur onglog, afrosgo ydyw; ei ddefnyddioldeb, ac nid ei brydferthwch, sy’n ei wneud yn werthfawr. Mae traddodiad gan yr Arabied am dano. Pan wnaeth Duw y fuwch, cenfigenodd Satan wrtho, ac aeth ynte i geisio gwneud un debyg; ond be’ ddaeth allan o’i law e’ ond y “gamŵs!” Wel, gwnaeth beth salach ganweth. Dyna haid o adar yn codi o ymyl rhyw furgyn, ac yn rhuthro dros ein pene.

“Beth yw rheina, Jones?” meddwn.

“Brain,” ebe ynte. A dealles nad yw brain yr Aifft yn dduon, ond brithion, hyd at fod yn wynion, rai o honynt. Mi dybies yn union taw dyma lle’r oedd genesis yr “hen frân wen” y canodd Emrys am dani! Hawyr! oes yma “rasus dynion” heddyw? Beth yw’r ddau slimin main hyn sy’n rhedeg mor gyson ochr-yn-ochr, a’u gwisg fel pe wedi tyfu am danynt fel crwyn? Rhedegwyr o flaen cerbyde gwŷr mawr ydynt hwy, druen; a chyda’r gair, dyma gerbyd gwych yn dilyn, a dau o fonedd y wlad ynddo. Neges y rhedegwyr ydyw clirio’r ffordd i’r cerbyd, a d’wedid wrthyf y rhedent ugen milldir yn aml heb aros. Derbyniant gyfloge uchel, ond nid ydynt byth yn byw yn hir. Pa ryfedd? Rhedant eu hunen allan o wynt cyn haner eu dyddie. Ond dyma gerbyd heb redegwyr iddo, ac ebe’m cydymeth wrthyf:

“Craffwch ar y dyn nesaf atoch.” Mi graffes, ac mi dynes fy het iddo, yn ol yr esiampl a gefes. Cydnabyddodd y cyfarcbiad yn siriol, a gofynes i Jones pwy ydoedd.

“Arglwydd Cromer,” medd ynte. Edryches ar ei ol nes aeth o’r golwg, oblegid teimlwn yn falch o gael cipolwg ar y dyn sy’n llywodraethu’r Aifft yn enw Pryden, ac wedi gwneud y wlad yr hyn ydyw heddyw. Gwelwn adeilad aruthrol o’m blaen, yn cael ei gylchynu gan erddi ardderchog. Hen balas i un o’r teulu brenhinol ydyw, wedi ei droi’n westy, a gelwir ef y Ghezireh. Troisom i fewn i’r gerddi, a buom yno’n eistedd am awr neu ddwy yn gwrando ar un o’r seindyrf milwrol yn chware’. Yr oedd y lle’n llawn o ymwelwyr—Americanied gan mwya’.

Yn lle dychwelyd i’r ddinas yr un ffordd ag y daethom, croesasom yr afon mewn bad bychan, a glaniasom mewn cẁr arall o honi. Drwy ran o’r hen ddinas y daethom yn ol. Heolydd culion a phelmynt culach, yn llawn o bobl, ac yn llawnach o nwydde. Bu raid i mi wasgu fy nhrwyn rhwng bys a bawd bron ar hyd y daith hono—yr oedd yr arogliade mor apeliadol. Cawsom dipyn o waith pigo’n llwybr o’r afon i’r ’sgwar lle’r oedd y cerbyde trydanol. Yn ymyl yr afon mae pob bryntni’n byw; a chryn orchwyl oedd osgoi’r clêr gwenwynig a garient hade marwoleth gyda hwy i bobman, a’r begeried a ffroenech o draw, a’r cryts a’r crotesi haner noethion a waeddent “Backsheesh!” yn eich gwyneb egred ag Arabied y ’strydoedd yn eu man perffeithia’. Yr oedd y gwiberod bychen yn pigo’ch sodle bob cam a roech, a bu raid ini droi arnynt yn sydyn a sarug ragor na siwrne; a cheid digrifwch nid bychan wrth edrych arnynt yn cwympo draws eu gilydd yn eu hymgais i ddïanc. Chwardde rhai o’r edrychwyr yn iach am eu pene, ond cilwgu’n ofnadwy wnai’r lleill.

Erbyn ini gyredd y man y cychwynasom o hono, yr o’em ein dau yn chwŷs dyferol, ac yn chw’thu fel dau ddromedari.

PENOD XVII.

*

CAIRO WEDI’R NOS.

GORCHWYL blinedig yw cerdded yno’n hir iawn. Un peth sy’n peri hyny yw, fod y gwres gyment. Peth arall, nid yw’r dynion sy’n myn’d i’r dwyren am dro yn gwneud fawr wahanieth yn eu gwisgoedd: o ganlyniad, teimlant yn fwy oddiwrth y gwres. Temtasiwn i mi oedd gwisgo “mwfflar” yn yr Aifft, yn unig am ei fod yn bechod parod imi y’Nghymru. A pheth arall, ar amsere neillduol ar y flwyddyn, yn enwedig cyn i’r haf dd’od i fewn, disgyna gwlaw lled drwm; a rhwng y gwlaw a’r deunydd meddal sy’n cyfansoddi’r ffyrdd, gadewir swm cyfrifol o fẁd trwchus ar ol. Dyma’r adeg y mae pobl y Gorllewin yn ymwel’d â’r Aifft fynycha’; ac y mae cerdded ar wadne llyfn o ledr yn y mẁd Aifftedd hwn yn orchwyl sy’n tynu’r chwŷs ac yn trethu’r dymer. Bron nad ydych y’myn’d gyment yn ol ac y’mlaen, fel mai ychydig o gynydd ymarferol a wnewch drwy’r dydd. Nid yw’r brodorion yn teimlo dim oddiwrth yr anhawsder yma, am eu bod yn droednoeth; a thra byddwn i’n cosbi ’nghorff i gadw ’nghydbwysedd, yn eu blaen yr elent hwy fel pe baent wedi eu geni mewn mẁd, ac mor gartrefol ynddo a chŵn yr heolydd. Erbyn pob hwyr, yr o’wn fel un o’r “German Band” a welir weithie’n cerdded o fan i fan, mor glunhercyn a phe bydde geny’ gorn dan bob bys.

Ond os am wel’d, a sylwi, a chraffu, a marcio’n fanwl, yr unig ffordd am dani yw ar draed. Mi wnes rai o’m pererindode mwya’ dyddorol yn y modd hyn. Os na fyddwn wedi blino gormod ar ol bod yn crwydro’r dydd, yr oedd myn’d am dro gyda’r hwyr, wedi i’r haul fachlud, yn talu am bob anhwyldeb. Ar draed, rhwng cinio a gwely—cinio gwŷr mawr, cofiwch!—y gweles ochr seimlyd dinas Cairo; ac os oedd rhyw gyment o gariad ynof tuag at bechod yn flaenorol, yr wyf yn meddwl iddo ddiflanu i gyd y noson hono. Mi adroddaf i chwi’r helynt.

Yr o’em yn bedwar gyda’n gilydd—pedwar Cymro. Yr oedd y bechgyn yn f’aros tra’r o’wn i’n mwynhau pryd ola’r dydd, ac yr oedd golwg ddoniol arnynt. Capie cochion ar eu pene, a ffyn yn eu dwylo, eu lwyne wedi eu gwregysu, a’u lampe wedi —— na, gan gofio, nid oedd lampe ganddynt: ond parodd eu hymddangosiad i mi feddwl yn gry’ am blant Israel yn cychwyn o’r wlad y sangwn ei daear y funud hono. Gan mai prin y mae’n ddïogel i Sais fentro allan yno heb ffon wedi’r dydd, chwaithach wedi’r nos, cymeres ine un brâff ei gwala; a chan ei bod yn fantes i gydffurfio â dull y bobl o wisgo hyd ag y mae’n weddus, mi ’stwffies ine ’mhen i gap coch; a dyna ni’n barod i gychwyn. Gwydde’r bechgyn am bob careg yn y ddinas, ac yr o’ent y’myn’d a mi y noson yr wy’n sôn am dani i ranbarth neillduol lle’r oedd Satan yn ben a Phechod yn teyrnasu. Chware’ teg iddynt, rhoisant i mi fy newisiad i fyn’d neu beidio. D’wedent wrthyf ei fod yn lle garw, ac y byddem yn gosod ein bywyde mewn enbydrwydd—ond y lleihaem y peryg’ wrth gadw gyda’n gilydd, a taw myfi fydde’r Cymro cynta’ i fyn’d hefo hwy y ffordd hono, os mentrwn. Ac yn y blaen. Gan fod y Crëawdwr Mawr wedi rhoi dogn da o ysbryd anturiaethus yn fy natur, mi es hefo hwy: a’r hyn a weles â’m llyged, a glywes â’m clustie, ac a deimlodd fy nghalon y noson hono, yr wyf y’myn’d yn awr i’w fynegi i chwi.

Enw’r lle’r aethom iddo ydoedd “Wassa,” ystyr yr hyn yw cul. Mae’r ’strydoedd mor gulion fel nad oes eisie breichie Phineas Fletcher o ddyn i gyffwrdd y ddwy ochr yr un pryd. Y maent hefyd mor llawn o ddynion, fel y cymer i chwi haner awr i fyn’d gwarter milldir; a chyda’r anhawsder mwya’ y llwyddem i gadw gyda’n gilydd. Dyma’r darn isela’i foese yn yr holl ddinas. Yma’r ymgynull lladron a llofruddion: ac yma y cedwir puteinied o dan nawdd y Llywodreth Aifftedd, a chymeradwyaeth y Llywodraeth Brydeinig—merched ieuenc o bob lliw, a bron o bob gwlad a chenedl, wedi eu cau i fyny fel anifeilied gwylltion mewn ffeue, ac yn llygadu arnoch drwy fare’r ffenestri. Ceir hwy’n yr oedran tyner o bymtheg, ïe, a deuddeg, ïe, a deg, yn gosod eu hunen yn ebyrth gwirfoddol i raib a nwyd y crëadur y gelwir “dyn” arno! Yr oedd yn dda geny’ glywed nad oes byth eneth Brydeinig yn eu plith. Gynted y clyw Llysgenadwr Pryden Fawr fod yn Cairo neu Alecsandria ferch o’r hen wlad wedi gadel ei gwasaneth, ae mewn peryg’ o fyn’d ar ddisberod, ymofynir am dani’n union, a thelir ei llong-lôg yn ol i’w gwlad ei hun gyda’r cyflymdra cynta’. Gwaedu wnai ’nghalon bob cam wrth wel’d golygfeydd mor ofnadwy. Ferched ieuenc fy ngwlad! gwerthfawrogwch gymeriade da, a pheidiwch byth a gwerthu’ch diweirdeb am bris yn y byd—oblegid pa beth a ro’wch yn gyfnewid am dano?

Yn sydyn, collasom un o’r cwmni.

“B’le mae Roberts?” gofyne’r naill i’r llall. Gyda hyny, dyma sŵn chwibanogl yn disgyn ar ein clustie. Chwibanogl Roberts ydoedd, a thystio’r oedd fod ei pherchen mewn peryg’, ac y’mofyn ein help. Yn ol a ni, a buan y cawsom ein cydymeth dewr yn dal pen rheswm a ’beitu haner dwsin o’r tacle mwya’ digymeriad yr olwg arnynt a welsoch mewn blwyddyn, y rhai a’i rhwystrent i dd’od yn ei flaen. Nid wy’n meddwl eu bod ar y cynta’n golygu dim ond direidi, nes iddynt wel’d Roberts yn dechre’ dangos y “bluen wen.” Troisant yn gâs wed’yn; a phan y daethom atynt, mae’n rhaid cyfadde fod pethe’n edrych dipyn yn ddifrifol yno. Edryche Roberts ei hun can wyllted a phe b’ase wedi cael ei hun yn y lleuad. Clebre â hwynt mewn amryw ieithoedd, a digri’ oedd clywed ambell i air Cymraeg yn cael ei seinio mewn lle ac amgylchiade mor anghartrefol. Ond ’doedd dim yn tycio. Os dealla’r gwehilion hyn fod arnoch eu hofn, hwy sydd ben; ond os trowch arnynt heb fenyg ar eich dwylo, hen gywardied o’r fath waela’ ydynt, a pharotach ydynt i’ch llyfu na’ch llarpio. Gwelodd Roberts ni’n d’od, a dechreuodd ymwroli: cododd ei ffon, a dygodd hi i wrthd’rawiad â, chymale duon dau neu dri o honynt—gwnaethom nine’r un peth â’r lleill; wedi cael Roberts o’u gafaelion, bygythiasom hwy eilweth, a ehawsom yr hyfrydwch o’u gwel’d yn slincio’i ffwrdd fel corgwn, a’u cynffone rhwng eu coese. Eto, tybiasom taw doetnineb ynom oedd cefnu ar y diriogeth hono gynted y gallem.

Ar y ffordd, troisom i fewn i ffau Ffawd, i wel’d yr hap-chwareuwyr. Pregeth ar drachwant gaed yma—trachwant aur ac arian: a phregeth effeithiol dros ben ydoedd. Mi sylwes yn arbenig ar un dyn, yr hwn oedd yn colli’r cwbl a roe ar y bwrdd, a’r hwn oedd wedi colli llawer cyn i ni fyn’d yno. Yr oedd ei lyged bron a chwympo allan o’i ben—yr oedd mor welw a’r galchen, ac eto, rhede’r chwŷs yn ddiferyne mawrion dros ei dalcen, y naill ar ol y llall—ei ddanedd a rincient yn erbyn eu gilydd—yr oedd ei law’n crynu fel taw prin y gallase osod ei arian ar y lliw—a phob tro y colle, fe ollynge’r fath ochened nes cynyrchu crechwen drwy’r ffau.

“Dowch allan, hogie,” meddwn; “mae pum’ munud mewn lle fel hwn fel pum’ mlynedd.” Ac allan yr aethom. Ni wnaethom ond yn hrin gyredd y ’stryd, nag y rhuthrodd rhywun heibio i ni, heb het ar ei ben, ac fel pe bydde lleng o gythreulied wrth ei sodle.

“Dyna’r dyn oedd yn colli,” ebe Roberts. Cauodd y dyrfa am dano, a synwn i ddim na chollodd o ’i gorff a’i ened cyn haner nos.

Wedi gwel’d rhagor, a chlywed mwy, y rhai a ferwinent eich clustie pe’r adroddwn hwynt i chwi bob yn un ac un, tynasom tuag yn ol; ac erbyn imi gyredd f’ystafell wely, ac edrych arna’ fy hun yn y drych, mi dybies am foment fod un o boenwyr Roberts wedi fy nilyn! Breuddwydies lawer cyn y bore’ am lewod a theigrod ar lun dynion. Nid wyf wedi edifaru imi fyn’d i wel’d Cairo wedi’r nos; ond mae’n amheus genyf a chwenychwn y profiad eto.

PENOD XVIII.

*

ANTURIAETHUS.

NID wyf wedi d’wey’d ond y nesa’ peth i ddim eto am y merched a’r gwragedd yn yr Aifft. Gwir nad wyf wedi d’we’yd ond ychydig am neb. Ond gwn y dylase’r boneddigese fod wedi cael y sylw cynta’ a’r sylw pena’, am eu bod bellach yn arfer ei gael, ac, o ganlyniad, yn ei hawlio y’mhob cylch a safle. Nid yw cyment ag wyf wedi ei dd’we’yd am danynt yn òd o flasus, a rhyw betruso’r wyf sut y cymerant yr hyn fyddaf yn ei dd’we’yd am danynt yn y benod hon. Bid fyno, rhaid ei dirwyn i ben ar ol dechre’.

Mae’r gwragedd Mahometanedd oll yn cuddio’r darn isa’ o’u gwynebe â math o hugan, yr hwn a sicrheir y tu ol i’r pen â rhwymyn; sicrheir ef hefyd ar ganol y talcen â darn o fetel gloew. Y ddau lygad yn unig sydd yn y golwg, a sylla’r rhai hyn arnoch yn felancoledd i’w ryfeddu. Mae’r merched ieuenc yn cerdded allan â gwyneb agored; ond gynted y prïodant, yr hyn gymer le’n aml pan nad y’nt ond deuddeg oed, ymneillduant y tu ol i’r llen y sonies am dani, ac nid oes neb yn cael gwel’d eu gwynebe mwy y tu allan i gylch uniongyrchol y teulu. Gorchwyl go beryg’ yw syllu mwy na mwy arnynt, yn enwedig os bydd y gwŷr yn digwydd bod gerllaw. Mi glywes am un, oedd a’i gywreinrwydd yn fwy na’i synwyr, fentrodd lygadrythu’n sarhaus i wyneb un o’r gwragedd gwyledd hyn, ac a aeth mor bell ac estyn ei law at y gorchudd. Buasai’n well iddo beidio. Bu raid iddo adel y wlad ar ffrwst mewn canlyniad. Dilynid ef i bob man lle’r ele, a phrin y dïangodd a’i fywyd ganddo ragor na siwrne. Achwynodd ei gŵyn wrth un o gynrychiolwyr awdurdodedig ei wlad; a chynghorodd hwnw ef, ar ol deall yr amgylchiade, i ddychwelyd adre’ y cyfle cynta’ gaffe. Nid gorchwyl pleserus hyd y’nod y’Nghymru yw tynu gwg y “rhyw deg” arnoch; ond yn y Dwyren y mae yn ymgymeriad difrifol. Cuddiant eu gwynebe rhag dyeithried er yn eu tai eu hunen, ac y’nghanol eu pobl eu hunen.

Ce’s achlysur i fyn’d i dri o anedde’r Arabied—un yn Alecsandria, un yn Cairo, ac un yn ymyl y Pyramidie. Cy’myn’d i’r ddau gynta’, yr oedd yn rhaid rhoi rhybudd mewn pryd; ac yr oedd hyny’n anfantes i wel’d y gwreiddiol yn ei wreiddiolder. Ond aeth fy ffrind a mine i mewn i’r llall heb ganu’r gloch, yn syth ar ein cyfer. Ac nid anghofiaf yr olygfa. Yr wyf yn meddwl taw Huws oedd hefo mi, ac yr oedd yn ddatguddiad i ni’n dau. Ni ddigiwch wrth destyn y benod pan adroddaf i chwi sut yr ymdarawsom.

’Roedd yr haul mor danbed oddiallan, a’r goleuni mor brin oddifewn, fel y cymerodd ychydig eiliade ini fedru gwel’d ein hamgylchoedd. Bob yn dipyn, fel tomen ludw ar doriad gwawr, daeth i’r golwg y ddynes hagraf a weles yn fy nydd, heb orchudd dros ei gwyneb, ond y synedigaeth hyotlaf yn ei llyged. A’r fath lyged! ’Ro’ent mor fawrion a chrynion a dwy soser dê gymedrol! P’run o honom oedd wedi cael mwya’ o ddychryn, ai hi ynte Huws a mine, mae’n anodd d’wey’d. Sut bynag, pan ddeallodd yr hen chwaer ei sefyllfa, trodd ei chefn arnom, a gweles hi wrthi’n prysur wneud rhywbeth â’i dwylo o gwmpas ei phen—yn debyg fel y gweles rai o foneddigese ieuenc Treorci’n maldodi eu gwallt o’r tu ol, mewn trefn i gael allan wrth synwyr y fawd os yw’r gyrlen yn ei lle, a’r pine ar eu gwyliadwrieth! Mi dybies i taw ’molchi oedd y genawes, oblegid ’doedd dim dadl nad oedd hyny’n ddyledswydd a esgeulusid ganddi; ond gynted y gwynebodd ni drachefn, gwelsom taw wedi bod yn gosod y gorchudd i fyny’r oedd. A phe b’asech yn gwel’d y ddau lygad mawr, byw, a duon rheiny oedd yn bwrw tân dros ben y gorchudd, heb eich bod wedi cael cip ar y wyneb yn gyflawn cyn hyny, awn ar fy llw, pe bydde raid, y b’asech yn d’od i’r penderfyniad ei bod yn un o’r merched glanaf yn y byd. Ah! fel y medr y veil dwyllo dyn! Yn siwr i ch’i, mae iddi ei mantes yn y Dwyren. A pha ryfedd fod y dych’mygol mor berffeth y’mysg y Dwyreinwyr, pan mae’r llyged gloewen hyny sy’ fel y wenlloer yn ’sbïo arnoch o’r tu ol i’r cwmwl yn pregethu prydferthwch cyffredinol mor onest a hyodl!

Garech ch’i glywed sut fu arnom yn y mwd-gaban wrth draed y Pyramidie? Dïau i’r hen wraig deimlo dïogelwch arbenig y’nghysgod y gorchudd; ac fel milwr wedi codi gwrthglawdd rhyngddo a’r gelyn, dechreuodd danio’n union. Nis gwyddwn beth a dd’wede, ond barnwn wrth ei llyged a’i hoslef ei bod yn trin ei thafod yn erwin. Ac erbyn y cymerwch bobpeth i ystyrieth, ’doedd o ryfedd yn y byd. Dealle fy nghyfell un gair am bob dwsin, a dyfale’r unar-ddeg erill oddiwrth yr un hwnw. Ond bu raid iddi yn y diwedd ymatal i gymeryd ei hanadl; ac yn y saib byrhoedl hwnw, amcanodd Huws dd’we’yd wrthi beth oedd ein neges, taw d’od i wel’d y tŷ y daethom, ac nid ei gwel’d hi. Ac fel prawf ymarferol o hyny, a ystyrie ’fe yn anwrthwynebol, dangosodd iddi ddarn bychan o arian ar ei law.

Mae’n ddrwg genyf orfod d’we’yd yn y fan yma i’r hen dafotreg gamddeall geirie fy nghyfell, a chamddeall cenadeth y darn arian. Hwyrach nad oedd ei Arabeg cystal ag yr arfere dybio ei fod, neu hwyrach fod y darn arian yn rhy fychan; nis gwn am hyny, ond cofiaf y canlyniade tra b’wyf byw. Cododd wythod ar ei thôn, nes eich cyfiawnhau i gredu fod ganddi glôch dan bob dant; a chauodd ei dyrne, gan eu chwyfio fel pe b’ai wedi ymdrawsffurfio’n felin wynt. ’Doedd dim posib’ cael gair i fewn ar ei ochr. Wrth wel’d Huws y’methu, treieis ine hi’n Gymraeg; ond och fi! yr oedd yr hen iaith fel olew ar y tân, yn peri iddi losgi’n fwy. Erbyn hyn, yr oedd nifer o blant wedi ymgasglu o gwmpas y drws, a haner dwsin o fenywod. ’Roedd yn hawdd gwel’d fod rhein yn deall y cwbl, a rhagor, a chlebrent fel gwydde â’u gilydd.

DAN Y PALMWYDD.

“Gwell ini gym’ryd y goes,” meddwn wrth fy nghyfell, yr hwn oedd wedi ei gythruddo’n fawr am na b’ase’r ddynes yn ei ddeall yn siarad. Mi gyfeiries tua’r drws gyda’r gair, a dilynodd ynte mor barchus ag oedd modd. Ond hyd y’nod wedi ini osod y Sphinx rhyngom â’r lle, yr oedd ei chlôch yn ein clustie’n barhaus. Ar ol cyredd Cairo, adroddasom yr helynt wrth gyfell arall. Wedi chwerthin yn iachus am ein trybini, trodd atom ein dau, ac ebe fe’n ddifrifol:

“Wel, ’roedd yn dda i ch’i nad oedd gŵr y ddynes gartre’.”

“Sut f’ase pethe wed’yn?” gofynwn yn gyffrous.

“O,” ebe ynte, a’i ddifrifoldeb yn chwyddo, “caech fedd yn y tywod am ddim, a neb i adrodd yr helynt. Mae claddu’n y tywod dan amgylchiade neillduol yn y ffasiwn ffordd yma byth er amser Mosus, pan wnaeth o’r gymwynas hono â’r Aifftiwr ’slawer dydd.”

Ein tro ni’n awr oedd chwerthin.

Ond wedi hilio’r cwbl, cawsom taw dyna oedd ein pechod mawr—dala’r faeden heb ei gorchudd, a chynyg arian iddi os tyne’r gorchudd i ffwrdd eilweth, er mwyn ini gael syllu ar ei gwyneb glân, a’i thegwch cynddiluwedd. Dyna fel ’roedd hi wedi esbonio pethe; a dyna lle gadawaf hi’n awr i ddawnsio ar ei thomen ei hun.

PENOD XIX.

*

BYD AC EGLWYS.

RYW fore’, yr o’em yn chwech mewn nifer ar gyfer un o brif fasnachde Cairo, yn barod i gychwyn i daith ag oedd wedi cael ei threfnu’r diwrnod cynt. Yn ol y dosbarthiad cyffredin, yr oedd y chwech yn cael eu gwneud i fyny o bedwar bôd rhesymol a dau afresymol. Ond fe f’ase’r sylwedydd diduedd yn siwr o droi’r ffigyre’n ol y bore’ hwnw, a sicrhau fod y chwech yn cael eu gwneud i fyny o ddau fôd rhesymol a phedwar afresymol. A phan y byddaf yn meddwl yn f’orie hamddenol am yr hynt a’r helynt hono, yr wyf yn cael fy hun yn gogwyddo i’r un farn ag ef. Un o’r trindod ffrindie yr wyf wedi bod yn sôn am danynt eisoes, a mine, dau arweinydd brodorol, a dau asyn oedd yn cyfansoddi’r finte. Chwi allech feddwl ein bod y’myn’d i Timbuctoo. Jones oedd y ffrind, ac Ali a Mustapha oedd enwe’r arweinwyr enwe arnynt o gwbl. Ond yr wyf yn cofio eu teithi meddyliol yn dda, a chofiaf hwynt tra bwy’ byw. Ali oedd bïa’r asynod, ond Mahomet oedd bïa Ali, gorff ac ened.

Yr o’em wedi trefnu i fyn’d i ymwel’d â’r “bazaars,” ac un o’r prif eglwysi Mahometanedd, a bore’ cyfan i gael ei gyflwyno i’r gwaith.

“Dewiswch eich anifel,” ebe Jones yn garedig. Yr o’wn, wedi cymeryd stoc o’r ddau’n barod, ac wedi astudio’u pwyntie, da a drwg, yn bur dda, dybygwn i.

“O’r gore,” meddwn, “mi gym’ra’ i at y brawd yma;” a chyfeiries at yr un a ymddangose i mi y diniweitiaf o’r ddau. Yr oedd y llall yn bradychu drwg-dymer anghyffredin—yn ffroeni ac yn sodli, yn cychwyn ac yn cilio—nes ei bod yn beryg’ i Gristion sefyll yn ei ymyl. Ond yr oedd ei frawd yn peri imi feddwl am Issachar, yr hwn y d’wede’i dad am dano ei fod fel “asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn.” Yr unig symudiad a wnai oedd ysgwyd tipyn ar ei ben mewn protest mud pan y deue cleren neu wybedyn i ’sbïo bôn ei glust. Nid o’wn wedi bod mor agos a hyny i asyn pedwartroed er pan o’wn yn hogyn, ac yr oedd hen adgofion am y gymdeithas yn gwneud imi ddyfalu sut y cymerem at ein gilydd.

Bid fyno, wedi gwneud y dewisiad, prysurwyd gwartholion nag y ce’s f’argyhoeddi o dwyll y crëadur oedd danaf. Aeth yn grëadur newydd yn y fan. Yn lle ei fod yn Biwritan hyfwyn a thringar, aeth yn wrthryfelwr penboeth, a ’doedd dim posib’ ei gael i fyn’d yn ei flaen wrth reol. Ele ar garlam wyllt un eilied, yna fe safe’n sydyn nes d’rysu cydbwysedd y truan oedd ar ei gefn, a’i yru ef yn ei flaen yn ddïewyllys. Desgrifie gylche ac ongle ar y ’stryd mor gywir a dim a welsoch mewn Euclid, ac yr oedd yn ymddangos i mi’r prydie hyny fel pe’n awyddus i wybod safle anianyddol ei gynffon. Yr o’wn yn hollol at ei drugaredd, ac nid hir y bum cyn d’od yn arg’oeddedig fod yn rhaid i mi fod ar ddihun o’m pen i’m traed y diwrnod hwnw os am fod yn groeniach. Wedi gwneud penderfyniad o’r natur yna, yr oedd yn rhaid glynu wrtho; a cha’nad o’wn mewn cyflwr prïodol o ran fy meddwl i fedru gwahaniaethu rhwng y penderfyniad a’r asyn—er fod genyf ryw syniad amrwd fod yna berthynas gyfrin rhyngddynt—mi dybies fod glynu wrth y naill yn gyfystyr a glynu wrth y llall. A dyna fel y llwyddes.

Trwy gydol yr amser, edryche Ali’n dawel arnom; a phan y ’storiwn ddigon o anadl i apelio ato, dyna dd’wede:

“Peidiwch ofni—daw ato’i hun yn union!”

A gwir a dd’wedodd. Ond pan ddaeth ato’i hun, daeth Ali ato hefyd, a dechreuodd ei bastynu’n ddidrugaredd: a dyna sy’n gwneud i mi betruso rhwng y rhesymolion a’r afresymolion. Sut na fase Ali yn ei bastynu pan oedd yr asyn yn an’stywallt, ac nid wedi iddo edifarhau? Ond os o’ent hwy’n deall eu gilydd, pa wahanieth?

Pan y gelles anturio edrych heibio’i ddwy-glust, gwelwn Jones yn y pellder, a’i asyn ac ynte fel pe baent wedi eu morteisio. Mi weles yn union ei fod e’n feistr ar y sefyllfa, ac wedi bwrw’i brentisieth er’s blynydde. O, fel y gofidiwn na b’aswn wedi dewis yr asyn arall pan ge’s y cyfle! Tra’r o’wn yn ffigyrol fwyta f’ewinedd fel hyn, rhoes Ali bren yn fy llaw, gyda chyfarwyddyd i chwilio am eis y crëadur: gwnes hyny, a che’s fy hun yn ymyl pedion y llall fel cyfri’ llyfrithen. Mi ddealles fod gogles ar Ned yn y gym’dogeth hono, a bu’r wybodeth o fantes i mi wed’yn.

Gwaith cynil oedd ymlwybro drwy’r dyrfa o ddynion ac anifeilied a cherbyde ar hyd y ffordd, ac mi gredes fy mod yn d’od i helbul ragor na siwrne. Profiad dyeithr i mi oedd bod ar gefn asyn mewn dinas yn y Dwyren—camelod a dromedaried yn f’amgylchu yn lle ceffyle a gwartheg, ac Arabied cilwgus yn lle Cymry rhadlon. Ga’nad beth, ’mhen hir a hwyr cyraeddasom y fynedfa i fewn i un o’r “bazaars,” a roedd yn rhaid gadel y dynion a’r asynod o’r tu allan. Nid wy’n cofio perthyn i ba wlad neu genedl yr oedd y gynta’r aethom iddi, ond i lygad anghyfarwydd fel ’r eiddo’ fi, ychydig o wahanieth oedd rhyngddynt. Lleoedd culion, hirion o’ent, yn llawn o nwydde a dynion—mor llawn fel taw prin y gallech weithio’ch ffordd y’mlaen gyda’r gradd lleia’ o lwyddiant. Yr oedd yn gryn gamp i ni ein dau dena’ i gerdded ochr-yn-ochr ambell i getyn. Stondine bychen ar bob llaw, ar dori gan y ’stwff gwerfchfawr a diwerfch a werthid, y’nghyda mynedfa gul yn y canol i’ch arwen i fewn i’r faelfa ryfeddol sy’ o’r golwg; a phan y byddwch yn pasio dan edrych o’ch cwmpas, daw’r gwerthwr allan o’i faelfa i’ch cyfarfod yr un fath yn union a phry’ copyn yn d’od allan o’i dwll i gwrdd a’i ysglyfeth. Ceid llawer yn gweithio’u crefft y tu allan i’w siop—gwaith ede a nodwydd o’r fath cywreiniaf; ac nid oedd dim yn eu plesio’n fwy na gofyn cwestiyne iddynt am y gwaith oedd yn eu dwylo. Traethent yn hyodl mewn cymysgieth o Saes’neg, a Ffranceg, ac Arabeg, am ddirgelion eu celf; ond pwnc go anodd f’ase penderfynu pa faint o wir a pha faint o anwir a gynwyse eu truth. Nid yw’n bechod i Fahometan dwyllo dyn o grefydd arall mewn gair a gweithred; nid wyf yn siwr nad ystyrir ef yn rhinwedd mawr. Yr oedd ambell un yn daer dros ben: gwthie ei nwydde arnoch, a bron na chydie’n eich braich i’ch llusgo i fewn, bodd neu anfodd, i’w barlwr. Iuddewon a Groegwyr oedd y dosbarth mwya’ egr; a difyr oedd gwrando ar Jones yn dal pen rheswm â hwy—yn eu tynu allan i gredu fod ganddynt ddau gwsmer hawdd eu twyllo—ac ar ol eu dwyn i ymyl bargen, yn ysgwyd pen, gan dd’we’yd:

Mwsh aws!” ystyr yr hyn yw. “Dim eisie!” ac yn cerdded i ffwrdd mor ddihidio a chocosen. Mi fydde’r crëadur cellweirus wedi myn’d yn ei flaen weithie tra fyddwn i’n breuddwydio; a phan y trotiwn ar ei ol, dilynid fi gan furmuron bygythiol y gwerthwr.

“Be’ mae o’n ddeud, Jones?” gofynwn, ar golli f’anadl.

“Bwrw anatheme ar eich ol, gorchymyn eich corff i’r fwlturied, a’ch ened i’r poenwyr,” ebe’m cyfell, gyda’r un llyfnder ag y dywede’i bader.

“Mae’n dda iddo nad o’wn yn ei ddeall,” meddwn, “onide fe’i tanbelenwn â rhai o derme barddonol Dafydd ab Emwnt, fel y gwnaeth Talhaiarn â’r ’sgrech hono o Billingsgate.” Chwarddodd fy ffrind yn galonog, a d’wedodd hwyrach y cawswn gyfleusdra arall yn fuan.

“Mae eisie ffon arnaf,” ebwn yn sydyn; ac aeth a mi at stondin hen Roegwr a adwaene. Rhoes ar ddeall i hwnw fy neges, a ffwrdd a’r “coryn” deudroed i’w gastell, gan ddwyn odd’no ffon lathr wedi ei gwneud o groen unicorn. Enw arall ar yr unicorn yw rhinoceros.

“Dyma hi,” ebe fe, a gwên fuddugoliaethus ar ei wefus fain. “Bargen fawr—plygu fel chwip—dim nam,” a throai’r ffon yn bob ffurf yn y byd o flaen ein llyged.

Bekamde?” ebe Jones; “hyny yw, Beth yw ei phris?”

Ond cyn dweyd ei phris, parhau i dywallt ffrydlif o eirie cymeradwyol i’r ffon a’i rhinwedde wnai’r hen gono, nes bron a gwneud i mi gredu taw hen ffon Moses ydoedd, neu ffon Aaron ei frawd, a dweyd y lleia’; a pharod o’wn i’w phrynu ar unrhyw bris.

Bekamde?” ebe Jones eilweth, mor swrth a phlismon.

Eshreim,” ebe’r gwerthwr, gan geisio ailddechre. Ond torodd Jones ar ei draws yn ddiseremoni—

Mwsh aws,” ebe fe, a ffwrdd ag e’ dan chwibanu. Es ar ei ol, a gofynes iddo pa’m na phrynase’r ffon.

“Am ei fod yn gofyn punt am werth coron.” Cauodd ben y mwdwl ar unweth. Y’mhen chwarter awr’ro’em yn pasio heibio stondin y Groegwr drachefn, a dyna lle’r oedd a’r ffon yn ei law o hyd.

Bekamde?” ebe Jones y drydedd waith, heb aros dim, ac mor anibynol a miliwnêr.

Arba,” ebe ynte’n union; a che’s y ffon am bedwar swllt! Hen eillwyr ofnadwy yw gwŷr gwlad Groeg, cystal a gwŷr gwlad Canaan unrhyw ddydd; ac yr oedd geirie Paul yn tori bob ochr pan dd’wedodd nad oedd “gwahanieth rhwng Iuddew a Groegwr.”

Aethom drwy’r maelfeydd Tyrcedd, Persiedd, Indiedd, a Melitedd oll yn eu tro, a’u rhyfeddode’n amlhau ac ymehangu bob cam o’r ffordd. Yr oedd cyfoeth a gwychder y lle yn fy synu. Yr oedd fy nghydymeth yn adwaen rhai o’r maelfäwyr, ac yn ei gysgod ce’s fwrw golwg dros rai o’r dirgelion oddifewn. Dynion caredig o’ent oll cy’d ag y safech gyda hwy i fargeinio; wn i ddim sut rai all’sent fod wedi i chwi droi cefn heb brynu. Meddent ar allu nodedig i edrych yn serchus ac i edrych yn gâs, fel y bydde’r cymhellion. Y ffordd effeithiolaf i gael llonydd ganddynt oedd siarad yn sarug â hwy, a thynu croen eich talcen dros haner eich llyged. Dyn a’ch helpo os na fedrech wneud hyny; fe’ch blingent yn fyw. I fyny ac i lawr—i’r dde’ a’r aswy—y’mlaen ac yn ol—a’r naill le mor debyg i’r llall ag y gallent fod: yr oedd yn syndod i mi sut oedd yr hogyn yn gwybod ei ffordd cystal. O’r diwedd, ar ol troi a throsi, a chamu a chroesi ganoedd o weithie, mi all’swn dybied, dyma whiffyn o’r awyr agored yn disgyn ar fy ffroene—dyna oernad asyn yn disgyn ar fy nghlustie—dacw ddau o honynt yn sefyll yn hamddenol yn y fan draw, a phen y naill wrth gynffon y llall—a dacw Ali a Mustapha’n pwyso arnynt mor hamddenol a hwythau, dan chw’thu colofne o fwg sigarets allan o’u ffroene. ’Roedd deubeth yn peri iddynt fod hamddened—stoicieth eu natur a’u credo, a’r wybodeth taw wrth y dydd y cyflogid hwy.

Ffwrdd a ni drachefn. Yr oedd gwahanol aelode’r finte yn deall eu gilydd yn well erbyn hyn. Gadewes i Jones flaenori, a da i mi fu hyny cyn nemor o amser. Cyfeiriem yn awr i’r eglwys y sonies am dani, ac yr oedd yn rhaid ini fyn’d drwy ganol y farchnad Dyrcedd os am fyn’d yno’r ffordd agosa’. Ceir yma arwerthiant boblogedd bob bore’, a’r dyrfa’n dew yn ’i gilydd, ac yn rhifo’i miloedd. Yr o’em yn ei chanol cyn ini’n brin osod ein hunen yn daclus ar y cyfrwy.

“Cauwch cich côt, a meindiwch eich ’watch!’ ” oedd gorchymyn Jones mewn llais croch, cynhyrfus. Ceisies wneud gore’ medrwn, ond yn fy myw y gall’swn guddio’r gadwen o’r golwg, am nad oedd y gôt yn botymu’n ddigon isel. Ni welsoch erioed y fath helynt, ac ni chlywsoch erioed y fath fwstwr. Fel y d’wedes, Jones oedd yr arloesydd, ac yr oedd yn gofyn iddo dreisio’i ffordd yn llyth’renol drwy’r dyrfa—fel pe gwelech aing y’myn’d i mewn i bren. Dilynid ef gan Mustapha, yna, down ine, ac Ali ar f’ol. Gwaedde’r ddau Arab ar ucha’u llais yn ddïatal am i’r bobl glirio; gwaedde Jones c’uwch a’r ddau: ond ce’s glywed wed’yn fy mod i wedi myn’d i waeddi c’uwch a’r tri cyn d’od yn rhydd o’r giwed guchiog. Gynted y cyll dyn ei hun dan rai amgylchiade!

Sut bynag, daethom drwyddynt yn ddïogel, a chawsom ein hunen yn fuan wrth gyntedd allanol yr eglwys. Bu raid ini wisgo sandale am ein traed cy’ myn’d i mewn, a gadel yr asynod a’r arweinwyr fel o’r blaen y tu allan. Daeth gŵr arall i’n cyfarwyddo, yr hwn a ymgyfathrache â ni trwy arwyddion. Wedi gadel y porth, daethom i gyntedd agored anferth, yn yr hwn yr eistedde ac y gorwedde miloedd o ddynion, yn dỳre ar wahan, fel dosbarthiade mewn Ysgol Sul, ac athraw ar bob dosbarth. Yn llaw pob un yr oedd rhôl fechan, a dealles yn fuan taw darn o’r Coran oedd hwnw. Murmurent yn haner hyglyw ar hyd yr amser, ac yr oedd eu sŵn fel sŵn byddin o gacwn yn llawn gwaith. Pigem ein llwybr yn ofalus ar ol ein harweinydd—weithie’n cwmpasu, ac weithie’n camu dros goes y naill, a dwygoes y llall, a chorff y trydydd. Ni syfle un o honynt gyment a bys er mwyn ini basio’n hwylusach. Yr o’ent oll o dan belydre crasboeth haul y canolddydd, ac ymestyne rhai ar eu hyd, fel pe baent wedi eu llwyr orchfygu ganddo. Aethom i fewn i’r adeilad sy’ dan dô, a chawsom ail-argraffiad o’r un olygfa. Ce’s fy ngogleisio’n sydyn gan rywbeth neu gilydd wrth groesi’r ystafell hon, a throis at Jones am gydymdeimlad. Nid af i wadu na ddarfu i mi chwerthin yn uwch nag oedd yn weddus, erbyn cofio y’mhle’r o’wn. Ga’nad beth am hyny, dyma lais main, crynedig, yn cyredd fy nghlust:

“Er mwyn y Nefoedd, peidiwch a chwerthin, na siarad yn uchel!”

Mi feddylies fod yno Gymro arall gerllaw, ond dealles mewn pryd taw Jones oedd wrthi; a rhwng y llais a’r geirie, mi lynces yr awgrym, ac ni fum anufudd i’r datguddiad. Mae’n debyg imi beri i rai o honynt golli eu gwers: mi ge’s un fy hun nad anghofies mo’ni wed’yn, Erbyn hyn, yr o’em wedi d’od at ystafell y puredigeth. Cymeres gipdrem ar y fan, yne mi drois ar fy sodle’n sydyn, cydies yn dỳn yn fy nhrwyn, a gwadnes hi odd’no gynted y gallwn. Yr oedd yn llawn bryd. Da oedd genyf hefyd gael gwared o’r sandale. Enw’r eglwys hon oedd “Eglwys y Brif-Ysgol,” a d’wedwyd i mi fod yno bymtheg mil o eneidie y bore’ hwnw, yn ddynion i gyd, heb wraig, na merch, na phlentyn yn agos i’r lle. Cofies am Ysgolion Sul Cymru, ac nis gall’swn beidio cymharu a chyferbynu.

Dyna i ch’i dro byr i fyd ac eglwys. A’r hyn sy’n rhyfedd yw—fod yn rhaid i chwi adel yr asynod allan cyn y cewch fyn’d i fewn i’r naill na’r llall o honynt.

PENOD XX.

*

AR YR AFON.

AFRED yw d’we’yd pa afon a olygir. Yr wyf wedi sôn am dani eisoes, neu o leia’ am un o’i thafode, yn ymyl Alecsandria. Dyna lle mae’n llepian Môr y Canoldir â’i saith tafod yr un pryd. Yn ymyl Cairo y mae’n fforchogi. Oddiyno ’mlaen i’r môr y mae’n cofleidio’r holl wlad am bellder o chwech ugen milldir; ac y mae rhagor na hyny o bellder rhwng ei thafode eitha’ wedi y cyrhaeddo derfyn ei thaith. Ar yr afon y dibyna pobl y wlad yna am gynalieth. Pan y gorlifa ar ei hamsere, gedy swm trwchus o fẁd ar ol yn gynysgeth i’r trigolion. Mae hwn yn dir ac yn wrteth o’r fath ore’, a phroffwyda gynhaua’ toreithiog. Mae’r gorlifiade drachefn yn dibynu ar y swm o eira fydd ar fynyddoedd Abyssinia. Ychydig a wydde neb am y Nile yn ei chrwydriade drwy’r anialwch hyd yn ddiweddar: ar ol iddi gyredd gwlad yr Aifft y daw’n fwya’ hysbys. Hanes yr Aifft yw ei hanes hithe er y dyddie boreua’; ac am fod y wlad wedi bod mor enwog ac adnabyddus ar hyd y canrife, felly mae hithe, yn rhinwedd y berthynas, wedi bod yn cyfranogi o’r un enwogrwydd. Addolir hi gan yr hen Aifftied, ac addolir pob crëadur sy’n byw yn ei dyfroedd. Coleddir teimlade eithafol tuag ati gan bawb o’r trigolion yn ddiwahanieth; ac os mynwch i mi dd’we’yd ambell i wir sy’ ore’ i’w gelu, mi dd’wedaf taw nid heb beth braw yr edrychwn ine ar yr hen ddewines bob tro y cawn gyfle, yn enwedig fin nos wrth ole’r lloer.

Bum y’nes ati na’i glane. Croeses hi amryw weithie dros bontydd, fychen a mawrion; a chroeses hi mewn bade ac ar rafftie droion a throion. Bum i fyny ar hyd-ddi yn y wlad am rai milldiroedd. Huws oedd hefo mi’r diwrnod hwnw. Cawsom afel ar fâd môr-ladronllyd yr olwg arno ryw brydnawn, ac aethom iddo’n fentrus dros ben; a dyna lle buom am ddwyawr neu ragor at drugaredd dau o’r pechaduried dua’u crwyn a mileinia’u llyged a weles mewn breuddwyd erioed. Mae’n amheus genyf a weles i ryw lawer o’r wlad yr aethom drwyddi, gan fel y gwyliwn symudiade’r badwyr; ac yr oedd colofne o fwg rhyngof a gwel’d fy nghydymeth, yr hwn oedd wedi ’mollwng iddi cystal ag un Twrc. Yr unig beth wn I i sicrwydd am y wibdeth hono yw—ini gefnu ar y ddinas, a mordwyo i’r wlad am gryn getyn. Mae genyf gôf niwliog i Huws bwyntio â’i fys at gruglwyth o hesg gerllaw, a murmur rhywbeth am “Moses Bach.” Ce’s allan wed’yn fod traddodiad yn d’we’yd taw dyna’r ’smotyn y daeth merch Pharo’ o hyd i waredwr dyfodol plant Israel. Wel, ’ro’dd’no ddigon o hesg i guddio sgoroedd o blant yr Hebrëwyr. Nid wyf yn cofio dim arall o’r daith, oddieithr fy llawenydd o gael fy nhraed ar y tir ar ei diwedd.

Ni fum erioed yn yr afon, ac ni fu dafn o’i dyfroedd erioed ynof ine, trwy wybod imi. Nis gwn p’run yw’r gwaetha’, ai yfed o honi ai ymolchi ynddi. Mi weles erill yn gwneud pob un o’r ddau, a ’roedd hyny’n ddigon, a mwy na digon i mi.

Pan yn ei chroesi un diwrnod ar rafft, tynwyd fy sylw at ddyn oedd y’myn’d trwy ddefod ei buredigeth (dybygwn i) yr ochr ucha i ni. Yr oedd hyd ei forddwydydd yn y dw’r, heb bilin am dano, ac wrthi mor brysur a phe b’ase blwyddyn wedi myn’d heibio oddiar pan y bu wrthi ddiwedda’. Wedi i mi fod yn gwylio’r crëadur noethlymun am bum’ munud mor fanwl a phe bawn yn disgwyl iddo droi allan yn löwr o Abergorci, ebe Huws wrthyf—oblegid efe oedd hefo mi’r tro hwn eto:

“Dacw i ch’i bictiwr arall yr ochr isa’; ’drychwch arno y’ngole’r llall.”

Edryches, a dyma be’ weles. Dyn o’r un lliw a’r llall yn y dw’r hyd at ei benlinie, a chostrel o groen yn hongian wrth ei ochr yn geg-agored, a thamed o flwch alcan wedi ei fylchu drosto, tebyg i hen “dìn sa’mon” wedi ei wagio a’i daflu i’r afon, yn ei law dde’n codi dw’r i’r gostrel. Pan ddaethom y’nes ato, mi weles taw “tìn sa’mon” ydoedd yn ddïos. Yr wyf wedi gwel’d llwythi o honynt y’ngwely’r Hondda i fedru eu camgymeryd y’ngwely’r Nile. Cyn ini gyredd y tir, yr oedd y gŵr wedi llanw’r gostrel a myn’d i’w ffordd. Ond yr oedd y llall wrthi o hyd yr ochr ucha’; a myne Huws, pe baem yn ddigon agos ato, y gwelem drwch o faw yn llifo oddiwrtho ar hyd wyneb yr afon. Nid o’wn yn synu dim at hyny; ond pan y ’chwanegodd fod y bade’n methu croesi weithie pan fydde dau neu dri’n ymolchi’r un pryd, oherwydd y trwch, mi weles ei bod yn bryd imi gymeryd pinsied o halen. Yr oedd Huws wedi dal y dwymyn ddychymyg sy’n y Dwyren i radde mwy na’i gyfeillion.

MYFYRIO’R CORAN.

Wedi i ni fyn’d drwy ’stryd neu ddwy, dyma fy nghyfell yn cydio’n fy mraich yn sydyn, yn pwyntio â’i fys i ganol y ’stryd, ac yn gofyn:

“ ’Drychwch ar y dyn acw—welwch ch’i o?”

“Gwela,” meddwn; “pwy ydi o? Ai’r Cedif ynte’r Mullah?”

“Ydach ch’i ddim yn ’i ’nabod o, mewn difri’?” ebe Huws.

“Mae arna’ i ofn fod yn rhaid i mi wadu’ anrhydedd,” meddwn, gan geisio bod yn watwarus, am y tybiwn ei fod e’n ceisio bod yn ddigri’ ar fy nghôst i.

“Dowch hefo mi ato”—a ffwrdd ag e’, a mine ar ei ol.

Ond nid cynt y des wyneb-yn-wyneb a’r dyn nag yr adwaenes ef. Y gŵr oedd a’r gostrel yn yr afon ydoedd: ond ni adewes i Huws wel’d fy mod yn ei adnabod. Edrychwn mor hurt arno a phe nad o’wn wedi ei wel’d erioed; a llyncodd fy ffrind yr abwyd.

“Mae o’n gwerthu dïod neis iawn,” ebe fe; “gym’rwch ch’i lasied?”

“Be’ di henw hi?” gofynes, cyn imi gau pen y mwdwl yn gyflawn. Clywes ef y’mwmian rhwng ei ddanedd mewn atebiad, a cheisie f’argyhoeddi i taw d’we’yd yr enw Arabeg ar y ddïod yr oedd. Cydsynies i gymeryd glasied ar yr amod iddo ynte gymeryd un.

“O’r gore’,” ebe fe; ond gwyddwn nad oedd yn blasu hyny. Wedi cael y stwff i’m llaw, edryches arno—yr oedd mor dew â bwdran; arogles ef—yr oedd fel physig dâ. Yna, mi edryches ar Huws.

“Yfwch ef i fyny,” ebe fe.

“Fel mater o foesgarwch,” ebwn ine, “chwi ddyle yfed iechyd da i mi’n gynta’.” Mynes ei wel’d yn cymeryd dracht o hono; yna, heb aros i wel’d ei wep, mi defles y corn a’i gynwys i’r ddaear, ac ymeth a mi nerth fy nhraed i’r cyfeiriad a gymerem yn flaenorol, yn cael fy nilyn gan leferydd y dwfr-werthwr a chamre breision fy nghydymeth—yr hwn ynte oedd wedi cael ei werthu hefyd. Profodd hegle hirion Huws yn gynt na’m postion byrion i, a buom ein dau’n chwerthin ar ganol y ’stryd nes gwneud i’r teilwried a eisteddent yn goes-groes yn ymyl y dryse dynu eu pibelle allan oddirhwng eu danedd, a murmur “Allah!” Ceisiodd Huws genyf beidio adrodd y ’stori wrth y ddau Gymro arall. Addewes ine ar yr amod iddo gyfadde’ taw c’uwch cwd a ffetan. Ac aeth yn fargen.

Er imi wneud amod â mi fy hun na sangwn mwyach ar ysgraff i blesio undyn, mi anghofies y cwbl pan ofynodd Huws imi brydnawn arall os d’own i wel’d y Nilometer. Cyn imi gael amser i ofyn beth oedd hwnw, yr oedd fy nhraed ar y plancie.

Fuoch ch’i ar rafft rywdro? Os naddo, ni raid i chwi chwenychu’r profiad. Y peth tebyca’ weles iddo yn y wlad hon oedd busnes y barile dros afon Teifi y’nghym’dogeth Rhydybont. Ond pe b’ai’n fater o ddewis rhwng y ddau, yr ola’ gele’n fôt i heb betruso, fel y mwya’ teilwng o ymddiriedeth. Tybiwch am ddwsin o ’styllod hirion a phreiffion wedi eu sicrhau wrth eu gilydd—a dwsin erill o’r un ysgol wedi eu gosod ar groes, a’u sicrhau wrth eu gilydd ac wrth y rhai cynta’. Dyna’r ysgraff. Ond tybiwch ei bod, oherwydd oedran ac esgeulusdra, wedi magu mwswg’ a phob anialwch dros ei gwyneb a rhwng y rhigole, nes ei bod yn beryg’ i chwi sefyll arni, ac yn anymunol i chwi feddwl eistedd arni. Tybiwch eto taw swyddogion y bâd agored hwn oedd dau Arab o faintioli cawredd, y rhai, gyda chymorth dau bolyn hir, a hwylysent ei symudiade—ac weithie a’i anhwylysent. Ac ychwanegwch at hyn oll fod yna dipyn o chwyrnlif tua chanol yr afon, yr hyn bare i’r bâd a’i breswylyddion gael ymosodiad o’r bendro: yr wyf yn dra sicr y caf eich cydymdeimlad y’nhroion yr yrfa hon. Yn ystod y mis cyfa’ y bum ar y môr, wrth fyn’d a dychwelyd, ni theimles y gogwydd lleia’ o selni’r môr, ar dywydd teg na garw; ond pe gofynech imi pa bryd y bum agosaf iddo, atebwn taw ar y rafft yn croesi’r Nile y’ninas enwog Cairo.

Mi sonies am y Nilometer megis rhwng cromfache, a hwyrach fod cywreinrwydd rhywun wedi cael ei gyffroi, a’i ddychymyg wedi myn’d i grwydro. Yr wyf yn cofio imi grybwyll yr enw’n ddamweiniol mewn cwmni, pan geisiwyd genyf adrodd ychydig o’m helyntion, ac i un cyfell oedd yn gwrando’n safn-agored ofyn y’niniweidrwydd ei galon:

“Sut grëadur oedd hwnw, deudwch? Oedd o’n debyg i’r crocodil?”

’Roedd o wedi credu’n siwr taw un o breswylwyr rheibus yr afon oedd y Nilometer, ac yn anfoddlon i mi ei basio heibio mor ddisylw, heb roi desgrifiad llawn o’i ’sgerbydeth a’i arferion. I ochel unrhyw amryfusedd tebyg, mi dd’wedaf ar unweth taw offeryn i fesur uchder yr afon ydyw. Onid yw ei enw’n egluro’i bwrpas? Y mae i’w gael ar ynys fechan y’nghanol yr afon, ac ar ben ucha’r ynys, ar dwyn sy’ a pheth o hono’n naturiol, a pheth yn gelfyddydol. Mae tŵr wedi ei godi yn y fan yma, ond y mae’n ddigon isel i chwi fedru edrych i lawr iddo. Wedi i’ch llyged ymgydnabyddu â’r t’w’llwch, chwi welwch ddyfroedd yr afon yn y gwaelod pell, a phren hir yn codi ’fyny’n syth o’r gwaelod, a marcie arno bob hyn-a-hyn. Cyrhaedda’r pren hyd at ene’r tŵr. Yn ol y marcie y mesurir uchder y dw’r. Am y rhan fwya’ o’r flwyddyn, ni ŵyr am y codiad lleia’; ond fel mae amser y gorlifiade’n agosâu, ymofynir â’r Nilometer yn fynych, ac os ceir arwyddion myn’d tuag i fyny yn y dw’r, clywir sŵn llawenydd a gwaith trwy’r holl wlad. Tebyg taw cynllun cyffelyb oedd ganddynt yn amser y Pharöed. Mae pobpeth yn yr Aifft naill ai yn “hen bowdwr” neu’n “newydd fflam!” Sicrhaodd Huws i mi fod hwn er dyddie Pharo Neco! Hwyrach hyny, ond rhedeg at y bocs halen wnes i.

PENOD XXI.

*

LLE BU’R MAB BYCHAN.

HYNY yw, lle bu’r Mab Bychan yn ol traddodiad. Traethu am f’ymweliad â’r mane hyny yw baich y benod hon.

Hen Eglwys y Coptied oedd un o’r mane ’rwyf yn sôn am danynt.

D’wedwyd wrthyf fod y bobl hyn y’mysg hen frodorion yr Aifft, o’r rhai oedd yn addoli un Duw. Yr enw arnynt unweth oedd Monophistied—enw sy’n myn’d y’mhell i brofi nad o’ent yn credu mewn aml-dduwieth. Tua dechre’re’r ail ganrif, unwyd hwy âg eglwys arall oedd yn dal golygiade tebyg ar Berson Crist; a dyna’r pryd y daethant i gael eu galw’n Coptied. Gyda llaw, onid Coptied yw’r aelode hyny sydd ar gynghore addysgol y dyddie hyn y’Nghymru, y rhai nad ydynt wedi eu dewis yn uniongyrchol gan lais y werin? Hwyrach y bydd gwybod y naill yn help i gofio’r llall. Mae’r Eglwys Goptedd yn Cairo mewn cyflwr isel a dilewyrch iawn. Mae ei hoffeiried mor anwybodus a’r bobl, a dygir ei gwasaneth y’mlaen yn yr hen iaith Gopteg, yr hon nid oes neb yn ei deall. Mae’r Coptied yn cyfri’ eu hunen yn Grist’nogion, ac y mae marc y Groes ar arddwrn pob un o honynft. Mi a’i gweles ar lïaws o arddyrne. Y mae wedi bod o fantes iddynft weithie, ac o anfantes droion. Ond y maent yn glynu’n rhyfedd wrfth eu heglwys, a hawliant berthynas â Christ’nogion pob gwlad. Nid oes cyfafchrach rhwng y Mahometanied â hwy, ac nid ä’r un Mahometan selog yn agos i’w hanedde ar gyfri’n y byd. Trigant mewn darn o’r hen ddinas, yn drefedigeth anibynol; ac y mae’r darn hwnw yn cael ei roi i fyny’n hollol iddynft hwy, i bob pwrpas ymarferol. Wedi clywed â’m clustie sôn am danynt, yr o’wn yn egru am gyfle i ymwel’d â hwy.

Awyddwn yn enwedig i gael cip ar yr hen adeilad, petawn yn gorfod gadel lleoedd erill ar ol. Mi gês berswâd ar Huws i dd’od hefo mi ryw brydnawn, ar yr amod imi roi cyflenwad iddo o dybaco’r Hen Wlad. Cerddasom yn galed am hir ffordd ac amser, ac nid oedd pethe’n gwella o gwbl wrth fyn’d y’mlaen. O’r diwedd, daethom at borth henafol, yn ymyl pa un yr eistedde dau gardotyn o’r fath druenusa’u cyflwr. Yr o’wn wedi eu harogli y’mhell cyn d’od atynt, a Huws roes esboniad imi ar y tawch. Bron nad allech ei wel’d. Y syndod mwya’ i mi oedd sut na b’asent wedi cael eu cario i ffwrdd i fynwes rhywun neu gilydd gan y dyrfa o bryfed oedd mor ofalus o honynt. Aethom drwy’r porth dan wasgu’n trwyne, a bu mwg myglys fy nghyfell o fendith fawr i ni. Cynygies brynu pibell arall iddo, fel y galle ddefnyddio’r ddwy’r un pryd; ond gohirio’r peth a wnaeth y tro hwnw.

Wedi myn’d drwy’r porth, yr o’em y’nhiriogeth y Coptied; a bum yn hir dan yr argraff nad oedd neb yn byw yno. Tai uchel, heb ffenestri iddynt amgen na thylle bychen ’sgwâr hwnt ac yma, nes gwneud ini dybied taw cu cefne oedd ar y ’stryd hono, a taw ’stryd arall oedd yn cael y fraint o wel’d eu gwynebe. Yr oedd golwg felancoledd arswyddus ar bob peth, ac nid oedd sŵn dieithr ein hesgidie ar y palmant cerig yn ychwanegu dim at sirioldeb y gymdogeth. Bob yn dipyn daethom i olwg yr hen eglwys; ac o gwmpas i hon yn unig yr oedd pob gronyn o fywyd oedd yn y lle wedi ymgasglu. Yr oedd yma ’beitu haner dwsin o ferched, a chynifer a hyny o gŵn, crwt neu ddau, a nifer a’mhenodol o fegeried. Y peth cynta’ wnaethant oll, oddigerth y cŵn, wedi iddynt ein gwel’d, oedd dangos llun y Groes ar eu garddyrne, i’n hadgofio o’r berthynas, ac i’n rhybuddio y disgwylient i ni eu cofio’n sylweddol cy’ myn’d odd’no. Iddynt hwy, nid oes ond Crist’nogion a Mahometanied yn y byd; gwyddent taw nid dilynwyr y gau broffwyd o’em, rhaid felly ein bod yn ddysgyblion y proffwyd o Nazareth fel hwythe.

Os oedd y tai’n uchel, yr oedd yr eglwys yn ddigon isel. Yr oedd yn rhaid disgyn i fyn’d at ei phorth allanol; ac yn y fan hono daeth tamed o ddynolieth i’n cyfarfod, a thamed o Saesneg ar ei dafod. Prin y gallem ei wel’d gan fychaned oedd, a th’wlled y lle. Dan ei arweiniad aethom i fewn. Cydiodd mewn darn o lafrwyn, tebyg i ganwyll frwyn y dyddie gynt; goleuodd hi mewn canwyll oedd yn ole’n barod, ac archodd ni i’w ddilyn. Nid oedd fawr o wahanieth rhwng ei “seis” ef a “seis” y llafrwyn. Huws bïa’r sylw yna. Cawsom ein hunen mewn ystafell tebyg i gapel—a digon anhebyg hefyd—yn llawn cornele, heb fainc i eistedd arni, a’r t’w’llwch yn herio’r dwsin canwylle oedd yno’n esgus goleuo, i feiddio cyffwrdd âg e’. Yr oedd yno banele cywren tu hwnt, a cherflunie arnynt yn gosod allan ryw drafodeth Feibledd. Ceisie’r crwt dd’we’yd wrthym mewn Saesneg tebyg i Saesneg gwaelod Sir Benfro, beth oedd y llunie; ond trwy fod Huws o Sir Gynarfon, a mine o Feirion, nid o’em fawr callach o’i ddehongliad. Tremies drwy’r t’w’llwch, a gweles fath o gangell a desc o’r naill ochr; tybies taw rhan yr offeiriad oedd yn y fan hono, ac ni chenfigenwn wrtho.

Yr o’wn wedi meddwl yn sicr nad oedd modd myn’d yn îs, ond wele’r gŵr bach yn disgyn drachefn dros risie cerig, gryn ddwsin o honynt, a nine wrth ei sodle, nes y cawsom ein hunen mewn ystafell eang arall, a thyrfa o bileri trwchus yn dal ei nenfwd i fyny. Nid oedd yma na phanele, na changell, na dim o’r cyfryw; ond yr oedd yma gelloedd bychen agored yn erbyn y murie. Safasom yn ymyl un o honynt, a thybies fod gŵr y ganwyll frwyn yn d’we’yd rhywbeth gyda mwy o bwysles nag arfer.

“Be’ mae o’n ddeud, Huws?” meddwn.

“O, deud mae o mai dyma’r lle y bu’r Mab Bychan yn ymguddio, gyda’i dad a’i fam, tra bu’n aros yn yr Aifft.”

Mi apelies at yr arweinydd, rhag ofn fod Huws rhwng difri’ a chware’, fel y bydde weithie; a gwnes i hwnw fyn’d dros y ’stori wed’yn yn arafach. Ce’s fod fy ffrind yn d’we’yd y gwir, p’run bynag a oedd y crwt yn d’we’yd y gwir neu beidio. Nid es i holi, na manylu, na chysoni, na dim: yr o’wn yn y teimlad i dderbyn y ’stori fel gwirionedd. Yr oedd Matthew wedi d’we’yd am fföedigeth y Mab Bychan a’i rïeni i’r Aifft, ac yr oedd yr hen eglwys yn ymddangos o leia’n ddwy fil o flynydde mewn oedran: pa’m lai na all’se pethe fel hyn fod? Yr o’wn wedi myn’d i ganol yr amgylchiade fel yma dros fy mhen, a bu raid i Huws ddihuno tipyn arno’i hun cyn iddo lwyddo i’m dihuno i. Pe cawswn lonydd, yno y b’aswn; yr oedd y ’stori wedi fy swyno gyment. Nid wyf yn siwr nad wy’n ei chredu byth.

Ar ol d’od i fyny drachefn o fysg y tanddaearolion bethe, yr oedd y lle’n llawn o ferched yn dangos eu garddyrne a’u dwylo. Yn yr Eglwys Fahometanedd y dydd o’r blaen, ’doedd dim ond dynion i’w gwel’d; yn yr Eglwys Goptedd heddyw, ’does dim ond merched a phlant i’w gwel’d. Nid yw rhein yn gwisgo gorchudd dros dri chwarter eu gwynebe fel merched Mahomet, ac y maent o bryd a gwedd dymunol iawn. Haere Huws taw hwy oedd y merched tlysa’n y byd. Yr o’wn yn synu at egni’r llanc, oblegid ’doedd yno neb yn haeru i’r gwrthwyneb. Ond mae’n amheus genyf a fydde rhywun y’ Mangor yn blasu’r athrawieth yna. Yr oedd y mynediad i mewn yn rhad, ond yr oedd y mynediad allan trwy dalu. Nis gall’swn lai na theimlo echryd yn gwisgo drosof wrth edrych ar y tai drachefn. Yr o’ent mor debyg i hen gewri wedi tynu eu llyged allan. Yr oedd y ddau Lazarus yn ymyl y porth o hyd, a’r pryfed heb fyn’d a nhw. Dilynwyd ni gan y cŵn a’r begeried erill hyd at y porth allanol, a da oedd genym gael gwared o’r gelach ddig’wilydd.

Dro arall, aeth Jones â mi i ben fy helynt i rywle,—rhywle nad oes genyf fawr o gyfri’ i’w roi am dano. Yr wyf yn cofio ini gymeryd trên, ond nid yn yr orsaf y de’s iddi o Alecsandria. Aeth y trên â ni drwy amryw orsafe, a heibio golygfeydd oedd a mwy o’r Dwyren yn perthyn iddynt na dim a weles. Wedi teithio ’beitu pymtheg milldir wrth fesur ffansi, disgynasom, a cherddasom eilwaith ’beitu milldir ar hyd ffordd oedd a’i magwyrydd yn goed blode a ffrwythe, a’i hawyr yn bersawr hyfryd. Nid oedd ond ychydig dai’n y golwg, ac yr oedd y wlad yn fflat fel eich llaw.

“Wel, Jones,” meddwn, “gyda phob dyledus barch i’ch pwyll a’ch amynedd, yr wyf o’r farn ei bod yn llawn bryd i chwi ddatguddio cyfrinach y lle hwn i mi.”

“O’r gore’,” ebe Jones; ac heb ragor o ymdroi, d’wedodd wrthyf enw’r lle ar hyn o bryd. Pe cynygiech ganpunt imi am gofio hwnw, byddech yn eitha’ dïogel; ond pan y chwanegodd taw’r hen Heliopolis ydoedd, a dinas On cyn hyny, teimlwn fel pe bawn ar wastad Tywi’n union. Meddienes y lle ar unweth. A dyma lle cafodd Joseph ei wraig! Lle’r oedd tŷ Potiphera’, ei dady’nghyfreth, ’sgwn i? A fu Asnath yn cerdded y ffordd hon pan yn ferch ifanc, tybed? Dyma ddarn hirfen, uchel, yn codi o ’mlaen yn syth a sydyn, tebyg i nodwydd Cleopatra, yn llawn saetheirie, heb le i chwi roi eich ewin rhyngddynt.

“Dyma’r unig weddillyn sy’n aros o’r hen amser y ffordd yma,” ebe’m cyfell. “Tyhir ei fod yn dair mil o flynydde mewn oedran.”

“Os felly,” meddwn, wrthyf fy hun yn fwy nag wrth Jones, “bu Moses, a Joseph, ac Abr’am yn syllu ar hwn!”

Troisom yn ol i gyfeiriad arall, ac wedi myn’d i mewn i lecyn cysgodol o’r neilldu, cyfeiriwyd fy sylw at hen bren oedd yn ymddangos yn rhy grin i sefyll ar ei draed. Yr oedd yn ganghenog a llydanfrig, a dyge olion toriade â chyllill drosto ’mhob man, hyd y’nod i’w gangen ucha’. Barnwn fod pob llythyren y’mhob gwyddor ar ei foncyff, ac yn fuan chwaneges ine f’eiddo at y llïaws.

“Be ’di hwn, Jones?” meddwn.

“Hen bren y d’wed traddodiad am dano ddarfod i’r Mab Bychan a’i rïeni lechu dan ei gysgod ar eu ffordd i’r Aifft,” ebe Jones, sobred a mwnc.

Yn rhyfedd iawn, meddianwyd fi’n union gan deimlade tebyg i’r rhai a ddaethant drosof yn yr hen eglwys ddiwrnod neu ddau cyn hyny. Y Mab Bychan eto? A fu ynte’r ffordd hon? Ar ol teithio mor bell, ai tybed iddo grïo gan flinder dan y goeden, fel rhyw blentyn arall? Pa gân a gane Mair wrth geisio’i lonyddu dan y sêr? A pha sawl angel oedd y’mhob seren yn edrych arno?

Pan dd’es ataf fy hun o’r tir pell hwn, dyna lle’r oedd Jones ar ben y pren yn pocedu’r brige. Es ine’n hy’ ar y rhisgl wed’yn. Mae’r brige a’r rhisgl y’Nhreorci bellach er’s dros dair blynedd.

PENOD XXII.

*

AR FIN YR ANIALWCH.

I’R rhan fwya’ o bobl y Gorllewin, mae’r Aifft yn gyfystyr â dau beth, a deubeth yn unig—y Nile a’r Pyramidie. Ac nid y’nt y’mhell o’u lle. Yr wyf wedi cysegru penod i’r blaena’; beth pe bawn yn cyflwyno darn o hon i’r ola’?

Ni fydde’r hanes y peth y dyle fod heb ynddo gyfeiriad at y Pyramidie. Pwy sy’ heb glywed sôn am danynt? Pwy sy’ heb wel’d eu llunie? A phwy sy’ heb dybied ei fod yn gwybod y cwbl yn eu cylch? Ond dyna sy’n òd——y blynydde diwedda’ mae henafiaethwyr wedi d’od o hyd i ben llinyn eu hanes. Os oes rhywun yn gwybod mwy am danynt na neb arall sy’n fyw, dyn o’r enw Petrie yw hwnw. Efe gafodd afel ar y fynedfa i’r ’stafelloedd sy’n y Pyramid mwya’, ac efe sy’ wedi bod yn darllen ei eis a’i ddeint er mwyn d’od o hyd i’w oedran. Ac eto dywed Petrie nad yw efe wedi meistroli hyd y’nod y wyddor o honynt! Maent wedi herio gwybodeth a dychymyg dyn am filoedd o flynydde, a synwn i ddim na pharant i’w herio am filoedd o flynydde i dd’od.

Ond mi adwaenwn ambell un ddigwyddodd dreulio dam diwrnod yn eu golwg, ac a ddaeth adre’ i Gymru a’r Pyramidie ar ei fenydd! ’Doedd dim na wydde am danynt. Hwyrach y syne llawer cynulleidfa pe gwydde leied ŵyr y darlithydd trwy sylwadeth bersonol am y pethe y sieryd mor wych a thafod-lithrig am danynt. Nid yw y sylw yna’n ysgubol, ond y mae’n cynwys nifer fwy nag a feddyliech. Mi glywes ragor na siwrne gan ffrindie yn Cairo, taw yn y tŷ lle’r arosent y treulie dau ŵr enwog allaswn enwi, eu hamser c’yd ag y buont yn y ddinas. Nid oedd y ddau yno’r un pryd; ond yr oedd mor anodd codi’r ddau allan o’r tŷ ag oedd i godi’r tŷ dros eu pene. Hwyrach yn fwy anodd. A thaere’r ffrindie dd’wedent y gyfrinach wrthyf, taw ofn oedd yn eu caethiwo felly! Pan yn gwrando arnynt ar lwyfan y ddarlith, hawdd fydde madde i chwi am dybied taw hwy ddarganfyddodd y wlad! Tir cynil yw hwn i gerdded drosto, a rhag ofn ffrwydriade, gwell i mi ymgilio.

Cystal i chwi dd’we’yd eich bod wedi bod yn Llunden heb wel’d St. Paul’s, neu yn Llanberis heb wel’d y Wyddfa, a d’we’yd eich bod wedi bod yn yr Aifft heb wel’d y Pyramidie. Felly, mi benderfynes y b’aswn yn treulio peth amser ar fin yr anialwch, lle maent yn sefyll, a’r Sphinx yn warcheidwad drostynt.

Pwy ddaw hefo mi? Nid am nad all’swn fyn’d fy hun, tae fater am hyny; ond cwmni gwael i ddyn mewn lle dieithr yw ei gysgod. Peth arall, nid o’wn am osod fy hun at drugarredd yr Arabied lladronllyd a heidient y lle yn enw arweinwyr, rhag ofn yr ystripid fi o gyment ag a feddwn, y dygid fi i’r anialwch ar gefn dromedari, ac y gwerthid fi’n gaethwas yn un o farchnadoedd y Sahara! Bum yn darllen llyfre Mayne Reid ’stalwm, pan oedd corff a meddwl dipyn yn a’mrwd; ac un o’r pethe rhyfedda’ i mi oedd, fod y darlleniade hyny y’mynu d’od i’r wyneb ar ol dros ddeng mlynedd ar hugen o fedd.

Bid fyno, heb ragor o ymdroi, gwnaeth Jones ei feddwl i fyny i dd’od gyda mi; ac ar ol derbyn caniatad ei feistr, ni chym’rodd hyny ragor o amser nag a f’asech yn gym’ryd i rifo bysedd eich dwylo. ’Doedd dim posib’ gwneud heb Ali chwaith. Yr oedd yn rhaid ini wrtho’n bena’ fel amddiffyniad rhag beiddgarwch poenus y brodorion: ac er fod Jones yn gwybod mwy o Arabeg na mi, nid oedd yn gwybod cyment ag Ali. O ganlyniad, yr oedd yn rhaid ini wrtho fel dehonglydd hefyd.

DARN O’R BAZAAR.

Mae’r cerbyde trydanol y’myn’d a chwi bron at draed y Pyramidie. Onid oes yma gymysgfa ryfedd? Bron nad aech ar eich llw fod y cymysg-bla gynt heb fyn’d o’r wlad byth! Taith ardderchog y w hon! Allan o’r dre’, drwy’r maesdrefi cywreinia’, lle mae mẁd-gaban y llafurwr a phalasdy’r pendefig yn edrych i wynebe’u gilydd—i ganol y wlad, lle mae gwastadedde llwydwyn a gerddi sychedig yn disgwyl am gynhyrfiad y dw’r. Rhed y cerbyde bob cam fin-fin â’r brif-ffordd, ac yma drachefn y cewch y golygfeydd dieithraf. Sgoroedd o gamelod yn dilyn eu gilydd yn un llinyn—rhai yn llwythog o feichie, ac erill heb ond y gyrwr yn eistedd ar yr hwmp. Crëadur cyfrwys yw’r camel. Os gosodir swm mawr o gelfi ar ei gefn, ai tybied yr ydych y caria efe fôd dynol gyda hyny? Na thwyller chwi. Mae camelod at gario celfi i’w cael, a chamelod at gario dynion; ond arall yw gogoniant y naill, ac arall yw gogoniant y llall. Mae camel y celfi yn gwybod ei fusnes i drwch y blewyn; ac os meiddia’r gyrwr ymguddio y’mysg y dodrefn fry, buan y ca ei hun y’nghanol y llwch obry. Mi weles olygfa felly wrth basio’r bore’ hwnw. Tybies i fod y dyn wedi ei anafu’n dost, os nad wedi ei ladd; ond ce’s brawf i’r gwrthwyneb heb aros yn hir. Rhwng ei flagardieth ef a difyrwch trystiog y finte, ’roedd yno Eisteddfod!

Y’nes y’mlaen, mi glywes ddyn a dynes yn ffraeo mewn gardd, ac yr oedd y ddau’n bur gyfartal yn y gystadleueth. Ni ddeallwn eu geirie, ond deallwn eu symudiade, y rhai o’ent debyg i symudiade pobl y ffordd hon pan wedi ymgolli’n eu pwnc. Cymere fy nghyd-deithwyr ddyddordeb mawr yn yr helynt, a chalonogent y ddynes â bloeddiade a churo dwylo. Ai tybed i ffrae gynta’r byd gymeryd lle mewn gardd? Ai rhwng dyn a dynes y hu hono? Os gwn i a fynodd Adda ac Efa hi allan ar ol gadel Eden? P’run o’r ddau ga’dd y gair ola’ tybed? Mi wn i ’sgrechfeydd y ddynes hon ein dilyn am bellder wedi iddi hi a’i Hadda fyn’d o’r golwg. Onid oes rhyw feddylie diddeddf yn tramwy drwy’r galon weithie?

Yr o’em y’nghysgod y Pyramidie o hyd. Tyfent arnom fel y nesem atynt, ac ymddangosent i mi fel pe blotient y ffurfafen i’r cyfeiriad hwnw allan o’r golwg. Ar ol cydredeg am yn agos filldir â’r darn prydfertha o’r ffordd, a choed talion y palmwydd yn tyfu bob ochr iddi o fewn pellder mesuredig i’w gilydd, cyraeddasom yr orsaf. Yr oedd y gwres yn fawr, ond nid yn llethol. Rhuthrwyd i gael tamed o fwyd cyn troedio’r tywod, ond yr oedd yno erill can newynog a nine. Ni weles gynifer o glêr yr un pryd erioed yn fy mywyd. A’r fath glêr! Prin y gwelech y plât, heb sôn am y bwyd arno. Dilynent y tamed i’r gene, ac yr oedd ambell un yno o’i flaen. Nid wyf am wadu na lynces o honynt y pymtheng munud hwnw ddigon i ffurfio gwladfa gysurus. Yr oedd eu sŵn yn boddi’r siarad, a phrysurasom ymaith ar ol talu am y clêr.

Yr o’em yn y tywod er’s meityn; ac yr oedd mor sych, a meddal, a thrwchus, nes gwneud cerdded drosto’n gryn dasg. O’r diwedd, dyma ni yn sefyll o flaen y mwya’ o’r PyramidieCheops wrth ei enw. Paham y gelwir ef felly, nis gwn, os nad dyna enw’r dyn a’i cododd. Mae ’beitu haner dwsin o honynt yn sefyll heb fod y’mhell oddiwrth eu gilydd. Gorchuddiant arwynebedd mawr o dir cydrhyngddynt; ac o’r gwaelod i fyny meinhânt yn raddol, nes fod y pwynt ucha’n ymddangos fel llygad aderyn. Gwneir hwy i fyny o gerig hirion a phreiffion, wedi eu trefnu’n risie, y rhai oedd yn gofyn tipyn o hŷd mewn coes i’w cwmpasu. Yr oedd ochre’r hen ffrind Cheops yn frith o deithwyr ar eu ffordd i fyny ac ar eu ffordd i lawr, ac Arabied cyflogedig yn eu helpu. Efe oedd yr unig un a ddringid i’w ben hyd y diwrnod yr o’wn i yno. Bid siwr, yr oedd Jones wedi bod yma droion, ac edryche o’i gwmpas yn ddifater tra’r o’wn i’n agor fy safn o flaen Cheops. Ond yn sydyn, cyfeiriodd fy sylw at un o’r lleill, a gwelwn ddynion ar ben hwnw. Ac erbyn holi, hwy oedd y cynta i’w goncro, o fewn terfyne gwybodeth pawb oedd yn bresenol. Nid diffyg cymhelliad barodd i mi aros i lawr, ond bwrw’r draul a wnes, a oedd genyf ddigon o nerth i’w hebgor i ymgymeryd â’r anturieth. Mi ddes i’r casgliad yn fuan nad oedd, ac ni allodd holl ddonie plant Ismael fy symud.

Heb fod y’mhell o’r gym’dogeth, yr oedd gweddillion teml wedi cael ei dwyn i’r golwg. Es i lawr, a bum yn crwydro am amser drwy’r ystafelloedd a ddygent olion dyddie’r Pharöed—heibio’r colofne trwchus a’r meini mawrion, gan ryfeddu’r nerth a’r medr oedd wedi bod wrth y gwaifch. Argyhoeddid chwi bob cam a ro’ech fod a fyne caethion rywbryd â’r lle. Yr oedd y slabie anferth yn ffitio i’w gilydd fel morteisie, ac yr oedd un o honynt fel talcen tỳ cymedrol. Pe d’wedse rhywun wrthyf gydag awdurdod taw gwaith yr Hebrëwyr oedd y cwbl, ni f’aswn yn synu dim.

Pwy na chlywodd sôn am y Sphinx? Pen, gwyneb, ac ysgwydde dyn wedi eu tori allan o’r graig, a marcie tywydd canrifoedd arnynt. D’wedir ei fod yn hynach na’r Pyramid hyna’. Pwy sy’n gwybod? Wyneba i’r anialwch, a gwylia byrth toriad gwawr. Mae’n ara’ falurio drwy’r oese, ond erys digon o hono ar ol i oroesi oese lawer eto. Mor ddystaw y mae! ac mor oer a stoicedd! Nid yw pelydre haul y cyhydedd, na gerwin gorwyntoedd yr anialwch wedi gwneud iddo syflyd ei emrynt gyment ag unweth drwy’r hirfeth genedlaethe, ond pery i ddisgwyl, disgwyl mor ddyfal heddyw ag erioed. Am ba beth, ’sgwn i? Mae hen draddodiad am y Sphinx ei fod yn gofyn cwestiwn i bawb ele heibio, ac yn lladd pawb a fethent ei ateb. Ond i ryw ddyn dd’od heibio ar ei dro, a’i ateb ar ei gyfer; ac i’r Sphinx dori ei galon mewn canlyniad, a throi’n gareg yn y fan. Y cwestiwn oedd hwn: Beth oedd y crëadur a gerdde yn y bore’ ar bedwar, yn y prydnawn ar ddau, ac yn yr hwyr ar dri? Ai atebiad oedd Dyn—ei fod pan yn blentyn y’more’i oes yn ymgripian ar ei draed a’i ddwylo, pan yn ddyn y’nawnddydd bywyd yn cerdded yn unionsyth ar ei ddeudroed, a phan yn henafgwr y’mỳnu ei ffon i’w helpu. Ond ’rwy’n meddwl taw am Sphinx arall tua gwlad Groeg y d’wedir y ’stori yna, er fod hwn yn edrych yn ddigon creulon i ddilyn hobi o’r fath.

Fe ga’dd y Sphinx fwy o effeth arnaf na’r Pyramidie, ac nid heb iase’n ymsaethu drosof yr edrychwn arno dros f’ysgwydd wrth ffarwelio â’r lle. Dyma lle mae anialwch tywodlyd y Swdan yn dechre’ o du’r gogledd, ac nid oedd genyf nemor ffansi i’r morgrug duon a’r ysgorpione a redent drosto.

PENOD XXIII.

*

YCHYDIG O FRIWFWYD GWEDDILL.

CHWI gofiwch imi sôn am yr Amgueddfa yn Alecsandria, lle y cedwid y cyrff a gladdesid yn y Bedde Tanddaearol. Yr wyf y’meddwl imi siarad am dani dipyn yn ddirmygus—mai prin oedd ei hatdyniade—taw hyfdra’i swyddogion duon oedd ei nodwedd amlyca’—ac nad oedd yn werth ei chymharu â’i chwaer yn Cairo. Nid wyf am dynu’n ol ddim a dd’wedes. Mae’r un sy’ genym y’Nghaerdydd yn ei churo i ffitie. Ond am un Cairo, mae’n sicr nad oes ei rhagorach yn yr holl fyd. Mae ei safle ddaearyddol rhwng y ddinas a’r Pyramidie, mewn pentre’ o’r enw Ghizeh.

Es yno un diwrnod gyda Huws, ac nid wyf yn meddwl imi flino nemor mwy erioed ag a wnes y diwrnod hwnw. Cyn diwedd y dydd, mi allwn feddwl fod fy nhraed yn llwythog o falaethe, a gwynegon, a chyrn, gan drymed a phoenused o’ent—fy nghefn fel pe b’ai rhywun wedi rhoi cwlwm ar linyn fy spein—a’m pen yr un fath yn union a phe b’ai’n efel go’ mewn pwll glo, a chanoedd o forthwylion mewn llawn waith ar ganoedd o eingione. Pan gofiaf am hyny heddyw, mae fy nychymyg yn bywiogi’n y fan, a bron nad af ar fy llw fod pine bach yn chware’ drwy ’nghorff i gyd o’r coryn i’r gwadn. Yr oedd fy ffrind wedi bod yno fagad o weithie o’r blaen, a bydde fynyched ma’s a mewn—fynychach yn wir, oblegid gwaherddid ysmygu oddifewn. Mi dybiwn i y bydde caniatau hyny’n welliant mawr. Ga’nad pa mor wrthwynebus i rai pobl yw sawyr y ddeilen ysmygir, mae’n rhaid fod cywreiniad eu ffroene yn òd o eithriadol i beri iddynt ddewis sawyr y lle o’i flaen. Yr oedd hwnw’n drwm anarferol mewn ambell i ’stafell. Yr oedd drymed nes y byddwn dan yr angenrheidrwydd weithie o redeg at y drws i gael newid awyr; a’r prydie hyny, gwelwn Huws ar ei hyd ar un o’r sedde’r tu allan, y’mygu fel Swltan. Parod o’wn i eiddigeddu wrtho; ond gan mai “unweth am byth” oedd f’ymweliad i â’r wlad, yr o’wn yn benderfynol o’i “gwneud” mor llwyr ag y base f’amser a f’amgylchiade’n caniatau. Ac yn ol yr awn bob tro.

Saif yr adeilad ar arwynebedd anferth o dir, ac y mae’r ystafelloedd sydd ynddo’n ddirifedi ’mron. Cerdda Arabied talion i fyny ac i lawr y gwahanol adrane gyda mursendod chwerthinus; mae’n amlwg eu bod yn mawrhau eu swydd y tu hwnt i bobpeth. Croesant eich llwybr i bob cyfeiriad; deuant arnoch gyda sydynrwydd poenus allan o dylle a chornele anhysbys i chwi; a phan y byddwch wedi ymgolli uwchhen gweddillion rhydlyd rhyw hen Pharo’ neu gilydd, ond odid na fydd dau neu dri o’r swyddwyr duon hyn wrth eich penelin, yn barod i chwi pytae’n eich bwriad i fyn’d a Pharo’ i ffwrdd. Mae diwrnod yn rhy fyr i fyn’d drwy’r lle “ar ’sgawt;” mae wythnos yn rhy fyr i fyn’d drwyddo’n feddylgar. Ceir yma sgoroedd o mummies perffeth, wedi eu casglu o bob cwr o’r Aifft. Mae Rameses yr ail a’r trydydd—Pharoed amser Joseph a Moses—yma’n eu corffoleth, mor debyg a dim i’r darlunie gewch o honynt. Pobl a phen heb galon iddynt, deall heb deimlad, gwareiddiad heb foesoldeb. Nis gallaf byth edrych ar Aifftwr o’r cynoesoedd, ar bapyr nac mewn amdo, heb deimlo iâs yn cymeryd meddiant o f’asgwrn cefn. Ymddengys i mi bob amser yn deip o greulondeb mewn gwaed oer, ac y mae’r llygad llonydd yn eich dilyn i bob man nes eich gwneud yn gaethwas i ofn nas medrwch rhoi cyfri’ am dano. Mae yma hen gôfadeilie o dywysogion fuont unweth mewn bri—rhai’n weddol o gyfen, erill heb eu trwyne, a nifer dda heb eu pene. Hen golofne sydd mor llawn o saetheirie fel taw prin y gwelwch ddim arall. Hen ddarne aur o wahanol gyfnode, a hen ddarne arian o wahanol rane o’r wlad. Breichlede, cadwyne, clustdlyse, a darne o waith ede a nodwydd, y rhai oedd wedi bod mewn cistfeini am filoedd o flynydde. Hen femrwne a’u hinc mor glir a’r diwrnod y cawsant eu hysgrifenu; a dillad oddiar gyrff wedi eu perarogli, heb fod fymryn gwaeth i’r golwg. ’Roedd yma lon’d byd o ryfeddode y’mhob ystafell. Ond O, mor iach oedd d’od allan i’r awyr agored, i ymloewi’n yr haul, ac i yfed awelon adfywiol y gerddi!

Wn i yn y byd os ydych yn cofio imi dd’we’yd i Jones a mine fyn’d gyda’r trên i Heliopolis ar brydnawn, lle gwelsom y nodwydd a’r pren. Mi dd’wedes lawer o bethe am y lle hwnw, ond ’rwy’n meddwl imi ollwng dros gof i dd’we’yd taw ’run yw’r wlad hono a Gosen gynt. O leia’, dyna’r dybieth; ac y mae cryfach sail iddi nag aml i dybieth debycach i’r gwirionedd. Hwyrach y bydd gwybod cyment a hyna yn ’chwanegu at ddyddordeb yr hanes i rywrai; oblegid mae amryw o bryd i’w gilydd wedi bod yn fy holi i am wlad Gosen, fel pe baent ar fedr ymfudo iddi. Ga’nad beth am hyny, nid dyna wy’n hala ato wrth ymdroi fel yma—ond hyn. Wedi ini gymeryd ein lle yn y cerbyd, a phan oedd y peiriant yn rhoi’r arwydd cychwynol, dyma’r drws yn cael ei agor eilweth, a phererin arall yn cael ei wthio i fewn gan ddwylo duon a lleferydd duach dau neu dri o weision yr orsaf, nes ei fod ar ei ben yn erbyn y drws cyferbyniol. A phe digwyddase hwnw fod yn rhydd o’i glicied—fel y gweles hi lawer gwaith—’does dim dwyweth nad allan y b’ase’r truan yr ochr arall. Ond wedi i’r trên gychwyn, ac iddo ynte gael amser i hel ei hun at ei gilydd, a gosod ei hun ar y sêt yn daclus, cawsom nine amser a chyfleusdra i gymeryd ’stoc o hono. Dyn canol oed oedd, mi dybiwn, a golwg wyllt arno—yn wir, ei lyged a hawlie’ch sylw gynta’, yr o’ent ddysgleiried ac aflonydded. Yr oedd twrban gwyn ar ei goryn, ac esgidie melyn am ei draed; dillad gwael am dano, a’r rhai hyny’n cael eu gwneud i fyny o hen lodre canfas wnaed gan ryw deiliwr dorodd ar ei brentisieth cyn dysgu ei grefft, a hen gôt oedd yn profi ffydd Jones a mine i gredu taw côt ydoedd. Ond prin oedd y pilin oedd am dano, a phrinach oedd yr ymborth oedd ynddo. O, yr oedd yn deneu! Siarade âg e’i hun am beth amser—am ei fod yn credu na all’se siarad â neb oedd gallach, meddwn i; am ei fod heb orphen setlo cyflwr y bechgyn a’i gwthiasant i’r cerbyd mor ddiseremoni, medde Jones. Bid fyno, bu’n ddall a byddar i ni am ysped, ac yr oedd sylwade fy ffrind ar ei bersonolieth yn ddoniol. Ond wedi ini basio’r ail orsaf, dyma’r hen frawd at Jones—yr hwn oedd yn eistedd ar yr un fainc ag ef—ac yn clebran wrtho ei ore’ â’i dafod ac â’i ddwylo, gan bwyntio ataf fi.

“Be’ mae’r hen gna’n ’i ddeud, Jones?” meddwn.

“Mor bell ag yr w i’n gallu ddeall o,” ebe ynte, “a ’dydi o ddim yn waith hawdd, mae o am gael gwybod os ydach chi’n ddyn sanctedd.”

“Yn ddyn sanctedd! Be’ gebyst mae o’n feddwl? A phwy hawl sydd ganddo i ame’n sancteiddrwydd i mwy na’ch sancteiddrwydd ch’i? ’Rwy’n siwr nad w i ddim yn edrych yn fwy digymeriad na chithe, Jones.”

“Peidiwch gwylltio,” ebe fe; “nid y’ch caritor ch’i, ond y’ch swydd ch’i, mae o’n feddwl.”

“O! Ond pa’m mae o wedi fficsio arna’ i, mi leiciwn wybod?” A tbybiwn fy mod wedi pinio Jones yn erbyn y wal â’r cwestiwn yna.

“Oblegid eich colar!”

Aethum yn fud, ac nid agores fy ngene. Fy ngholar! Hawyr, pa ddrwg a wnaeth fy ngholar! Un gron oedd, o rywogeth yr Eglwys Sefydledig o goleri, ac nid oedd digon o honi’n y golwg i dynu sylw neb. Heblaw fy mod yn siwr ei bod yn ddyledus i’r twba golchi er’s dyddie. Gwelwn y dyn yn edrych arnaf a math o “barchedig ofn” yn ei ymddangosiad, a chyn imi gael amser i estyn allan fy llaw, yr oedd ar ei linie o ’mlaen, ac yn parablu fel dyn yn d’we’yd ei bader. Mi godes ar fy nhraed yn union, ac mi ddangoses y sêt iddo; cododd ynte, ac eisteddodd i lawr. Yna mi drois at Jones:

“Rho’wch dipyn o ole’ ar y mater,” meddwn, gan geisio bod yn bigog.

“Mae o’n deud ’i fod o’n Gristion,” ebe fe, “yn Goptiad, wyddoch, a mae o’n meddwl wrth shâp y’ch colar y’ch bod chithe’n Gristion. Mae o wedi bod yn deud wmbredd o bethe wrtho i am danochi, yn ol dull y Dwyreinwyr yma—megis y’ch bod chi’n ddyn glân, ac yn ddyn duwiol, a’i fod o’n y’ch caru ch’i, ac na fydde dim yn well geno fo na bod yn was i ch’i byth. Dyna oedd o’n dreio ddeud wrthochi pan ar ’i linie, ond fod ’i deimlade wedi myn’d yn drech nag e’.”

Mae clywed dyn arall yn eich galw’n ddyn glân, a chwithe heb gael datguddiad cyffelyb er yn blentyn—ac yn ddyn duwiol, a chwithe’n gwybod y bydde’n chwith gan neb sy’n eich ’nabod i gyfadde hyny, yn eich toddi’n union; a mi edryches ar y crëadur craff dipyn yn fwy serchus. Darllenodd fy llygad ar unweth, a gwnaeth osgo i fwrw ei hun i lawr wed’yn. Ond mi weles ei bod yn bryd i ddwyn y benod i derfyniad.

“Os taw Coptiad yw,” meddwn wrth Jones, “ceisiwch ganddo ddangos llun y groes ar ei arddwrn.”

“Wel, ïe’n tê,” ebe fy nghydymeth, gan daro’i goes â’i law; “sut na b’aswn i wedi cofio hyny?”

Trodd ato; ond mor fuan ag y gofynodd y cwestiwn iddo, gwelwn wyneb y dyn y’newid, ei lygad yn tanio, a’r olwg fwya’ cythreulig y’myn’d arno. Hisianodd ychydig eirie rhwng ei ddanedd, a symudodd i gongl bella’r cerbyd, fel dyn wedi cael ei dd’rysu’n ei amcanion.

“Hwyrach y bydde’n well ini newid ein cerbyd yn yr orsaf nesa,” ebe Jones.

“Pa’m? Be’ sy’n bod?” gofynwn.

“Mae ei gariad wedi troi’n gâs,” ebe ynte. “Hen gna’ twyllodrus ydyw, ac nid yw’n fwy o Goptiad na fine. Mae wedi deall rywsut mai ch’i dd’wedodd am ei arddwrn; a phan geisies i ganddo ei ddangos, d’wedodd y b’ase’n eich lladd yn y fan pe b’ase’i gyllell ganddo. Wedi cyfri’ ar ein cydymdeimlad yr oedd, yn ddiame, ac ar ein harian wed’yn.”

Pan ddaeth y trên i’r orsaf nesa’, ni fu raid i ni symud. Aeth y twyllwr allan ei hun, ac ni welsom ef mwyach. Ac wedi i’r trên gychwyn drachefn, chwarddasom mor iach a chalonog nes fod pob twrban yn y lle yn hongian allan o’r ffenestri.

Mae’n ddrwg gen i dd’we’yd na fum mewn gwasaneth crefyddol yn Cairo o gwbl, os na chyfrifir imi’n gyfiawnder y bore y bum yn yr Eglwys Fahometanedd gyda Jones ac Ali. Mae llawer o bethe y’nglŷn â’r gwasaneth hwnw yn fy ffafr. Ond mi gefes beder odfa yn Alecsandria. D’wedaf air am danynt cyn dirwyn y benod i fyny.

Mae dwy o eglwysi Protestanedd gan y Saeson yn Alecsandria—yr Eglwys Sefydledig, a’r Eglwys Albanedd. Ni weles y flaena’, ond bum yn yr ola’ ddwyweth. Saif ychydig o’r tu allan i’r ’sgwâr y sonies am dano, ac o fewn haner ergyd careg i’r môr. Gwelir ei binacl o bellder, a gelwir yr eglwys ar enw Andreas. Mae’n gapel cysurus wedi myn’d iddo. Llofft heb lawr ydyw. Ceir llawer capel y’Nghymru yn llawr heb lofft; ond mae hwn yn wahanol. Nis gwn be’ sy’ odditano, ond gwn fod yn rhaid dringo dros wmbredd o risie ar ffurf corcscriw cyn y deuir o hyd i’r fan lle mae Andreas yn byw; a phe digwyddech sibrwd yn Gymraeg ar ganol dringo—“andras o le ydi hwn!”—ni bydde’n ymddangos gyment allan o le a llawer man allasech enwi. Eistedda dros bum’ cant, mi allwn dybied, yn y capel; ac yr oedd cynulleidfa barchus o dros ddeucant ynddo ar fore’ Sul. Yr oedd y canu’n galonog, a’r defosiwn y’naturiol. Tynwyd fy sylw at ddarn o frethyn du oedd yn hongian ar draws yr adeilad, ychydig uwchben y bobl, a dyfalwn beth alle fod. Mi ddealles wed’yn taw ei bwrpas oedd i greu awel pan fydde’r gwres yn fawr yn yr ha’. Yr oedd ei ysgwyd yn ol a blaen yn lliniaru rywfaint ar y poethder. Nid wyf yn cofio beth yw enw’r pregethwr a glywes y bore’ cynta’ bum yno, ond pregethodd yn rhagorol oddiar Ioan xx. 15. Mwynhês y gwasaneth yn fawr drwyddo. Un odfa’n unig a gynelir yma ar y Sabbath, ond ceir odfa arall yn yr hwyr yn y Sefydliad sy’n perthyn i’r morwyr yn ymyl y porthladd. I derfynu’r dydd yn uniongred, es yno, a daeth y cadben hefo mi. Yr oedd yma gynulleidfa o haner cant, oll yn forwyr ond nifer o gynorthwywyr o’r ddinas. Dyn gweddol fyr, tywyll, tene, a bregethe, a’i dafodieth mor ddwfn a dim a gynrychiolid ar ddydd y Pentecost. Yr oedd pump o bob chwech o’i eirie’n myn’d i golli oddiarnaf, ac yr oedd ei fater a’i ymdriniad mor bell oddiwrth ddeall a chydwybod ei wrandawyr ag yw’r dwyren oddiwrth y gorllewin. Gofynodd y cadben i mi wrth ddychwelyd i’r llong y noson hono be’ feddyliwn o’r bregeth.

“Cyfleusdra ardderchog wedi ei ollwng i golli,” meddwn; ac â hyn y cytune ynte. Bum dan weinidogeth y brawd tafodrwm y bore’ Sul dilynol yn eglwys St. Andreas, a thybiwn ei fod yn ffitio’n well yno nag y’mysg y morwyr. Yr ail nos Sul cawd pregethwr cwbl wahanol yn y Sefydliad. Math o ddiwygiwr tanllyd oedd hwn, a siarade wrth ei gynulleidfa fel pe baem oll yn droseddwyr mewn carchar, ac yn euog o dori’r gorch’mynion bob un. Yr oedd un pregethwr yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn ddysgawdwyr; yr oedd y llall yn cymeryd yn ganiataol ein bod oll yn lladron a llofruddion. Y canlyniad oedd, fod y ddwy weinidogeth yn aneffeithiol. Mi fydde ’beitu dwsin o honom yn aros ar ol i ganu tonau Sanci—dyn o’r enw Gammidge, goruchwyliwr y Sefydliad, yn arwen, a dyn o’r enw Owen, o Morpeth, yn chware’r offeryn. Ac yr wyf y’meddwl imi dd’we’yd o’r blaen nad oedd neb yn canu’n fwy “harti” yn y cyrdde hyn na chadben y llong y des drosodd ynddi.

Tradwy ar ol y Sabbath ola’ hwn, pan oedd y dyn yn pregethu oddiar fynydd Ebal, y cododd y llong ei hangor, ac y trodd ei thrwyn i gyfeiriad y gorllewin.

PENOD XXIV.

*

YN OL.

BELLACH, “teg edrych tuag adre’.” Wedi gwel’d llawer o bethe heblaw a ddesgrifir yn y llyfr hwn, a chlywed rhagor nag a ddesgrifir yma, a theimlo mwy nag a ellir ei ddesgrifio ar ddu a gwyn, “daeth yr awr i’m ddïanc adre’:” a rhyngoch chwi a mine, ni ddaeth fymryn yn rhy gynar. Yr oedd yn perthyn i’r fordeth yn ol rai helyntion oedd yn absenol o’r fordeth allan. Llonydd ac unffurf oedd hono o’i chymharu â hon. Mi dreiaf sôn am danynt cyn tewi.

Cychwyn i’r nos a wnaethom wrth fyn’d, a chychwyn i’r nos a wnaethom wrth ddychwelyd. Yr oedd un o’r hen griw wedi cael ei adel ar ol yn Alecsandria, i fyw neu farw mewn ’sbyty. Efe oedd yr hwn y tosturiwn wrtho gynt, pan yn troi’r olwyn. Ond caed un arall yn ei le, fel na fu hyny’n golled i’r llong. Fe ddowd hefyd o hyd i hogyn un-ar-bymtheg oed ar ol cychwyn, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw gilfach o’r llestr heb i neb ei wel’d. Stowaways y gelwir y math yma o deithwyr. Nid ydynt oll o’r un cymeriad; ond hwyrach fod y nifer luosoca’ o honynt yn cymeryd at y dull yma o adel eu gwlad oherwydd eu bod wedi gosod eu hunen yn llaw’r gyfreth drwy ryw amryfusedd neu gilydd. Nid ydynt yn meddwl am y posiblrwydd iddynt osod eu hunen yn llaw’r gyfreth wrth aros mewn llong heb ganiatad wedi iddi gychwyn i’w mordeth. Ond dyna fel y mae. Ceir erill yn anturio hyn oherwyth ffit o anesmwythder, neu ddïogi, neu awydd i wel’d y byd. A cheir ambell i grwt amddifad yn eu plith, yn defnyddio’r cyfle hwn i ddianc rhag gormes a chreulondeb meistr neu berthynas. Ac un felly oedd hwn, os oedd coel ar ei ’stori. Y maent oll yn cyfri’ ar gael eu darganfod yn fuan, ac ar natur dda’r cadben. Fe allse hwn ddisgyn i ddwylo gwaeth, a chymerodd y bos’n ofal o hono.

CHEOPS A’R SPHINX.

Yr oedd y’noson dawel, gynes, a’r gwynt o’r de. Daliodd goleudy Pharos i d’w’nu arnom wedi ini fyn’d y’mhell i’r môr; ac wedi colli hwnw, es i fy ngwely. Dranoeth, yr oedd y gwres yn llethol, ac yn sibrwd ’storm y’nghlustie’r morwyr. Deue’r gwynt poeth dros yr anialwch; ac er fod mynyddoedd uchel rhwng yr anialwch a’r môr, carie’r gwynt y tywod yn ei gôl nes fod pob modfedd o’r llong yn orchuddiedig ganddo. Yr oedd y gronyne mor fân a melfededd nes galw am y chwyddwydr i’w dadgysylltu. Brodorion o’r Sahara o’ent bob un, ac yr o’ent wedi teithio dros gan’ milldir dros dir a dw’r cyn cyredd y llong. Bu adar bach yn ein dilyn y diwrnod cynta’ drwy’r dydd; nis gwn pa adar y gelwid hwy, ond yr o’ent yn dlysion a dôf iawn. Aethant i golli’r ail ddiwrnod. Mae’r morwyr yn hoff o grëduried, gwar a gwyllt, ar y llong; ac os lleddir un o honynt drwy ddamwen neu fwriad, ceir hwy i ddarogan pob math o flinfyd i’r llestr. Disgynodd crëadur tebyg i’r locust hefyd o gerbyd y gwynt; daliwyd ef, a buwyd yn dyfalu tipyn am dano. Mi geisies ei gadw’n fyw dros y fordeth, ond bu farw’r trydydd dydd. Erbyn hyn, yr o’em yn rhy bell oddiwrth dir i dderbyn rhagor o hono.

Ce’s brofiad o ’storm ar y môr wrth ddych welyd,—yn wir, mi ge’s hyny deirgweth. Daeth y gynta’ arnom pan o’em yn tynu at Malta, yn ymyl y fan lle’r aeth yn llongddrylliad ar Paul; a bum yn ofni siwrne y b’ase’n myn’d yn llongddrylliad arnom nine hefyd. Yr oedd rhai pethe’n debyg rhwng ei daith ef a’n taith nine. O Alecsandria y cychwynodd ef—felly nine. Am y ddau ddiwrnod cynta’, cawsant hwy’r gwynt o’r de—felly nine. Yna daeth “gwynt gwrthwynebus” a môr cythryblus i’w llesteirio—felly nine. Ond yn y fan yna, derfydd y tebygolieth, a dïolch am hyny. Ni chawsom ni’r “Euroclydon” fel hwy; enw presenol hwnw yw Simoon. Ni chawsom ni ein bwrw ar ynys; aethom heibio i Melita dranoeth yn ddïogel. Ond fe fu’n gryn helynt arnom nine.

Golygfa gyffrous yw ’storm ar y môr, i’w gwel’d o’r tir—ond mwy cyffrous yw bod ynddi. Cynyddodd y “gwynt gwrthwynebus” ar hyd y dydd, a chwyddodd y môr o dan ei guriade. Penod hir o dreigliade a thafliade a fu hon. Golche tunelli o ddyfroedd yn ddibaid dros ben blaen ac ochre’r llong, nes ein gorfodi i gau pob drws a ffenest’ o’r fath sicra’. Gwelid llestri’r ’stiward yn ymryddhau oddiar eu bache, ac yn dawnsio’n wyllt o gwmpas y lle, nes creu’r twrw creulona’. Dilyne gwrthddryche erill eu hesiampl, gan ollwng eu gafel ar y dec. Erlidient eu gilydd, tarawent yn erbyn eu gilydd, a neidient dros eu gilydd fel pe baent wedi eu cynysgaeddu’n sydyn â rhyw fath o ddealltwrieth, ac y’methu dygymod â’u sefyllfa newydd. Wrth sefyll yn ymyl drws y caban, cyn iddi fyn’d cynddrwg, gwelwn y môr yn d’od ataf fel mynydd byw—y llong yn plymio i lawr ar ei phen i ganol y dyfnder, a’r mynydd yn hollti’n filoedd o frynie drosti; darne erill, fel eirth gwynion, yn dringo dros ei hochre, tra cwyd y llestr ei phen o’r dyfnder drachefn, gan ysgwyd ei hun yn rhydd o’r trochion, fel yr ysgwyd llew ei fwng yn rhydd o wlith y bore’. Ac yn y blaen eilweth a tbrosodd. Neu, hwyrach y newidia ei symudiade, ac, mewn ufudd-dod i’r llywydd, yr ysgoga bwynt neu ddau ar ei chwrs, fel ag i beri iddi ogwyddo ychydig i un ochr, ac wrth hyny ddwyn ei rhagfurie i ymyl y dw’r, a chodi tòn fydde’n pasio i fyny’n gorfforol i’r dec—gan fyn’d dros yr un gwaith yr ochr arall. Neu, hwyrach y tarewid hi ar ei hysgwydd gan foryn bradwrus, nes peri iddi golli ei chydbwysedd am ychydig, heb wybod yn iawn beth i wneud, ai ymsuddo ai ymrolio—ac yn gwneud pob un o’r ddau. Canlyniad hyny fydde dwyn eich traed odditanoch; a mi ge’s brofiad anymunol o beth fel hyn yn y caban, pan oedd y dymestl wedi cyredd ei gwylltineb eitha’. Eisteddwn ar fainc yn un pen i’r ystafell, a dyma haner-ymroliad dirybudd yn fy nhaflu’n ddiseremoni i’r pen arall; a phan o’wn ar fy ffordd i dd’od ’nol, dyma haner-ymsuddiad yn cymeryd lle nes cael o honof fy hun yn cofleidio’r ’stôf oedd ar ganol yr ystafell, a’r fainc yr eisteddaswn arni wedi newid y drefn, ac yn eistedd arnaf fi yn gysurus. Mi f’asa’r cofleidio hwnw’n siwr o fod yn gynesach pe b’ase tân yn y ’stôf; ond ’roedd o’n ddigon sylweddol fel yr oedd—braidd ormod felly, yn ol fy marn ar y pryd. Ofn? Oedd; pa’m y celaf ef? Pe d’wedwn nad oedd, pwy’m crede? Eto, prin y gwydde neb arall hyny; ac yr oedd ambell i anffod ddigri fel hon y’nghanol yr helyntion i gyd yn help imi gadw fy hun rhag cael fy llwyr-berch’nogi ganddo. Wedi ara’ dynu at Malta, a chael y tir i dori rhysedd y gwynt, llonyddodd pethe, a chawsom hamdden i gymeryd ein hanadl. Ond och fi! ni chwenychwn ail-argraffiad o’r peder-awr-ar-hugen diwedda’.

Y’mhen tri neu bedwar diwrnod, daeth un arall ar ein traws; ac er na pharodd c’yd a’r llall, yr oedd ffyrniced hob mymryn. O Gulfor Lyons y daeth hon, a’r gwynt a’r gwlaw oeraf a garwaf yn ei chôl. Deue i’n herbyn gyda rhuthr, a chawsom ddwyawr gyffrous dros ben. Berwe’r môr yn ffrochwyllt; tarawe’r gwynt ar ochr y llestr fel cyflegre, a neidie’r dyfroedd i’r dec fel môr-ladron. Yr oedd yr hen long ar ei gogwydd ar hyd yr amser, ac yr oedd hyd y’nod y ’stiward yn gwneud cryn ’stumie wrth geisio cerdded yn gywir. Ond lliniaru wnaeth mor sydyn ag y dechreuodd, fel ambell gyffroad y’Nghymru; a cha’dd Bismarc a mine rwyddineb i gerdded yn fwy parchus, heb ein bod yn cael ein drwgdybio o fod wedi meddwi.

Daeth y trydydd argraffiad allan wedi ini gyredd y Sianel—Sianel Pryden. Dim ond gwlaw a niwl—gwlaw a niwl oedd y drefn o’r amser y daethom i fewn i’r amser yr aethom allan. Gwaith peryg’ yw mordwyo’r sianel hon ar dywydd fel yma. Mae mwy o ofn y niwl ar y morwyr na’r dymestl waetha’ pan fo’r awyrgylch yn glir. Mae’n anodd gwel’d y goleuade, ar làn nac ar long, nes y byddwch yn eu hymyl. Ychydig all’swn fod ar y dec, ac ychydig welswn oddiyno, pe mentrwn. Pasiem o fewn dim ymron i’r làn heb ei wel’d. Ce’s gip ar Ynys Wyth fel drychioleth ar ein haswy. Dim ond un noson ar ei hyd dreuliasom yn y Sianel, a noson ofnadwy oedd. Yr oedd yr elfene fel pe baent wedi eu gollwng yn rhydd gyda’u gilydd i’n llyncu’n fyw ar ddiwedd y daith. Disgyne’r gwlaw creulona’ drwy’r nos, gan waethygu at yr ail wyliadwrieth. Ysgreche’r gwynt mewn natur ddrwg, ac ysgytie’r llong megis yr ysgytia ci neu gath lygoden. Ymgynddeirioge’r môr o dan ffrewylle ysgorpionedd y gwynt, a neidie dros y decie ucha’ wrth geisio dïanc, dan falu ewyn fel y lloerig gynt. Ac i wneud pethe’n waeth, tewychu wnai’r niwl. Daeth niwl a gwlaw yn lle gwlaw a niwl. Bu agos ini gam-gymeryd Beachy Head am Dungeness, ac ni fu ond trwch blewyn rhyngom a tharo ar draethelle Goodwin. Mae f’asgwrn cefn y’myn’d fel colofn o rew’r funud yma-pan gofiaf hyny. Ond dïolch i Dduw, cyraeddasom Fôr y Gogledd yn ddïangol: a phan ofynes i’r cadben dranoeth y ddrycin, beth oedd ei farn am y noson:

A very dirty night,” ebe fe; a dyna’i gyd. Ond pan dd’wedaf wrthych iddo ef fod ddeuddeg awr ar y bont heb newid ei ddillad na symud o’r fan, cewch syniad gwell am y noson hono nag a gewch oddiwrth ei eirie ef ei hun.

Mi ge’s rywfent o wybodaeth hefyd o’r peryglon a’r ofnadwyeth sy’n gysylltiedig â gwrthdrawiad ar y môr. Tua deg o’r gloch y nos ydoedd, ac yr o’em yn tynu at Algiers. Yr oedd y’noson dawel, braf, heb gwmwl uwchben, heb dòneg odditanodd, na digon o chwa’n pasio heibio i symud blewyn o’ch gwallt. ’Ro’wn i yn ystafell y siart hefo’r cadben, a’r prif swyddog ar ei wyliadwrieth ar y bont. Mi ddigwyddes droi fy mhen ar ganol siarad, a gwelwn y drws yn cael ei gil-agor yn araf, a bys yn amneidio ar y cadben. Gwelodd y cadben ef hefyd, ac allan ag e’n union. Wrth iddo agor y drws yn lletach, dyna lle’r oedd gwyneb y prif swyddog fel gwaith sialc ar bared ddu. Ffroenes beryg’ yn union. Es ine allan, a beth a weles ond llong anferth yn d’od tuag atom ar ein llwybr, heb ond ryw haner chwarter milldir rhyngom â hi. Hi ddeue i lawr arnom heb newid dim ar ei chwrs, fel pe na bai neb wrth y llyw, nac ar y wyliadwrieth. Arosasom, a swniwyd yr arwydd o beryg’. Wedi i’n peiriane ni sefyll, clywn beiriane’r llong arall yn curo’n uchel, ac yn uwch, a’r sŵn yn disgyn ar fy nghlustie fel sŵn ffust y ’sgubor gynt, wrth ddisgyn ar y llawr-dyrnu. Nid o’wn wedi clywed rheiny er pan o’wn yn grwt gartre’; ond daethant i’m cof ar ganol Môr y Canoldir, dros gyfandir o bymtheg mlynedd ar hugen. Wrth glywed y corn yn crïo allan, daeth y dynion i’r dec yn dyrfa—y rhai oedd wedi myn’d i’w gw’lâu’n d’od yn eu cryse, a’u gwynebe’n wynach na’r pilin oedd am danynt: oblegid dychryn mawr y morwr, pan ar y môr, yw gwrthd’rawiad. Ar ol iddi dd’od mor agos atom ag y medre ’mron, heb daro’n ein herbyn, mae’r fileines, yn lle cymeryd ei llwybr prïodol, yn croesi pen blaen ein llong ni, yn cymeryd yr ochr chwith yn lle’r ochr dde, ac yn diflanu i’r nos. Pe baem ni wedi cyd-symud, a chadw ein hochr ein hun, i’r gwaelod yr aem yn anocheladwy. Wrth basio, taflodd rhywun lenllïan mawr dros ei hymyl i guddio’i henw. Gwaeddodd y cadben allan yn ddigon uchel iddynt glywed:

You deserve to be shot!” Nid oedd y’mhell o’i le. Y tebygrwydd yw fod yno ddawnsfa’n cymeryd lle, ac iddi brofi’n ormod o demtasiwn i’r swyddog oedd ar y wyliadwrieth. Dyna fel y mae llawer llong y’myn’d i’r gwaelod, heb neb ar ol i fynegi’r hanes. Es i’r gwely’n fuan wed’yn dan ddiolch am y waredigeth; ond am y peryg’ y breuddwydiwn.

Chwi gofiwch imi fyn’d heibio Craig Gibraltar yn y nos pan es allan, ac mai’r help a gefes i ymgynal dan y siomedigeth oedd cofio y b’aswn, os arbedid fi, yn d’od y ffordd hono eilweth wrth ddychwelyd. Yr oedd pellder o ddeugen milldir rhyngom â hi pan welsom hi gynta’. Fel y deuem y’nes ati, enille arnom fel y Pyramidie. Pyramid y môr oedd hon, ac o waith natur. O’r diwedd, yr ydym yn ei gwynebu, ac y’morio o fewn haner milldir iddi. Craig anferth ydyw, yn codi’n syth o’r mor i ganoedd o droedfeddi o uchder, ac yn dinystrio pob gobeth i neb fedru ei dringo byth o’r gogledd nac o’r dwyren. Ar yr ochr orllewinol, llithra i lawr yn raddol i’r bau, lle mae tre’ Gibraltar yn gwynebu tref Algeciras yr oehr arall. Gysylltir y graig â thir Sbaen gan lain main ac isel o dir a elwir “Gwlad Neb”—tir canolog, yn wleidyddol a daearyddol. Ni pherthyn i Sbaen na Pryden; a d’wedir nad yw’r bobl sy’n byw yma’n talu rhent na threth. Hapus dyrfa! Dan y graig angore llong ryfel, ac yn y bau rhifes ddeuno. Gweles fâd torpedo yn hwylio tuag at y gynta’. Darn hir, cul, bâs, main, a thywyll oedd, yn symud yn ddistaw a chyflym, a’i osgo’n d’we’yd taw crëadur peryg’ i ymhel âg ef ydoedd. Gwelir cyflegre ’mhob man ar goryn a gwyneb y graig, ac y mae’r nifer luosoca’ o’r golwg. Mae Ceuta’r ochr arall i’r Culfor. Perthyna hono i Sbaen, fel ad-daliad am golli Gibraltar, ac y mae’n dre’ dlos dros ben. Nid oes ond tua saith milldir rhyngddynt. Tery’r Graig y meddwl dynol â syniad diapêl am allu Pryden Fawr. Teimlwn yn falch wrth basio fy mod yn Brydeiniwr, yn enwedig pan gofiwn fod holl alluoedd y lle at fy ngwasaneth i i’m hamddiffyn, pe bydde taro. Bu adeg pan oedd Sbaen yn brif allu’r Cyfandir, os nad y byd; ond heddyw, delir ei thrwyn ar y maen llifo gan y Sais. Oni bai hyny, gwae fydde i Ewrop. “England, with all thy faults, I love thee still.” Yr wyf yn ddigon o Gymro i gydnabod rhagoriaethe fy nghymydog heb genfigenu wrthynt. Nid oes gyffelyb iddi y’mysg holl wledydd y byd. Y feddyginieth ore’ i wrthweithio rhagfarn gwrth-Brydeinig yw myn’d allan i wel’d ei gallu yn y Trefedigaethe. Fynycha’, y bobl sy’n rhegi eu gwlad yw’r bobl sy’n byw ar hyd eu hoes o fewn golwg i ffumer y tŷ lle ganed hwy. “Duw Gadwo’r Brenin.”

Mi gefnes ar yr Aifft gan deimlo ’mod i’n cefnu ar olion gwareiddiad a ragore mewn rhyw bethe ar wareiddiad yr ugeinfed ganrif. Ond beth yw gwareiddiad heb Gristionogeth? Bedd wedi ei wyngalchu, a’i du fewn yn llawn malldod a melldith—addurniade gwychion ar gorff marw—crochan wedi ei baentio, ac angeu’n byw ynddo. Ni fedr gwareiddiad heb Grist’nogeth waredu na phobl, na chenedl, na gwlad. B’le mae Rhufen a’i gallu heddyw? B’le mae Carthage, ei gwrthymgeisydd mewn awdurdod? B’le mae Assyria a Babilon? B’le mae Groeg a’i cherflunieth, ei hyodledd, a’i philosophi? Y gwledydd mwya’ gwâr y t’w’nodd haul Duw arnynt erioed—pa le y maent? Eu gwareiddiad nis achubodd hwynt, a’u hathrylith nis cadwodd hwynt yn fyw. Dïolch i Dduw am wareiddiad, ond dïolch yn fwy am Gristionogeth.

Am y gweddill o f’anturiaethe y’nhir Ham, onid ydynt i’w cael ar gof a chadw erbyn dydd datguddio?


GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A’I FAB.


Transcriber’s Notes:

Spelling and punctuation have been left as in the original. Some illustrations have been moved slightly from their original positions to keep paragraphs intact.


[The end of I’r Aifft Ac Yn Ol by D. Rhagfyr Jones]